Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Educational. PIANOFORTE. SINGING. (ADVANCED LESSONS). MR. C. SYDNEY VINNINQ (Organist of S. Thomas' Church), LYNDIIURST, RHYL, Attends Mr. Fleet's Music Warehouse, Colwyn Bay 5830 Candidates prepared for Musical Examinations. MR. W. E. BELCHER, M.A., F.R.C.O., A.R.C.M., ORGANIST OF ST. ASAPH CATHEDRAL, Associate Royal College of Music for Teaching Singing Visits Colwyn Bay, Rhyl & Denbigh. PIANOFORTE. THEORY. SINGING. 3971 SCHOOLS ATTENDED. Successes in the Associated Board & Trinity College also Mus.B. 1899,1900-01, F-R.C.O.1899,1900-01-02. FRENCn & GERMAN TAUGHT BY MONSIEUR L. H. JUNOD, MILLER'S COTTAGE, ABERGELE. 5287 Army and Navy Pupils a Speciality. PRESTATYN, NORTH WALES. Day & Bearding School for Girls, GLAN-Y-MOR, MARINE ROAD. PRINCIPAL, MISS HICKSON (Teachers' Diploma, University of Cambridge), assisted by Miss NEILD, Higher Local Certificate and Teachers' Diploma (University of Cam- bridge). Both have been for some years Assistant Mistresses at the High School for Girls,Pendleton, Manchester. 3490 ART CLASSES. ———— 3540 iviiss HOLMES, (hi tificatcd Art Mistress, South Kensington; Exhibitor at Manchssier, Liverpool, Southport, &c. Member of the Gioynedd Ladies' Art Society, Conway; A Instructress to the Technical Classes, Colwyn Bay. Instruction in Drawing, Shading, Painting in Oils and Water Colour from Models, Casts and Natural Objects Sketching from Nature, Modelling and Design. Studio, Bank Chambers, Abergele Rd., Colwyn Bay ETTXOYD JONES, Agricultural Implement Dealer FURNISHING IRONMONGER, &c., Plumber, Gasfitter, and Hot Water Engineer WATLING STREET, LLANEWST. 3646 One Thousand Diamond and Gem Rings, 21/- TO £150. FINEST VALUE IN THE WORLD. GREAT BARGAINS IN ALL DEPARTMENTS. JOHN BYRNE & SON, LIMITED, 10, BOLD STREET, F "WORKSHOPS— I BOLD ST. TO WOOD ST., VCFPUUT AND AT 83, HA.TTON GARDEN, LONDON. 5023 _n_ TELEPHONE 0197 D. ALLElT& SONS, CABINET MANUFACTURERS, UPHOLSTERERS, AND COMPLETE House Furnishers, 6 AND 7, STATION ROAD, AND CONWAY ROAD. FUNERAL FURNISHERS. Largest Stock of Furniture, Carpets, Linoleum, Bedsteads, &c., in N. Wales. 789 If you want a 5610 FASHIONABLE SUIT, or a Stylish and reliable MACKINTOSH, Go to T. HARVEY GRIFFITHS, Where you will get good value for your money. MEN'S AND BOYS' GARMENTS Made to order on the shortest notice. STYLE AND FIT GUARANTEED. "THE BON," PERNQRA"U!N COLWYN BAY. MONUMENTS. LARGE STOCK. RICHARD WILLIAMS, Monumental Works, L LA N I- Al RFEC HAN AND 4521 LLANGEFNI.
i Gwyl Lenyddol Trefriw, Nadolig,…
News
Cite
Share
Gwyl Lenyddol Trefriw, Nadolig, 1902. Dyfarniadau ar y farddoniaeth. TESTYN: "UNRHYW ADRODDIAD." Daeth J2 o ddarnau i law, yn dwyn yr enwau Gwawr Gobaith, Gwlith Awen,Hymeus, Lleddf, Tomy Irving, Simon o Cyrene, Degryn, ^iod- euyn Bach o'r Cwm, Tudur, Llais, Hamlet, a Gwrthdarawiad. Yn eu plith oil nid oes un darn o farddoniaeth israddol, er y rhaid cy- hoeddi amryw fel heb fawr gymhwysder i'w hadrodd. hadrodd. Yn y dyddiau hyn, pan y rhoddir cymaint bri ar adrodd a phan mae pob pentref a 11 an yn meddu adroddwyr da, dylai'r dosbarth hwn gael llawer gwell sylw gan feirdd ein gwlad. Cofied ein beirdd y rhaid rhoddi rhyw yni neillduol yn meddwl a theimlad penillion cyn y gall unrhyw aidrocldwr godi yn ei waith uwchlaw "dull un- donog darllen penill." Felly, cymerer pob mantais ellir ael oddiwrth fesur er cynorth- wyo'r adroddwr. Camgymeriad amryw o'r ym- geiswyr ydyw canu penillion, er eu bod yn dda, mae gan y rhai a ddewisasant fesurau hwy eu hes.geiriau ystwythach eu ffurfiau fawr fantais arnynt. Gwawr Gobaith-Y "Tri Llangc" a swynodd y bardd. Hen destyn, ac ni ddywedir dim newydd arno. Gocheler hen destynau o-s na ellir eu gwedd newid. Ceir yn y darn lawer o nodweddion adroddiad, ond fe'u di'fwynir oil gan ddiffyg bywyd a newydd-deb. Dylasai'r iaith mewn manau fod yn well. Wrth geisio bod yn naturiol, gocheler rhag bod yn gyffredin, canys mae byd o bellder xihwng "pethau natur- iol" a "phethau cyffredin." Simon o Cyrene—Testyn y darn yw, "Ac yr oedd hi yn Nos;" ond ar y "Bradychiad" y cenir o'r dechreu i'r diwedd. Collir yma mewn eglurdeb; rhaid i'r hwn a redo allu deall yr hwn a adroddo. Pell ydym o gymeradwyo rhai syniadau, yn neillduol felly ei bethau beiddgar. Gall beiddgarwch yn ngenau adroddwr droi yn gabledd. Felly, gocheler. Blodeuyn Bach o'r Cwm-Penillion dymunol i blant, ond prin y gwnant adroddiad i'r "cewri ibach." Os penillion yw rhan ac etifeddiaeth y tafodau bydhain, rhodder hefyd deimlad a swyn yn fendith i'w calonau gonest a thyner. Gwlith Awen—"Marwolaeth y Morwr o'i Wlad." Penillion dymunol, ond penillion ydynt, ac nid adroddiad. Pechod y bardd yw beichio ei waith ag ansoddeiriau. m wnaeth llu o ansoddeiriau un meddwl, ond gwnaith rneddwl da ansoddair a rydd naws i feddwl a graen ar gymeriad. Tommy Irving—Cana ef i flodeuyn swynol a eilw yn ".Myfanwy Ty Gwyn." Dernyn tyner a thlws, a gwna adroddiad da. Llais—"Marwolaeth McKinley." Paham mar- wolaeth y gwr da hwn? Os rhygnir cymaint ar bob adroddiad ag a wneir ar "drychineb"—try- ohine'b arall fai i ni gael chwaneg ar destynau Americanaidd. Penillion glan eu gwisg, ond heb fawr fywyd na barddoniaeth geir gan yr awdwr. Gwrthdarawiad Dernyn digon priodol ei ffurf fel adroddiad, ond cyffredin yn mhob ystyr arall. Bendith bardd yw canfod natur. Os oes rhyw naws natur mewn pethau mor anna- turiol a gwrthdarawiadau, coner am dano. Hymeus—Pedwar penill dymunol, gallant wneud adroddiad da a defnyddiol i blant. Lleddf—"Cri yr Amddifaid." Dernyn tlws, byw o deimlad yw yr eiddo Lleddf. J- fin yr ys- tyriwn hwynt yn meddu llawer o nodweddion adroddiad, er fod y mesur yn ffafrio úyny. Tudur—"Ymweiiad y Doethion." Dernyn o farddoniaeth da, glan ei wis'g, ystwyth ei gym- alau; colla mewn gwneud yr hanesion yn hanes -y darnau yn un darn, a thrwy hyny gael un pwynt i'w adroddiad. Fel y mae, negesydd heb neges ydyw. Hamlet—"Cauwch y Tafarnau." Dernyn da, llawn o dan, a chryI ei syniadau ydyw yr eiddo Hamlet. Araeth gref mewn pedwar penill. Gall Hamlet wneuthur bendith i'r achos dirwestol trwy eu cyhoeddi. A chamgymerwn os na cha weled ei waith yn cael ei werthfawrogi. Deigryn—"Tynged y Bach'gen Anfradlawn." Adrodddad da yw hwn. Rhed drwyddo ystori fyw, a dywedir hi wrth fodd calon yr adroddwr. Wrth gofio yr adroddwr, nac anghofier waith y bardd mewn iaith a mesur. Nid ydym yn hoffi y ddwy linell olaf. Mae'r pedwar olaf hyn yn ddarnau da, yn neillduol y ddau olaf. Ond y goreu yn ol ein barn ni yw yr eiddo Deigryn. O. GAIANYDD WILLIAMS. ENGLYN: "MADDEUANT." Daeth naw o englynion i law, yn dwyn yr enwau Anadliad, Credadyn, J. R., Rhys Goch, Mab, Heddwch, Glan Geirionydd, loan, a Pen- tewyn. Anadliad—Allor yw'r englyn hwn ar ba un yr aberthir synwyr ac iaith er mwyn cynghanedd. Wrth lusgo "od" i fewn yn "an'ghofio od bech- odau," gwneir y meddwl yn rhy od i haedda parch. Drachefn yn "a'u cuddio Ac haeddiant yw maddau," ceir iaith a meddwl yn gwrthddweyd eu gilydd. "Ag haeddiant" yw iaith synwyr, ond liefa cynghanedd am "ac," felly rhaid rhoddi ffordd er i hyny droi'r meddwl yn ynfydrwydd. Mae' 'englyn hwn yn amddifad) o loewder mewn meddwl, iaitih, a chynghanedd. Credadyn—Ceir gan Gredadyn well englyn. Llinell wan yw "Dyma air, a da yw 'morol." A thywyll yw "Nef addewid faddeuol." J. R.—Englyn cyffredin. Er cymaint gogon- iant maddeuant Duw, prin y gallodd J. R ganu un englyn bach ar y testyn; ac amheuwn union- grededd rhan o'r hyn a ddywed. Nid ydyw Duw yn "maddeu heb ddim haddiant," er ei fod yn maddeu i'r anhaeddianol. Ac nid yw'r ffaith mai ar sail haeddiant Crist y mae yn maddeu yn ei wneud yn llai maddeuant i'r pe,chadur. Rhys Goch—Yr ydym yn methu gweled gwir gysylltiad "Gwaed Cyfiawn" chwaithadh deall ei ystyr. Mae ei ddwy linell olaf yn aneglur os yw wedi sillnodi ei waith, yn briodol. Gormod o fan 'syniadau geir yma, heb un berthynas rhyngddynt, na rheswm drostynt ond eu cyn'g- haneddion. Mab—Englyn da, ond nid ydym yn hoffi yr ymadrodd "lor Digyfryw." Haedda Mab gan- moliaeth am roddi cryfder ei englyn yn ei le priodol, sef ei linell olaf. Gas genyf fi "yw" fel odl, mae'n odl ansoniarus, anhawdd adeiladu arni. Englyn persain a chryf. Heddwch-Beth yw "Hedd euog?" A rhaid fod "hedd euog" yn rhywbeth o bwys, canys "hedd euog yw maddeuant." Yr ydym yn ofni ein bod yn gwneuthur cam a'i air cynt o fethu ei ddeall. Mal hyn yr ydym yn ei darllen: "wna 'iarhed Rhag derbyn ei haddiant." Beth yw "iarhed" eta i mi sydd ddirgelwch; a "rhag derbyn ei haeddiant" yn fwy dirgelwch fyth. Maddeued Heddwch am imi addef yn onest nad wyf yn deaHdwy linell fel hyn "Hedd euog yw maddeuant,—wna 'iarhed Rhag derbyn ei haddiant." Glan Geirionydd-Englyn da. Nid ydym yn hoffi y gair "wele" yn y llinell olaf, "Wele rhydd Ion lwyr rhyddlhad," er ein bod yn gwir garu'r syniad. loan—Englyn glan ei wisg, clir ei feddwl. Gwna'r bardd ef yn negesydd un neges. Pentewyn-Engln rhagorol eto. Y tri goreu yw Glan Geirionydd, loan, a Phentewyn. O'r tri, rhagora loan a Phentewyn. Bu raid darllen y ddau hyn drosodd a throsodd drachefn er cael ein hunain i garu un yn fwy na'r llall. Wedi'r gwaith, tueddir ni i roddi'r flaenoriaeth i Pentewyn. Yn wir a chywir, O. GAIANYDD WILLIAMS.
ILlith Ned Llwyda
News
Cite
Share
Llith Ned Llwyda SUT yr ydach chi i gyd yn teimlo ar ol y gwyliau yma? Goheithiaf eich bod wedi d'ou. i deimlo megist yr oeddych cyn eu dechreu. Adeig ac y bydd llawer o gwyno ydyw y Nadolig a'r dydd- iau canlynol. Y mae tuedd mewn llawer, onid oes, i yfed a bwyta gormod ar yr wyl hon, ac, wrth gwrs, "gormod o ddim md yw dda?" Mi fu'm i fy hunan yn teimlo yn ddigon rhyfedd am ddyddiau lawer gwaith. wedi bwyta g'ormod o frasder. Tasa ni yn cael gwydd neu durci bob dydd mi fuaswn yn cyneflno a hwy, fel pethau eraill, ond fell arall y mae, onide, ar y rhan fwyaf o honom. Yr wyf yn ddigon boddlawn ,arbethau fel y maent. Rhowch i mi roast beef i ddal ato, ac aed y gwyddau, etc., i bobl eraill, ond rhyw unwaith yn y fiwyddyn. Sut .bynag, y mae yn dda genyf fy mod i yn all right erbyn hyn. Y TELEPHONE. Mi fu'm i y dydd o'r blaen yn treio cael scwrs trwy y telephone. Gofynais am No. a dyma lais fel llais angyles yn gofyn: "Are you there?" "Yes," meddwn inau, "Give me. No. ■—, please." "I'll try now." Wedi disgwyl am ychydig! dyma y llais yn gofyn drachefn: "Are you there?" "Yes." "Well, stop there! I cant get you what you want." Wyddoch chi beth, pe taswn i yn ei hymyl, mi fuaswn yn gwasgu tipyn arni, pwy bynag oedd. Tybed ei bod hi yn arfer sdarad fel yna, os ydyw gobeithiaf y bydd iddi wel'd hyn a. diwygio. Gwell genyf beidio rhoddi enw y He yr oeddwn am y tro hwn. Mi anfonaf new year's card iddi, a llun Catrin arno, er mwyn iddi gael gwel'd pwy sydd genyf i fy am- ddiffyn pan fydd rhai yn fy nigio CHRISTMAS CARDS, ETC. Mae son am new year's cards wedi arwain fy meddwl at y rhai hyn. Llawer a ddanfonwyd ac a dderbyniwyd gan rai. Yr oeddwn yn clywed ddiwedd yr wythnos am ddwy ferch ieuanc yn LI- wedi cael par o fenyg bob un gan rhyw hen lane, a bod un wedi cael par o rai bychain, a bod y rhai hyny wedi d'od trwy y post heb ddim ond label wrthynt. Pwy oedd hwnw ddanfonodd y feeding bottle, tybed mae yr un ac a anfonodd yr agoriad? Pwy ydyw y merched anfonodd Christmas card a potel whiskey i'r hen lane yn Ll-? Pwy ydyw y rhai fu cael y ddanodd am ddyddiau wedi bwyta gormod o gnau? PENMAENMAWR. Mae yma ddarparu mawr at y Calan, y corau a'r band yn myned i 'Steddfod Colwyn. Hen arferiad gas ydyw yr un sydd gan rai o'r lie hwn, yn hwyr y nos tynu y clychau yn nhrysau y tai, ond mi syrthiodd un o'r pechaduriaid i brofedig. aeth y nos'o'r blaen, a bu rhaid cael "embroca- tion" at geisio gwella, ac yr oedd hwnw yn arogli nes llenwi yr ystafell. Bydded i eraill fod ar eu gwyliadwriaeth. 'STEDDFOD CONWY. Mae y g'Oi yn dweyd fod ganddo report llawn am hon mewn colofn arall, ond yn fy myw nis gallaf beidio cyfeirio at y ffaith fod Mr J. T. Owen wedi cael ei gau allan rhag dadganu am y wobr o 3p 3s. Dyma wobr fuasai yn sicr iddo, ond bu yn ddigon ufudd i beidio cystadlu am ei fod ar rhyw adeg wedi bod yn ddisgybl i'r beirn- iad. Credaf ei bod yn deg ac anrhydeddus iddo gael cystadlu, os nad oedd wedi cael gwersi gan Mr Wilfred Jones ar y darn oedd yn ei fwriadu ganu yma. Oherwydd ufudd-dod Mr Owen, cafodd Miss, Rogers a Mr W. E. Jones ddwy gini bod un, gair arall. Cafodd Mri R. Roberts ac Evan Davies, Glan Conwy, eu hunain yn gyd- radd mewn teilyngdod i Miss' Gwladys Hughes. Peryglus ydyw awyddu gormod am wobrwyon. Rhan o'r wobr gafodd yn Llanerchymedd ac yn Penrhyndeudraeth. Cafodd pawb eu boddhau yn yr Eisteddfod eleni. Digon o bobl, a digon o hwyl. Addewir i mi y llythyr caru buddugol i'w roddi yn y llith, ond wyrach byddai yn well peidio ei argraphu, gan ei fod fel ambell i farwnad yn dwyn elw parhaus, i'w awdwr. Yr wyf yn dychmygu gwel'd yr awdwr doniol yn chwerthin yn galonog wrth ddarllen hyn-Hedd- wch, Williams, anwyl! Mael llawer ofr cyfeillion yma ac, aicw y dymunwn eu llongyfarch ar eu llwyddiant yn enill gwobrwyon ac anrlhydedd, a phleser genyf fuasai eu henwi oil, ond dim, lie y tro iiwn. Daw cyfle eto. CYSTADLEUAETH DDONIOL. Yr oedd coron yn cael ei rhoddi am y ddau benill goreu i Mr David Davies, Twnan Isa. Ymgeisiodd amryw, ac yr oedd y dyddordeib mwyaf yn cael ei deimlo yn y gystadleuiaeth. Yr oedd tri o feirnia;d, sef Mri E. Williams (Ys- gubor Newydd), Edwin Jones, a John Lloyd (Llysfaen). Daeth cynulliad da yn nghyd i wrandaw darllen y feirniadaeth ar cyfansoddiad buddugol. Dyma y rhai enillodd y goron:- Dau benill i Mr David Davies, Twnan-Isa. Dafydd Dafis, Twnan Isia, Dyn lied fyr o ran ei daldra; Gwr corphorol, gwyneb glandeig, Prynwr, gwerthwr, da a'i wartheg. Cymwnaswr hael tosturiol Calon lan a gwyneb siriol, At bob achos mae'n cyfranu Os bydd hyny er daioni. Y mae'n meddu tai a tihiroedd, Y mae, felly'n werth ei ganoedd, Er ei aur a'r holl dda bydol Y mae'n hom'r dosparth gweithiol. Ar y ffordd pan yn ei 'gerbyd Y mae' ef yn wir garedig, Codi'r gwan a dhario'r truan, Dyna arfer Davies, Twnan. Ap Llenor o'r Llwyni oedd y bardd coronog. Ni fu y fath hwyl yn unman ag a gafwyd yn y Dafarn Newydd. Nid wyf wedi newid yr un gair arnynt, rhag gwneud cam a'r bardd. Ond yr wyf yn credu fod Mr Davies yn deilwnlg o well penillion na'r uchod, ac yr wyf yn sicr hefyd pe buasai y testyn. y-n rhydd i'r byd y cawsid rhai hefyd. Nid oes neb yn y wlad yn fwy parod ei gymwynas, yn fwy awyddus i roddi ei allu a'i arian at wahanol achosion nag ydyw ef, a theim- laf eto y dylid cael gwell penillion iddo, ac yr wyf yn cynyg medal arian hardd am y pedwar penill goreu. Anfoner y cyfansoddiadau i mi, a chyhoeddir beirniadaeth arnynt. Rhaid idd- ynt fod mewn llaw erbyn Ionawr Isfed, 1903. 'Rwan feirdd. EGLWYSBACH. Anwyl Ned Llwyd,—Yr oeddech chi yn son yn y "Pioneer" yr wythnos ddiweddaf fod pobl Egiwysbach yn meddwl eich bod wedi marw. Y mae'n debyg mae am y buasai yn dda gan rywrai ohonynt glywed hyny. Yr oeddynt yn meddwl felly; 'gael iddyn' nhw gael llonydd i wneud fel y mynont; ond da genyf weled eich bod eto ar dir y -rhai byw, a byddai yn dda i bob! Eglv/ysbach gofio, a bod ar eu "look out," ,a,chos fase fo ddim yn beth "nice" iawn gweled hanes llawer o honynt yn y papyr newydd just 'rwan. Ond taech chi wedi mendio yn iawn, a'r tywydd wedi cynhesu tipyn, galwch heibio yno wrth dd'od yma, gael i chi farnu trosoch eich hunan. Mi ddeuda i chwi sut yr wyf yn gwybod tipyn o'u hanes. CaelgwadJd gin M. E. E. ddaru mi i fyn'd yno y Nadolig, a chan fy mod wedi bod yn Nghonwy yn yr Eisteddfod y llynedd, mi benderfynais fyn'd i Eglwysbach eleni. Yr oeddwn wedi bod yno o'r blaen mewn 'Steddfod er's tipyn o flynyddoedd yn ol, ac un iawn oedd hono hefyd—yr amser yr oedd Cor 'Refail Ucha yn myn'd a phobpeth o'i flaen. Yn y capel yr oedd yn cael ei chynal yr adeg bono, a lie da dros ben sydd yn nghapel y Methodistiaid i gynal 'steddfod. Fe fydd y cantwrs yma yn deyd nad oes dim lie gwell i ganu ynddo yn y wlad yma, na'r capel-ond pan fyddan nhw yn colli. Yn yr ysgoldy yr oeddwn nhw eleni, a rhad arni hi hefyd, fuo dim lie salach 'rioed i gadw 'steddfod. Be Igebyst sydd ar y bobl deudwch, yn difetha'i cyfarfod fel hyn, a chanddyn' hwtha le mor gyfleus, ond toes dim rhoddi rheswm tros farn rhai pobol. Er na wn i fawr am ganu fy hunan, yr ydw i yn sicr y buasai y rhai oedd yn canu yno y Nadolig dwytha yn canu yn llawer iawn gwell yn y capel. Yr oedd Mr John Roberts yn ffeind dros ben wrthyn' nhw hefyd. Un clen yw Roberts bob amser pan fydd o yn cael canu go lew, ond taswn i yn i le fo y tro yma, mi faswn i wedi rhoid hi yn go hallt i rai o'r cantwrs rheini. Teneu oedd y cynulliad yn mghyfarfod y prydnawn, a 'doedd yno ddim byd a rhyw lawer a- fyn'd ynddo. Y peth gore glywais i yno oedd y baohgen bach hwnw yn canu oddiar y modulator. Yr oedd yn dilyn Mr Roberts yn iawn, ac yr oedd yn rhaid iddo edrychati weithiau neu mi fuase yn ei basio hefyd. Fe wnaiff" hwn gantwr iawn rhyw ddiwrnod, os deil ati. Fe ganodd y cor plant yn dda iawn gin Robert Jones, yn well o lawer na'r parti arall oedd ganddo; ond 'toedd yno ddim cystadleuaeth ar yr un o'r ddau. Y mae Robert Jones yn hen law am drin plant-pobol era,ill-ond taswn i yn i le fo mi faswn yn i deyd hi wrth rai o'r soprano yn y parti arall; a'r tenor hefyd. Mi ganodd' Miss Davies, Pen-y- Bryn (chwaer Miss M. Davies), yn reit dda ar y solo "Bedd y Bugail," and bity garw na fasa yno dipyn o gystadleuaeth, mi fasa yno fwy o hwyl. Mi ddois odd'no ar ol cyfarfod y pryd- nawn, rhag ofn y basa hi yn myn'd yn dwyll iawn, a da iawn oedd hyny hefyd, achos mi ddoth yn storm ofnatsan at y nos. Clywais rai o'r boys yma yn deyd fod yno fwy o bohol y nos, a d'pyn mwy o gystadlu; ac fod Hugh Davies a'i frawd wedi gneyd po-ced reit dda rhwng enill ar y solo tenor, a'r s'olo bass, a'r ddeuawd ac fod y parti wedi canu yn o levr ar y "Delyn Aur;" ond deyd yr oedd yr hogia "m(a na fasa gynyn nhw ddim. chance tase Ffordd- las yno. Rhaid i mi beidio deyd chwaneg y tro hwn. Geweh air eto yn o fuan. Gobeithio eich bod chwi a Catrin wedi d'od trwyddi yn o dc.i t la'r Nadolig. Clywais eich hanes eich dau yn Nghonwy. 'Rwyn meddwl mae yno vr af iinau y Nadolig nesaf, os byw ac iach. Cofion atoch chwi a Catrin.—Yr eiddoch. "'RHEN DRAMP." Diolch lawer-Ia diolch hefyd i Olwen a Gwen am y Xmas Cards. Dyma j llythyr olaf y caf ei ysgrifenu i'r "Pioneer" y flwyddyn hon. Y mae yn d'od yn ddiwood blwyddyn heb i ni feddwl, onid ydyw? Mor fuan yr a ein dyddia heibio, ac mor ddi- ystyr ydym, ond gan nad oes neb yn disgwyl am bregeth yn y golofn hon, rhaid v i droi at rhywbeth arall, ond cyn gwneud yr wyf yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i'r holl ddar- Ilenwyr, a llawer a honynt, ys dywedir yn gyffredin. "Pioneer" 'Office. NED LLWYD. —
Roewen.
News
Cite
Share
Roewen. CYNGHERDD.—Nos Fercher, Rlhagfyr 24, cynihaliwyd tcyngherdd cyisltadleuol yn y 'lie uchod. Llywyddwyd gan Dr. M. J. Morgan, Conwy. Arweiniwyd gan y Parch H. M. Ro- berts, Talybont. Dadganwyd yn ystod v cyfar- fod gan Mrs Eifion Jones,, Gutyn Eifion, Miss Sally E. Griffiths, Roe Wen, a Mr Wm .Hughes, Gerlan. Enillwyd ar ganu "Daethvreh Chwi at lesu" gan: i, Miss M. J. Owen, Roe Wen; 2, Mr J. W. Jones, Roe Wen; 3, Miss H. Parry, Penmaenmawr. Y cor goreu am ganu y tonau "Glan Geirionydd" a "Builth" ydoedd yr eiddo Talybont. Parti o'r un lie hefyd a enillodd ar ganu "Fulda." Yr-o,reu allan o bedwar o ym- geiswyr am ganu unrhyw unawd ydoedd Mrs J. E. Roberts, Roe Wen, yr hon a ganodd y "Golo- men Wen." Goreu allan o bedwar o ymigeis- wyr mewn unrhyw ,adroddiad ydoedd Mrs M. E. Jones, Roe Wen. Gwobr, medal arian. Enill- wyd y wobr o 3p am ganu "Dydiau Oen," gan ;g'°r y lie. Gwednyddwyd barn gan Mr O. Wil- liams, Egiwysbach; Parchn. H. M. Roberts, O. Gaianydd Williams; a Mr H. Davies, Talybont. Cyfeiliwyd gan Miss Potter, Llanbedr. Yr elw at gyllid y band of hope. —— Gfnir fod Chicago ar weled streic anferth arall. Y mae 70 o linellau ffyrdd haiarn yn cyfarfod yn y dref hono. Hawlia -150,000 o'r gweithwyr ychwaneg o gyflog. Gofynant am .atebiad erbyn y 5ed o Ionawr. Anfonodd Ymherawdwr Awstria gerf-ddelw o aur pur o'r Ar'glwydd lesu a phedair o ddefaid wrth ei draed yn anrheg i'r Pab. Y mae y ddelw yn pwyso 330 o bwysi. Cyfranodd Llyfrfa y Methodistiaid y sym- iau canlynol eleni at achosion cyhoeddus yr enw ad Col eg y Bala, 250P; Coleg Trefecca, 25op y Mudiad Goresgynol, Z250; Cenhadaeth Ily Gartrefol y De, Z250; Cenhadaeth Gartrefol y Gogledd, 250P; Achosion Llundain, 200p-yr oil yn 1,450P. Gwnaeth Cyfarfod Misol Mon yn ar- dderchog drwy benderfynu anfon dirprwyaeth gref i 'holl lysoedd y sir i erfyn ar yr ynadon 1 leihau nifer y tafarnau yn y wlad. (l'w barhau ar tudalen 13).
Advertising
Advertising
Cite
Share
Hotels. Under New Management! The Gwydyr Arms Hotelt DOLWYDDELEN, NORTH A FAVOURITE HAUNT FOR TOURISTS, ARTISTS, AND CYCLISTS. FISHING. PARTIES CATERED FOR. 5876 Mrs. MARY ROBERTS, Proprietress- J THE PLOUGH HOTEL, OLD COLWYN. r RE-BUILT AND RENOVATED THROUGHOUT. I LUNCHEONS, TEAS, DINNERS, &0., On the shortest notice. EXCELLENT ACCOMMODATION FOR CYCLISTS AND TOURISTS. FIBST-CLASS STABLING ACCOMMODATION. Wines, Spirits and Cigars of the Best Quality. Proprietress :-Miss BARBER. 49^f FEATHERS Commercial Hotely CORWEN. UNDER NEW MANAGEMENT. i Miss LOUISA JONES < Desires to inform her former friends and commercial f gentlemen that she has returned to the Feathers Hotel, and hopes to receive a share of their patronage* WINES, SPIRITS, and CIGARS 5551 of the best quality. == j WATERLOO HOTEL, BETTWS-Y-COED. L OOCUPIES THE FINEST POSITION. I Billiards. | Tennis. j Posting. Fishing- EXCELLENT STABLING. OMNIBUS MEETS TRAINS. 1 Mrs. McCULLOCH, Proprietress. > ABERGELE. t Hesketh Arms Hotel, FAMILY AND COMMERCIAL. This old-established Hotel, free from Brewer and Sp Merchant, has been entirely re-furnished and re-decorao 1 o/c f SPECIAL WEEK-END TARIFF ) to/ft 10/O ■[ (including Board from Saturday After-r "I V noon to Monday Morning). j Omnibus meets all Trains. J | Coffee, Commercial & Private RootOs' GOOD STOCK & BILLIARD ROOM, CARRIAGES.-Open and Closed Carriages, &c. jj The only Hotel that enjoys the privilege of through the Gwrych Castle Grounds, the seat of & Dundonald. Spacious Room for Concerts, Dinners, Dances, Otc. J. 4519 C. R. ALLINSON, propr j COLWYN BAY "Rothesay" Private Hotel AND Boarding Establishment, WEST PROMENADE* Near Station, Pier and Woods. HIGHLY RECOMMENDED. Sole Proprietress Mrs. KIRKPATR1C& TELEGRAMS—" KIRKPATRICK." ====^ PLAS-Y-C OEP (HOME-FROM-HOME), Boarding Establishment' LARGE RECREATION ROOMS. TERMS MRS. BRACKSTONE, SS. 3489 PROPRIETBEsa. LLANRWST Eagles Hotel, I FAMILY AND COMMERCIAL. ) Omnibus meets all Trains. I Coffee, Commercial and Private Rooms. t STOCK AND BILLIARD ROOMS. Qoqd Stabling and Leck-up Coach Houses and Potti MISS PARRY, Manageress 90