Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Colofn Cymreig y Rhondda

Priodas.

News
Cite
Share

Priodas. Mr. John Isaac, Trewilliam, a Miss Leah Payne, Llansamlet, yn Ebenezer, Llwyn- brwydraw, Gorphenaf 2il, 1904. Bendith nef fo ar yr amod Wnaethpwyd heddyw yn ein gwyddfod, Tynach, tynach aiff yr uniad, Dyna hanes rhwymau cariad. loan hoff a'i galon gynes, Gadwo'i wraig fel teg frenines, Gwylio'n ddyfal beunydd drosti, Bod yn dwr a tharian iddi. Bydded Leah'n fwyn ac hawddgar, Ac i'w gwr yn gymwys gydmar, Gweini arno bob mynydyn, Edrych arno fel ei brenin. Pan yn hwylio mordaith bywyd Bydded iddynt fordaith hyfryd Heb un graig na dwys bryderon, Awel groes, na chymyl duon. Heulwen haf fo ar eu llwybrau, Llwyddiant mawr a lanwo'u seiliau, Boed pob mis yn wir trwy eu bywyd, Yn fis met yn llawn dedwyddyd. Fel mae'r yd ar ol ymdoni Hyd yr Hydref yn addfedu, Ac yn galw mewn addfedrwydd Am ei gludo i ddyddosrwydd. Bydded iddynt ar bob amser Fod dan lewyrch Haul Cytiawndet- Awel fWYll y pell ardaloedd A'u haddfedo'n llwyr i'r nefoedd. DYMUNIAD DA.

" Hen Erw Duw" (God's Acre).

Royal Appreciation of a Gifted…

YANKEE HUMOUR

Advertising