Hide Articles List

8 articles on this Page

C CAROHARORION 0 FLAEN YR…

News
Cite
Share

C CAROHARORION 0 FLAEN YR YNADON DYDD IAU. Bu y llys yn eistedd trwy y dydd dydd lau, i wrandaw tystiolaettaau tyation dros yr erlyn. iad. Yr oedd y llys yn orlawn. Moses Roberts, ffermwr, Talycafn, a ddywed- odd iddo brynu ei fferm. ac iddo ei thir-wystlo am yr arian pwrcas i'r Uchgadben Ashley. Nid oedd yn wir i Mr. David Jones roddi ben- thyg 2,700p. iddo ef allan o yst&d Ty'ngwern. Nid oedd y tyst yn nyled Mr. Jones am arian benthyg, nac am ej wasanaeth fel cyfreithiwr. William Jones, Glan y Gors, Llangwyllog, Moa, a dystiodd iddo gael benthyg 320p. oddi with ymddiriedolwyr yr ystad, ac yr oedd arno 70s. yn awr o'r arian hyny. Pedair blynedd yrt ol talodd 250p., ac yr oedd ganddo dderbyn- eb oddi wrth ffirm y diffynydd. Nid oedd wedi tala 11 og am y gweddill o 70p. W. J. Williams, dilledydd, Regent House, Llanrwst, a ddywedodd iddo brynu yn 1898 gan ymddiriedolwyr yr ystid y ty a'r siop yn LJan- rwst a. adnabyddid yr adeg hono wrth yr enw Stanley Housa. Pan arwyddwyd y cyttundeb talodd 10 y cant ar y pris pwrcas o I,C85p. Cwblhawyd y pwrcas ar yr 2ii o Dachwedd, 1898, a chafodd y ewrn o SOOp. ti adael ar dir- wysil o 4.11. y cant. Talwyd hyn ymaith yn Hydref, 1902. Y ffirm oedd wedi gweithredu hob amser fel cyfreifihwyr iddo ef Nid oedd y tyst wedi talu unrhyw log ar y rhan o arian pwrcas oedd wedi ei dalu ond m thalwyd peth o'r Hog am yr SOOp, Yr oedd hyny yn cael ei adael, er cyfarfod a'r hyn oedd Mr. Jones yn ei ddyied ef. Yr oedd efe yn nyled y fiirm am eu gwasanaeth fel cyfreithwyr, ond yr oedd Mr. Jones yn ei ddyled yntau am nwyddau a gvflenwydi &c. Nid oedd mynegiad wedi cael eiddarparui ddangos pa fodd yr oeddynt yn eefyil Maurice Griffith, Llys Ifor, Penmachno, a roddodd dystiolaeth i'r perwyl iddo brynu yr eiddo oedd yn ei ddal, ond fod ganddo dir-wyetl am 500p, arno. Talorid 50p. ar gyfrif y tir-wyeti yn Mawrth 13eg, 1900, i'r ffirm. Nid oedd yn cael ei wasgu o gwbl i dalu, ond cyttunodd Mr. Jones, ar ei gais ef, i dderbyn yr arianyn ol yn gyfrandd&.iiadau. David Jones, Cae Ceiliog, Llanrwst, a ddy- wedodd mai efe oedd perchenog ei fferm, ond fod ganddo dir-wystl o 500p. i ystad Ty'ngwern. Yr oedd wedi talu llog yr hanner blwyddyn diweddar ar ddwywaith. Yr oedd Mr. David Jones wedi bod yn garedig iawn wrtho. Robert Williams, ffenmvr, Pentre mawr, Capel Garmon, a ddywedodd iddo ef brynu ei fferm, a thalu am dani gydag echwyn o 800p. at dir-wystl o ystad Ty'ngwern. Yr oeid yr oil o'r arian, modd bynasf, wedi cael eu talu yn 01. TalwJd yr oil yn Medi, 1902, trwy iddo gael arian o le arall. Yr oedd Mr. Jones am icido dalu yr arian, am fod Mrs. Hughes yn sàl, a bod ganddo eisieu trefnu ei hamgylcbiadau. Cafwyd yr arian i dalu y tir-wysti o Goleg Annibynol Bala-Bangor, y rhai oedd yn cadw y gweithredoedd. Jane Jones, Goelas Fawr, a ddywedodd ei bod hi yn weddw i ddiweddar berchenog y fferm. Herbert Hughes, Ty'nyeoed, oedd per- chenog y fferm yn awr, yr hon a gafodd ei gwerthu iddo flwyddyn yn ol, ar ol marvvolaeth ei gwr. Yr oedd gan ei gwr dir wystl o 650p. ar yr eiddo i ymddiriedolwyr Coleg Annibynol Bala Bangor, ac nid oedd gan ymddiriedolwyr y diweddar David Hughes un tir-wystl ar y fferm. Ni chlywodd am ddtm o'r fath nes y cafodd lythyr oddi wrth Mr. Thornton Jones. John R. Williams, Llwyndy, Llangernyw, a ddywedodd ei fod yn berchenog eiddo yn Llin- gernyw, ar yr hwn yr oedd ganddo 300p. o dir- wystl i ymddiriedolwyr ystad Ty'ngwern, ac nid 400,3. fel y g. sodid allan gan y diffynydd yn ei attodlen. William Williams, asiedydd, Llythyrdy, Llanddoget, a ddywedodd i'w fam bryna eiddo a elwid Tyddyn Mali, rhyw 12 neu 14 o flyn- yddoedd yn ol, ac iddi ei werthu wedi hyny, oddi eithr ihyw ddarn bychan, ar yr hwn y safai y Llythyrdy. Pedair blynedd i Hydref di- weddaf bu ei fam farw. Yr oedd jn deall i'w fam gael arian gan Mr. David Jones; ac ar ol ei marwolaeth hi yr oedd efe wedi bod mewn meddiarit o'r Llythyrdy, ac wedi talu 116g i Mr. Dav!d Jones arno. Yr echwyn oedd 150p., a godwyd ya wahanol symiau, ond nid oedd yn gwybod arian pwy oeddynt. Wrth gael ei groesholi dywedodd nad oedd yn sicr beth oedd yn ddyledus i Mr. Jones. Nid oedd yn gwybod i'r diffynydd roddi benthyg 150p i'w fam tuag at addysg ei frawd, Lewis Williams. Yr oedd mam y tyst yn fodryb i Mr. Jones, ac yr oedd y drafodaeth o natur deuluaidd. Margaret Lloyd, gwraig John W. Lloyd, o'r Marine Hotel, Hen Golwyn, a ddywedodd iddi, yn Rhagfyr, 1899, brynu tyyn Marine Terrace, Hen Golwyn, am 360p., a chafodd 300p. gan y Mri. David Jones a Roberts, y rhai a ddarpar- asant weithred y tir wystl. Yr oedd y tir wedi ei wystlo yn awr i John T. Davies, Moch dre. Wedi hyny rhodefodd John Thomas Davies a Hugh Thoma?, Beiuaaris, ac eraill, eu tyst- iolaetbau. William Griffith Owen, cashier yn Mange y Metiopolitan, a ddywedodd iddo wneyd ym- .chwiliad ar passbooks a gafodd yn pertbyn i'r ffirm, gyda llyftau y bangc, ac iddo eu cael yn gywir. Yr oedd wedi galw yn awyddfa y diffynyddion amryw weithlau yn ystod y pump neu chwe blynedd diweddaf, o berthynas i'w gwaith yn galw am dynu mwy o arian o'r bange nag oeddynb ganddynt i'w credyd. Rhoddodd Mr. B. Lloyd, llywodraethwr Barge y Metropolitan dystiolaeth i'r un per- wyl a chafodd y gwaith o groesholi y tyst hwn ei ohirlo, ar gais Mr. Davies, hyd dydd Gwener.

DYDD GWENER.

DYDD SADWRN. !

DYDD LLUN.

DYDD MAWRTH. --

DYFARNIAD Y FAINGC.

[No title]

ADEILADA U GWAEL A'R GYMMALWST.