Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Colofn Cymreig y Rhondda

News
Cite
Share

Colofn Cymreig y Rhondda Cyfnol Goffa Ben Bowdn. Mae yn dda, yn ddiau, gan ganoedd glywed fod y gyfrol hon yn y wasg; mae cryn lawer o ddiagwyliad am ymddangos- iad hon. Bydd rhan ynddi gan lu o ryw lenorion, o Dde a Gogledd, a chynyrchion dihafal Ben ei hun. Ofnir fod dwy gan o bwys a wnaeth yn Saesonig tra yn South Affxica, ac a gyflwynwyd i sylw Syr Lewis Morris, Caerfyrddin, wedi dianc a myned ar goll, end mae hyn yn dda, mae y llythyr gaed gan fardd Penybryn yn coff- hau barn a beirniadaeth Syr Lewis ar gael, ac y mae yn dra gwerthfawr a chalonogol, ac yn dystiolaeth uchel i dalent gref a chynarol y bardd ieuanc. Mae y lienor rhwyddgalon, Ifano Jones, Llyfrgell Bydd Caerdydd, yn rhwydd a pharod yn rhoddi help ei brofiad helaeth i Mr. David Bowen gyda'r cyhoeddi. Cymrawd gwerthfawr, a pharod i helpu pob peth Cymreig, yn ddiau, ydyw Ifano, a cheir cynhauaf da a chynyrchiol o ddylanwad iach a gwerthfawr o'i fywyd ef i fywyd y genedl Gymreig. Dymunwn yn onest ei gadw yn hir. Ac y mae Mr. Ballinger er's blynyddau wedi d'od i weled fod ei gynorthwydd yn ddyn pwysig i'r genedl ac i'w llenoriaeth. Dr. Thos. Llewelyn a Thos. Llewelyn. Rhaid cadw'n glir rhag cymysgu y ddau. Yr oedd Dr. Llewelyn yn M.A., LL.D. Dyma un o'r dynion enwocaf, os nid y mwyaf enwog, a fagodd Cymru erioed. Ceir coflant rhagoi-ol iddo yn Seren Gomer" am y flwyddyn 1855. Ganwyd ef yn Mhenalltau Isaf, gerllaw Hengoed, tua'r flwyddyn 1720. Aeth yn athraw athrofa yn Llundain, un o brif sefydlwyr a chefnogwyr Cymdeithas y Cymrodorion. Efe hefyd fu yn achos o ddechreuad Cym- deithas Genhadol i anfon gweinidogion i Siroedd Mon ac Arfon, a,c yn hyn cyd- weithiai yn ddiau a W. Williams, Y.H., Aberteifi. Claddwyd ef yn yr un bedd a Dr. Watts yn Bunhill Fields; ond am Thomas Llewelyn, o'r Glyneithinog, yn Rhigoea, yr hwn sydd ddosran neu dref ddegwm o blwyf Ystradyfodwg, yn Sir Forganwg, a'r hwn oedd fardd Cymreig enwog, yn Brotestant o nodwedd uchel, duwioldeb mawr, a moesoldeb manwl, ac yn byw yn amser Edward VI. hyd Eliza- beth, a thybir a honir gan Dr. Malkin ar sail hysbysiaeth a gawsai gan lolo Morganwg (" Dr. Malkins' Scenery, An- tiquities and Biography of South Wales," Vol. I., pp. 297-300), ddarfod iddo gyfieithu y Beibl i Gymraeg da o gyfieith- iad Saesonaeg William Tyndal tua'r flwyddyn 1540. Ebai Gwilym Lleyn — Yr oedd efe yn meddu trwydded i bre- gethu o dan law yr Archesgob Grindal fel y cafodd ereill yn y dyddiau hyny," Dywedodd y Parch. J. Griffiths, sydd mewn urddau eglwysig yn Nantymoel, wrthym yr wythnos diweddaf fod amryw awdurdodau yn tybio ac yn honi yr uchod sef fod yr hen frodor, T. Llewelyn, wedi cael hawl-ysgrif o ganiatad i bregethu gan Grindal, ond iddo ef pan yn Llundain fyned i Lambeth Palace i wneyd arch- wiliad manwl a gofalus, a dangosodd y gwyliedydd iddo yr holl ysgrifau oedd yn dwyn perthynas a'r cyfnod ac a Chymru, ond iddo fethu yn deg a gweled dim cadarnhad, er fod yno fanylion yn mysg ereill am luaws mawr o Gymry, ac y mae rhestr hono ganddo ef wedi ei diogelu ar gyfer rhyw adeg neu ymholiad pan ddeuent gyfleus. Byddai yn ami yn dar- llen gwasanaeth eglwysig mewn annedd-dai yn ysgrifenedig ganddo ei hun (canys hyd vn hyn nid oedd dim yn argraffedig), a phregethai yn boblogaidd a ffurfiodd lawer o gymdeithasau by chain. Dywedir hefyd fod llythyr mewn ysgrif-law yn llyfrgell Syr Thomas Mostyn yn Sir Flint oddiwrth y dywededig Thomas Llewelyn at Richard Davies yr ail Esgob Protestanaidd yn Nhy Ddewi. yn ei anog i gyfieithu y Beibl i'r iaith Gymraeg, ac yn rhoi rhyw hanes am yr hyn oedd ef ei hun wedi ei wneyd. Nid ydys yn sicr a ddefnyddiwyd ysgrif Llewelyn gan y cyfieithwyr; ond y mae yn dra thebyg ei bod yn adnabyddus l Salesbury, yr hyn yn nghyd a rhesymau ereill a brofant paham y darfu i Sales- bury, ac yntau yn Wynedd-wr gymysgu cymaint o briodwedd neu lediaith y Deheuwyr yn ei gyfieithiadau. Y mae ar gof hanesyn tra. tharawiadol am Thomas Llewelyn." Dywedir iddo, wedi claddu ei wraig gyntaf, fyned i geisio caru merch ag y buasai iddi ddau blentyn gordderch, gan fwriadu gwneuthur ail wraig o honi. Aeth dau fab iddo, o'i wraig gyntaf, yn gymdeithion iddo i'w briodas ac i gyrchu yV ddarpar-wraig dros afon Nedd. Yn nghanol yr afon fe dramgwyddodd y ceffyl dan y mab hynaf, yr hwn a, ganodd y penill triban canlynol ar yr achos: — Y ceffyl bal anhywaith A hapiws dripio unwaitb, Wrth 'mofyn gwraig i nhad dan glo Fe dripiys hono ddwywaith. Ffromodd yr hen wr wrth y mab, ac nid ai ef i briodi y dydd hwnw, ond gofynodd i'r ail fab ddyfod gydag ef ar ddiwrnod arall; ond hwnw eilwaith a ganodd fel hyn: Hawddfyd i'm mam gywir dro, Un onest gorff a dwylo, Mae'n awr yn gorwedd yn y llwch— Un onest mynwch eto." With weled y meibion fel hyn yn an fod d- lawn, fe roes heibio feddwl am briodi mwy; ac yn mhen ychydig ar ol hyn ym- roddodd i fod yn grefyddol iawn, a bu fyw ddeugain mlynedd wedi hyny. Mae rhyw berthynas weithiau yn cael ei honi neu ei thybio rhwng y cyfieithiad hwn ag eiddo'r un elwir yn hen Feibl Celydd If an, Bettws, Llangeinor. Mae'r pwnc hwn yn llawn dyddordeb. Y cyntaf am a wyddys a. gyfieithodd ranau o'r Beibl i'r iaith Gymraeg oedd Taliesyn—bardd enwog o ymyl Llanrwst ag oedd yn blodeuo oddeutu y flwyddyn 1540. Ond amheu Silvan Evans wiredd hyny. Os oes rhyw wir yn modolaeth cyfieithiad mewn ysgrif-Iyfr yn Celydd Ifan-ac y gallai fod rhyw berth- ynas rhwng hono ag eiddo Thos. Llewelyn —os felly, mae a ganlyn yn fodrwy ddydd- orol yn y gadwyn, Dirmyg Cas y Sais ar y Cymro. Dro yn ol darllenwyd mewn gwaith awdwr Saesonig nad oedd gan drigolion Cymru ddim adnabyddiaeth o lcnyddiaeth un wlad arall (estronol) hyd yr ail-ganrif- ar-bymtheg! Feallai nad oedd efe erioed wedi clywed—neu na fynai glywed a gwybod-fod Ieuan ap Ieuan ap Madog, o blwyf Bettws, ger Penybont, Morganwg, wedi cyfieithu i'r Gymraeg tua 1575 cyfieithiad Saesonig W. Goodyeare o Le c- Voyage du Chavalier Errant gan Qeau de Cartigny. Penawd y cyfieithiad Cym- raeg oedd Y Marchog Crwdrad." Mae'n brin ac yn werthfawr erbyn hyn. Yn ddiau, profa'r uchod a'r tebygolrwydd o fod dyn cryf os nad o Hebrewr eto yn lienor galluog i gyfieithu o'r Saesoneg i'r Gymraeg, yn Celydd Ifan yn yr ymyl yn yr un gymydogaeth yn cyfieithu'r gair, dywedir mewn traildodiad ei fod mewn ystafell ddirgel o'r tu 01 i'r tan, ac wrth ochr y tan, ac fe geid goleu gwanaidd o'r simddeu fawr oleu, heb i neb na wyddai am y dirgelwch allu darganfod fod goleu o'r tu allan trwy na ffencstr na dellt fod yn hawdd credu i'r peth fod yn eithaf posibl. Yn yr un ardal i-liamaiit-as heb fod yn mhell ceir Bryn Llywarch, noddfa Anghydffurfiaeth foreu a'r enwdg Samuel Jones, yn Llangynwyd, lie caed athrofa feohan mor foreu a 1689, ac yn ymyl ceir maeth i ochr arall bywyd, sef Cefn Ydfa, cartref y feinwen ffyddlon, a'i serchog Will Hopkin, ac yno ceir man cynaliad eisteddfod enwog Cadair Tir Iarll. Bu tor aeth o wyr Cymreig Caer- dydd yn gwneyd pererindod ddyddorol i'r mangre leoedd henafol hyn. Wrth gwrs, Ifano, Cochfarf, Cadrawd, a'r Parch. Jackson oedd arweinyddion y llu, a doniol a doeth mewn doniau fu'r daith. Mynwent y G roes wen. Mae rhyw wr dawnus o Llundain yn ei galw yn Westminster Abbey of Wales," ac y mae yn llawn o swyn pruddaidd i lenorion lu i feddwl am Caledfryn ac am Ieuan Gwynedd, a llu ereill:- Hen fynwent y cyfiawn wir-y llanerch Lie hun enwogion; Rhyw wely i anfarwolion Yw enw tir y fonwent hon. Dywedai Emrys am dani: — Llwythog yw'r pridd bob llathen-o lwch Gloewach byd j y mae'r awen [beirdd A rhyw barch i'r dywarchen A'r gro sy' ar y Groeswen. Llwydd Addysg Rhagorol. J. T. Evans, gynt o Bontygwaith, wedi cwblhau ei B.A. Ni chymerodd iddo ond chwe' blynedd o'r talcen glo i'r cap and gown," a'i B.A. Mae edmygedd mawr o waith E. Samuel, B.A., wedi enill ei radd o M.A. yn Mhrifysgol Llundain. Gallai yn ddiau fod wedi ei chael er's blynyddau pe mynasai. Efe yw prifathraw llwydd- ianus Ysgol Ganolraddol y Porth. Rhag- orol yw ei hanes ef a'r ysgol. Mae D. R. Jones, Henllan, gynt Tonypandy, wedi pasio ei B.A. yn urddasol o lwyddianus. Cwm Rhondda yn lechydol. Sylfaenir y cyfrifon yn ein Cwm ar boblogaeth o 119,652. Mae'r gened- igaethau yn 1903 yn 4,987, yn rhoi birth-rate" o 40.9 y fil, o'r cyfryw yr oedd 115 yn enedigaethau anghyfreithlawn. Ysmotyn du eto. Mar- wolaethau yn rhifo 1,998, yn gyfartal i 16.7 j fil, o'i gydmaru a 16.3 yn ganol radd i gyfrif'on 76 o'r trefydd mwyaf, ac o'i chydmaru a 15.4 y fil i holl Gymru a Lloegr. Ni fu'r marwolaethau mgr isel er's 24 o flynyddau. Rhaid fod pethau yn weddol iachus yma dan ofal Dr. Jen- kins a'r Cynghor yn nghanol cynifer o ddamweiniau ao o anwybodaeth mamau am fagu plant. AWSTINIAN.

Beirniadaeth

Treherbert.

Dropsy and Bright's Disease

Advertising