Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

CLOCK WREXHAM yn ringio, a thelegram oddi wrth Ap Ilhydwen.' Anwyl Arthur Llwyd, Jhiaswn wedi anfon y telegram yma i chwi yr wythnos ddiweddaf, ond meddyliais y buasai un o boys y FAX Kit wedi bod yn Wrexham locawr 19eg; set, diwrnod agor swyddfeydd newydd mwnwyr Gogledd Cymru, ac y buasech wedi eael adroddiad Hawn or gwcithrediadau. Ond dyma i chwi ychydig o'r hanes: md oedd fy llavv yn ddigon her i roddi pob peth a ddywedwyd i lawr; owl gan cich bod bob amser yn cym- meryd dyddordeb mewn gweithwyr, a'u gwaith, meddyliais y buasai rhan o'r hanes yn dderbyniol genych. Cynnaliwyd cvnnadledd flynyddol y mwn- wyr yn v swyddfa newydd yn Bradley road. Dangosai yr adroddiad blynyddol, pa un a dderbyniwyd, fod y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn un bynod o Iwyddiannus yn banes y gymdeithas. Cyfanswm yr incwm am 1902 ydoedd 5,118p.; a'r cyfanswm am 1901 ydoedd 4,103p.; dangosicl cynnydd yn rhif yr aelodau o 1,472 yn nghorph y flwyddyn ddiweddaf. Gobeitbid y gellid perswadio 2,000 arall i ymuno cyn diwedd y flwyddyn bresennol. Fel dangosiad o gyn- nydd amlwg y gymdeithas, eglurwyd na rifai yr aelodau ar d"-rf,ÿn 1897 ond 2,212. Gan na feddai y gymdeithas adeilad cyfieus i drafod ac i gario y gwaith yn mlaen, pen- derfynwyd eu bod yn adeiladu swyddfa a thy i'r cynnrychiolydd; ac y mae yn adeilad ddeil i'w gyferbynu ag unrhyw adeilad yn Ngwrecsam. Gwnaedllawer yn y gorphenol i wella amgylchiadau y mwnwyr, ac mae llawer etto i'w wneuthur. Nid ydyw strikes yn anhebgorol er sicrhau gwelliantau, ebai yr adroddiad, a mawr obeithid am weIeel yr amser pan y gellir eu rhestru yn rnysg y pethau a fu. Ail etholwyd y swyddogion canlynol:— Mr. John Williams, Ffrwd, llywydd; Mr. T, Hughes, Bersham, ts-lywydd; Mr. J. Lloyd, Gatewen, trysorydd. Yn ddilynol, agorwyd y swyddfeydd newydd gan Mr. W. Abraham, A.s (Mabon), gydag agoriad arian a gyflwynwyd iddo ar ran y gymdeithas gan Mr. John Williams, llywydd y gymdeithas. Wrth gyhoeddi y swyddfeydd yn agored gobeithiai Mabon y byddai y lie yn cael ei adnabod fel cartref heddwch, ac y byddai i heddweh a llwyddiant barhau i deyrnasu yno. Yna aed i'r Council Room, pa un a lanwyd gan gynnrychiolwyr o'r gwahanol weithydd perthynol i'r gymdeithas. Llyw- yddwyd gan Mr. Samuel Moss, A,S. Yn ei anerchiad llongyfarchai y gymdeithas ar ei gwaith ynadeiladu cartref iddynt eu hunain; a chydunai a Mabon yn v gobaith mai cattref heddwch a llwyddiant a fyddai; a dywedai, cyhyd ag y byddai ganddynt ddynion fel Mabon a Mr. Edward Hughes yn arwein- wyr, mai nid bai y cynnrychiolwyr a fyddai os na sylweddolid y gobaith. Nid yr hedd wch gwasaidd hwnw a feddylid wrth yr hedclwch yr oeddynt yn dymuno i'r ty yma 1 fod yn gartref iddo, ond yr heddwch a ailai gyd- gerdded a chydweithredu gyda liafur gonest Yn nghwrs ei araeth dywedai Alabon fod gwaith da wedi ei wneyd yn nghorph y deng mlynedd ar hugain diweddaf ar ran y mwnwyr; ond, yn ddiweddar, yr oedd y gyfraith yn caelei throi i gymmeryd oddi arnynt yr hyn y buwyd am cyhyd o ,amser yn ymladd am dano. Yr oedd y gred fod eu trysorfeydd arianol yn ddiogel rhag ymosod- iadau y meistradoedd yn awr wedi ei chwalu. Gallai y meistradoedd yn awr gymmeryd arian y cymdeithasau am weithredoedd aelodau, pan na fyddai y gymdeithas yn gyfrifol am weithredoedd ei haelodau. Yr wythnos o'r blaen rhoddodd y gyfraith ganiatad i rwystro Gymdeithas Mwnwyr Yorkshire dalu strike pay i'w haelodau ei hun. Gwyddai pawb, hefyd, am ymgais y meistradoedd yn Neheudir Cymru yn ddi- weddar. Yn ngwyneb hyn credai fod yn rhaid cael plaid newydd. Rhaid i'r hen blaid Ryddfrydig gael adgyfodiad, a rhaid iddi wneyd cydymaith a liafur; byddai yn rhaid iddi fod yn blaid y bobl—yn blaid y gweithwyr. Os teimlai y rhai a fu yn eu cynnorthwyo hyd yn hyn rhyw anfocldlon- rwydd i ddyfod yn mlaen, yna byddai raid iddynt fyned yn mlaen eu hunain, a thalu y costau eu hunain; mae yr adeg wedi dyfod pan y teimlent fod yn rhaid iddynt siarad Ar rai adegau byddant i'w cyfiawnhau am beidio siarad; ond heddyw, pan mae iawn- derau llafur yn cael ei sathru dan draed, credent fod yn hen bryd iddynt fynu cyfiawn- der. Mewn ychydig eiriau pwrpasol Cj n- nygiwyd diolchgarwch i Mabon am ddyfod i agor y Swyddfa, ac i Mr. Moss am lywyddu, gan Mr Edward Hughes (cynnrychiolydd y mwnwyr), ac eiliwyd gan Mr. Robert Jones, Ft on. Yr eiddoch, Ap Rhydwen. Yr wyf finnau, Mr. Ap Rhydwen, yn hollol o'r un farn a'r sylw yn yr adroddiad; sef, 'nad ydyw strikes yn anhebgorol er sicrhau gwelliantau. A mawr obeithiwn am weled amser pan y gellir eu rhestru yn mysg y pethau a fu.' I Fe fydd cannoedd, mi wn, heb ddi—M— oss, yn rhoi amen calonog am y sylw, ac yn gobeithio y caiff prophwydoliaeth yr adrodd- iad ei gyflawni. TERFYN GYRFA FAITH. Boreu ddydd lau diweddaf, yr 22ain, bu farw Mrs, Elizabeth Thomas, Brognallt, ger Treffynnon, wedi cyrhaedd yr oearan teg o 97ain o nynyddoedd! Ionawr 23ain bu farw Mrs. Sarah Will- iams, Bryn Bethel Cottages, Mostyn, gweddw y diweddar Mr, Thomas Williams, cigydd, Trefiynnon, yn 89ain mlwydd oed. Yr oedd hi yn chwaer i'r diweddar Mr. John Thomas, Bryn-y-cloddiau, a modryb i'r diweddar Mr. William Thomas, Plas Newydd. Rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn mynwent Ysceifiog. Gadawodd un mab ar ei hoi. Yr eiddoch, ARTHUR LLWYD.

SYR H. M, STANLEY.

'.-r-LLYS YNADON Y VALLEY.

Y BEDYDDWYR A'R MESUR ADDYSG.

Advertising

IY BRAWDLYSOEDD.II

SIR DDINBYOH. '

LLOFRUDDIAETH PEASENHALL

DAMWEINIAU AR FFVRDD HAIARN…

A B E R Y S T W Y T H.

Advertising