Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
A Reminder to the I Loyal and Patriotic inhabitants of Wales who will be no doubt eQthusiastic in their display of joy by the Exhibition of Bunting and Banners IYhen the welcome news of the triumphant and victorious entry of the British Troops to Pretoria take place, and the relief of the gallant force at Mafeking, So prepare yourselves in time. Over 800 Flags & Streamers be obtained at an hour's notice, on lre. on reasonable terms, by applying to 0 W. S. Williams, LONDON HOUSE, LL ANRWST. 86 x% ^M My w* O /<$/ ™r. \A^ J />/ HOT, v //VALUE FOR MONEY, v\ f AXD FOUR J Blends i,oE /&/ £ £ \A 1/6.1/8.1/10,AT^ 2/- per Lb. /&■ £ "•M m AT Mi A# V/# • £ /# L30 n CAMBRIAN | Black varnish j Par Iron Fencing, IFÓod Pailings, F ann Buildings, &c., &c. eXcellent substitute for Oil Paint at One-third the cost. Squires no Heating or Preparation. Always fit for use. Dries Quickly. £ Leaves a hard Jet Black Surface. n *>e laid on by any ordinary Labourer. CASH PRICES: to,iiy Rgil%vity Station in North Wales: 11 40=Gallon Casks, 13 per Gallon. n "8=GalIon Casks, 16 per Gallon. Including Casks. CASKS NOT RETURNABLE. had from ™e Cambrian Asphalte Co. l'f lLANDUDNO JUNCTION, rOll1 111 respectable Ironmonger. 0qd INVESTMENT 13Dy YOUR DRAPERY I AT S. WILLIAMS' atl(l you are sure of obtaining 1: T High-Class Goods LOWEST PRICES POSSIBLE. Th BieadTU;known Tailoring Department Pit? H°use is as popular as ever. R & STYLE GUARANTEED. (f J. SMITII WILLIAMS, House, LLANRWST t\ —- CFS uonft c 11 t Spoil a Watch By placing it in unskilled hands. °r REPAIRS leave it with WILLIAMS | rac,;ical Watchmaker, i T,0n ROAD, LLANRWST. j vw 7 Y LLE 1 ADGYWEIRIO Elen WATCHES. 89
Merched Cymru: Eu Cymeriad…
Merched Cymru: Eu Cymeriad a'u Sefyllfa Bresenol. (TRAETHAWD BUDDUGOL). TESTYN gwir deilwng o'i drafod ydyw hwn a gyn- ygir i sylw; a phan ystyriom bwysigrwydd y cymeriad benywaidd, y mae braidd yn syndod na byddai yn cael mwy o sylw. Hwy ydynt ein mamau mewn ystyr foesol, yn gystal ag yn natur- iol. Hwy sydd yn rhoddi yr ysgogiad cyntaf i'n meddyliau; hwy sydd yn rhoddi iaith ac ym- adrodd yn ein geneuau; a hwy sydd yn dechreu ein harwain ar hyd llwybr trosllog bywyd. Can hyny, amlwg yw, pa rinweddau neu ddiffygion bynag a berthyn iddynt hwy, ein bod ninau, y rhai a fegir dan eu gofal a'u haddvsg, yn sicr o gyfranogi yn helaeth o honynt, a theimlo pwys eu dylanwad yn hir. AI or briodol y dywed y bardd ynte, mai "Y dyner law siglo'r cryd Yw'r llaw sy'n llywodraethu'r bye1." Os dymunem ddyrchafu safon cymdeithasol a moesol ein cenedl, rhaid talu syiw dyladwj7 i gyflwr y merched, a gwneud egnion at eu dyrchafu hwy. Wrth chnvilio i hanes amryw genedlaedd cawn fod rhyw duedd, bron yn yr oil o honynt, i ddyrchafu eu merched yn dduwies- au, neu ynte i edrych arnynt, ac ymdclwyn atynt fel bodau israddol. Ond ein dyledswydd ni, a phob cenedl arall, yw gochelyd y naill eithafedd a'r llall, gan ymdrecbu gosod y merched yn y radd uchel hono ag a cirefnwvd iddynt gan aw- dwr natur, fel y byddont yn gymdeithion difyr ac adeiladol i'r oes hon, ac yn famau cymhwys i'r oesau dyfodol. Ond tra yr ydym yn canfod teilyngdod uchel y testyn ar un Haw, canfyddwn hefycl ar y llaw arall anhawsderau anorfod yn perthyn iddo. Un anhawsder yw cael tystiolaethau y gellid ym- ddibynu ar eu cywirdeb am. gyflwr ein merched. Mae rhai estroniaid yn eu darlunio mewn lliw- iau erchyll dros ben, tra mae rhai o'u brodjT yn eu gosod allan yn bobpeth ag y dymunid iddynt fod. Dichon fod y naill dan ddvlanwad gormod o ragfarn, tra y llall dan ddylanwad cenedlgar- wc,h;" a phan gofiwn ninau ein bod i ymdrin a nodwedd dosparth o'n cenedl yn ol y cnawd, yr hwn ddosbarth sydd yn cynwys ein mamau, em chwiorydd, ein gwragedd a'n merched, yr ydym yn ofni syrthio i'r unrhyw amryfusedd a'r di- weddaf. Y mae y dosbarth yr ydym i ymwneud ag ef hefyd mor eang ac amrywiog fel y mae yn cynwys pob gradd mewn ssiyllfa a chy.mer.iad, o'r bendefiges urddasol sydd yn byw yn y palas gwych, i lawr at yr hoeden fudr, anfoesol, sydd yn ymdroi yn y bwthyn bawlyd. (ian hyny, tra byddwn yn gwneud sylwadau cyrfredinol ar sef- yllla bresenol ein merched, cofied y darllenydcl ganiatau eithriadau Huosog a phwysig ar bob llaw. Os byddwn yn canmol, ni ddylai ond y teihvng ymfalchio; neu os byddwn yn ftlangellu, ni ddylai. ond yr euog ddyoddef. Y mae tegweh eu hystlen yn ein cymhell i fod yn dyner wrth- ynt; ond y mae cyfiawnder yn galw arnom i fod yn onest. Nid ydym ychwaith am eistedd yn farnwr arnynt, ond yn hytrach am ddyncsu atynt fel cynghorwr. Carera yn fawr ailu gwneud ychydig sylwadau a thuedd ynddjuit i wellhau eu. cyfiwr, a d37rch.am eu nodwedd. Y mae Cymru 3-11 wlad iach a hyfrycl--ei dyfr- oedd yn bur, ei hawelon yn adfywio], a'i chyn- yrchion yn feithrinol. Oddiwrth y manteision gwladychol hyn gellid disgwyl i'r Cyrnry fod yn bobl iach a chryfion, ac felly y maent i'r graddau ag y maent yn ymddibynu ar adnoddau eu gwlad. Mae merched Cymru, yn y cyffredin, o ffurfiad corphorol lied rymus a chadarn-yn fwy felly na merched Lloegr. Y maent, at eu gilydd, yn weddgar, ond nid yn gnawdog iawn. Maent yn gryfion heb fod yn hwyrdrwm—ceir nerth a hoenusrwydd wedi eu cyfuno yn eu haelodau. Mae eu hysgwyddal1 yn llydain, eu dwyfron yn uchel, a chymysgedd hapus a goch a gwyn yn tlws-liwio eu gruddiau. Nid rhvw ledrithion mwythfeinion, gweplwyd, fel pe wedi tyfu mewn tai brwd ydynt. Nid rhyw ddelwau heb fywyd na gwres ynddynt; ond 3r mae bywyd, icchyd, a nerth yn cyd-chwareu yn eu gwvnebau. Ond rhaid cymeryd y desgrifiad hyn am ferelled y wlad yn gyffredinol, gan eithrio merched y tref- yeld; ardaloedd y gweithfeydd, a'r parthau Seis- nig oddiwrthynt. Y mae ymborth, gwisgoedd, ac arferion y merched yn y lleoedd hyn yn hollol wahanol, ac olierwydd hyny gwahanol yw ffurf- iad eu cyrph a phrydweddiad eu gwynebau. Ymborthant braidd yn gwbl ar gynyrchion tra- mor; ac er eti bod yn cael dwfr o ffvnhonau glan eu gwlad, eto trwythant ef yn ormodol a "dail yr India," ac yfant yn rhy fynych o'r drwyth hono, fel y tystia eu gwynebau crinlwyd a henaidd. Ymgydwant i fewn yn eu tai yn or- modol hefyd, yn He myned allan yn amlach i gael mwy o ymarferiad yn awelon adfywiol ein bryniau a phau elont allan bydd eu dillad o ddefnyddiau estronol, ac yn llawer rhy deneuon i gadw allan oerder ein gauaf ni. Dichon mai yr engreifftiau goreu o hen frodorion Cymru ydynt ferchd Mon a Cheredigion. Maent yn rhagori ar ferched pob parth arall mewn iechyd a nerth, a hyny yn ddiau am eu bod yn ym- borthi ac yn ymwisgo yn fwy Cymreigaicld. A dymunem argraffu ar feddyliau merched y tref- ydd a'r gweithfeycld, os ydynt am fod yn for- wynion graenus ac yn famau cryfion, rhaid iddjait ymddibynu mwy ar gynyrchion cartrefol. Y desgrifiad goreu ellir roddi o'u dull o wisgo yw dweyd ei fod yn annesgrifiadwy. Mae eu gwisgoedd yn cynwys defnvddiau o wneuthuriad amryw genedloedd, a dullweddau o arferiad am- ryw genedlaethau. Mewn rhai ardaloedd gwledig mae y gwisgiad yn hen, a braidd yn farbaraidd ac yn y trefydd a'u hamgylchoedd y mae Y11 newydd. a rhodresgar. Clyna rhai wrth yr hen wisgiad Cymreig myn eraill y gwisgiad newydd- af yn Lloegr a Ffrainc; ond beiddiwn ddweyd mai y cvnlluniau cartrefol diweddaraf yclynt fwyaf cymeradwy yn Nghymru. Y mae amryw bethau y dylai fod ganddynt ddylanwad ar ein gwisgiad. Un peth yw an- sawdd y tir a'r hinsawdd y byddom yn byw yn- ddynt. Mae Cymru yn wahanol yn y pethau hyn i Loegr a gwledydd y Cyfandir, a dylai gwisgiad ein merched fod yn wahanol i'r eiddynt hwy. Gwnai y cylchbeisiau mawrion, a'r boneti bychain, y tro yn lew ar wastadeddau heulog yr Eidal, ond y maent yn warthus hyd lethrau awelog Cymru. Mae y dillad brithion ysgeifn yn bur hyfryd dan belydron haul Alban Hefin; ond yn wir bydd rhyw gryndod drwy ein hesgyrn wrth eu gweled mewn arferiad dan gymylau brochus Ilydref. Peth arall y dylai fod ganddo ddylanwad ar wisgiad ein merched yw eu hamgylchiadau. Ofnwn fod llawer o honynt yn gwisgo uwchlaw eu sefyllfa. M'ae y morwynion cyflog yn ormod am gydymgais a'u huwehradd, ac y mae hyny yn gorfodi llawer o honynt i wario eu cyflcgau cyn eu henill. Dylai y morwynion wisgo fel y gallont wisgo yn gyffelyb pan elont yn wrageckl; a dylai y gwragedd wisgo fel y gall yr holl deuiu Wisgo yn gyfartal. Nid ydynt yn gwneud hyny yn llawer o barthau Cymru yn bresenol. Ed. "rychwn ar wr a gwraig o'r (losbarth canol yn cerdded gyda'u gilydd ar yr heol—craffwn ar eu gwisgoedd—prisiwn hwy, ac ond odid na chawn y I allan fod gwisg y wraig yn werth cymajnt arall a gwisg y gwr; ie, dichon fod un dilledyn iddi hi yn gyfwerth a'i holl wisg ef, er mai ar ei enillion ef y dibynai yr holl deulu. Gallwn gario y sylw yn mhallacli eto—gwna gwisg y gwr y tro iddo am amser maith. Os liaf ydyw, ni raid iddo y gauaf ond ychwanegu ei gob; neu os gauaf ydyw, ni raid iddo yr haf ond ei thynu. Ond am wisg y wraig, ni wna yr hon sydd ganddi yr haf ateb i flyrnigrwydd y gauaf—rhaid cael un newydd ac erbvn yr haf dilynol bydd y ffas- 1wn Avedi newid—rhaid cael un newydd eto ac ni welwn wisg yr haf o'r blaen byth mwy. Apeliwn i lys cyfiawnder a chydwybod, gan ofyn, a ydyw gwisgo fel hyn ddim yn rhy hael a gwas- traffus? Dylai symledd a gweddeidd-dra gael mwy7 o sylw y merched hefyd. Y mae llawer o honynt, wrth redeg ar garlam ar ol ffasiynau Iledrithiog, MERCHED CYMRU TWO wedi myned. i wisgo yn wyllt a rhodresgar dros ben. Nid bob amser y dewisant y lliwiau illwyaf priodol, na'r C3rnlluniau mwyaf gweddaidd. Mae y godreu yn annaturil o fawr, y wasg yn an- naturiol o eiddil, a'r pen yn annaturiol o fychan. Heddyw gwisgant y boneti braidd gyffwrdd, gan adael y pen yn noeth ac agored ac yfory gwisg- ant hetiau mawrion a chantelog, y rhai gan ym- ollwng a orchuddiant hyd yn nod eu gwynebau. Ai doeth yw iddynt wisgo eu boneti ar y wegil, a dal i fyny- eu heulrodau (parasols) i gysgodi ac amddiffyn eu penau? Yn wir, nid ydym yn credu fod angen am yr heulrod o gwbl yn Nghymru, ond iddynt hwy wisgo am eu penau vn briodol. Mae "'awelon oerion araf" ein gwlad yn lleddfu pelvdrau yr haul, fel nad ydys yn beryglus, ond 3'n iachusol. Y mae y blodau yn dyner a phn'dferth, ac 3' maent hwy wedi eu yn beryglus, ond Yl1 iachusol. Y mae y blodau yn dyner a phrydferth, ac y maent hwy wedi eu gosod ar y ddalen, i edrych yn myw llygad yr haul, ac nid eu gorchuddio dani. Mae Ilawer o'n merched wedi niweidio eu hiechyd, a dinys- trio eu bywydan drwy ynfydrwydd eu gwisgiad. Pa sawl lodes brydferth a ddirwasgodd allan ei hiechyd, ei nerth, a'i bywyd, gyda-i gwasg- rwymydd? Ac mor ami y darllenwn am rai wedi cyfarfod a damweiniau gofidus oherwydd an- hwylusdod eu gwisgiad. Diau mai ymgais y maent at fod yn brydferth, ond dylent wybod mai elfen hanfodol mewn prydferthwch yw syml- edd. Hoff genym weled pawb mewn cymdeithas yn ymddallgos yn weddaidd a threfnus ond os "bycld un yn falch a rhodresgar gyda'i wisgiad, byddwn yn cymeryd hyny yn arwydd o wagder ei siol. Pan welwn feibion neu ferched wedi cyrhaedd graddau o enwogrwydd, ni a ganfydd- wn mai agwedd ileci syml fydd arnynt, a bod rhywbeth heblaw eu dillad wedi cael eu sylw. Tra yr ydym yn cymeracIwyo gwisgiad y meibion am ei fod yn hardd syml a chyfleus, yr ydym yn condemnio gwisgiad y merched am ei fod yn wamal, yn anghyflens, yn ansefydlog, ac yn gostus. Ond iddynt hwy gael gafael ar wisgiad rigw hardd a chymeradwy, ni fydd angen am ei newid mor amled a'r lleuad. Syhvais fod yn un o'u ffasiynau diweddar ymgais rhyfygus i efelychu y seraphiaid; ond yn wir, dylent ym- bwyllo, a chofio mai bodau daearol ydynt, a'u bod i dramwy ffyrdd lleidiog, a llwybrau drein- iog 37 llawr, ac nid i ehedfan yn awyr 3r wynfa fry. Hydcrwn fod yr angen am ddiwygiad yn ein cyfiawnhau am fod mor lawdrwm arnynt yn y sylwadau hyn; gallant ddisgwyl rhai mwy ffarfiol rhag Haw.
Yd.
Yd. LLUNDAE^, Dydcl LIun, M aw ah 26. Yr oedd cynulliad lied dda, ond y tuedd i fusnes yn farwaidd. Gofyn gwael am wenith Lloegr, am brisiau yn ffafrio y prynwyr; gwyn, 29s 6c coch, 28s be. (iwenith tramor yn cael ei ddal am brisiau heb newid. Araf oedd y gofyn am flawd hefyd, a'r prisiau heb newid; y pris uchaf oedd 28s. Yr oedd gwenith yn sefydlog, ond ychydig o fusnes oedd yn cael ei wneyd. Y ceirch yn ddistaw. I.l^RPWL, Dydd Mawrth, Mawrth 27. — Yr oedd gofynion y melinwyr yn siomedig gyda gwenith, ac yr oedd y masnachwyr yn dal 3-11 oi. Cododd y prisiau ychydig ar gyfanaledd y cvn- ygion, y dyddordeb yn cael ei. ddangos gan mwy- af gyda y maize, a methodd y pellebrori yn y prydnawn a rhoddi unrhyw gefnogaeth, fel yr oedd y prisiau ar y diwedd yr iselaf gafwyd, ac yn ychydig is na'r farchnad cyn1. Yr oedd gofyn distaw am wenith presenol, a hysbyswyd mas- nach lied dda. Yr oedd prisiau yr wythnos ddi- wedd yn cael eu gofyn am bob mathau.
Anifeiliaid.
Anifeiliaid. LKRPWL, Dydd Llun, Mawrth 26.- Mwy o gyflenwad o wartheg, ond y gofyn yn araf am bob mathau. Y rhai goreu, fodd bynag, yn hawddach i'w gwerthu, ond y mathau eraill heb newid. Y cyflenwad o ddefaid yn llawer lIai. ac yr oedd masnach dda am bob mathau, gydag uwch prisiau. Y prisiau oeeldynt:-Biff, 6c i 5c mutton, gJ4c i 6c y pwys. Ar y farchnad —(rwartheg, 909: defaid, 2,781. GWRECSAI, Dvdd Llun, ilawrth 26.- Yr oedd cyflenwad da o bob math o wartheg ar y farchnad yn Smithfield heddyw, a'r prisiau ar y cyfan yn dangos codiad ar yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y gwartheg godro yn cyfarfod a gofyn parod. Y biff goreu yn gwneyd i f37n3" i. 6^'c 37 pwys; mutton o 8c i 9c y pwys; veal, yj4c i 8e.; perk, 10s yr ugain pwys. Lloi magu mewn gofyn da. LLUNDATN, Dydd Llun, Mawrth 26.—Cyf- lenwad lied dda o wartheg tewion. Y fasnach am y mathau goreu ac ail-raddol yn fwy sefyd- log, gan fod mwy o brynwyr yn bresenol. Yr oedd cynydd yn rhifedi y defaid, gan fod mwy o wyn, pa rai oedd yn gwerthu yn barod am 4e. yr wyth bwys o godiad. Y fasnach gyda defaid yn sefydlog, uwch prisiau o 2C yr wyth bwys yn cael ei ofyn a'iweithredu. Dim cyfnewidiad gyda moch. Prisiau:— Biff, 2s 8c i 4s 8c; mutton, 3s 6c i 6s 2c; pore, 2s 8c i 4s; lamb, 6s 4c i 7s ioc yr wyth bwys. SALFORD, D37dd Mawrth, Mawrth 27.—Ar 37 farchnad Gwartheg, 2,456 masnach farwaidd. Defaid. 90437; gofyn da. Lloi, 269; masnach lied dda. Prisiau: Gwartheg, 5c i 6,.í c defaid yn eu gwlan, 8c i ioc; eto, wedi eu cyneifio. 6T/2C i 8x/>c lloi, 5c i 8-%c v pwys. BIRMINGHAM, Dydd Mawrth, Mawrth 27.- Y cyflenwad heb fod vn fawr, a'r gofyn yn ddis- daw. I.Irisiau -Ilerefords goreu, 7c i 7 ,ic gwartheg a theirw, 4?'c i 5c; lloi, 6%c i Syi.c myllt, 974c i gyic mamogau a meheryn, 6}ic i 7?4C; wyn, roe i tic y pwys; moch tewion, 9s 6c i, 9s 8c perchyll, 10s hychod, 7s 4c i 7s 6c yr ugain pwys.
Marchnadoedd Eraill.I'
Marchnadoedd Eraill. Gwlan. BRADFORD, DvddLlun, Mawrth, 26.— Nid oes dim newydd i'w hysbysu mewn eysyllt. iad a'r farchnad vi-iia. Y mae gwell tuedd, hywrach, ond nid yw y prisiau wedi gwella. Y mae y merinoes yn dal yn y prisiau isel yr oeddynti ynddynt dri mis yn ol, ond y mae y gos- tyngiad wedi aros ar hyn o bryd. Y mae y mo- hair a'r alpaca yn dal yn sefydlog..Y mae y masnachwyr edafedd yn dal yn brysur, ond nid nid ydynt yn cynyg busnes newydd. Owair a (Iweilt, MAXCEINION, Dydd Llun Mawrth 26.—Gwair, 4%c i 5c; clofer, 5c i 654 c gwellt gwenith, 2^c i 25.4c y 14 pwys. Pytatws. LLUNDAIX. Dydd Llun, Mawth 26.— Cyflenwad da, ond masnach farwaidd am y pris- iau catilynol: -Dunbar maincrops, 90S i 100s Lincoln maincrops, 80s i 85s snowdrops, 80s up-to-date, 75s; beauty of Hebron, 70s i 75s; Bruce, 56s i 70s; giants, 65s i 70s; Windsor Castles, 70s; blacklands, 6os; tramoriaid, 6os y dunell. Jerseys, 31.4 c i 4c y pwys.
Cymdeithas Lenyddol j Deganwy.…
Cymdeithas Lenyddol Deganwy. —1— Nos Fercher diweddaf, Mawrth yr 2iain, cyn- lialiwyd cyfarfod diweddaf y tymor mewn ym- gomwest. Daeth nifer dda o'r aelodau yn nghyd, pa rai a fu lawen drwy wneud eu rhan yn y wledd. Cawsant eu gwala a gweddill a adawyd, yr hyn a brawf fod digonedd. Yn ddi- lynol cymerwyd 37 gadair gan ^.lr Hugh Williams (Bodysgallen)^ is-lywydd y gymdeithas. Cafwyd amrywiaeth meVill canu, etc. Rhoddodd Mr Wm. Jones a Mr J. Davies ddeuawd; unawdau gan Mri David Jones a John Davies cafwyd anerchiadau buddiol gan Mr II. Williams a Mr Ffraid Williams. Tyfodd y beirdd ar funud awr. Yr awen a daniwyd. Gadawyd ffrwyth mewn boddhad i'r gwrandawyr. Cyhoeddwyd llwncdestyn i'r gymdeithas gan Ylr Ii. Williams a Mr J. t. Jones. Ategwyd eto lwncdestyi-i i'r i chwiorydd am eu llafur diflino gan Mr Ffraid Williams a Mr Owen Jones. Cafwyd adroddiad hefyd gan yr ysgrifenydd. Dengys fod 18 o gyfarfodydd wedi eu cynal yn ystod y tymor, fel y canlyn: -Darlith agoriadol gan y Parch T. Gwynedd Roberts, Conwy; dadleuon, 9; papyr- au, 3, sef tair noson; cyfarfodydd amrywiaeth- ol, 4; cyfarfod terfynol, i. Yr oedd dw37 o'r | dadleuon a enwyd mewn undeb a Chymdeithas Lenyddol 3' Methodistiaid Calfinaidd, Llan- dudno. Testynau y dadleuon cyfundebol yn Deganwy (llywydd, Parch H. Barrow Williams), ■ "Pa un ai mantais ai anfantais i grefydd yw lhv3'ddiant masnac.hol?"; yn Llandudno (llyw- ydd, Mr Richard Davies (llvwydd Cymdeithas Deganwy), "Pa un ai mantais ai anfantais i'r Unol Dalaethau, America, fyddai iddynt ffurfio tiriogaethau v tu allan i'w tiriogaeth eu hun?" Saif yr ystadegau fel y canlyn: -Presenoldeb mewn deunaw o gyfarfod-vdd, 55 o bersonau; cyfartaledd presenoldeb, 31 mwyafrif yn bre- senol, Chwefror 22, cyfarfod amrywiaethol; llei- afrif yn bresenol, Rhagfyr 28, dadl; cyfartaledd presenoldeb, heb gynwys y cyfarfodydd amryw- iaethol, 22 18 o bersonau wedi presenoli mewn un cyfarfod; 21 mewn 2; 12 mewn 3; 10 mewn 4; 14 mewn 5 4 mewn 6; 5 mewn 7 10 mewn 8 3 mewn 9; 3 mewn xo 4 mewn 11 2 mewn 12 2 mewn 13; 2 mewn 14; 1 mewn 16; 1 mewn iS. Presenoldeb yr aelodau (posibl 18 o gyfarfodydd) --rr Owen Jones, Bethel, mewn 18 o gyfarfodydd; Mr II. Jones, Bryn Seiriol, 16; Mr R. Davies, Plasgwynant, 14; Mr D. Jones, Bethel, 14: Mr Thomas Davies, Bron- heulog, 13; Miss Jennie Davies, eto, 13; Mr Hugh Williams, Bodysgallen, 12 Mr Robert Davies, Morannedd, 12 AIr D. E. Davies, Bod- mair, JI; Mr Ffraid Williams, i i Mr Jos. 1-1. Jones, Rock Villa, i i Mr Wm. Jones, eto, 11 Mrs Davies, Plasgwynant, 10; Mr John Evans, Bryn IIyfryd, 10; Mr Hugh Parry, Rose Cot- tage, 10. Y pwyllgor :—Mr Richard Davies, llywydd, 14; Mr Hugh Williams, is-lywydd, 12; Air R. Davies, Moranxxedd, 12; Air Owen Jones, Bethel. 18 Mr II. Jones, ysgrifenydd, 16; Mr D. E. Davies, Bodmair, I I; Mr Rowlands, Rugby House, 5 Mr Jos. II. Jones, Rock Villa (wedi symud i Swindon), 11 Mr Thos. Davies, Bronheulog, 13. Mae pob argoel am waith da y tymhor dyfodol, a phwyllgor gweithgar wedi ei ddewis. Hefyd, mae ansawdd arianol y gym- deithas mewn gwedd lewyrc-hus. Nifer 37r ael- odaxx 3rw 50. II. J- -+-
[No title]
Y MAIV y Parch C. M. Sheldon, awdvvr y liyfr rhyfedd hwmv, Yn ei gamrau ef," wedimethvx yn ei ymgais i sefydlu newyddiadnr rhinweddol" o'r dull a awgrymed yn ei lyfr. DYCHWHLWYI) Syr Robt. Alowbi-ay (C.), yn aelod dros ranbarth Brixton, yr wythnos ddiwecidaf, yn ddi wrth wynebiad. MAE Mr Albert Spicer, A.S. dros Gasncwyclc1, Sir Fynwy, yn wael ei iechyd. I Bu farw gvveddw y diweddar Ddr. Arnold, o Rugby, yr wythnos ddiweddaf, yn 79 mlwydcl oed. —— Profwyd ewyllys Syr Edward Percy Bates, 0 Lanasa, Swydd Flixit, 3'r wj'thnos ddiweddaf. Gadawodd eiddo o ;6523,-14") 9s 5c. Yn Llys Man-dayledion Porthmadog, yr wythnos ddiweddaf, Mr W. Morris Jones" a cfynodd am. garcharu d3'ledwr, gan ixa thalai.-—■ Dywedwyd wrth y Barnwr fod gan wraig y dyledwr efeilliaid.-Y Barnwr: Hen dro na fu- asai ganddi dri, buasai y dyledwr felly yn cael digon o arian gan y Frenhines i dalu y ddyled. (Chwerthin.) Anfonodd y Parch S. R. Jenkins, Mertl-13-r, ar ran ei dad.—y Parch D. M. Jenkins—i hysbysu Pwyllgor Coleg Aberhonddu ei fod yn barod i gyflwyxxo darlun y diweddar "Gohebydd" i Oriel yr Athrofa, os yn dderbyniol. Derbyniodd y pwyllgor y cyfryw gyda diolchgarwch cynes i'r Parch D. Al. Jenkins. —— Diau v bydd o ddyddordeb i lawer ddeall fod Air Arthur Howell, mab Deon Howell (Llaw- dden), yn cychwyn allan i faes y rhyfel yr wyth- nos nesaf fel Cadben yn Ngwirfoddolw^vr Ym- herodrol dinas Llundain. Mae y Professwr D. E. Hughes, F.R.S., C3rmro Americaxiaidd, wedi gadael ^'4,000 tuag at hyrwydclo a chymhell yxnchveliad' miewn celfyddyd. —— Bu farw yr larll Harrowbv dclydcl Llun diweddaf. Cyn ei ddyrchafiad i'r bendefxgaeth bu yn Aelod Seneddol dros Lerpwi, dan yr enw Is-iarll Sandon. Bu trengoliad yn Alostyn yr wythnos hon ar gyrph Eleazar Foulkes (52) a'i chwaer, Alary Foulkes, y rhai oeddvnt yn byw mewn dull meudwyaidd yn Ffynongroew. Pan dorwyd i'r ty lie y trigent, cafwyd y ddau wedi marw, fel y t credir, a iiewyn. Yr wythnos ddiwecldaf rhoddwyd ciniaw | y I ymadawol yn ngwest3* 3" Sportsman, Caernarfon, 1 Dr Alills Roberts, o Laxxberis, ar yr achlysur o'i ymadawiad i Ddeheubarth Affrica fel aelod yn ngwasanaeth yr ysbytty Cymreig yno. —— Traddododd Mr Wm. Jones, yr aelod Sen- eddol dros Arfon, araeth hyawdl yn y Senedd nos Wener yn mhlaid addysg i'r Pabyddion yn y Werddon. Hysbysir fod y Due o Norfolk, y Postfeistr Cyffredinol, yxi myned allan i faes y r'hyfel gyda'i gatrawd o Wirfoddolwyr. —— Ni bu y Cymry erioed mor unfrydol a hael- ionus ag y ceir hwynt hedd37w parthed 37r Ys- bytty Gymreig yn Neh-eubarth Affrica. V mae y gronfa eisoes wedi cyrhaedc1 .5,ooop. —— Disgwylir y bydd cryn lawer o faneri yn chwifio hyd y glanau hyn foren Mercher nesaf, pan fydd v Frenhines yn myned trwodd ar ei thaith i'r Werddon. Yn nghynhebrwng y diweddar Brifathraw Edwards, o'r Bala, yr oedd evnrychioiwyr sefydl- iadau colegawl ac enwadau 0 bob partII o Gymru. Alae nifer y peirianau teithiol a wnaed yn t ngweithfeydd y rheilffordd yn Crewe wedi cyr- haedd pedair mil. —— Cynhaliwyd trengholiad yn Llanfairfechan, ddydd Gwener diweddaf, ar gorph Robert Wad- dington., yr hwn a laddwyd yn chwarely AIri Brundritt. Yr un dydd cynhaIiwyd trengholiad arall yn' yrun lie ar gorph y ferch ieuanc a foddodd ei hun yn y mor gerllaw.
Advertising
GWYDYR HOUSE, LLANRWST. Annual Sale NOW ON. FOR PARTICULARS SEE OUR CATALOGUE. GREAT BARGAINS AS USUAL. L. WILLIAMS & SONS, 85 ESTABLISHED 1876. WILLIAM HUGHES, MONUMENTAL & ARCHITECTURAL MASON AND CARVER, STATION ROAD, LLANRWST. MANUFACTURER OF MONUMENTS, HEADSTONES, & TABLETS, In all the British & Foreign Granites, Marble or Stone. TOMBSTONES CLEANED, ENGRAVED, & RE-FIXED Quality of Materials and Worlcmanship guaranteed. Fonts, Steps, and all Ecclesiastical Mason Work < Speciality. Inspection of Stocle and comparison of prices cordially invited-. 992 PERFECT SIGHT. Only a very small proportion of persons have perfect sight for far and near in both eyes. ARE YOU TROUBLED with lieadttelies I Do your Eyes ache and feel heavy, or do they smart and water. SOMETHING ISWRONG if you feel any of the above symptoms. CALL & CONSULT US and we will ildvise you. Our Optical Depart- ment is at your service, and is under the personal supervision of R. G. OWEN, F.S.M.C. (London), Fellow of the TVorsh-ipfnl Company of Spectacle Makers, Guildhall, London (by Examination), OPHTHALMIC OPTICIAN. GRIFFITH OWEN & SON, Watchmakersy Jewellers, Silversmiths & Opticians, LLANRWST. iay D. G. WILSON, Merchant Tailor, 2, Watling Street, LLANRWST, HAS A GOOD SELECTION OF SUITINGS, OVERCOATINGS, AND TROUSERINGS, In STOCK at MOST REASONABLE CHARGES. Ladies' Costumes, Jackets, Liveries, and Clerical Garments a Speciality. D.G.W. has a competent Staff of Workmen on the premises, and guarantees excellent workman. ship, along with good Fit and Style. IN STOCK ALSO CHRISTY'S LONDON HATS, CAPS, TIES, SHIRTS, MACINTOSHES, DENTS' GLOVES, etc. 2, W^TLHsTO- ST. LLANRWST. « LLANEWST BERLIN HOUSE, WATLING STREET. DAVID JONES (Successor to J. PARRY JONES) Desires to draw your attention to the BEST and CHEAPEST LINES in the Town as a Watchmaker and Jeweller. REPAIRS GUARANTEED. Only Agent for Henry Laurance's Spectacles. 1021 SPECIAL TO LADIES. For the Best and Largest Stock of LADIES' AND CHILDREN'S UNDERCLOTHING, BABY LINEN, CHILDREN'S COSTUMES, AND MILLINERY, CORSETS, UMBRELLAS, FANCY GOODS, DENT'S GLOVES ETC., GO TO Compton House, ESTSFM LLANRWST ONLY RELIABLE GOODS KEPT. ALFRED T. HUGHES, Proprietor.