Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
Advertising
W. R. HANDS & Co., CONWAY ROAD, COLWYN BAY, Are NOW SELLING OFF THE WHOLE OF THEIR STOCK OF High-class Boots and Shoes ON ACCOUNT OF THE EXPIRATION OF LEASE. 1- SAMUEL BOND & SONS, Joiner, Builders and Contractors, SHOP & OFFICE FITTERS, AND General Repairers ot Property, GREENHOUSE MAKER3, MIDDLETON VILLA, Belgrave Road, Colwyn Bay. ESTIMATES FREE G. BEVAN & Co., Ironmongers, Plumbers, and Electricians, Con way Road,— TXDe Colwyn Bay.=3434P L- JOHN L. HUNT, PHARMACEUTICAL CHEMIST AND OPTICIAN, ✓ „ CONWAY ROAD, COLWYN BAY. DEPOT FOR PHOTOGRAPHIC REQUISITES. DARK ROOM FOR USE OF AMATEURS. SIGHT TESTING DAILY BY APPOINTMENT. GENT FOR HENRY LAWRANCE'S CELEBRATED SPECTACLES EYEGLASSES. Nicke! Plated, Gold Filled, and Gold Frames. RHOS-ON-SEA GOLF CLUB. On the electric Tram connect- ing Cchvyn Bay & Llandudno. ALWAYS OPEN TO VISITORS. ;& New members joining before the end of year will not be required to pay an I ENTRANCE FEE. COLWYN BAY GOLF CLUB SPORTING 9-HOLE COURSE, EiTUATE ABOVE PWLLYCROCIIAN WOOD. COMFORTABLE CLUB HOUSE. LCNCiiEONS AND REFREbii-iiEiMlS PROVIDED. GOLFING REQUISITES STOCKED. Steward and Professional. L. GREEN. SUBSCRIPTIONS. Per Annum. Honorary Members Li Is and 103. Resident Meiiiberb- Ladies JBO 15s. Od. Gentlemen £1 103 Od. Country Members- Ladies £ 0 lOS. Od. Gentlemen £ 0 15s. Od. Visitor, 2a per Day; la Half-Day, after One 7s 6d per Week. DOUGLAS M. PEACOCK. Hon. Seo. tlopeside, Prince's Drive. c 0 A L. UNEQUALLED FOR QUALITY and PRICE. Bowland & Co., WYNNSTAY CHAMBERS, COLWYN BAY. TKLEPKOMK 92Y 66071 SUN FIRE OFFICE, Founded 1710. The Oldest Insurauce Office in the World. Head O^fic^ E.C ofi:lcv, Insurances effected on the following risks:- FIRE DAMAGE. Resultant Loss of Rent and Profit. Employers' Liability, Personal Accident and Workmen'* Com- Sickness St Disease, pensation including accident*,to Domestic Fidelity Guarantee, Servants. I Burglary, AGENCIES EVER i WHERE. 22605p rR ADRAN cr MRAEC. AT EIN DARLLENWYR* Anfoner pob gohebiaeth i', GOLYGYDD CYMREIG, Swyddfa'r "Pioneer."
Merch y Bwthynwr.
Merch y Bwthynwr. CHWEDL DDYDDOROL, Yr oedd yn noswaith oer ac ystormus yn mis Rhagfyr, ac yr oedd y boncyfiion mawr- ion, fel y iflamient ar aelwyd glyd y bwthyn- wr yn dra dymunol yr olwg arnynt wrth glywed y corwyntoedd yn rhuo yu yr awyr a'r cenllysg yn clecian hyd y gwydr, gan wneud i bobpeth oddiallan ymddangos yn llawn o ofnadwyaeth ac anghysur. Yr oedd y bwthynwr yn hen ddyn bach, bywiog, deallgar, a rhoddai i mi lawer o wybodaeth yn nghylch trin tir a magu anifeil- iaid a phethau o'r fath, tra yr eisteddai ei wraig yn ddeiosiynol Tawn mewn cadair wellt yr ochr arall i'r tan, yn prysur wau par 0 hosanau gwlan cochddu'r ddafad. Edrychai mor ddedwydd ac urddasol a brenhines. Wrth fwr'dd crwn bychan yn nghornel y simnai fawr yr oedd eu mab-Ilane eryf ao iach oddeutu pump-ar-hugain oed-yn bwyta ei swper, yr hwn oedd yn gynwysedig o fara, caws, ymcnyn, a llaeth; ac yn ei ymyl yr oedd clamp 0 gi defaid mawr, blewog, yn eistedd yn un cocyh, gan sylwi yn fanwl ar bob tamaid a gymerai, a daliai gyda deheu- rwydd bob briwsionyn a deflid iddo. Brawychwyd ni oil ar unwaith, modd bynag, gan ei gyiarthiad sydyn, pryd y neidiodd i fyny ac y rhuthrodd yn ddisymwth tua'r drwa. "Whiw! Whiw!" chwibiajiai y llanc. "Tyr'd yma. Beth andros sy' arnat ti, 'Rover?' beai, gan fyned ar ei ol rllagddo i'r drws, i edrych beth oedd wedi ei gyn- hyrfu. "A aethon nhw i ffwrdd ar hynyna, y i"—oblegid yr oedd y ci yu ddistaw. "At beth yr wyt ti yn flroeni fel yna, was?" "0, edryrchwch arno fo, nhad, fel y mae o yn cwyno ac yn ysgwyd ei bwt cynffon! Mae yma rywun mae o yn adwyn yn dda. Mi ddalia am swllt mai Wil, Brynfawnog, sy' wedi d'od i holi yn nghylch yr oga, nhad." "Glywaist ti rywun yn curo yn y drws, lad?" ebai y tad. "Naddol" ebai y llanc, "ond fe alia i Will edrach drwy'r ffenast, a gwel'd fod yma rywun diarth yn y ty a lhedag i ffwrdd. 'Wil, ti sy' 'na?' gwaedd- ai yn uchel. "Gwarchod ni! Y mae y gwynt yn chwib- ianu mor ddychrynllyd fel nad oes dim siawns i neb glywed dim byd. A agoraf fi y drws, nhad?" "Ie, lad, gwna." ebai yr hen wr; "mae 'Rover' yn gallach na ni-mi glyw ef ogla cyiaill pryd nas gall dyn ei adnabod o." Parhai "Rover" i ddystaw gwynleisio, a dechreuai gripio a clirafu y drws. Agorodd y llanc y drws, ac yna ysgubodd y ci heibio iddo, ac yr oedd ei fan-gyfarthiadau buan, sydyn, bywiog, yn dangos ei fod yn orlawn o lawenydd, a bod yno rywun ag oedd yn dra adnabyddus iddo. "Holo! ble'r'r wyt ti, Wil?" ebai y dyn ieuanc, gan gamu dros y trothwy. "Dyna, dim o'th gastiau, Bill; yr wyf yn dy wel d di yn oclir y das yna A chan adael y drws am foment, prysurodd i'r ty. Yr oedd y gwrid coch, iach, wedi cilio o'i ruddiau— crynai ei wefusau, ac edrychai fel un wedi cael ni amddifadu o'i synwyrau, neu fel pe yn dyoddef o dan ddylanwad rhyw ddrychiol- aeth arswydus. Cyfodai yr hen wraig i fyny, a syrthiai yr hosan o'i llaw. "Beth ydyw'r mater?" ebai hi. "Beth barodd ddychryn i ti, lad?" ebai yr hen wr. "0, nhad 0, mam!" ebai, gan eu harwain yn frysiog o'r neilldn, a sibrwd rhywbeth mewn llais isel ac anhyglyw. Cyfododd yr hen wraig ei dwy- law i fyny yn erfyniadol, a symudodd tua'i chadair wellt. Gafaelodd y bwthynwr yn mraich y llanc, a bloeddiodd, "Cau y drws, faehgen, yn ddiatreg, os nad wyt am dynu ar dy ben fellditli dy dad Yr wyf yn dweyd i ti na ddaw hi ddim yma,—na ddaw byth, byth; y mac gwenwyn yn ei hanadI-mi cic- iaf hi oddiwrthyf. o! melldith a'i eanlyno hi. Beth? Ai ni nfuddhai i'm gorchymyn?" "O! fy nhad, fy nhad!" llefai y dyn ieu- anc, calon yr hwn oedd ar ymdori gan ofid, "y mae yn noson oer a garw; fuasech chwi ddim yn leicio eicio ci oddiwrth y drws i & drengu yn y storm. Peidiwch a bod yn rhy boethlyd a byrbwyll, fy llhud; nid ydych yn un anhrugarog-ar fy ngliniau." "Lol!" ebai y tad digofus, yr hwn na wnai ond cythruddo yn waeth wrth i'r llanc geisio ym- resymu ag ef. Paham y siaradi a mi, her- lod Yr wyf yn fyddar-yn fyddar. Caiff fy nwylaw fy hun folltio y drws yn ei herbyn. Bydded farw!" A chan ddywcdyd hyn, prysurodd heibio i'r llanc, yr hwn oedd ar ei liniau ar y llawr; ac yr oedd ar roddi ei fwriad mewn gweith- rediad pan y gwnaeth gcneth ieuanc, mewn gwisg a fuasai unwaith yn lan a destlus, ond yn awr yn garpiog ac aflan, ei hymddangosiad wrth y drws. Ciliodd yr hen wr yn ei ol oddiwrthi gyda dychryn. Yr oedd ei gwyneb mor welw ag angau, a phrin y gallai ei hael- odau crynedig ei chynal. Disgynai ei gwallt toreithiog yn gudynau gwlybion ac anhrefn- us o amgylch ei gwddf a'i hysgwyddau, gan ychwanegu at resyndod ei hymddangosiad. Estynodd allan ei breichiau meinion, a sein- iodd y gair "Tad! Mwy nis gallodd ddy- wedyd. Atelid ei lleferydd gan yr ebych- iadau eyffrous a ddirdynent ei mynwes. "Mary, feuden gwacddai yr hen wr, gan grynn. "Paid a'm galw yn dad-nid wyt eiddof ii-nid oes genyt dad yn awr, na minau ferch. Sarph ydwyt a frathodd y fynwes a'th achlesodd Dos at y dyhiryn melldigedig- y gwenieithwr twyllodrus a'th lusgodd o'n breichiau a'n cartref dedwydd i drueni a halogrwydd—dos a bendithia ef am dori calon dy dad a'th fam Ar hyn, syrthiodd yr eneth drallodus i lewyg, ond cyuhaliodd braieh gref ei brawd hi. Gorchfygwvd y llanc gan dosturi, a chyd- ymdeimlad, wrth weled y sefyllfa dorcalonus ag yr oedd ei chwaer, druan, ynddi—mor ieu- anc! ac anturiodd eilwaith gyfryngu ar ei rhan. "Ha! na chyffwrdd a'i chorph aflan a halog- edig," gwaeddai yr hen wr. "Cicia hi oddi- wrth y drws, a gad iddi chwilio am fedd He y gallo. Iierlod! a feiddi di anuiuddhau i mi?" a chodai ei ddwrn, tra y filamiai ei lyg- aid gan ddigofaint. "Tarewch h, fy nhad! Tarewch fi i lawr!" ebai y llanc, gan dori allan i wylo. "Tar- ewch ti i'r llawr yn farw! Lleddwch fi, os mynwch. Nis gwaeth genyf; ni chauaf byth mo'm calon yn erbyn Mary Onid fy chwaer yw hi? Onid ddysgasoch fi i'w charu? Druan ohoni! Mae arni fawr angen am hyny yn awr, nhad. Mae wedi tori ei chalon. Ah! yr ydych chwi yn dda a charedig, fy nhad Yr wyf yn gwybod eich bod; gwelaf y dagr- au yn llenwi eich llygaid; gwn na wnewch ei bwrw hi ymaith. Mam, dywedwch chwi air,—dywedwch air wrth fy cliwaer, Mirv- ein Mary ni vdyw Peidiwch a'i lladd trwy an¡!1,digrwydd GoLciuygwyd yr hen wr gan erfyniadau taerion a theimladwy ei fab, ac ni chynyg- iodd mwy wrthwynebu ei ddymuniadau; ond gan guddio ei wyneb a'i ddwylaw, gadawodd yr olygfa boenus, ac enciliodil ar ben ei hun i ystafell o'r neilldn. Wedi dyfod ati ci hun, ar 01 y dychryn a barodd ymddangosiad disymwth ac annisgwyl- iadwy ei merch iddi, cyfododd ei mam yn awr i roddi cynorthwv i'r druan anffodus, a thrwy arfer cyffuriau adferol dygwyd Mary i lawn ymdeirnlad o'i sefyllfa druenus. Cludwyd hi yn union i'r un ystafell-wely fechan, He, yn nyddiau ei diniweidrwydd, yr arfcrai bob am- ser ymneillduo mor llawen-galon, ond lie, yn awr, syrthiodd i dragwyddol hun! Da, bu farw Mary. Ond, wedi derbyn maddeuant a bendith ei rhieni, gwynebodd angau yn llav/en. Oud Heth am yr ellvll a'i darostyng- odd? Eiddo Duw y dial!
[No title]
Y mae nifer o foneddion Cymreig wedi cyd, sijnio i roddi cu hari-beisiau teuluaidd ar nifer o ffeneetri Cole^ newydd j Briivsgol yn Maa- gor.
I Llith Die Jones.1
I Llith Die Jones. 1 SAETHWRS LLANDUDNO A'R WNINGEN. Mae yn ymddangos i mi fel tarn yna ryw- beth wedi myned o'i le y dyddiau diweddaf hefo yr helynt bach arianol yr oedda ni i gyd yn edrych yn mlaen ato. Son am wneud ) ffwrdd a Thy yr Arglwyddi, wir. Yn ol fel rvda ni yn myn'd yn mlaen y dyddiau pres- enol, fe allwn toe iawn fyw heb Dy'r Cyff- redin, a chan hyny, trown ein sylw at fater- ion mwy pwysig na'r dynion cyffrc-din a'r ar- glwyddi. Gadawn iddynt am yr wythnos yma beth bynag ymladd eu brwydrau eu hunain, ac awn i gael golwg ar y saethwrs o Landud- no, ac i'w helpu nhw gyfri y gwningod. PEDWAR DYN A GWNINGEN. Wel, i chi, un prydnawn, yr wythnos ddi- w-eddaf, fe aeth pedwar o ddynion mawr a chryf i saethu yn nghoed enwog y" Marl." Eu henwau oeddynt Tomos, Samuel, Robart, a-c un arall na chlywais i mo'i enw o, ond mab i Tomos oedd o, felly galwn 0 yn Ap Tomos. Er mwyn i chwi ddeall sut ddynion oeddynt, gwell i mi ddweyd am Tomos mai dyn mawr, tew ydi o. Am Samuel, mae hwn yn gallu chwareu "billiards" yn llawn cystal ag medr o saethu gwningen; ond am Robart, mae o yn adnabyddus fel Maer Tywyn, ac yn gyfaill mynwesol i Samuel. Pedwar o ddyn- ion mawr a golwg nobl iawn arnynt oedd yr helwyr. Yn ol fel y deallais y stori mi 'roedd- ynt wedi cytuno a'u gilydd i Robart a Samuel ladd y cwningod, a Tomos ac Ap Tomos eu cario nhw (y cwningod) adref. Chlywais i ddim oedda nhw wedi ordro special tren ai peidio i fyn'd a'r cwningod i siop Mistar Bow- dagc, ond mi glywais fod Mistar Bowdage wedi meddwl cymeryd "stall" arall yn y farch- nad erbyn y cyrhaeddai y llwythi o wningod. 0, mi 'roedd Mistar Bowdage yn edrych yn mlaen at ffair arbenig o wningod 0 goed Marl; ond druan oedd-ei siomi gafodd o. Wei, dowch i ni sylwi ar y pedwar brawd ar ben Mynydd y Marl. Mae'n wir fod y gwynt wedi chwythu hetiau rhaa o'r brodyr i ffwrdd, ond mae yn anhawdd credu fod y gwynt yn ddigon cryf i chwythu y cwningod i'w tylla. Pan welodd Ap Tomos Robart a Samuel yn codi eu gyuau at ryw haner dwsin o wningod, gwaeddodd allan, "Hold on, lads, neu mi lladdwch nhw." Wel, i chi, gan nad oedd 'run o'r pedwar brawd yn ddigon cyflym ar ei droed i ddal y cwningod heb eu lladd nhw, mi ddyliodd Robart a Samuel y byddai yn well gau Mistar Bowdage gael y cwningod meirwon na pheidio eu cael nhw o gwbwl, a dyna nhw yn gorchymyn i Tomas a'r Ap bigo y cwningod i fyny fel 'roedda nhw yn eu lladd nhw. Wei, i chi, daeth yn nos toe, ac yn rhy dywyll i weled y cwningod, ac ar ol gwar- io oriau lawer yn y coed mi fu raid i'r cwmni drod tua chartrcf hefo dim ond un wningen bach rhwng y pedwar o honynt. Mi 'rocddynt wedi gwastraffu mwy o bres am bowdwr a phlwm na gwertli y Avningen ddeg gwaith drosodd. Gau feddwl cael dipyn o'r pres yn eu holau acth y pedwar fel dir- prwyaeth i ymweled a boneddiges, gan feddwl y basa hi yn prynu y wningen ganddynt, i'w rhoddi fel gwobr yn y gystadieuaeth "bil- liards" sydd yn myn'd yn mlaen mewn hotel neillduol; ond pan gyrhacddasant yr hotel mi 'roedd y foncddiges yn brysur yn ystyried y darpariadau gogyfer a chiniaw Gwyl Dewi Sant, ac felly mi fu raid iddynt aros am gryn dipyn o ameer cyn ei gweled; ond mi 'roedd y ferch yn grocsawus dros ben. Rhoddodd nhw i eistedd ar set gyfforddus yn y "bil- liard room," a dyna He 'roeddynt yn eistedd yn un rhes a golwg fliiiedig iawn arnynt, a'r wningen facli yn eu alla1. Wedi hir aros, cawsant weled y foneddiges, ond methasant wneud bargen am y wningen, a chvchwynasant tua chartref. Pan acthant i mown i'r tren, dyna Mistar Ted Jones, neu un o'r dynion eraill fydd yn hel tocynau jn hawlio tocyu am y ci. "Nid ci ond gwningen ydi hi," meddai Tomos. "Dim o'ch lol (hi, neu mi alwa'i ar Mistar Wynne," meddai v dyn mewn bevtymau arian. Ar hyn, dyma Mistar Wynne, y stationmaster, i fyny, a chaniataodd iddynt fyn'd ar yr amod fod nhw yn myn'd yn syth at Mistar David Garic, yn Llandudno, gael iddo fo benderfynu p'run ai ci ynte cwningen oedd ganddynt. Chefais i mo ddyfarniad y Barnwr Garic mewn pryd i'w gyhoeddi yn y llith yma, ond feallai y cawn ni hamdden eto. P'run bynag, mae Di"c Jones am gadw ei olwg ar y saethwrs, gan fod nhw yn gwneud defnydd llith reit dda pan fydd materion eraill yn brin. CINIAW SIOPWRS LLANDUDNO. Mae siopwrs a masnachwyr eraill Llandud- no wedi bod yn cael ciniaw mawr hefo eu gilydd yn hotel Mistar Chantrey, a chawsant wledd arddcrchog. Mi fu yno gryn siarad ar wahanol bynciau ar 01 ciniaw. Y cyntaf i ddweyd y drefn oedd Mistar Jim Jones. Cym- erodd fantais ar yr achlysur i gwyno fod rhai pobol yn Llandudno a'r cyffiniau yn myn'd yn rhy falch i ymuno a'r "Territorials." Dv- wedodd mai y gweithwyr oedd y dynion oedd yn cymeryd y dyddordeb mwyaf mewn milwr- iaeth y dyddiau hyn. Wir i chi, mi siarad- odd Mistar Jones yn reit dda, a dywedodd y drefn yn bur hallt am y modd 'ryda ni yn trin ein hen filwyr yn y wlad yma. Wrth gwrs, mi 'roedd o yn teimlo bod o ar dir sail gan mai milwr oedd yn llywyddu y noson hono, sef Doctor Davies, a mi 'roedd ynt-a wrth ei fodd wrth wrandaw ar y milwr yn deyd y drefn. 'Toedd Mistar Bevan ddim yn foddlawn clywed y milwyr yn ei chael hi ýn unig, a dechreuodd ynta ddweyd y drefn am -3. ein llynges. Yn ol Mistar Bevan, toedda ni ddim yn adeiladu haner digon o longau rhyfel mewn cydmariaeth a Germani. Wir, i chi, mi gafodd Mistar Sam. Bartley a'r Cyng- horwr Hugh Edwards fraw ofnatsau wrth wrandaw ar y ddau siaradwr yma, ac mi fu raid i Mistar Denbigh Cooper roddi can er mwyn eu swvno nhw. BARDD NEWYDD LLANDUDNO. Wedi hyn, mi gododd un o'r enw Chin- nack i ddysgu siopwrs Llandudno sut i drin busnes. Siaradodd yn effeithiol iawn, a dysg- odd amryw wersi gwerthfawr i'r cwmni. Wir, i chi, mi gafodd gymaint o ddylanwad ax Mis- tar Hughes (Arnold) nes torodd y brawd allan mewn barddoniaoth. Ar ol i Mistar Hughes orphen gwneud barddoniaoth, dyna Mistar Lance yn codi i groesawu y dyeithriaid, ac mewn atebiad iddo rhoddixld Mistar Johnson y cyfraithiwr, rai cynghorion buddiol i'r cwmni. Testyn araeth Mistar Johnson oedd "Rhydd i bob dyn ei fam, a phob barn ei llafar." Ar ol i Mistar John Roberts roddi clod i'r Cadeirydd, terfynodd y cyfarfod. Wel, y mhobol i, ar ol cyfarfod o'r fath yma, mi fyddwn yn arfer a mcddwl beth 'ryda ni wedi gael heblaw diffyg treuliad. A yda ni wedi darganfod rhywbeth o'r newydd a fydd yn fantais i ni yn y dyfodol? Ar ol edrych trwy weithrediadau y cyfatfod yma yn fanwl, mi 'rydw i wedi darganfod dau beth newydd, sef areithiwr campus a bardd galluog -yr areithiwr yn mherson Mistar Jim Jones. Dangosodd Mistar Jones fod o yn meddu ar ddawn a gallu i fod o wasanaeth i'r wexin. Hefyd, mi 'rvdw i yn cymeradwvo Mistar Hughes (Arnold) fel is-archdderwvdd i BAvyll- gor Eisteddfod Colwyn Bay, os bydd Dy'fed yii mcthu dwad. P'run bynag, mae Die Jones am gadw golwg ar y ddau frawd yma erbyn bydd o yn gwneud ei Cabinet nesaf. Wel, rhaid terfynu fy Hith yn awr. Ed- rychwch allan am cardia Nadolig Dic Jones yn y "Pioneer," yr wythnos nesaf. DIC JONES.
MATERIO.N ADDYSG YN FFESTINIOG.
MATERIO.N ADDYSG YN FFESTINIOG. .PWNC Y DA WNSIO. Cyfarfu y llywodraethwyr canlynol ddydd Mercher yn yr Ysgol Sirol: Parch John Owen, M.A. (cadcirydd), Parch John Hughes, Mri R. Walker Davies, B.A., Dr. R. R. Evans, Andreas Roberts, Mrs Jones, Isallt; W. R. Vaughan, Maenlwrcrg; Morgan E. Phillips, B.Sc., Miss Jones, Mr F. P. Dodd, M.A. (prif athraw); a Mr Edward Jones (clerc cynorthwyol). Mr Dodd a hysbysodd y trefniadau oeddid wedi eu gwneud at ranu y gwobrwyon a'r tystysgrifau. Yr oedd Mrs Lloyd George a Mr William Jones wedi addaw dod atynt, ac felly gwell oedd cael y cyfarfod yn y neuadd yn hytrach nag yn yr ysgol.—Ar gynygiad Miss Jones, a chefnogiad Mr Hughes, cadarn- hawyd y trefniadau. GRANTS PIERCE. Darllenwyd llythyr oddiwrtlr Ymddiriedol- wyr Pierce's Grants, yn cydweled i un fyned i Jennie Williams, Glaslyn Temperance, New- borough-street; ond methent a gweled eu ffordd yn glir i gydsynio yn achos Owen Mor- gan ac Ellis Hughes am fod dedfTyd y Barn- wr yn erbyn hyny. TREENU DARLITHOEDD. Yr oedd y Penrhyn yn gwneud oais am rhai o'r darlithoedd sydd yn nglyn a'r coleg- au cenedlaethol.—Y Clerc a hysbysodd fod swm o arian i'w gael at amcan o'r fath.—Mr Dodd a ddywedodd na wnaed dim eriocd yn y cyfeiriad gan y llywodraethwyr. Y Cynghor Dinesig a wnacth y trefniad gyda Mr G. J. Williams pan fu'n darlithio ar ddaeareg.-Ar gynygiad Mr Phillips, a chefn- ogiad Mr R. Walker Davies, pasiwyd i anfon at gyfeillion Coleg Aberystwyth a Bangor gyda'r amcan 0 gael darlithoedd ar destynau arbenig.—Pasiwyd i awgrymu daeareg, am- aethyddiaeth, garddwriaeth, a chadwraeth gwenyn fel pynciau buddiol i gael darlith- oedd arnynt. HELYNT Y DAWNSIO. Yn nglyn a gwaith y llywodraethwyr yn rhoddi caniatad i ddefnyddio yr ysgol bob nos ener i ddysgu dawnsio 0 bump o'r gloch y prydnawn hyd ddeg y nos, darllenwyd pen- derfyniad o eglwys Bethesda yn gofyn i'r llywodraethwyr dynu y caniatad yn ol. Ilefyd o'r Cynghor Dinesig yn gofyn i'r lly- wodraethwyr ail ystyried y mater a phasio ponderfyniad o newydd arno; ac o Gynghor yr Eglwysi Rhyddion yn anghymeradwyo gwaith y llywodraethwyr yn gosod yr ysgol i amcan o'r fath. Ar ol trafodaeth faith a bywiog, caed saith yn erbyn tynu y caniatad yn ol.
----BWRDD ADDYSG Y DOSBARTH.
BWRDD ADDYSG Y DOSBARTH. Cyfarfu y Rheohvyr Addiysg1 canlynol ddydd Iau,-Parc,h J. RAiydwen Pany (cadeirydd), Parol) John Onvcn, M.A. (i»-g'j<deirydd), Hugh Jones, Parch John. Hughes, Dr. R. Roberts, W. J. Williams, Paroh J. D. RicimrdB, Mri M. R. Morris, Owen Jones, Richard Roberts (Llan- dccwyn), Dr. It. Jonos, Andreas Roberts. R- Robeirt&-Jonce, Ellis Hx^gihes, John Cadwaladr, J. Lloyd Jones (ieu.), Mias Jones, Mr Edwa-rd Jones (olerc cynorthwyol), Uri \Vm. Evans a. W. liaim Jones (.swyddogion presenoldcb)- Y PREKEiNOLDEB. Mr" William Evans a gy flwynodd ei adixiddiad am y ran ddinesig o'r dosbarih. Ar y llyfrau 1987, oyfaitalodd presenoldeb 1732: 11-ai ar y llysfrau o 157 nag ydoedd yr un amso-r y Uynedd- Yr oedd saith ytigol yn y dofibarth anriliyd'eddu-s, un yn y dtabiaith cyntaf a dwj yn yr ail ddos- bartih. Y mwelodd a 347 o xieni plant oeddynt yn a.b&enoli eu hunain o'r ysgolion^ a chaiodd fod 263 o'r plant yn sAl.- Mr William Jones a adreddodd am y ran wledig o'r dcabartbh. Ar lyfrau yejgoJion y Cyng- hor, 1010, eyfartal-ed-d pre«enoidtb, 854. id oodd ond fair o'r y ago lion Egl\v^,sig yn agorcd ac ar lylraiu y rhai hyny yr oodd lbO, a cliyfa-r- taic-dd y presenoldeb yu 131. Yegoi Maentwrog yn g'auedjg oherwydd a £ eohyd yn mysg y p ant. Y"r oedd puinj) yn y dosbart.h anrhydeddus, ped- war yn y doobartih. cyntaf, a dau yn yr ailddos- barth. Ymivolodd a 160 o rieni, a ciiaiodd fod 116 o'r plant yn sal. Arg'jmeliai y pvvyli.gor i roddi byt.hefnos o wyliau i'r plant yn deohrou Rha.gfvr 24ain. Mr Owen, Croecror, a awgrymodd i'w ysgol ef g'a.u dim ond wythnos, a ctoydsymwyd a'r cais. Ii ys- byswyd i'r ysgol hon fed yn hir yn gauediig Oiherwydd aliethyd yn niysg y i>!ianit- BEISTllYG YR YSGOLION. Gwnaeth y Pwyllgor Ariajiol yr argymeilion canlynol: — Fod Ysgvil y Bechgyn, Maenofferen, .'w chan- iaiau at wasanaeth y cor cymysg t m tp 10s y flwyddyni a parti Prysor i gael benthyg Yygol 'lVawsfynydd am sv lli y noson, 'l' un leierau i fed i Gymdeithas Icrcas Ffestiniog, St. Martha, Blaenau, a Cor Tal. aniau i ym u-fer at Wyl Gerddoioi II ar- lech-—Ysgol Talsarnau i'w chael at yn nglyn a Chymdeithas Ymdi-ooh (Jraf.y.ldol am 1.cn 2s 6c-~Ysgol Tanygrisiau i G lwb yr Odydaicn am ddwy bunt y flwyddyn; ac Ysgol y Ll-,in -Y Gymdeitha-s Ddadieuol ddwy noson yr wythn<.s am Is 6c y noson. Ar ol trafodaeth, m&bwysiadwyd r a>t,7»i. ell- ion. Argymellai y pwyllgtir i ganiatau cab Mr B. Ellis Hughes i gael codicd yn ei gyHog. LV-'ie^d codi 5i> iddo. PORTHI Y TLODION. Y Cadeirydd a gynygiodd eu bod yn gwneud oais a.t Bwyllgor Addv.sig' y Sir i roddi y ddeddf mewn grym 1el y gelhd darparu ymborth i'r plant fydd mewn angen am hyny. Ffuriiwyd p\v v 11 ;.1or y gauai diweddaf a gwned oryn wui th gyda cliyiranu ymbortii a rhoddi esg-idiau i blanit anghenus yn y Biaenau. Yr oedd 1 lawer iawn o bLaTht yn dyoddcl eisiau yanborth cyf- addas i'w cymwyso at dderbll eu liaddystg yn yr ysgolion. Yr cedd y nifer lucsooaf o lawer o r aono.-ion yn tarddu o ajngy lchiadau cyfyng a g'wasgedag y rhieni. Dr. Jones a gefnogodd. Gwyddai am enciliod gweini yn Llundain ocddyntt weai clywcd am aiigcn yn mysg plant y lie, ac yr oeddynt yn cas-gliu gy.J'a'u g'li'jdd i anfon eu rlicdd i'r aaii- can da hwn. Mr J. Cadwmladr a ddywedodd i tua 60p gael eu gwario y UyncJd gyda phorthi y plant. Mr Hu-gh Jones a ofynodd. sut oeddynt yn myned i wneud mewn achosion lle'r oodd y rhieni a'r plant yn dyoddef yn ddistaw, ac na fuasent yn dymuno i'w plant g^vel edryxJi arnynt fel rhai angenus. Pobl oneat, ymdrechgar, ond a'u hamgylohiadau wedi myned yn waog-ed- ig. Y Parch John Hughes a aiegai y cynvgxad yn galonog' iawn- Gallai ef siarad oddiar bix:.fiad am y tlodi a'r iarigen oedd mewn lluaws mawr o douluoedd yn yr ardal. Nis geilid myncd ar hyd yr hoolydd heb weled ar wynebau lhvydion y" plant. nad oeddyitt yn cael digon o ymbort'h, ac yr oedd eu traed blancr noethion ar y towydd ystonmus jire^enol yn a^lio at galon pob un o honynt. CJafwyd prawf o barodrwj'dd ca-redigion i gyfranu trwy y rhcdd ddaeth dros y Werydd i law Mr Roberts, Aelybryn, ac yr oedd lluaws o bobi gtaredig yn p-trhau i gyfranu yn ddist-aw i'r drysorfa. Ar "cJ eiai-ad iwllach, pasiwyd y cynygiad yn unirydol- Y MA DAW i AD AEI/OD. Y Cadeirydd a gyfeiriodd at yniadawiad y Parch John Owen. Gcfidiai ef yn fawr golli un o'u pJiith oedd yn yniroddoJ i waith addysg yn y cylch a'r sir, a'i llyddkmdeb yn Iwy na llawer ohonynt. lZhcKidodd wasanaeth ddyfal a i?,d<llon. a dyanunai gynytg fod cofnodiad yn cael d wneud o'u gwcl':híawro¡;'jad o'r llafur a'r yniroddiad hwnw. Mr Owen Jones a gofnog-odd yn wi-eeog. Pasiwyd y cynygiad yn g-alonog. Mr Owen a !g'ydna.byddodd yn ddiolohgar. Diolchai iddynt am y oyfle a rodd a.ian:t idilo i gyd-wasanaethu a hf%4ij, i wneud d;aioni. Hyder- ai yr elai y gwaith dai yn ei fiaen yn eu plith, ac y parhai yr ardal yn ei sel gydag addytfg.
Marw Gweinidog Cymreig.
Marw Gweinidog Cymreig. Nos Sadwrn, yfn KangoHen, bu farw v Parch Moses Roberts, gAve^inidog capel y Bedyddwvr, Castle-street, Llangoiien, ac efe ond 40 niiwydd oed. Hrodor o Dlanf-airbailraiaxn cedd oøf. a bu'n afhraw yno am gyfnod. Addysgwyd ef yn Nfholeg IilangoJlen, ac ordeiniiwyd ef yn wein- idog a ireglwys Seiooi, Ffestiniog. Bedair blvn^dd yn ol ymadawodd i Llangollen. Yr oodd yn Bmgeithwr rhogoroi- Cymeir ei ajigl'add le yn mynwent y Fron, Ll'aJigojlen, ddydd Mercher.
[No title]
Am dori Deddf Pysgota Eogiaidj dirwywyd tri o ddynion o'r enwau Edwards, Williams, a Tho- mas i 10s yr un a'reosfcara gan ynadon Rhubliyn ddfcdd Llun.
HEDDLYS BLAENAU FESTINIOG.
HEDDLYS BLAENAU FESTINIOG. YMOSODIAD HONEDIG. Dydd Iau, o flaen Dr. R. Roberts a Mr Cad- waladr Roberts. -Di rwywy d J. Ephraim, R. Davies, ac R. Owen am feddwi. Gydag achos Hugh Morris Hughes, High- street, Blaenau, a gyhuddwyd o fod yn feddw ac afreolus Tachwedd 27ain, dywedodd y Cadeirydd eu bod yu gohirio ei achos am chwe' mis, ac yn ei rwymo i gadw'r heddwch yn y swm o ddeg punt. TROSGLWYDDO TRWYDDEDAU. Mr R. O. Davies a alwodd sylw y llys at drwydded y Commercial Hotel, Blaenau. Yr oedd ef yno i wneud cais am drosglwyddiad y drwydded 0 enw Miriam Eynon i enw Arthur Phillip Davies; ond gan nad allai Mr Wil- liam George fod yn bresenol yr oeddynt yn cytuno i wneud cais am obiriad hyd lys arall. •—Caniatawyd gohiriad. Mr D. White Phillips a wnð gais am drosglwyddiad trwyddcd y Manod Hotel 0 enw Elizabeth Catherine Davies i enw James Clec.—Caniatawyd y cais. YMOSODIAD HONEDIG. John Roderick Jones a gyhuddodd William Henry Lewis 0 ymosod arno.-Addefodd y Difiynydd iddo afael yn ngwddf yr achwyn- ydd i'w droi o'i dy.—Rhwymwyd y ddau i gadw'r heddwch, a'r diffynydd i dalu y 9s 6c costau. CAIS AM WYS YN ERBYN TRI GWESTWR. Yr Heddgeidwad Owen Jones, Llan, a gy- huddodd Griffith Parry, Dolwen, Tanygrisiau, o fod yn feddw mewn ty trwyddedig, Pen- gwern Arms, Ffestiniog.—Mr R. O. Davies a ddywedodd ei fod yn ymddangos dros yr heddlu yn yr achos hwn, a'i fod yn gwneud cais dros y Prif Gwnstabl am wys yn erbyn dalwyr trwyddedau tri gwesty yn Ffestiniog, ar yr honiad iddynt werthu diod i'r diffyn- ydd, ac yntau yn feddw.—Addefodd y Di- ffynydd y trosfdd.-Dinvy Is a 7s 6c o gostau. Y Prif Gwnstabl a ofynodd am lys arbenig Rbagfyr 23ain i wrandaw yr achos yn erbyn y gwestwyr, a chaniatawyd hyny.
Nedion t) Glip y Gop. ----
Nedion t) Glip y Gop. (Gan "Wil y Gweithiwr."). BLODEU EITHIN. Aeth mejrcli ieuano o'r ardaiccdd hyn un tro i a.ros i Fanceimon. Pan y cychwyiuodd yno nis gallai siarad ond ychydig o'r iaith fain, ond wecli bod yno am xa; na Üwy iiynedd yxnifroal- iai wrth amfo-n at ei pherthyiiasau gartref ei bod wedi co.ii ci holl Gyinraeg. Un diwrnod anfon- odd J-,a at ei mbam i'w hysbysu ei bod yn bwriacLu dyfod am dro i'r hen wJad, gyda'r tren un oedd yn cyrhaedd Prestatyn; a dy.munai ar ei brawd ddyfod yno i'w chyfarfod- Aeth yntau, ac er ei fawr syndod dymunai Jane arno siarad yn Saesneg, am nas gallai gorio gair o iaith ei niham. Ond pa sut buiia. pan y daeth i olwg mynyddoedd ei hen guru et gwaeddodd ar ei brawd, "0, Tom, look at the bkxlou eithin." Wedi'r cwbl cfallai rns gwyddai Jane beth oedd blcden eithin yn Saesneg. Mae lie i ofni y oeir ambcll un tobyg iddi hyd y dydd llwn. JACK DDYLAI GAEL YR llOLL GYFLOG. Flynyddau yn oi yr oedd hen foneddwx yn dal fferm f4wr. Cadwai lawer o weithwyr, ac yn eu mysg hogyn a eJwid Jack- Pan elai i cdrych beth oedd y dynion wedi bcd yn ei wneuthur, yn fynych canfyddai a.mryw beti>au nad ocddynt wrth ei fodd,. "William," meddai wrth un o'r gweithwyr, "nid ydyw y peth a.'r peth wedi ei ivneuthur yn briodol. "Hwyrach, syr," atebai Wiliiam, "canys Jack yr hogyn a'i gwnaeth." Aeth yr hen foneddwr yn mlaen at weithiwr arail a chyfanchodd ef, "Nid fel hyn y dylasedh wneud y job hon." "Wel, eyr," meddai yntau, "nid y ii a'i gwnaeth, ond Jack." Aeth yn mlaen at bob un o'r dynion, a gwelai wall yn ngwaith pob un o honynt, ond yr un esgusawd oedd gan bob un, set mai Jack a'i gwnaeth. wel," meddai yr hen foneddwr yn y di- wedd, "mi weiaf mai Jack sydd wedi cyilawni yr hoJl waith yr wythnos hon; felly, dydd Sadwrn, efe fydd bia'r holil gvAe-g." CI MARW YN CYFARTII. Gwelais fod rhyw broffeswr wedi liwyddo trwy arfer t.rydan i gael gan gi marw i gyfarth. Gwarchod anwyl, beth a ddaw o honom ar ol hyn? Y mao ¡-'oW yn cael eu hatlonyddu yn liawn ddigon ar eu cwsg gan gyfarthiadau cwn byw, heb i gwn marw ddechreu ar eu n.adau; ond bydd yn saith gwaeth arnom os Jiwydda i gathed meirw wneuthur ccrnadau ac i gami eu deuawdau gyda'r rhai byw. EI HEGLAU I FYNY. Pan oedd Dafydd iiolant a chyfailt iddo ar eu teithiau pregethwroj hyd y wlad, er mwyn cu oroesawu byddent yn cael cywion be r we dig yn mhob man, nes yr oeddynt wedi eu syrffedu ar- nynt. Ar eu ffordd i amaethdy sibrydai Dafydd Rolant wrth ei gymrawd, "Ai tybed na chawn gyfnewidiad bwyd yn y fan yma, dywed 7" W-edi mymed i mewn ac euotedd wrth y tan yn y gegin i aros tamaid, gwelant hen groehan ar y tan, ac wedi cae! ceiii yr hen wraig cododd Dafydd Rol- ant y couad a gwelai ynddo gyw yn berwi. "Wel. wel," meddai wrth ei gyfaiil, "dyma hi wedi dar- fod arnom eto, canys dyma fo i ti a'i heglau i fyny J'n disgwyl- am danom- Byxldaf yn ofni cyn diwedd y mis nesaf bydd nobl -all wedi cael eu syrffedu ar dwrw yr ethohad presenoJ. Ewch chwi i unrhyw fan y dyddiau presenol, 'does dim i'w weled ond y orochan ar y tan a,'r Bwdget o dan y ceuad. Dywedai y diweddar Barch J. R. Kelsby Jones, ar fater arall, "mai frortiwu rhai pobl yd:yw eu oegau." Feilly fe ddylai 12awer wneu- thur eu ffortiwii wedi'r et'holiad presenol, os paid eu tafodau a throulio ymaith. Camp fawr ydyw penderfynu pwy sydd wedi ei eni ar y blem-ed lwcub, canys mae digon o ser i'w cael yn v ffurf- afen nas gafodd neb trwyddynt, am a wn i, Iwc crioed.
Cenhadaeth Bryniau Cassia.
Cenhadaeth Bryniau Cassia. Y mae MisB Davies, Treborth, wcdi cyfranu 500p tuag at y gost o adeiladu "sanatorium" yn Shillong ar p)-fer y cenhadon ar Fryniau Cassia a.u teuluoedd.
Marw Syr Alfred Jones
Marw Syr Alfred Jones TYWYSOG LLONGWRIA-ETH LERPWL. Nos Lun, yn ei drigfod yn Aigburth, Ler- pwl, bu farw'r Cymro ernwog uchod wedi gwaeledd byr. Ganwyd ef yn 1845 yn Nghaer- fyrddin, ond aet-h i Lerpwl yn bur ieuanc; a chan ddechreu ar y gris isaf mewn swyddfa llongau esgynodd nos cyrhaedd y saffe uchaf fel llywydd rhai o'r cwmniau mwyaf. Cymerai ddyddordeb mawr yn nad- blygiad gorilewinbarth Affrica, a chyfranodd yn hael at wahanol acliosion gwladol ac eluscn- ol.
ADLAIS-
ADLAIS- Do, bu Cymru dan y tonnau. Gwolodd lawe-r noeon ddu, A gruddfanodd yn ei hing'oedd Am yr am^r dedwydd fu; Yn ei bofn ai pheen gofynodd Gyda hyder llawn a flyùd, "Cotia, Arglwydd, dy ddyweddi, Llama ati fel yr hydd." 03 bu'r gwylwyr ar y muriau. Os bu'r Eglwys dan ei Ices, 09 dioddefodd edliwiadau Y gelynion trwy ei hoe<3; Clywyd llais y drvVjfol gariad Yn oyhoeddi uwch ei phen, "Dme bec-li-adur bu dy Geidwad ufu-dd ar y pren." Gwol y bachgten teg yn marw, Gwrendo ei oohenaid ddofn, A sibiydion cudd ei enaid Glywir bicn gan faint pi ofn; Ond daw g-waavr I!,r enaid hwnw, D'wed yn groew yn y glyn "0, fy enaid, ood dy olwig, Gwel yn arnim-g ben y bryn." Gwel wyd teulu tlawd mewn bwthyn Dan gy«igV>dion mynydd mawr; Gwynt y dwyrain fel yn bygwth Chfwryt.hu'r aruyld glyd i lawr; Clywdh eu lleiaiau tlws yn canu Yn y sfcorom fwyaf gaed, "Dyma babell y cyfarfod, Dyma gyrnod yn y gwaod." Coleg y Bala. W. JOHN JONES (Lfcnfair P.G.)
Advertising
J W. T. NEWM3N, { Floral Hall, LLANDUDNO, CALLS special attention to the large and varied stock of XMAS GOODS the following being the finest money can procure. NEW CRYSTALLISED FRUIT. 1-lb. Boxes Extra Choice, 1/6 per box. 2-lb. „ Extra Extra „ 3/- „ 4-lb. „ Extra p 5/G M METZ FRUIT. 1-lb. Boxes Extra Extra Choice, 1/4 per box. 1-lb. Choice 1/ Hb. « Extra Extra Choice IOd. 4-lb. w Choice 8M. „ ±lh- « „ 6d, L ELVA PLUMS (Round Fruit). Finest, I-lb. Boxes, 1/6 per box. fit CARLSBAD PLUMS (Stoneless Fruit). 1-lb. Boxes Extra Choice, 2/ 171b. n d 1/ FPT&CH PLUMS. 2-lb. Bottles Extra Choice, 3/- per bot. 2-lb. Choice 21- 1-lb. „ „ 1/6 COOKING DO., 4d., 5d., 6d., and 8d. per lb. CRYSTALLISED ORANGE AND FIG SLICES. 1/3 per Drum. (SPECIAL). FtGS. New Extra Choice Locoum (very fiaf fruit), 2!-lh. BQxes, 3/- per box. 2 Do. Fine Choice 1/- per box là-Ib. a Do. Extra Choice (Flat), 1/ 1/3 & 2/- bolt Small Boxes, 4d. and 6d, TURKISH DELIGHT. Genuine 6d. Small Dru M 1/- Large „ r CARMA CARAMELS. (More Delicious than Chocolate), 1/2 per pound. 4-lbs. for 41. XMAS CRACKERS. TOYS, FIREWORKS, JEWELS, GAMES, Etc., EtA 6d. to 5/- per box, FLORAL DEPARTMENT. FRESH FLOWERS and FOLIAGE DAILY. Wreaths, Crosses and Designs made order on the shortest notice. | Amas Presents. | For Useful, Serviceable k 11 and Seasonable Goods, yK TRY \8 I W. S. WILLIAMS (Llanrwst) Ltd., § | LONDON HOUSE, LLANRWST. | I New London House, Blaenau Festiniog. ii ? < t .lJD' | g PI.{ -q JII-{ JII-{- 'U
Ffraethebion.
Ffraethebion. Yr oedd Snett, y chwareuwr enwog, yn treulio noson gyda'i gyfcillion, pan y cod- odd gwr ieuanc tra hunanol i roddi can er mwyn difyrweh i'r gwyddfodolion. Canodd yu druenus o wael. Pan ofynodd i Snett sut yr oedd yu leicio ei gan, dywedodd Snett: "Wel, syr, y mae eich can fel y frech wen." "Sut feily:" ebe y dadganwr chwyddedig. "Y mae yu rhagorol o beth," ebe Snett, pan y mae drosodd." Ffromodd y llencyn yn aruthr, ac apeliai at y cwmni, ond cynghor- ent ef i beidio tynu ychwaneg yn mwa gwrth- wynebydd mor beryglus ag oedd Snett, ond ni wrandawai. Ar hyn cododd Snett ar ei draed, ac yn nghanol chwerthin cyftredinol dywedodd fel y canlyn:- Dywedir fod elyrch yn canu cyu marw— Nis gwn i ai gwir ydyw hyny, Ond da iawn fuasai'n wir, pe digwyddasai I lawer dyn farw cyn canu. Yr oedd Foote a Quin-dau chwareuwr o enwogrwydd mawr—wedi bod yn gyfeillion mynwesol dros lawer o flynyddoedd, Ond oblegid rhywbcth neu gilydd, magodd math o oerfelgarwch rhyngddynt ar un tymhor, ac ymdrechcnt gadw rhag dyfod i gyfarfvdd- iad a'u gilydd. Ond rhyw dro, yn hollol ddamweiniol, cyfarfyddodd y naill a'r llall mewn lie nad oedd modd osgoi, as estynodd Quin ei law, fel arwydd o heddweh, ac ys- cr gydwasant ddwylaw yn eerchog. Ar cl ychydig o ymddiddan dywedodd Foote: "Quin, nis gallaf fod yn ddcdwydd hyd nes i mi gael dweyd un peth wrtliyt." "Dywed,' ebe Quin, "a bydd ddedwydd." "WeI," ebe Foote, dywedaist wrth Mr Ss, y diwrnod o'r blaen, nad oedd genyf ond un crys, a fy mod yn aros yn fy ngwely nes i hwnw gael ei olehi." "Na ddywedais i yn siwr i ti," ebe Quin; "na ddywedais i, ac i brofi i ti ei fod yn beth cwbl anmhosibl i mi fod wedi dweyd y fath beth, ni feddyliais erioed fod genyt grys i'w olchi." Pan yn ciniawa yn nhy boneddwr, He yr oedd Esgob yn bresenol, yr oedd Foote yn liawn ysbryd, ac yn ddoniol dros ben, fel yr oedd yn myned a sylw yr holl gwmni. Teimlai yr Esgob yn lied ddig wrth weled hyn; ac ar ol disgwyl yn hir iddo, uywed- odd o'r diwedd: "Pa bryd y rhydd chwareu- wr acw i fyny bregethu, ysgwni?" "0 fy arglwydd," ebe Foote, "y foment y gwneir cf yn esgob!" Deon Swift, wrth bregethu mewn braivdl ys ryw dro a fflangellai y eyfrelthwyr yu ddi- drugaredd am ddadleu yn erbyn eu eyd. wybodau. Ar ol ciniaw, dywcdai rhyw ddadleuydd ieuanc bethau cas am y eleng- wyr; ac yn mhlith pethau eraill, dywedai, "Nid wyf yn amheu pe byddai i'r cythraul farw, na cheid rhyw glerigwr a bregethai bregeth angladdol iddo. "Mi wnawn i, ebai Swift; rhoddwn ei haeddiant i'r cyth- raul megis ag y gwnaethum a'i blaut yn y boreu."
"PAN MAE'R PLANT MEWN DEDWYDD…
"PAN MAE'R PLANT MEWN DEDWYDD HUN." Pan ruae'r nos yn ddistaw nesu, Codi wna y lleuad dlos, Ac wrth deimlo'r chwaon lxwyrol, Plyga meillion ar y rhos; Clwda'r awel seiniau swynol, 0 gyfeiriad bwthyn cim, Mam sy'n peraidd suo-ganu, Nes yr elo'r plant i'w hun. O! boreuddyda hyd y cyfnos, Ifoll ofalon mam sy'n gudd, 'RoI cynghori, 'rol ccryddu, Cusan serch i'r plant a rydd; Cariad a deyrnasa'n benaf, Ar y teulu bach, cytun, A tlieyrnatea mewn gogoniant Pan mac'r plant mewn dedwydd hun. Tra maent hwy yn tawel huno, Anghof yw gofalon byd- Megis tad mae Duw yn gwylio, Dros ei anwyl blant o hyd; Llcddfa Ef eu blin ofidiau, A'i gyfamod gwna hwy'n un, CarJ, hwy pan font yn effro, Cara hwy pan font mewn hun. Byth ni huna'r Hwn sy'n caru, Tra mae'n dwylaw yn ddiwaith, Myrdd fendithion Ef a ddyry, Gwylia ni drwy'r ddunos faith; Pan mae dydd ein bywyd drosodd, Hunwn enyd bach bob un, Wed'yn, yn y gwynfyd bythol, Deffro wnawn o'n dedwydd hun. W. H. E.
[No title]
Dydd Sadwrn, rhanwyd y gwobrau yn Yr-gol Elwy Hall, Rhyl, gan Lady ReictheL, Bangor. Yn ystod nos Sul, lloegwyd pobty yn Colwyn Bay a gwnaed 00 lied o 20p yn y Btoc a gedwid ynddo. Dyfarnodd y Barmvr Moes 300p o iawn i Mis Hewitt, Ooimah's Quay, mewn cynghaws addyg- odd yn erbyn penchenogion yr agerlong "Duchess" am golli ei givr, yr hwn a foddodd yn y Fcnai tia Rhagfyr diweddaf.
Advertising
"ANTIQUES." R. S. JOHNSON, 41 4., High Street, Conway. A large and varied collection of OlfS English and Welsh Furniture, Chinjk Embroideries, etc., is now on view the above newly-opened premises. Owners of genuine Antiques desiroagj of selling would oblige by sending a post card or calling at the above address. .J MUSICAL. MR. BRYAN WARHURST A.R.C.M., L.R.A.M., Organist and Choirmaster oi St. Thomas' Churchy Rhyd; Choirmaster of St. Paul's Church, Col- wyn Bay; Singing Master. County School, Rhy], etc., etc. ORGAN, PIANOFORTE, SINGING, AND VOICE PRODUCTION HARMONY THEORY. Pupil" prepared for all examinations. Latest succLSses. 29 Successful Candidates (R.A.M-. and R.C M.) fpom July, 1908, to December, 1909. Special coaching fur L.R-A.M. and A.R.C.M'. Diplomas. Preparation personally, or by post. A complete course of Practical and Theoretical Work- Papc, set to cover the whole ground of Voice Production and Pianoforte Teaching. VISITS COLWYN BAY and OLD COLWYN TUESDAYS and FRIDAYS). Haydn House, Rhyl. 25759p MR F. GURNEY BARNETT, L.R.A.M., A.R.C.M. Teaching Singing. Teaching Pl&nofoi-te. (Former Pupil in London of R. J. Pitcher, Esq.* Mus. B., F.R.C.O., etc., Professor at the Guildiiall School of Music). Conductor of the Colwyn Bay Philharmonifi Society and Colwyn Bay Ladies' Choir. LESSONS GIVEN in VOICE PRODUCTION!, SOLO SINGING, PIANOFORTEN and ORGAN PLAYING, HARMONY, COUNTER- POINT, Eto. Candidates prepared for all recognised Exam* inations and c-,oriipetitions. -Addrwo: Normanhurst, Lianerch Road, COLWYN BAY. 1- mr ptier dwards, mUS. ISac (ptdr jilaw), Musical -J djiuhcatot\ Festival Conductor,etc ABERGELE. IMPORTANT NEW WORK. "11..1 ATlüAL ABU:! OF W A.LES. The Music Edited & tho Words faithfully translated by Pedr Alaw. To be Published by bUB- bOKIPTJON, the Names appearing in tlie Volume. Price 5/ Both Notations used. Sand for Prospectus to Tlifc CAXfj,, PilKSS, LTD., HAxaOR. CONWAY QUADRILLE BAND. Violiui, c Cello and Piano (augmented if necessary), Large Repertoire of all the latest dance music; open to engagements for Bal1 Private Dances, etc.—Terms apply, John H. Stott, 2, Oswald-road, Llandudno Junc- tion. 26136p PIANOFORTE. SINGING. HARMONY. P. W. MATHERS, A.R.C.O. (formerly for 16 years Organist and Choir- master at Lymm Parish Church;, "BAYCLIFFE," SEAFIELD-ROAD, COLWYN BAY. PREPARATION for Examinations. Many B past Successes. Lessons at own or Pupils Residence. Moderate Terms. 26126p FRED. ROBERTS k SO. House Furnishers and Removers II GET OUR ESTIMATE FOR Your Removal, Renovating Suites, Blinds, &a. Upholstering Goods, AND Bedding made up by us. TERMS :-CASH OR EASY PAYMENT* PEN-Y BRYN OLD COLWYN.