Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
GOLYGYDD- J. REES (Nathan Wyn), Ystrad-Rhondda. Pob Gohebiaethau, Barddoniaeth, &c., i'w cyfeirio i'r Golygydd.
,> AT Y BEIRDD. ,-
> AT Y BEIRDD. ENGLYN AR-GADEIRIAD SYMLOO.—G welwn fod enw bardd o gryn n6d, a phwysigrwydd, wrth yr englyn. Adwaenom yr Awdwr a'r gwrthddrych yn dda, ac er mwyn pob un o'r ddau, gwell genym beidio eyhoeddi hwn fel ac y mae gan na fyddai iddo adlewyrchu rhyw lawer o glod i'r naill iia'r Hall o honynt. Cynwysa y linell flaenaf y bai a elwir camosodiad," ac felly heb gymaint a rhith o gynghanedd ynddi. Gwanaidd iawn yw eynghaneddiad y "Cyrch" hefyd, bron rhy wan i anadlu. Yn dy gadair, godidog—yw aw en Dy fywyd di—Symlog." Os cawn yr englyn etc yn ei ffurf ddiwyg. iedig, bydd yn bleser genym ei gyhoeddi. AUR.-Dywed y ddiareb mai Nid aur yw pob peth sy'n dysgleirio." Nage, ond y mae dysglaerdeb yr englyn hwn yn profi ei fod yn aur mewn gwirionedd. Y GAUAF.—Canig dda ac amserol iawn; yr ydym yn hoffi cael pob peth yn ei dymhor priodol ei hun. TEULUBACH BETHANIA.-Ie, tenlu bychan dedwydd ydoedd hwnw yn ddiau ac y mae y penillion hyn yn nodweddiadol ddigon o hono—yn syml, liapus, ac i fesur o dan yr un eneiniad. —x— Yr ydym yn anfon i'r Swyddfa :—William Edwards, Briallydd, John Griffiths. Eisteddfod Cilfynydd. Dymunir cydnabod derbyniad y Cyfan- soddiadau canlynol, ar gyfer Eisteddfod Workman's Hall, Cilfynydd, Dydd Nadolig:- 0 MARWNAD Y DIWEDDAR BARCH. STEPHEN LEWIS.—Hynafgwr, Glan yr Afon, Gwlith y Betid, Gwlith Mernion, Deigryn Hiraeth, Galar y byw ar glawr y bedd, Un o Blant y Tonau, a Dan y Gwlith.-8. Y GWEDDNEWIDIAD.—Llanydd, loan (1) loan (2,) Gwyliwr, Pedr, Disgybl, Pedros, a Disgybl Anwyl.-8. DAU ENGLYN I'R ARWEINYDD, MR. PHILLIP JONES.—Hen was, Min yr Hwyr, Hen Lowr, Glowr Ieuanc, Cymydog, Mwnwr, Shon, Parch, Henffych Weil, Cydwas, lolo, a Dafydd.—13. Y BEIBL.-Dafydd, Beza, loan, Edmygydd, (1), Edmygydd (2), Hoffo liono, Homer, Nath, Gwael Fwnwro Gilfynydd,Orthodox,Joubert, Ifan, Asaph, Arthur, Myfyriwr, Biblos, Llyfr y Llyfrau, Cato, Mab y Breintiaa, Dowror Jones, Eiddil, ac Efrydydd.-22. CYMERIAD DA.—Ofnus. 1. Yr eiddoch, NATHAN WYN.
'--Barfcfconiaetb.
Barfcfconiaetb. Y Gauaf. Rhyw swn dieithriol sy'n mhob man, Mae anian fel pe'n liuno, Yn bruddaidd iawn dan fantell ddu Prydferthwch sy'n ymguddio; Fe syrthia'r dail a'r blodau fu Yn gwenu yn y gwanwyn. Mae tlysni anian,—harddwch Haf, Yn medd y gauaf geirwin. Y gauaf yw mae'r swynioti fu Yn cefnn am y cynta, Os na chanfyddir ar y ddol Y swynol ddeilen ola'- Mac natur oll-fel Duw ei hun, Yr un mor gysegredig, Dan bruddaicld leni'r gauaf du Mae tlysni nef-anedig. Y corwynt ddaw dros fryn a ddl Yn nerthol i ddifetha, Rhyw seiniau lleddf sy'n lie y lion,— Awelon sy'n cweryla; Yn dyner mae yr eira çwyn Yn disgyn oadiuchou, Mae'n hardd a thlws ar balmant byd, A rhew yn cydgyfarfod. Y gauaf oer mae swn ei droed Erioed yn peri dychryn, Ei awel lem, a'i hvydrew gwyn Fel niwl y glyn i'r dyffryn Telynau natur sydd yn fudt. A'r tannan wedi rliewi, Distawodd rhan o gorawd lor Pan dawodd cor y llwyni. Mae nant y mynydd ar ei thaith Yn sibrwd iaith ddieithriol, A'r mor yn poeri'n wyllt ei wedd I ddanedd creigiau oesol Mae'r tonau'r mor fel tonau'r glyn,- Yn ddychryn ar adegau, Daw ambell 'storm i awyr byd I siglo cryd gofidiau. • Mae'r la fel tlysion berlau glan Yn hongian ar y creigiau, Afonydd sydd a rhewog dô Yn cuddio'r gloewon lirydiau Os cuddiw yd tegwch anian d los Dan brtiddaidd nos gysgodion, Amlygir drwy y gauaf gwyw Sylweddau byw o swynion. BRIALLYDD. Teulu Bach Bethania. Yn nhawel dref Bethania Y triaai teulu mad— Dedwyddaf yn ddiameu o fewn i gyrau'r wlad Dedwyddwch hwn a darddai 0 non Cariad pur- Y eariad a rydd gysur Y inhob ryw boen a chur. Nid oedd i'r teulu bychan Amddiffyn tad a mam, I gadw draw o'r aclwyd Bob cynen a phob cam Ond er yr anfanteision, Nodweddid hwn trwy'r dref Fel teulu bach a ddenodd Serchiadau Llywydd Nef. Cael ar yr Iesu, A dilyn ol Ei draed, I'r dirion Mair oedd hyfryd, A'r fendith fwyaf gaed Tra Martha, or-urafterthus Yngylch y bywyd hwn, Ganfyddir yn lied fynych 0 dan rhy w ddirfawi bwn. Tirionach brawd na Lazarus Ni welwyd ar y llawr, Sirioldeb ar ei wyneb A wenai fel y wawr. Cariadlawn a lletgar I'r Iesu fu y tri, Nes dwyn i ran y teulu Anrhydedd, parch, a bri. Yn nghanol eu llawenydd Daeth angeu ar ei rawd Gwnaeth ddifrod yn y teulu Drwy ddwyn eu hanwyl frawd. 'R amgylchiad hyn fu'n fantais I'r lesu-Brenin Hedd I brofi 'i ddwyfol allu Ar angeu cas a'r bedd. Mawr gariad at yr Iesu, A hoffder at Ei Dad, Fu nodwedd holl deuluoedd 0 fewn i Gymru fad Fel yn y tragwyddol fyd C&nt uno yn y gan A genir i'r Gwaredwr Gan deulu'r Wynfa lan. Ysgoldy'r Biordd, WILLIAM EDWARDS. Tylorstown. Gwendid fy Nghalon. Fy Nghalon sydd mor wan, Bron methu euro, A mwy nid oes i'm rhan, Ond dwfn o'chneidio; Am nad oes modd imi, Ei hadgyfnerthu hi, Fel gallwyf fyw mewn bri Ychydig eto. Mae effaith dwfn ei loe9 Trwy'm cyfansoddiad, Yn eglur ddweyd nad oes I mi adferiad Rwy'n ofni o awr i awr, Mae sydyn syrthio 'i lawr, Cyn delo'r Meddyg mawr, Fydd y canlyniad. Mae lluaws yn y bedd O'm cydfforddolion, A dorwyd lawr gan gledd Hen glwyf y galon; 'Rhyn fu eu haogau hwy, A'm herys inau mwy; Ni cheir gwellhad i'm clwy' Gan y ni'ddygon. Fy unig gysur yw, Cyn r'af i huno, Rwy'n credu gair Mab Duw, Y daw i'm aeffro A llwyr wellhau fy nglwy', Na theimlaf ddim yn hwy Frathiadan angan drwy Fy mron yn rhwygo. PHYLIB Y SAER. Aur. Duw'r byd hwn, yn grwn o'i gryd-ydyw aur Gyda'i oeraidd ysbryd 0 Tad holl ddrygau beiau'r byd, A ehyfailllled wych hefyd. JOHN GRIFFITH. Y Fam. (Biiddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1899.) Benyw dda yn byw'n ddinvyd-yw y Fam, I fy hil, rhydd fywyd I'w th^'n haul—ddoeth anwylyd, A thros bawb, athrawes byd. NATHAN WYN.
Y diweddar Mr. T. E. Ellis.
Y diweddar Mr. T. E. Ellis. Genedigaeth Mab Ol-anedig. Boreu dydd Mawrth rhoddodd gweddw y diweddar Mr T. E. Ellis enedigaeth i fab yn Cowley Street, Westminster. Dilys genym hysbysu fod y fam a.'r plentyh yn gwneyd yn rhagorol. Gobeithio y ca y fam y pleser a'r anrhydedd o feithrin ei mab bychan yn yr un ffyrdd a'i dad, fel y byddo yn olynydd teilwng iddo. Diau y bydd y weddw a adawyd mor unig yn derbyn cysur oddiwrth y ffaith, ac yn awr yn cael rhywbeth a dyna ei sylw oddiwrth y marw at y byw.
LLOFFION.
LLOFFION. Y mae gyrwyr yr agerbeirianau yn ngweith- iau yr Upper Forest a Worcester, Treforris, wedi cael codiad o 58 yr wythnos yn eu cyf- logau. Yn y Deheu cawsom eira o amryw fodfeddi o drwch tua chanol yr wythnos, a dilyn(,dd rhew caIed. Hysbysir fod y glo a werthir yn awr yn Petermaritzburg yn costio £ 6 y dunell Y mae General Yule, arwr Dundee a Lady- smith, yn gorfod dychwelyd adref yn herwydd afiechyd, Y mae rheilffordd y G.W.R. yn rhedeg trens cyflens i Sir Gaer a Sir Aberteifi o Sir Forgan- wg ar foren Sul nesaf, Rha^fyr 24ain, y rhai a fyddant o fantais i luaws ddewisant dreulio eu Nadolig gartref. Cafodd unig fab y Cadfridog Arghvydd Roberts ei ladd yn y frwydr yn Aftrica yr wythnos ddiweddaf. Y mae Arglwydd Kitchener i fyned allan i faes y rhyfel gydag Arglwydd Roberts—yr olaf i gyaieryd lie Buller fel prif gadlywydd. Wythnos oeraf y gauaf presenol ydoedd yr wythnos ddiweddaf, a bu yn foddion i atal canoodd o ddynion rhag gweithio yn ngwa- hanol ranau o'r wlad. Wythnos yn ol daeth pellebryno Kimberley yn hysbysu fod gan ein mihvyr ddigon o ym- borth i ddal allan am 40 o ddyddiau eto. Cafodd llinell v Cambrian, rhwng Gwrecsam ac Ellesntere, ei hatal yn Hwyr ddydd Mercher yn herwydd y rhew a'r eira. Deallwn fod 50,000 ereill o fihvyr i fyned allan i'r maes, ac fod cynygion y Militia a'r Gwirfoddolwyr i fyned allan yn cael eu der- byn gan y Swyddfa Rhyfel. Methir cael cyfrif cywir o golledion y Boers yn y brwydrau, ond daw rhai adroddiadau i law fod nifer y rhai sydd wedi cael eu lladd hyd yn hyn yn ddychrynfawr. Ein colledigion yn gyfangwbl, rhwng y 0 Uaddedigiou, y clwyfedigion, a'r carcharorion o ddechreu y rhyfel yw 7,670. |
Eisteddfod Flynyddol Trerhondda…
Eisteddfod Flynyddol Trerhondda Ferndale, Nadolig, 1899. AT OLYGYDD Y "LEADER." Daeth y cyfansoddiadau yn dwyn y ffug- enwau cenlynol i law yn brydlon Traethawd, I I Cy!alaf a LJafur "-Gwilym. Gosteg o englynion "I'r diweddar James Griffiths Prudd, Adgof, Shon o'r Cupel, a Llais o'r lie. Tair o Ffraethebion—Dafydd y Gwas, Englyn, Ti-ydaniaetli Gauafwr, Ap Franklyn, Gwyddon, a Dafydd ap Gwilym. Yr eiddoch, gan ddynmno Nadolig llawen i bob un, WATCYN WYN,
Advertising
TT1HE man who does not advertise is no- J_ where, and that individual will soon need advertising for. The Rev. C. H. Spurgeon.
Hen Cymeriadau Hyqod Cwm ondda.
Hen Cymeriadau Hyqod Cwm ondda. II.—GAN HEN BRESWYLYDD. [Rhanwyd y wobr rhwng tri; cyhoeddir y tair ysgrif yn y Rhoiidda Leader."] (Parhad.) Dafydd Evans. Mae yn rhaid eto adael Llewellyn fel y lleill, gan symud yn mlaen at ereill, oblegid y mae amryw yn em bryd i'w cael i mewn i'r rhestr eto. Y nesaf ddaw o dan sylw fydd Dafydd Evans y soniwyd am dano. Heblaw fod Da- fydd yn weliydd rhagorol, yr oedd fel cerddor o flaen mwyafrif ei oes. Yr oedd yn ganwr, yn arweinydd, ac yn gyfansoddwr rhagorol. O ran ei enwaeth, yr oedd y tebycaf a wydd- em am dano i Ieuan Gwyllt. Pan ddaeth llyfr tonau y diwygiwr mawr hwnw allan, yr oedd wedi cael yr hyn y bu yn sychedu am dano er ys blviiyddau. Nid oedd efe yn wr siaradus, ond i'r gwrthwyneb yn hollol; eithr wedi dyfodiad y llyfr allan bu agos iawn iddo enill iddo ei hun y cymeriad o ddyn siaradus, oblegid canmolai y tonau wrth bawb ag y delai i gyffyrddiad a hwynt, yn enwedig y dosbarth ag oedd yn ymwneyd rhywbeth a chanu cynulleidfaol. Gadawn Dafydd yn awr fel cerddor, a dy. chwelwn i ddweyd gair yn fyr ar y mater hwn eto. Yr oedd Dafydd ambell waith yn ddigrifol, yn bwyllog fach, yn enwedig pan yn ymwneyd a'r ddiod feddwol; orid y mae yn ddrwg genym orfod coffliau hyn am dano. Rhywbryd, yn y Star, Gellidawel, yr oedd yno offeiriad wedi ymlenwi gymaint o'r diodydd meddwol nes iddo gamgymeryd y ffordd allan —cynygiodd y ffenestr yn lle'r drws. Wrth weled hyny galwodd Dafydd aylw y gwydd- fodolion at y peth yn y fath fodd fel y tynodd sylw pawb. O wel, wel," meddai, "dyrua beth rhyfedd Offeiriad y plwyf yn ceisio myned allan drwy y ffenestr !Dywedodd yr un ymadrodd lawer gwaith, nes gwneyd i'r person edrych fel hurtyn. Dro arall, i'r dyben o dalu'r pwyth i'r offeiriad yn ei goin ei hun, gwahoddodd ef i'w dy i gael ychydig o chat, fel y dywedir. Daeth y boneddwr at yr adeg penodedig. Wedi ymddyddan ond ychydig fynydau dy wedodd Dafydd wrtho. Dyna yn awr, Mr W "ellweli fyn'd; nid oes arnaf eisieu eich cwmnt yn hwy." Dro arall, pan wrth ei beint yn nhafarn y Pandy, ac yn gweled un o'i gyfeillion yn dyfod i lawr o'r llofft, galwodd arno wrth ei enw, a dy wed- odd, Dyma lle'r wyf fi yn prynu cwrw "— gnir ag ynddo eilon'd o gymhorth i chwerthin. Enoc Evans. Yr oedd gan John Evans y gwehydd a Martha ei wraig chwech o blant heblaw Daf- ydd—dwy jferch a phedwar mab, sef John, Thomas, Enoc, William, a Martha—nisgwydd- om enw y ferch arall. Yr oeddynt yn wehydd- ion oil ond y merched. Yr oedd Thomas yn fedrus ar o chwibanogl; ceisiodd Enoc fyned yn fardd. Galwodd William ato rywbryd, pan oeddynt yn byw yn Llantrisant, a dywed- odd wrtho, Y mae genyf ddarn o farddon- iaeth wedi ei gyfansoddi." "Beth yw y tes- tyn?" gofynai William. "0 ar Morgan yr heliwr—Mog o'r Gweira," meddai, "athyma fe:— Yr enwog Mog o'r Gweira A aeth i hela catha, Yr ochor hyn i Bont y Cai Fe welodd lai o gorda. "WeI," meddai William, ni ganiatawn fod Mog wedi bod yn hela catha; yr wyf yn methu a deall beth a feddylir wrth yr ymad- rodd, Fe welodd lai o gorda. "Ond bardd- oniaeth, bachgen," oedd yr eglurhad a rodd. odd Enoc. Cyn hir wedi symud i weithfa wlan y Pandy, dechreuodd Enoc ar y gwaith o ddifyru ei gymydogion newydd drwy arddangosfa oedd wedi ymgyfarwyddo ynddi yn hynod o fanwl, sef y Broken Bridge." Dau beth arall yn unig a ddywedwn am dano. Yr oedd ef a dau o'i frodyr yn rhod- iana ar gae cut, bychan a thrionglog ar bryd- nawn teg. Dywedodd Enoc wrthynt, "Y mae ysgyfarnog yn y gongl o'n blaen, ac ni a'i daliwn hi ond i chwi wneyd yn ol fy nghyfar- wyddyd. Symud di, Thomas, rhyw ddeg Hath i fy ochr ddeheu, a thithau, William, yr un modd i'r chwith; a phan welwch hi yn redeg tuag atom nesewch yn ol ataf fi, oblegid tua'r canol y daw hi." Felly y gwnaechant, a rhedodd y creadur bychan yn union i freichiau Enoc. Dro arall yr oedd yn dychwelyd adref yn t unig yn hwyr o rywle a dwy esgid o dan ei gesail, ac yr oedd yn rhaid croesi'r afon mewn rhyw fan. Collodd un o'r esgidiau i'r afon, ac am ei bod yn tywyllu'r nos ni wnaeth ym- holiad yn ei chylch hyd y boreu canlynol. Cododd yn foreu tranoeth, ymaflodd yn yr esgid ddiangol, ac ymaith ag ef ac un o'i frodyr gydag ef; ac wedi cyrhaedd y He y croesodd dywedodd, gan gyfeirio ei fys, Dyma'r fan yn gvwir lie y cwympodd hi," a gollyn«odd y llaJl yn hollol yn yr un fan, a dilynodd hi gryn bellder. O'r diwedd trodd i'r ochr a safodd, ac wedi myned ati dyna He'r oedd y ddwy yn ymrwbio yn eu gilydd! William Evans. Gair yn fyr eto .am William Evans. Yr ydym wedi cyffwrdd a'i enw amryw weithiau yn flaenorol. Ychydig o ysgol a gafodd pan yn ieuanc, ond gwnaeth y goreu o honi. Wedi hyny bu yn hunan-addvsgydd di-ildio, nes cyrhaedd safle uchel fel ysgolhaig. Bu am flynyddoedd yn ysgolfeistr mewn cysylltiad a gwaith y Dmas. Y oedd yn Gymm ac yn Sais rhagorol, ac yn medru darlien cerddor- iaeth gyda rhwyddineb. Wrth eistedd yn ei gyfeiHach, os ceid ganddo i adrodd hen hanes- ion, byddai hyny cystal ag unrhyw ddarlith a gawsom erioed. John Evans. Yr hyn a ddywedwyd am William agos 11 yn hollol ellid ddweyd am "John o'r Bute," ei frawd hynaf. Bu yntau yn ysgolfeistr tua phen uchaf y Cwm. Twmi Tomos, un o hen frodorion cymydogaeth y Pandy, oedd gymeriad o hynodrwydd mawr. Brawd oedd ef i Evan Domos, Ty ar-y-twyn. Yr oedd dipyn yn arw ei ffordd, er hyny yn ddyn trwyadf iawn. Ei wendid mwyaf oedd ei fod yn yfwr cwrw mawr. Amaethwr oedd o ran ei alwedigaeth-yn weithiwr diwyd a deheuig. Nis gwyddom ond am un gorchwyl yn unig y gyflawnodd yn after. Pan rhwng bod yn blant ac yn ddynion cydunodd amryw oedd agos yr un oed i gynal math o de-parti ar eu penau eu hunain, yn rhyw haner dirgelaidd. Wedi cael pob peth yn barod, penodwyd Twmi i arllwys y te. Yr oedd yn falch o'r swydd, a dechreuodd ar ei waith; ond ni ddaeth i'w feddwl bod yn angenrheidiol codi pig y tepot ar ol llanw pob dysgl, ond arlhvysodd yn ddi- stop o'r naill ddysgl i'r llall, i ryw haner dwsin o honynt, nes oedd y bwrdd yn llifo drosodd i'w arffedau ac oddiyno i'r llawr, nes oedd y lie yn llawn o annybendod a chwerthin. Ni bu erioed yn briod. Yr oedd Robert Temos, ei dad, yn amaethwr enwog, ac o ran ei amgylchiadau yn well na'r cyffredin. Ond ni chymerodd Tom fantais ar gyfoeth ei dad i segura, yr hyn, feallai, nas gellir dweyd am yr oil o'r perthynasau. Ymddengys ei fod yn hoff o weithio. Gwelwyd ef yn lladd gwair pan yn bedwar ugain oed ar y Cae Coch tu cefn I D^-ar-y-twyn. Nid oedd Twmi yn ddyn siaradus, hyd yn nod pan y byddai wedi yfed hyd yn gnap," chwedl yr yfwyr. Gwir fod bechgyn y digrif- wch yn ei dynu allan, oblegid ei fod yn dweyd pethau mewn ffordd ag oedd yn ym- borth blasus i'w digrifweh. cl Gofynwyd iddo unwaith beth oedd ei farn am bedwar o chwareuwyr offerynau oeddent newydd eu gwrandaw. Yr oedd gan un o honynt offeryn mawr du, torchog: offeryn y Bass oedd hwnw. O'wn ni yn eu licio nw o'r gora, gon bysa'r hen bw-pw y c1--1 yna." A thyna fu prif destyn chwerthin y bechgyn am dymhor hir. Pan ar ei wely mewn cystudd trwm, aeth Mrs Edwards, gwraig y Parch Robert Ed- wards, gweinidog y Bedyddwyr, i'w weled. Wedi gofyn ei hynt, tynodd o'i llogell ychydig o pipir mint drops ac a'u hestynodd iddo gan ddyweyd, Wdiwch, druan o honoch, yr ydych chwi bron blaenu." Meddai yntau, "Y d 1, chwi allwch'weyd na wyddoch chwi p'un." Gwellhaodd, a bu fyw lawer o flynyddau ar ol ei gymwynaswraig. Dywedir i ddau bregethwr ofyn iddo a welai fod yn dda rhoddi cyfran i'r casgliad. Pwy gasgliad ?" meddai yntau. Casglu yr ydym at achos Mab Duw," meddant. Na na i," meddai Twmi; fi fyswn yn fo'lon roi rhyw- beth i'r hen wr ei dad, ond ma fe ddicon ifanc i witho," oedd yr atebiad. Awgrymayr ym- adrodd dywyllwch mawr. Er ei fod yn gymeriad na wnelai niwed i neb, nid oedd yn llwfrddyn. Pan yn lladd gwair yn y Mardy, wedi bod wrthi yn galed cyn boreubryd, pan welodd mai cawl oedd ar ei gyfer, ymaflodd yn y ddysgl, agorodd ddrws y parlwr, a thaflodd ei chynwysiad ar ben gwraig y ty, er mai ei cliwaer oedd hono. Tebyg na chynygiwyd cawl i un lladdwr gwair yn foreuf wyd. gan Gladys o'r Mardy wedi hyny. Y nesaf i gael ei restru yw un o'r enw Dafydd Shams. Nid llawer o ddynion ag sydd yn gewri o ran corffolaeth a geir hefyd yn gewri mewn meddwl. Ond gyda golwg ar Dafydd yr oedd yn wahanol. Yr oedd ef yn gawr o feddwl yn ogystal o gorff. Hynododd y gwr hwnw ei hun mewn pedwar neu bump o bethau. Wedi cael ychydig fanteision mewn ysgol ddyddiol, drwy lawer o drafferth i gyrchu iddi o'r Pandy i'r Cymmer, ar hyd troedffordd gul a garw, agos yr holl ffordd, drwy goedwig- oedd dyrys a thywyll. Bu Thomas, ei frawd, ac yntau yn teithio y lhvybr unig am tua dwy flynedd i hen gapel cyntaf yr Annibynwyr, lie y cedwid ysgol gan Jones, gweinidog y capel hwnw. Wedi dysgu darllen, ysgrifenu, a rhifyddu yn weddol, yr oedd yn bryd gadael yr ysgol. Ar ol hyny ymgymerodd Dafydd a dysgu yn fanwl pobpeth perthynol i felin yd, felly yn medrn malu ac adgyweirio'r peirianwaith. Cadwai y felin bob amser mewn cyflwr rhag- orol. Wedi hyny dysgodd y gelfyddyd o lifio. Arferodd yr un manylrwydd gyda y gorchwyl hwn, nes cymhwyso ei hun l gael derbyniad yn llifiwr coed llongau yn mhoi thladd Aber- tawe. Nis gwyddom am ei allu fel Ilenor. Cymreig, ond yn unig ei fod yn arfer ysgrifenu i'r Seren Gomer tua thriugain a dwy o flynydd- oedd yn ol. Byddai yn hoff o dipyn o ddifyrwch weithiau. Galwodd mewn hen dafarn bychyn rywbryd, ar gyffiniau Brycheiniog, am beint o gwrw. Cafodd ef yn union, ac yr oedd ntor ddiniwed a dwr, chwedl yr yfwyr. Pan yn dychwelyd yn ol galwodd yn yr un tafarn am yr un peth. Dywedodd y wraig ei fod wedi darfod. "Nid wyf yn synu dim," meddai Dafydd, oblegid yr oedd mewn gwendid mawr pan y gwelais ef ddiweddaf." Dro arall, heb fod yn mhell o'r un gymyd- ogaeth, aeth i dafarn a thynodd ryw bapyrau o'i logell, gan eu taflu ar y bwrdd yn sw'ydd- ogol iawn, a gofynodd a oeddynt yn gwerthu myglys. Atebodd y wraig yn grynedig, "Nac ydymyn sicr, syr, yn gwerthu dim 'smigling. Wrth weled y wraig yn ofnus eglurodd y gair iddi; felly y cafodd hithau ran o'r difyrwch. Dro arall, yn ei hen gartref, sef y Pandy, cymerodd arno ei fod wedi ei ddychrynu yn fawr ac wedi dyfod iddo ei liunari dipyn, dy- wedodd ei fod wedi cyfarfod a'r gwr drwg a'r hen hen fachgen ar yr heol ac yr oedd mor hawdd gan ddynion gredu ei fod wedi gweled bodau annaearol a chredu yn eu bodolaeth eu hunain. Wrth eu gweled yn cyfranogi o'r dychryn i raddau gormodol, dywedai, Yr hyn wyf yn feddwl ydyw mae un dyn yn y gymydogaeth yn arfer creulondeb at ei _y g wraig, fel y gwyddoch; hwnw oedd y gwr drwg a gwrddais. Mae yma gymydog arall oedranus nid oes ganddo wraig hwnw yw'r hen hen fachgen a welais." Parodd yr eglur- had hwn iddynt gael pryd o chwerthin. Symudwn yn awr ychydig yn is at hen gymeriadau y Dinas. Y nesaf i draethu gair yn fyr arno ydyw un o'r enw Rees Morgan. Gwr til, teneu, esgyrnog, oedd Rees, wedi gweithio yrhan fwyaf o'i oes gyda'r amaethwyr, a phob amser, ar y Sul fel dyddiau gwaith, yn gwisgo fel amaethwr, yn ei g6t lwyd a'i glis penlin, a'i "leggings cordaroi." Yroedd yn un nas gallasai y dyeithr nesu ato'n hawdd. Ernad oedd ei edrychiad yn chwerw, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, yr oedd rywfodd yn ddigym- deithas; ond wedi ymarfer ag ef yr oedd yn hawdd glynu wrtho. Yr oedd yn aelod tIydd- lawn yn Eglwys Ebcnezer, Dinas. Wrth fanu byddai bob ameer, yn codi ar flaenau ei raed, ac yn disgyn yn ol yn drwin ar ei sodl- au. Yr oedd yn wr hynod o ddidderbyn- wyneb, ac yn meddu ar ei ffordd ei hun i draethu ei feddwl. Ar gyfarfyddiad y frawdoliaeth un pryd- nawn yn y capel i'r dyben o ddewis blaenor- iaid, dywedodd Mr Evans, Tonyrefail, yn mhlith pethau ereill, Un cymhwysder neill- duol ar gyfer bod yn flaenoriaid yw—na bydd- ant yn -sychedig am v swydd." "Wel," meddai Rees, mae yn rhaid myned oddiyma i rywle i chwilio am danynt ynte." Gofynwyd ei farn am awrlais newydd oedd wedi ei osod i fyny yn y capel, a chan nad oedd yn debyg i lien awrlais mawr amaethdy, yr hwn oedcl yn cyfateb yn hollol i ddrych- feddwl Rees am un o'r iawn ryw, dywedodd y gwnelai Shaw pen shelff o'r gorau." Dro arall gofynwyd beth oedd ei feddwl am y Gymdeithas Ddirwestol, a clian fod ei farn yn hollol barod atebodd yn ddioedi, "Pwff oddiwrth yr hen fachgen—hi dderfydd ar fyr," meddai. Un o'i gynghorion diweddaf i'w frodyr oedd hyn Yr wyf yn dymuno ar i chwi wneyd eich goreu i fod yn un a ehytun a'cli gilydd." Yn nesaf, rhoddwn ychydig o Ie i Evan Morgan (Evan Liestowen). Yr oedd yntau yn amaethwr o radd uchel, yn wr cadarn a nerthol o gorffolaeth. Bu yn was am'flynyddau gydag amaethwr cyfoethog, sef Mr Morgans, Tylehn. Fawr, ger Tonyrefail. Yr adeg hon yr ydoedd yn un o feirchfilwyr gwirfoddol y rhanbarth yma o'r wlad. Yr oedd pob amaethwr, os byddai ganddo was wedi ymuno a'r gwirfoddolion, yn gofalu am geffyl iddo pan delai gal wad. Yn sydyn iawn daeth galwad am y bechgyn cryfion hyn a'u ceffylau eglog i gychwyn tua Merthyr Tydfil i roddi i lawr y cythrwfl gwaedlyd a gymerodd le yno. Wedi dyfod o fewn tua milldir i faes y frwydr clywsant ergyd gwn. Gwaeddodd eu prif swyddog, Mr Ricketts, Fechgyn," meddai, "gwnewch y goreu o honi; dyma fi wedi ei chael hi," a chwympodd oddiar ei geffyl, a hyny yn unig o ddiffyg gwroldeb. Tystiodd Evan Morgan wrth yr ysgrifenydd ei fod ef yn teimlo yn hollol gadarn. Dewiswyd ef gan weithwyr y Rhondda, am mai ef oedd yr hynaf yn eu plith, i gyflwyno eu hanerchiad i Mr Gladstone ar ei ymweliad ag Abertawe. Gwnaeth hyny, gan ysgwyd 11aw ag ef, mor hunanfeddianol a phe buasai yn frawd neu hen gyfaill iddo. Nid oedd yn fardd nac yn lienor, ond yr oedd cael bod yn fiaenaf o haner dwsin yn lladd gwair yn ei wneyd nior ddedwydd a phrif-fardd yn ei gadair ddegpunt. (I'w barhau.)
Advertising
YOUR ORDERS « « « « « AND KIND RECOMMENDATION Are respectfully solicited by EVANS & SHORT (The Printers of this Paper), GENERAL PRINTERS, BOOKBINDERS, and COMMERCIAL STATIONERS De Winton Street, TONYPANDY. PREMISES AGAIN ENLARGED A LINOTYPE MACHINE RECENTLY ERECTED I (The Only One in the Valley). Quality of Work admitted HARD TO BEAT. E. & S. have to thank those customers whose work have been delayed, for their indulgence, but now since the recent additions to plant and working space, they will be better able to cope with tneir increasing business, and remove any cause of complaint in this direction. bookwork of Every Description. Old Notation and Sol-fa Printing. A Posters of every size and colour. r Cards for Concerts. Lectures, &c., &c Pay and Draw Tickets. Dance Cards Kgf and Invitations. Soiree, Banquet, H Supper, &c,. Cards. Contribution |1 Cards, Books, and Circulars. In fact, tjL. they do everything on the Premises that comes within the category of General Printing and Bookbinding. ESTIMATES FREE. 63a THOS. FORREST & SONS, (Established 1861), The Old Established Photographers, CAMBRIAN STUDIO, 14, MARKET STREET, PONTYPRIDD. 7 Philip Lougher, TANNER AND LEATHER MERCHANT, Grindery & Closed Upper Warehouse, 10, MARKET SQUARE, PONTYPRIDD. 2 THOMAS WILLIAMS, Town Crier and Bill Distributor, 150, High St., TREORCHY. Sales, &>c,, cried in English and Welsh. Handbills and Window Bills distributed at Moderate Charges in any part of the Valleys. 54 d. BROOKS, WHOLESALE TOBACCONIST & HAIRDRESSER, Opposite Post Office, AND 12, DUNRAYEN STREET, TONYPANDY. Ladies' Combings made up into Tails, Coils, Fringes, &c., 1/6 per oz. Quantities cheaper. A large assortment of Pipes, Pouches, Walking Sticks and Ornaments. Useful Articles for Christmas IN GREAT VARIETY. BW Try our Loose Tobaccos-Cheaper and Better than Packet Tobacco. 13 A choice selection of Seasonable Goods for Christmas. LOUGHOR & Co., Family Grocers & Drapers, TOP SHOP, YNYSHIR. Wiltshire Bacon always in stock. Our Speciality TEA, 1/7 per lb. TRY IT! 23 W. H. EVANS & SONS, TOWN CRIERS & BILL DISTRIBUTORS. Bills and Circulars thoroughly distributed throughout the Rhondda Valleys at a Moderate Price. AW Sales, &c., cried in English and Welsh. References upon application from the leading Tradesmen of the Valleys and Districts. 7, DANIEL'S ROW, TREALAW. 36 Ask for THOMASSON'S AB C INDEX RAILWAY GUIDEI Enlarged and Improved. 1 d. monthly. Sold at all Booking Offices and Railway Bookstalls and by Newsagents. A First-Class Advertising Medium For Terms apply at- Publishing Offices: 28, St. MARY STREET, CARDIFF. 59 ESTABLISHED OVER 35 YEARS. P. HALEWOOD THE NOTED WELSH BOOT MANUFACTURER ABERDARE. RETAIL BRANCHES:- YSTRAD-Station Row. MARDY—Mardy Road. PONTYPRIDD—59, Taff Street. MOUNTAIN ASH—Market Square. ABERDARE—31, Cannon Street. and at CARDIFF and MERTHYR. Try Halewood's own make Working Boots at O/IIL per pair. Cannot be beaten in the Principality. CLOGGING & REPAIRING done on the Premises 721 Teeth. Teeth. Artificial Teeth., A REVOLUTION 11 i Hitherto the wage-earning public have been 1 debarred by the high prices asked for Arti* | iicial Teetn, but the j WELSH NATIONAL ARTIFICIAL TEETH CO, 32, TAFF ST., PONTRPRIOD, Have revolutionized this, and FIRST-CLASS WORK can be obtained from them at the SMT LOWEST POSSIBLE FEES. Partial Sets of Teeth from 26 per Tooth. Complete Sets of Teeth from 2110 5 years' written Guarantee with each set- These Teeth have gained over 30 Prize Medals and are unsurpassed for masticating, speak- < ing, and naturhl appearance. I Write for Pamphlet and Scale of Fees. CONSULTATIONS FREE, and no charge for, Extractions when Artificial Teeth are ordered. f,ir Only Establishment of this kind in South Wales using Steam and Electric Power. We do not bargain with you; tell us what yon want and We will do it. NOTE THE ADDRESS The Welsh National Artificial Teeth Co., 32, TAFF STREET, PONTYPRIDD (Opposite the Tredegar Arms). 49 THE GENERAL ACCIDENT i ASSURANCE CORPORATION, Ltd. I Capital £ 250,000. Established 1889. j CHIEF OFFICES— I 42-44, Tay St., Perth, E.C. j 115-117, Cannon St., London, B.C. I COMBINED ACCIDENT & DISEASE INSURANCE., I Policies issued covering F death, Disablement resulting from ACCIDENTS OF AWY KIND, together with Weekly Allowances whilst Temporarily Disabled by SMALL-POX, TYPHOID TY- PHUS, SCARLET FEVER, DIPHTHERIA, or MEASLES; I an ANNUITY; and DOUBLE the usual Compensation, ¡ should death or Injury be caused by Railway Accident. I FO R &2 £1000 POLICY PER ANNUM. WORKMEN'S COMPENSATION. | Assurances at low non-tariff rates. | BURGLARY INSURANCE. I Rates from Is. 6d. per 4104, where total contents are insured. CYCLE INSURANCE. Policies issued covering Accidental damage to machine loss by Fire, Burglary, and Theft J WHOLE-LIFE RAILWAY & TRAMWAY ACCIDENL | INSURANCE. I POLICIES ISSUED AT A SMALL SINGLE PREMIUM, COVERING I THESE RISKS IN ANY PART OF THE WORLD. F these risks in any part of the world. PROSPECTUS FOR ANY OF THESE BRANCHES OF BUSINESS FOR• | WARDED ON APPLICATION TO— F Cardiff Branch: Quay St. Chambers, St. Mary STREET. Liberal Terms offered to AgentS. I AWLICATION INVITKD. 33 I ESTABLISHED IN 1836, JL For the PROTECTION of TRÄ STUBBS' MERCANTILE OFFICES, (STUBBS', Ltd.) 1 42, GRESHAM ST., LONDON, E.C. Subscribers, by obtaining timely information through | THE STATUS ENQUIRY DEPARTMENT 1 MAY AVOID MAKING BAD DEBTS. EVERY TRADER SHOULD RBAD STUBBS' WECKLY GAZETTE, With which is issued a Supplement containin LISTS OF CREDITORS ] UNDER ALL THE IMTORTANT FAILURES. THE COMMERCIAL REGISTERS CONTAIN MORE THAN NINE MILLION ENTRIES. DEBTS RECOVERED PROMPTLY I and remitted to Subscribers on TUESDAY and FRIDAY in each week. J BRANCHES at Aberdeen, Birmingham, BlackburOi Bradford, Brighton, Bristol, Belfast, Cardiff, Cork, Croy- don, Dublin, Dundee, Edinburgh, Exeter, Glasgow, Huddersfield, Hull, Leeds, Leicester, Liverpool, London (West End), Manchester, Newcastle, Norwich, Notting- ham, Plymouth, Portsmouth, Sheffield, Southampton, Sunderland, Swansea, Wolveranipton. SUB-OFFICES.—Buxton, Cambridge, Derby, Dumfries. SI Gloucester, Greenock, Grimsby, Halifax, Hanley Inver- ? ness, Ipswich, Limerick, Londonderry, Middl'esboro', J Newport (Mon.), Northampton, Oxford,' Perth, Preston, f Reading, Stockton-on-Tees, Torquay, Walsall, Waterford, f Worcester, York. TERMS.el Is., ze2 2s., £3 3s., 4.5 5s., according to I requirements. I PROSPECTUS forwarded on application to any of the j above Offices. Si ,.i above Offices. 34 Take Life Easy AND WE'LL I Get rid of your Corns t There are probably no such little discomforts that so easily beset the even tenour of our en- joyments as CORNS. They worry our patience They upset our temper They sting our toes I They stop our exercise They spoil our pleasures They magnify all our troubles MUNDAY'S VIRIDINE (Registered Trade Mark) Will rid you of these torments and bring I you peace of mind and freedom from all thoughts of such things as CORNS I VIRIDINE Kills the oldest CORNS. I VIRIDINE Stops the growing of CORNS.. f VIRIDINE completely eradicates CORNS. It goes to the roots and kills without pain. ? No caustic to burn-nothingto irritate the sklø. SAFE, SURE, AND SPEEDY CURE! In Bottles, 1/- post free. J. MUNDAY, Chemist, 1, HIGH STREET, CARDIFF, I 57 [ Printed for the Proprietors, j Rhondda Leader," Limited, by Evans j Short, at their Printing Works, De J ton Street, Tonypandy, arid published William David Jones, at 15, Do Win^° Street, Tonypandy, in the County of GISO, :0