Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Y RHYFEL RHWNG JAPAN A RWSSIA.

News
Cite
Share

Y RHYFEL RHWNG JAPAN A RWSSIA. ENCILIAD BYDDIN Y CADFRIDOG KUROPATKIN. LLWYDDIANT MAWR Y CADLYWYDD OYAMA. Y JAPANIAID YN YMLID Y GELYN. Borelt ddydd Gicener. Rhydd cenadwri swyddogol o Tokio y newydd- Ion, ar ol pedwar diwrnod o ymladd caled yn Liao-yang, nad cedd y frwydr wedi troi allan mewn un modd yn un ammhenderfynol. Yr oedd y Rwssiaid ar y dde wedi rhoddi ffordd. Cafodd yr uchelderau a feddiennid ganddynt eu cym- meryd gan y Japaniaid. Gorfodwyd i'r oil o'r corphluoedd Rwssiaidd i'r dehen o Liao-yang encilios ac yr cedd corphluoedd y (Jadlywydd Oyama yn eu hymlid. I fyny hyd yr adeg y derbyniwyd y genadwri hon yr cedd y sefylifa yn un erchylJ. Yr oedd hanes awyddogol y Rwssiaid yn cario y frwydr i fyny hyd oriau m&n boreu ddoe, a chenadwriaethau blaenorol y Japaniaid hyd no3 Fawrth. Cyttunai yr adroddiadau fod ymosodiadau ffyrnig y Japaniaid wedi cael ei gyfarfod gyda gwrthsafiad yr un mor gyndyn, fel yr oedd yn ammhoasibl dyweyd fod yna faataia yn gorwedd y naill ochr mwy na'r Hall. Darfu i gorphlnoedd y Cadfridog Kuroki, yn ol banes y Rwssiaid, groesi yr afon Taitse dydd Mercber, fel yr oedd yr hanner cyleh, yr hwn a osodai safle y Rwssiaid o gwmpas Liao-yang, yn cael ei wynebu yr adeg hono gan hanner cylch arall, yr hwn a osodai allan ymosodiad y Japaniaid. Gwneid amcangyfrif fod y corphluoedd Rwasiaidd yn ddeuddeg neu dri ar ddeg o adranau. Nid oedd y Cadfridog Sakharofi, modd bynag, yn rhoddi ar ddeall fod sefyllfa y Rwssiaid wedi cael ei gwanychu. Y mae gwefrebau answyddogol o Tokio cid yn unig yn cyhoeddi fod y Rweaiaid wedi cael en gyru yn ol, ond fod Liao-yang ei hua wedi cael ei chymmeryd. Dywed cenadwri o Rufain fod collodion y Rwssiaid yn 15,000, a'r Japaniaid yn 12,000 i fyny hyd boreu ddoe; a disgrifia y Rwssiaid fel wedi colli 35 o gyflegrau trwy iddynt gael eu dietrvwio, a 16 o gyflegrau, 40,000 o reifflau, a 200 o wageni, wedi cael eu cymmeryd.

AIL DDECHREU BRWYDR FFYRNIG.

BRWYDR AM SAITH NIWRNOD YN…

RHEDEGFA I MUKDEN.

KUROPATKIN WEDI CYRHAEDD MUKDEN.

DWY HADLING Y WEDDW.

.. Y BOREU YN EBRILL

YSGOL Y LLAN.

Y CERDDOR.

[No title]

Advertising

Marchnad Yd Liverpool, dydd…

MABCHNADOEDD YD LLOEGB,

MARCHNADOEDD CYMREIG.

Marehaidoodd, a Ffelrisc Anitaillaid.

FFEIB1AU CYMRU,

Advertising