Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
GOLYGYDD- J. REES (Nathan Wyn), Ystrad-Rhondda. ♦ Pob Gohebiaethau, Barddoniaeth, &c., i'w cyfeirio i'r Golygydd.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Y SABBATH.—Englyn llithrig a naturiol, a thra theilwng o un o ddyddiau Mab y Dyn" ar y ddaear. Y CRYD.—Priodol ddigon. Cafodd llawer un a siglodd y byd wedi hyny hun esmwyth a breuddwyd melus yn ei fynwes cyn hyn. Y BUGAIL.—Can sym] a naturiol, mor nwyfus a natur ei hun, ac yn ddesgrifiad byw o fywyd y bugail a'i braidd ar ben y mynydd ban. Melus moes eto. Y FFAIR.-Prin mae y gan hon yn dyfod i fyny a'n safon. Mae braidd yn werinol ei syniadaeth, ac yn rhy faledaidd ei harddull. Nid pawb fedr ganu yn oganus, a chadw heb fradychu chwaeth dda. GWENDID FY NGHALON.-Penillion syml a phrudd-dyner, ac ar fesur y byddai yn an- hawdd taro ar ei well i osod allan deiniladau calon glwyfus ac ysbryd cystuddiedig. Ceir ambell i wall sillebol ynddynt; hyd y gallwch, gochelwch sillgolliadau annaturiol. DEIGRYN GALAR. Pum penill didram- gwydd a gweddol o dyner o ran syniadaeth ond nid yw y gelfyddyd cystal. Cynwysant rai sillgolliadau hynod o wrthun mae gosod sillgoll rhwng dwy gydsain yn anfaddeuol. Mae dechreu llinell a gair fel hyn :— 'N'seinio hiraeth," &c. yn ddigon i beri i ddyn fynd yn sal am wyth- nos wrth ei gwel'd. Buasai hyn yn ddigon i Caledfryn gynt i daflu'r gan i'r fasged yn ddi- seremoni, heb fyned un cam yn mhellach. Ceisiwch odli yn ddwbl, er mwyn perseinedd i'r glust, a boddhad i'r llygad. Ymddengys, gydag ychydig gyfnewidiadau. I'r Swyddfa-Rheidiolydd, Cenech, a Philib y Saer.
BAR&BONTAETB.
BAR&BONTAETB. Y Sabbath. Y Sabbath ddyry seibiant--huddoliis Dawelwch a mwyniant; Dyddo swyn i duedd sant, A'r miloedd i roi moliant. Y Cryd. 0 bob-croes, i bawb. y cryd—fu'n noddfa Yn addfwyn ddydd mebyd O'i dangnef y cwyd hefyd' Rhyw wen fyw arweinia fyd. CENEOH. Y Y BUGAIL mwyn, mae'i fywyd lion Yn nghwnmi r defaid man Yn fwyniant per, ac 0 mae'i fron Yn fyw o ysbryd can Ei daith sy'n mhell dros fryniau'r wlad, A'i Iwybrau'n swyn i gyd Ac yn nyfnderan'i fron ddifrad Mae byd o serch o hyd. Er dal y lludd, drwy'r oriau hir, Ei lafur dry'n fwynhad Ac nid oes ing i'w galon bur Yn byw yn hedd y wlad Mae heddwch dwfn y bryniau iach Fel heddwch Duw i'w fron A thine telynau'r corneint bach Yn gwneyd ei fyd mor Ilon. C, Y mae pob llwybr, iddo ef, Yn llwybraii fu erioed Pan glywa dwrf y dymhestl gref Yn tramwy 'n ol ei droed Ni wyr am urddau gloew 'u bri,— Mor unig yw ei rawd Ond 0 mae nef o swyn i mi Yn myd y Bugail tlawd. Ar aelwyd syml y bwthyn sydd Yn ngnysgod tlws y bryn, Fe wel gyfnodau'n myn'd yn rhydd, Fel drychfeddyliau gwyn Aeth llawer Gwanwyn heibio'i ddrws, I wynu llwybrau'r cwm A llawer Haf, tan wenu'n dlws, A llawer Gauaf trwm. Ond canu wna drwy'r Gwanwyn gwyn, A'r Haf yn lion ei bryd A phan niae'r Gauaf ar y bryn, Mae'i gan yn iach o hyd. Try allan pan ddaw'r wawrddydd dlos A'i chenad o fwynhad Dychwela pan fydd sang y nos Ar fryniau tal y wlad. 0 fywyd diolidtan, non Bugeilio'r defaid man Heb ddim i dori'r hedd, a'i fron Yn fyw o ysbryd can. Mewn rhyddid gwyn o ddydd i ddydd, Mae'r bugail tlawd yn byw Ond "wrendy'r cyfrinachau cndd Sy n sibrwd meddwl Duw. Y bugail, mor garuaidd yw, Mor ffyddlon yn ei waith Ni fu siriolach un yn byw, Na neb tynerach chwaith. Pan glyw ruadau swrth y blaidd Yn crwydro oddidraw, Bydd ef agosaf at y praidd, I'w cadw yn ddifraw. Bu lawer nos, mewn dwysder mud, Yn disgwyl gwawr o'r nef A chrwydro at y praidd o hyd Y bu ei feddwl ef. Mae'n wylo o ddyfnder calon ddofn, Pan ddaw y nos i lawr Ond canaeto yn ddiofn Yn nhoriad gwyn y wawr. Myti yw'r Bugail Da," medd Un Sy'n chwilio yn barhaus,— Yn chwilio am Ei eiddo'i Hun, A'r nefoedd yn Ei lais. Mae unigeddau yn ei wawr, A gofal u weh na'r oil; Mae pryder yn Ei enaid mawr Am ddefaid sydd ar goll. Mae'n rhodio'n unig drwy. bob sen, Hyd lwybrau oer y byd; I'w dwyn yn ol dan 'burach nen, A cliysgod corlan glyd. Mae'n cerdded heibio'r byd a'i wg, At braidd a diorlan dlos I'w diogelu rhag y drwg Sy'n tramwy gyda'r uos. Y mae'n adnabod llais Ei wyn, Adwaenant hwythau Ef A'r Bugail tirion sy'n eu dwyn Yn nes i lwybrau'r nef. Ca'r praidd fendithion mawr ei Dad Ar fryniau gwlad ddibla Ac einioes ddwyfol ei pharhad, Yn nghwmni'r Bugail Da. Ton Pentre. CENECH. TYSTEBAU. Derbyna rhwysg Tystebau, I raddau yn mhob ardal, Ar hyd yr ansoddeiriau, A swm y sebon meddal;" Bydd rhaid i'r dyn wrth ynfyd Fardd Cocos ffraeth ei dafod, I dyngu ar ei fywyd, Ei fod yn angel parod. Ac yna daw cyfeillion, A rliagritli dan bob gwyneb, A'u moliant fel yr afon, I wrthddrych gwag y Dysteb. Proffesant olrhain hanes, Ei linach o'r cynoesau A ffurfiant iddo lechres Ddychmygol o'u rhinweddau. A dywed pawb ar unwaith, Ei fod yn tra rhagori, Ar ei hynafiaid perffaith, Mewn synwyr a daioni; Bydd hyny'n sail digonol, I danio angerddoldeb, Y teimlad cenedlaethol I gychwyn gyda'r Dysteb. Myn pob pregethwr doniol, Gael Tysteb ond ei gofyn, Fe ddigia'n anfaddeuol Os na chaiff un bob blwvddyn Ceir ambell frawd yn methu, Er bod yn dra ehyfrwysgall, Cael neb i ddechreu casglu, Nes symud i fan arall. Ond 0 fe dry yr olwyn, Ryw haner tro ardderchog Mae yntau'n awr ar gychwyn, I'r gogledd yn weinidog; Mae'r pwyllgor wedi ffurfio, Fel tystia'r holl barwydydd A'r arian yn dylifo I ddwylaw y trysorydd. Dewisia rliai'n Dystebau, Drysorau drud a gwerthfawr, Myn ereill I I wydrddryehau," A'r nesaf brydferth oriawr; Bydd un am lestri arian," A'i dalla gan ddysgleirdeb A'r Hall am I I weithiau Bunyan Ond pawb yn hawlio Tysteb Pob Swyddog yn y lofa, A hawlia rhan o'r ysbail; Pe bae ond "ffon a chlopa," I'w chario dan ei gesail I'r meddy" am ei enaint, Gwneir Tysteb o gan' gini; A Thysteb ddengwaith cymaint, Am werthu Tê a Chom. Mae'r bargyfreithiwr gwagsaw, I'r man Dystebau'n darian, Mae'n cynllwyn fel y cadnaw, Er mwyn cael un ei hunan. Os gall y dyn ymddangos, Yn ganwr balch ffasiynol; Caiff Dysteb cyn pen wythnos, Am ganu'n anmhriodol. Ymdrecha'r clybiau'n gyson, I gadw fyny'r ager; Anrnegant fan swyddogion, A ffol Dystebau lawer Mae yntau y tafarnwr, A'i fol fel baril gwrw Yn bwgwth cadw mwstvvr, Os na chaiff un cvn marw Mae'n rhaid cobler gwledig, Os b^-Jd yn gobler medrus, Gael pictiwr argrafFedig, A Thysteb anrhydeddus; Waeth beth fo maint, na chyflwr Y gwr fo'n hawlio Tysteb, Pe ond rhyw ledrith eilliwr, Erioed heb eillio gwyneb Os cawn ni dysteb rywbryd, Clodforwn ddwylaw prysur, Ei phleidwyr liael a diwyd, Pe bae ond llawn gwniadur Gwir ddywed y ddiareb, Gwell metel na maintioli;" Pan welwn rith o Dysteb, Diolchwn byth am dani. N. W. Deigryn Galar. (Er cof am Enoch Williams plentyn hoff Mr. a Airs. John Williams, Birchgrove, Porth.) Awen wylaidd. wyla ddeigryn, Er eneinio bedd dy blant, Nes i'r delyn awenyddol, Seinio hiraeth ar bob tant. Seinia nodau cydymdeimlad, At rhai sy' yn nylFryn dn, Mewn gofidiau a thrallodaa Heb oleuni o un tu. i Mam a thad, sydd yma'n cwyuo, Am ei phlentyn bach dinam, Un oedd amvyl gan eu calon, Ac erioed ni chafodd gam. Er mor auwyl ydoedd ganddynt, Angeu creulon ddaeth a'i gledd, A thrywanodd ef yn sydyn. Gan ei rhoi yn ngwaelod bedd. Eiddo'r nefoedd oedd y blodyn, Blanwyd yma'n ngardd y byd, Ond 'r oedd hinsawdd y ddaearen, Yn rhy oer i'w fywyd drud. Gwelai'r garddwr inawr fod eisieu, Un blodeuyn ieuanc liartld,o I brydferthu'r lie a wnaethai'n Barod iddo yn yr ardd. Er na welodd chwech o flwyddi Yma ar y ddaear hon, Blodyn prydferth yn ymagor Oedd ei fywyd byr o'r bron. Ysbryd Duw oedd ar ei fywyd, Gwen y nefoedd ar ei wedd. Tra'r oedd pawb yn dwyn tystiolaeth Fod ei galon fach mewn hedd. Chwi bertli'nawau, peidiwch wylo, Rhowch eifli gofid i Fab Duw, Un a wylodd lawer noson, Er rliyddhau y ddynolryw. Pwyswch bellach ar ei eiriau, Geiriau gras i'r clwyfus trist, Geiriau llawn o gydymdeimlad, Ydyw geiriau lesu Grist. Rhagfyr 4, 1899. RHEIDIOLYDD.
Manion Barddol.
Manion Barddol. Yr Adar. Nid yw o fawr pwys gan y beirdd i ba wrth- ddrych y plethant eu hodlau, nae ar ba destyn y canant arno. Canu yw'r pwnc Canant braidd i bob gwrthddryeh, a chanantar ddim, ac i ddim. Canant ar bob testyn, a clianant heb un testyn o gwbl. Nid yw yr adar asgellog wedi bod yn ol o dderbyn teyrnged yr awen lawer gv.aith cyn hyn. Nodwn yma ychydig enghreifftiau o ddewis adar y beirdd l ganu iddynt. YR ERYR. Cawr pob perchen adenydd —yw y cry' Eryr cratr, ysblenydd Trig agenog, gro^, greigydd A bro ser iddo'n llwybr sydd. MORWYLLT.
Advertising
THE man who does not advertise is no- JL where, and that individual will soon need advertising for. The Rev. C. H. Spurgeon. j
Hen Gymeriadau Hyqod Cwm Rhondda.
Hen Gymeriadau Hyqod Cwm Rhondda. II.-GAN HEN BRESWYLYDD. [Rhanwyd y irobr rhwng tri; cyhoeddir y tair ysgrif yn y "Rhondda Leader. "J Gresyn na buasai pethau dyddorol pob ardal yn ein gwlad, wedi ac yn cael eu cof- nodi yn gelfydd a gofalus. Mae diff.vg o hyn wedi achosi llawer o afbrwch a ciloilt-d yn ddiamheu i bersonau unigol, a theulu- oedd. Gwyddom am rhai yn byw mewn dygn dlodi :> dylasent fod yn gytoethogion, ond o ddiffyg mantais i olrhain ilinach eu perthynasau pell yn ol y maent yn oddef- wyr cam a thlodi. Heblaw hyny, y mar: defnyddiau cyfroiau tra dyddorol, difyr a da, wedi eu claddu yn nhir hebar- gofiant. Nis gellir gwell nag ymgeisio i gasglu ynghyd y pethau sydd heb eu liwyr anghofio. Wrth glywed rhyw ddarnau, yn awr ac eilwaith, o'r hyn, a ofynir gan y testyn,mae'n drathebyg y darfu i Mr Jones ddymuno cael ysgrif neu draethawd ar y testyn dyddorol hwn. Y mae yn ffaith amlwg y bu personau yn preswylio yn y Cwm hwn, ac iddynt hanes hynod a ddy- ddorol. Ond y mae niwl trwchus canoedd o flynyddau yn eu cuddio yn hollol o'n golwg. Cadwgan y Fwyall. Un o honynt oedd Cadwgan y fwyall. Dy- wedir pan fyddai am gasglu ei wyr ynghyd i fyned i rhyfel, ei fod yn cerdded o'r naill ben i'r llall, drwy y Cwm, gan ogi ei fwyall ac y byddai hyny yn ddigon a ar- wydd iddynt i ymbarotoi yn ddioedi. Ei breswylfa oedd y Tula Coch, ac fod y diweddar Walter Coffin, perchenog y lie uchod, yn ei ddydd yn berthynas i Cadwgan Deatled y darllenydd mai nid brenin oedd Cadwgan, ond cadfridog o dan Owen Glyn- dwr mae yn debyg. Nid oes ddiolch i ni adael y cadfridog bellach yn y niwl a diano yn ol gynted ag y gallwn, rhag myned ar goll yn y caddug. Ala Cwrnlan. Y cyntaf i gael sylw, a'r hynaf ag sydd ar gof a chadw yw hen wraig o'r enw Als Cwmian. Safai yr hen dy Cwniian ar y fan lie y mae pwll yr Ocean yn bresenol. Bu Als fyw dri ugain a deg o'i hoes yn y ganrif o'r blaen, a thair ar ddeg ar ugain o flynyddoedd yn y ganrif bresenol. Felly yn gorphen ei gyrfa yn gant a thair wedi bod yn ddeiliad o dan amryw bennau coronog. Byddai Als yn fynych yn gwneyd cwrw bach, neu fel y gehvid ef y pryd hwnw, cwrw gwawdd—cwrw gwahodd. Golyga hyny bod Als yn myned o gylch y tai rhyw dair wythnos cyn y tymhor penod- edig i gynal y wledd. Yr oedd Mari Cwmian, wyies yr hen Als, yn fedrus iawn ar y delyn Iddew. Byddai Mari yn chwareu hono ac ereill yn chwareu eu traed a rhai yn canu, ag amryw yn siarad ar yr un adeg, ac nid oedd na "stop tap" na "Sunday Closing" yn bod y pryd hwnw. Ac ystyried mai y drefn oreu mewn cwrw bach oedd diffyg trefn; ac yr oedd rheol o'r fath hyny yn un hawdd iawn i'w chadw. Arferai yr hen fenyw redeg cryn lawer pan yn gant oed, tebyg ei boa am gadw ei hun yn weddol o ystwyth ar gyfer cant arall. Nid oedd Als yn medri ond y peth nesaf i ddim mewn gwybodaeth ac addysg uwchraddol. Aeth Richard Philips o'r eglwys ati i ofyn a gai ef ddarllen penod iddi, a chaniataodd hithan y cais, ac wedi i Richard ddarllen ond un llinell o adnod attaliodd ef yn y man gan ddywedyd, "Dyna, dyna, taw son, Die, gad dy goethdar; allai i ddim dy ddioddef di." Tebyg mai nid o ammharch yr ymddygodd hi felly. Yr oedd yn syniad cyfiredin yn y dyddiau hyny nad oedd neb yn ddigon cysegredig i ddarllen yr ysgryth- yrau ond yr offeiriad yn unig. Prif orchwyl Mari Cwmian, yr wyres, oedd negesi. Yr oedd bob amser yn gwisgo cob ag "hat" gwryw. Byddai yn ami yn gwneyd gwas- anaeth llythyrau oddiwrth y bechgyn I:> at y merched, ac oddiwrthynt hwythau at y bechgyn, a byddai y neges mor ddiogel oddiwrth pawb ereill a phe buasai wedi ei chloi mewn blwch haiarn. Gofalai am "Furym" i holl drigolion pen uchaf y Cwm. Os na byddai peth i'w gael yn y Gellidawel, elai i hen dafarn y iJandy, ac os metliai yno,hwyliai ei chamrau tua'r Dinas, a thebyg y byddai iddi fyned o hyd nes ei gael yn rhywle. Shon Glyn Moch. Gair yn nesaf am Shon Glyn Moch cerddor cyntaf a mwyaf y Cwm an* flynyddau. Bu yn wr defnyddiol iawn yn ei ddydd, dysgodd gan oedd o bobl i ganu. Byddai yn myned gryn bellder weithiau i gyfranu ei wersi. Yr oedd ganddo lais rhagorol, canai yn hytrach trwy ei drwyn, yr hyn a ystyrid yr adeg hono yn gymhwysder neillduol mewn canwr. Dywedir iddo ymgymeryd unwaith at ddysgu elfenau cerddoriaeth i ryw fachgen ieuanc; y wers cyntaf oedd ar y gwahanol fathau o nodau perthynol i'r wyddor gan ddechreu ar y banig, dyma y nod: "Enw y nod hwn yw banig, wel di," meddai; "y mae i hon amser hir, cofia, rhaid dal y llais arni cyhid y bydd cloc wyth niwrnod yn tician pedwir dyma nn arall, sef adfanig, a'i amser ond daii tic. Dywed yn awr beth yw y gwahaniaeth rliyngddynt ?" "0 un heb un gos yw yr un flaenaf, ac un wrth y naill gos yw yr olaf." Ie, da mach- gen i; beth am eu hamser ?" O inae yr un sydd a choes ganddi yn gyilyniach o'r haner na'r llaIl." "la, ia, da iawn. A wyt ti yn cofio eu henwau? Y mae pob un o'r ddwy yn rhyw beth ban." "Banig ac adfanig" meddai Shon. "la, yr wyf yn meddwl y gallaf eu cofio yn awr. Gelwir hon gor- fanig. Gallaf feddwl Shon, fod hon yn gyflymach na'r diwedd, er mae un goes sydd gan hon fel y llall; ond mae gwyneb hon tuag ymlaen, ond cefn y llall sydd tuag ymlaen." "la, ia, cofia eto, mae haner amser y flaenorol yw hon. Dyma fath arall, y mae hon yn un gyflym wel di, dim ond haner amser y tic, tampa ar hon. Mae hon Shon, yn debyg iawn i ffon glopa a bach tynu cnau ar ei blaen hi. Dyma etto yn gyflymach, tampa, tampa, ar hon. Tampa, tampa, tampa, ar hon. Gelwir yr un bach yn grychyn, a'r dau fachog yn ad-grychyn, a'r un a'r tri bach yn gor- grychyn Pe buasai yn ddichonadwy i gasglu holl hanes y dyn ymdrechgar a defnyddiol hwn gallesid gwneyd llyfryn dy- ddorol o honno. Thomas Llewelyn y Prydydd. Gwr arall yn mhen uchaf y cwm oedd Thomas Llewelyn, y prydydd; neu fel y gehvid ef yn gylfredin, Twin Howeil Llewellyn, saer coed wrth ei gelfyddyd. Ond fel prydydd ffraeth yr hynododd ei hun. Er nad oedd yn hyddysg mewn rheolau barddoniaeth gaeth, yr oedd tinge y gynghanedd yn athrylith fewnol ganddo. Wele engraifft o hyny. Wrth dyn ag oedd newydd droi oddiwrth yr Annibynwyr at y Bedyddwyr: Pa fodd y ffaelodd dy ffydd-pan neidiaist Mewn nwydau annedwydd; A rhoddi sail i ail fedydd Mawr y son am danat sydd. Eto ychydig o'i linellau mewn barddon- iaeth rydd. Ar yr achlysur o fedyddio nifer luosog yn yr Ynys fach, gan y Parch Dafydd Naunton :— Fe fedyddiwyd tri ar ddeg 0 ddynion teg yr olwg, Rhai yn fawr a rhai yn fan Yn Ystrad lan Dyfod wg. Fe fedyddiwyd Mog, fy mrawd, 'Doedd ganddo fe ond crefydd dlawd, Fe drodd liw'r dwr ar ganol dydd O'r Ynysfach i Bontypridd.. Priodolir y llinellau canlynol iddo ef a James Morgan (Shams o Gefn Tylcha), ger Tonyrefail, y testyn Boddiad Cath. Wedi i'r cymydogion gredu yn sicr fod DoItfyn wedi ei foddi yn hollol, cawsent eu siomi yn fawr; daeth y cwrcyn ysglyfaethus yn ei ol, yn iach ei wala. Cyiansoddwyd y llinellau canlynol iddo yn hen dafaxn y Pandy. Meddai un o honynt:— Dolffyn a droseddodd, Fe gadd ei ladd o'i anfodd, Ond boreu dranoeth'n wael ei wedd Yn gasach yniddangosodd. Atebwyd gan y llall fel hyn: — Tewch son a byddwch bryderth A distaw drwy'r gymdogaeth; Nid oes ganddo ef un sail, Na wel e'r ail farwolaeth. Rhaid gadael yr hen brydydd yn 'nawr gan fod genym nifer luosog yn teilyngu sylw. Shon Pen yr Englyn. Y nesaf i gael ychydig linellau am dano yw y gwr adnabyddwyd wrth yr enw Shoni Pen yr Englyn, neu fe ddichon yn fwy priodol, Pen yr Heanglyn. Hen filwr oedd Shon, wedi bod yn mrwydrau yr Yspaen, yn Waterloo, yn Belgium. Efe oedd un o lowyr cyntaf y Cwm, os nid y cyntaf. Nis gellir ei alw yn lowr glo mor fel y dywedir. Yr oedd cynyrch ei lafur yn ddigon prin i gyflenwi angenion ei ardal ei hunan. Yr oedd ei alwedigaeth yn ei wneyd yn un o'r dynion mwyaf def- nyddiol yn y plwyf. Gwasanaeth o ddy- ddordeb mawr arall gyflawnodd yn rhydd ac yn rhad ,oedd rhoddi hanes y bywyd milwrol, a'r brwydrau y bu ynddynt i'w gymydogion. Wedi iddo gyrhaedd gwth o oedran, arferai y bechgyn direidus gymeryd mantais ar ei gyfaddefiad, sef ei fod yn ymwybodol wedi lladd rhyw nifer o'r Ffrancod. Gwnaethent hyny er mwyn y pleser o'i weled yn wylo. Digon a fyddai i un o honynt ddweyd, "Ym ewyrth Shon, fe darfu i chwi, mae'n debyg, ladd rhai o'r Ffrancod yn Waterloo." A thyna'r water works ar waith ar y trawiad. (Chwedl Will Brian). Ar hen wr hyn yn gwneyd ei gyfaddefiad. "Do'n wir y mach- gen i," meddai, "yr oeddwn yn rhwym o wneyd hyny, wel di." Wrth hyn gellir casglu yn naturiol, ei fod yn wahanol iawn i hen filwyr yn gyffredin, sef ei fod yn feddianol ar y rhinwedd gwerthfawr o dynerweh. Rosser Rosser, y Teiliwr. Y nesaf yw, fel yr adnabyddid cf yn gyff- redin, Rosser y Teiliwr. Gallesid barnu wrth I. edrych arno ei fod yn rhy nerthol i ateb ei alwedigaeth, ond yr oedd yn weithiwr cryf a "sound" fel y dywedir. Dyn hytrach yn fyr, praff a thew oedd. Yr oedd yr olwg arno yn debyg i ddillad dyn wedi eu Ilenwi yn dyn a thoes. Wrth gerdded, daliai ei fraich ddeheu i fyny agos cuwch a'i ben, a'i ddwrn yn gau, a'i fawd yn gor- wedd yn syrth ar y bys nesaf ato. Ym- ddangosai ei wyneb yn groendew a chadarn. Byddai ei farf ymhen tri neu bedwar diwrnod ar ol ei eillio pan yn ddechreu < tyfu o'r newydd yn ymddangos yn beryglus o gryf. Yr oedd ganddo un llygad tro, .ac yr oedd yn meddu dysgyblaeth hynoa o lwyr ar hwnw; medrai beri iddo edrych, yn llawen neu yn drist, yn ddof neu yn wyllt, yn synwyrol neu yn ffol, fel y byddai. yr amgylchiadau ar y pryd. Darfu Rosser' enill iddo ei hun enw fel pysgotwr. Pres-t wyliai ar lan y Nant Dyrmig,neu yn hytraph dwfr unig, hyny yw dwfr sanctaidd, mewn, ty to gwellt. Byddai yn arfer gosod bachau pysgota yn y Nant sef bachau yj nos fel y gelwid. Ond yn anfynych y« byddai ef yn llwyddo i gael pysgod, oblegycgj byddai rhai o'r cymydogion ag oedd yn holff o bysgod yn codi yn foreuach nag ef, mc yn cymeryd gofal o honynt. Ond erj ei yn cymeryd gofal o honynt. Ond e ei fawr syndod, a'i lawenydd, cafodd ar ij^w foreu, ysgadenyn wrth un o'r fachau. f A| chaniatau fod hwnw yn frodor 0, It Caerdydd, yr oedd ganddo daith o hjwtair, milldir ar bymtheg i'w theithio i gyaKaeddj man gorpheniad ei yrfa ddaearol. flic fell llawer crwydryn o'i flaen, a ada dd ,ei1 gartref yn ddiachos. Cafodd ei dal yn hollol dirybydd, a gallesid casgli* wrth ei wedd iddo fod yn debyg i'r toab Jtfradlon gynt, yn ddioddefydd eisieu bwydf t 14ge lliaws o bethau rhyfedd ar gof yfrj ysgfi- fenydd am y cymeriad rhyfedd, fedd, hwn,gydadweydmaiefeoeddi,t wrtry- maf a glywsom erioed o lawer iawm; rhend ei adael er cael lie i ereill. f Evan Thomas, Tyanjwwyn- Evan Domos, Tyarytwyn, yW'r faesaf i tael ychydig^ llinellau yn ei gylch". IMpb oedd ef i Robert Domos, Gelli a iog, neu Gellifoelheulog. Gwr tal, f ljaw^ a golygus oedd Evan. Y t I cyson a thrwm, nid hyd feddwdod, ond hyd y gnap, fel y dywedir. Elai i'r Pandy gyda chysondeb bob dydd o'r wythnos ond ar ddydd Iau. Elai y diwrnod hwnw i fyny i'r Star, neu yr enw mwyaf adnabyddus, y Gelli Dawel. Galwai am chwart o gwrw, yfai ef, yna troai y llestr a'i waelod i fyny, gosodai chwech cheiniog arno, ac ymaith ag ef heb yngan gair. Nid Qedd yn hoff o siarad lawer, ond pan wnelai hyny, yr oedd yn siaradwr doniol neu ddig- rifol, yn hytrach, fel engraifft. Yr oedd yn byw ar ei gyfer un o'r enw Morgan Rees, gwehydd wrth ei alwedig- aeth. Nid oedd fawr o gymdeithas rhyngddynt; ond wedi marw Morgan, caf- wyd ar ddeall fod Evan Domos yn fwy hoff o hono nag y meddyliwyd cyn hyny. Wedi i Evan glywed y newydd, aeth i ymweled a'r teulu; tri yn unig oedd yn y ty, sef yr hen wraig, Aaron y mab, a glasfachgenyn o'r enw William Evan. Nid oedu lloft yn perthyn i'r ty, felly yr oedd y gwely a'r cwbl a feddant yn yr un ystafell. Safodd Evan ar ganol yr ystafell heb ddyweyd yr un gair am ychydig amser, ond edrychai ar y gwely lie y gorweddai y co it, yna ar yr hen wraig, wedi hyny ar Aaron. Wedi gwneyd hyny ryw nifer o weithiau, gyda golwg difrifol ar ei wyneb dechreuodd siarad, gan ddywedyd: Wel, mae Mocyn wedi mynd, rhaid i ninau findo pinsh; oti mae Mocyn wedi mynd. Y gwisg- wr cilocod ffeina yn Sir Forganwg wedi mynd, ma'n rhaid i ninau findo'n pinsh." Dywedodd yr un brawddegau amryw weithiau gan daflu ei olygon o'r naill at y llall gydag effaith rhyfeddol. Yr oedd yr hen wraig ac Aaron yn llefain fel y gellesid eu clywed o'r heol. Wedi distewi am ychydig, dechreuodd yr ail waith gan ddyweyd rhyw bethau ere,i,. ag y tybiaioeddynt yn gwneyd i fynu glodydd Morgan, ac yn mlith llawer o bethau a ddy- wedodd, yr oedd yr ymadrodd canlynol, sef "Oti, mae Mocyn wedi mynd, yr yfwr cwrw ffeinia yn y plwyf." Gyda ei fod yn gor- phen y frawddeg hon methodd William Evans a dal heb dori allan i chwerthin. Dywedodd yntau mewn ysbryd ceryddol, "Beth yw y mattar, Billi, os rhyw golled yn bod, a'i mattar i chwerthyn am dano yw hwn? Mae Mocyn wedi mynd, ac y mae yn euro wrth ddrws ein cof." Dafydd Morgan Rees. Y nesaf yw Dafydd Morgan Rees, mab y Morgan Rees y coffawyd am dano oedd hwn. Dau beth neillduol yn unig a coffawn am dano; sef iddo ddyfod o hyd i ran o wisg filwrol yn nghraig Llwynypia, sef y ran a arferwyd ei gwisgo am y corff er amddifyn y i iJrinnau bywydol gan yr hen filwyr ganoedd o flynyddau yn ol. Trosglwyddwyd hi i Arglwydd Tredegar, a thra thebyg mai hono a welir yn arddangosfa Caerdydd yn bresenol. A'r peth arall yw ei fod yn medru canu 'French,' hyny yw math o gan o'i wnenthuriad ei hun, can hir nad oedd ef ei hun na neb arall yn deall un gair o hono. Yn mhob cynulliad tafarnawl, os byddai Dafydd yno, byddai yn rhaid iddo ganu y fan rhyfeddol hono, a byddai y gwran- awyr yn chwerthin nes byddai y lie yn alabalo, fel y dywedir. Er hyny elai ef yn ei flaen heb un wen ar ei wyneb. Gwr arall yn y cymdogaeth hon, sef y Pandy, ag y mae digon o defnyddiau o'i hanes rhyfedd ar gael i wneyd traethawd o honynt o gryn faint oedd Llewellyn Bill Shon. Dysgodd y gelfyddyd o saer coed, a daliodd ati hyd ryw dymhor tua diwedd ei oes pan y cymerodd at y gorchwyl o amaethu ar dir y Cwrt, lie ar godreu Cwm Clydach, yn ymyl hen dafarn y Pandy. Dyn canolog o ran taldra, teneu llwyd, wedi bod yn ddi-iechyd agos y rhan fwyaf o'i oes. Pob peth yr ymaflai ei law ynddo rhoddai ei holl egni i'w gyflawnu. Yr oedd ei rieni wedi ei osod i gael ei addysgu gyda un o'r enw Thomas James, o felin y Pandy, sef un o'r seiri coed goraf yn y wlad. Daeth Llewelyn yn fardd gwych, medrai farddoni ar y caeth a'r mesur rhydd. Yr oedd yn ddyn o deimladau tyner. Darfu iddo rywbryd weled bechgyn o'r Dinas yn hela gwiwer ynghoed y Cwrt; cyfarfu ag un o honynt un õr dyddiau nesaf, a safai o'i flaen gan edrych yn Ilym arno, a gof- ynodd iddo, "Beth oedd dy rheswm di dros erlid y creadur bach coch hono yn nghoed y Cwrt y diwrnod o'r blaen; a oedd hi wedi gwneyd rhywbeth yn dy erbyn di? Yr oeddet yn sicr o fod yn bwriadu ei lladd hi. Gofala di na bydd i mi dy wel'd di yn ymosod arni eto, y Pike y 1." Y rheswm iddo ei alw yn Hike, mae yn debyg, oedd o herwydd ei fod yn fachgen tal, teneu a chanddo drwyn hir a llym. Dywed y bachgen hwnw with adrodd yr lielynt, "Yr oeddwn yn teimlo ei fod yn edrych drwyddo i ar y pryd." Dro arall, pan yn myned a Ilo i'r cigydd safodd ar bont y Nantgwyn, o herwydd tynu ei sylw at un oedd yn pysgota. "Olo," meddai Shinkin, "ai chwi sydd yna? Twyllo'r pygod, mi wela; mae'n gwilydd i chwi, Shinkin." Ac meddai Shinkin wrtho yntau, "Myned a llo i'r cigydd, ai ie, Llewellyn, dylai bod cywilydd arnocli, y dyn, ac i tiwrdd yr aeth Llewellyn heb yngan yr un gair pellach. Pan welodd na allai fyw ond byr amser, gwnaeth ei ewyllys. Gan nad oedd ganddo wraig, na phlentyn, dododd yn ei ewyllys fod cynyrch un fllwch i fyned at gYIlal ei hen gi fyddlon, a gosododd ymddiriedolwyr i Iofalu am hyny. Syniad anioddefol iawn ganddo oedd y drychfeddwl o wneyd gwyneb bedd ar ffurf arch (coffin). Ei syniad dewisol ef oedd dim ond dwy garreg fechan di-addurn, ac ychydig lythrennau er cyfleusdra i'r perchenog i adnabod y bedd. ei farw, a daeth bob cam o'i gartref i gael golwg arno, sef i gladdfa Soar, Ffrwdamos, yn ymyl y Dinas. Gwelodd ysgrifenydd y traethawd hwn y bedd wedi ei gwblhau; IMynodd gael ei fedd wedi ei gwblhau cyn ei farw, a daeth bob cam o'i gartref i gael golwg arno, sef i gladdfa Soar, Ffrwdamos, yn ymyl y Dinas. Gwelodd ysgrifenydd y traethawd hwn y bedd wedi ei gwblhau; yr oedd yn eangach na'r beddau a dorrid yn gyffredin, nid oedd wedi ei walio, yr oedd Careg drwehus wedi ei gosod lie yr oedd pen yr arch i orphwys. TJndodwr oedd Llewelyn o ran ei gred duwinyddol. Pan glywodd fod Morgan Howells, Casnewydd, 1 bregethu yn nghapel Ebenezer, Dinas t>enderfynodd y mynai ei wrandaw, os byddai yn ddichonadwy. Wedi dyfod yr adeg, aeth ef a'i gyfaill, Doctor Evan Davies, i'r capel yn gynnar er sicrhau lie cyfleus. Ar ei waith yn gweled y pregeth- wr am y tro cyntaf erioed, trodd at y Doctor, a sisialodd yn ei glust gan ddyweyd, "Dyn peryglus yw hwn, Doctor, a welwch chwi yr ysgwyddau pica, yna," a thynodd sylw y Doctor at amryw bethau careg drwchus wedi ei gosod lie yr oedd pen yr arch i orphwys. Undodwr oedd Llewelyn o ran ei gred duwinyddol. Pan glywodd fod Morgan Howells, Casnewydd, I bregethu yn nghapel Ebenezer, Dinas penderfynodd y mynai ei wrandaw, os byddai yn ddichonadwy. Wedi dyfod yr adeg, aeth ef a'i gyfaill, Doctor Evan Davies, i'r capel yn gynnar er sicrhau lie cyfleus. Ar ei waith yn gweled y pregeth- wr am. y tro cyntaf erioed, trodd at y Doctor, a sisialodd yn ei glust gan ddyweyd, "Dyn peryglus yw hwn, Doctor, a welwch chwi yr ysgwyddau pica, yna," a thynodd sylw y Doctor at amryw bethau a wnelai yn ffurf corff a gwynoa Howels ag oeddynt yn ol ei dyb ef, yn arwyddion o ddyn nerthol mewn dadl. Ar gyfer dydd ei angladd, cyfansoddodd linellau i'w canu, ac 4 a'u htvnfonodd i Dafydd Evans, y gwehydd, i gyfansoddi ton arnynt. Cyfansoddodd Dafydd don ag oedd yn cyfateb y geiriau yn rhagorol, a chanwyd hi gan dri ag oeddent yn medru darllen cerddoriaeth, sef Dafydd Evans ei hun, William ei frawd, a Shinkin Evans y crybwyllwyd am dano o'r blaen, ag ereill yn eu dilyn oreu ag y gallent. Mor agos ag y mao y cof yn ein arwain, yr oedd y geiriau fel y can- lynol Mor anhawdd yw pan ddel y pryd I'm godi o'm bodd a gado'm byd Er caffael mynd i'r nef, Wrth fynd o'r byd wrth adael byw Y mwyaf holl o ddynolryw, Paham gadewaist fi, fy Nuw, 9 Yw'r peth a ddywed ied cr.
Advertising
It is silly to brag loudly of one's own doings, and to imitate the braggadocio- soldier in the play—telling falsehoods to the amusement of the company.—Cicero.
-----------Y Parch. David…
Y Parch. David Naunton, Ystradyfodwg. Ganwyd y gwron uchod yn Mynyddislwyn, Mynwy, yn 1777. Amddifadwyd ef a'i chwi- orydd o'u mam pan yn ieuanc iawn a chol asanb eu tad drwy angau pan nad oedd Dafyd« uwcli deuddeg mlwydd oed. Tylodion oedd ei rieni yn y byd hwn, er fod ei dad, Thomas Naunton, ac felly yntau ar ol ei dad, yn ddisgynyddion o fonedd ac achau uchel. Yr oedd Dafydd, yn ol ei linach ainhvg a rheol- aidd, yn ddisgyniedydd o Iwynau William Naunton, brawd ac etifedd Syr Robert Naun- ton o Letheringham Swydd Suffolk. A dial mai efe oedd iawn etifedd, ac mai ei wyr oedd w iawn etifedd y drefedigaeth werthfawr bono ftf ei ol; ond ni bu ef well o honi. Fel y nodwyd fod ei rieni yn dlodion, ac iddo eu colli pan mor ieuanc, nid oedd modd iddo gael manteis- ion dysgeidiaeth; eto, drwy ymdrech, yingaiSi llafur a diwydrwydd, efe a gyrhaeddodd gymaint o ddysgeidiaeth fel y medrai yagrifena a chadw cyfnfon degau o weithwyr a osodid dan ei ofal gan Gwmpeini Camlas Bryclieiniog am lawer o flynyddoedd. Efe a briododd yn lied ieuanc ag un Catherine Williams, merch dda, o gymydogaeth Aberhonddu. Cawsant bump o blant, sef-dau fab a thair merch- Yn yr amser ag yr oedd Dafydd Naunton yn oruchwyliwr dan Gwmpeini Camlas Brycliein- iog, ac yn byw ar Goed-yr-Ynys, Plwyf Llan- gynidr, byddai yn arfer gwrando yr efengyl yn Addoldy y Bedyddwyr ar Goed-yr-Ynys, ac yn 1804 bedyddiwyd a derbyniwyd ef yD aelod gyda y frawdoliaeth yno. Ni bu Dafydd Naunton yn Iiir ar ol hyn cyn cael anogaetb gan y brodyr i ddechreu pregetliu; ac wedi cael prawf o'i ddawn, bu yn pregethn yn gyn- orthwyol yn Llangynidr amanan ereill, ac yn dderbyniol, dros amryw o flynyddoedd. Yn y flwyddyn 1822 cafodd alwad unfrydol gan Eglwys y Bedyddwyr yn yr Ynysfacli, Ystradyfodwg. Derbyniodd yr alwad, ac felly y neillduwyd ef i fod yn fugail ar yr eglwys yno, lie y bu yn gweini gyda gradd lied helaeth o Iwydrliant a. chymeradwyaeth gy(l yr eglwys a'r gymydogaeth yn gylfredinol. Llafuriodd dan lawer iawn o anfanteision amgylchiadol, o herwydd gwendid yr eglwys hyd derfyn ei oes, yr hyn a gymerodd le dydd Llun, Gorphenaf 30ain, 1849. Ceir hanes ei gladdedigaeth yn y lledyddiwr am lis Medit 1849, tudalen 291. Yr oedd Dafydd Nauntoll yn bregethwr gafaelgar ac er na ystyrid ef gyda y mwyaf galluog fel cyfansodd'wr pre* gethau, eto yr oedd ex bregethau yn hynod athrawiaetliol, profiadol ac yniarferol, yn neillduol felly ag ystyried ei anfanteision, fel y byddai yn dda gan yr eglwysi ei weled a'i wrando pan y byddai yn gallu ymweled & hwynt. Dartn iddo, yn ol ei alln; ymdrechu ymdrech deg hyd ddiwedd ei oes. Derbyniwyd llawer i'r eglwys yn yr Ynysfach, o bryd i bryd, yn nliymor ei weinidogaeth ef. Pan ddaeth ei dymor a'i waith i ben, cymerwyd ef, heb hir gystudd, oddiwrth ei lafur at ei wobr. Gadawodd berarogl hyfryd ar ei ol yn Nghwm Rhondda. (I'w barhau) <
Advertising
DON'T FORGET THAT "VIRIDINE" is the CURE for CORNS.—This grand discovery has led many to imitate it, but with out gaining for such preparation the satis- factory results Viridine has secured. In bottles, Is. by post, Is. 2d. J. MUNDAY, Chemist, High-st., Cardiff. 57" THE CENERALRAGCIDENT ASSURANCE CORPORATION, Ltd. Capital E250,000. Established 1885. CHIEF OFFICES- 42-44, Tay St., Perth, E.C. 115-117, Cannon St., London, E.O. COMBINED ACCIDENT & DISEASE INSURANCE. Policies issued covering death, Disablement resulting from ACCIDENTS of ANY KIND, together with Weekly Allowances whilst Temporarily Disabled by SMALL-POX, TYPHOID, TY- « PHUS, SCARLET FEVER, DIPHTHERIA, or MEASLES; an ANNUITY; and DOUBLE the usual Compensation, should death or injury be caused by Railway Accident. FOR S,2 S.1000 POLICY PER ANNUM. WORKMEN'S COMPENSATION. Assurances at low non-tariff rates, BURGLARY INSURANCE. 1 Rates from Is. (id. per £ 100, where total contents are insured. CYCLE INSURANCE. Policies issued covering Accidental damage to machine loss by Fire, Burglary, and Theft WHOLE-LIFE RAILWAY & TRAMWAY ACCIDENT INSURANCE. Policies issued at a small SINGLE premium, coveriz)g these risks in any part of the world. Prospectus for any of these branches ofbusinees for- warded on applicatio-it to- Cardiff Branch: Quay St. Chambers, St. Mary Street. Liberal Terms offered to Agents- APPLICATION INVITED. 33 Teeth. Teeth. Artificial Teeth. A REVOLUTION I f Hitherto the wage-earning public have been debarred by the high prices asked for Arti- ficial Teeth, but the WELSH NATIONAL ARTIFICIAL TEETH CO. 32, TAFF ST., PONTYPRIDD, Have revolutionized this, and FIRST-CLASS WORK can be obtained from them at the I. mt LOWEST POSSIBLE FEES. Partial Sets of Teeth from 2j6 per Tooth. Complete Sets of Teeth from 211- i 5 years' written Guarantee with each set. t These Teeth have gained over 30 Prize Medals I and are unsurpassed for masticating, speak- ing, and natural appearance. Write for Pamphlet and Scale of Fees. I CONSULTATIONS FREE, and no charge fof Extractions when Artificial Teeth are ordered. I lltT Only Establishment of this kind in South Wales using Steam and Electric Power. We do not bargain with you; tell us what yott want and we will do it. NOTE THE ADDRESS The Welsh National Artificial Teeth Co., t 32, TAFF STREET, PONTYPRIDP (Opposite the Tredegar Arms). 40 |-j- j Printed for the Proprietors, "The ] Rhondda Leader," Limited, by Evans an(I Short, at their Printing Works, De Win- ton Street, Tonypandy, and published by William David Jones, at 15, De WintoO Street, Tonypandy, in the County of GISS,
Manion Barddol.
Y CEILIOG. Hen wron o don fyd enwog-a theyrn Y buarth yw'r ceiliog Anian a'i llaw eneiniog A'i rhoes dan glir sidan glog. Daw i ben ei glwyd beunydd-a'i wresog Roesaw i'r boreuddydd A'i ganiad i doriad dydd A leinw y fro lonydd. DYFED. YR WYDD. Daw'r wydd Uvyd gyda'i hardd lu—o'i llesgedd A chwyth ddialedd wrth warchae'i theulu Clegar wna'r hen geiliogwydd, I gadw rhai'n gyda'r wydd. MYNYDDOG. Y TWRCI. Cynyddai y twrci'n addien-yr iar A'r wydd yn eu helfen A rhodiaiyr hwyaden Am ei ffawd crymai ei phen. BARDD Du MOX. Y PAUN. Un moesgar yn ymysgwyd—ydyw'r Paun, Un dewr, pert, llawn drygnwyd, Amrywiog liw, maer y glwyd, Yn ei sidan osodwyd. PHILOS. Y GOG. Y llynedd daeth i'm Iloni-yn odiach Nag adar y llwyni; Olynol daeth eleni, Eto i Fon ataf fi. HWFA MON. YR UCHEDYDD. Yr Uchedydd ar wech aden—esgyn Yn wisgi i'r wybren Moli ei Naf yn nheinl y nen Yw gwaith ei hyawdl goeth awen. DAFYDD MORGANWG. YR YSGLEMYN. Drwy'r nos, rhydd grwydro'r nen—wna'r Ys- Rhwysg-lamol ar aden [glemyn Deryn pur ond o ran pen Oil i gyd yn llygoden NATHAN WYN. Y WENOL. Cael heulwen a thy cleilyd-yw anian Y Wenol o'i niebyd A nef hon y w haf o hyd, Heb auaf yn ei bywya. OWEN GETHIN JONES.