Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
PRESBYTERIAID SAESNIG :GOGLEDD…
News
Cite
Share
PRESBYTERIAID SAESNIG GOGLEDD CYMRU. CAFODD cynnadledd o Bresbyteriaid Saesnig sir Fôn, sir Gaernarfon, a sir Ddinbych, ei chynnal yn Nghaergybi ddydd Iau. Llywyddid gan Mr. James Evans, Caernarfon. Traddodwyd anerchiad agoriadol gan Dr. Griffith, India. Darllenodd y Parch. Joseph Evans, Dinbych, bapur ar I Ffurfio Henadnriaeth.' Dywedodd y byddai yn dda ganddo ef, yn bersonol, weled Henaduriaeth yn cael ei ffurfio. Yr oedd hen- aduriaethau wedi cael ei ffurfio o dan amgylch- iadau llawer mwy anfanteisiol. Dadleuid fod yr eglwysi yn Ngogledd Cymru yn wasgaredig iawn, ac yn ymledu dros ran eang o wlad. Yr oedd yr anhawsder hwn wedi cael ei gyfarfod mewn modd boddhaol. Aeth Mr. Evans yn mlaen i sylwi ar y manteision a ddeilliai o ffurfio y cyfryw Henaduriaeth. Wedi i'r papur gael ei ddarllen, siaradodd amryw o'r cynnrychiolwyr ar ei gynnwys; a gofynwyd am i'r Parch. John Hughes, Caer- gybi, ail agor y pwngc yn y gynnadledd nesaf, yr hon a gynnelid yn Ninbycb. Yn y prydnawn darllenodd y Parch. W. G. Owen, Beaumaris, bapur ar f Ysbrydoliaeth y Beibl.' Pasiwyd penderiyniad yn condemnio y Mesur Addysg. !I
CYFARFOD CHWARTEROL ANNIBYNWYR…
News
Cite
Share
CYFARFOD CHWARTEROL ANNIBYNWYR LLEYiN AC EIFIONYDD DYDD Llun cynnaliwyd eyfarfod chwarterol Anni- bynwyr Lleyn ac Eifionydd, yn Llithfaen. Llyw- yddid gan y Parch. W. J. Nicholson, Porthmadog. Derbyniwyd amryw lythyrau yn annog y cyfar- fod chwarterol i basio penderfyniad yn oondemnio y Mesur Addysg. Cynnygiodd Mr. R. G. Humphreys benderfyn- iad yn condemnio y mesur, o herwydd amryw resymau, pa rai a gynnwysent yr hyn a ganlyn Ei fod yn droseddiad ar hawliau cyfansoddiadol y trethdalwyr, ei fod yn gwaethygu y prawflwon Biweidiol presennol mewn ysgolion enwadol a cholegau, ei fod yn ymgais i stampio' Y mneilldu. aeth allan, ei fod yn cau allan blant rhyeni Ym neillduol oedd yn ymgeiswyr am yr alwedigaeth o athrawon, os gwnaent gais am swyddi mewn ysgolion enwadol, ei fod yn gosod mwyafrif y plant o dan allu eglwys nad oedd yn cynnrychioli y genedl, ac nad oedd yn amddiffyn y plant hyny rhag cael eu dysgu mewn athrawiaethau oedd yn groes i Brotestaniaeth, a bod mwyafrif mawr y bobl yn ei gashan Y Parch. D. Firwdwen Lewis a gefnogodd y penderfyniad. Ar ddiwedd y gynnadledd pasiwyd penderfyn- iad yn condemnio egwyddorion y mesur, yn pen. nodi pwyllgor i chwanega neu i dafla o'r neilldu, y tir a osodwyd i lawr yn mhenderfyniad Mr. Humphreys. Hysbyawyd fod y awm o 686p. wedi cael ei gasgla o fewn oyloh y oyfarfod chwarterol tuag at Drysorfa y Canmlwyddiant. Pasiwyd penderfyniad yn ffafr i'r rhoddion o'r drysorfa fod yn rhoddion, ao nid benthycion i gael eu had dalu, heb Hog. Ysgrifenodd y Parch. J. E. Jones i annog ar i ddiwrnod y Ooroniad beidio cael ei ddathlu mewn I modd a ddygai gywilydd a gwaradwydd ar y bobl; a bod appêl yn cael ei gwneyd at y rhai oedd yn dal trwyddedau tafarndai, i gau eu tai y diwtnod hwnw. t Cynnygiodd yr Henadur Anthony eu bod yn 1 mabwysiadu y cynnygiad; a chefnogodd Mr. Roberts, Glandwr, Nefyn. Cyttunwyd ar hyny yn unfrydol. Hysbysodd Dr. Jones Morris, Porthmadog, fod darn o dir wedi cael ei roddi gan Mr. George Banner, Liverpool, i godi capel newydd yn Bedd- gelert. Gwnaed yn hysbys i'r Cadben D. Richard?, hynaf, Porthmadog, danysgrifio 30p. i'r drysorfa leol fenthyciol.
CYMMANFA YSGOLION SABBOTHOL…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYMMANFA YSGOLION SABBOTHOL ANN1BYNWYR DYFFRYN OLWYD. DYDD Iau diweddaf cynnaliwyd cymmanfa Ysgolion Sabbothol Annibynwyr Dyffryn Clwyd, yn nghapel y Wesleyaid, yn Llanelwy. Cyfarfod y Prydnawn, Dechreuwyd ar weithrediadau y eyfarfod hwn am ddau o'r gloch. Llywyddid gan y Cynghorwr R. Jones. Foryd, yn ystod y dydd. Arweinydd y canu ydoedd Mr. H. E. Pritchard, Abergele. Holwyd y plant gan Mr. T. Bellis, Dinbych, mewn amryw o'r pennodau a roddwyd iddynt yn faes llafur yn ystod y flwyddyn. Gwnaeth yr ysgrifenydd-y Parch. T. Jones, Greea-yn hysbys fod y plant canlynol wedi llwyddo i ennill tystysgrifau :— Safon I. Pendref, Rhuthyn—Thomas Williams, G. O. Williams, Lloyd Williams, R. H. Williams. Bodoryn—Fl. M. Williams, Blodwen Williams, E. D. Salisbury, D. H. Owen. Nantglyn-M. E. Richards. Abergeie-H. J. Williams, J. E. Williams, Tom Roberts, Katie Roberts, Maggie Williams, Lizzie Williams, J. W. Williams, J. E. Jones Tower Hill-M. E. Jones, Blodwen Lewis, Katie B. Jones. Rhyl—Hilda Roose, Katie Edwards, Mary Wynne, Maggie Parry. L6n Swan, Dinbych—M. NestalKnowlem, Ellen Hughes, Annie Hughes, R. Harold Green. Waengoleogoed-E. Ellis, Martha Ellia, J. E. Jones. Moelfre—Ll. Williams, Howell Wil- liams, Gwendoline Jones. Llanelwy-S. E. Thomas, Isaac Jones. Safon II. L6n Swan, Dinbych—William Hughes, T. Hughes, Winifred Williams, M. G. Jones, J. R. Jones, H. B. Jones, Llewelyn Knowles, Ea H. Knowles. Rhyl-Olwen Edwards, Jennie Williams, Thomas H. Jones, E. T. Jones. Green—Annie Owen, Eliza Chambers Jones. Tower Hill—Annie Richards, Margaret Lewitt Liang wy fan — Henry Da vies. Abergele—M. < J Davies, S. J. Jones, Evan Rowlands, John i Vanehan.' Nantglyn—Arthnr Roberts, D. Ll. I Richards. Bodoryn — Edwin Owen, J, D. Williams. Pendref, Rhuthyn—Kate Roberts, Ruth H. William., J. M. 'Williams A. E Jones, Robert Mostyn, R. H. Roberts Roger H. Williams. Moelf re-Mary Hughes, Gwladys Williams, Maggie Davies, Maggie Jones. Llanelwy — Blodwen Simon, Hugh Roberts, Herbert Simon, David Jones, Gwilym Simon. Safon III. Waengoleugoed — Walter Davies, Bessie Davies, Gwladys Jones, Mary Ellis, C. J. Ellis. Bettws, Abergele-G ap FychanJones, J. It. Thomas, Isaac Rees Rowlands, O. ap Fychan Jones, Kate Rowlands. Moelfre — Robert Williams, Peter Jones, Maria Davies, Massie Jones. Bodoryn-Gwen Owen, Aber- gele. Abergele—W. E. Jones. Green-C. Chambers Jones, R. Chambers Jones. Llan. gwyfaa— j. Thomas Haghes, Sarah Hum- phreys, Thomas John Davies. Wi life Williams, Annie Ffoulkes, Maggie Will: lams. Rhiw- E. Gwendoline Jones, H. J. Ro ,berts, David Parry, John Roberts. Safon 7F. L6n Swan, Dinbych—W. S. Davies. Rhyl- Maria Parry, Myfanwy Edwards, Maggie Wynne, J. W. Roose, R. D. Waenby. Tower Hill—William Jones. Abergelu—S. Roberts, W. Hoskins Roberts. Bodorj/n. — Gwladys Jones. SaJon V. Bettws, Abergele- Mary Thomas, Amelia S. V. Jones. Abergele-Wi-Diam Rowlands. Tower Hill-N. Lloyd Jones, "William Jones, Sarah Roberts, Robert Jones,. M. C. Jones. Beatrice M. Williams, Saraht J. Williams. Rhyl—Sis&ie Stannard, D. R. Jones, Stanley Roose, Sarah C. Jones, Teddy Stannard. Lon Swan-Emily Batten, Arthur Bellia, Herbert Bellis, J. W, Owen, T. R. Knowles, W. O. j,,i -,z TVlijfjf: r T^tiiy Williams, A. E. v> lii.a.iiy, Thomas Junes. George Jones, Ed. Roberts, J. E Williams, J. IL Roberts, R. P. Jones, Sarah Williams, J. O. Williams, O. Lh Williams. Moelfre—Maggie Jones. Gyfarfod yr HwyVm Treuliwyd y cyfarfodl hwn, yn benaf, i ganu y tonau detholedig o'r Uaniedydd Cynnulleid. faol a Chaniedydd yr YsgõtBul. Gwnaed yn hysbys mai y persionati a ganlyn oedd wedi ennill yn yr arholiad i"r dosbarth hynaf:—laf, Mr. J. Simoa, dilledydd, Llan. elwy; 2il, yr ArolygydA James,. Dfnbych; 3ydd, Mr. H. E. Pritchard* Abergele. Am y waith gyntaf yn banes y gymmanfa yr oedd yna gerddorfa {orchestra) yn cymmeryd rhan yn y canu, yr hon oedd yn ca el ei gwneyd i fyny gan aelodau o Ddinbych, Treffynnon, Rhyl, Conwy, a lleoedd eraill. Yr oedd y gerddoriaeth wedi cael ei dxefnu ar gyfer y gerddorfa gan Mr. J. Ll. Williams, Dinbycb, tra yr oedd yr Arolygydd James wedi ym- gymmeryd a'r gwaith o'u casglu ynghyd. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r gerddorfa a chafwyd canu da, yn neillduol felly rai o'r tonau. Canwyd anthem, hefyd, o waith y diweddar Barch. E. Stephen (Tanymarian)% mewn modd effeithiol. Cyfeilid ar yr organ gan Mr. T. W. Salusbury, Dfnbych. Yn ystod y eyfarfod hwn cynnygiodd y Parch. D. Lewis, Rhyl; a'chefnogwyd gan Mr. James Green, Dinbycb, benderfvniad yn condemnio Mesur Addyeg y Jilywodraeth. Cafwyd cynnulliadan IIiosog, a chymmanfa lwyddiannus, ac arwyddion o lafur ac ymrodd* iad gyda gwaith yr Ysgol Sabbothol.
WESLEYAID DEHEUDIR CYMRU.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
WESLEYAID DEHEUDIR CYMRU. Y MAE adroddiad swyddogol cylchdeithiau gweinidogion y Wesleyaid yn Neheudir Cymru newydd gael ei gyhoeddi am y flwyddyn 1902 -3, yr hon sydd yn dechreu yn Awst ncsaf; ac y mae fel y canlyn Merthyr Tydfil- Y Parchn. Evan Isaac a J. E. Thomas, Treharris. Tredegar—Y Parchn. John Rowlands (A.), a Llewelyn Morgan, Bhymm. AberdAr-Y Parchn. Robert Roberts; David Morgan, Mountain Ash; a Llewelyn A. Jones, Hirwain. Treorci— Y Parchn. Rice Owen; Thomas Rowlands, Penygraig; a D. Corris Davies, Tonypandy. Ferndale-Y Parchn. Henry Hughes a T. J. Pritchard, Porth. Pontypridd—Y Parchn Thomas Manuel a J. E. Roberts, Abercynon. Brynmawr—Y Parchn. Jacob Ptitcbard ) D. C. Griffiths, Dyffryn Ebbw; a T. Morgan, U wchrif. Caerdydd—Y Parchn. Hugh Owen Hughes a John Jones (c ), Uwchrif. Llandilo Y Parchn. Peter Jones (B.), a G. Bedford Roberts, Caerfyrddin. Abertawe—Y Parchn. Thomas Jones(c.); R. Emrys Jones, Pontardawe; David C. Jones, Castellnedd; a Henry Parry, Uwchrif. Llanelli- Y Parch. Richard W. Jones7 Llanbedr pont-Stephan—Y Parchn. "W. T, Ellis a J. H. Williams, Llandyssul. Aberaeron-Un yn ofynol. Ty Ddewi—Y Parch. David Roberts. Aberyatwyth- Y Parchn. John Humphreys J. Roberts (c ), Tre'rddol; un yn ofynol, a William Morgan, Uwchrif. Ystumtuen- Y Parchn. Alfred C. Pearce ac Evan D. Thomas, Pontrhydygroes. Llanidloes—Y Parchn. G. O. Roberts; J. Lloyd, Trefeglwya; ac un yn ofynol. Machynlleth—Y Parchn. John D. Jones; E. Berwyn Roberts, Corris; ac un yn ofynol. Bwriada y Parch. David Williams a'r Parch. T. H. Williams fyned i'r weinidogaeth Saesnig.
ABERGELE.
News
Cite
Share
ABERGELE. Y CYNGHOR DOSBARTH DINESIG. CYNNALIWYD eyfarfod o'r cynghor hwn noa Lun, o dan lywyddiaeth Mr. Thomas Evana. Penderfynwyd i'r dreth am y flwyddyn brcsennol fod yn 3s. 6c. yn y bunt; y dreth llynedd ydoedd 3s. 3c. Darllenwyd llythyr oddi wrth Arglwydd Dundonald, yn amlygu ei gydsyniad i'r ffordd o orsaf y ffordd haiarn i Water Street gael ei galw yn Dundonald Avenue. Daethpwyd i'r penderfyniad, hefyd, i wneyd cais am fenthyctad chwanegol o 1,400p. er cyf arfod a chost chwanegol y cynllun diwygiedig a chaniatawyd y SWIll o 20p. i'r arolygydd am wasanaeth mewn cys3ylltiad &'r cynllun hwnw. Yn ngwyneb cylafareddiad Bwrdd y Llyw- odraeth Leol, mewn perthynas i'r anghydwel. ediad rhwng y cynghor a'r Cynghor Sirol, gyda golwg ar y swm dyledus oddi wrth y cynghor at gadwraeth y prif ffyrdd yn y rhan- barth, gofynwyd i Fangc Gogledd a Deheudir Cymru dynu swm o 5i>0/?. dros eu cyfrif am ddeuddeg mis; a chydsyniodd awdurdodau y bangc a hyny. Cynnygiodd Mr. George Perkins fod y Cynghor Sirol yn cael ei ofyn i gynnal ym. chwiliad, gyda'r amcan o helaethu terfyndir y rhanbarth. Dywedai fod dosbarth dinesig Abergele yn fychan iawn, ac nad oedd yn cynnwys rhanbarthau cyfagos, pa rai oedd o nodwedd ddinesig. Wedi i amryw draethu eu syniadau ar y cwestiwn hwn, cynnygiodd Mr. Edward Wil liams welliant i'r perwyl fod y mater yn cael ei drosglwyddo i bwyllgor, i'r dyben iddynt ddarparu adroddiad yn cynnwys hysbysrwydd ar y cwestiwn yn gyffredinol. Uefnogodd Mr. Isaac Morris y gwelliant, yr hwn a gariwyd yn unfrydol. Cyttunwyd, hefyd, i adroddiad y pwyllgor gael ei gyflwyno i ddechreu i gyfarfod* preifat o'r holl gynghor.
1 Dim gwaith'—dyna'r cri yn…
News
Cite
Share
1 Dim gwaith'—dyna'r cri yn mhlith gwerin Rwssla fal eiddo yr Almaen. Troir miloedd allan o'r ffactris a I!aw»welth?eydd oraiil ya mhob cwr o'r ymharodraeth. Aet-h yn galedi mawt.
[No title]
News
Cite
Share
GAN eich bod, gyda'r hynawsedd hwnw sydd yn eich gwneyd yn foneddigion mor foneddigaidd, yn caniatau i mi 'arfer fy nawn,' gweddus ydyw i mi ddechreu gwneyd hyny yn wylaidd a goatyngedig. Yn enwedisr, mi a ddylwn fod mewn ysbryd hydrin felly gan mai ynghylch y Casgliad Mawr y bydd fy 'mriwaiouyn' cyntaf. A ydyw y sol drosto wedi cwbl farw? Yn Nosbarth Dinbych prla y clywir s6n am dano hyd nes y digwydda eyfarfod misol ddyfod i ryw fan o'i fewn. Neu gyfarfod dosbarth. Rhyfedd yr ymfflamychu fydd yn y rheiny. Ni bydd prinder ar annog a chymmhell y prvdiau hyny mwy na phrinder dwfr yn yr afon Glwyd "ar ol \»ythnos o wlawio. Fe'm sicrheir gan y rhai sydd yn credu ynddo y bydd y n6d yn sior o gael ei gyrhaedd. Credaf finnau y pryd hwnw, er mai ychydig fydd y diolch canys 1beth arall fydd genyf i'w wneyd? Ond, ni chlywat neb yn prophwydo y cyrhaeddir y marc yn Nosbarth Dinbych. Mae yn aelodau ar Gynghrair Eglwysi Rhvddion Efengylaidd Dinbych a'r cylch, ar y cyfan, ddynion rhagorol. Pe dewisasid yr un nifer o rai eraili prin y credaf y buasai y pwyllgor hwnw tymtjn gwell na chryfach na'r pwyllgor hwn. Gwell mewn pa beth y gallasai fod ? Gallaaai yn hawdd fod yn bwyllgor gwanach. Ond er mai doethion hwynt oil, er hyny, nid doeth pob peth a wneir ganddynt. O'r hyn lleiaf, dyna fy marn i, gyda phob dyledus barch iddynt, yn unigol a chyda'u gilydd. Wrth gwrs, cymmerer hi am yr hyn ydyw o werth. Barn bersonol gwr syml a di-nod yn unig ydyw. Ond y mae yn rhydd i mi ei thraethu, a'i phrisio fy hun hefyd. Nad doeth pob peth a wneir gan y doethion hyn a ddywedais. Yr ydwyf yn brysio i ddyweyd mai doeth iawn ydyw llawer o'r pethau a wneir gan y pwyllgor. Buasai yn anhawdd, os nad yn ammhosibl, iddynt weithredu'yn annoeth o hyd. Ond nid doeth pobpeth meddaf etto. Enghraifft Y maent wedi penderfynu cael cyfres o anerchiadau, ac nid pregeth, yn y eyfarfod sydd i fod yn y Capel Mawr ddydd Gwyl y Coroniad, Cam- gymmeriad dybryd ydyw hyn, yn fy mryd 1. Rhaid i mi addef nad ydwyf, fy hun, yn selog, heb sftnam or-selog, dros gyfarfod crefyddol o gwbl ar yr ficblysur. Ni feddaf fl&s at briodi fy nghrefydd a rhyw fusnes politicaidd fel coroni brenin. Gwelswn 'sens' yn ngwaith y Rhyddfrydwyr yn myned i ystafell fawr eu clwb i gadw eyfarfod gyda'u gilydd i son am eu gwaith, a pha fodd i'w wneyd a sens yn ngwaith y Toriaid, hefyd, yn myned i'w 'cwt coch' hwythau yn ngwaelod Highgate i wneyd yr un peth. Peth politicaidd hollol fydd holl fusnes y dydd, er pob ymgais i'w 'grefyddoli.' A chyfarfod politicaidd mewn gwirionedd fydd y eyfarfod a gam-elwir genych chwithau yn gyfarfod crefyddol hefyd. Ni bydd yr odfa ryfedd hon foreu y diwrnod. yn y Capel Mawr yn ddim amgen na politico-religious service ar y goreu, os nad farce. Yr ydwyf yn teimlo fy hun wedi ymiachau ar ol cael dyweyd hyn. Ond dyna, os mai gwasanaeth dan yr enw 'gwasan- aeth crefyddol' a fynwch, pa ham, yn enw pob syn- wyr, na fuasech, fel pobl gall, yn trefnu pregeth, ac nid anerchiadau ? At am fod ar fwrdd'y cynghrair rai a fuasai yn pwdu os na chaent hwy ran, ae y bydd yn hawddach cael lie i amryw wrth drefnu anerchiadau? Ond 'y byd a'r Bettws' a wyr botbau mor ddiflas ydyw rhifres o anerchiadau anaddfed. ffrwyth spurt y foment; a'r apologies—'Doeddwn i ddim wedi meddwl d'eyd dim;' "Does gen' innau ddim chwaneg nag a dd'wedwyd yn barod;' 'Mi ddylen ddiolch llawer,' &c., &c.— yn ddigon i godi cyfog ar gareg filldir Hewn pregeth fe allesid diagwyl ffrwyth meddwl a myfyrdod; rbywbeth y gallesid gwrandaw arno yn amyneddgar, ac heb ymwylltu. Heb i mi fanylu gormod, camsyniad, yn aiwr i chwi, ydoedd dewis anerchiadau yn lie pregeth. Pan gleddid y Frenhines Victoria pregeth a gaed yn nghapel Lon Swan gan weinidog y lie. Pan goronir y brenin, pregeth yn y Capel Mawr, gan weinidog y He hwnw, drachefn, a fuasai oreu genyf fi. Ond dyna, i ba beth y gwna hen wr briglwyd fel fi yn creu cynnhwrf? Taw! Distawa! Dy le yw tawedogi, ddyn ? Gwelais yn y FANKB ddiweddaf fod eyfarfod misol Dyffryn Clwyd yn talu ei ail ymweliad a. Seion, Stryt Henllan, ar y 3ydd a'r 4ydd o'r mis neaaf. Cyn hyny bydd peth pwysig arall wedi cymmeryd lie yn Seion. Ond oaf ddyfod at hyny etto. Gwarchod ni! Mawr ydyw eich perygl chwi yn Ninbych yna yn y dyddiau hyn. A wyddoch chwi am rhyw dref erioed, os gwnaed hi yn orsaf filwraidd, na ddirywiodd ei moesoldeb ? Mae'n ddrwg genyf drosoch, druain Bydd 61 y tair wythnos 'milwraidd' hyn yn parhau rhawg ar dreflan dawel"Caledfryn-yn-Ro3. Gellwch gymmeryd fy ngair ar y pen hwn. Wrth gwrs, y mae pobl Rhyl yn llygad eu lie wrth ymysgwyd o ddifrif am sicrhaa cyflawnder-o ddwfr pur i dori eu syched. Hurt ffyliaid a fuasent pe yn esgeulus gyda'r pwngc hwn. Ond dylent fod yn syth gydag ef. Ni wiw diegwyl i landlordiaid Llannefydd ollwng eu tiroedd o dan draed i gael lie i wneyd y llyn newydd. Os tir-pris. A phris teilwng hefyd. Nis gwn i lawer am brisio tiroedd. Er hyny, mi a wn ychydig am degweh y cynllun a elwir Cylafareddiad. Dygodd 'y fran wen' y newydd i'm caban echdoe fod y Parch. William Owen Williams, o Rossett, am ymsefydlu yn Unol Dalaethau yr America. Acth drosodd ychydig wythnosau yn ol; ac y mae y 'wlad fawr' yn dygymmod mor dda &g ef fel mai yno yr erys. Middle Granville fydd ei gartref newydd, os yr iawn a glywais. Y mae eglwys y Methodistiaid Cal- finaidd- yno yn ei alw. Daw drosodd i gyrchu ei deulu, ac i ffarwelio a'i hen gyfeillion; a dyna'r cwbl. Wel. pob llwydd iddo a bydded ei flynyddoedd yn ami a llawnion. Dinbych magodd ef, onid e? Gall eglwys y Capel Mawr deimlo yn falch o hono hefyd. 0 un peth yr ydwyf yn sicr; aef, y bydd Saeson Rossott ar eu colled. Und, dyna, bydd Cymry 'Byd y Gorllewin' ar eu hennill,' I ddyfod yn ol at yr hyn a awgrymwyd yn barod. Y mae dau bwngc pwysig o flaen eglwys fechan Seion, o fewn eich tref chwi, ya y dyddiau byn. Mor bwysig dau beth a dim a all fod o flaen unrhyw eglwya, bydded gref, bydded egwan. Mae hi yn myned i ddewis rhagor o flaenoriaid. Ao hefyd, yn myned i roddi gwahoddiad i gyfarfod misol Dyffryn Clwyd yno. Gwnaeth hyny am y tro cyntaf erioed dair blynedd yn ol. Bu yr ymweliad hwnw o fendith iddi. Bydd- ed hwn hefyd felly, meddaf fl. Call iawn ynddi ydyw bwriadu dewis y blaenoriald newyddion cyn cynnal y eyfarfod misol. Bydd y rhai newyddion hyny, pwy bynag a fyddant (o leiaf, hwy ddylent fod), yn help mawr i'r ddau hen frawd anwyl sydd yno yn awr gyda'r trefniadau. C lnt help rhai oddi allan, hefyd, i wneyd y ddau beth. Mae hyny yn bur eglur yn barod. Yn enwedig eu help mewn toraeth o gynghorion tadol pa fodd i wneyd pethau yn iawn. Rhyfedd y ddawn sydd gan rai pobl i hyfforddi pobl eraill! Faint o bris fyddi di, y darllenydd mwyn, yn arfer ei roddi ar y ddawn neillduol hon? Nid wyf yn gwybod ond am un blaenor drwy Gy- mru benbaladr a fuasai yn meddu digon o 'nerf' i gyfeirio eyfarfod misol cyfan at adroddiad y FANBK am y gymmanfa gyffjredindl yn Liverpool, fel un i'w ddarllen yn lie traffertbu myned dros yr ystori yn y eyfarfod misol ei hun, Fy hen gyfaill di-hoced, a di-dderbyn-wyneb, Mr. Thomas Jones, PIaa Coch, ydyw yr un a feddai y gwrQldeb hwnw, os cefais fy hysbysu yn gywir am hanes y eyfarfod misol diweddaf a. fu yn Mhrion. Mae blynyddoedd meithion o gysuron a defnyddiol- deb o'i flaen ef, mi a obeithiaf, Ac fe ddywed y bobl gall i gyd, 'Amen gyda'r deisyfiad. Mae Brwydr Addysg yn poethi,' Welweh chwi. Ond, yr hyn y carwn i yn fawr ei weled ydyw ufudd-dod i appel cynnadledd Caerdydd i gynnal cyt- arfodydd cyboeddutl i wrthdystio yn erbyn ysgymun- beth y Llywodraeth. Mae Dinbych, yr ydwyf yn deall, yn parotoi at gael un yn fuan. Ond, nid yn y trefydd yn nnig y dylai y cyfarfod ydd hyn gael eu cynnal. Yn y llanau gwledig yn gystal. Dyma ychydig enghreifftiau o'r manau a ddylent gynnal cyfarfodydd yn ddi-ymdroi: — Llannefydd, Llanfair Talhaiarn, Llangernyw, a Gwytherin. Gan i mi grybwyll enw Gwytherin, yn wir rhaid i cbwi cddef banner modfedd o ofod i mi i ddadgan fy hiraeth ar ol fy hen gyfaill hynaws a di-ymhongar, y diweddar Samuel Williams, Llwyn-y-salnt. Sant yn byw yn Llwyn-y-saint mewn gwirionedd oedd efe. Y dyn mawr, cadarn, a'r olwg raenus arno, yr hwn y gallesid disgwyl iddo gael blynyddoedd lawer, a dor- wyd I lawr yn annisgwyliadwy, nes taflu ardal gyfan i ddagrau. Do; aeth darn pwysig a gwerthfawr o gymmydog- aeth Gwytherin i'r bedd y diwrnod y claddwyd yr addfwyn Samuel Williams. Na wywed y blodeu ar ei argel wely rhawg Ni bydd yn anhawdd i Fwrdd Ysgol Rhuthyn gael prifathraw yn lie Mr. Hugh Williams, y mae yn bur amlwg. Os gwir a glywais, nid oe. dim llai na chwe deg ac un wedi ymgeisio am y swydd, ac yn barod i'r ymddiriedaeth ar godiad bys. Y chwe deg hyn ydynt wedi eu chwynu, a'u tynu i lawr i un chwech 'rwyf yn deall. Ond, pa un bynag o'r chwech hyn a ddewlsir, dy- wedaf yn ddi-betrus y bydd yn anhawdd iawn cael un i lanw y He cystal a Mr. Williams. Myned i Dde yr Affrig i ddysgu plant bach y Bwr- iald yn y gwersyll-garcharau y mae y cyfaill. Mawr lwydd i'r Cymro athrawaidd. Nia gwn yn iawn i bwy y dylwn i ofyn y cweatiwn canlynol. Y mae yn un pwysig. a dylid ei ofyn i ryw- nn a chael atteb swyddogol iddo hefyd. Weithiau fe'm tueddir i feddwl mai i'r Parch. T. J. Wheldon, Bangor, fel llywydd y gymmanfa gyffred- inol, y dylwn ei ofyn. Bryd arall, fe'm tueddir yn hytrach i'w ofyn i'r Parch. Owen Owens, Liverpool, fel cyrnmedrolwr cymdeithatfa y Gogledd. Ond. gan nad ydyw y pregethwr y mae a wnelo y cwestiwn ag ef yn uniongyrchol yn perthyn i'r gym- manfa nac i'r gymdeithaafa, hwyrach mai at lywydd y cyfarfod misol neillduol y mae y llangc yn aelod o hono y dylwn ei gyfeirio. Fy holiad ydyw hwn:—'A oes rhyddid i bregeth wyr 'y Corph' bregethu yr hyn sydd yn hollol groes i'r Cyffes Ffydd.' Yr hen Gyffes a ddywed yn bendant fod trefn fawr Iachawdwriaeth Dyn wedi gwreiddio yn Mhenargl- wyddiaeth Gras yr Anfeidrol. Pregethwr ieuangc, a bugail yn y 'Co'ph,' a sicrhaai y gynnulleidfa yn ei gapel ei hun yn ddiweddar mai yn Angenrheidrwydd Natur Duw yr oedd y cyfan wedi ffynnonella. Mwy nag y carwn i feiddio arno fyddai dadleu a'r bugail hwn. Gwell genyf ofyn pa un ai y Cyffes Ffydd ai ynteu y bugail sydd i sefyll? 'Ceidwaid yr Athrawiaeth,' yn mha le yr ydych? Os yn fyw, dyma le i erlid heretic. Ac nid hwn ydyw yr unig bregethwr sydd yn dysgu •cyfeiliornadau;' o'r hyn lleiaf, pethau croes i'r GlIffes. Ar yr un pryd, y mae genyf seiliau da dtos gredu fod 'pulpud y Corph,' ar y cyfan; yn hynod o 'iach yn y ffydd.' BRIGLWYD.
BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.
News
Cite
Share
BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH. CYFARFU y bwrdd dydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresennol y Mri. Owen Jones (cadeirydd). William Jones (is gadeirydd), Robert Richards, Cadwaladr Roberts, Mrs. Casaon, S. S. Jones, Hugh Jones, Richard Williams, J. R. Jones, William Williams, L. Foster Edwards, G. Parry Jones, Richard Roberts, Robert Roberts, Evan Williams, Robert O. Williams, Robert Hughes, Cadben Morgan Jones, D. Tegid Jones, John Pritchard, Edward Llewelyn, Thomas Roberts (clerc), David Jones (is glerc), D. J. Jones (meistr y ty). Y Tl).—Hysbysodd y Meistr fod 56 yn y ty ar gyfer 51 yr un amser y llynedd, a galwodd 360 grwydriaid yn ystod y pythefnos diweddaf. Yr oedd tri phlentyn R. O. Jones, Seler, Plas Isa, Blaenau, 8, 6, a 2 flwydd oed, wedi dyfod i'r ty, gan fod eu tad wedi myned ymaith a'u gadael Pasiwyd i godi gwarant i'w ddal Yr oedd gwraig David Davies, Llechwedd, Blaenau, a'i ddau blentyn wedi myned allan o'r ty. Yr oedd D. Davies wedi diangc, a gadael ei deulu. Darllenwyd llythyr oddi wrth yr Arolygydd Roberts, Blaenau, ynglyn a'r camrau a gymmerir gan yr heddlu er dal Davies am esgeuluso ei deulu. Ar gynnygiad Mr. Cadwaladr Roberts, a chefnogiad Mr. Robert Richards, pasiwyd i gynnal gwasanaeth crefyddol yn y ty foreu dydd y coroniad. Galwyd sylw gan Mr. Cadwaladr Roberts at fychandra y gwaith a wneir gan y crwydriaid yn ystod eu harosiad yn y ty. Pasiwyd i'r pwyllgor gymmeryd y mater i fyny er trefnu at y dyfodjl. Mr Richard Williams a ofynodd beth gafodd y ddwy oedd wediimyned allan or t £ ? A oedd ynt i gael rhywbeth? Y cadeirydd :—' Dim, ond trwy benderfyniad pennodol y bwrdd.' Y meistr a ddywedodd nad oeddid yn rhoddi dim ond i blant mewn ffordd o diillad. Tloiion Ffasiynol.—Galwyd sylw at dlodion perthynol i'r undeb oeddynt yn byw oddi allan i'r Undeb, ac yn byw mewn modd rhwy.-gfawr, gan wisgo yn ffasiynol, a theithio mewn cerbydau. Pasiwyd i anfon am adroddiad ar bob achos o'r undeb hwn sydd yn byw mewn undebau eraill. Achos dodrefn y ddiweddar lJolly Hughes, Blaenau-Darllenwyd llythyr oddi wrth Ann Hughes, Bronrhiw, Blaenau, yn cwyno fod Margaret Jones yn hawlio dodrefn Dolly Hughes. Y swyddog a roddodd limes yr achos hwn. Dywedai yn mhellach fod yewiriant yn y ewest iwn. Cadwyd y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, a chymmerwyd y policy o'r tf, felnachafodd ef gyfie i wybod am dano, a gwadwyd yr yswiriad pan holodd yn ei gylch. Mewn modd damwetniol hollol y daeth i wybod am y peih ar ol y farwolaeth. Mr. Cadwaladr Roberts a deimlai ei fod yn ddifrifol meddwl i un fel Dolly Hughes, sydd yn cael ei hystyried yn ddynes mor gretyddol, ddywedyd aawiredd ynghylch yr yswiiiant, er twyllo y gwarcheidwaid, a hyny pan ar ei gwely marw. Pasiwyd i gael rhagor o fanylion. Yr Elusenau a'r Tlodion — Talwyd YD nosbarth Tremadoc 68p. lis. (3c. mewn pythef- noa rhwng 260 o dlodion, ar gyfer 82p. 13s rhwng 368 yr un ai-n,er y llynedd, a gofynid am 70p. at y pythefnos necaf Yn nosbarth Ffestiniog talwyd S6p, lis, Gc. rhwng 294 o dlodion, ar gyfer 91p. 17s. rhwng 299, a gofynid am 85p. Yn nosbarth Deudraeth talwyd 70p. 13s. 6c. rhwng. 314 o dlodion, ar gyfer 78p. 3s. 6c. rhwng 323, a gofynid am 68/J. at y pythefnos nesaf. ° Cyfanswm y taliadau 225p. 19-s. 6j."rhwng868, ar gyfer 252p. 138. 6c. rhwng 890, a'r gofyniadau 223p. Masnach yr Ilosanau.—David Hughes, Pen- rhiw, gweuwr hosanau, a ymddangosodd o flaen y bwrdd i egluro yr hyn a wnai gyda gwau hosanau. Yn ol y cyfrif a roddodl yr oedd y swm yn dyfod i dros saith bunt yr wythnos. Yr eeld yn talu 15s. yr wythnos, a chomisiwn i Robert Lloyd am werthu yr hosanau. Robert Lloyd a ymddangosodd o flaen y bwrdd, ac a ddywedodd mai ceiniog y plr oedd yn gael am werthu hosanau wedi eu troedio, a dwy geiniog am bob par newydd. Weithiau caffai rhyw dair ceiniog rhagor na'r pres, pan y d e-a ai ar draws rhyw ff Y cadeirydd Mae llawer o rai felly i'w cael.' Mr. R Lloyd:—'Na, welsoch chwi erioed lai.' Yr oedd yn ami yn myned a'r holl hosanau yn ol y n^, wedi eu cael yu y boreu, heb ennill dim. Nid oedd yn derbyn cyflog o gwbl; celwydd oedd hyny. Y cadeirydd:—'Y mae Davi I Hughes yn dyweyd eich bod, a setlwch y matjr rhyngoch.' Pasiwyd i attal eluaen y ddau. Gynnal ei jam.- Yr oedd y bwrdd wedi pasio i ofyn i William Jones, llythyr-gludydd, Llan- rwst, i dalu swllt yr wythnos at gynnaliaeth ei fam. Darllenwyd llythyr oddi wrth feddyg Wm. Jones, yn hysbysu ei fod yn dioddef er y NadoJig o dan bronchitis; ac oddi wrth gyfreith- wyr W. Jones yn hysbysu am ei afiechyd, ac yn gofyn am i r mater beidio myned i'r wasg. Y cadeirydd Yr ydym yn gofyn i'r wasg gymmeryd sylw neillduol o'r achos. Os gall wario ar gyfreithwyr, dylai dalu at gadw ei fam' (cym.). Adgyweiriadait.— Cyttunwyd i'r Mri R. Williams a'i ftb, Ffestiniog, i adgyweirio y rhanau o'r tlocty nad oedJynt yn adeiladau newyddion. Cydnabod.- Cydnabyddodd Mr. John Stad- dard bleidlais o gydymdeimlad y bwrdd ag ef yn ei brofedigaeth o golli ei briod.
MR. ELLIS GRIFFITH, A.S.,…
News
Cite
Share
MR. ELLIS GRIFFITH, A.S., YN NGHAERGYBI. CONDEMNIO Y MESUR ADDYSG. CYNNALIWYD cyfarfod brwdfrydigyn Nghaer- gybi nos Lun, o dan lywyddiaeth y Parch. John Hughes. Wedi i Mr. R. H. Williams ddarllen amryw lythyrau oddi wrth aelodau seneddol dros Cymru yn condemnio y Mesur Addysg, cyn- nygiodd y Parch. R. R. Hughes, a chefnogodd y Parch. E. B. Jones, benderfyniad yn con- demnio y mesur. Ar gynnygiad Mr. Lewis Hughes, a chefnog. iad Mr. Thomas Williams, pasiwyd pleidlais o ymddiriedaeth yn Mr. Ellis Griffith, A.S., yr hyn a gariwyd yn unfrydol. Mr. Ellis Griiffth, i'r hwn y rhoddwyd der- byniad brwdfrydig, a ddywedodd fod y Llyw. odraeth yn cyflawni mesur ei hanwiredd. Yr oedd yn amlwg nad oedd TorIaeth, o dan y lledrith o Undebiaeth, yn aros yn ei hunfan yn unig, ond ei bod yn wrthdroadol. Nid oedd yn foddlawn ar attal diwygiadau yn y dyfodol, ond yr oedd yn gogwyddo ar ddinystrio y diwygiadau yn yr amser a aeth heibio. Wrth sylwi ar y mesur addysg, dywedodd fod yna gwestiwn ar un adeg pa un ai mesur da ai drwg ydoedd. Yn awr, yr oedd y condemniad ar y mesur mor gyffredinol fel mai yr unig bwynt i'w ddadleu ydoedd, pa un a oedd mor ddrwg fel nas gellid ei ddiwygio. Ni phleid- leisiodd ond 23 o Ryddtrydwyr yn erbyn y mesur ar y darlleniad cyntaf, tra yroeddllawn nerth y blaid yn cymmeryd rhan yn yr ymran- iad ar yr ail ddarlleniad. Gellid gosod allan, ar fft eiriau, effaith y mesur ar Gymru, ac ar sir F6n, mor bell ag yr oedd a wnelo &'i agwedd arianol. Yr oedd yna yn y Uywysogaeth 694 o ysgolion gwirfoddol, gyda 70,104 o blant yn bresennol, ar gyfartaledd, gyda chyfanswm o 156,193p. o dreuliau. Yr oedd yna, hefyd, 733 o ysgolion y bwrdd, gyda 141,559 o blant yn bresennol, ar gylartaledd; a chyfanswm y costau yn 343081p. Yn awr, os oedd safon effeithiolrwydd a ch6st y byrddau ysgolion i gael ei gyrhaedd gan yr ysgolion gwirfoddol, byddai yn rhiid darparu swm chwanegol o 13,OOOp. Yr oedd yn rhaid chwanegu at hyn danysgrifiadau o 26,OOOp.; gwaddoJiadau, 5,OOOp.; a dyweder 10,OOOp. tuag at y gdst chwanegol yr oeddid yn myned iddi trwy y ffaith nad oedd gwario y dreth a chodi y dreth yn yr un dwylaw. Yr oedd hyn yn gwneyd cyfanswm o 54,000p. oedd y mesur hwn yn ei osod ar dreth- dalwyr Cymru, neu drethiad o 3c. trwy Gyruru. Nid oedd y ffigyrau am sir Fon yn llai addysgiadol. I n y eir hono yr oodd yna 25 o ysgolion gwirfoddol, gyda 2,330 o blant yn bresennol, ar gyfartaledd, a chyfaoswm y treuliau yn 4,787p. Yr oedd yna 39 o ysgolion y bwrdd, hefyd, gyda 7,090 o blant yn bresennol, ar gyfartaledd, a chyfanswm y treuliau yn 9,93op. Y gost i ddwyn yr ysgolion gwirfoddol i'r un safon ag ysgolion y byrddau fyddai 400p. Yr oedd yn rhaid chwanegu at hyn danysgrifiadall, 483p.; gwaddoliadau, 204/?.; a dyweder, 1.300p. cyfanswm y gOst, yn ngwyneb y ffaith fod yr amcan o gynnildeb lleol yn cael ei gcili o dan y mesur. Yr oedd hyn yn gwneydjcyfanswm o 2,387p., yr hyn oedd yn gyfartal i dreth o 31c. trwy y sir. Yn chwanegol at hyn yr oedd yna dretb chwaneg- ol o 2c. oedd y mesur yn ei awdurdodi i gael ei godi tuag at addysg eilraddol, yr hyn a olygai ddyblu y dreth sirol oedd yn cael ei chodi yn sir F6n. Nid oedd neb yn grwgnach yn erbyn codi chwaneg o arian tuag at amcanion addysgol; ODd pan gofid nad oedd y cyhoedd yn cael llais uniongyrchol yn ngwario y 15,000p. yn y flwyddyn a werir yn y sir ar addysg elfenol, nid oedd eisieu prawf chwaneg- ol o anghyfiawnder dybryd y mesur. Byddai rheolaeth boblogaidd yr holl ysgolion elfenol, y rhai gwirfoddol a'r rhai u dan y bwrdd, i'w weled yn eglur trwy ei absennoldeb; ac yn yr ysgolion gwirtoddol, sefydliad pen-arglwydd- iaeth y blaid Eglwysig am by th. Yr egwyddor wirioneddol a ddylai iywodraethu rheoliad yr ysgolion ydoedd, fod y rheolaeth yn dibyau ac yn amrywio i atteb i'r tanysgrifiadau. Pa cawsai yr egwyddor hon ei chario allan, dylai pedair rhan o bump, neu bump rhanjo chwech, o hull lywodraethwyr yr ysgolion gwirfoddol gael eu pennodi gan y trethdalwyr. Yr oedd y mesur yn groes i gyfiawnder, yn fygythiad i Ymneillduwyr, ac yn rhwystr ar lwybr diwygiad. Dylid ymladd yn ei erbyn adran ar ol adran, a gair ar ol gair, fel y byddai tyn cael ei ddwyn yn mlaen yn Nhy y Cyffredin. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Griffith, ar gynnygiad Mr. E. Owen Roberts, Caer, yn cael ei gefnogi gan Mr. Forcer Evans,
[No title]
News
Cite
Share
I Cafodd Bexhill ei chreu yn fwrdeisdref ddinesig Cariwvd siarter y e-orphon^d trwy yr hool ar motor-mr.