Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

BWHDD Y GWARCHEIDWAID.

News
Cite
Share

BWHDD Y GWARCHEIDWAID. DYDD Gwener cynnaliwyd cyfarfod pythefnosol y bwrdd uchod, mewn ystafell yn y Tlotty.: Yr cedd yn bresennol y Parch. Prebendari R. J. Lloyd, rheithor Troedyraur (cadeirydd); yr Henadur J. Lewis, Meiros Hall (is-gadeirydd); ynghyd &'r aelodau canlynol :-Dr. A. T. Evans. a'r Parch. T. A Thomas, Llandyssul; Mrs. Evans, Esgair, Penbryn; y Mri. E. Davies, Giifaehronw; T. Barrett, Crossvale, Allfcwalis; E. Thomas, Coed Llwyd; D. C. Jones, Pantycreuddyn; T. Thomas, Gyfeile; W. Jones, Pencraigwen; T.:Thomas, Penwern; T. Davies, Oil- weunydd fawr; J. Davies, Pontgareg; T. Davies, Bronwion Thomas, Felin Cwm Davies, Fforest; J., Rees, Plas Newydd; J. Griffiths, Gwndwn; D. Davies, Dolau Cwerchyr; J. H. Evans, Pen'ralltfachnog; W. Marks, Pen'rallt; a Mr. W. E. George, ysgrifenydd. Aclroddiadau y Rheidweinyddion.-Darllenodd y Mri. J. Rees a J. Thomas, y rheidweinyddion, eu rhestrau cynnorthwyol. Yr oedd y blaenaf wedi talu yn y pythefnos 74p. 16s. 8e. i 273 o dlodion'; a'r olaf wedi talu yn y cyfryw amser (57p. 8s. OCr i 268 o dlodion. Tlodion yn y Tlotty.-— Yr oedd 13 o dlodion yn y Ty yn yr wythnos gyntaf o'r pythefnos, a 13 yn yr ail wythnos, ar gyfer 15 a 15 yr un amser ddeuddeng mis yn ol; o'r eyfryw yr oedd tri yn egwan eu meddyl- ian (imbeciles). Yr oedd pedwar o blant yn mynychu yr ysgol ddydd- iol yn y dref. a Crwydriaid.—Yr oedd 34 o grwydriaid wedi bod yn y Tlotty am y pythofnos, ar gyfer 46 yn yr un amser y fiwyddyn ddiweddaf. Yn llaw y tryst rydd.—Yr oedd yn Haw y trysorydd; sof, goruchwyliwr y National, Provincial Bank of England, Limited, y swm o 558p. 13s. 3c. Hysbysodd yr ysgrifenydd mai 53p. 6?. y fiwyddyn a fyddai y tal blynyddol fel ced-freiniad (superanua- Hon) yn ddyledus i Mr. D. Jones, y diweddar reid- weinydd; tra yr oedd Mr. Jones yn meddwl fod y swm blynyddol o ddeutu punt yn chwaneg. Felly, bydd rhaid i Fwrdd Llywodraeth Leol bendcrfynu yr achos. Rhoddodd Mr. Davies, Bronwion, rybudd y bydd iddo, yn y cyfarfod nesaf, ddwyn sylw y bwrdd at yr achos o werthu y graian (gravel). Cynnygiodd Mr, Davies, Cilweunydd fawr, fod y gwyliau arferol yn cael ei ganiatau i Mr. Morgans, meistr y tlotty. Cafodd ei eilio gan Mr. Jones, Pencraigwen; a chyttunwyd yn unfrydol.

OYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG

LLANDUDNO.I

F F L I N T.

YR OEDD YN ADNABOD Y FRENHINES.

ITY DDEWI.

DINBYCH.

LLANEGRYN.

[No title]

TELEGRAMS OR 'CENTRAL TELEGRAPH…

TRELOGAN.

CWM YST WYTH.

[No title]

Y D E H E U .