Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
Manion o'r Junction.
Manion o'r Junction. Blin oedd clywed am y ddamwain ddigwydd- odd i Mr Job Lea, 9, Avallon-avenue, boreu dvdd Iau diweddaf, yn ngoraaf y rheilfforud. Ymddengys ei fod gyda'i oruchwylion yn rhoddi gypynau yn un o'r trens, pan ddisgynodd darn enfawr o bren ar ei draed, gan ei yn do-st Cludwyd ef gartref, a da yw deall ei fod yn gweUa gystal a'r disgwyliad. Dyrnuinvn iddo adferiad buan. • • Bu amryw o'n trigolion yn wacl eu hicchyd, ond y maent. yn gwella'n araf. Yn eu phth ceir Mri John Williams, Preswylia; Thomas Hugl6, McKinley-terraoe, a J. Caswallon Davies Avallon-avenue. Mae'r olaf yn bwriadu myner i Southport un o'r dyddiau nesaf er mwyn cael adgvfnerthiad i'w iechyd. Gobeithio y bydd ei arosiad yno yn foddion i'w ddwyn l w gynenn iechyd, canys dyoddefa er s talm o amser beuacti :lie Mae Mr Joseph Thomas, 6, MeKinley-terracc. wedi giadael ein hardal, a myned i drigianu i Cilfynydd, Deheudir Cymru. Er na fu ci arosiad vma ond rhyw ddwy fly.nedd a haner eto gwnaeth iddo ei hun lu o g'yfeillion mynwesol, a bu bob ams-cr yn barod I gynorthwyo pob achos da yn ei llaen.. Bydd colled mawr ar ei ol yn eglwys Annibynwyr Broad-street, lie y bu yn aelod gweithgar a. defnyddioJ. Yr tcedd yn geixldor gwych, ac yn gynorthwy inawr gj'da l ca,uu cynulleidfaoi. # Nos Ferchcr diweddaf cynullodd lluaws o gyfeillion y Parch D. J. Jameti i orsaf y rheil- ffordd i ifarvvolio ag ef ar ci ynxadawiad. Ym- ddengys fod ci arosiad byr o wyth mis o amser wedi bod yn ddefnyddiol iawn i'w eglwys, a chyflwynwyd iddo cyn ymadael anrhegion gwevth- fawr fel cydnabyddiaeth o'i lafur. ¥ » Nos Wcner diweddaf, yn addokly y Presbyteriaid Saesoneg, cvnhaliodd L'anghen-gymdeithas Ddir- westol Cwmni y London a North-Western gyfar- fed misol, pan y daeth cynulliad lluosog o'r ael- odau a'u cyfeillicn yn nghyd. Y cadeirydd apwyntiedig ydoedd Mr R. H. Edwards, gorsaf- feistr Deganwy, ond ni allodd fod yn bresenol; gan Í1yny, cymcrwyd ci lo gan Mr John Evans, y cyn-orsaf-feistr, yr hw.n sydd yn hen ddir- westwr selog, ao wedi gwneud llawer yn ystod ei oes faith dros ddirwest ar y rheilffordd ac yn gyhoeddus. Gwnacth ei ran fel cadeirydd yn ganmoladwy iawn. Cyfranogwyd o lun^cth a. ddarijarwyd gan for.cddigesau y gymdeithas. Cafwyd wedyn a-droddiadau a chaneuon swynol gan Miss Powell, Mcistri W. Davies, W, Parry, R. Williams (Llew Tw rog), .ac eraill. Bu Mr G. Lu.nn, Availon-avcnuc, hefyd mor garedig a rhoddi detholiad a.r ci gramophone nes swyno pawb. Treuliwvd noson ddifyrus dros ben. Mae y cyfarfodydd hyn yn myned yn fwy pob- loglaidd bob tro, ac yn gwncud lies mawr. Mae hyn i'w briodoli i ymdrechion egniol y Meistri T. Wynne, y gorsaf-foistr; J. Powell, Bread- street, a'r ysgrifcnydd gwcithgar, Mr Thomas Hughes, Avalion Avenue. Nos Wener nesaf ]jeriformir y ddrama Cymi-eig "Rhys Lewis" yn Neuadd Drefol Conwy. Gobcithiaf y bydd llaw- er yn dal ar y cyfleusdra hwn, i welcd camp- waith Daniel Owen, y nofelydd enwog o'r Wydd- grug. Mae y pwyllgor wcdi myned i draul fawr i sicrhau y cwmni enwog hwn 0 Di'e*- ffvnon, a hycldai yn galondid mawr iddynt weled y neuadd y.n orlawn o wrandawyr astud. » Mater sydd wedi myncd yn ddistaw iawn ar hyn o bryd ydyw y priodoldeb o gael neuadd gyhoeddus yma- A ydyw Cymdeithas y Treth- dalwyr wedi ei gadael allan o'u rhaglen? Os bu unrhyw fan eisieu neuadd gyhoeddus mae ein hardal ni mewn gwir ang!n am y fath adeilad. gan fod cynifer o gymdeithasau fyr o 10 i gynal eu cyfarfodydd. Gobeithiaf y caiif y mater pwysig hwn sylw dyladwy yn fuan. ARDALWR,
Nodion o Glip y Gop.
Nodion o Glip y Gop. (Gan Wii y Gweatliiwr.) LLANASA. Yn nghapel Wesleyaid y Groes cynhaliwyd cyngherdd poblogaidd. Y peth oedd yn newydd! yn nglyn ag; ef ydoedd fod y caneuon yn oael eu hegluro trwy gyfrwng y "magic lantern." Credwn fod oynllun o'r natur hwn yn fanteisioi ia.wn i grcu nllwy o ddyddorcleb yn miysg pawb. Y fonoddig/es oedd yn cymeryd gofal o'r "magic lantern" ydoedd Mrs Ilopwood, priod y Parch R. Hopwood, gweinidog y gylchdaith, a dy- wedir ei bod yn neillduol fearus, yn gystal ag mewn cyfeiriadau eraill. Cafwyd gwasanaetih parties o Gwaenysgo-r, Newmarket, a lleoedd oraiill mewn canu, a rhoddir canmoliaeth udhel i baw-b. DYSERTH. Pobl vvecthgar sydd yn byw yn y lIe hwn. Cynhaliodd yr Eglwys Bhvyfol y gyfres gyntat o wasanaethau y Garawys yn Gymraeg a Saes- neo- a cfilywsoan fodl yno gynulieidfa da, a uha'wb Djpwn y.sbryd addoli. Hefyd dywedir fod boneddige&au yr Eglwys wrthi yn brysur y dyddiau hyn mewn darparu ar gyfer nodachfa o fwriedir gynnl yma yn yr haf. Cy far fod ymdo'iriedolwyr y Wesleyaid, a ddyg- "wvd yn mlaen yma dydd Mcrcher. Cafwyd fod v "sefvllfa arianol yn foddhaol, a'r achos mewn lewyrchus. Diolchwyd yn gynes i'r swydd- ogion am eu gwasanaetih yn y mynedol, ac ail- erholwyd hwy. re t ± Yn ysgcidy y plw^f cafwyd hefyd! gyfarfod to ac adloniant gan gyfeillion y Methodistiaid Cal- finaidd. Y boneddigesau a gymerodd arnynt <Mi hunain V cyfrifoldeb ydoedd Misses Mary WHliaL, Lizzie Wslliains, E. A. Lewis, Maggie Lewis a Mary Newton, a darparwyd yr yin- borth gan Mrs Edwards, Iliraddug Cottage; Miss E. A. Lewis, Central-terrace; Miss Ro- berts Bryn Einion; a Miss S. E. Jones, Hira- ddug'-terraoe; gyda chymorth chwiorydd eraill eglwys. Wedi hyny cafwyd cyngiherd.d rhag- orol o dan lywyddiaeth Mr H. Ivor Eames. Y personau a gymferasant ran ynddo oedd Mrs Ivoir Eames, Miss Davies, Marian Bach; Miss Williams, Chvyd Villa; Miss S. E. Roberts, Pen Isa; Mr Jones, Cwm Mr John Williams, Hyf- ryd'le; a Mr Roger H. Lewis. Cafwyd yn yoh- wanogol gystadleuaeth mewn sillebu, canu, 110 areitlhiio byirfyfyr, ac enillwyd v ga.mp gan Mr J. A. Parry a Mr Herbert A. Jackson. Elai yr elw i drysorfa sydd mewn gohvg gan y frawd- oliaeth, a deallwn iddynt gael swm boddhaol. GWESPYR. Yn mynwent Uanasa claddwyd yr hen bererin Edward Hughes, "Coed." Yr oedU wedi oyr- haedd yr oOOran o 81 mlwydd oed. Gwa«an- aiethvvyd ar yr aelilysur gan y Parch W.'L. Protheroe, y bugail plwyfol, yr hwn sydd yn bur gymeradwy yn mysg ei blwyfolion Cynhaliwyd oyfarfod pregethu blynyddol y cyfeillion, M.C., pryd y cafwyd gwasanaet h gwerthfawr y Parch J. Tudno Williams, Dinbyoh, a'r Parch W. Rowlands, Acrefair. Cafwyd ood- faon grymus a chynulloj'.dfa lluosog. LLENYDDIAETH ISEL CIIWAETII. Traddododd Esgob Mestyn, Mineva, brawd i Syr Pyers Mostyn, Talacre, anerehiad difrifol yn ei esgoibaeth ar y peryglon sydd wrth ddarllen llenydldiaeth isel cliwaetb, ac wyr pawb sydvl yn adnabyddus o Esgob Mostyn, pa beth bynag a gymero yn ei law i'w wneutfour, y rwna tÓ holl yni. Felly y bu y tro hwn: cafciqd dar- llen llenyddiaeth a chwaeth amwys ei cberyddu yn ddiarbed ganddo. Fel eiraill o dd^nion da. eu hoea cred Esgob Mostyn fod llvfrau da yn gyfeillion da. i'w dilyn, ond fod lyfrau drwg yn gymdeithion drwg, ac yn y diwcd'd yn arwain 1 ddinystr. Y roao gan eraill o arwoinwyr yr oes heblaw y gwr pardhedig achos i ddyrchafa eu iliaia ar y mater h w
Llith Die Jones. Ii
Llith Die Jones. Ii GWYNTOEDD MIS MAWRTH. TROI SAESON YN GYMRY. Dal i chwythu mae gvvyntoedd mis Mawrth, a phetha rhyfedd sydd yn cael eu chwythu o gwm- pas hefyd ar hyn o bryd. Mis y Cymry ydi mis Mawrth, oblegid ar y diwrnod cyntaf o'r mis mao awydd ar bob dyn i fod yn Gymro, hyd yn nod taea. fo yn Scotyn, Gwyddel, neu SaitO. Myn wisgo'r genir en, a. deyd, "Sut ydachi heddyw ? ac "lechyd da, bob un," trwy r dydd. 0, ydi, mae'r holl fvd yn ciddo i Gymru ar Ddydd Gwyl Dewi Sant. Daljed yr awelon Cymreig- i chwythu trwy'r flwyddyn yw fy nymuniad i, achos does mo'u hiachach hwy. Ond nid felly y bydd hi. 0 na, mi ddaw yr haf tDc-y tymhor hwnw pan fydd pobol Llandudno, Colwyn Bay, Rhyl, a Uefydd eraill yn anghofio eu Cymraeg, ac yn troi cu cefnau ar he.n iaith fy mam, gan addfoii y Seeeon ac estroaiiaid eraill. Rhyw greadunaid rhyfedd yda ni, ynte, mhobol i? TROI SA1S YN GYMRO. Fel y dyTwedais or blaen fed gwynt Mawrth yn chwythu Cymreigdod i feddvliau llawer Sais druan. Yn y Junction clywais fod Mistar Irlam wedi bod yn deyd mewn aracth odidog yn nghin- iaw Gwyl Dewi Sant fod o yn Gyrnro o waed coch cyfan. A mi roedd o yn brolio y Cymry, yn enwedig dewrion yr oesoedd gynt—Llewelyn ap Gruffydd, Gwyr Harlech, Meibion Glanmor- gan, ac felly yn y blaen. "Os na choeliwch chi mod i yn Gymro, gofvnv.ch i fy iigwraig," medda, fo. Mao yn wir fod Mrs Irlam y.n Gymracfi ond pan ofvnodd Doctor Foulkes i Mistar Irlam beth oedd o yn ei feddwl wrth arfer y gair "Ap yn Llewclvn Ap Gruffydd, mi fu raid iddo fo ofyn i Mistar Robert Johnwn ateb y cwe«tiwn. Ond prun bynag am hyny, mi roedd araorh Mie- tar Islam yn cael y fath ddylanwad ar y cyfarfod nes aeth Mistar Gray allan o'r ystafell rhag cfn iddo gael ei droi yn Gymro fel Mistar Irlam ac eraill. DEWI SANT YN ARDDWR. Yn yr un cyfarfod mi roedd Mistar Clwyd Griffith yn deyd y drefn am anwybodaeth y Sae- son am Dewi Sant. Dywcdodd fod rhyw olyg- ydd Saesneg wedi gofyn iddo fo: "Pwy ydi y Dewi Sant yma y mae cymaint o son am dano fo? —tydi o ddim yn adverteisio yn ein .newydd- iadur ni." Dywedodd Mistar Griffith hefyd fod Mistar Denbigh Cooper wedi deyd wrtho fo mai garddwr oedd Dewi Sant yn tyfu oenm. Er mwyn i Mistar Cooper, Mistar Norbury, a Sao- son craill gael eu goleuo ar y pwnc aeth Mistar Griffith yn mlaen i adrodd hanes bywyd yr hen sant, pwy oedd ei deulu, lie ganwyd o, ac felly y.n y blaen, a mi aeth Mistar Denbigh Cooper a'i ffrindiau adref i Llandudno wedi deall fod yr hen sant Cymreig wedi bod yn rhyTwbeth heblaw garddwr yn tyfu cenin. Mi gafodd y cyfarfod yma y fath effaith nr Mistar Mackinlay Davies.nes aeth o yr holl ffordd í Corrigvdruidioti yr wythnos wedyn i gymery J rhan mewn ciniaw Cymraeg. TEGANWY A'R CADEIRYDD. Sais arill y chwythodd gwynt Mawrth waed Cymreig i'w wythienau am un ncson oedd Mistar Greenfield, Tynycoed, Tywyn. Ncs Iau diwedd- af bu Mistar Greenfield yn gadeirydd mewn cyfarfod cystadleuol y.n Gianwydden, a chafodd hwyl ardderchog yno. Teganwy cedd yn arwain y cyfarfod, a chymerodd faniais ar yr achlysur i ddeyd tipyn o'r drefn am y Saeson. Dywedodd nad oe-ddynt yn cymysgu digbn hefo'r Cymry. Wrth gwrs, toedd Teganwy fawr o feddwl fod Mistar Greenfield yn deall beth oedd o yn ddeyd. Ond toe i chi, dyma Mistar Greenfield yn codi i draddodi ci araeth o'r gadair. Dywedodd fod gan bob plentyn Cymraeg a. Saesneg ofn Teganwy yn enwedig 05 oeddynt wedi bod yn chwareu I truant. Gwelodd Tcganwy ar u.nwaith fod Mistar Greenfield yn ei adwyn p, ond cafodd fraw pan aeth y cadeirydd i siarad ychydig o eiriau yn Gymraeg, ac i frolio "hen iaith ein mam." Terfynodd Mistar Greenfield ei araeth hefo'r canlynol y.n Gymraeg:—"Am yr aur mac yn rhaid ymoroJ, heb yr aur bydd pawb ar ol." Ac yn ol fel rydw i wedi clywed mae pot-,clo Glamvydden am gymeryd cynghor Cymraeg Mistar Greenfield i ys'iyriaeth. FFARWELIO A CHURAD. Am wn i toes yr un lie wedi dioddef gymaint oddiwrth wvntoedd ffyrnig mis Mawrth a Llan- dudno Junction, obleg'id nos Iau diweddaf chwythwyd un o ddynion mwyaf anwyl a phob- logaidd yr ardal. sef y Parch T). J. James, ailan o'r Junction ar ei ffordd i Ddeheudir Affrica. Mi fydd yno golled fawr ar ei ol, yn ol fel rydw i wedi clywed gan "Ardalwr" ac eraill. Mae rhai pobol yn deyd fod yr Eglwys yn colli gafael ar y bobol yn Nghymru, ond pe tasa rhai o'r bobol yna ar bJatform y Junction nos Iau mi rydw i yn meddwd y basa nhw yn newid eu meddyliau y.n bur fuan. Dyna lie roedd y platfform yn orlawn o brif ddynion a merched yr ardal, yn nghydag amryw o blant bach, wedi dod i ffarwelio a'r curad oedd yn cychwyn ar ei siwrnai i wlad dramor, a mi roedd dagraj yn llygad ami un y noson hono. Mi roedd Mr Ellis Jones Griffith, A.S., yn sefyll wrth law, ao yn edrach fel tasa fo yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr olygfa. Synwn i ddim tasa yr aelod dros Fon yn newid ei feddwl am Ddadgysylltiad ar ol yr hyn a welodd nos IAU. Gadawodd Mistar James v Junction hefo'r tren wyth, gyda'r dymuniadau goreu am ei hvyddiant. yn y wlad bell. Mi fydd yn hwylio o South- ampton ar yr 28ain o'r mis hwn. Gwy.nt teg iddo fo yw gwir ddymuniad Die Jones. DWYN VISITORS COLWYN BAY. Mae gwynt y Junction wedi chwythu i Colwyn Bay yma nes cynhyrfu y bobol. Mi wyddoch fod ni yn Colwyn Bay, fel pobol Llandudno, yn dibynu i raddau h-clae-th iawn ar ymwelwyr, a mi ryda ni wedi gorfod ymladd yn galed iawn yn erbyn pobol Rhyl a Llandudno, neu mi fasA y trefydd hyny yn dwyn ein visitors ni i gyd. Ond rwan dyma wynt. Mawrth wedi chwythu gelyn arall i'.n blino ni, sef Cymdeithas Treth- dalwyr y Junction. Ma nhw yn treio mynd a'r visitors oddiar Llandudno a Colwyn Bay. Y dydd o'r blaen gwelais lythyr svdd yn cael ei gyhoeddi gan y gymdeithas uchod. Wrth ddar- llen y daflen gwelais fod nhw yn brolio ffyrdd y Junction y.n ofnatsan, a fod yna le ar dop y daflen (space for view) i roi Ilun Queen'si-toad. Wir, mao yn rhaid i ni dendio ein hunain yn CoEvyn Bay yma, yn tnwedig er's pan ma nhw yn brysur y.n tori ein ffyrdd ni i fyny i wneud lie i'r trams, a pheipiau dwr. Mae y daflen yn gofyn i visitors dreulio eu holidays yn y Junc- tion gan fod yno le mwy heddychlawn a distaw na Llandudno a Cholwyn Bay. Wei, wn i ddim I beth i ddweyd iun hyn. Bob tro rydw i wedi bod yn y junction mae yna rhyw helynt neu gilydd o hyd. I YR HEN DORI. Pon yn niynd ai-i i-iro y (lydd u'r blacn t-yfar- fyddais a hen ffrynd. Bobol anwyl, mi roedd o yn deyd v drefn am y Bil Trwyddedol mae y I Llywodraeth yn dreio basio. "Hen Dori ma. nhw yn fy ngalw i," mcdda fo. "ond os ydi y Bil Cwrw vma yn e-siampl o waith y Wigs, mi rydw i y.n falch o'r enw Tori." Aeth yn nilaan i ddeyd mai anghyfiawnder mawr oedd codi pns cwrw y gweithiwr, ac na wnai. I' wlad fyth di- oddef y fath beth. Dyna syniadau fy nghyfaill ar y pwnc, a toedd wiw i mi ddweyd run gair yn ei erbyn o, achos tydw i ond yn ddyn bychan iawn wrih ochr y cyfail]. Er hyny, un o'r dy.nion clenia welodd Llandudno ericed ydi fy nghyfaill a phob amser am chwareu teg i bawb. Felly, chwareu teg iddo fynta fod yn hen Dori 03 dyna ei ddewisiad. Mi rydw i yn disgVyl Mr Robert Johnson ym3 bob inunud i gael scwrs ar y "Small Holdings," felly rhaid t.erfynu yn awr. DIC JONES.
. ; Galwad c'r America.
Galwad c'r America. j Derbyniodd Mr Arthur Llewelyn, rr.jfyriwr jxi Ngh-oieg Duwinvddol y Methodistiaid, Aberyet- WVM, alwad i fugeilio eglwys Fethodistaiski Gym- rcig JoiuKloTH-n, Per.nsylvania.
! | Deufis sni Ladrata.
| Deufis sni Ladrata. Gerhron. ynad-on Troffynoo, cdydd Liun, caed William Jones, cyn-liiwr, Llaiieilwy, yn euog o ladraia oriawr a.ur a ohadwen, yn nghyda phwrs yn cyiiwyg 12e, eiddo William Taplin. Penyfeiin, Nannerch. Priodolai y cyhuddedig y troeedd i feddwdod. Anfcnwyd ef i gajchar am ddeufis gyda liafur caied.
¡-----------! Cynghaws o-…
¡ Cynghaws o- Benmachr-o Caer, Yn Mrawdlys Caer, ddydd Linn, gwnaeth Mr Ellis Griffith sylw ar gynighawg Roberts yn erbyn Wiliiaons am atiirod. R'heohvr chwaaei Rhiw Fachno ydoedd yr erlynydd, a'r diffynydd yd- oedd Ellis Lloyd Wiliiajne, t2iwr, Lian, Pen- maehno. Sylwodd Mr Griffith fod ci gyiaill dy(-iged:g, Mr R. A. Griffith, ar ran y diffynydd, wedi cytuno i dynu yn ol yn hoiiol ac ymddi- heuro gan dalu y ewm o 5p a'r costau. Mr R, A. Griffith a ymddiheurodd yn liawn ar ran v diffynydd am iddo gyhoeddi neu achoei cy4ioedd- lad y materion y owymd o'u plegid. Rhoed dyfarniad yn unol a hyny.
Ymosod ar Wraig ar y Mynydd.
Ymosod ar Wraig ar y Mynydd. Daw hanea aim ymoisodiad ar wraig vn Nant y Ga-rth, Sir Ddinbych. CnDcTth le c-s, r ca'.r wythnos ddiweddaf, citlir cndwcdd yr heddgcid- wG.id y gyfrinach hyd yn awr yn y gohaith y gallesid dal yr ymo^odydd. Tra yr oedd Mrs Edith Williams, Ty'nypwli, Llandegla, yn cyfeirio adref o Pent-re Ceilyn ym- oeodwyd ami gan ddyn a dybid oedd dan ddy- lamwad diod. Gafaelodd yn ci mantell, a chan ei gosod gylch ei phen eeisiodd yr ymoeodydd ei mygu. Yna gofynodd iddi a oedd ganddi bres, a phan ateixxld nad oedd parhaodd i'w chamdrin. Yn ol a dd'ywed y wraLg bu mewn ymdrech a'r dyn a.m odd,cum awr. C re fodd arno i'w gollwng, ac ar oi hir ddeisyf gadawodd hi. Rhocd llettv iddi mewn Hetty oyfagos. a bore tranoeth rhoes hysbyarwydd i'r hedd>geidwaid. y rhai sy'n chwilio am yr ymosodvdd gyda gwys i' w ddal.
---------------------Dirprwywr…
Dirprwywr Cymreig i Gymru. Dywed "Gohebydd Llundain" y "Manchester Guàrdian :Pa;¡ tiff dirprwy-aeth o'r aelod au. Srneddol Cymrcig a-t Lywydd Bwrdd Amaeth- yddiaeth i ofyn iddo benodi Dirprwywr Cymreig dan Ddeddf y Man-dyddynod, y mae genyf refwin drcs gredu y bydd Arglwvdd Carrington yn. 'abl i'w hynbysu ei fod wedi cymeryd y blaen arnynt ac y bydd penodiad Dirprwywr gailluog i scar ad Cymraeg a ch-d-,ia-bv-c"Iuc, a. eefyllfa amaethyddol Cymru yn cael ei hysbysu o law."
PENMACHNO.
PENMACHNO. G WAKLBDD.—Dirwg genytm am waeledd Dr. W. Michael Williams., Mcstyn Villa, ar adeg pan y nm-e gal-w mawr aim ei waeanaeth. Ein dyanun- jad yw ar iddo gael adferiad bum). CYFARFOD YSGOL. Bu y SIri David Hiighet-, Richard Evanf, a Richard Lloyd yn cynrycihioli eglwys Rhydymeirch mewn cyfarfod yegol (M.C.), yn Peitr-hrwddolion. MARW YN AAIERICA.—Derbyniwyd y new- ydd trist o'r America am farwoloeth Mrs Ellen Jones, merch i'r dldiwedidar Ellen Jo-nee, Tan Rhiw, a chwaer i Mr David Jones, Rhydygro, gyda'r lr.vn y mae cin cydymdcumlad pe-naf. WEDI EU CLOI.—Yr codd olwynion masnach wedi eu cloi yn Cwt-y-Biigail, yr wythnoe ddi- weddaf, gan yr eira; hofyd cafodd Rbi-Vi Bacdi ci hat^i ddiw;rnod, end yr oedd .pefch.au ychydig yn well yn Rhiwfaehno, gan ei bod ar y gwas- t.adodd. D.A3IWAIN I'R TRACTION ENGINE—Dydd Mawrth, fetl yr o-edd y traction engine yn myncd a llwyth o gerig i orsaf Lliajirwst, torodd y brif echel pan yn myned i fyny yr edit wrth y Maoh- no Hoitel, ac yna. dcchrouodd rcdeg yn oi, aa onibai i'r wagen. olaf groesi y ffordd a'i h«utial, gailafiai fod wedi gwneud gaianastra mawr. At- aJi wyd y drainidnaeth am beth ame«r, a bu raid cael traction engine o Lannvst i syrniKl y rhwystr c, r g w n-bad y ffordd yn glir. CYMDEITHAS EGLWYS Y C^'M.-CynhaJL iwyd yr utshod nos Iau, dan lywyddiaeth Mr Wnl- I li.anus. I ddechreu, cafwyd gair gan y Llywydd. Yna awd yn mlaen fel a ganlyn :-Ton gyffredin-: ol. Adroddiad, "Dowch adref, fy nhad," Miss I A. Daviei?. Can, "Yn iach i ti, Gymru," Mrs E. Owen. Darllen darn he-b ei a talnodi: goreu, Mr J. Evane. Adroddta-d, "Rhoi plentyn ar bea ei ffordd," Mr E. Evans. Cvfiek.hu o'r Gymraeg- i'r Saesncg: goreu. Mr J. Evans. C^yetadilenaeth canu ton ar yr oliwg gyntaf: goreu, Miss Parry. Beirniadaeth y penillion: goreu, Mr Owen. Ad- roddiad, "Robin Gooh," Mies Maud ^A illiame. Am fwyaf o eiriau yn dechreu gyda r lythyren "Ch. goreu, Mr J. Evans. Terfynwyd trwy ganu enl37 IL MARW YN AMERICA. Dyfymir a ga-nlyn o'r "Drycih Americanaidd — Jones.—Ohwefror 6, 1908, yn So-uth Delta, Md., Aire Ellen Jones. Yn Penmachno, G.C., y ganed ac y ma,gwyd hi. Daeth i'r wlad ihcn yn y Bwyddyn 1897. Yr oeddn a hoffid gan -Ni chlywais erioed ond yr un syniad am dani, ei bod yn ddistaw, digon heibulus fu ei bywyd, end yr oedd hi yn da,l trwy y cwbl, a diau ei bod wedi myned i wlad y taiwclwch tragwyddoJ. Yr oedd yn aelod orefyddol yn eglwys Rchoboth. Bu yn gystudd- iol a.m fie,oedd, end cymerwyd y gofal tyneraf o honi yn ei chyrtudd gan oi runch. Gsdawodd mewn gallar un ferc-h a. dau fab, heifyd dá-u frawd a chwaer yn ardal West Bangor, Pa.. a 11 u o berthynasau. Yr oedd yn chwaer i'r diweddar R. r: Jones, Ysw. Yn briu Mwyddyn y bu fyw ar ei ol. Daeth tyrfa barchus a lhiosqg 1 dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion ar "y 9fed. Gwasanaethwyd yn yr amgylchiad gan y Pa.r(m W. C. RowU-ands yn Rehcboth, ac ar Jan y bedd. Gwir briodol i'r amgylchiad oedd ei destyn, "Ac yno y y T¡ ILuddedig. Caiff lw hi'thaw orphwy,? oddiwrth be,b llafur yn mynwent Slatville hyd ganiad yr udgorn.—W. C. Roberts.
Advertising
I EYES! WHAT eyes? eyes? "HER eyes." This charming Presentation Picturfe, by M Randall, NOW HEADY. Re produced in colours. Size,23in. by 17in. Will be sent free tor 50 outaide wrappers from blocks, or band labels from tins, taken from W. G. Nixey's goods. If id. wrappers sent. 101) rtculred. ) Prerbus Pictures, HELENA and JULIA," will be out of niint bv March next SAVE YOUR WRAPPERS. W. G. NlXEY, 12, Soho Sauare, London, W. NIXEY' S .REFINED BLACK LEAD fn Id., M.. d. and s. sizes. I NIXELENE STOVE I Id. and Std. tins. I I jJNO. L. HUNT, J Pharmaceutical Chemist end Optician; Conaiay Hd., Golotyn Bay Depat for Photographic fiepisiis. Dark Room for use of Aiuateani. ¡ Sight 7.esting Daily by Appointment j AGENT FOR j Henry Lawrance's Celebrated j SPECTACLES 0 EYEGLASSES. j Nickel Plated, Gold Riled, and Gold Frames. I Telephone 0197 COLWYN BAY. D. A lien (§■> So?is Cabinet Manufacturers, Upholsterers, AND COMPLETE House Furnishers, 6&7, STATION ROAD FUNERAL FURNISHERS. LARGEST STOCK OF Furniture, Carpets, Linoleum, Bed" steads, &c., in N. Wales. 8769 -l SAMUEL BQfiD & SONS, Joints, Builders and Contractors, SHOP & OFFICE FITTERS, AND General Repairers ol Property, t GREENHOUSE MAKERS, MIDDLETON VILLA, Belgrave Road. Colwyn Bay. ESTIMATES FREE Nat. Tel. 2*. G. MARFELL, GENERAL AND FURNISHING IRONMONGER. Electric Lighting, Plumbing, Gasfitting. RANGE AND HOT WATER WORK BY COMPETENT WORKMEN. Large Stock of Gas Fittings, Pendants* Brass and Copper Kerb Suites. Tools and Kitchen Utensils of all kinds at lowest prices io suit all buyers. GUNS, RIFLES, AIR GUNS, AND AMMUNITION. nspection Invited. Satisfaction Guaranteed, ONE OR TWO HIGH-CLASS SECOND GUNS, in perfect condition, at less than half the cost. ABERGELE ROAD, COLWYN BAY, 911^1 -A FOR y HiGH-CLASS BOOTS & SH0E8/ y Of English and Foreign Manufacture. Perfect in Design Cf y' Shape and Fit 6m. X NONE CAN THE E^UAb<K 501-5 A(iENT5 in Colwyn Bay for the Celebrated" K" LOTUS and 44 QUEEN" BOOTS & SHOES. AMERICAN STOVES. Save Half your Coalg and Cuxc your SmoJty Chimneys. Send for CATALOG UB (free) of Stoves to burn ft Coal.^Coke, Wood, Oil, If Farmen' Boiler^ Bath 0 n0t Water App&ratns. Mention the Pioneer m P00RE & CO American Stove Stores. 52, QUEEN VICTORIA ST., LoNDON. E C W For Indiststion, Anaemia, LK-CT Complaint, « f Biliousnefs, JOHNSON'S CHINESE PILLS. 1 I I II per box, »re the ke»t. 1 cr Blood Poison, «, S I Inflammation, Varicose VeiIvV • A k Leg: JOHNSON S XX OILS. IU i/3, is b £ flL^^&ure cure. Adricefree. JOHNSON BOOK FOR MARRIED WOMEN. THOUSANDS of Women hav written that a -t- is the bed Book thej have ever read, and recommend it to their friends. The content*'df the Oret and of the thirteenth chapters every Woman should know. 175,000 copios of this Book ha.ve already been sold. It i5 sent port free, in envelope, for Postal Orier, 16 2d, by DET T. R. ALLINSON, 67 Room. 4, Spanuir place, Manchceter-equare, London,. V. ADVICE TO THE MARRIED. A BOOK for the people. Practical advice to the Mapibd and those contemplating Mirriage. Written in a ciear, oorcprehenaiva manner. IS is written by a Medicai Expert, Øt non-scientific language, over 200 pa gee. large!/ illustrated, contains most important inlormation. Is nett from all Booksellers and Newsagents, or post free, P.O. Is 2d, from MCORE, WILLIAMS and CO.. Ravenhili ^oad, Belfast. | RUBBER flPPUftHCE8~ rheaptst.^ DontDelav. Write to-day for large new revised B Illustrated Book. Post free in sealea envelope. ■ N. W. C. ATKINSON'S, ■ II 56 HILL ST., MIDDLESBROUGH, I J j ESTABLISHES 36 YEARS. | I I
AT EIN DARLLENWYR.j
AT EIN DARLLENWYR. JAnfoner pob gohebiaeth i'r GOLYGYDD C.YMREIG. Svyddfa'r "Pioneer."
...:::---------_--_. y DDRAMA…
y DDRAMA YN NGHYMRU. Mown cobfii arall, geihv "Ardahvr," y gvJwb. ydd mwya o Gvftorud Llundudno, sylw at y iYaith rllyldorol y portre&rlir "Rhys Lewis" a'r cymeriadau craill yn nofcl odidog Daniel Owen, gerbron cynuiliad o Gymry Conwy, nos Wener. Y mae'r ffaith yn arwyddocaol, ac yn profi fod yr hen. gulni a rhagf&rnau yn diflanu. Bu aueg pan nad oedd wiw E-on am y fa.th adloniant: gyda llygaid cuc-hiog ac cbychiadau llawn o duchan doiliol yr edrychid ar bob ymgais i dcIa- lunio bywyd oddiar hvyfanau y wlad. Yn wir un o ryfeddodau hanor olA y ganrif o'r b!acn ydocdd i gylehgrawn emmdol parclms roddi Ho j orebest waith y lienor o'r Wyddgrug. Fel '"Hiuian-gofiant" nid oedd fawr o wrt liwynebiad i'r gwaith, eithr fd nofel—gwarchod pawb! ind oedd bryd na thogwch ami. Rhyfedd fcl y mae a "yd vn nod air ac enw weithiau yn noivul agwedd pobl at bethau. Erbyn hyn, gcllif ffopddio gwcnu yn foddbaus with adgoiio y gwrth-ddad- iouon a ddygid yn erbyn y ddrama a'r nofel, ca.n- ys yn nghwrs blynyddau diweddar eangodd syn- ictdau a chydymdeimlad y bobl, ac erbyn hyn 71 id oes fawr neb o bwys a warafun i'r gencdl ymddigrifo yn y math hwn o ddidda.nwch. Yn raddol end sicr y mae'r ddrama yn hawlio el He yn mywyd cyhoeddus Cymru. Nid (Jes jr&nedl fyw a fedd gymaint o ramantau yn ei h-uea oencdJaethoI a'n cencdl ni, a bydd por- tread ar Iwyfan o'r gclygfeydd a'r cymeriadau mwyaf nodweddiadol yn ddyddorol ac addysg- iadol. Mynych yn awr y coir hanes cwmniau Cymreig yn arddang'oe eu don- iau darluniadol ar Iwyfanau cin gwhd. Yn Mon y oeir yr ymroddiad mwyaf a hyderir y bydd eto yn fam i Gymru oil yn y cyfeiriad hwn. Aed trwy amryw ddramodau yn yr hen cir yn ystod y m;soedd diweddar; a bu cwmni „ ivddawol o Llam-hyddlad yn dyddori llonaid neu- add o Gymry Caergybi nos Fawrth. Y noson ceid cwmni o fyfyrwyr Coleg y Brifysgol, Bangor, yn myned trwy act-gerdd o'r enw "Y Oantorion," ffrwyth crcbwyll Llew Tegid a Mr J Lloyd Williams. Prin y mae angtm amddiffyn na chyfiaw.nhau y ddrama. Mae yn rhan o lenyddiacth orcu y Jjyd, a chystal hawl ganddi i fyw a'r ddameg, yr alegori, a'r ddihareb. Yn mysg y cenedloedd ooethaf eu brvd a chyfoethccaf eu Hen, y mae &ctati a phortreadau yn gweithredu dylanwad tlwfn ac fang. Meddylicr gymaint ac eff- itith a fedd y chwareu-gerddi Groegaidd; uched Ffrancod fol beirniaid lien, oherwydd eu hyinrod Jiad gyda'r ddrama; ac i ddod yn nes ad- Xof pa beth yn llenyddiaeth y deyrnas hon sy'n liafal i ddramodau Shakespeare a "Taith y Per- crin" Bunyan? Da y gwvddcm y ceir elfenau malt y.n rhai o chwarcugerddi diweddar y Saeson, ac mai boddio chwaeth afiach a chyffroi nwydau diraddiol yw dull ambell ddrampdwr i enill hyn- oJrwydd. Ond ceir tafolwr dan y Llywodraeth—y "Censor," fel ei gelwir—i warchod rhag hyn, ac y mae barn gwlad a liais y wasg yn ddigon o warantiad nas goddefir dim a fo'n llwgr i fyw'n hir. Ni raid ofni y cyffelyb ogwydd at yr iscl yn Nghymru; ac am hyny dylid rhoddi croesaw brwd i'r ddrama fel ychwanegiad gwerthfawr at ien ac adloniant y genedl.
1 I..j ,.DAN SYLW.-*,'.
1 I.. j DAN SYLW. IBRAINT Y GORON. Er pan fu farw y Canghellydd Ricliards fTynai y chwilfrydedd mwyaf parthed ei olylJydd-Y1 gyntaf, oherwydd fod bywoliacth Aberffraw yn un o'r rhai gwerthfawrocaf yn Esgobaeth Ban- gor; yn ail, am mai yn nwylaw y Goron yr oedd y penodiad; ac yn drydyddj am y cyLceddid y ceid llu mawr o glerigwyr yn ymgais am y Rvvydd. Erbyn hyn y mae'r Parch W. A. Ed- wards, M A., ficcr Llangan, Deheudir Cymru, wedi derbyn y ponodiad. Mynegir ei fod yn brogethwr rhagorol, ac yn wr o alluoedd rhyfedri hyn, canys y mae yn gefnder i 3?.sgrb prcsenol Llanelwy a'r diweddar ddawnus Ddeon Edwards o Fangor; ac yn ei hanee gwir- eddir yr hen air fod "talent yn y teulu." CADFRIDOG IIEDDWCH. Y mae egnion y Cadfridog' Booth yn ei henaint inor ddiharebol nes bod bron yn wyrthiol. Y imao oowydd derfynu taith trwvV rai o brif drefi Lloegr a Chymru, gan draddodi canocdd o an- erchiadau i filoedd o bob!. Y.n mhcn ychydig ddyddiau bydd yn cychwyn eto i Berlin, ac yn ymweleJ a phrif ddinasoedd y Cyfandir. Ar <1 teithio trwy Ewrob, gwyneba ar Dde Affrica, lie fcwriada sylw arbenig i bwnc dyrus y bro- "dorion yn y Trefedigatthau. Nid yw pellder yn unrhyw rwystr i'r hen wron gario allan ei fwr- iadau, ac y mae pobl haner ei oed yn ciddigeddu Vrth ei ieuangrwydd yn ei hcnaint. # # 9 ^ANCTEIDDRWYDD A MASNACH. o dro i dro yn Llandudno ceir trafodaethau JirWd yn nghylch y Sabboth. Cynygiai un dyn imturioethus dalu i'r Cynghor am y fraint o osod Cadciriau i'r eawl a fynent eistedd arnynt ar lan y mor ar y dydd sanctaidd, eithr trwy fwyafrif peaderfynodd y Cynghor wrthod y cais a'r rynyg; a rhaid i'r sawl fo swrth neu Bin eia- edd ar y graian neu fyned a stol neu gadair gydag ef. Y pwnc poethlyd sydd dan sylw yno yn awr yw a ddylid rhedcg y tram-gerbydau i Ber y Gogarth ar y Sul, ac y rrae'r Cwmni wedi penderfynu cymeryd pleidlais y cyl ranodalwyr tor penderfynu hyn. Gellid traethu llawer o ibobtu a.r y pynciau hyn, ac y mae y pleidiau yn cynryohioli dosbarthiadau sydd yn gwahaniaethu bron ar bob mater sydd yn ymwneud a moes y cyboedd. A « PLANT Y WLAD. Dyddorol a phwysig ocdd araeth Mr .T. C. Da- vies, trefnydd addysg Sir Ddinbych, yn Rhuih- yn. Sylwodd ar agweddau ddylent gacl ystyr- iaeth ddifrif. Yn ol y drefn b rose no 1 nid oes fa.wr os dim gwahaniaeth rhwng yr addysg gyf- renir i blant y wlad rhagor plant y dref, er fod eu harngVlchoedd a'u hamgylchiadau yn dra gwahanol. Diau mai da yw dysgu crefft a gwyddor ac agor deall y plant ar ddiwydianau; eithr mwy buddiol fuasai i bla.nt ardal wledig dderbyn hyfforddiant mewn blodeueg ac am- 'aethyddiae-Th, ac fel y sylwodd Mr Davies, dy- munol fyddai gweled yr athraw yn myncd a'i ddosbarth i faes neu fynydd ac yn egluro iddynt y mil oeinion a rhyfeddodau sydd o'u oylch. o fechgyn feddent y ddirnadaeth fwyaf eJ- fenol pa foddi fesur maes neu das o wair, er yn ol pob tebyg mai mewn meusydd ac yn ngol wg teisi y treulia'r rawyafrif eu hoes. Eithr ni ellir oael y diwj-giad hwn heb yn gyntaf hy- Iforddi'r athrawon, a rhaid newid y gyfundrefn yn drwyadl i sicrhau i blant y wlad yr addysg fydd yn gymhorth iddynt enill eu tamaid. » » IA.MRYWIOL FARNAU. "0, mae'n dda na wyddom ni ddim," meddai lrhyw fardd,a dywed un o boetau y Saeso.n:— "Os mwyn yw anwybcclaeth, Pa fudd yw bod yn ddoeth?" rYn ystod y dyddiau diwcddaf traddodwyd n.1 o areithiau ar yr hen sant, a dyddorol yw eylwi jgynifer o wahanol farnau geid am dano. Nod- wyd iddo fyw mewn tair canrif wahanol, a rhyfedd fel yr amrywiai'r farn am nodwcdd y canrifoedd hyny. Mynai un mai canrif dywell ddiswyn ydoedd, arall mai canrif ramantus, ac arall mai canrif obeithlawn a thlws. Diau y flyna anwybodaeth dybryd yn nghylch y Sant a'i oes, ond ofnwn fod ami un wrth geisio goleuo Traill wedi bradychu eu hanwybodaeth eu hun- ain. Bid a fo, eaed hwyI anghyffredin yn y gwleddoedd, ac o bosibl na ddylid rhoddi gormod o bwys ar areithiau a draddodir ar 01 ciniaw trwm a moathus. • • DIRPRWYWR AMAETHYDDOL CYMREIG. Awgrymir y bydd Bwrdd Amaethyddiaeth yn fuan yn penodi dirprwywj- Cymreig yn ng'lyn a Deddf y Man-Dyddynod. Ffyna llawer o air.v bodaeth yn nghylch darpariadau y niosur, a diau mai gwaith y dirprwywr fydd cyfarwyddo y MW] a fyji ddeall pa fudd a geir o'i mabwysiadu. Gan fod a wnelo'r Mesur yn fwy a phres^vylwyr y parthau gwledig, buddiol yw cael Cymro i gyf- lawnl'r swydd fel y gallo rydd-ymddiddan a'r rhai awyddus am ei wasanaeth, a diau y wlad yn ddiolchgar i Arglwvdd Carrington a Bwrdd Amaethyddiaeth am benodi swyddog o'r ftb" • f Y TEITHIWR DILYS. I Rhoddir llawer o sylw i'r "bona-fide traveller," ac er mai yn y clywir fwyaf o son am y pererin nid yw'r genedl eto wedi baihu enw Cymraeg adnabyddus i ddynodi ei brif iiodwedd. Y dydd o'r blaen, yn MhønyJxmt-ar-Ogwy, ceis- I. iodd un gwr ei ddeffmio, a-c nid anhapus ei ddes- grifiad. Dyma* meddai ydyw:—"Dyn sy'n sychedig am ei fod yn teithio ac nid dyn sy'n f toithio am ei fod yn sychedig." Y gwrthwyncb yw'r syniad mwyaf cyffredin am y trafaeliwr, serch hy.ny. » « « < GWLEDD FAWR CAERNARFON. Yn y wledd fawr a gynhelir nos Wener nesaf yn Nghaernarfon ar achlysur rhoddi xhyddfreni iad y dref i Mr Lloyd George nodir ar y tocyn- au:—"Boncddwyr 6s yr un. Boneddigesau, 4s yr un. Pawb i ddewis y wisg a fynpnt." Geilw cyfoesolyn Seis,nig sylw at y ffaith fod hwn yn gyflo ardderchog i'r "Suffragettes" amlygu eu huna:n a hawlio gwrandawiad Llywydd Bwrdd Nid yw Cwmyglo nepell o Llanberis. Dydd Gwener cwympodd y Parch D. Williams, gweini- Masnach. Ffawd fo'n ci warchod rhag' y fath drychineb. CYD-DDIGWYDDIADAU EYNOD. dog liybarch y Mothodietiaid yn y lie blaenaf, i lawr yn farw. Nos Sul daeth y diwedd yn gyffelyb i'r Parch E. B. Thomas, rheithor y lIe claf, ar gwasanaothu gydol y dydd yn Ilan- llyfni. Cwympodd yn farw ar ei fforad i'w letty o'r Eglwys. Eto: dro yn ol bu farw y Parch R. Williams, gweinidog y Graig, ger Bangor. Y Sul yn dilyn ei farwToiaeth yr oedd ei gyhocddiad i brcgethu yn Cwmyglo, ac yn dra rhyfedd y Parch D. Williams, Cwmyglo, fu farw ddydd Gwener, oedd i brcgethu yn y Graig. Y Sabboth nesaf yn y Graig, y Parch Hug'h Pugh, Dyffryn, sydd i lawr i brcgethu, ond wele yntau hefyd yn huno yn mhriddeiluu y fynw ent.
Yr Ysgolfeistres Lafurus.
Yr Ysgolfeistres Lafurus. TYSTEDU YN GWYTHERIN. Nos Lun cynhaliwyd cyfarfod dyddorol yn Gwytherin, dan lywyddiaeth Mr Robert Wil- liams, Ty'n'rerw, ac arwi-iniwyd yn ddeheuig gan Mr J. R. Williams, Y.H., C.S., Llanddewi. Cymerwyd rha.n hefyd gan y boneddigiou can- lynol: Mr J. C. Davies,M. A..Rhuthyn (cyfarwydd- wr addysg Sir Ddinbyc-h); Mr W. J. Williams, Y.H., C.S. (cadeirydd y Cynghor Addysg Lleol), Mr W. Hughes, Y.H., a Mr J. R. Griffiih, yr oil o Llanrwst. Dechreuwyd drwy ganu emyn, ac yna cafwyd anerchiad bwrpasol gan y cadeirydd. Canodd y plant "Glan Medd'dod Mwyn" yn swynol, a chafwyd sylwadau hapus gan Mr J. R. Williams. Sylwodd mai prif waith y cyfarfod ydoedd an- rhe-gu Mrs Jones am ei ffyddlondeb am hir flyn- yddau fel athrawcs yn y lie, a hyderai y byddai iddi hir oes i fwvnhau seibiant oddiwrth ei llafur. Gobeithiai y byddai hyn yn symbyliad i eraill ymdrechu cyflawni eu dyledswyddau yn Uawen yn y cylchoedd y troent ynddynr. Yna canodd y eor meibion "Mwynder y Meusydd." Mr J. R. Griffith, mewn araeth frwd a syl- wodd ar y drafferth geid mewn llawer man i gael ysgolfeistri, ac athrawon i aros, a thcimlai yn falch fod Gwytherin wedi cael y fath fantais yn hyn o beth. Tystiai i'r gwaith da a wnaed gan y diweddar Mr Richard Jones a Mrs Jones am 31ain mlynedd yn y He. Mr W. Hughes a roddai bwys mawr nr waith athrawon ein hysgolion, sef ffurfio cymcriadau a meithrin meddwl v i>lant o da.n eu gofal, fel ivg1 i'w cyfaddasu ar gyfer gwaith eu bywyd, a'u gwneud yn ddoiliaid teilwng o'r Wladwriaetli. Cyfeiriodd at Mr J. C. Davies, M.A., fel un o'r ardal sydd wedl esgyn i safle uchel a phwysig— yn brif oruehwyliwr "addysg y sir. Cafwyd can yn rhagorol gan Mr W. H. Da- vies, Llansannan, v baritone enwog, "Y Penill adroddai fy nhad." Yna cyflwynwyd i Mrs E. Jones, ar ran yr ardahvyr, anerchiad goreuredig. Mown araeth lawn o deindad, cyfeiriodd y Cadeirydd," wrth gyfiwyno yr anerchiad, at v gwaith mawr a wnaed gan Mrs Jones yn ystod yr amser y bu yn athrawes yn yr ysgol. Rhoddai blcser mawr iddo gael gwneud y cyflwyniad ar ran yr ardahvyr. Galwodd ar Mr J. C. Da- vies, M.A., i ddarllen yr anerchiad:— Cvflwy,nedig, i Mrs Ellen Jones (certificated mistress), diweddar Brif-athrawes Ysgol Gwytherin. "Mae terfvniad eich maith wasanaeth yn nglyn ag ysgol Gwytherin yn amgylchiad mor bwysig yn c' n golwg ni, yr ardahvyr, fel y cym- hellir ni i roddi mynegiad ffurfiol a ehofiadwy o barn am danoch a'r gwaith a gyflawnasoch. "Yr oedd eich ymroddiad egniol, medrus a chydwvbodol i waith eich swydd drwy ystod un- ndynedd-ar-ddeg-ar-hugain yn peri i ni eich edmygu; yr oedd eich ymarwoddiad pur 't digyfeiliorn yn hawlio ein parch; ac yr oedd lledncisrwydd a dymunoldeb eich ymddygiadau yn enill ein serch a'n hymlyniad. Gwyddem fo-d eich cyrchnod yn uchel, gwyddem eich bed yn amcanu Y.!l feunyddiol i eradw llyguid y plant ar y cyrchnod hwnw, a chanfyddwn yn awr fod eich livmdrechion wedi eu coroni a mesur tra helaeth o hvyddiant. Bu eich cyfarwyddiadau yn foddion i osod traed lluaws o'r plant dan eich gofal, a.r yr uniawn ffordd, ac i enyn yn eu mynwesau serch dwfn at In bcthau bynag sydd bur, pit bethau bynag sydd hawddgar, pa bethau bynag sydd ganmoladwy, ac (Orys yr adgof o honynt yn gynorthwy, a symbyliad cryf i 'feddwl am y ix-thau hyn.' "Cawsoch yn eich diwcddar anwyl briod gydymaith a chydweithiwr o'r fath oreu. Aeth ef i o.phwys oddiwrth ei lafur yn gydmarol gynar gan adael y.n ein mynwesau adgofion hyfrya, na ddileir mohonynt. Eiddunwn i chwi hir flyiiyddoedd etblynyddoedd wedi eu ilwytho gau hapusrwydd i chwi a bendith i eraill. "Gyda pharch diffuant y rhoddw.n ein hen- wau with yr anerchiad hwn, ar ran ardalwyr Gwytherin a'r arngylchoedd.—J. C. Davies, Evan Griffith Jones, Robert William?, Evan Davies, Hugh Owen, Robert Maurice Owen." Yna gahvyd ar Mr J. C. Davies, M.A., i g'yfhvyno i Mrs Jones "silver tea and coffee ser- vice" drudfawr a hardd a silver tray, gyda cherfysgrif bwrpasol. Llongyfarchai Mr Davies y Pwvllgor Gweithiol ar hvyddiant eu gwaith. Tcimlai yn falch o wcled Gwytherin y.n an- ihegu Mrs Jones a'r fath anrhegion hardd. Diolchodd Mrs Jones mewn byr eiriau, a ehyflwynodd lythyr tyner i'w ddarHen, yn amlygu ei theimladau diolchgar. Ar ol detholiad prvdferth o alawon Cymreig gan y cor meibion, cafwyd anerchiad cynes gan Mr J. C. Davies. Cyfeiriai at ci gysylltiad a'r plwyf ac a'r diwcddar Mr Richard Jones, fu'n ysgolfeistr am hir amser yn y 11c. Teimlai yn bur gymysglyd ei deimladau wrth adgofio bore ei oes. Cyfeiriai at v deffroad cenedlaethol. a dangosai fod dyrchafiad y Gwir Anrhyd. D. Lloyd George i'r fath sefyllfa. uchel—(cymeradwy- aeth)—yn ernes o'r hyn oedd i ganlyn. Hefyd Syr Samuel Eyans, A.S., dau Gymro oeddynt wedi codi o blith y werin i brif swyddau y Wladwriaeth (cymcradwyaeth). Wrth derfynu anogai yr ardalwyr i fyned rhagddynt i fynnu yr addysg oreu i'w plant (cymeradwyaeth uchel). Yna cafwyd can gan Mr W. II. Davies, "Un- waith Eto'n Nghymru AnwyL" Cafwyd dat- ganiad ardderchog, a gorfu iddo ail ganu. Caf- wyd "Gwawr i Gymru" ganddo, nes swyno'r gynulleidfa. Mr W. J. William; Y.H., a deimlai yn falcn o gael be-d yn bresenol i weled y fath deimladau da goleddid gan yr ardalwyr tuag at Mrs Jones. ol I Gwnaeth svlwadau hynod bwrpasoJ, yn a.nog rawb i ffyddlondeb yn ei gylch ei hunan. Eidd- taiai i Mrs Jones hir oes a hapusrwydd. Darllenwyd llythyr gan yr arweinydd, oddi- with gvfeillion o Lanefydd yn datgan teimladau da tuag at Mrs Jones. Nid oeddynt eto wed, anghofio ei lafur yn y lie flynyddau'n ol, a dy- munent id,li bob llwyddiant yn y dyfodol. Mr David Owen, Tyddyn Dafydd, a gynygiodd bleidlais o ddiolchgarwch i'r Pwyllgorau Gweith- iol, y cantorian, y dyeithriaid, a phawb cysyllt- iedig a'r gwaith. Eiliwyd gan Mr R. 0. Hughe;, Hafod, & pha^- iwyd yn unfrvdol. Rhoddwyd datganiad o'r "Delyn Aur" (D. Pughe- Evans) gan mor meibion y lie, ac yna ymunodd y gynulieidfa i ganu yr Anthem Genedlaethol, dan arweiniad Mr W. H. Davies, Liansannan. Cafwyd cyfarfod o'r fath fwyaf dymunol, a thvstiai pawb cu boddhad. _Gwnaed vr anerchiad gan Mr Bildwin Griffith. Clerc Trefol Rhuthyn. ac y mae yn glod uchel iddo fel arlunvdd. Mr R. G. Owen, Llanrwst, gyflenwodd y llestri arian. Mawr ganmolir y Pwyllgor Gweithiol am eu holl barotoadau, ac y mae llwyddiant perffaith yr holl gyfarfod yn adlewyrchu clod nid bychan arnynt.—Goheb.
Newyddion f)yddorol. --------
Newyddion f)yddorol. PWYLLGOU ADDYSG SIR CAERNARFON. Mewn cyfarfod o Gyngbor Sir Caernarfon, ddydd Iau nesaf, bydd i Mr Lloyd Carter gynyg a ganlyn:—"Fod y gailuoedd a ddir-prwywyd gan y Cynghor Sirol i'r Pwyllgor Addysg yn oael cu Ibwyr d'diymuac fod ccifnodion y Pwyllgor Adtiysg, fel cofnodion y pwyllgoraax eraill, yn caN cu cyflwyno i'r Cynghor i'w cadarnhau." TYSTEBU GWETXIDOG ANNIBYNOL. CyflWYDGdd eglwys Bryn Hyfryd, Caergybi, anerchiad hardd a chod o aur i'w gweinidog, y Parch ESiae B. Jo net-, a chod o aur i" w briod Xiefyd, y JIOS o'r blaen. Y mae .Mr Jones wedi bugciiio yr eglwys am 13 mlynedd, ac yn deehreu ar y gwaith o ga.~giu 5000p at Goicg Baia-Ban- gor. BRENHINES MAI. Miss Rhoda Douglas, merch Mr Douglas, Eagles, Mochdre. sydd wedi ei hethol gan ei chyd-ysgolheigion yn Frenhines Mai y.n Colwyn Bay y tiwyddyn hon. HELYNT YSGOL BRYMBO. Bwriada Bwrdd Addysg nid yn unig ymchwil ( i'r helynt yn nglyn a'r ysgol uchod, ond hefyd i weinyddiad holl elusenau addysg bhvyfol y parth hwnw o ^Vrecsam. ER MWYN CAEL LLAETII PUR. Penderfynodd Cynghor Do&barth GwJedig Tre. ffvnon apelio at Gynghor Sir Fflint i benodi mil- feddyg 1 archwilio gwartheg' me" n llaethdai, er sicrhau cyCenwad o laeth pur. YSPYTTY TREFFYNON. Ma.bwysia.dwyd c-ynlluniau yspytty newydd I fwriedir godi yn Nlireffynon ar draul o 1500p. Dygir y draul gan Mr Edwin Jones, Y.H., Clap- ham Park, LlundaLn, yr hwn sydd frodor o Tre- ffynon. HET YR YSGOLFEISTR. Gerbron ynadon Rhyl, ddydd Mawrth, caed dwy cliwacr yn euog o niweidio het. Mr Albert Iliil, ysgolfeistr. Tra yr oedd Mr Hill yn siar- ad gyda chwaer orall i'r cyhuddedig mewn un ystafell, yr oedd y genethod y.n malu r het mewn ystafell arall. Dirwywyd hwy i 6s 6c yr un. CYMDEITHAS YR HELFEIRCH. Eniliwyd un o brif wobrau y gymdeithas uchod gan "Likely Bird," march Mr David Davies, A.S., Plas Dinain, Maldwyn. DAMWEINIAU YN CHWARELAU ARFON. Mewn atebiad i Mr Ellis Davies, yn Nhy r Cyffredin, nos Fawrth, dywedodd Mr Herbert Gladstone fod infer y damwemiau angeuol n llech-chwarelau Sir Caernarfon y.n ystod y flwyddyn yn terfynu Riiagfyr 31ain, 1907, fel y canlyn:—Oddiniewn i'r chwarelau, 5: cddiallan, 2; neu gyfartaledd o un ar gyfer pob 386 o chwar- elwyr, neu agos i 2.6 y fiI. TWYLL-FYNEGIAD HOXEDIG YN MANGOR. Gcrbron ynadon Bangor, ddydd Mawrth. .y- huddwyd John Pritchard, lb oed, o wneud myn- egiad twyllodrus wrtil Mr W. Huw Rowland. Cofrestrvdd Priodasau dosbarth Bangor, gyda'r amcan o ddwyn oddiamgylch briod as rhyng'ddo a geneth oedd ar y pryd dan 16 mlwydd oed. Ar ol gwrandawiad inaitn, a.nfonwyd Pritchard i sefyll ei brawf yn y Frawdlys, a ciiamatawyd mcichiafon. Y DDIRPRWYAETII EGLWYSIG. Ar 01 gohiriad o dri mis, eisteddodd y Ddir- prwyaeth Eglwy&ig Gvmreig yn Llundain ddydd Mawrth, yr Argiwydd-Farnwr Vaughan Wil- liams yn ilvwyddu. Y pnf dyst oedd Syr Lewis y Libdin, Deon Arche.s, ac yn g'ysyltiol a'r Dir- jirwywyr Eglwysig, a ateboeid gwestiynau yn nglyn a'r "Queen Anne's Bounty. Caed tyst- iolaeth h-efyd gan Mr T. W. Barker, cofrestrydd Esgobaeth Tyddewi, parthed gwadduliauau yn yr esgobaeih hono. YR YMGYRCH UNDEBOL YN MWRDEIS- DREFI MALDWYN. Nos Lun dechreuodd yr Anrhyd. W. Ormsby- Gcre, ymgeisydd Undebol Bwrdeisdiefi Dinbych, ci ymg'yrch etholiadol yn Ninbyeh. Yr oedd y Drill Hall yn orlawn, a chaed cyfarfod brwd. Pasiwyd i>cnderfyn:ad yn eondemuio poiisi y Llywodraeth Ryddfrydol. MEDDYGAETII YN MHLITII GWYR Y RHEILFFORDD. Yn y Railway Institute, Bangor, ddydd Mawrth, bu cystadleuaeth flynyddol yr "Ambu- lance" yn mhlith gweit.hwyr -t- London a r Ncrth-Weetern. Y beirniaid oedd Dr. H. Jones- Roberts, Penygroes. Yn r.vsbarth Caer i Gaer- gybi ymgeisiodd wyth o ddosbarthiadau, ac ic'u gosodwyd yn v drefn ganlvricl:Norili Wall, 259 I (allan o 300); Bangor, 251.; Caergybi, 245; Ffes- tiniog, 241; Caer, 231; Dinbych, 226; Rhyl, 191; Mold Junction, 166. Yr unigol goreu sedd Joe Burrows, Bangor. Cyflwynwyd y gwobrau gan Mr David Owe.n, Maer Bangor. Arolygid y trefniadau gan Mr Joseph Gayton. PLAID LLAFUR YN LLANDUDNO. ¡ Dan nawdd Plaid Annibynol Llafur, cynhal- iwyd cyfarfod yn Llandudno nos Fawrth, pan y I traddodwyd anerchiad gan y Parch John Wake- ford, Lerpwl. Y cadeirydd oedd, Mr Francis Nunn, Colwyn Bay, ac yr oedd y 'cynulliad yn lluosog'. CYNGHOR YN ERBYN CYNGHOR. Mae Cynghor Gwledig GJaslyn yn gwrthdystio yn gadarn yn erbyn gwaith Pwyllgor Addysg Arfon yn bwriadu gwario 1800p ar ysgol newydd yn Gulan,ile bychan heb ynddo ond ychvdig o dai. Penderfynwyd apelio at Fwrdd Llywodr- aeth Leol i gynal ymchwiliad. Y PRIF WEINIDOG. Dydd Ma.wrth, .nid oedd sefyllfa Syr Henrv Campbell-Bannerman mor foddhaol, ond yr oedd ychydig yn well yn yr hwyr. CAEL HYD I EWYLLYS. Hysbysebwyd dro yn ol fod ewyilys y diwedd- ar Mr B. T. Ellis, Y.H., Rhyllech, cadeirydd Maine Ynadol Pwlhcli, ar goll. Cyhoeddir yn awr fod yr ewyllys wedi ei chael yn nhy yr ym- adawedig. MESURA U'R LLYWODRAETII. Trefnirr i gynaj cyfarfod mawr yn Nghaernar- fon, wythmee y Papg, dan nawdd' Cyrig-hrair yr Eglwysi Rhvddion er cefnojri Mesur Addyeg a Meeur Trwyddedol y Llywodraeth. Diegwylix Mr D. Lloyd George i anerch.
Bwrdd Gwarcheidwaid Conwy.
Bwrdd Gwarcheidwaid Conwy. Y TRETHI NEWYDDION. Yn nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Conwy ddydd Gwener, cytunwyd ar dretli o 5c yn y 4 bunt at ameanion cyfiredinol, 8o at y dpeta sirol yn nddwyfi Sir Caernarfon, ac 110 yn mhlwyfi Sir Ddinbych. Yr oedd y gofyn at amcanimi cyffredin yn ic llai na'r llynedd. Cynygiodd Mr P. H. McClenient ddiddymu fllCudeclyniad ba-siwyd rai misoedd yn ol yn gwrthod doebiirthu y tloclion a ddevbynient eluflcn bhvyfol, cynygiai hefvd fod graddfa o daliadau ag oeddis wedi OIl tnynu allan, gyda'r cyfryw welhantau ag a ystyriai y Bwrdd yn angenrheidiol, i'w mabwysiadu. in y raddfa, doeberthid y tlodion yn ol eu hoedran a'u cy- meriad. Eiliwyd hyn gan Mr J. T. Taylor, ond wedi trafodaeth f.wtog, fe'i go-rchfyg-\vyd.
Advertising
i Fill in this Form and send it to Advertisement Manager, C PIONEER" OFFICE, CONWAY ROAD, COLWYN BAY. | V The Charge for all kinds of "WANT" ADVERTISEMENTS in the PIONEER I f is 12 Words 6d., and then id. per Word after; Three Insertions i/- and pro rata I (which must be Prepaid). Name and Address must be paid for. y i > Please insert above Advertisement times, for which I enclose P.O. > or stamps value It & > V Name w Address
Ysgolion Parthau Gwledig.
Ysgolion Parthau Gwledig. IVrth anerch cyfarfod o reolwyr ypgolion yn Rhuthyn ddydd LlUll, sylwodd Mx J. C. D'aviee, tretnydd addysg Sir Ddinbych, mai tuedd deddf- wriaeth ddiweddar ydoedd ffafrio ysgolicn crefft- ol ar dratuil y rhai mewn yvgolkci g-wiedig. Yr oedd addvsg aJiiaethyddol yn ddia-u yn dda, ond tybiai ei fod yn gymbwysaeh 1 canol- radd nag ysgolion cifenol. Er hyny dylid' rhoddi mwy o svlw i 'air,acrhydd:aet.h yn y llyfrau dar- lilcn a gwneud rhifyddiaeth yn fwy ymarferol. Da frddii.1 rnyned a'r plant i'r meusydd a'u dysgu i fesur eaea-u a theki. Y dyrysbwnc ni:i.wr, fodd bynag, ydoedd pa fodd i hyfforddi athrawon i'r gwaith. Ni cheid heddyw end ychydig o athrawon a dd-eaiiant airwu t hyddiaeth a llai ifyth a deimlent unrhyw ddyddordeb ynddo. I I a W N.d oedd bywyd gwledig wedi ei werthiawrogi fel yr haeddai. ac fcl oarilyniad elai y m-wyafrif o'r athrawon i'r trefi. Carai welled deddf yn gorfodi plant i fynychu yegolion nos yn y parth- au. gwledig.