Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
YR ADRAH CYMREIC. "Oes y Byd ilr laith Gymraeg." GOLYGYDD- J. REES (Nathan Wyn), Ystfad-Rhondda. Pob Gohebiaethau, Barddoniaeth, &c., i'w cyfeirio i'r Golygydd. OY
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Y GWLITHYN.—Prin mae y penillion hyn yn dyfod i fyny a'n safon ond gan ei fod yn amlwg mai un ieuanc ydych, caiff y darn hwn ymddangos er cefnogaeth i chwi fyned rhag eich blaen. Dysgwch atalnodi ar bob cyfrif. Y BELDROED.—Yr ydym wedi anfon dau ddarn ar y chwareu poblogaidd hwn i'r Swydd- fa yn barod. Dichon fod y rhai liyn yn ddigon ar hyn o bryd. Nid da gormod o ddim." Y Nos.-Nid yw hwn hollol reolaidd heb- law hyny, mae rhyw dywyllni mwy na thy- wyllwch y nos ei hun, yn ei amgylchynu. Gwnewch ail gynyg. CWYN Y DYLEDWR. Englyn cywir a phrydferth. Y DEGWM.—Tlws a nodweddiadol. CAN 0 GLOD I MR.Nid oes genym y gwrtliwynebiad lleiaf i gan o glod, os bydd y gan hono o dan arweiniad yr awen wir, a'r gwrthddrych hefyd yn deilwng o'r clodforedd a bentyrir arno'n ddifosur. Pa fodd bynag, nis gallwn gyhoeddi hon. Yr ydym yn anfon i'r Swyddfa yr eiddo Penfro, G. Iorwerth, a Lewis R. Williams.
Cwyn y Dyledwr.
Cwyn y Dyledwr. Un dwl ydwyf mewn dyledion—a bwrn Wyf ar bawb yn gyson Pawb a'm cenfydd sydd yn son, Wele wr biliau hirion. PENFRO.
Y Degwm.
Y Degwm. Degwm sy'n gwlwm am galon—a gwarth Gwrthun ein gwlad clirion Crea drwy Fynwy hyd Fon Chwerw helynt a chwerylon. LEWIS R. WILLIAMS.
Y Gwlithyn.
Y Gwlithyn. Pwy a'th greodd, wlithyn hyfryd ? 0 b'le daethost ? d'wed yn awr, Ti wyt megys darn o fywyd Ar wefusau blodau'r Ilawr, Mae (ly ddagrau man yn felus, Ac fel perlyn gloyw glan Pob rhyw fiod'yn bach a'i wefns Sydd yn llyncu'r dafnau man. Pan bydd blodau bach yn gwywo, Ac yn salw iawn ei gwedd, 'Rwyt yn dyfod i'w dihnno A'u cyfodi bron o'r bcdd 'Rwyt yn gloywi eu ^wynebpryd Ar ol sychder maith a blin, Rhyfedd'fel 'rwyt yn eyfiiewid Angel wyt i'r blodau crin. 'Rwyt yn harddu'r maes a'r goedwig, 'Rwyt yn werthfawr iawn yn wir, Mae dy ddagrau bendigedig Yn addurno ffrwythau'r tir 'Rwyt yn debyg iawn i ddeigryn Sydd yn fynych ar fy ngrudd, O orsedafainc lor yn disgyn 1 fywhau a lleithio 'r pridd. Tylorstown. G. IORWERTH.
Chwareu y Bel Droed.
Chwareu y Bel Droed. Eisteddfod Goronog Tonypandy, Pasg," 1899. Gan fod addoli'n reddf yn enaid dyn, Rhaid iddo gaelyn wrthddrych rywbeth fydd Yn deilwng o'i addoliad. Gyda'r pagan blin- Pridd, coed, neu gerrig yn wrthddrycliau sydd Nid oes mewn pagan hyd yn hyn y medr 0 lunio duw bach crwn o wynt a lledr Mae'r Cymro goleuedi» wedi blaenu Y pagan du am wrthddrych i'w addoli. At bobl China fawr, a'r India bell, Yr ä'u cenadon dewr i ganmol Dnw- Sef Duw y nef, ond onid canmil gwell F'ai iddynt roi o'u blaen rinweddau byw Duw enwog gwlad eu liunain ? nid duw pren, Ond duw o wynt, a hwnw'n ddim ond pen Ond tebyg nad ynt ddigon uchel yno Mewn ilysg a moes i gad w twrf wrth gwympo. 11 Mae'n rhyfedd fod duwiolion dewr yr oes Yn para'n ddall i ddefnyddioldeb traed Rhyfeddach fyth eu clywed mor ddi-foes A sennn duw i'w gieio'n unig wnaed I godi safon moes, ni ddaeth erioed I'n gwlad dim effeithiolach na'r bel droed Rhaid bod ei chwareu'n lies, cyngwna yn Nghymru Enwogion yn y gamp o dyngu a rhegu. Mor hyfryd gweled ar brydnawnddydd gwaith Y cerbydresi hirion- r'heiny'n llawn 0 esgyrn, cnawd, a ilillad, ar eu taith I gwm dinodedd—claddfa dysg a dawn Nid oes wahaniaeth beth yw'r rhyw na'r oed, Rhaid cadw i fyn'd cliwareuaeth y bel droed; Cael pen a chalon wag yw'r unig amod Er cadw lie i'r bel i fyn'd a dyfod. Mae dynion call yn euro ami hi Am nad oes gwir ddyrchafiad wrttii 'nglyn, Ond 0 'r manylwyr, beth ddywedech chwi, Pe gwelech yr edmygwyr bob yr un Ar fiaenau'u traed yn gwaeddi nerth eu ceg Am chwareu teg, ac yna'n gyru rlieg Drwy'r arogl gwin fel peraidd sain gwareiddid? Ai nid ystyriech hyn yn ivir ddyrchafiad ? I'r bel perthyna arueheledd llawn, Ond cwrdd a blaen y droed a'n chwyrn i'r lan; A phan gychwyna, O 'r gerddorol ddawn, Wastratta yr edrychwyr yn y fan Dylasai ernntn y chwareu wyr fod Am fyrdd o oesau ar binaclau clod Trueni fod enwogrwydd y fath ddoniau Yn gwywo'n 11 wyr mewn 'chydig bach o ddyddiau. Na foler paflio mwyach yn ein gwlad, Mae rhyddid y bel droed yn mhell o'r blaen; Gwir yw fod p" ysan'r dyrnau yn fwynhad, Ond cioio sydd yn tori gyda'r graen Am ganol dyn paffyddiaeth ddyry nod, Fel nad a'r (lyriitii n is i chwilio am glod Ond gyda'r bel chanfydda'r traed byth derfyn Tra hont yn rhywle rhvvng y gwadn a'r coryn. 11 y Golygfa dfos gwel'd bechgyn lioff ein gtvlad, Ily Ar ol diwrnod caled yn y gwaith, Yn chwys i gyd wrth geisio rhoi mwynhad Am awr a haner i seyurwyr Haith; Mae'n rhaid fod bri ac urddas yn y bel Cyn deuai crach foneddwyr yn llawn sel I wel'd y chwareu ond er hyn, trueni Na phlygai'r gwir foneddwyr luniau iddi. Yn nglyn a'r bel mae un peth hyfryd iawn- Mai'r gauaf ydyw'r unig adeg roed Pan rhaid ei chicio—mae yr hwyliau'n llawn Bob amser, pan mae'r gwynt yn blingo'r coed Pan ddaw yr eira yn ei wyn i'r cwrdd, Y danedd delynora 'r chwys i ffwrdd Mae gan y bechgyn yma feddwl goleu— Am g'lymu esgyrn dyma'r tywydd goreu. Crefyddwyr gwerth eu harddel yw y rhai A fedrant roi gwasanaeth i ddau dduw Nid ydyw mawredd Duw y nef yn llai, Am fod rhai hyn yn rhoi i'w galon friw Mae'n sicr nad yw angau'r bel gerllaw, Tra mae crefyddwyr yn y gwynt a'r baw Yn moli lledr; ond nid yr un yw anian Crefyddwyr a duwiolion wedi'r cyfan. Nid oes ar Suliau un gwahaniaeth blin Rhwng y rhai hyn a'r brodyr da eu gair," Ac nid oes llawer nefyd ar y Llun, Waeth ar ddydd Sadwrn mae gwyl fawr y flair; Gofynwch iddynt am ryw adnod wen, A'r ateb gewch fydd rhwbiad da i'r pen Ni hoffant ddarllen Llvfr y Duwiolion, Ond yn rheolau'r bel dyloriant Gristion. Wrth gloi i fyny, 'r sylwedd ydyw hyn— Pob un ddymuna mewn dinodedd fyw Yn warth ar amcan bywyd, hefyd fyn Gyfodi yn erbyn hawliau Beibl a Duw A phawb a gar roi anmharch i hir oed, A sathru'r synwyr da i ddyn a roed, Gofelweh gadw i fyny'r bel a'i hawliau, A sicr y derbyniwch oil eich gwobrau. TOM BOWDWR.
Fy Esgyd sydd yn Gwasgu.
Fy Esgyd sydd yn Gwasgu. MAE'M chwimaf droed yn cysgn, A'i bodiau yn crebachu Wyf bron a rhegu yn fy llid, Fy esgid sydd yn gwasgu. Mae'm hysbryd wedi lleddfu, A'm calon brudd yn gwaedu Arwisgo parddu wjia fy ngwrid, Fy esgid sydd yn gwasgu. Saif gwallt fy mhen rhag tyfu, Mae 'nghap yn chwys dyferu Wyf bron a drysu nos a dydd, Fy esgid sydd yn gwasgu. At waith y crydd rwy'n synu Pe gwyddwn na wnawn bechu, Gwnawn iddo fwyta'n ddigon rhydd Yr esgid sydd yn gwasgu. Fe haeddai hwnw'i glymn, Wrth fwrdd y wledd nes llwgi; > A dylid crogi cobbler grydd Yr esgid sydd yn gwasgu. Os gwelwch ddyn yn dyblu Pris pob nwydd mae'n ei werthu, Gochelwch dd'wedyd hyny'n rhydd, Yr esgid fydd yn gwasgu. Wrth dori'r cyrn rwy'n chwysu, Tra'm bysedd oil yn gwaedu Ac ofnwyf dori'm gwddf mewn llid, Fy esgid sydd yn gwasgu. NATHAN WYN.
Hen Cymeriadau Hyijod Cwm…
Hen Cymeriadau Hyijod Cwm iftondda. II.—GAN HEN BRESWYLYDD. [Rhanwyd y wobr rhwng tri cyhoeddir y tair ysgrif yn y Rhondda Leader."] (Parhad.) I Richard Hopkin oedd gymeriad hollol ar ei ben ei hun. Llaf- urwr amaethyddol eto. Dyn gweddol o dal ac heb fod yn dew, a Hiw ei gnawd yn tystio ei fod yn meddu ar iechyd rhagorol. Yr oedd yntau o ran defnydd ei wisg yn profi ei fod yn bleidiol i ddefnyddiau o wneuthuriad cartrefol. Ond yr oedd ei ddull o wisgo yn wahanol i ddull pawb ereill. Tebyg na wisgodd ddim erioed i ddal ei lodrau i fyny. Troai ymyl uchaf ei lodrau fel torch wair o'i amgylch, a byddai y crys yn plygu dros ac yn gordoi y dorch hono. Ni chai neb wneyd esgidiau iddo ond cryddion Llanharran, pentref tun chwech milldir o gyfeiriad Llantrisant. Byddai raid i'r esgid fod mor helaeth fel y gallai symud ei fys rhyngddi a'r droed o amgylch iddi yn hawdd. Yr oedd ganddo ystol deirtroed ac astell gul uchel yn gefn iddi, ac ni eisteddai un amser ar unrhyw gadair arall o fewn y ty. Yr oedd yn ddyn rhyfeddol o fywiog. Wrfli fyned i dy cymydog yn yr ymyl ar neges digon dibwys, cerddai fel pe buaai mewn brys i ddal y gerbydres. Pan y gofynid a welai fod yn dda i gyllawni rhyw neges, byddai yn wa- hanol iawn i'r dosbarth fyddai yn addaw heb gyflawni. Byddai ef yn fynych yn nacan, er I hyny yn sicr o gyflawni os byddai yn bosibl. Dywedodd yr hen wraig wrtho unwaith, "Gan. dy fod yn myned tua Ffrwdamos, Richard, galw i ofyn hynt Bili, 'nai di?" "Nid tebyg y gwnaf," meddai yntau; ond wedi cyrhaedd y He aeth yn gyntaf i dy Bili. Well Bili, shwd wyt ti ? meddai. "Lied wael, ymewyrth," meddai Bili; yr wyf yn methu ymborthi," meddai. "Wei," meddai yr ewythr, dylet fod yn ddiolchgar gan nad ydwyt yn galln eniJl dy fwyd" Meth dd Bili a dal heb chwerthin er gwaned oedd. Anfon wyd Richard gan ei feistr i Ifair Aber- dar i werthu llo. Gofynwyd gan un oedd am brynu os oedd ylloyniach. "Nac yw," meddai, "åc ni bu yn iach erioed." Felly cafodd Richard y fraint o ddyfod a'r 110 bach llesg yn ol. Pan oedd yn gweithio ar dir y Dinas, gofyn- odd rhyw wr doeth iddo ag oedd yn lioff o holi pwy oedd perchen y peth hwn a'r peth arall. Rhoddodd Richard ben ar yr holi trwy un atebiad, sef "Master Coffin yw perchen pob peth yma ond eneidiau dynion." Byddai golwg doniol iawn ar Richard pan fyd(lai yn marchogaeth. Ni wnelai ar tin cyf- rif roddi ei draed yn y gwai thafylau. Dygwyddodd tro chwithig iddo pan yn z, gwatio ar lethr mynydd y Brithweunydd. Cwympodd a thorodd ei goes, heb yr un dyn yn agos iddo. Ymlusgodd drwy anhawsder a phoen mawr i fan ag y gallesid ei weled o ymyl ei dy, a gwaeddodd amryw weithiau. O'r diwedd gwelodd ei fod wedi llwyddo i gael sylw yna trodd ei het o gylch ei ben, gan barhau i waeddi. Yr oedd yr olwg arno o'r pellder yn debyg i un wedi darganfod tynell o aur, ac yn gorlawenhau o'i herwydd. Evan Jenkin. Ar Evan Jenkin y traethwn ychydig yn nesaf—un o'r dynion rhyfeddaf, mewn rhai ystyron, a welodd yr ysgrifenydd erioed. Gwr ychydig yn fsvy na chanolog, yn meddu gew- ynau cyffelyb i ewynau llew. Yr oedd yn weithiwr tanddaearol difaeddu. Yr oedd pawb yn argyhoeddedig yn y Ile y cyHawnai yn hawdd gymaint o waith a dau ddyn gweddol dda fel gweithiwr. Ar ryw adeg o sefyll allan yn nglofa'r Dinas aeth Evan tua Dowlais i weithio. Yn mhen ychydig amser tofynodd rhai o'i gydweithwyr iddo a wnelai efe gystadlu mewn tyllu a Chor- nishman ag oedd wedi bod yn eu gwarthruddo am dymhor maith. Atebodd yntau yn gadarn y gwnelai os cai chwareu teg. Dywedwyd wrtho am beidio gofalu dim am hyny. Pen- odwyd dechreu y mis i fod yn ddiwrnod y gystadleuaeth. Anfonwyd at Goliath i ddweyd wrtho fod dyn wedi ei gael i foddloni ymgys- tadlu ag ef mewn tyllu. Dywedodd yntau y deuai pryd y mynent, a hyny gyda phleser mawr. Gwawriodd y boreu, ac yr oedd pob peth yn barod. Gwelwyd canoedd o d dynion yn cael eu gollwng i lawr i'r pwll i weled yr ymdrechfa. Wedi dyfod yr eiliad benodol, dechremryd. Yr oedd gan y Cornishman ddwy fantais ar Evan medrai ddefnyddio yr ordd a'r llaw chwith yn gystal a'r ddeheu, yr hyn na allai Evan. Hefyd gofalodd gyfeirio ei dwll ar i fyny, fel yr oedd y blawd yn rhedeg allan yn rhwydd ond yr oedd Evan a'i gyfeiriad i ryw raddau tuag i lawr. Er hyny yr oedd gan Clapars, fel y gelwid Evan, yn ei gartref, ddigon o flaen arno yn yr ym- drechfa ac wedi hyny y wlad a gafodd lonydd. Nid oedd garwach cymeriad na'r Clapars yn y gymydogaeth. Yr oedd yn arfer iaith eith- afoi o ddychrynllyd yr adeg hono o'i fywyd, ond cyn cliwead ei oes cymerodd cyfnewidiad trwyadl le yn ei hanes. Daeth ei dduwioldeb diamheuol yn destyn siarad cyffredinol yr ardal. Profai yn eglur i'w gydweithwyr ei fod yn cashau pechod. Un tro, pan y galwyd ef at dwr o honynt i ystyried rhywbeth perthynol iddynt mewn cysylltiad a'r gwaith, pan glywodd rhai o hon- ynt yn rhegu—" Wei, fechgyn," meddai, os na ellir siarad ar y mater heb y rhegfeydd yma, dyma fi yn myn'd yn ol at fy ngwaitli." Rhoddwyd i fyny y rhegu ar unwaith. Twm Evan Shinkin. Y nesaf oedd brawd Evan Jenkin, a adna- byddwyd wrth yr enw Twm Evan Shinkin. Yr oedd Twm yn fwy pwyllog na'i frawd, ond yn gymeriad mwy niweidiol i gymdeithas o lawer. Yr oedd mewn rhai cyfeiriadau yn dalentog iawn. Rhoddwn i lawr rhai o'i ys- tranciau talentog, gan obeithio na bydd i neb a'u darlleno eu hoffi na chynyrclm eu bath. Flynyddau maith yn ol, pan oedd Twm ar daith, galwodd yn hen dafarn Glynogwy am beint o gwrw a phan welodd nad oedd ond efe ac un arall yn y ty, a'r wraig wedi myned allan, a llestr o ffiois wrth y tan, dywedodd wrth y dyeithr, "Ma' angan bwyd arno i; wetwch cli'i ddim os cymera' i gwpl o rai'n, gwnewch ch'i?" "Na na," meddai y dyn. "I chi'n siwr, oti ch'i?" "Otw," meddai y dyn. Yna dechreuodd Twm fwyta, a chafodd ddigon o amser i roddi o'r golwg agos yr oil. Daeth y wraig, a gwelodd fod y ffrois" wedi myn'd. Cododd ei dwylaw i fyny mewn syn- dod, a gofynodd yn wyllt iawn, Pwy sydd wedi bwyta'r ffrois' ?" Dywedodd Twm yn bwyllog iawn, "Ch'i welwch ma' dim ond y ni ein doi o'dd yn y ty fytas i ddim o nw, dofa?" "Naddo," meddai y dyn. Y ch'i sydd wedi eu bwyta, 'ta," meddai hithau, gan ymaflyd mewn ffon a dechreu mesur y dieuog ar draws ei gefn, a dywedir i Twmi ei chyn- orthwyo i daflu y gwr dyeithr dros y drws Medrai Twm daflu unrhyw fater dros y bwrdd yn dawel a phwyllog os gwelai fod rhywbeth ynddo yn debyg o dd'od yn ei erbyn ef. Rhyw foreu yn ngwaith Penygraig, gyda bod Twm yn dyfod ac yn eistedd gyda thwr o'i gydweithwyr i orphwys tipyn cyn ymwa- hanu pob un i'w le, gofynwyd iddo, "Twm, a welais di y Daily Leader y boreu yma?" Naddo i n welais yr hen Ddaily Leader." Daeth yr hen Daily Leader i'r golwg o rywgongl dywyll. Gan ofyn "Beth yw dy feddwl di, Twm, wrth yr hen Ddaily Leader ? atebodd Twm yn ddigon pwyllog, "Tyna fe i ti; I meddwl di beth a fynot ti." Cymeriad arall na welsom neb yn debyg iddo mewn dim braidd oedd John Williams (Shon Gwaun Adda). Gan wyd ef yn Nghwm Gwrach, yn ymyl Cwm Nedd, tua'r nwyddyn 1816. Daeth i Gwm Rhondda yn saith oed. Pan tua deugain oed yr oedd wedi trysori mwy o'r Ysgrythyrau yn ei gof na neb a ddarfu i ni adwaen erioed. Yr hyn y teimlir mwyaf o ddyddordeb yn ei gylch yw ei ddywediadau byrion, yn fwyaf neillduol ei atebion i gwestiynau a ofynwyd iddo o bryd i bryd. Gofynwyd iddo Beth oedd ystyr yr enw Gwaun Adda a oedd Adda wedi bod yn pres- wylio yno ?" Tebyg ei fod," meddai; mae rhai o'i blant ef yn byw yno'n awr." Cyfarfyddodd a dyn meddw ar yr heol ryw- bryd, yr hwn oedd yn cerdded yn dra anhrefn- us o'r naill ochr i'r lIall. Gwaeddodd ar Shon, Pam na cliadwch eich ochr, y dyn? Pa fodd y gallaf pan yr ydych chwi yn cadw y ddwy," meddai Shon. Pan yn gludydd llythyrau rhwng y Dinas a Pliontypridd gyda'i gert bach a'i fill, drwy ryw anffawd syrtliiodd y cert a'i gynwysiad a dau was Victoria dros lethr oedd ar ochr y ffordd i ddyryslwyn. Dygwyddodd rhywun ddyfod heibio ar y pryd. Shon, pa fodd yr aethochyna?" "Pa todd y mae dyfod oddi- yma yw'r peth pwysicaf yn awr," meddai Shon. Daeth un o fasnachAvyr y Bont ato, ac wedi gweled fod y cert bach agos yn llawn o wa- hanol bethau heblaw y llythyrau—" Shon," meddai, "yr ydych yn cludo rags and bones, mi welaf?" "Dim pob math; safweh etiwi draw," meddai. Dywedir i'r boneddwr ddyfod ato yn mhen rhyw dymhor wedi hyny a dweyd dw jr un peth. "Ydwyf, ydwyf; neidiwch i fewn," oedd yr atebiad y tro hwn. Arferai rhyw ferch ieiiam ddyfod i lythyrdy y Bont gyda chysondeb am lythyrau a phapyrau i'w meistr, yr hon oedd yn hoff iawn o gyfarch Shon gyda'r frawddeg garwriaethol, Shwd i chi, Shon, fy nghariad i?" Wedi pallu o'i amynedd, trodd at ei gydswyddogion a dy- wedodd, Nid yw'r gwew byth yn newid ei y chan, oblegid dim ond un sydd ganddi." Par- odd hyn iddi edrych fel dallhuan. Ar ei waith yn cyflwyno llythyr glas mawr i wraig yn yr un lie, gofynodd os oedd ryw- faint i dalu. Dim tufas tebyg fod rhywbeth tufewn oedd yr atebiad. Cafodd yr hen bererin gryn lawer o'i boeni gan gwn ar hyd yr ardal. Peidiwch ofni'r ci; y mae yn hollol ddiniwed," meddai un wrtho. Pan oedd fy llaw rhwng ei ddan- edd," meddai yr hen fiawd. Mewn man arall dywedwyd wrtho, "Ni raid i chwi ofni'r ci; ni chnodd neb erioed." "Feallai mai arnaf ti y mae yn meddwl de- chreu," atebodd Shon. Symudwyd ef i gylch arall, sef i wasanaethu rhwng Pontypridd a Llanfabon. Pan yn eyf- lwyno parcel i dafarn yn y lie olaf, gofynodd un ag oedd yn eistedd wrth ei beint yno iddo a welodd y diafol rywbryd. Atebodd yntau y ffol yn ol ei ffolineb, sef fel y canlyn Na welais i erioed o'r blaen, ond yr wyf yn medd- wl fy mod yn edrych yn ei wyneb yn awr," gan edrych yn gratF yn wyneb yr ynfytyn. Shon Evan Shenkin sydd yn curo drymaf wrth ddrws y cof yn awr. Dyn gweddol dal, main, teneu, melyn, a difarf eglog, a chanddo dafod difaeddu mewn ffraethineb. Ni chymerai y sylw lleiaf o ddim a ddywedasai ei wrthwynebydd mwy na phe buasai yn fyddar, ond daliai ef ati i wlawio cawodau o eiriau enllibus a gwatwarus ar ei ben ef, ac ni byddai byth yn fyr o'r cyfryw adnoddau. Teinilai ei wrthwynebydd nas gallai ddweyd dim a effeithiai ar Shon mwy na phe buasai yn curo'r awyr. Ni fedrai ddarllen gair ar lyfr, ac nid oedd am i neb wybod hyny. Yr oedd yn weithiwr caled ac yn awyddus i gasglu arian, yn benaf er mwyn y pleser a gaed drwydaynt yn chwareu rhan y gwr cyfoethog yn awr ac eil- waith. Pan yn gweithio, ymddangosai fel car- dotyn pen heol. Ar ol trysori o wyth i ddeg punt elai ar wibdaith ar y coach o dref i dref, a'i wisg y pryd hyn fel un o'r cyfoethogion pen-if yn y wlad. Pan yn eistedd yn yr ystafell oreu yn mhrif westdy Pontypridd, ac yn dal newyddiadur o'i flaen a hwnw a'i ymyl isaf yn uchaf, dywed- odd boneddwr wrtho Mae'ch papyr o chwith, syr." "Felly gwn, syr," meddau, "ond nid yw hyny yn gwneyd y gwahaniaeth lleiaf i mi, oblegid gwnaf yr un cystled ag ef y naill ffordd neu y llall." Yr oedd y newyddiaduron yn cynhwys llawer o luniau llongau, flynyddau maith yn ol. Darfu iddo ddweyd wrth foneddwr un tro fod llawer o longau newydd eu colli. Ni ddarfu i mi weled dim yn fy mliapyr am hyny," meddai'r gwr. Shon, a welwch chwi ddim o'r holl rhai hyn a'u gwaelodau i fyny," gan gyfeirio at ei bapyr oedd yn ei ddal o chwith. Priododd Shon yn weddol ieuanc, a rhoddodd hyny ben ar y gwibdeithio. t, Dafydd Lewis, Glyncoli. Yr oedd yn ddyn tal, yn enwedig.pan safai yn syth, ond yn anaml y digwyddai hyny. Trwsgl iawn ei. gerddediad, camai megys un yn mesur llatheni. Gwisgai yn ffermwraidd iawn, clos penlin, hosanau llwydlas, c6t fain ei chynffon ac yn weddol o hir. Pan fyddai Dafydd yn cerdded byddai hithau yn curo amser ar dewder ei goesau. Un o fechgyn yr un dalent oedd ef er hyny, yn meddu digon o hynodrwydd i gadw ei enw yn fy w am amser maith yn ddiamheu. Bu lawer gwaith yn cyrchu y gwyddau o'r cae llafur ond un tro, gosododd ei dalent ef ar waith i'w rwystro i droseddu ar ol hyny. Mewn byr amser rhoddodd ei gynllun mewn gweithrediad. Aeth a'r newydd i'w fam wedi cyrhaedd y ty. "W el, Dafydd a gefaist di nw allan," meddai ei fain. Do," meddai yntau, Rhw i wedi spario'u sport nw i fyn'd 030 byth eto li laddas yr hen glacwydd, ti a stwffas a i'r twll." Yn y fath amgylcliiad, anhawdd ydyw dychmygu teimlad y fam. Gofynwyd iddo a oedd yn gwybod pwy oedd ei dad. Dywedodd ei fod yn eithaf sicr, ond nad oedd yn sicr o'i fam. Er ei fod wedi awgrymu ei fod yn ymladdwr, nis gallwn feddwl iddo wneyd llawer o niwed i neb yn y cyfeiriad hwnw, os na ddarfu iddo wneyd wrth sangu eu traed. Y dyddordeb mwyaf mewn cysylltiad a Dafydd oedd yn gynwysedig yn yr olwg arno. Anhawdd iawn i rai tueddol i chwerthin oedd dal heb wneyd hyny, hyd y nod yn ei wyneb. Dafydd Martin y Panwr. Efe osdd adeiladydd y felin ban yr hon oedd ar lan y nant Clydach, agos ar gyfer yr hen weitlifa wlan sydd wedi bod ar waith yn gyson hyd yn bresenol, sef am tua chan' mlynedd. Felly, Pandy bach Dafydd Martin oedd tad y Pandy mawr poblogaidd ac enwog pres- enol. Yr oedd Dafydd yn ysgolhaig, yn wr doeth, manwl, cyfarwydd yn neddfau ein gwlad, yn cael ei ystyried yn un o ben cynghorwyr y Cwm, yn gymwynaswr parod. Felly, gwnaetli lawer o ddaioni yn ei adeg. William Evan, Brenin y Ddinas. Yr unig frenin yn Europe ag y gwyddem am dano oedd yn byw wrth ei ddiwrnod gwaith. Nid oedd un amser yn ysgwyd ei deyrnwialen ond pan fyddo mewn diod. Yr oedd ganddo wraig swynwrol a doeth, medra lywodraethu pan yr oedd ef wedi methu, a hyny heb iddo weled un ymgais ynddi tuag at hyny. Morgan Dafydd, perchenog y tiroedd Graigddu o Gwaun Adda, oedd foneddwr ag iddo hanes dyddorol. Nis gellir yma ond rhoddi ychydig iawn o'i nod- weddion. Yr oedd yn ddyn o athrylith tu liwnt i'r cyflredin yn ei ddydd. Yr oedd yn llawn o'r dyfeisydd a'r peirianydd. Treuliodd rl y rhan fwyaf o'i oes i ddyfeisio gwelliantau, o'r hyn leiaf gwnaeth lawer cynyg teg at hyny. Pan yn dra ieuanc gwisgodd dwy adengwydd, ac a ddringodd i goeden uchel gan ymollwng i'r gwynt, ac nid oes raid dweyd beth fu'r can- lyniad. Nid yw prif beirianwyr yr oes oleu hon ddim pellach yn mlaen yn hyny o beth, er eu holl ymdrech a'u manteision. Nid oes neb wedi gallu ehedeg hyd hyn. Adeiladodd ddwy felin yd ar ei dir, un pan yn ieuanc, a'r llall pan yn bedwar ugain oed. Yr oedd Morgan i wr tyner iawn is gallasai wel'd neb yn dioddef angen. Hedd- wch i'w lwch. Noah Morgan, Ty yn y Cymmer, oedd gymeriad rhyfedd iawn. Gwr lluniaidd golygus, bob amser yn ymddangos yn lan- waith. Er ei fod yn gyfoethog, yr oedd yn hollol syml o ran ei wisg. Clos penlin o bali gwyrdd tywyll, hosanau gwlan llwydlas, ac es- gidiau isel.
Eisteddfod Cilfynydd.
Eisteddfod Cilfynydd. Cynaliwyd yn y Workman's Hall ddydd Nadolig. Llywydd, Y Parch. M. Williams; Arweinydd am y dydd, Phillip Jones, Ysw., M.E. Beirniaid—y Gerddoriaeth, Mr John Thomas, Ferndale y Traethodau, y Farddon- iaeth, &c., Mr J. Rees (Nathan Wyn); Cyfeil- ydd, Mr J. Jenkins, Cilfynydd. Agorodd y LIywydd y gweithrediadau mewn araeth fer yna can gan Mr Edward Francis adrodd "Hen Feibl mawr fy mam," H. Jones, Cilfynydd darllen ar y pryd, Joseph Evans, Abercynon canu "Awelon fy Ngwlad," Susie Davies, Cilfynydd; englyn, "Y Beibl," Gwyddonfryn Price, Merthyr; adrodd "Yr Eliphant medrus," Cassie Evans, Trebanog; adrodd Yr Ysgol Sabbothol," goreu Brenyg; c6r y plant, neb yn cystadlu. Cyfarfod yr Hwyr Araeth gan yr Arwein- ydd can agoriadol beirniadaeth y penillion ar y "Gweddnewidiad," goreu, y Parch. L. 1 9 Rhystyd Davies, Brynamai]; araeth ddifyfyr, W. Williams, Cilfynydd solo tenor, dim cystadleuaeth desgrilio gAvrthddrych heb ei enwi, W. Hughes, Cilfynydd marwnad y diweddar Barch. Stephen Lewis, cyd-fuddugol J. G. Davies, Troedyrhiw, a Gwyddonfryn Price, Merthyr; solo baritone, John Pugh, Cilfynydd; Ymson Judas wrth ddychwelyd yr arian," M. A. Williams, Penrhiwceibr; englynion i Mr P. Jones fel Arweinydd yr Eisteddfod, Parch. L. R. Davies; yr araeth, cyd-fuddugol W. Williams a W. Hughes; traethawd, "Hanfodion Cymeriad Da," J. Davies, Cilfynydd y gystadleuaeth gorawl, Y Blodeuyn Olaf," edr y lie. Dygwyd weithrediadau y dydd i derfyniad heddychlon a boddhaol iawn trwy ganu "Hen .y Wlad fy Nhadau," Mr Edward Francis yn canu yr unawd a'r gynulleidfa yn uno yn y cydgan.
Marwolaeth yn America.
Marwolaeth yn America. (O'r Drych.) Awst 3, 1899, yn 29 mlwydd oed, y chwaer anwyl Mrs. Polly Jones, anwyl briod James Jones, Providence, Scranton, Pa.. Ddaethant i'r wlad hon yn 1898 o Clydach Vale, Cwm Rhondda ac mae rhai perthynasau iddynt yma yn bresenol. Cafodd ein chwaer gystudd liir, blin, a phoenus, ond er fod y dyn oddi- allan yn pallu yn ddyddiol, yr oedd y dyn oddimewn yn cryfhau o hyd. Yr oedd yn ei ddyddian olaf fel pe yn addfedu i farw. Dyoddefodd yr oil yn amyneddgar, ac yr oedd yn gallu dweyd yn ei lioriau olaf ei bod: yn foddlawn i ewyllys Duw. Hunodd yn yr angeu yn gryf, gan adael priod a thri o rai bychain ar ei ol. Clnd wyd ei rhan farwol i gladdfa Hyde Park, y Parch. George Hague o Olyphant yn gweinyddu. Coffadwriaeth a anwylir, Sydd i hon o rinwedd pur, 01 ei throed mewn parch a gedwir, Pery 'i hanes byth yn glir Er i fywyd Pollic fachlud, Dros ysgwyddau tal y bryn, Ei chymeriad sy'n dysgleirio, N i rachluda 'i henw gwyn. CRUGLAS.
[No title]
Y mae yma un peth ag yr ydwyf fi yn methu ei ddeall o gwbl." Beth yw hyny ?" Sut y mae rhoddi modrwy ar dry dydd bys dynes yn dy isod di o dan ei bawd byth wed'yn 1" i
Advertising
YOUR ORDERS « « « « « AND KIND RECOMMENDATION Are respectfully solicited by EVANS & SHORT (The Printers of this Paper), GENERAL PRINTERS, BOOKBINDERS, and COMMERCIAL STATIONERS De Winton Street, TONYPANDY. PREMISES AGAIN ENLARGED A LINOTYPE MACHINE RECENTLY ERECTED! (The Only One in the Valley). Quality of Work admitted HARD TO BEAT. E. & S. have to thank those customers whose work have been delayed, for their indulgence, but now since the recent additions to plant and working space, they will be better able to cope with tlieir increasing business, and remove any cause of complaint in this direction. bookwork of Eueru Descriptian. « A- qhzw m t Old Notation and Solft Printing. Posters of every size and colour. Cards for Concerts. Lectures, &c., &c. Pay and Draw Tickets. Dance Cards and Invitations. Soiree, Banquet, Supper, &c. Cards. Contribution Cards, Books, and Circulars. In fact, they do everything on the Premises that conies within the category of General Printing and Bookbinding. ESTIMATES FREE. 63a THOS. FORREST & SONS, (Established 1861), The Old Established Photographers, CAMBRIAN STUDIO, 14, MARKET STREET, PONTYPRIDD. 7 THOMAS WILLIAMS, Town Crier and Bill Distributor, 150, High St., TREORCHY. Sales, &c., cried in English and Welsh. Handbills and Window Bills distributed at Moderate Charges in any part of the Valleys. 54 d. BROOKS, WHOLESALE TOBACCONIST & HAIRDRESSER, Opposite Post Office, AND 12, DUNRAYEN STREET, TONYPANDY. Ladies' Combings made up into Tails, Coils, Fringes, &c., 1/6 per oz. Quantities cheaper. A large assortment of Pipes, Pouches, Walking Sticks and Ornaments. Useful Articles for Christmas IN GREAT VARIETY. Try our Loose Tobaccos-Cheaper and Better than Packet Tobacco. 13 A choice selection of Seasonable Goods for Christmas. LOUGHOR & Co., Family Grocers & Drapers, TOP SHOP, YNYSHIR. Wiltshire Bacon always in stock. Our Speciality TEA, 1/7 per lb. TRY IT 23 W. H. EVANS & SONS, TOWN CRIERS & BILL DISTRIBUTORS. !Bills and Circulars thoroughly distributed throughout the Rhondda Valleys at a Moderate Price. Wtt Sales, &c., cried in English and Welsh. References upon application from the leading Tradesmen of the Valleys and Districts. 7, DANIEL'S ROW, TREALAW. 36 .Ask for THOMASSON'S AB C INDEX RAILWAY GUIDE Enlarged and Improved. 1 d. monthly. i Sold at all Booking Offices and Railway Bookstalls and by Newsagents. A First-Class Advertising Medium For Terms apply at- IPublishing Offices: 28, St. MARY STREET, CARDIFF. 59 IESTABLISHED OVER 35 YEARS. P. HALEWOOD THE NOTED WELSH BOOT MANUFACTURER ABERDARE. ;RETAIL BRANCHES — YSTRAD-Station Row. MARDY-Mardy Road. PONTYPRIDD—59, Taff Street. MOUNTAIN ASH-Market Square. ABERDARE-31, Cannon Street. and at CARDIFF and MERTHYR. Try Halewood's own make Working Boots at 6/11 per pair. Cannot be beaten in the Principality. CLOGGING & REPAIRING done on the Premises t 72 Teeth. Teeth. Artificial Teeth. A REVOLUTION 1 Hitherto the wage-earning public have been debarred by the high prices asked for Arti- ficial Teeth, but the WELSH NATIONAL ARTIFICIAL TEETH CO. 32, TAFF ST., PONTYPRIDD, Have revolutionized this, and FIRST-CLASS WORK can be obtained from them at the Sir LOWEST POSSIBLE FEES. Partial Sets of Teeth from 2/6 per Tooth. Complete Sets of Teeth from 21/- 5 years' written Guarantee with each set. These Teeth have gained over 30 Prize Medals and are unsurpassed for masticating, speak- ing, and natural appearance. Write for Pamphlet and Scale of Fees. CONSULTATIONS FREE, and no charge for Extractions when Artificial Teeth are ordered. £ 3" Only Establishment of this kind in South Wales using Steam and Electric Power. We do not bargain with you; tell us what you want and we will do it. NOTE THE ADDRESS — The Welsh National Artificial Teeth Co., 32, TAFF STREET, PONTYPRIDD (Opposite the Tredegar Arms). 49 THE GENERAL ACCIDENT ASSURANCE CORPORATION, Ltd. Capital 2230,000. Established 1885. CHIEF OFFICES- 42-44, Tay St., Perth, E.C. 115-117, Cannon St., London, E.C. COMBINED ACCIDENT & DISEASE INSURANCE. Policies issued covering death, Disablement resulting from ACCIDENTS OF ANY KIND, together with Weekly Allowances whilst Temporarily Disabled by SMALL-POX, TYPHOID TY- PHUS, SCARLET FEVER, DIPHTHERIA, or MEASLES: an ANNUITY; and DOUBLE the usual Compensation, should death or injury be caused by Railway Accident. FO R 9.2 S,1000 POLICY PER ANNUM. WORKMEN'S COMPENSATION. Assurances at low non-tariff rates. BURGLARY INSURANCE. Rates from Is. 6d. per £100, where total contents are insured, CYCLE INSURANCE. Policies issued covering Accidental damage to machine loss by Fire, Burglary, and Theft WHOLE-LIFE RAILWAY & TRAMWAY ACCIDENT INSURANCE. Policies issued at a small SINGLE premium covering these risks in any part of the world. Prospectus for any of these branches of business for- warded on application to- Cardiff Branch: Quay St. Chambers, St. Mary Street. Liberal Terms offered to Agents. APPLICATION INVITED. 33 ESTABX.fSH-EO IN- twao; y For the PROTECTION of TRADE. STUBBS' MERCANTILE OFFICES, (STUBBS", Ltd.) 42, GRESHAM ST., LONDON, E.G. Subscribers, by obtaining timely information through THE STATUS ENQUIRY DEPARTMENT MAY AVOID MAKING BAD DEBTS. EVERY TRADER SHOULD READ STUBBS' WEEKLY GAZETTE, With which is issued a Supplement containin LISTS OF CREDITORS UNDER ALL THE IMPORTANT FAILURES. THE COMMERCIAL REGISTERS CONTAIN MORE THAN NINE MILLION ENTRIES. DEBTS RECOVERED PROMPTLY and remitted to Subscribers on TUESDAY and FRIDAY in each week. BRANCHES at Aberdeen, Birmingham, Blackburn, Bradford, Brighton, Bristol, Belfast, Cardiff, Cork, Croy- don, Dublin, Dundee, Edinburgh, Exeter, Glasgow, Huddersfleld, Hull, Leeds, Leicester, Liverpool, London (West End), Manchester, Newcastle, Norwich, Notting- ham, Plymouth, Portsmouth, Sheffield, Southampton, Sunderland, Swansea, Wolverampton. SUB-OFFICES. Buxton, Cambridge, Derby, Dumfries Gloucester, Greenock, Grimsby, Halifax, Hanley, Inver- ness, Ipswich, Limerick, Londonderry, Middlesboro', Newport (Mori.), Northampton, Oxford, Perth, Preston, Reading, Stockton-on-Tees, Torquay, Walsall, Waterford, Worcester, York. TERMS.el is., Z2 2s., £3 3s., £ 5 5s., according to requirements. PROSPECTUS forwarded on application to any of the above Offices. 34 Take Life Easy AND WE'LL Get rid of your Corns There are probably no such little discomforts that so easily beset the even tenour of our en- joyments as CORNS. They worry our patience They upset our temper They sting our toes They stop our exercise They spoil our pleasures They magnify all our troubles MUNDAY'S VIRIDINE (Registered Trade Mark) Will rid you of these torments and bring you peace of mind and freedom from all thoughts of such things as CORNS VIRIDINE Kills the oldest CORNS. VIRIDINE Stops the growing of CORNS. VIRIDINE completely eradicates CORNS. It goes to the roots and kills without pain. No caustic to burn-nothingto irritate the skin. SAFE, SURE, AND SPEEDY CURE! In Bottles, 1/- post free. J. MUNDAY, Chemist, 1, HIGH STREET, CARDIFF 57 Printed for the Proprietors, The Rhondda Leader," Limited, by Evans and Short, at their Printing Works, De Win- ton Street, Tonypandy, and published by William David Jones, at 15, De Winton :Street, Tonypandy, in the County of Glwn.