Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

, AT EIN DARLLENWYR. -

News
Cite
Share

AT EIN DARLLENWYR. Anfoner pob gohebiaeth i'r GOLYGYDD CYMREIG, "Pioneer, tT F(:r. DAN SYLW. CYMRAEG Y PWLPUD. Yn Nghymdeithasfa Chwarterol Methodistiaid Calfinaidd y De, a gynhaliwyd yr wythnos ddi- weddaf, yn Ngheinewydd, cwynid oherwydd y Cymraeg gwael a diffygion gramadegol rhai o'r ymgeiswyr at y weinidogaeth, a phenderfynwyd fod sylw yn cael ei roddi i hyn. YR ESGOB A'R MESUR. Wrth areithio yn Leicester, nos Lun, datgan- odd Esgob Peterborough fod y Mesur Trwy- ddedol yn gwbl deilvrng o gefnogaeth. Ceid anibell glerigwr yn deisyf arno beidio pleidleisio dros y Mesur, ond ni chaent yr effaith leiaf arno ef oherwydd na ddygent yn nilaen unrhyw res- ymeg droa eu caia. • s JOB MILES. Un o weinidogion cuaf a melusaf yr Annibyn- wy- yw'r Parch Job Miles sydd ers dros ddeugain mlynedd yn bugeilio eglwys Baker-stred, Aber- ystwyth. Yn ddiweddar ymneillduodd o'r ofal- aeth, ac fel teyrnged iddo am ei ddyfal lafur cyhyd cyflwynwvd iddo anerchiad gorwveh a 260p. a # MERCHED CHINA. Er y tybir fod China yn mhell ar 01 gwledydd eraill mewn gwareiddiad, eto ceir yno fwy 0 newyddiaduron dyddiol i ferched nag mewn odid wlad arall. Cyhoeddir pedwar yn Canton, pump yn Shanghai, ac nid oes brin dref o bwys heb wasg ferchetaidd ynddi. Yn gyffredin cynyrchir y newyddiaduron hyn yn hollol gan y rhyw deg. 0 Y DDIRPRWYAETH EGLWYSIG. Gohebydd Llundain y "Manchester Guardian" a ddywed: "Disgwylir y gelwir cyfarfod o'r Ddirprwyaeth Eglwysig Gymreig yn fuan i dra- fod yr adroddiad, ond nid oes dim pendant yn wybyddus. Mynegir fod llawer o'r tystiolaethau wedi eu crynhoi gan yr ysgrifenyddion, ond nid yw y Dirprwywyr wedi cyfarfod er mis Awst. Nid yw'r rhagolygon y cyhoeddir yr adroddiad y fiwyddyn hon felly yn ddisglaer iawn." IADGOF DYDDOROL. Siaradai Mr Asquith yn Leeds noe Sadwrn. Y eadeirydd oedd Arglwydd Airedale ac adgofiodd y cynulliad iddo lywyddu dros gyrddau pedwar prif weinidog vn y ddinas hono, sef Mr Glad- stone, Arglwydd Rosebery, Syr Henry Campbell- Bannerman, a Mr Asquith. Nododd ffaith ddyddorol arall, sef i Mr Gladstone gael ei ethol yn A.S. dros y dref cyn rhoddi ei droed o'i mewn, yr hyn oedd yn achos o falchder i'r gwleidyddwr enwog gydol ei oes. o FFESTINIOG YN BIRMINGHAM. Dydd Mercher, yr oedd llechi o Chwarcl Maen- offeren yn cael eu hanfon i arddangosfa Bir- mingham. Hefyd, y mae cwmni Chwarelau Oakeley wedi anion "clytiau" yno i'w hollti a'u naddu er mwyn yr edrychwyr, Mr Owen Ro- berta, Towyn-road, Ffestiniog, yn myned yno i hollti, a Mr W. J. Thomas, Cwmbowydd-road, i naddu. Hefyd, mae Mri John Elias Morgan a J. Jacob Jones wedi gwneud "slate-fans." Mae to o'r llechau i'w wneud gan Mr W. C. Williams, slater, Blaenau Ffestiniog, fel, rhwng y cyfan, bydd chwarelau Ffestiniog yn cael cynrychiolaeth dda yn yr arddangosfa. 8 CONFUCIUS. Eilun y Chineaid yw efe. Dathlwyd ei ben- bJwydd ar y 27ain o'r wythfed Ilocr, sef ar yr 22ain o Fedi yn y fiwyddyn hon. Rhoddwyd gwys swyddogol i bob sefydliad cyhoeddus fod yn gauedig, i bob Chinead ymprydio am ddiwrnod, i bawb atal rhag troseddu, a gwahorddid lladd unrhyw anifail. 0 hyn allan, fodd bynag, rhaid ymprydio dridiau ar achlysur ei bcnblwydd, a gorfodir pob Chinead, boed Gristion neu beidic, i blygu glin i Confucius o leiaf unwaith bob blwyddyn. YSTRYW MERCIIED Y BLEIDLAIS. Cyhuddwyd tair o'r "Suffragettes" yn Llun- dain dydd Llun o achosi cyhoeddiad llawlen yn eymhell y cyhoedd i dori'r gyfraith trwy wneud xhuthr ar Dy'r Cyffredin am 7.30 nos Fawrth. Gohiriwyd yr achos. Yn ystod oriau man bore Llun, gosododd aelodau Cynghrair Rhyddid y Merched fur-leni ar luaws o adeiladau cyhoeddua y Brifddinas ac ar dai Iluaws o aelodau Seneddol yn "galw ar y Llywodraeth i roddi pleidlais i ferched yn ystod y tymhor presenol." It a • MEIRION AC YMGEISYDD LLAFUR. Gohebydd i'r "Herald Cymraeg" a ysgrifena: Mewn cyfarfod mawr o'r gweithwyr, yn Mlaenau Ffestiniog, nos Sadwrn, sicrhawyd gan wr geirwir y bydd i ymgeisydd Llafur ddyfod allan yn yr etholiad nesaf am sedd Sir Feirionydd yn y Senedd. Ychwaneg, hysbyswyd fod gan y Blaid Llafur sicrwydd am ddigon o arian i gadw aelod yn y Senedd. Mynegodd y Parch R. Silyn Roberts, M.A., nad oedd ef mewn unrhyw fodd a'i fryd am sedd yn y Senedd, fel y dywed rhai, ond yr oedd yn barod i weithio dros egwyddorion y blaid. a 1 MASNACH YN MIS MEDI. Y mae y Bwrdd Masnach newydd gyhoeddi ffigyrau masnach am fis Medi. Wele'r mgyrau:- Yr oedd y dadforion yn 48,028,207p, oynydd o 2,692,756p, o'i gyferbynu a Medi y llynedd. Yr oedd yr allforion yn 31,621,206p, lleihad o 3,534,114p, o'i gyferbynu a Medi y flwyddyn ddi- weddaf. Y mae lleihad o dros filiwn o bunau yn yr allforion i'w briodoli i nwyddau cotwm yn unig. Dengya y cyfrifon am y naw mis yn diweddu Medi 30ain, fod cyfanswm y lleihad o'i gyferbynu a'r llyn^ft yn 39,000,000p, o berthynas i'r dadforion, a throe 33,500,000p o berthynaa i'r »llforion. » • • • » • • • SYR H. DRUMMOND WOLFF. Dydd LIun bu farw y gwleidyddwr enwog hwn. Efe sefydlodd y "Fourth party" weiOiredwld fawr ddylanwad yn y Senedd am gyfnod. Kai blynyddau yn ol cyhoeddodd gyfrol o adgonon, ac y mae'n orlawn o ddyddordeb a straeon da. Wele un :-Ar achlysur ymraniad pwysig yn y Benedd bu'r Chwipiaid yn ddyfal i sicrhau presenoldeb pob aelod o'u plaid. Digwyddai un A.S. fod ar y pryd yn gaeth mewn gwallgofdy. Gan fod angen pob pleidlais trefnwyd i ymofyn yr A.S. gwallgof i'r Ty ar yr awr bwysig. Daeth y truan a chymerwyd ei ofal gan y Chwip. Pan ddaeth adeg pleidleisio llwyddodd y Chwip i ddenu y truan ar draws y lobi i roddi ei bleidlais trwy gerdded o'i flaen gyda darn o gyfleth yn ei law i'w hudo ar ei ol. t CYRDDAU DIOLOH. Cynhelir y cyrddau hyn yn mhob parth o'r vlad y dyddiau hyn, ac nid oes dim yn arddangoa gryfed gafael fedd crefydd ar y bobl. Gwelir yn bresenol ynddynt luaws a esgeulusant gapel ac eglwys gydol y flwyddyn, a nodweddir y gwasanaethau gan wresogrwydd ac undeb dy- munol. Ceir mewn lluaws o addoldai gynyrch y maes, yr ardd, a'r berllan yn cael eu har- ddangos, a'r olwg ar y cnydau a'r ffrwythau yn •ymhorth i offrymu mawl o galon frwd am y trugareddau a geir mor gyson. Nid oes olygfa harddach na lluoedd yn esgyn i Seion i roddi aberth moliant am y daioni ac yn gwrando gwersi a chymhellion y cenhadon ar derfyn y cyn auai SWYDDOGION IECHYDOL Y GOGLEDD. Cyfarfu y awyddogion uchod mewn cynhadl- edd yn Prestatyn, ddydd Sadwrn. Dadleuid y dylai y Cynghorau dalu treuliau eu swyddogion i'r cynadleddau hyn. Darllenodd Dr.Lloyd Roberts, Colwyn Bay, bapyr yn adrodd ei brofiad fel swyddog meddygol am 30ain mlynedd. Dyw- fedai na ddylid arllwys carthion i'r mor, am y dylai Cynghorau trefi glan y mor gadw eu traeth yn lan ac amddiffyn ymdrochwyr.

RHEDEGFA MARATHON.

Llith Die Jones. I

Newyddion Dyddorol.1 -

C.,'"Bwrdd y Lienor."""::

Nodion o Glip y Gop.

MARWOLAETH ALAW MYLLIN.

EWYLLYS GWEINIDOG CYMREIG.

Y METHDALWR A'R USURWR.

ARE YOU THIN?

------0 Ben y Gareg Ddu.

Tan yn Plas Llechylched.

Brawdlys Mon ac Arfon.

Merch yn y Senedd.

iSK 5wyddfa Cofrestru y Pioneer.

[No title]

MR IDRJS YN EGLURO-

BLAENAU FFESTINlOa

-----PRNMACHNO A'R CWM.

--TAFARNAU~STR DDINBYCH.