Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
28 articles on this Page
:ELUSENGARWCH.
ELUSENGARWCH. Pan fo gaJed ac oer yr bin, tyneraoh a chynhesaoh fydd calon y cymwynasydd, a dyna. paham y oeir mwy o elusengarwch ar y tymhor hwn nag ar un tymhor arall- Ni raid myned oddiallan i odid unrhyw beu, tref. yn y deyrnas inas oeir arwydd eicr fod adfyd yno, a Ue helaeth i doeturio ac estyn llaw o gymhorth i'r rhai sydd gaLed arnynt. Gynifer a geir yn ein gwlad sy'n gorfod. Rhoi angen un rhwng y Daw, aca Brisia'n aur ein briwsion ni. Ffaith nas gwedir ga.n undyn sy'n gwybod phywbeth. am barthau tlcota-f ein gwlad yw fod dyoddefaint dwfn yn ffynu; a ffaitih arall yw mai y rhai a ddyoddefant ddyfnaf sydd fwyaf anmharod i gwyno a d&tguddio eu tlodi. Ar ryw gyfrif mae yr ymdeimlad hwn 0 hunan-barch sydd yn nodweddu lluawa o blant adfyd yn bryferth a natur- iol. Er nad yw tlodi yn drosedd, eto y mae cardota yn gywilyddue yn ol safon cryn lawetr o'r hyn a ystyriant yn barchusrwydd. Kid hawdd yw dod o hyd i'r gwir ddyoddef- wyr oherwydd hyny, a dyna paham y dyLai y rhai wyddant am aohoeion o'r fath eu dwyn y sylw yr elusengar. Ceir lluaws, Y8- gatfydd, a gwynfanant yn dorealonus ac na diollant gyfle i geisio arddangos eu tlodi, yn gwbl annheilwng o dosturi, a Ilygad- dynir caredigion gan wynebau hirion a chri wylofos y oyfryw ragrithwyr. Nid oes neb mwy liaoddol o gymhorth na'r gwir dlawd, a ehwilio am danynt hwy ddylai yr elusengar ei yspryd a'r tyner ei gaJon. Da-eth aohos o'r fatih i sylw yr ysgrifenydd yr wythnos han. Mewn treflan dlos ar fin y Fenai trigianai teuilu o wr a gwraig a phedwar a blant. Llafurwr oedd y gwr, ac yôpaiÇ.1 yn ol cyfarfu a damwain dcet fu'n xhwystr iddo weithio. Nid oedd fawr os dim ftrrth gefn i gynal y teulu pan ddig- wjddodd yr anffawd, a phrofodd y chwech tost yn ddystaw a digwyn. Wrth wylio ei gwr gyda dyfalwoh nad oes ond car- iad all ei gynyrohu, sytihiodd y wraig i wen- did mawr oherwydd thlodi. Galwyd nieddyg, a phan aeth i'r ty buan y gwelodd dosted oedd dyoddefaint y teulu. Yn ddi- ymdori anfonodd y gwr i'r yspvtty i dder- byn triniaeth, ac wedi ei fyned bu farw y fam, druan, gan adael y pedwar anwyliaid bach yn amddifaid o'r dyneraf ei gofal. Cyffrowyd ymyseraroedd tDstwri y dref gan yr hanes, a sicr yw pe gwybyddid am adfyd y terulu y buasai llawer yn barod i'w 1-eddfu f*5 0 boeibl y gallesid trwy hyny arbed bywyd y fam. Bu adeg pan y ceid clerigwyr a bonedd y wlad yn mynyoh ymweled a thlodion a eh mfion gyloh eu cartrefi, yn adwaen yr o ngolion a u cluet yn barod i wTandaw eu cwynion. Ceir llawer o elusengarwch atl;, yn wir, nid oes undyn na fawry-a dos- U) deynum fel hamlygir mewn am- Ond ai tybed y ceir cymaint cyfathrach rhwng y dosbarth golxidog a'r tlcdion ag a fu gynt? Caredigrwydd yw oenadwri fawr y NadoJig • 0 an ei xl gerllaw hyderwn y nodwedd- gan na° erioe<i 0 dosturi a ^nawsedd, canys y mae enyn gwen ar *Tneb cunedig a dwyn llawenydd i galon g yn un 0 fendiuhion penaf by^yd. Ao Yp y Cysylltlad hwn, djfynw11 gymhellion y Deulu Ffawd, sy'n profi beunvdd aeigiau a mwynderau moeth, Ac yn byw ar Fryn Llawenvdd Jrlvvnt i irag y peiriau pooth; r?'Sy I hoen a hawddfyd, Rnowch help llaw 1 prodi'r llu ueradant drwy amalvrch Adfvd an STsgodau dyddiau du. RWch help llaw i sychu da^rau Iristwoh plant y tywvdd blin, A ohewch giywed eu srruddfanau troi u salmau ar eu min. Ohn-i, uohelwyr, vn eioh ploddest. Os "wfecl •vn eich prwledd. weifchwvr gonest yw caI°n fwyn na ffawd. Pil.ieddThnfP^1fW a blant goRdiau, 7 p 5^1 f 1B7d-vmdeirn]ad pur • G"eil Haw a fodrw'an Yw y Haw sy'n lleddfu cur. Byr yw bywjd Y mae beddau Newydd bemydd yn y bvd; ^-nno o dan ddyrnod An^au x mae llawer liaw o hvd; Ond os troi yn Ilwch IlygTedig Fe S ^ylaWi',r byd mewn bed^, pg<^ j ver llaw ffaredig ^yffwrdd tarnau Gwlad yr Hedd
Methodistiaid Dyffryn Conwy.
Methodistiaid Dyffryn Conwy. nohyfarfod Misol Methodistiaid C«nwy, a gVnhaliwyd yn Ngholwvn femdnLyd\rd rh63tr "anli'no1 ° drefn y f:tf" ariodydd Misol am y blynyddoedd dyfJdol i ymrldarigos yn y cofnodion, ac i ddvfod dan vs ion6 J C-M- yn mis M»wrth nesaf•- 1909 —Iodawt, Deganwy; Chwefror, Talybont- Mawrth, Carmel. Llanrwst; Mai, Garnedd- Medi F D°Wdeurii Gorphenaf, Bethel J j i' ^?lwTsbach; Hydref, Perimachno; Tach- • R^'Ve-fyr, Seion, Llanrwst. xi lonawr, Silch; Chwefror, Trefriw- tiwrth Brynpydew; Mai, Bryndaionyn; Me- ne.in Mochdre; Gorphenaf. Rowen; Medi, Gv.Uherm Hydref, Gyffin; Tachwedd, Eglwys "l'ilTITt VV^n Rhagfyr, Carmel,Conwy. CWm-°n?!T Saesoneg" Llandudno; Mai n VJn: Mawrt'h, LJansantffraid s-f. Xant vilr1 = Mf"hefin, Moriah Gorpheii- r;ar^r>n • 'tV/4> l' ^ydyrneirch Hydref, Capel »ii St,cn' ««•»» Wf Rk«- •tr J.V F?n"ydbaCRhH^efoPenma<ino; Ta^- P.]wysbach; Tach. crcdJ: Ri-)tyr'^amei- c«)Wv. Siloh; .Chwefror, Trefriw; Brynpydew; Mai, Bryndaionyn: Me- t Llanrwst Cymdeithasfa; Gorphen- 1 voy r^Medi, Gwvtherin Hydref.Mochdre; Tiwys Saesoneg1 Colwya Bay; Rhag- lOL'i CJOtl' £ Uld%
Llith .Die Jones. >, ....----
Llith Die Jones. > Y-N CO-NWY. cystadl|itaeth Y TWRCI. Wet, dyma ni wythnos eto yn nes i'r 'Nadolig, ac amryw o honoch chwi yn disg'wyl yn bryderu3 am ddvfodiad y twgrci tew. Mi ddaw yn y man. Daliwch i gredu, bob un, nes cewch enw y budd- ugwr. Mae y beirniad yn brys-ar yr wythnos yma yn myn'd trwy'r atebion. Fe gyhoeddir enw y buddugwr yn y "Pioneer" dydd lau mesaf, ac fe anfonrir y twrci y dydd cazilynol. Mi anghofiafs roi un reol bwysig i mewn yn yr amodau, a hwnw oedd fod yn rhaid i'r sawl a enilla y t-wrci wahodd Mari a finau 1 gael ciniaw "Nadolig hefo nhw. Ond mae'r beirmad yn dweyd ei bod hi yn rhy hwyr rwan i roi dim rheol newydd i mewn. Felly, mi fydd yn rhaid i ni aros gartref y Nadolig yma eto. Ond oa bydda i fyw ao iach y flwyddyn nesaf mi ofala i fod y rheol yna yn oael ei rhoi i mewn. ATEB LLYTHYR. Mi dderbyniais y llythyr canlynoi o'r Junc- tion yr wythnos yma gan rhyw g'readur yn galw ei hun "Timothy:"— Syr,-P an fyddwch ohwi yn arfer fy enw yn eich Ilithoedd ymgeisiwoh at fod yn fwy bon- eddigaidd. Mi feddyliais y buasech yn fwy gofalus i roi mistar o flaen yr enwau ar cl bod yn y court yn Llandudno, ac o byn alian gwnewoh yr hyn yr ydych yn ei gynghori i eraill wneud, yn enwedig "Ardalwr." A fydd- wcih chwi yn fwy gofalus, Mr Die Jones, rhag ofn i ysgrifenwr drnod fel "Ardalwr" godi yr hyn a. gawsoch o'r blaen am arfer y siswn. Os hamdden o hyn i'r 'Nadolig mi gewoh air eto. —Ydwyf, etc., TIMOTHY. Wel, yn y lie oyntaf, nid ydw i yn cofi i mf arfer enw Timothy yn yr un o fy Ilithoedd eto. Ystyr y gair Timothy ydi "ofnus." Hwyrach mai ofn gweled ei enw yn cael ei arfer oedd ei amcan o yn ysgrifenu y llythyr yma. Ond, cymar bwyll, "Timothy," mi ddaw dy dyrn clithau run fath ag eraill o dy gyfeill- ion yn y Janotion yna sydd ar fy list, a'r adeg hono oawn weled pwy ydi y gWr bonheddig gwirioneddol. Mae Timothy hefyd yn treio gwneud drwg rhwng "Ardalwr" a finau. Rydw i yn cofio clywed y gofyniad, "Sut y gwnaeth Mr Lever ei fiFortiwn?" a'r ateb oedd, "Trwy feindio ei fusnes ei hun." Rhown i gynghor i "Timothy" wneud yr un peth. Y C--L CANU. Mi eis am dro i Gonwy ddydd Gwener. Gal- wais efo Mr Lloyd yn y Plas Mawr. Cefais scwrs bach reit ddifyr hefo fo a Mrs Lloyd tra yn yfed cwpaned o de. Dywedodd wrtha i fod Clwb Cicio Conwy wedi curo Bangor dair gwaith eleni yn barod, a bod nhw yn ohwarea yn rhalorbl iawn jyst rwan, ac wedi eniil gymaint a .37 goals yn barod. Wedyn mi eis am dro lawr y stryd, a ohvfarfyddais ag amryw hen Urindia'i. Dywedodd Mistar J. P. Grif- fiths wrtha i fod y cor yn bwriadu perfformio'r 'Messiah" In y Neuadd Drefol y Sul cyn y 'Nadolig. cgd ai ddywedodd wrtha i pa'm yr oeddyn uhv| yn mynd i'r Neuadd Drefol, yn He i r eghHfa fel llynedd. Dywedodd rhai o aeiodftu y cor y buasai yn well o lawer mynd i'r eglwys an; fod, yno organ, fuasai yn fajitais fawr i'r caM. Mae'r "c 1 oanu" yn fyw o hyd, ddyliwn, ond mae Mistar J. P. Griffiths, arweinydd clodwiw y cor yma, yn ddigon o feistr ar hyd yn nod y "gwr drwg hwnw," fel nad ydi o ddim yn debyg o gael llawer o ddy- lanwad ar gfantorion Conwy. RETALIATION. Clywais fod yna. dipyn o deimlad rhwllg y Council a Chymdeithas y Trefchdalwyr. Yn ol fel y deallais i, mae Cymdeithas Trethdalwyr Con-.vy wedi pasio rheol na chaiff neb fydd ar y Council fod ar bwyllgor y gymdeithas, a bod rhai o'r councillor, wedi cael eu digio yn arw iawn o aohos y rheol yma. Mae Mistar Hugh Hughes yn gofyn i Council dalu yn ol trwy roi 3aC i aelodau y gfmùei thas sydd yn eistedd ar bwyllgorau y Council. "Retaliation" fuasai Mr Balfour yn galw peth fel hyn. Mae yn edrych braidd yn rhyfedd gweled Mistar Hugh Hugfaes yn cofnogi ac eisio rhoi mewn gweithrediad syniadau Mr Balfour, onid ydi, yn enwedig i'r rhai sydd yn adnabod y cyn-Faer. YN Y WORKHOUSE. Er mwyn cael mynd allan o'r helyntion yma, eis am dro i'r Waen, daoIl feddwi cael gair gyda Bangorian, ond ar y ffordd i lawr gwelais amryw bobol bwysig yn mynd 'run ffordd. Ml canlynais nhw, dan feddwl fod yna Sasiwn neu rhywbeth ar y Morfa, ond i mewn i'r tlotty yr aetha nhw i gyd, a dyma fi i mewn ar eu hola nhw. Pan gyrhaeddais y drws dyma rhyw ddyn a chlamp o lyfr mawr yn dwad ata i, ac yn pofyn am fy enw i. "Ydw i ddim yn dwad yma i arou," medda finau. "Chewoh chi ddim mynd i mewn o gwbl heb i mi gael eich enw chi, syr," meddai ynta. Wedi i mi edryoh ar y llyfr, a gweled rhai o'r enwau. nid oeddwn yn petruso mwyach gael fy enw inau yn eu mysg, ac. wedi i'r dyn ddeall mai Die Jones oeddwn, dyma fo yn rhoi wine wy- bodus, a ddywedodd o run gair ychwaneg, heb- law dangoe y ffordd i mi i fyny'r grisiau, yn barchus dros ben. Wedi myn'd i fyny, dyma I Is rhyw ladi neis yn gofyn i mi lie roeddwn i yn myn'd? Bobol anwyl, mi roedd hi yn swel hefyd. Wyddwn i ddim s«t i'w hateb hi, achos erbyn mcddwl, wyddwn i adim fy hunan. Tra roeddwn i yn treio meddwl lie roeddwn i yn myn'd, pwy daaeth ata i ond Edward Roberts, mail coach, a gofynodd a oeddwn i yn dwad i gyfarfod Bwrdd y Gwarch-eidwaid? "Ydw," medda finau, yn ddiolchgar o gael rhyw esgus i ymadael a'r ladi, achos mi fydd oen i °fn 7 merched yma yn ofn- atsan. DADL AR WYAU. Wcl, dyma ni i mewn i globen o rwm braf, bron iawn gymaini a Town Hall, Llandudno. Roedd y rwm yn llawn o ddynion a merched, yn eistedd wrth desks,, fel y gwelsoch chi blant yn yr ysgol. Pan eis i mewn, yr oedd yna ddadl ddifyr yn myn'd yn miaen. Teetyn y ddadl oedd "Wyau." Spinther oedd ar i draed yn siarad. Gofynodd sut oedd yn bosib dweyd y gwahan- iaeth rhwng wy drwg ac wy da. Atebodd Mistar Parry (y town clerk) nad oedd dim posib heb eu profi nhw. Dyma Mr Bartlcy, Llandudno, yn dymuno dweyd gair ar y teetvn. Siaradodd o am bris wyau. Dywedodd eu bod nhw yn gwerthu am ddwy geiniog yr un yn bresenol, ond ei fod o wedi prynu rhai rh.jw dro yn ol-pedwar-ar-ddc, am swllt. Siaradodd Mr McClement, Penmaen- mawr, a Mr Wm. Williams (sir Fon), o blaid cadw cyfrir o'r hofi wyau drwg fedra nhw gael hyd iddyn nhw arbyn y ddadl nesaf. Tydw i ddim yn m^dwl yr,a i i'r ddadl nesa, pan bydda nhw yn cyfri'r wyau drwg. CYFLQG Y BARBWR. Wedi gorphen y ddadl, dyma nhw yn dechreu gneud dipyn o fusnee. Y peth cyntaf wnawd oedd penderfynu prynu postcards a phapur ysgwenu, ac inc mown tri lliw, sef coch, gwyrdd, a du. Gofynodd y barbwr am ychwaneg o gyf- log, ond yr oedd hwn yn destyn rhy bwysig i'w eetlo heb ystyriaeth, felly gohiriwyd o am fis. Achos arall fu o dan sylw oedd "Pa un ynto dwy lath a. haner ynte tair llath ddylai hyd llienleni gwlau fod?" Dyma, mae'n debyg, fydd testyn dadl y cyfarfod nesaf. YN OL I GONWY. Wedi pasio ameer reit ddifyr yn y cyfarfod, cyfeiriais fy nghjsumrau tua'r dre. Eis i edrych am Mistar Tomoe Morgan, gael i mi fyn'd dros rhyw gan newydd sydd ganddo fo, oblegid tydi o ddim yn canu "Sospan bach" rwan, ond toedd o ddim adref. Felly, eis i siop Fred Jones, yn Bangor-road. Sais ydi Mistar Jones o ran ei enedigaeth, ond mae o yn Gymro trwyadl o ran ei galon a'i enw. Mae gyno fo un o'r gwragedd mwyaf caredig welais erioed. Toedd dim byw na marw nad awn i mewn i gael cwpanaid o de hefo nhw, a chefais scwrs reit ddifyr. Dywed- odd Mistar Jones wrtha i fod o wedi bod yn gadeirydd cyfarfod llwyddianus y noson o'r blaen, pan wnaeth Canon Jones, ficer Penmaenmawr, araeth gampus ar y pwnc o Ddadgysylitiad yr Eglwys. Doallais gan Mr Jones y bydd ymad- awiad Ficer Lewis o Gonwy yn golled fawr i'r ardal yn gyffredinol. Mae Mistar Jones yn bwr- iadu bildio shop a thy newydd gyferbyn a'r Post Offis newydd yn Nghonwy. COLLI Y TREN. Ar ol ffarwelio a Mistar Fred Jones a'r teulu, 6J3 i'r station. Erbyn cyrhaedd y station, jest pan oedd tren Colwyn Bay yn dwad i mewn, mi gofiais fy mod i wedi gadael fy ymbarel yn siop Mistar J. P. Griffith, a dyma fi yn rhedeg i'w nhol hi, ar ol dweyd wrth guard y tren na fyddwn i ddim yn hir, am iddo fo weitied. A dyna He roedd un o hogia y siop wedi ei phacio hi i ffwrdd, gan feddwl ei rhoi hi yn y ffenestr at y Nadolig fel "curiosity" i dynu pobol at y siop. Wel, wel; pan gyrhaeddais i yn 01 i'r sta- tion, roedd y tren wedi myn'd—wedi blino gweit- icd am dana i, mac'n debyg. Toedd yna ddim tren arall i gael am dros ddwy awr, ond dywed- odd y station meistr wrtha i y oa.wn i dren am GDlwyn Bay mewn rhywbeth fel haner awr os j r ^Junction. Toedd dim am dani hi ond cefdded ir Junction, a thalu ceiniog i ddyn y bont am gael oerdded. Cefais y tren yn all T1? 71?, y Junction, a digwyddais hitio yn lwcua 1 fynd 1 r un garage a Gwilym Deunant. Roedd ynta n myn'd i Golwyn Bay hefyd, i weled Mr Jones, arolygydd Cwmni Insurance y Pearl. Cawaom scwrs reit ddifyr gyda'n gilydd. Dywed- Z T'rtha J fod yna sryn ddarllen ar Iithoedd Dio Jones yn y Junction, ac addawodd anfon tipyn o farddomaeth i mi at y Nadolig. S-j JVC sychu' fyny yn y felJy rW gadael y Ihth yn y fan yma am un wyth- Hvp vkOi n06 eto, DIC JONES.
Yn Swn Telynau r Awen.
Yn Swn Telynau r Awen. CRI CARIADFERCH Y MORWR. Mawr alaeth y mor heli-a. yrr ing Drwy fy mron yn gefnlli; Dduw'r tangnefedd, clyw 'ngweddi, Ar y don mae 'nghariad i. Y GAUAF. 0 mor gu y mae'r gaua.yn ei waiih Er yn wyllt ei redfa; Heddyw rhoes ar fedd yr he Ei dirion gawod eira. FY HOFF OLYGFA. Menai war yn mwyn oeri-Iliw hufaidd Glyn Llifon yn nosi; A'r hwyr aur ar Eryri, Ddyfnha hodd fy awen i. FY HOFF RODFA. Bro unig ynghefn y hryniau,-hun a hedd Yn noddi'r cysgodau; A'r hwyr ysplandra'n parhau Ar bennoeth redfa'r bannau. J. R. TRYFANWY.
GWEDDI WILLIE nACIt,
GWEDDI WILLIE nACIt, Gweddi fecha oedd ei weddi Yn y gauaf oor a du, Ond hi hododd drwy yr oira I Fehefin angel cu. "Gentle Jesus," meddai Willie Ar y ddaear "meek and mild" Er fod noe yn cuddio'r nefoedd,— Lcok pon a little child." Er mai semi oedd ei weddi Fo gyrhaeddodd Ganaan wiw;' Plontyn bach sy'n gwybod oreu out 1 siarad gyda'i Dduw. Nid yw gweddi plentyn '-vchan Fytb yn c -111 ffordd y Ncf Esgyn wna mor dlos ei haden A ahoioiiMV!* tHO Jif. Gentle Jesus," 0.1 mor am'-vl Ydoedd gwaeddi Willie baoh VV rtli ei chlywed holai'r e.-o-y': Am y ITordd i'w hawyr i;;h. Rhes o blrunt mewn gynau gwynion A wrajidawaanit ciriau hon Ac wrth, wra,aùo y gwtxidiwr lyfaa illi ar bob bron. Tybed glyw-odd "taid" y weddi- Uentie Josus meek and mild" Drwy y Nef yn cwu gorfQled-d- "Look upon a little child." Oedd o'n gwrando WilJie-n gofyn "Pity my simplicity"' '< m Oedd on smiles wrth wrando'r diwedd Gutter me to com-j to Thoe G^'ld'V'J 'taid", mai "Gentle Jesus" Ydoedd enw tly.saf Crist, Ac mai "meek and mild" a fvddai Wrth enoidiau tlawd a thrist. Gwn fod nefoe-dd yn ei gaJan, A gorfolecid yn cj ri yJl Pwra-ndo Willie'n gofyn— buifor me to come to Thee." EI FFRYND "HWS."
Marwolaeth Cymro Enwog.
Marwolaeth Cymro Enwog. Af7cei^a'wef y.n lJtica' America, bu farw j HumPhr«ys cyfrcitliiwr. Gan- yn Pencoed, Llanarmon, Eifionydd I? jn fardd a llenor Kalh,og iawn! Enilkdd awer o vyobrau Eisteddfod a bu medd y Drych. 0 fewn trwch blewyn i eniU cadair yr Èisteddfod Genedlaethol un- '30it.h.
PELLEBRU DARLUNIAU.
PELLEBRU DARLUNIAU. Y mae y Proffesor Korn, o Munich, wedi dyfeisio cynllun trwy yr hwn y gellir anfon gwawl-ddarluniau (photographs) gyda.'r pellebyr. Anfonwyd ei ddarlun ef ei hun y dydd o'r blaen i un o bapyrau Paris. Hwn oedd y cyntaf a gyhoeddwyd yn y wasg Brydeinig o dan y gyfun- drefn hon a adwaenir wrth yr enw "cvfundre.'n Korn." Dyma ddyfais sydd bron yn anhygoel i fcddwl ei bod yn gweithio dros y fath belldar gyda gwifrau y pellebyr.
Catrin Dafis at Bob Wilias.
Catrin Dafis at Bob Wilias. WEDI PRYNU'R FODRWY. Lie roeddwn i, deudwch? Rydw i wedi anghofio pob peth ond mod i y wraig fwya hapus yn y byd. Mae'r teimiad run fath yn union a tiia;swn i'n bryddwvdio'n felus heb ddeffro, a mae'n biti fod pobol yn deffro pan fydda nhw yn bryddwydio yn felus. 0! ie, rydw i'n cofio rwan. Roeddwn i wedi agor y drws ac yn misio d-eud yr un gair achos fod Bob Wilias jest a mygu i helo'i gusana. Toeddwn i ddim wedi cael cusan es blynydda cynt, ond mae nhw'n wahanol i bob peth arall ac yn dal yn eu bias o hyd trwy'r blynydda, 03 na fydd rhyw hen Judas yn eu gneud nhw'n sur ac yn chwcrw. Ie, neno'r tad, petha blasus iawn iawn ydi cu.-an a cariad, a mae'r dyn ddaru ddyfeisio y petha yma yn haeddu cael moniwment nob!. Wel, pan stopiodd Bob roedd y ngwyniad i run liiw a'r spotia. cochion oedd ar y mlows newydd i, a fedrwn i yn y myw ncud dim ond cochi yn swil fel geneth ddeunaw oed ar ol cael cariad am y tro cynta. Mae'r gair yn ddigon gwir nad oes dim byd tebyg i gariad am gadw pobol yn ifanc-ma.e o'n well fil o weithia na phowdra a rhyw lol felly. Roedd Bob yn teimlo reit cartrefol ddyliwn, acho3 mi aeth yn syth i'r gadair freichia a mi nath i fina eistedd yn ei ymyl. Ddaru o ddim gollwn fy llaw i, a toedd gen ina ddim brys i'w thynu hi, Peth reit clen ydi teimlo liaw gref, gynhes, pan fydd rhywun yn teimlo yn unig a. gwan, iel ro-eddwn i byth er pan .golles i liuw druan. Roedd Wil yn dechra deud be oedd ar ei galon o, ond mi stopies i o. Roedd gen i eisio iddo gael tamad i ddechra. Mi wyddwn o'r gora mai ffordd reit dda i fynd at galon dyn oedd i lawr trwy ei wddw o, a. thasa merched yn edrach ar ol tu mown dynion yn well mi fasa na lot llai o ffpaeo yn y byd. Roedd y tegell yn berwi es meityn, a mi dynas y tebot gora i lawr o'r shilff, a mi rois y te gora. oedd yn Llanrwst ynddo fo. Roedd y sosinjars yn boethion, a. toedd dim eicio gofyn i Wil estyn atyn nhw. Roedd o'n gneud yn harti ac yn taflu golwg ata. ina rhwng bob tamad. Sein go dda ydi hyny. Os medar dyn edrach ar wraig pan fydd o'n byta. sosinjars horn med mae o'n siwr o fod yn meddwl lot 0 honi. A roeddwn i'n tynu cysur o hyny. Hoedd gen i lot o betha erill ar y bwrdd—pob peth gora fedrwn i feddwl am danyn nhw i'w blesio fo, a mi roedd o wrth ei fodd er dipyn yn nyrfue. Wrth gwrs, nid dwad yma i fyta ddaru o, ond mi wnaeth hyny a rhywbeth arall hefyd, a hwnw oedd yn bwysig ac yn rhoi bias ar y bwyd a phob peth arall. Wedi i ni orphen byta-y fo ydw i'n feddwl, achos fytes i fawr-roedd gen i betha pwysicach ar y meddwl na hyny noson hono—ie, wedi iddo fo fyta. ac i mins. gadw'r llestri mi aethon i'r parlwr bach. Roeddwn i wedi gneud tan yno er y bora. Toedd fawr o eisio'r tan chwaith. Tasa hi'n ddigon oer i neud i gathod disian mi faswn i a fynta yn ddigon cynes y noswaith hono achos mae cariad run fath a tasa na danilwyth tu mewn. Mi faswn yn leicio deud y sgwrs fu rhyngom ni, ond gwell peidio. Mi fu'm yn hir iawn yn teimlo reit ISwil ac yn cochi'n arw, ond weles i rioed fath Wil am neud i mi deimlo'n gartrefol. Mae o'n y nallt i i'r dim. Pan welodd o fi mor ddistaw, mi holodd dipyn am y cymydogion ac am yr anifeiliaid, ac am bris y menyn nes y datododd o'r Hinyn ar y nhafod i, ac wedyn o dipyn i beth mi ddoth yn nes adre ac i son am dana ina. Roedd y scwrs y peth tebyca welsoch chi rioed i gadw seiat—y fo'n holi a fina.'n ateb, y fi yn deud i ddechra nad oedd gen i fawr ar y meddwl, a fynta yn gneud i mi ddeud y cwbwl yn ara deg, a too i chi mi ddoth i eista i f'ymyl i, a mi gymerodd afael yn y llaw i; ac o dipyn i beth mi roth i fraich am dana i, a thoc dyna fo'n deud: "Catrin anwyl, waeth heb hel dail na chyboli dim chwaneg. Mi wyddost o'r gora bedi fy neges i a rwyt ti'n nabod i es digon o flynydda bollach. Gymi di fi, Cat. in, er gwell ac er gwaeth?" Wyddoch chi, dyna'r miwsig gora glywis i rioed. Roeddwn i'n gwybod o'r gora y gallwn i drystio Bob. Ond toeddan ni wedi bod yn caru flynyddoedd lawer yn ol, a toedd o wedi myn'd a nghaion i radag hono. Mae'n wir mod i wedi ei rhoi i rywun arall, ond ei benthyg hi gafodd Huw, waeth deud y gwir, a rwan roedd hi n mund yn ol gartref. Ie, Bob oedd pia hi- toedd dim dowt am hyny. Ond ddeudis i ddim hyny wrtho mewn munud. Roedd gen i eisio clywed chwaneg o fiwsig o'i wefuea fo. A mi drois ato a mi o ynis hefo llais oedd yn crynu er y ngwaetha i: "Robert Williams, ydach chi'n siwr bod chi'n ei feddwl o? Tydan ni ddim mor ifanc ag y buo'n ni, a faswn i yn leicio i chi gofio ych bod chi rwan yn siarad hefo gwraig dros haner cant oed. Ydacfh chi'n siwr, Robert?" "Wyddost ti be, Catrin?" medda fo, "taswn i mor siwr o fyn'd i'r nefoedd ag ydw i mod i'n dy garu di a dy eisio'n wraig, tawn i byth i gapel nag eglwys wed'yn. Dy garu, ydw ngeneth i -r pan oeddat ti yn ferch ifanc, a mae'n gystal gen i ti heddyw ag orioed. Mi wna'n ngora i ti- fedra i ddim deud chwaneg na hvny, a rwyt ti'n gwbod yn ddigon da be mae hyny vn feddwl vn twyt ti?" Heb i mi gael amser i ateb mi roth glowtan o gusaji ar y moch i, a mi setlodd hyny bob peth. Ddeudis i fawr, ond mi ddalltodd Bob v cwbwl. Mi dynodd fodrwy aur o'i bocad, a mi treiodd hi am y mys i. Roedd hi'n ffitio i'r dim, a fuon ni ddim yn hir heb setlo ar y diwrnod i fyn d i'r Eglwys at yr allor. Mi gewch hanes y briodas gen Bob. Mae o wedi addo sgwenu'r hanes i gyd, ac os ydi^rhai o r darllenwrs yn meddwl gneud prcsonta i mi a Bob mi fydd y golygydd yn y briodas. Rydw in gorphen rwan heb ddeud vr haner ond mae r galon rhy lawn (achos fod Bob ynddi) i'r ta od lefaru na'r pin ggwenu chwaneg. Ydwyf, yn hapus iawn. CATRIN DAFIS.
PLAID LLAFUR A'R LLYWODRAETH.
PLAID LLAFUR A'R LLYWODRAETH. Gwrthryfelodd Plaid Llafur yn erbyn y Lly- wodraeth nos Fercher. Yn mhwyllo-or ar y Mesur lawn i Weithwyr, cynygiodd Mr John Ward, yr aelod Llafur dros Stoke-on-Trent welliant yn nglyn a contracts a brofent yn goll- ed i weithwyr. Dywedodd yr Ysg-rifenydd Car- trefol eu bed yn darparu yn y Mesur y gallai'r gweithwyr dynu yn ol o'r cyfryw vmgymeriad ac felly osgoi'r golled. Pleidleisiodd 109 dros y gwelliant a 244 yn erbyn.
EI GWISG BRIODAS.
EI GWISG BRIODAS. Dydd Mercher, yn masnachdy Madame Lam- bert, Hanover ^nudre. Llundain, yr oedd gwisg- oedd priodas Miss K\! :yn J'oultiey Big-iow.. rrerch i awdwr Americanaidd, I w gw.-li'd"* yn pried: ddydd J au nesaf. Mae g.iiidfli ddwy ar hug-ain o wisgocdd a deg govm, a'r oil wedi eu gwneuthur yn y wlad hail.
|SUDDO GER Y LAN.
SUDDO GER Y LAN. Suddodd y cwoh pysgota, "Linnet," fel yr oedd ar ddyohwelyd gyda physgod yn Hast- ings, ddrydd Mercher. Cafwyd y 'sum o 9p 10s am ei chwo' helfa flaenorol, yn rhifo oddeutu 80,000.
Y Llenllian.
Y Llenllian. MANION MELUS, DOETH, A DYDDOROL. Gwell gwaith nag athroni a thybio o'r fath yw chwilio am brofion, ncu dewi. Pwy fyth a fedd- yliai yr ai y gwlaw llwyd wrth ddisgyn yn wyn ar ol rhewi? • • • • Proffeewr Phelpa o Goleg Ya.lo a dystia fod anwybodaeth cfrydwyr o'r Beibl yn ein colegau a'n prifysgolion yn gyffredinol, ac yn syn mewn gwiad yn ymgyfenwi yn Gristionogol; ac ych- wanega. fod hyny yn warthruddol. Yn sior, dylai y Beibl fod yn fwy amlwg yn ein plith. # Lies anferth i'r Awen Gymrcig fyddai pe caem ni fwy o ddychymyg y benwisgyddes i'w thrin dipyn. Mae ein llenyddiaeth wedi myned yn hynod o unffurfiol. Pan y clywir am lyfr Cymraeg newydd o Gymru, gellir gwystlo pum' doler heb ofn eu colli, y bydd yn Ilyfr crefydd- oi, yn Uyfr barddonol, neu yn Ilyfr canu. Ai ni ddylem ni dori yn fwy i ffyrdd newydd fel ag i amrywio ein meddyliau a'u diwyllio i wahanol gyfeiriadau buddiol a bendithioll, » » Ni fydd cyngor yn waeth o'i fod yn dyfod o'r America. Mae yn amlwg bellach, gan fod gosod pabell i'r Eisteddfod Genedlaethol yn cost- io mor ddrud, a hyny yn gyfran fawr o'r clraul flynyddol, ai ni ellid neillduo rhyw fan yn Nghymru i godi cartref arosol tragwyddol i'r Eisteddfod, haner yr adeilad a haner y llwyfan i fod yn y Gogledd a'r haner arall yn y De, a phawb i fyned yno o bob parth o'r Dywysog- ¿¡,eth? Gwna.i hyny i ffwrdd a llawer o draul arianol, o eiddigedd, cystadleuaeth, dadleu, a phob achlysur annymunoldeb arall. Nid yw canol Cymru yn mhell iawn o'i heithafoedd pellaf. Byddai yn fwy cyfleus yn y canol i "ba.wb" nag mewn un man arall. Geiriau sydd wedi eu diraddio y blynyddau diweddaf hyn yw "gentlemen" a "ladies," yn y mae "gents" wedi myned yn is etc! Gelwir pob math o fenywod bellach yn "ladies." Mae yn ddiraddiad o'r brajdd i aiw benyw yn "lady." Felly nid rhyfedd fod y geiriau "men" and "women" yn dechreu dyfod yn ol i barch eto. Dyna eiriau y Beibl. Ni sylwasom erioed fod y Beabl yn defnyddio cracheiriau o'r fath. Mae yr Hen Lyfr yn o blaen! Pe bae ni haner mor blaen a.g ef I Clywsom am weinidog Methodus yn y wlad hon oedd yn priodi dau yn Saesneg un tro, a chan fod y briodferch yn o daclus o'i flaen, aeth yn nerfus a. gofynodd i'r gwr ieuanc a gymerai efo yr "young lady" yn wra.ig, a thoimlai pawb ei fod yn andwyo y cwbl! Peid- ied neb ag ofni galw dyn yn ddyn, a benyw yn tenyw. Y geiriau mwyaf parch us ydynt wedi" y cwbl. J 1 1 t nt 1 iwijw aalwm o amser yn ol, cylioeddodd bardd Cynireig gan, yn yr hyn y gofynai gyda phethau eraiil, "A ddaw hi yn gyffro diysgog*. n.6^ °*eu diwawl; a fydd hi yn f'^ Ti., un avvyr> n6« rywfodd yn ganmol di tjj a.Swnai am bell un wawd o'r bardd, hub feddwl ei fod yn ysgrifenu dan ysbrydoliaeth i gefnogaeth i'r bardd, cawn fod y nreiess cooking stove" wedi ei dyfeisio gan rywun, a hysbysir fod rhywbeth cyffelyb yn ar- feredig yn Germani er's tro. Mae y cerbyd di- geffyl gyda ni er's amser bellach, yn tarfu y ceffylau allan o'u crwyn o'r braidd gan mor ddyeithr ydynt; ac yr ydym yn disgwyl y dyoh- wei cyn bo hir y preg'ethwr dibapyr. Gresyn fod y breg-eth ddibapyr wedi myned yn "gelf golledig o'r braidd yn ein plith, er's talwm bellach! Nid oes gan y dyn dibrofiad presenol fawr ddychymyg o'r pethau rhyfedd sydd i aynu y byd a'i bobl yn yr oesau i ddyfod. Nid yw yr ymetfiydd dynol eto ond dechreu blaguro! « • « » ° GWERS FUDDIOL. j l\Lae y Ilythyrgard au dariuniadol yma wedi dyfod yn bethau dyddorol o boblogaidd yn em plith, ac y maent yn ddefnyddiol ac adeiladol os y geilir eu cadw rhag ymddirywio ac ym- lygru fel yw tynged llawer o arferion bydol. ij-PaW r au &welsant neu a'u cant, mai yo^y^g' o ofod sydd arnynt i genadwri. Rhaid 1 hono fod yn fer ac i'r pwynt gan gymaint o'r lie gymer y darlun. Tuedd pobl yw ymhel- aethu yn ormodol, ond i'r cyfryw y mae y liythyrgerdyn crybwylledig yn awgTym i bob un fod yn fyr a dioferedd. • givers- ,fel'y. yn y jlythyrgerdyn dariun- iadol, sef yw hon, y dylai cymdeithas drwy ei threfniadau atal gwastraff ar amser a defn yddiad cyfle i flino a diflasu pobl. Mae cytar- fodydd yn ein plith, y Cymry, yn dueddol iawn ,0 fyned yn feichus o faith i ddim dyben am- genaoh 11a cheisio boddioni ymgeiswyr ac ym- awyddwyr am eu gweled a'u clywed. ¥ gyfarfodydd dylid cymhwyso trefn y llythyrgerdyn, sef tori i lawr a chyfyngu yn fawr ar y cyfle lddynt wneud hyny. Yr yn fawr ar y cyfle iddynt wneud hyny. Yr r unig ffordd i feddyg'u anhwylderau cymdeithas yw gofalu na fyddo gan annyddordeb a diflas- dod ao anfuddioldeb ie i ymledu ac ymrwysgo fel chwyn. Ni ddylid goddef i chwyn fyned dros faes cymdeithas. I gyrhaedd yr amcan daionus hwn, hefyd, ni ddylid bod ag ofn digio ychydig. Dylai dyddordeb a buddioldeb -eymdeitbis gjmeryd i fyny lawer o ofod ac amser yr oes fel na fyddai lie ar ol ond i ychydig o fympwy personol pobi. Ni ddylid caniatau g'Ofod i neb o g-aredigrwydd i dda-ng-os ei hun a diflasu pobl. Dylid gwneud llythyrgerdyn y trefniadau mor ddoeth fel ag 1 adael ond vchydig neu ddim i'r ddoeth fel ag i adael ond ychydig neu ddim i'r cyfryw i'w wneud a'i ddweyd.
LLOSGI I FARWOLAETH GER LLANGEFNI.
LLOSGI I FARWOLAETH GER LLANGEFNI Llosg>vyd Elicm Rateliffe, geneth vth mlwydd oed, o Rhostrehwfa. ger Llangefni, 110s Iou, mor, ddifrifal drwy i'w dillad gymoryd tan, fel y bu farw y:i mhen teirawr.
ANTHEM DYDD GWYL DEWI.
ANTHEM DYDD GWYL DEWI. Dewiswyd anthem Mr T. Westlake Morgan, 'Cenwch 1 Dduw," i'w chanu yn v gwasanaeth Cymraeg yn Mhrifcglwys St. Paul, nos Wyl Dewi nesaf.
HAEL I LLANDUDNO.
HAEL I LLANDUDNO. Mae Mr David Davies, A.S., wedi cyfranu. 25p at gronfa sefydliad y Y.M.C.A., yn Llan- dudno.
DAMWAIN EllCR.
DAMWAIN EllCR. Nos Lun, syrthiodd gwra.ig briod, tua 45ain mlwydd oed, o'r enw Lettico Thomas, Union- street, Bangor, i lawr y grisiau, ac aeth un o binau ei het trwy ci phen. Gorwedda mewn eefjlifa ddifrifol.
CINIAW Y CYMMRODORION.
CINIAW Y CYMMRODORION. Cynhaliwyd ciniaw blynyddol Cymdcithas y Cymmrodorion, yn Llundain, nos Lun, l\lr Lloyd George yn y gadair, a Syr John Puleston vn brif west. Yr oedd lluaws o Gymry blaenaf yr 000 yn bresenol, a rhaed a.reithiau gwladgar gan y Milwriad Ivor Herbert, A.S., Mr Ellis Jones Griffith, A.S., Dr. R. W. Roberts, Mr Lloyd George, Syr John Puleston, yr Arglwydd- Farnwr Vaughan Williams, a Mrs Lloyd George.
Advertising
BiW -,i'¥L- !e'it-, I RETIRING FROM BUSINESS. j T?* I Messrs. THOMAS & FISHER, I I LLHN DUDNQ. I I 0 0 00 ID lp010 B Is 0 I The Greatest Sale of High-class Domestic Furniture I I and fabrics ever held in Wales I 8 Has already proved in every way a phenomenal success, and we have secured the best 1 I advertisement possible, viz. :-the acknowledgment by all Purchasers that i I The REDUCTIONS are highly SATISFACTORY, and that in every sense 1 1 THIS SALE IS A BONA-FIDE OPPORTUNITY I | NOT TO BE MISSED BY THE PUBLIC. I I NOTE.-The First Buyers have the Best Selections. 1 .1l Pau&
Nodion o Glip y Gop.
Nodion o Glip y Gop. (Gan Wil y Gweithiwr.) 0 hyn allan dymunwn hysbysu pawb roai nid aerem gynffanog yn ymddangos boib tair blyn- edid yr amoaiM. "Wal y Gweithiwr" i'w nodion. ymdxiangos ar ddalenau Y "PIONEER," felly na didisgwylued neb iddo amcajnu ffafrio Wl1 blaid rieu acot yn fwy na'r llail. "fair play aM no favour" fydd e:n motto, a oheia- iwm gadw mewn galwg yr hyn fydd yn dwyu cyseylltiad a less a dyddordeb y dosparth gwefstohnol yn gyffpedinol, a >:yny mor ddiduedd ao y g-wna aelodau llafur yn y Senedd. Bydd hyn o eg-turhad yn fantais J. bawb o honom ddieall ein gilydd yn y dyfodol, ao hefyd gadw "Wil Gwoithiwr" ar delerau eyfeillgax a.'r Gol., yr hwm sydd yn oeisio (eddhau pawb o'r darliemwyr heb dda.ngct3 ffafr r,a chenfige.i i un blaid na scot yn fwy na'r .la.ll. Wel dyn.a ddigcin ar hyn. Coiiclf mae c-refydd Y "CAU LLIDIART" sydd ganddo, a wyddoch oeth ydyw hono? Wel. Oil mynwoh wybod hyny darllenwoh hanes "Bywyd yr Hctn Deiliwr" gazi Gwilym Hir- aethog a clheiir csbonaad arno. Dywed ef fod lie i ofni wedi Yir ho-11 dwrw sectyddol yr ces hon mai yohydig o bosibl allant ymffrostio fel yr hen bobl bod yn cario c re fydd y "cau llidiart" allan vn eu bywyd ymarferol. Y meddylryctn ydoedd oaru eu cymydogion M hwy eu humain, a pheidio drygu y naill a'r llalI. Eisiau mwy o grefydd y cau llidiart sydd arnom yn e:n mysg yn Nghymru y dydd- iau hyn. Fo wyr pob un aydd wedi darllen hanesyddiaeth Gymreig mai y prif achos 1 ni golji etiin gwlad ydoedd yx ymrafeilion parhaua <j2-dd rhwng y naill Dywysog a'r llall. Bu hyny yn achlysur iddynt olli undet) a nerth, ac yn fanjtais i'w golynion cu gorchfygu a gor. eagya ein gwlad. Ceir yr t.n g wend id yn ein mysg hyd heddyw. Beth ydyw yr aohos fod mwy o ymi-aniadau yn ein mysg fel Cymry nag a-geir yn mysg y Saeson, ac am fod llai o syaiwyr cyn rediin yn eirn n.ysg, ai ynte am fod y Sais yn gallaoh a chyfrwysach i'w leshad ei hun? Eithaf pet-h i'r hweitliiwr Cymreig fyddai cyln&ryd y cwestiwn 1.wn dan ei ystyr- iaeth. Oblegyd clywsom rai \"rth son am ail- agoriad hen waitih phym enwog yn Yr ardal hon yn gobeithio on byddai hyny yn digwydd y gwelid yr arolygaet-h yn navylaw Ffrancwr, Ellmyn, neu Amerioanwr. Gwarchod aaiwyl, gyfaill," meddwn wrtho, "a ohwi yn Gymro tMc-h hu:n. ( Pa sub yr ydych yn dymuno peth felly?" "O," ebai'r hen fwnwr, "pan oedd y gwaith yn myn'd o'r Uaen. yi wvf yn oofio tri arolygwr ,mo. a'r tri hyny yn Gymry. Yr !d un yn Annibynwr, eo yn yr adeg hono pe buasai pob ysgubor yin yr a.rdaloedd hyn yn cael eu troi yn gapolau Anaiibynwyr buasant wedi eu gorleinwi. Ond yn v man daeth arol- ygwr araJl i'r gwaith. Wesleyad ydoedd hwaiw. A dyna lie yr oedd ymdyru i fod yn Wesley aid, and asetah yr oruchwyliaefch hono hefyd hoi bio, ac trna daeLh yno Eglwyswr i'r He Cyn ei ddvfodiad i'r lie," ebai yr hen frawd hwnw, "galleged cyfrif rhif Eghvsywyr yr ardal ar beittau bysedd, ond y Sul cvntaf y gwelid y mapager newydd yn myned trwy y porth i'r Eglwys ylr oedd yr holl seddau yn 11 awn ion, ond df.eth yn ainem ar derfyn y Uiith hono Cau- wyd y ftwaith i fyny a dwfr hyd heddyw". Fel os gwedir oi aiLagoriad rhyw dro eto yr wyf yn gobeithio, er mantais crefydd bur a dirag- ritih, rua welir un Cymro ymo yn cael ei apwyntio yn brif &rolvgwr. Wn i ddim be.th ddvwed eitn daxlleinwyr -t)-a abrnrawiaeth fel hon. Hyin a wyddom fod yr hen fwnwr hwn yn ddyn gonest a phlaen, a chredwn hefyd ei fod yn Gristion diragnth telly im ddyrniuiai "Wil y Gweitihiwr" amhcu ei sirwiredd a i ddymun/iadau goreu er llcshad pob gradd yn gyffredinol. Ond prin y oredwn y dylid rhedeg i lawr unrhyw arolygwr o o'r naiur hyn. Diffy<r gwroldeb a gwladgarwch y gweilihwyr eu hunt a-i-a ydofrdd i'w feio fwyaf. Cly NoSom fod diau gor o Treflawnyd yn paro- toi a.r gyfer cystadieuaeth yn y Wyddgrug. Da iawn,, beohgyn campus sydd vn oartrefu yn hen wlad y Gordofigion. Nid pobl i gym- erycl eu gorchfygu ar chware-u bach &vdd vn byw yaw, ond ca.wn fanylu dipyn ar bethau [pi hyn fel y. cawn hamdden eto. Does dim sydd well i gadw pawb yn gynca ar dywydd oer na cn&nu da a d}1na wnaetih Cymru lan yu wlad y g an
Y Bennod Gymysg.
Y Bennod Gymysg. D-eallwii fod y Paroh Griffith Hughes, mab y Parch John Hughes, gweinidog M.C Edern, wedi cael galwad unfrydol i fyned i fugeiho Eglwys y M.C. yn West lvirby, Lerpwl. Torodd gwartheg Cefndre, Llanfair, dros y clawdd i ardd, y Sab both, a bwytasant gangau y pren yw oedd yno. Y eanlynia,d ydoedd i ddau eidion farw y diwrnod hwnw. Dydd Linn cynigrodd c'addedigaeth Mr John Thomas (Eos v De, datganwr tra ad- nabyddus, ao aelod o Gor Meibion Brenhinal Mr Tom Step-liens-le yn Nghladdfa Gy- hoeddus Aberdar. Y mac yr Uchgadben Radcliffe, yr hwn sydd newydd ga-el ei benodi yn oruohwyliwr Ceidwadol dros Ogledd Cymru, wedi cv- meryd Ystrad Isaf, ger Dinbych, fel lie" i drigianu ynddo. Bu y Cadfridog Baden-Povyel' ar ymweliad a Mr a Mrs It. M. Greaves, Wern, Porth- mado'g yr wythnos ddiweddaf. Hysbysir marwolaeth Mr Edward Gwynne. gynt prif gwnstabl Sir Frycheiniop- vn 80 mlwydd oed. YmddLswyddodd yn 3fai, ar 01 dal y swydd am 48 mlynedd. bu hefyd yn da] swydd yn Milisia Sir Fry- cli^iniog. Penododd Cyfarfod Misol Methodistiaid Calfin aidd Lleyn ac Eifionydd y Parch John Jones, Penmorfa, a Mr J. J. Jonca, Parciau, Criccieth, yn gadeirwyr. Dewiswyd y Parch H. Williams', Penygroee, yn gadeirydd Cyfarfod Chwarterol Annibynwyr Lloyn ac Eifionydd. Yn Ynadlys Machynlleth, dydd M(,rch. dirwywyd David Williams, Esga.irgeihog, i 2p yn cynwys y costau, air fod yn e.i teddiaait; waywfFon at ddal c-ogiaid ym Nghoi r';a. Ym- ddangofai Mr R. D. Richards. Aboraiaw, dros Fwrdd Pysgotwyr Dvfi Yn ei amddiffyn.ad dywedodd Williams fod ganddo eog-drwydded a'i fod 3Jf ei ffordd i bvsgota pry 1 y gahredd cyfail' ei sylw i'r ffaith na fedda'i rwyd, ac iddo dderbyn y waywffon gan ei g., ill" Ni fwriadai bvsgota'n anghyfreithon. Mowi/cyfarfod o Lywodraethwyr Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, gynhaliwyd :>o« Fawrth", ponderfynwyd ¡)B;dio penodi ysgolfcas-tres yn ito Miss Diana Thomas (wedi ymddis-yckio) r vd Fawrth nesaf, ac yn y cyfamsor fod i Mi.-s Air.st-cy weithredu fel pan athrawea Daeth nregethwr i'r ty capel un boreu Sabboth gwlawo. yn wlyb domen dail, ac ebai, "Buasai yn _dda genyf pe bawn yn sych." "O, m hidiweh," ebai un o'r diaconiaid, "chwi ewch i'r pwlpud yn lied fuan, ac mi ddaliaf ddimai y byddvvch yn ddigon sych yno." Gofynodd hen lane, yr hwn oedd yn cashau merched llenyddol, i awdures, a allai hi daflu unrhyw olcuni ar gusanu. "Gallaf; meddai hithau, "ond tybiaf ei fod' yn well yn y tywyllwch." Alyl-aiiwy," sisialai ef, gyda theimlad vn ei lais, "paham yr ydych yn crynu pan y cyffyrddaf a chwl ? Paham y ciliwch yn gryriedi'T o'm gafaol fel y cilia yr hydd pan glywo YLgyd wad y ddeilcn yn yr Hydref?" "Am eich bod wedi bwyta wynwyn," hi a atebai. Aeth cwpl newydd briodi, pan yn myned i dreulio eu mis mel, i gweryla yn y gerbydres yn nghvlch yr eisteddle, a phinsiodd y gwr y wraig; tarawodd hithau ef yn ei gog, pryd y sylwai y porter eu bod wrthi mor ddchcuig a phe- buasent wedi priodi cr's ugain ryilviiedd Aeth gweinidog cvbyddlyd un diwrnod i'r macs He yr oedd y gwas yn aredig, ac ebai wrtho, "Wil, oni fyddai yn well iti gymeryd y crvman i dori ychydig o wellt medi tra y bydd y ceffylau yn pori?" "Meistr," ebai Wil, "oni fyddai yn well i chwithau fyned a etirweiad o datws i'r pwipud i'w plicio tra y bydd y gynull- eidfa yn canu?" Galwyd am feddyg unwaith i vmweled a dyn claf, ond camgymerodd y drws ac acth i'r ty nesaf, lie yr oedd dvn wedi marw y diwrnod blaenorol yn gorwrdd, ac vn ol yr arferiad mewn trefydd yr oedd yno "grape" du yn grog- edig ar y drws. "Nid dyna y ty, doctor," ebai teulu y ty nesaf; "onid ydych yn gweled ar- wyddion eicn hod wedi bod yna vn barod." i\os Iau, cyflwynwyd awrlaie a' phv/rs o aur gan 107 o ^ryd.weithwyr a chyfeilHoii yr hynaf- gwr Mr Thomas Jones. Rhiwabon, woithrodai fel signalman," ac sydd wedi ymneillduo o wasanaeth cuirmi y rheilffOTdd b"r ol 39 mls-n- c-dd.
. FFRWYN A CHYFRWY NAPOLEON
FFRWYN A CHYFRWY NAPOLEON Talwyd 90 gini, yn arvverthiant ystafelloedd y Mri Stevens, yn Llundain, ddydd Mercher, am y ffrwyn a'r cyfrwy ddefnyddiai Napcleon pan yn gadasl Moscow.
CATH YN ACHOS ANGEU.
CATH YN ACHOS ANGEU. Bu cath yn Chorlton-upon-Medlock, yn achos o farwolaeth ei meistrcs. Ymddengys fod Miefi Amy Selina Wilson, o Norwood-stceet, yn golchi Ilawr y gegin, ac yn chvvareu a'r gath yr un pryd. Cododd y gath ei phawen, a phlan- odd un o'i gewinedd yn nghefn llaw ei mheistres. Tua wyth o'r gloch y nos yr oedd y dolur bychan \vcdi enynu, a r fraich mor boenus dranooth ,i L mewn "ewygfoydd. Yn mhen deu- ddydd galwyd y meddyg, yr hwn a farnai mai achos o grydcymalau ydoedd; ond yn mhen cliwrnod galwyd meddyg arall i'w golwg, yr hwn a ddywedodd mai achos o waed-wenwyniad oed, a symudwyd y foneddiges ieuanc i'r yfipytty, lie bu farw yn mhen chwe' diwrnod wedi i'r gath ddodi ei gwinedd yn ei llavy. j
Cynghrair yr Eglwys yn Llanddulas.…
Cynghrair yr Eglwys yn Llanddulas. (At y Golygydd.) Syr,—A gaf fi alw sylw eich da-rllenwyr at yt hyn ddyweawyd yn nghyfarfod y Church League Defence Meeting nos Wener cyn y diweddaf. Gall fod ambell un eto yn credu yr hyn ddy- wedid yno. Hon&i Mr Cuthbert Smith fod yit Eglwys yn diiyn yn yr olyniaeth Apoetolaiddj &c mai St. Auetin sefydlodd yr Eglwys yr 1m- osodir arni gan ei gelynion yn v dyddiau hyn. Os gwir hyn, pa fodd y cysonwch waith y sant uchod yn lladd y mynachod yn Manaor-ie-y« Coed yn 603 (O.C.)? Nid priodol ydyw yr hyn ddywed--sof fod yr Eglwys yn Nghymru a Lloogr yr un, gan i'r 7n 664 (O.C.) dderbyn credo yr Eglwys Babaicld. Y canlyniad ydyw fod y Saeson yn ac y Cymru yn dilyn ol eu traed. Rhwng y 12fed a'r 16eg ganrif yr oedd Cymru yn baganajdd ac ofergoelus, ac yr oedd tywyllwch ei phechod wedi cynyrchu y fath ddewrder yn William Wroth nes gwrthod darllen "Llyfr Chwareaon" (The Book of Sports) yn yr Eglwys ar y Sabbothzsi. Beth fu y canlyniad? Ei geryddu a'i droi o'r ficeriaeth gan Esgob Llandaf, yn unol a barn y llys (High Commirssion). Ond casglodd Wroth gynulleidfa o Ymneillduwyr, a phregethodd iddynt am y tro cyntaf yn 1639 (gwel Meth. Cym., Cyf. ii, t. 30). Nid rhyfedd i'r gwr da hwn fethu byw yn yr Eglwya, oblegid dywedir "The Church ceased to exist and it. became part of the Church of Rome." Mewn llythyr dyddiedig Rhagfyr 25ain, 1742, dywed Harris iddo gael el droi allan o'r Eglwys am resymau nas gwyddai am danynt (Hist. Hd. Bk., E. Griffith, t. 7). Dyma ddywed "Pantycelyn" am y cyfnod axi- nuwiol hwn yn hanes Cymru:— "Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd Mewn rhyw dywyll, farwol hun, Heh na phresbyter na ffeiriad, Nac un esgob ar ddi-hun; Yn y tywyll gyfnod pygddu Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias Yn llawn gwreichion goleu tanllyd, 0 Drefecea fach i maes. Dyna hanes Cymru ar y pryd. Pa ie yr oedd y goleuni mawr y sonia y cyfeillion mor ddoniol am dano yn Llanddulas nw Wener, tybed? Ond erbyn cofio yr oedd yr EgIwys yn bodoli °t. rei? cBnib1, ,meddai Ml" Cuthbert Smith. Nid rhyiedd icdy ei bod mor dywyii ar yr Eglwys 7 i>ryd hwnwJ eglwys heb Feibi ydoedd. Dywedai y gwr uchod fod yn rhaid talu y degwm. Wel; a chaniatau hyny, naturiol iawn o beth fyddai i swyddogion ac aelodau enwadau parchus yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, y Wesley, aid, a'r Methodistiaid gael rhan yn rheoleiddiad yr arian delid ganddynt. Oni buasai yn well rhoi y degyjnau at lyfrgelloedd, ysgolion nos, etc., yn hytrach na thalu i berson eglwy6, a chanddynt hwythau eu gweinidog eu hunain? Peidied neb meddwl fy mod yn gwarafun y nefoedd i'r un Eglwyswr ond iddo fyn'd yno ar ei gost ei hun. Ni feddaf amser i eylwi ar yr hyn ddywedodd y brawd o Abergele, ond yr oedd yntau, mae'n ymddangos, yn eon am ryw luserri. Gresyn na buasai yn bosibl i'r "Uusern" yma hcfyd fod yn yr olyniaeth fel na byddid yn cam- gymeryd y corlanau Ymneillduol pan yn ooisio ymweled a'r pra.idd.- Y dwyf, Llanddulas. W. WILSON ROBERTS.
Manion o'r Junction.
Manion o'r Junction. Pan agorais ddalen Gymracg y "Pioneer** yr wythnos ddiweddaf gvvelais er fy mawr syndod lythyr wed: ei arwyddo gan Die Jonce, yn gyfeiriedig ataf, ac yn dweyd fy mod i wedi ei insultio trwy spelio ei enw yn D-i-c-k yn r un o fy ysgrifau blaenorol; hefyd, heb roddi Mistar o fiaen ei enw. Mac yn wir ddrwg genyf am y camgymeriad, ond byddaf fwy gofalus yn y dyfodol pan fyddai yn cyfeirio ato. Ond gofaled yntau am anfon yn brydlon un o goesau y twrci tew i fy nghiniaw dydd Nadolig. ( Llongyfarchwn Mr J. Charles Jones, diweddar "booking clerk" o Orsaf Llandudno, a mab i Mr C. Jonec,, gyriedydd, 7, Glanymor-road, at ei ddyrclialiad i'r swydd o orsaf-feistr Worleston, Sir Gaer. Dymunaf iddo ef a'i briod bob llwydd- iant ac hapusrwydd ar achlysur eu priodas. Mae y ddau ddigwyddiad yn cymeryd lie yn agos i'w gilydd. Dylem, fel ardalwyr, fod yn falch wrth weled ein meibion ieuainc yn dringo i'r fath safleoedd anrhydeddus. Efallai nad yw yn wybyddus i laweroedd iod Mr Robert Roberts, Osborne-terrace, ein. cymydog tawel a hynaws, yn arfer darUen y Ilithoedd yn eglwys y plwyf, Conwy. Mae yn cael gwrandawiad astud ac ystyriol y gynulleidfa, a rhoddir canmoliaeth uchel iddo am ei waith. Wrth yr cnw "R.R." mae ef fwyaf adnabyddus yn mhlith ei gyd-weithwyr, a. phan yn ei gwmni fe ddywed bethau doniol dros ben, ac y mae pawb yn hoff o hono. Mae y ddawn pregeth- wrol ynddo yn naturiol. Deallaf fod ei fab anwyl, Mr W. Arthur Roberts, yr hwn a aeth oddiyma i Ddeheudir Africa rai blynyddau yn 01. yn dod yn mlaen yn lhvyddianus iawn yn y wlad bellenig hono. "Booking clerk" ydyw wrth ei alwedigaeth. Drwg genyf gc.fnodi marwolaeth Mr J. B. Thomas, yr hyn a gymerodd le yn ei breswyllod, Broad-street, boreu dydd Mawrth, yn 30 mlwydd oed. Dioddefodd yr ymadawedig gystudd maith a blin am yn agos i flvvyddyn a haner yn ddistaw ac amyneddgar. Brodor ocdd o Llangoed, Mon, ac yn ddyn ieuanc hynaws a charedig. Hoffid of yn fawr gan ei gyd-weithwyr ar y rheilffordd. Hobryngwyd ei weddillion brydnawn Sabboth di- weddaf i fynwent Llanrhos, gan dorf luosog & pharchus, ac yn on nlith gryn nifer o'i gyd- weithwyr ar y rheilffordd. Drwg fydd gan laweroedd wybod fod y Parch J. P. Lewis, ficer- Conwy, yn ymadael a'r drof yn fuan. Mac wedi derbyn bywoliaeth Llan. vstumdwy oddiar law Arglwydd Fogob Bangor. Er pan ymseiydlodd yn Nghonwy, fel olynydd Canon Rees, bu yn wclthiwr selog a gweithgar gyda phob symudiad oedd a thuedd ynddo at wneuthur daioni. Bydd ei ymadawiad yn golied dirfawr i amryw o drigolion y cylch, oblegid byddai pob amser yn barod i estyn cynorthwy i bawb yn ddiwaha.niaeth fydda.i mewn angen. Y mae cryn sylw yn cael ei dalu y dyddiau hyn, yn enwedig gan amryw newyddiaduron Saesneg, i gwynion gweision y rheilffyrdd. Maa eyfarfodydd lluosog a brwdfrydig wedi eu cynal yn Birmingham yr wythnos ddiweddaf, o dan nawdd Cymdeithas Undebol Gweision Rheil- ffyrdd, Lloegr, Iwerddon, yr Alban, a Chymru, yn dad!eu yn gryf iawn o blaid lleihau oriau llafur y gweithwyr, ac hefyd codiad yn eu cyflog- au, etc. Mae cu gwaith, meddir, yn myned yn galetach a phwysicach bob dydd, ond dim rhagor o gyfiog ar ei gyfer. Da genyf ddeali fod canghen o'r gymdeithas ddaionus hon wedi ei sefydlu yma o'r diwedd, a bod yn agos i gant o aelodau yn perthyn iddi. Hefyd, mae rhag- olygon gobeithiol audi eto. ARDALWR.
Y Diweddar Barch Qethin Davies,…
Y Diweddar Barch Qethin Davies, D.D. DADORCHUDDIO COFEB HARDD. Yn mynwcnt Glanadda, Bangor, ddydd Mawrth, ymgyiiullodd tyrfa fawr ar achlysur dadorchuddiad cofgolofn hardd i'r dysgawdwr ymadawedig Dr. G. Davies, diweddar bi-ifathraw Coleg y Bedyddwyr, yn Mangor. Mae y gofeb o farmor gwyn yr Eiclal, yn 17eg troedfedd o uchder, ac arni argraph yn Gymraeg a Saes- neg. Llywyddid gan iMr Simeon Jones, Gwrecsam, yr hwn a evlwodd fel prawf o werthfawrogiad y wlad o wasanaeth. y diweddar brifathro i'r swm o rhwng 600p a 700p gael eu cynull er cynal y weddw a'r plant. Prifathraw Silas Morris a ddadorchuddiodd y golofn, gan sylwi mai angerddoldeb yn nghydag amryw ddoniau oedd nodweddion amlycaf bywyd yr ymadawedig. Credai yn drwvadl, a gweith- redai yn unol a'i gred, deued a ddelo. Cysegr- odd ci iywyd i'w enwad, a gadawodd argra-ph ddofn ar y myfyrvvyr fu dan ei athrawiaeth, a thrwvddynt hwy ar yr enwad. Dr. Wilton Davies a draethodd ar Dr. Davies fel dyn, efengylydd, a dysgawdwr. Dr. Owen Davies, Caernarfon, a sylwodd fod colofnau Dr. Gethin Davies a Dr. Herber Evans yn sefyll yn gyfochrog. Bu y ddau yn gymy- dogion iddo am flYllyddrw-y naill yn Llangollen a'r llall yn Nghaernarfon. Dygwyd y ddau i huno eu holaf hun yn yr un fynwent, ac ar yr un flwvddyn-1896. Credai hefyd mai dyna'r ddau athraw diwinyddol cyntaf i gael eu claddu yno. Dilynwyd gan y Parch T. Sharrkland, ac yr oedd y gwasanaeth drwvddo vn ddwys ac effeith- iol. ^i' Yr oedd VR bresenol Mrs Davies, Mr Gethin Davies, a Miss Grace Davies, gwcddw a phlant y gwr a goffheid.
[No title]
Yn y flwyddyn 1816 rhoddwyd y rhybudd can- lynol i fyny ar ddrws swyddfa ysgrifenydd y rnethdalw^r yn Llundain:—"Ni chaniateir gwyl- iau yn y swyddfa hon ond yn unig ar tfdyddiau Nadolig a Gwcller Groglith; ond os digwydd i'r dyddiau uchod fod ar y Sabboth, yna cynhelir y gwyliau ar y LInn dilynol."
Advertising
wa Q 3 ■■ KhbII tfH Send at once. Tu/r III §kTnztz** KB Vm Hi wm III ■HSt9ekt9n-9BTMfc
Advertising
AT EIN DARLLENWYR. Ymdrechir darpar arlwy lenyddoL iachus a dyddorol ar y ddalen hon yn wythnosoL Cynysgaeddir ein colofnau gan amryw wyr trylen. ac addawa eraill roddi o ffrwyth eu hysgrifell yn achlysur- oL Byddwn yn ddiolchgar i'n darllen- wyr am eu cefnogaeth trwy ddanfon i ni ysgrifau, gohebiaethau, & hanesion ileol. Ni ellir cyhoeddi dim ddaw i law ar ol bora Mercher. Cynwysa'r Adran Gymreig y nodwedd- ion canlynoi, yn mhiith eraill:— ERTHYGL YN YMWNEUD A BYWYD CYMRU. YSGRIF MEWN CYMRAEG LLAFAB GWLAD GAN CATRIN DAFIS. COLOFN LENYDDOL: GAN AFALLON. ft HWYL A HELYNT Y BYD. NODION, NEWYDDION LLEOL A GWLADOL, Etc., Etc., Etc. Yr wythnos nesaf cyhoeddir enw enill- ydd Y TWRCI TEW, ao ymddengya y feirniadaeth a rhai o'r cynyrchion yn ein colofnau. Anfoner pob gohebiaeth i'r GOLYGYDD CYMREIG, 0 Swyddfa'r "Pioneer," CobRln Bay.