Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
UNDEB YSGOLION SABBOTHOL YR…
Y MAE fy nghyfaill Meurig Ellis, ysgrifenydd Undeb Ysgolion Sabbothol yr Annibynwyr yn cosbarth Treffynnon, yn parhau yn ffyddlawn i anfon telegram, yn 1904, o weith- rediadau y eyfarfod chwarterol, i'r offia l ini, am fod holl y?goliou yr undeb yn disgwyl arno fo a fi am delegram o'r hanes. Wn i ddim beth oedd yr achos fod ei delegram yn rhy hwyr yn dyfod ar hyd y wires yr wythnos ddiweddaf, ond gwell hwyr na hwyrch. UNDEB YSGOLION SABBOTHOL YR ANNIBYN- WYR DOSBARTH TREFFYNNON. Cynnaliwyd y cyfarfod chwarterol yngl £ n a'r uchod yn Ffynnongroew, Ionawr 3ydd, o dan lywyddiaeth Mr. Edward Lewis, Peny- pyllau, yn absennoldeb Mr. Henry Williams, Connah's Quay, o herwydd afiechyd blin, yr hwn sydd wedi ei gaethiwo er's ameer hir, bellach. Hawdd iawn ydoedd gweled fod yr ysgol yn Ffynnongroew wedi bod yn edrych yn mlaen at y diwrnod pwysig hwn gydag aiddgarwch pybyr, o herwydd tystiai y ]lafur a ardclangoswyd yno yn nghwrs y dydd hyn yn amlwg iawn. Canu byw a hwyliog, adroddiadau cywir a phwysleisiol, ac attebion parod a phert. Hen arferiad yr ysgol hon yw fod y blaenoriaid a'r athrawon yn adrodd Salmau a phennodau yn dda i'w ryfeddu. Mae yn rhaid fod y cyfeillion hyn, yn frodyr a chwiorydd, wedi bod yn ddygn gyda'r gwaith o gael y rhanau hyn ar eu (ôf am amser hir, o herwydd nid yn hawdd y cymmer y cof yr argraph a ddymunir wedi yr elo ei feddiannydd i wth o oedran. Well d-one, Ffynnongroew, ie yn wir Ni cheir unrhyw esampl dda yn myned ar goll, y mae yn sicr o fyw yn rhywle; ac Did yw ein ,bu,sine.is nil ofalu am ei chynnyrcb, gadawn rhyngddi hi a'r Meistr, oddi wrth yr hwn y daw pob peth da. Adroddwyd emynau, salmau, a phennodau yn ystod y dydd gan Elizabeth A Jones, John G. Jones, Hannah Griffiths, J. P. Jones, J. Alun Jones, Jennie Williams. Maria Jones, Annie Jones, Eliza- beth William?, Kitty Jones, Herbert Will- iams, Mrs. Williams, Mary Jane Jones, W. Jones, a Mies Roberts, rhai o honynt fwy nag unwaith yn nghwrs y dydd. Holwyd y plant yn hanes Iesu Grist gan Mr Pagh, bachgen ieuangc yn llawn gwaith a bywyd, yn ganmoladwy iawn. Holwyd y dosbarth canol yn Hanes y Barnwyr gan Mr. John Jones, arweinydd y côr, yn hylaw iawn; da iawn, frawd, nid oes dim yn well na newid gwaith. Holwyd yr ysgol yn yr ail bennod o'r Actau, gan Mr. W. Rees Jones, Fflint, yr holwr a'r ysgol yn deall eu gilydd i'r dim; a'r canlyniad oedd, hwyl fawr. Cafwyd anerchiadau gan y llywydd, a. chan Dr. Pan Jones (yr esgob, onid e?j; W. M. James, Bagillt; R. T. Price, Maesglas; W. Williams, Gwe^pyr a'r ysgrifenydd ac yn yr hwyr gan Mr. John Jones, Treffynnon, ar y mater pennodedig, 'Maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.' Wei, hyfryd iawn fydoedd bod yno yn gwrandaw ar y iy brawd yn sicr; yr oedd yr eneiniad yn amlwg ar yr oil a ddywedai; yr oedd 61 meddwl ac ymchwil ar ei ymdriniaeth a'r mater. Dechreuwyd a diweddwyd y gwahanol gyfarfodydd gan Mr. R. T. Price, y llywydd, Mr. John Mills, Dr. Pan Jones, a'r ysgrifen- ydd. Cynnygid gwobrwyon mewn Uyfrau i'r goreuon am yr adroddiad goreu o Hebreaid i. a Salm ci. Rhanwyd y gwobrwyon cyd- rhwng John Alun Jones ac Elizabeth Wiil- iims am y Salm, a J. P. Jones sc Anne Jones ar y bennod. Mr. Richard Williams yn garedig iawn yn rhoddi y gwobrwyon. Cyfarfod y Cynnrych iolivyr, Yr oedd yn bresennol Mr. Edward Lewis, Penypyllau, yn llywyddu: T. P. Jones, W. M. James, a J. Hughes, Bagillt; J. M. Ellis a W. R. Jones, Fflint; John Mills, Connah's Quay John Jones, Treffynnon; R. T, Price, Maesglas; William, Robert, a John Jones, Edward a William Williams; ac amryw athrawon a brodyr o Ffynnongroew, Caer, a 8<eion, yn absecnol. i. Darllenwyd cofnodion pwyllgor Maes- glas, Rhagfyr 4ydd, 1903, yn smha un yr ethclwyd Mr. John Foulkes, Fflint, yn ysgrifenydd, ond nis gallai y brawd, o herwydd amgylchiadau eraill, ymgymmeryd A'r swydd. Addawodd yr ysgrifenydd presennol gymmeryd gofal yr holl waith yngi^n &'r arboliad, ond fod i Mr. J. B. Thomas, Seion, ymgymmeryd a'r rhan arall. Hefyd, yn y pwyllgor, etholwyd Mr. A. T. Evans, Caer, yn arholwr y plant,. Yr oedd yntau yn methu ac yn ei Ie, dewiswyd Mr. Morris, Yfgol y Bwrdd, Treffynnon. Ar ol hyn cadarnhawyd y cofnodion. Wele hwynt yn fyr fel Y safant yn awr 2. Cais ysgol Ffynnongroew am newid dyddiad y cyfarfod chwarterol o Rhagfyr 27ain i Ionawr 3ydd yn cael ei dderbyn. 3. Llythyrau yn erfyn esguaawd am ab- aennoldeb gan Dr. Oliver, Dr. Pan Jones, y Parch. H. Ivor Jones, a Mr. A. T. Evans. 4 Derbyniwyd cyfrifon y trysorydd di- weddar fel rhai cywir ac hefyd, ei ymddi- swyddiad. 5. Swyddogion am 1904:—Mr. Edward! Lewis, llywydd; Mr. J. B. Thomas, ysgrif- enydd; Mr. J. M. Ellis, trefnydd yr arhol- iadau a Mr. R. T. Price, trysorydd. Arholwyr am 1904:—Plant dan 12eg oed, Mr. Morris, Treffynnon, a Mr. W. Rees Jones, Fflint. 0 12eg i 16eg oed, Parch, J. R. Hughes, Soar. 0 16eg i 21ain oed, Parch. T. Jones, Green. 0 21ain i fyny, Parch. W. G. Richards, Llanarmon. Yr arholiad i'w gynnal Mawrth 16eg. 6. Y Gymmanfa Gerddorol i'w chynnal yn Nhreffynnon, Mehefin 8fed. 7. Fod sylw arbenig i gael ei roddi yn Ffynnongroew i'r arferiad o roddi tystys- grifau i'r plant o dan 12eg oed. ii. Y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Nghaer, y Sabbath olaf yn Mawrth. Matcrion, Y pwysigrwydd ar i rieni ddysgu Cymraeg i'w plant,' gan y llywydd. Cymmbwysderau atbraw llwyddiannus,' gan Mr. R T. Price. Yn unol & chais y cyfarfod darparodd Mr. W M. James raddfa. yn dangos y 1;wm a ddiagwylid gan yr ysgolion fely canlyn 61 mewn nifer, a than hyny, 2s :—Peny- pyllau, Ffynnongroew, Caer, Maesg'as. 8s. yn chwarterol. 61, ac o dan 100, 28. 3c.SeIOn, Bagillt, Fflint, Connah's Quay. 9s. yn chwarterol. 100, a thros hyny, 2s. 6?. Treffynnon. 2s. 6c., (Tua 3p. 18s. y flwyddyn t A ydyw yr undeb yn peidio cael ei dorfynyglu gyda graddfa' y costau 1—A.LL.). Fod i'r ysgrifenydd anfon cylchlythyr yn egluro y mater. iv. Yn yr arholiad Heel nesaf disgwylir i'r ysgolion ofalu am dalu cludiad y papyrau yn ol i'r arholwyr; ac hefyd, am bapur ysgrifenu i'r ymgeiswyr. v. Penderfynwyd fod rhyddid i'r ymgeis- wyr yn y tri dosbarth hynaf i atteb yn yr iaith a fynont. vi. Fod y mater o roddi tystysgrifau i'r plant yn cael ei ohirio hyd y pwyllgor yn Chwefror. vii. Casgliad yr ysgolion, 12s. 6c. J. Morris Ellis,
GOFAL AM Y TLODION.
GOFAL AM Y TLODION. Y mae y tlodion gyda chwi bob amser.' Y mae tlodion Treffynnon wedi cael gwledd- oedd y Nadolig, a dechreu y flwyddyn 1904. Cafodd tlodion y tlotty wledd gampus y Nadolig o beef roast round a smash potatoes, a phlwm pwdin, a'r cyfan wedi eu cogioio yn iawn dan arolygiad Mr. Arthur a Mrs. Roberts, y meistr. Ac ar ol cinio, cafodd yr hen ddyniou ddigon o baco, a'r rhai oedd yn dymuno yn cael glasied o ddïod, a'r hen wragedd eu cwpaned te iawn, a'r plant oranges, afalau, sweets, a Christmas cardst &c. Ac ar ol y cinio, cafwyd cyngherdd dan gamp gan ewyllyswyr da y tlodion, a phawb o'r officials yn gwneyd eu goreu i loni a sirioli yr inmate?. Y dining room fawr wedi ei haddarno yn brydferth gyda dail bythol- wyrdd, blodau, a mottos Nadolig llawen,' Blwyddyn newydd dda," Croesaw," Ysbryd yw Duw,' 'Goleuni yw Duw,' 'Duw, cariad ywteetyn a phenau pregeth y Parch. W. Foulkes yn Rehoboth. Cafwyd social evening yn y tt, y gwarcheidwaid a'r officials wedi dyfod mewn ysbryd ac ymddygiad gryn dipyn o raddau i lawr, a'r tlodion yn y ty wedi myned gryn dipyn i fyny-y gwahan- iaeth sefyllfaoedd am ychydig oriau wedi eu lefelu gryn lawer o raddau. Da iawn
CAERGYBI.
CAERGYBI. Cyfarfoi Blynyddol London Road.-Cynnal. iwyd y cyfarfod hwn elent nos Lun a dydd Mawrth diweddaf, pryd y gwasanaethwyd gan y Parcbn. John Roberts, Rhyl, a Francis Jones, Abergele. Uafwyd cyfarfnd Hioaog a rhagorol. a rhai odfeuon ya arbenlg ag- y temlid eu bod yn rhai nerthol. I'
}■D I N B Y C H.
}■ D I N B Y C H. Cynghrair yr Egltcysi Rhyddton.- Nid yw y cyngbrair yn awr yn cynnal oyfarfodydd ar nos Fercher yn Neuadd y Sir. Traddodwyd pregeth olaf y gyfrea gan lywydd y cynghrair (Mr. Boaz Joce.), y n08 Fercher diweddaf o'r hen flwyddyn, ar Y ffigysbren ddiflFrwyth ao yr oedd ei sylw- adau yn dra chyinmhwygiadol i'r tymtnor a'r amgylchiadao. Bwriedir ail -ddechreu pregethu wrth y Groes mor gynted ag y daw yr hia yn ddigon rbywiog i'w gwneyd yn ddiogel cynnal moddion yn yr awyr agored. Yr Wythnos Wedd'iau.—Ar hyd yr wythnoa ddiweddaf, ye hall addoldai Ymneillduol y dref, oynnaliwyd oyfarfodydd gweddio o dan nawdd y Cynghrair Efengylaidd. Y oyfaifodydd hyn oeddynt yn dra lliosog, a gellir disgwyl ffrwyth lawer arcynt. Seiat Gyjfrtdin.— O dan nawdd Cynghrair yr EglwyeiRbyddioQ nps.Lun diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod eglwvsig undebol, neu gyfeillach gyff- reditsol, I yn y capel Saesnig, yn Vale St. Yn absennoldeb y Parch. James Charles (yr hwn oedd wedi eialw ar achlysor arbenig i Ruthyn) lIywyddwydgan Mr. Harrison Jones. Agor- wyd y mater gosodedjg, cef r Rhwymedigaeth y Saint yngl^n|fig Achubiaeth y Byd,' yn eflFeith- iol a gwresog gan y Parch. Hugh Pugh, ac yna siaradwyd arno gan amryw frodyr yn Gymraeg a Saesneg. Daethai cynnulliad lliosog ynghyd, a chafwyd cyfarfod ag y gellir disgwyl llawer o les oddi wrtho. Gwnaed casgliad at dreulian y Cynghrair ar y terfyn. Cynnelir y math hwn o gyfarfodydd bob tri mis.
LLYS YR YNADON BWRDEISIOL.'
LLYS YR YNADON BWRDEISIOL.' YN y llys hwn, dydd Gwener, ger bron y Maer (Dr. D. Lloyd), a'r Mri. Harrison Jones, Hum- phreys Reberts, Robert Owen, John Davies, a James Hughes. y Talbot Hotel. Derbyniwyd adrodiad oddi wrth y pwyllgor i ba un yr oedd y plauiau i ail adeiladu y Talbot Hotel wedi cael eu eyflwyno, yn hysbysu eu bod hwy yn cyttuno ar y cyfnewidiadau, ar y deall- twriaeth fod un neu ddau o awgrymiadau oedd- ynt hwy wedi eu gwneyd yn cael en cario allan. Cyttunwyd ar y cwra hwn, a chafodd y planiau eu mabwysiadu. Achos o FeddwJod ac Erlyn Tafarmb>r. Y Rhingyll Harvey a wysiodd Richard Thomas Roberts, am fod yn feddw mewn trwyddedig, yr Hen Butcher's Arms. Cyhudd- odd y person, hefyd, oedd yn dal y drwydded o ganiatau meddwdod. CymmeTwyd achos Roberta i ddechren. Gwrthwynebodd Mr. Gamlin, mewn moild ffurfiol, i un o'r ynadon—Mr. Harrison Joneci- eistedd ar y faingc, am y rheswm ei fod mewa ach(sion o'r fath yn cael ei symbylu gan syniad. Dadganodd :Mr. Harrison Jones fod ganddo hawl i eistedd yn yr acbosion hyny. Nid oedd ganddo unrhyw fudd mewn tafarndai, ond teimlai yn se'og dros sobrwydd a dirwest. Bwriadai eiatedd yno, ac yr oedd ganddo berffaith hawl i wneyd hyny. Y Maer a ddywedodd nad oedd yn gweled unrhyw reswm dros sylwadatt Mr. Gamlin. Wedi hyny rhoddodd y Rhingyll Harvey ei dystioiaeth. Ar ol gwnandawiad llawn, dirwy- wyd Roberts i 5a. a'r costau. Dirwywyd y tafarnwr (Mr. Freeman) i 2p. a'r costau am ganiatau meddwdod.
LLANSANNAN.
LLANSANNAN. Cinia'ti'r Biigziliaid.—#* 1 y mae yn hysbys i nrdalwyr Llanaannan, fod H. E. Kearley, Ysw., A. 8., o'il hynawsedd a'i haelioni, yn arfer a rboi gwledd flynyddol i fugeiliaid a mynychwyr Mynydd Hiraethog, ar yr hwn fynydd ytntae yn rhentu tir i saethu ac ymbleseru. Ac y mae, hefyd, wedi adeiladu haf-dy bardd yno. Now Iau diweddaf ydoedd yr adeg bennododig i gynnal y wledd eleni, yr bon a gynnaliwyd yc y Red Lion Hotel, Llansannan. Daeth nifer liosog ynghyd i adfywio eu cyrph ac i loni eu hysbrydoedd-a chaed hwyrddydd bapus. Cymmerwyd y gadair gan Mr. Evan Roberts, Plas Isaf. Ar gynnygiad Mr. John Evans, Penrhwylfa, a chefnogiad Mrl Edward Davies, cigydd, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch cynnes i Mr. Kearley am ei hynawsedd a'i ewyllys da, a dymunwyd ar iddo gael digon o ieir a cheiliogod y mynydd i annelu atynt ae, hefyd, i Mrs. Jones am ddarparu gwledd mor ragorol-gwledd nad arbedasai unrhyw draul na thrafferth i'w gwneyd yn deilwng wledd tywysog; a sicr ddigon ydyw i bawb gael boddlonrwydd psrffaith a diau mai dymuoiad pawb ydyw mai pell fyddo yr amser i ddim ddigwydd ar y naill ochr r.,eiir llall fel ag i oeri neu bellhau y cydgordiad hapus hwn,
BWRDD Y GWARCHEIDWAID.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID. DYDD Ian, yr 8fed cyfisol, cynnaliwyd oyfarfod pythefnosol y bwrdd uchod, mewn ystafell yn y Tlotty. Yr oedd yn bresennol y Paröh. Frebendarl R. J. Lloyd, rheithor Troedyraur (cideirydd), ynghyd a'r aelodau canlynolMrs. Evans, Esgalr, Penhryn; y Parch. T. A. Thomas, Llandyssul; &'r Mr). J, Barrett, Orcssvale, Alltywalis; D. M. Davies, Olnnfelin E. Thomas, Ooed Llwyd; T. Thomas, Penwern; W. Jones. Pencraigwen B. Davies, Blaenythan; T. L, Thoiras, Gjfe'le; D. C. Jones, Pantycreuddyn; G. Davies, Alltycordde; J. H. Evans, Pen'ralltfaohuog; J. Griffiths, Gwndwn; J. Jones, Bwlcholawdd; J. Jcnea, Boncath; J. Williams, Blaenpibydd; D. Bowen, Troedyrhiw; W. Marks, Penyrallt; J. Rees, Plas- newydd; E. Davies, Fforest; D. Jones, Spring Gardens, Fellndre; H. Davies, Sychnant; J. C. Jones, caeddyg anifeiliftid, Castellnewydd Emlyn; D. Lewis, Frondeg; T. Davies, Cilweunydd fawr; D. Daviea, Pontgareg; a Mr. W. E. George, yr ysgrif- enydd. Adroddiadau y Rheidwcinyddion.-Darllenodd y Mri. J. Reea a .J. Thomas, y rheidweinyddion, eu rhestrau cynnorthwyol. Yr oedd y blaenaf wedi talu ya y pythefnos 1276 o dlodion, a'r olaf wedi talu i 258 yn yr un amser. Tlodion yn y Tlotty.— Yr oedd 13 o dlodion yn y Ty yn yr wythnos gyntaf o'r pythefnos, a 12 yn yr ail wythnos, ar gyfer 13 a 12 yr un amser ddeuddeng mis ynol; o'r cyfryw yr oedd dau yn egwan eu meddyl- iau. Yr oedd dau o blant yn mynychu ysgol ddyddiol y dref. Crwydriaid.—Yr oedd 115 o grwydriaid wedi bodyn y Tlotty am y pythefnos, ar gyfer 82 yn yr un amser y flwyddyn ddiweddaf. Yn Haw y trysorydd.—Yr oedd yn Haw y trysorydd; sef, goruohwyliwr y National Provincial Bank of England, Limited, y owm o 567p. lis. 4c. Bontddigtt Haelionus.—Anthegodd Mrs. Lloyd, y National and Provincial Bank of England, Limited, neisladau llogell, scarfs, a shawls, ynghyd â, ftock a. socks i'r plenty n ftydd yno. Oynnygiodd y Parch. R. J. Lloyd ddlolohgarwcli i Mrs. Lloyd am el charedigrwydd. Cafodd ei ciiio gan Mr. T. Davies, Cilweunydd fawr, a cbyttonwyd yn nnfrydol. Cydymdeircdad ar Rheidwcinydd.—Cynnyglodd Mr. Thomas, Felin Owm, gydymdeimlad llwyraf y bwrdd & Mr. Rees yn ei alar ar ol colli ei anwyl fam. Cafodd ei ellSo, a chyttunwyd yn unfrydol mewn distawrwydd. Haelioni y Cadeirydd.—Ar ran y tlodion ag aydd yn y Tlotty oynnygiodd y meistr en diolchgarwch gwres- ocaf i'r Parch. Prebendari R. J. Lloyd am y ciniaw Nadolig rhageiol a gawsant ganddo, gan ddymuno iddo hir oes yn llawn o bob daioni.
TANYGROES, CEREDIGION.
TANYGROES, CEREDIGION. Y nos Sabbath olaf yn yr hen flwyddyn cafwyd preg- eth angladdol gan y Parch. John Daviea, Tanygroes, i ddau o 4 golofnau'yr achos ya y He; sef, y Cadben Thomas, Talearn, a Mr. Owen Davies, Dolffynnon. Nid oedd gwahana ar y ddau hen frawd yn eu bywyd; ac nis gallodd sngau eu gwahanu otd ychydjg arnserj ond yr oedd dull ea hymadawiad yn dra gwahanol. Cafodd Owen Davies ei symmud yn sydyn, heb brofi dim o nychdcd henaint, be 1 bob ymddsngoaiad heb brofi chwerwder marwolaeth; ond bu y Cadben, yn oedi 'n nychlyd1 ar lan yr hen afon, ar ddiwedd taith o dros bedwar ugain a naw mlynedd. Cafodd yntau iechyd da hyd y dlwedd. Ni bu ya cadw ei wely ond r am wythnoa ond cyfyngwyd ef i'w dy am flwyddyn a.hanuer; a gwelwyd ef ugeiniau o weithiaa cyn hyny yn dringo y rhiw tna'r c»pel, a'i gam heb fod "gos oy- hyd a'i droed. Er fod Owen Davies tua phymtheng mlynedd yn ieuengach, efe a aeth dfoaodd gyntaf; a pban glywodd yr hea wr ei fod wedi marw, torodd allan i wylo, a dywododd 'Rw' 1 am fyn'd adre' 'nawr;' ac nid hir y bu cyn caei el ddymuniad. Yr oedd y ddan yn setyll yn mron ar eu.penau eu hunain yn y dyddiau yma—crefydd yn benaf peth ganddynt, a than y dlwygiaid yn llosgi yn gryf yn eu calonaa hyd y diwedd, a hwnw yn ihoddi gwres a bywyd yn mhob cyfarfod y cymmereht ran ynddo. Y mae tylwyth Owen Daviea wedi chwareu rhan bWYltg gyda'r achos yn Nhanygroes. Yr oedd yn fab i'r Parch. Daniel Davies, ac ya frawd i'r Parch. David Davies. Yr oedd ei ddefnyddioldeb gyda chrefydd yn eithrladol. Cym- merai ran flaenllaw gyda phob cangen o'r gwaith, a byddai yn disgleirio ynddynt oil. Yr oedd wedi gweled llawer yn ei ddydd, ac yn medrn disgrifio ya ardderchog. Teimlais ddyddordeb mawr i'w gly wed ef a'r Cadben yn myned drou hanes y dlwygiad; ac nid aughofiaf byth ei ddisgrifiad o'r noson y collwyd y Royal Gharkr. Am y Cadben Thomas nid dyn cyffredin mo^hono mewn dim. Clywais gadben arall, oedd wedi bod yn moiio dano pan yn ieuangc, yn dyweyd fod y gym manfa wedi cadw y llong yn y porthladd am ddyddiau lawer gwaith, ond na chadwodd y &wynt mo houi erioed. Y mae yn eithaf tebyg fod el brofiad crefydd- cl o ran ei helaethrwydd, el ddyfnder, a'i amrywiaeth, yn gyfryw na feddai neb yn Nghymtu ei gyffelyb. Bu yn gwrandaw cewri y palpud Cymreig ar eu goreo, a gwnaethant argraph annileadwy ar ei feddwl. Nid cedd yn bossibl el wrandaw yn cymmeryd rhan mewn cyfarfodydd heb feddwl am y doniau mawr a ddefn- yddlodd yr Ysbryd Glân. 1 fwrw allan gythreuliaid yn Nghymru yn y ganrif ddiweddaf. Cefais hamdden lawer prydnawn 1 wiandaw arno yn dyweyd ei hanes, ac yntau yu y cywair piiodol yn darltmio, a'r holl shades yn berffaith am ddarlun byw. Yr wyf yn credu pe buasai y darlunlau hyn yn cael eu hargraphu y buasent yn ffuriio un o'r pennodau mwyaf cyfoethog a dyddorol yn llenyddiaeth grefyddol ein gwlad. Y ch- ydig cyn ei fatw gofynodd y Paich, J, Davies iddo beth oedd el broflad y pryd hwnw ? Attebodd yntau, Y mae y cyfammod yn dal.' Cafwyd piegeth bwrpasoS iawn gan Mr. Davies oddi ar y geirlau 'A mi a ogoneddwyd ynddynt.' CUnodd cor y cjpel 'Enaid cu,'&c., a'r ddwy anthem 'Fy nyddiau a ddarfuant fel mwg,'a 'Mae ngbyfeil'- ion adre 'n myned;' a chyn gweddio canodd Miss Wil- liams, Ehydygaer, emya tlws Ieuan Gwyllt am y 4 Nefoedd, a'r gynnuileidfa ya ail ganu y IlInell olaf o bob pennill gydag elfeithiau bendithiol. i Bellach, yr ydym yn gorfod sylweddoli fod y ddau hen frawd wedi ein gadaei — eu 'hysbrydoedd wedi myned at Ddllw. yr hwn a'u rhoes,' a'u cyrph yn gor- wedd yc y fynwent ger Haw. Dymunwn heddweh i'w llwch hyd foreu yr adgyfodiad.
CYKGHORAU SIROL CYMRU A'R…
CYKGHORAU SIROL CYMRU A'R GYFRAiTH ADDYSG. MEWN cyfarfod a gynnaliwyd yn Llundain, prydnwaa dydd Gweaer, cyngborodd y Pwyllgor Y mgynghoriadol Kadicalaidd Cynghoran Birol (Jymru yn unfrydol ar y cynghorau oedd yn gwrthwynebu gweio yddu y Gyfraith Addysg ya ei hystyr ljthyrenol i gadw ya anbyblyg at eu sefylt. fa bresenrioi, ac i ddisgwyl unrhyw gam newydd a eliid ei gymmeryd gan y Bwrdd Addysg. Ystyrid na feiddiai y Bwrdd Addysg fyned yn miaen trwy godi teyrn- w^s yn erbyn yr oil o Gymru a phe byddai 1 un cynghor gael ei nodi allan i'r amcan hwnw, fod Cynghorau S'rol Cymru yn cael ea galw i sefyJl yn ffyetrilawo, a chynaorth wyo y cyfrysr gynghor i wrthsefyll nDrbyw gais am dayra-wta. Pasiwyd penderfyniad, befyd, yn galw ar yr aelodau seneddol i roddi cefnogaeth unol yn Nb^ y Cyffredin i unrhyw gynnrychioliad a wneid iddynt hwy gan y pwyllgor.
[No title]
Dywedir fod Mr. Charles Green, yr hwn a fu farw y dydd o'r blaen yn Brighton, yn ei 110 flwydd o'i oedran;
AMSER GOJ.EU LAMPAU.
AMSER GOJ.EU LAMPAU. Ionawr 17eg hyd y 23ain. Prydllawn. 17. Sal 5 19 18. Llun 5-20 19 Mawrth £ 22 20. Msrchsr ••• ••• SSl.Ita 5.26 ■ ? 22. Gwener, 5 28 23. Sadwrn 5.30
Advertising
Self-praise is no R coriinieiidiitioii. T.n" ie" rftoommend Martin's OlMOLftSKEL are effective. All Jn^^iPILllS Slenf^sfJOd.for post free MAETIN, Chemist,'Southampton,
YMOFYNIAD.
YMOFYNIAD. FOSEDDIGIOS, Gwerthodd. prydydd ei farddotÚetn i argrapbydcl, yr hwn a'i cyhoeddodd ya ltyfr .tua'r flwyddyn 1834. Drachefn, gwerthwycl yr bawl g&a jrr a?graphyd<-J cyntai 1 un arall, yr hwn a ddaeth fig ail arSia^hUa allan yn y flwyddyn 1872. Y mae hwn yn awr allan & argraph. Bu yr awdwr farw yn y flwyddyn 1840. A oes rhaid talu am hawl i'r argraphydd diweddafya awr cyn y gellir dwyn allan argraphiad araH ? Dy- wedir wrthyf nas gall hawlio; am fod droa 45aln d flynyddoedd odd! ar pan fu fanv yr awdwr. Carwn gael eich barn; ac cs yw hj?n yn gywlr, beth sydd yn angenrheidiol 1 mi ei wneyd er stcrhan yr hawlfraint cyn y bydd yn ddiogel i ml fyned yn mlaen i argraphu y gwaith etto? Yr wyf yn un a ddisgynyddion y bardd (Daniel Ddu o Geredigion), ac yn teiinlo na ddylai ei waith gael myned i ebargofhnt. Ydwyf, &c., MOIJFVDD. ATTNB. Y mae gan awdwr llyfr hawl gyfreithiol yn ei lyfr, o dan y Copyright Act, am 12ain o flynyddoedd, mu am ei oes, a saith mlynedd ar ol hyny, pa tin by nag fyddo yr hwyaf o'r ddan dymmor. Gall werthn ei bawl i unrhyw berson arall. Yn yr achos a nodwyd uchod bu farw yr awdwr yn y flwyddyn 1846; a phe buasai y copyright yn deobreu y pryd hwnw, byddat wedi gorphen er y flwyddyn 1888.
YMDDISWYDDIAD Y DUC.
YMDDISWYDDIAD Y DUC. YN ystod y misoedd diweddaf y 11118 g ihebiaeth bwystgweoi bed yn caei ei chado yn m'aen rhwvg y Due o Ddyfceint a Mr. Chamberlain o betthvnas i ddyfodol Cymdeithas Ganolog yr Undebwyr; ac mewn canlyniad i hyny bydd i gyfajfod o'r cotph hWTI'If, neu ihyw gorph a all o gynnrychiolwyr yr Und^bwyr,gael ei gynnal mor fuan ag y bydd yn bos&ib! ar ol agoriad y senedd. Cafodd yr ofcebiaeth ti deehreu yn Hydref, gas y Due o Ddylneint, yr hwn a gyf eiriodd at anh-.wEdemuet sefyllfa fel llywydd cynideitbas oedd yn trvfnu fcryso-foydd—ac yr oedd yn gyfrifol am rai o honynt yn beisuMt —eymdeith^Rau lieot, ac yr oeoul yn cu mysg rai wedi pas o penderfyciadau yn ffafr dlwyg- iad cyllidol, yr hyn yr oedd efe (y due) yn ei wrthwynebu. Yr oedd efe yn meddwi, gan hyny, ei bod yn ammhossibl, gyda mantais, o dan yr arngylch adau presennol, i gadw i fyuy Gymdeithas yr Undebwyr llhyddfrydlg. Y mae attebiad Mr. Chamberlain yn Yn bur faith. Amlyga ei eyndod yu ngwyneb jawa grymiad y due, a chyfeiria fod y cymdeithasau lleol wedi bod yn ihydd bob amser i wneyd eu penderfyniadau y tu allan i raglen union- gyrchol y blaid, a cbyfeitia at 'esampl ddnvg Cynghrair yr Y mborth Rhydd, o ba un yr yd- ych chwithau, hetyd, yn llywydd,' ac awgrymi fod cytarfod o'r gymdeithas yn cael ei alw i bendeifynu y naill ffordd neu'r llall beth oer'd- ynt i'w wneyd. Credai ef fod mwynfrif mawr o aelodau cyffredin yn mysg yr Undebwyr gydag ef Os prolid fel arall bycid i iddo ef a'i gyfeillion ymneillduo. Carlwyd yr ohebiaeth yn mlaen ynmbellacb, a chyfeirit Mr. Chamberliin mewn ilythyr ar. all at y sefyllla newydd a dyrys, nas geilid ei dal i fyuy,' a grëwyd trwy weithredtad y Due yn yr elholiadau achlysurol gymmerodd le yn Llundain. Cynnaliwyd cynnadledd rhwrcg Mr. Powell Williamp, Arglwydd James o ITenffordd, Argl- wydd Selborne, a'r Due o Ddyfneint; ond ni lwyddwyd i ddyfod allan o'r anhawader. Ar ol i'r Due ysgrifenu llythyr maith, dydd- iedig Ionawr 2tl, awgrymodd Mr. Chamberlain yn ei attebiad am Ionawr 4ydd ei fwriad o alw cyfarfod cyffredinol ar ddyddiad buan, i ystyr. ied y sefyllfa, ac i benderfynu pa gwrs i'w gymmeryd.
DYDD MERCHER
DYDD MERCHER diweddaf cafodd tlodion y dref eu diwallu a'u llawenhau gyda chinio campus o beef, mutton, tatw, carrots, plwm pwdin, te, oranges, afalau, baco, &c., yn yr Assembly Hall Yr oedd o ddau i dri chant wedi ymgasglu ynghyd, yn llin ac yn drefnus, rhai o honynt, mi goeliaf, heb gael fawr o waranaeth dwfr a sebon er's blwyddyn I Wedi clirio y byrddau cawsant hwythau gyngherdd ad- lonol gan gantorion caredig y dref, a Dr. J. Owen Jones yn IIywyddu yr hwn, fel arfer, a wnaeth ei waith yn iawn. Yr oedd yn taraw i fy meddwl i fod y doctor wedi cael ei osod yn gadeirydd rhag otn y buasai rhywun yn myned yn s&l ar ol bwyta gormod o beef a phlwm pwdin; ond cblywais i neb yn tuchan; ac felly, ni chafodd y doctor ei drwblo. Yr oedd lliaws o'r trefwyr, yn feibion a merched, a gweinidogion, yn gweinyddu nei yn chwys, yn tori beef, a rhanu y pwdin, a gweinyddu wrth y byrdd- au. Ond gan nad wyf yn cofio yr holl enwau, nid teg fyddai enwi a seboni rhai, ac an- wybyddu y lleill, yr oedd gormod o hyny yn cael ei wneyd yn yr Hall-rhai yn cael eu hiro yn lied dda a chlod, a'r lleill ddim sdn am danynt. Yr eiddoch yn gywir, ARTHUR LLWYD.
LLANARMON-YNIAL.
LLANARMON-YNIAL. YMOSODIAD AR WRAIG. ACHOS GWARTHUS. YN heddlys Rhnthyn, dydd Vim, bu yr ynadon yn gwrandaw tin o'r acho^ion mwyaf gwarthna a ddygwyd erioed i sylw y llys. Cyhuddwyd tri dyn ieuangc, o'r enwau Ish- icael W illiamf, Evan a Robert Peters-yr oil yn byw yn nghymmydogaeth Llanarmon —o ymos od ya anweddus a threisio gwraig briod o'r enw Hannah Jones. Ymddangosai Mr. A. O. Evans i erlyn ar ran yr heddgeidwaid; t ayr araddiffynid gan Mr. J. B. Marston, Wydlgrug. Yn ol tystidaeth Hannah Jonea fe'i t -eisiwyd hi gan y carcharo; i >n, y rhal, hefyd, a'i fcroch- asant hi mewn ffrwd, ac a ddiosgasant ei dillad oddi am dani, gan ei gadael mewn cyflwr o noethni mewn ysgubor hyd y boren diiynol. Tystiodd Joha Jones, bachgen 17ey, mlwydd oed, iddo vreied dan o'r cucharorion yn trpieto y wraig, yn diosg ei ditlad, ac yo llosgi Than o'i chf rph gyda matches. Catodd yr achos el ohirio hyd dydd Sadwrn, pan y gwrandewir tystlolaethau paliach Gwrthodwyd maichian i'r carcharorion, a syuimadwyd hwyi'r carchar.
OYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANDYSSUL.
OYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANDYSSUL. Ar yr un dydd, mewn ystafell yn y Tlotty, cynnal- iwyd cyfarfod misol y cynghor hwn. Yr oedd yn bresennol Mr. G. Davies, Alltycordde (cadeirydd); Mr. B. Daviea, Blaenythan (la gadeirydd); ynghyd &'r aelodan canlynol:—Mrs. Evans, Esgair, Penbryn; y Parchn. Prebendari R. J. Lloyd, Troed- yr-aar, a J. O. Thomas, Llandyasnl; a'r Mri T. L. Thomas, Gjfello; D. C. Jones, Pantycreuddyn; D. Thomas, Felin cwm; J. EL Evans, Pen'ralltfachnog; J. Rees, Plasnewydd; E. Davies, Fforest; J. Griffiths, Gwndwn; J. Jones. Bwlohclawdd; T. Evans ae E. Thomas, goruchwylwyr y ffyrdd; a J. Bowen, arolygwr iechydol. Adeiladu Annedd dai yn LlandyssuL—Oynnygiodd Mr. J. H. Evans, Pen'ralltfachnog, fod y rheolau aefydlog i gael eu gadael o'r neilldn, er i'r Parch, T. A. Thomas gael cyflensdrft i roddi ei gynnyg o flaen y cynghor. Cafodd el eilio gan Mr. D. Tfcoifias, Felin cwm. a chyttunwyd. Siaradodd Mr. Thomas yn faith am annhegwch y penderfyniad a basiwyd yn ei absennoldeb; sef, nad oedd aunedd-dai i gael eu hadeiladu mewn lleoedd poblogaldd heb fod yno ddwfr at wassnaeth teuluaidd i'w gftel o fewn pedw&r ugain llath. Heb law fod y penderfyniad yn jmnheg tuag at drigolioii Llahdyssttlj yr oedd, hefyd, yn ihwystr i gynnydd y lie, ac feliy yr oedd ef yn cyniiyg fod y penderfyniad yn cael ei dynu yn ol, Cafodd el eilio gan Mr. Davies, Blaenythan, a chyt- tunwyd yn unfrydol. Felly, yn y dyfodol, bydd i bob aches gael ei bender- fynn ar ei ben ei bun gan yr arolygwr a'r swyddog iechydol, Dwfr at Wasanaeth Teuluaidd yn LlandyssuL—■ Darlienwyd llythyr oddi wrth Mr. C. H. Ll. Fitz- williama, Cilgwyn, mewn cyssylltiad & chyflenwi y dref & dwfr. Oynnygiodd y Parcb. R J. Lloyd i gyttuno & dyn cyfarwydd am wneyd ymchwiUad i sefyllfa ddyfrbaol Llandyssul, ac i wneyd adroddlad i'r cyogbor ar yr achos. Cafodd ei eilio gan Mr. £ Evans, Pen'ralltfachnog, a cbyttunwyd yn unfrydol. Sefyllfa Adfydus Trel. LlandyssuL—Darllenwyd llythyr maith oddi wrth Fwrdd y Llywodraeth Leol mewnayesylitialfiaefyllfawaelydref. Copi ydoedd hwn o'r llythyr ag oeddynt wedi ei dderbyn oddi wrth y Pafch. J. R Jones, y ficer. Grymfa Rhydnis.—Darllenwyd llythyr oddi wrth Gynghor DoBbarth Lianbedr, mewn cysaylltlad & gwneyd yr adgyweimdau angenrheidiol yn hytraoh nag ymgyfreithio. Penderfynwyd i fod yn rhanol yn y draul. Arolygu»' Iechydol.-Darllenodd Mr. J. Bowen el akoddiai. Yr oedd wedi bod yn ymweled & Llsn- dyssul droion, ac yr oedd yno un achos o'r typhoid fever. Yr oedd wedi bo 1 yn ymweled & St. David's, POIltshân, Pmigwyn, ac amryw o leeedd ersill. Cwynai am fod gwatcheidwaid Llandyesul yn ymadael cyn ei fod yn oarllen ei adroddiad, gan fod pethan pwysig eisieu eu penderfynu. GOHEBYDD.
Advertising
LLIW GlJAS BSOKITT, YMAE nerth mawr a uatur tra rhagor-1 LLSW GLAS KKGillTT wedi alorfeRrt idds fa Sina d hol t, it),, f w hoU tvS 1 OYDWBITHfiBDIiD iKAETHTDBOL. Y MAE CYMDEiTMAS FFERMWYR SIR LINCOLN (Sefydlwyd 1868), yn Glwb, a chyfuna ei aoladau i brynu, er rhanu yn u myeg eu hunain, WRTEtTHIAU CELFYDDYDOL (Artificial Hanures), am brisiau oyfanwerthol, ac anlonir hwy allan o'r Ystordy agos'af, y cludiad w :idi ei dalu, mown un rhyw orsaf ffordd haiarn yn Lloegr neu Gymru. Dadansoddir yr holl wrteithiaii yn barhaus yn rt)a.d i'r aelodau gttn Ddadansoddwr y Gymdeithas Amaethyddol Freiniol. Dylai y rhai sydd yn bwriadu dyfod yn aelodau ymunoyn ddioed. Am delerau Aelodaefch, Prisiau, &c., ymofyner fig y.^rifenydd y Gymdeithas, It W. Millington, Sleaf or d, Lines. J nr' Gel'ir cael y FANER g&n y rhai canlynol :— Yn LIVERPOOL. Messrs. W. H. Smith & Son, Cl, vale Street. Mr. Hebo EL Chambers, Newsagent, 3) Hall h.ue Mr. T. O. Jones, 22, Woodhouae Street, Walton Road. Mr. E. O. Edwards, Bookseller 1243, Netheriieid Road North. Mrs. Evans, 67, Upper Warwick Street. Mr. Quick, Newsagent, 34, Eccleatou Street, Prescot. Mr. Morgan Jones, Bookseller, 812, Borough Boad Mr. H. Evans, Bookseller 444, Stanley Road, Kirkdale. BIRKENHEAD. Mrs. Evans, 62, Exmouth street. Mr. Swift, Newsagent. CAERLLEON. Mr. W. 0 Thomas, St, Anne Street. LLUNDAIN. Mr. W. H. Roberts, 10, Cecil Court. Charing Cross Road, London, W.C. Mr. Isaac Phillips, 10, Walba Grov J Fulham. MANCHESTER. Mr. John Edwards, 39, Rial Street, Hulme. I DEHEUDIR AFFRICA. Mr. Robert Roberts, M'enor Houae, Riebiik I Square, Cape Town. ¡ Argraphwya a Chyhoeddwyd gan IOJE FAB yn eu Hargraphdy yn Stryt y Oapel, Dinbych, i djdd Saawm, Ionawr 16og, 1904,