Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
YR ADRAH GYMREIG. IIOes y Byd I'r taith Gymraeg." GOLYGYDD- J. REES (Nathan Wyn), Ystrad-Rhondda. Pob Goliebiaethan, Barddoniaeth, &c., i'w cyfeirio i'r Golygydd.
AT Y BEIRDO.
AT Y BEIRDO. YR HEN ARDAL Hoxo.-Mae rhyw swyn yn y penawd, ond rhywfodd nid yw y penill- ion cystal nid yw y llinellau yn ogyhyd eu hysgeiriau. Mae y syniadaeth i raddau yn gymylog, os nad yn dywyll. Ceisiwch, os medrwch, loewi, ac ystwytho tipyn arnynfc, a chwi ddowch. NANT Y MYNYI)D.-Tlws a naturiol, ac mor loew a'r nant ei hun. Gwelsom ambell nant yn fwy trystiog a rhamantus. MARW'N Y FYNWENT.-Can swynol a thyner yn Ilawn o deimlad pruddghvyfus, ac ar fesur yn cyfateb y testyn i'r dim. Carem gly wed oddiwrtho yn am], CAN CWN HELA, &c.-iNid ydym ni i yn mhlitli edmygwyr penaf y bytheuaid ond1 yn wir ofnwn nad yw hon yn deilwng o'r cwn. Mae i raddau yn anghelfydd, yn wallm mewn orgraff a mesur, heblaw ambell sillgoll afler a thruenus o hyll. EFA. —Englyn tlws a tharawiadol iawn. Yr ydym yn anfon E. O. Jones a Briallydd (dau gyfansoddiad) i'r Swyddfa.
Efa.
Efa. (BUDDUGOL). A'i ddeddf yr Ion roddodd fri—ar Efa A'i gwyryfol dlysni Ond anglod, er ein tlodi, Ar Dduw a'i ddeddf roddodd hi. E. O. JONES.
Nant y Mynydd.
Nant y Mynydd. Y gornant fechan loew, Mor swyool wyt i mi, Mae enaint llytn yn methu'n lan A deifio swyn dy fywyd glan,— Yspeilio'th dlysni di; Mae rhyw nefolaidd swynion O gyich dy wely llaith, Ac O mae gweld un ddeilen wyw Ar gefyn dy li' yn ddarlun byw, 0 amser ar ei daith. Y gornant lan risialaidd, 'Rwyt ti trwy oesau'r byd, Fel llinyn arian rhwng y brwyn,' Yn disychedu'r pranciog wyn Wrth lifo'n miaen o hyd O'tli amgylch dengys anian íf Ei s-tvynion o bob rhyw, y Wrth gyfrin ddeddfj^ft'i^ mgrymwch, Y ?,K\gy-^munitfV. • -tfydd A rhowch e 'd lieu' -xfa1 na uadd yn un o tev,rsli gohi m penaf ei fywyd. • i-.<> t I, .iTifrWn -A- ■ »oca,l lv^,nld glan, ..atus of conrt bal^_ 1 0. hefyd aiiog-ein Hen gornant fach y mynydd Mae rhywbeth yn dy wedd o hyd-drwy'r Haf a'r Gauaf gwyw, Yn arwain meddwl dyn at Dduw- Tragwyddol for o hedd Ac 0 mae'th ddyfroedd gloewon Wrth reol euraidd lor,- Yn deffro llysni'r gwanwyn gwyrdd, Yn gweini cymwynasa, fyrdd ifrth redeg tua'r m6r. 'llwy'n hofli gwrando'th pinion Sy'n llawn peronaeth fyw, A drachtio rhan o'th ddyfroedd iach, Ac er nad wyt ond defnyn bach Yn ymyl moroedd Duw,— Hyawdledd dwyfol glywir Yn swn dy ddyfroedd di, 'Rwy'n caniod Duw ai ddelw Ef Sy'n dwyn fy mryd wrth wel d y Nef Yn nrych dy loew li'. BRIALLYDD.
0 Fon i Fynwy.
0 Fon i Fynwy. (Buddngol yn Eisteddfod Genedlaethol 1 ° Casnewydd, 1897.) Hen Fon enwog fu'n anedd-y Derwydd A'i gadeirol orsedd A'r ynys yn ngerwinedd Y rliuawl f6r wylia'i ffdd. 0 fedd yr hen ofyddion-dirwynwn JJrwy anial greig Arfon I Leyn deg ar lan y don, A bro ddifyr beirdd Eijion. Efionadawn am lony(ld-iN,ybren hedd Bryniau aur Meirionydd Hanes hawl awenan sydd ? i I w hardd Gadair ddi {joedydd. Coedydd a dolydd diliau,—yw baich da Dinbych deg ei chynydau, Dyflfryn Clwyd a gwyd i gan Dwrn oesol ar deyrn eisiau. Eisiau ni fn'n ddinesydd—yn Fflint hoff, Olion tan trafnidydd O'i mewn saif, a'i mwnau sydd Oleuadau aelwydydd. Aelwndi/dd Maldwyn lydan -a wefrir Gan Hafren Wr arian Am lawn glod melinan gwlan, Hawlia ruol orhmaii. Qarhoian y^T gwif deS""ch rif>re<li°'ion lon> tlu Eithaf S\YI1 ei Theifi 8ydd Lawen delyn rw dolyf ■ A dolydcl Dyfed ,elir-Ilyd y ni(^)r Yn dymherU8 hentlr ;4i* A bytbol sylweddolir, Dewi Sant yn llond y SJr. Sir a bawl i fawl o fin-y dawel Dywi ydyw Myrddin Tir i fagu tirf egin, A Uwyni rh&s llawn o rin. Rhin anwy] geir onenaa Brycheiniog, Bair ehwenych ei -1 Bannan Hotfwn win y Ffynonau Geir o'i chol i'n gwir tachau. lachau dyn yn wych i'w daith,-yw safon Maesyfed foel eilwaith Sir enwog am sei' unwaith, Wed i'r oil yn gwadu'r taith.^ laith V „ Ymla»ld ev niv,n ( y mcg_ Yvv ° C?" O'r «%,t,U wnge" P Hor P ie,1 v iv a>ve°', y hen. 1 dy m>vynbad y Al'HAN ^'YN
Marw yn y Fynwent.
Marw yn y Fynwent. DISTAWRWYDD sy'n teyrnasu Yn bruddaidd dros y wlad, Tra safai geneth naw mlwydd oed Wrth fedd ei mam a'i thad Mae yno mewn unigedd, Heb neb i wrando'i chwyn, Ac 0 y teimlad lleddfol sjdd Yn ngeiriau'r eneth fwyn. Amddifad wyf, yn crwydro Heolydd oer y byd, Mae'r plant fu gynt yn ffryndian mawr, Yn cefnu 'nawr i gyd 'Does neb i gydymdeimlo, 0, na-amdchfad wyf, A dyna ddywed ambell un DOli i dylotfr plwyf. 'Rwy'n cofio atnser dedwydd Mewn bwthyn bach dinam, Bo genyf unwaith gartref clyd, Ac hefyd dad a mam Maent heddyw yma'n huno Yn mhriddell oer y Ilan, Ac O mae'r twmpath hwn i mi Yn gysegredig fan. Fy mam fy mam anwylaf, 0 na chawn eto gwrdd, A byw'n dragwyddol yr un man-- 0 amgylch yr un bwrdd 'Rwy'n dlawd, yn wrthodedig, Heb neb i wrando'm cri,— Mae pawb yn gwawdio, yn sarhau Cardotes dlawd tel fi. 0 lesu anwyl lesu, Nisgallaf ddal yn hir, O cynier fi—'rwyt ti'n parhati (f hyd yn gyfaill pur Ar lan y bedd rwy'n erfyn Ar iti wrando'm cri, 'Rwyf am fyn'd at fy mam a nhad- 'Rwyn dyfod atat ti. Fel hyn bu farw'r eneth Ar laswellt oer y bedd, Mae heddyw uwr-h trallodion byd Tu fewn i ddinas hedd Os <rwelwyd hi'n angenu-i Heb fam na bwthyn clyd, Fe'i cipiwyd hf i loewach Nen, Lie na ddaw tlodi'r byd. Ar lecyn neillduedig, Yn mhell o gyrhaedd gwawd, Lie nad oes dim ond glaswellt hir, Mae bedd yr eneth dlawd; Fu yno neb ynwylo, Na neb yn trisit ei wedd, Ond elywaf swn-distawrwydd Dnw, Yn gwylio llwch y bedd. BRIALLYDD.
Gosteg o Englynion ar Frwydr…
Gosteg o Englynion ar Frwydr Omdurman. Hen arwyr creulon ororau—yr Aifft Yn rhwys eu hanwydau, A'u Llyw aethus-dwyn llwythau Gaethion weis dan gethin iau. Erchyllder eu gorthrymderau—erfawr Gynhyrfodd y pleidiau* I drosi'u liaur drysorau A'u hyrwydd wyr i'w rhyddhau. 'Elwy,(IdiN,y(li,%i,ney(Itrosgloddiau--og leli Yn amgaer i'n Ilellgan; Ac abl o'ent oil i gwblhau Eu bwriad, cyn y t LI or- 1 kcldolir yn awr 1 ;»edd y dclaear, uacll> Y dderbynia'n addoldy y llawr 12r_,et traed nior oddef,,ar ? ..1- grefyddwyr, o'i blapr. 1 .1 1 T 1- iich gallnopf];yfawl wyr, llawn jiAvyfau—ysbryd- ivare" Sibrydent drwy'r rliesau, Llon W Fod y gwyll erchyll archatt I Eu neges yn agosau. Llyw astnd ein l!uestau-a'i gwelent Ar gilwawr y borau, 'N dod allan o u c\idd fanau I'w tfawd, fel llywod o'u ftau. Ond aruthred eu rbuthriadau-o'u safle t Ni syflyd ein rhengau, ] Ond o'u hamylch, fel cylch n cau, ] 'E daenwyd deitiol danau. Odroellawgda-neudrymau-nhyllig Chwyrellwyd bwledau Fel heintnod o gofodau Ar wyr duon gftlon gau. 1 vrafanc eu hystranciau—gwyrodd ° Gwyr ineirch y piceilau O t erfawr drogyrch arfan, Ar y clwys gan arwyr clau. Ami oeddynt llaw law ymladdau- aflun Mewn dieHig arwyniau, Dvrwygent oil fel dreigiau O r nwydol atfwy^ol ftau. O safnrwth egr gytlegrau-y gadlas Gydlif a'r gwn fadau Yn arllwys en ffrwys yn ffrau, O'u boliog ffrwydrawl belau. Rhyngynt aeth cedyrn rhengau-ac hylam Y Kalif yn ddarnau A'u hyllwe-id gelaneddaii Bentwr ar bentwr drwy r ban Omdurman drylliwyd tarianau-Soudan Dryswyd y cynllyniau, Dyorwyu creulonderau, A ffawd gwyr y prophw^d g^GFYR Yr Aifft a Phrydain Fawr.
.Manion Barddol.
Manion Barddol. Fel hvn y dywedodd yr hen farf^' Yi Powell Wrth I'd gwraig yn pa»tyn« « gwr yn Ngwent. a,a Yn awr fe gwnws i'r nen—ei phastwn, A ffustws ei gefen j Cnocws, tolcws ei dalceti,_ Pan waeddws, baeddws el ben. A dyma fel y canodd Goronwy Owen i rhyw lyffant o Sais melyn or en Dean, y llongwr melynaf yn yr ftou u meddai ef! i,«n1 Moliant am bob peth melyn-f m yr ha A merhelyg dyfrllyn, Am Sion Den, a chwyr A mad aur, pe tai'n maw dyn. Dewi Wyn o Eifion, yn angerdd ei WB.W1 it J„; nrili tr Tnisce'svdd. 3iomiant, a ddywedai wrt y buddugol Gutyn Peris, M l^yn Maddeu ni wnaf, paid a meddwl-mae hyn I'm hanog fel swmbwl; Pe gallwn—ni pheidiwn-ffwl Dy gospi a dau geispwl. Pan ofynodd John Roberts, y crydd, Dollgellau, i'r hen fardd difrifol, Dafydd Ionawr, pa fath esgidiau oedd efe am gael, Sgydiau a gwadnau gwydnion-gofynaf ° Am getnau esmwythion; Crefaf am bwythi cryfion, 0 dlws waith deheulaw Sion. Telynog, wedi gwel'd Dyffryn .h,hondda, am y tro cyntaf erioed a ganodd, neu hytrach a englynodd fel hyn 7" oJ II Cwm Rhondda, d.y^ gwm domog—cwm "1. nf cwm gorgreigiog "un arff, cwm llawn o. sog, A. chwn: ClIach na cham ceihog. 1 Fel hyn Y clesgrifia Dewi Hafesp y Ilen- la Decli«n dwyn ccit hwy'n y oryd-lled- 1 aenant WTellt hwnw'n t%chrynllyd; Wn i am neb Q'i mebyd, Ond y nhw yn dwyn t hyd. ? Dyma fel y troes Gwydderig ddarnodiad ► y Gwyddel hwnw o "ddim" ar gan, sef "hen hosan di-goes, heb yr un droed iddi" Hen hosan a'i choes yn eisie—a'i brig Erioed heb ei ddechre A'i throed heb bwyth o'r ede, Hyny yw "dim," ocnid e? Wele brophwydoliaeth Tudno am Bata- gonia, rhwng ugain a deng mlynedd ar hugain yn ol :— Mae'r glodfawr Gymreig Wladfa-wedi gwel'd Gwaelder yn eu gyrfa; Ond cyn hir, gwelir Gwalia-dan fendith, Yn bwyta gwenith 0 Batagonia. Dywed Berw fod y saer coed, yn gwasan- aethu dyn yn nau ben ei oes. Hwn ytyw'r dyn hynotaf—ceir ei waith Ar y cryd yn gyntaf; A dyn y coed, wed'yn, e-af, Yw teilwr y siwt olaf.
Marwolaeth.
Marwolaeth. Blin genym gofnodi marwolaeth Mr Lewis Ifor Jones, yn 26 mlwydd oed, wedi hir nychdod a maith gystudd. Ychyu-g wythnosau yn ol claddwyd ei dad, y diwedd- ar Mr Isaac Jones, Stationers' Hall, ac nid rhyw lawer cyn hyny bu farw chwaer iddo.
Marwolaethau Americanaidd.
Marwolaethau Americanaidd. THOMAs-Tach. 2, 1899, yn Coal Dale, Pennsylvania, Mrs. David thorn as, yni 60 mlwydd oed. Daeth i'r wlad hon o Gwm Rhondda, Deheudir Cyniru, gan ymsefydlu yn Scranton, ond symudodd oddiyma i Sir Clearfield. Ychydig flynyddau yn ol daeth i fyw i Coal Dale. Bedyddwyd hi gan y Parch. W. Morris (Rhosynog), Treorci, a chan nad oeddyr un capel gan y Bedyddwyr yn y lie yn nes na Lansford, bwriodd ei choelbren gyda'r Annibynwyr. Claddwyd hi ddydd Sul 1 yn mynwent yr Odyddion yn Tamaqua, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. John T. Griffith I (B.) a Mr. Luke (A.), y cyntaf yn Gymraeg a'r olaf yn Saesoneg. DAVIE3-Hydref 12, 1899, yn sydyn iawn o'r pneumonia, Henry T. Davies, outside fore- man Morea Colliery. Mab ydoedd i M. Davies a'i briod o Beaver Meadow, Pennsyl- vania. Ganwyd ef yn Cwmsaerbren, Sir Forganwg, Deheudir Cymru. Hydref i25, 1858. Daeth gyda'i rieni i'r wlad hon pan ond pum mlwydd oed. Ymsefydlodd y teulu yn Audenried, lie y derbyniodd yr ymadawedig ei addysg, ac y gosododd i lawr sylfaen, i'w gymeriad a brofodd mor llwyddianus trwy ei noil fywyd. Tua deuddeg mlynedd yn ol ym- briododcl a Miss Mary Lewis, nierch Reese a Betsv Lewis yna symudodd i Morea. Gad- awodd i alaru ar ei ol un o'r gwragedd tyner- af, a phnmp 0 blant bychain, yr hynaf o hon- ynt ond un ar ddeg oed. Yr oedd yn uri o'r goruchwylwyr gonestaf a ffyddlonaf. Mawr- ygwyd ef gan y cwmni a'i gydweithwyr; profwyd hyny yn ddigon eglur yn y cynheb- rwng ma\\ ell))))} "afodd y Sabboth canlyhol. Llogodd • 1 ft wasanaethodd mor ffydd- ,L°| Spread ig seriously disturbed'"b^'°t ] .rr^iTjiu'^evelations in the case of tu olygfa, gwat' ^^dd allajn, ,?v ei, oyinnsodda n -^atio ^v*^>«^y^ddiaeth*, weinidog," y Parch. Lloyd Roberts, Mai/, y, City.
Lloffion o'r Eglwysi.
Lloffion o'r Eglwysi. iam?UAf°Chelfearewedi{ fSSSg fe1do5SddgyyParcTnlfiy Elvet | Lewis. Derbyniodd Y Parch Elwyn Thomas, Cas- mawrion yr enwad yn Llunclam, i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Cynaliwyd cyfarfodydrl pregethn yn Noclldfa Cynaliwyd SuI a Llun Llanelli, ac Aaron Morgan, Blaenftos. Y mae v Parch. O. Waldo James, B1^n: genadll GarJfol y Bedyddwyr Cyn^retg. Ymddengys fod gweinidog yr Aianibyn- wyr yn Nelson, Morganwg, wedi clernyn gSwad oddiwrth yr eglwys Annibynol^yn Nelson, yr TJnol Dalaethau. 1 iawn, ni bydd eisiau n^'id c^e'n^_ el lythrau, dim ond gosod U.S.A. ar y ai we«fd yn lie Glam., a bydd pob peth yn iawn. Deallwn fod y bardd pregethwr, Parch. J. Symlo"- Morgan, Ainon, Treorchy, wedi cael eilwS unfrydo oddiwrth eglwys t'edyddTedig fe ral Castellnewydd Emlyn i'w bugedio L y pe bau sanctaictd- Nid ydym yn hysby« ofwriad y cyfaill, ond y mae petrusder ml br^han yn mhlith yr aelodau yn Ainon rha0 Slo ate'b yn fo,ldlaol. «obe(tlnwn yr ™ ac y teimla yr aelodau rawy o ael a 1,1.N 'l eddynygwaitbda, fel y byddo i'r dda1, yn fngail a phraidd, wynebu ar jJg J; glaer sydd yn cu aros, gyda sicr y S lant mawr. Bwriada yr eghvys uchod gynal cyfarfod- ■dd a-oriadol eiiliaddoldynewydd Sul a Lhin dydS Mawrth. Rhagfyr 24, 2o, a 26. 1 )v> fJ 'wylir i wasanaethu ar yr amgy ( S y Karelin. W. Morris, F.R.O.S., I r. Jones, Llwynypia; Gwilym Levi., x an a Gwili Ammanford. Derbyniodd y Parch D. H. Williams, t M A., Kbenezer, Sir Gaernarvon, dyrteb » anrhydeddus gan ei eglwys a i gyjiulleidfa, ar ei ymadawiad o r lie 1 gymeryd ( e»>-l wy* Annibynol yn ^r.y*, •, i 'e %n y Cynghorwr J. R. Pntchard,a siarad- wyd gan amrywo frodyr cyhoeddus ac ] ereill. ( Y mae y Parch. T. Idwal Jones, Llanelli, ,vediatebyn gadarnhaol alwad dacr, Bedyddiedig Seion, Porth. Deallwn tod y gwr galluog a pliarchus yn bwriadu dechreu ar ei waith yno y Sul cyntaf yn Chwefror. Bu y Parch. Hugh Hughes, Cenadwr Wes- ley aidd Talaeth Gogledd Cymru yn cynal cyf- res o -yfaifodydd pregethu yn y 11c uchod yr wythnos ddiweddaf, pryd y tra, dedodd mfer 0 l)re'fethau cryfion ac elieithiol 1 gynulhad lluosog. Hir gofir y cyfarfodydd neillduol hyn. Nos Sadwrn, Rhagfyr 3, Jw- = '"rlitiuVvr i-se»" ■Sv Bangor), yn traddodi el .Idarhth Ddynes Newydd. Siaiiitli 'gyf. ethog o ddifyrweh, l.yawdledd I- y ac athrylith.
Advertising
rTIHIi" inan who does not „led S- A KCV. C. H. Spurgeon. C,
Hen Cymeriadau Hyqod Cwm ondda.
Hen Cymeriadau Hyqod Cwm ondda. GAN NATHAN WYN. [Rhamcyd y wobr rhwllg tri; cyhoeddir y tair ysgrif yny Rhondda Leader."] (PARHAD.) Homo Ddu (Richard Lewis Smith). Wele eto un o'r cymeriadau ihyfeddaf wel- odd y Rhondda erioed! Ie, heb os, nac un- rhyw amheuaeth, un o'r rhai hynotaf yn mhlith y rhai hynod, ydoedd Smith y Teiliwr Yr oedd yn enedigol o Gaslwchwi, ond treul- c, iodd y pymtheg mlynedd ar hugain olaf o'i fywyd yn y Ddinas a Thonypandy. Brodyr iddo ef oeddynt y diweddar Barch. J. Wyndham Lewis, T.C., Caerfyrddin, a'r Parch. DI. Lewis, Ficer Glyn Ebwy. Un o gyfeillion mwyaf myn wesol boreu ei oes ydoedd y Parch. J. Powell Jones, 'Ficer Llantrisant. Fel dyn, yr oedd yn llawn o natur dda; yn un o'r dynion hawddgaraf a mwyaf cymwyn- asgar y daethom i gvffyrddiad ag ef erioed. O'r tu arall, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf eccentric, nwydwyllt, ac eithafol o dan dywyn- iad haul. Bu cweryl blin am flynyddoedd lawer rhwng Richard a'i frawd John, yn nghylch y ffugenw Homo Ddu." Hawliai pob un o'r ddau frawd yr enw,gyda phendcrfyniad diymollwng. Cynhyrfwyd angerdd eu digofaint at eu gilydd yn yr ymrafael blentynaidd yma, fel na fadd- euodd y naill i'I Hall hyù eu bedd! Cofus genytn am John yn ei ddefnyddio am y tro cyntrcf, tua'r adcg y cychwynodd allan fel dyn eyhoeddus. Dadleuai Richard, yr hwn oedd tua phymtheg neu ugain mhvydd yn )i\'n na John, iddo arfer yr enw Homo Ddu," yn nyddiau babarfdod Jolin a Daniel, y rhai oedd- ynt ddau efaill. Ddarfod iddo gyhoeddi rhai darnau drwy y wasg dan yr enw hwnw, pan yn fachgen ieuanc gartref, tra yr oedd ar ei brentisiaeth fel dilledydd. Wedi dysgu ei gelfyddydd, aeth, fel bron bob teiliwr arall, ar y tramp oddi cartref, i rai o brif drefi Lloegr. Bu am dynihor yn Birmingham, Manchester, a Llundain. Pan mewn shop fawr yn Birmingham, He y digwyddai fod nifer anferthol o deilwriaid yn gweithio, yr oedd yn en plitli ddau Richard Lewis. A chan mai efe ydoedd yr ieuangaf o'r ddau Ddick Lewis, ac er mwyn eu gwahaniaethu oddi wrth eu gilydd, hawliai y frawdoliaeth iddo ef newid ei enw. Felly y bu, ychwanegodd y cyfenw "Smith" at ei enw gwreiddiol, aco hyny allan adnabyddid ef fel Richard Lewis Smith. Tra fu y ddau frawd ienengaf yn dysgu y ffordd i wneyd cyrff dynion yn glyd a cnysur- us, yn ymgyrhaedd am urdd marchogion y nodwydd," yr oedd eu brawd hynaf, yn unol ag arferiad pendefigion yr urdd gysegredig hono, yn crwydro o fan i fan, ac o dref i dref, yn ngwlad y Sais. Bn am rai blynyddoedd, heb nebyngwybod ei hanes efe a gollwyd ac a gafwyd yn y Khondda Yn yr adeg y bu efe ya ngwlad y moch a'r cibau," gwisgodd ei frawd y lIen- enw, Homo Ddu." Ond can gynted ag y daeth Richard yn ol o'i neillduaeth yn ngwlad Hengist, dangosodd ar umvaith ei fod yn fyw, I n,Qu1iLireuo.,id hawlio ei iawnderau. Yn mhlith ie- ,1 yn wir y peth penaf, hawliai 1 I in her agn,u.J1^„-vnal1t,xnjtioJl gan ei frawd Yr oedcfVvearne^ A glaá yn-J > fyny, ti' r.'S'lv"V' wide" wuite ond yr oe'uu j a.hat. may 1 8^0 aufcSt pobpeth na rhoddi hwnw • Ira'r oedd yntau yn barod 1 golli ei wae oeùd yntau yn baro( 1 go 1 ei enw I Cof genym, fod "7, 'S,n"Hon,o ;Dd»), ac i Richard hyny, flfo1nodd^f1%' r pberthyn- ^r^iSoCwu ■ Erlyn hy £ S,r„„S. v mater yn dechreu gwisgo gwedd SdifrifoH PasioJd rhai ilythyran arlg towmstan arnynt, rhwng y ddau frawd Bu y Parch. J. B. Morgan i S'J decScuad. Pa fodd bynag, wed. blyn- yddoedd o ymladd, Richard a or u. y galon ceid ynddynt lineliau "A thlysedd i goeth Iesu, ( Yn amwiw ddawn Homo Ddu. Kilda •' Thoddwn nn enghraifft yn uni Ktldugol-SereuBethS'em:" ,< geren siriol, hawddgar wenai Ar fythynod Canaan wlad Canai'r engyl, gwenai hithau 1 Uwch troellog lwybrau r wlad yd Aless'ali pa ryfeddod? cryd Messiah 5 Roddai oleu iddi hi, Canol bwynt ei thaith a 1 goleu 1 Ydoedd Ceidwad dyn, a i fri- Rolant, Penygraig (Rowland Rowlands), doedd gymeriad tra hynod yn ei ddvdd, a vnv ar lawer eyfrif. Yr oedd yn frodor 0 r rl Avm, a chyda yr eitliriad o rhyw dymhor byr bu fyw yn Aberdar a Llanelly, treuliodd ei es ar ei hyd, a hono yn oes faith, yn y y thondda. Er yn ei adwaen ef yn dda o'n maboed, pimhvn mai gorchwyl anliawdd, os nad llw yr nmhosibl, ydyw rlioddi amlinelliad cywir o leillduolion ei fywyd a 1 gymeriad. Dyn rhyfedd, rhyfedd ydoedd yn mhob () fweu.l anio yr oedd rhyw hynodrwydd M- 'enj<r yn perthyn 1 w boll wehelytli, ond f [lolant yn ddiau ydoedd y rhyfeddaf o r ho c leulu rhyfedd hwn Yr oedd yn feddianol ai ithrvlitli gref, fywiog, a beiddgar, yn med ( n,r wy bod aeth gyffredinol helaeth, yn ( hwnt i'r mwyafrif. Fel siaradvyr cyhoed,1us j vr oedd yn llithrig, miniol a doniol dros be • Cathraw Ysgol Sul bron heb ei ad. Yr oedd ] vn ddiarebol am ei gytlymder aigiafide t: :rbl' fob amser yn a^o ddrwgdybua, o bawl, a pbob ^etb ganddo tawr oi J.nd< y ed^ 3 f „ es Kb Oftlai ei ygyfenlf„n ofnar e, denla, ac ofnai hyd yu nod ei gysgoil ei hn Yr oedd yn flaeiior y blaenonaid yn Fenj- i'r Ddinas t,ran y Methodistiaid am f y dvmor yn y Cwm. rtn,l vr hyn a fawr ofnodd a ddaeth arno. Efe" f/ f»' » » gaf-glwyd at ei dadan l fynwent capel Ebenezer, Dmas. Shon y Gof (dohn Morgan;. Cawn fod Shon yn enedigol o 'Lanwyiio, ond ,treuliodd ei o«s, a hono yn oes faith, yn yr j Heolfach, yn y Rhondda. Gan mai gof ydoedd with ei alwedigaeth, ac yn cadw efail o'r eiddo ei liun, fel gof gwlad yn gyffredin, yr oedd yn cael y fantais o glywed pob math o ddoniau, ar bob pwnc, ac am bawb a phob peth gwyb- yddadwy, a mil a nnvy o betliau ereill hefyd, Er nad oedd Shon un amser yn rhyw orsiar- adus ei hun, eto yr oedd yn cymeryd i mewn y fA\ bl a welai ac a glywai, gan en trysori oil yn ei gof. I Yr oedd yn dipyno fardd, ac yn lienor da iawn, ac ystyried. ei fanteision. Y sgrifenai gryn lawer i'r Seven Gomcr, a hyny yn nydd- iau boreuaf y cyhoeddiad clodwiw hwnw, tra yr oedd y Parch. Joseph Harries (Gomer) eto yn fyw, ac yn anterth ei ogoniant <1 chyn tori o hono ei glllon ar 01 ei anwyl Ieuan Ddu. 1!1 Bu Slion y Gof yn ddiacon gweithgar a ffyddlawn o hen egiwys barchus yr Ynysfach (Nebo, Ystrad) am flynyddoedd lawer. Yn ddiweddar, tarawsom ar "Bryddest F.irwnadol iddo-pryddest fuddugol gan ei hen gymydog Nathan Wyn. ac wedi ei chy- hoeddu yn Ilyfryn destlus gan bwyllgor yr y I Eisteddfod. Nis gaUwn wneyd dim yn well na dyfynn ychydig lineliau o honi, er dangos ei nodweddion, gan un oedd yn ei adnabod yn dda :—- "Dyn yn byw yn 11 wyr i'w Geidwad, Dyn a'r fath un ydoedd ef; Dyn a'i galon mewn byd arall, Cyn ei symud tua'r nef; Wrth yr orsedd byddai'n glynu, Minau, at yr orsedd drof; Ar fy neulin ceisiaf blygu, Taer ymbiliaf am gael meddu Ysbryd gweddi Shon y Gof." Gwyn fel od ar ael y bryniau, Claer fel ewyn brig y don, Oedd yr ysgol ddringai fyny Tua'r net, o tron i ffon Ar yr ysgol byddai'n wastad, Dringo'r ydoedd er cyn cof, Dewisiedig flodau cariad, Yn eu harddweh, lliw, a'u ffurfiad Geid yn nghrefydd Shon y Gof." Beth gynyrcha for o ddagrau? Beth a dania'n bronall'n fflam ? Onid hen ndgofion melus, Am gyfocdion tad a mam ? Cyrddau'r plaut" a'r Cyfeillachau," 11el angylion ddont i'n cof, Disgv. yl gweled hen wynebau, Disgwyl clywed hen brofiadau, Addfed saint fel "Slion y Gôf." Er i'r uchelgeisiol sathru Hawliau'r werin o dan draed A thrywanu bron cymdeithas, Nes ei lliwio'n goch a gwaed Er i'n llysoedd a'u cyfreithiau Ddwyn y nwydwyllt lane yn ddof Er i'r wladol gynhyrfiadau, Lwyr ddadymchwel gorseddfeinciau, 11 Beth oedd hyn i Shon y Gof ?" Yr oedd Shon yn hen gymeriad hynod o gywir, hynod o (Ida, ac wedi byw yn hynod o hir yn Nghwm Hhondda. Bu farw yh 81 mlwydd oed, a claddwyd ef yn mynwent capel Nebo, yn ymyl ei hen weinidog cynltaf, y diweddar Barch. D. Naunton. Edwart y Gaffer (Edward Edwards). Yr oedd yn enedigol o Llwyf Eglwyselian. Bu fyw am dymhor byr yn Rymni, ond sym- udodd yn gynar ar ei oes i Daeth i weithio i'r Cymer, tua phum mlynedd a deugain yn ol. Ar ol y "Danchwa fawr" yn nglofa'r Cymer, vn 1856, pan oedd yr hen oruchwylwyr i gyd wedi gorfod dymhor o leijifj^nm^1'"11'1V" T ,llt Ml: 'It' the am a'r gorcubwylwyr new- y'dd* ddeall eu gilydd yn dda. Aeth allan, a gadawodd y cwbl yn y fan Pan ar yr heoi a'i offer ar ei ysgwydd, cyfarfwldodil a ,Mr. Tabez Thomas, yr hwn a ofynodd, Lie I wyt Syn'd, Ned. 0,» ebe Ned, ■; bvw tryda'r set newydd yma. O aios di dfpyn bach, fe ddaw diwrnod arna i eto yn y Cvmer eb'e Jabez. Wel, Arglwydd coha Jc fi nan ddelych i'tli deyrnas,' meddai Ld^ ard. cy ufo'r dyJdiau nesaf, yr oedd y pnf omch- J. wyliwr wedi derbyn awenau y llywodraeth i w di law drachefn, a'r peth cyntaf wnaeth oedd w trn«od Ned yn feistr hauliers. Bu yn or- m uchwyliwr glofaol wedi hyny yn Ty"e^Tdd' Troedyrhiw, Ynysfeio, a Bodnngallt, He di- weddodd ei oes.. 1, n Dyn cymharol fychan o gorffolaeth yd<>edd, am hyny y galwai ei gyfeillion ef yn Ned bach. On^ wrth yr enw''Edw^t y Gaffei^ yr oedd bron a.bod yn fyd-adnabyddus Yr b oedd ei ffraetliineb a'i ddomolwch yn ami tu hwnt i bob desgriliad.. I Meddai ar gof nodedig iawn, a nie<ll'a.lni^,7 r • adnodau o'r Beibl, a darnau. o fatxldomaeth, yn gystal a diarebion Cymreig at ei » Lthf gyda deheudrwycid Vnbm } e pan 0edd D. Evans, Bodnnga.llt, pnf-orlicli wyliwr y Cwmni, wedi disgyn l r lofa, pa^nad i oedd ef yn teimlo yn hwylus iawn i Y) d'hly" is rlrwv v irwaitli, wedi iddo fod i lawr; am ysbaid weddol o hir, ofnai y £ dim iddo, rhag y digwyddai fod rhywbeth allan oleyno. Dywedodd Mr. Evans or diwedd, Mae pobpeth yn right yna welais l ddim y allan o le Dyna fe," meddai y gaffer >n wrtho, chwi ellwch ddweyd am danaf in fe^ ig y dywedodd Pilat am ^'rist, N >y y (•ael dim bai yn y dyn hwn. Byddai Cost Sheet y Lofa yn dyfod l lawjiin waith bob mis, er gweled pa nn M ynOi lawr yr oedd treuliau y gwaith wedi »yne(^ [ mis blaenorol. Nid oedd dim a fedrai gyn Mr, Evans ior aobr a difrif- ol uwchbenV a ,,lie byddai yn dar; a %,vl1J y?SL'!Sf,mf0tharawia.lol, pe byddai nanau m 11YW briodoldeb yn hyny. Williams WFialliiralfmelsd MfP.Aa.r)c.h. D. W. I Wrth yr enw "Fairfield," neu "Williams fairfield?' yr adnabyddid person Plwyf fstrad-dyfodwg, o'r haner ofaf o'r gannf I .lesenol byd ei fedd! Er ei fod wedrym- lfliswvddo o'r offeiriadaeth, a rhoddi ei fyw- nliaetli i fvnv ar favwolaeth ei dad tua'r Hwyddyn 1856, gelwid ef yn offemad am i 1 deugain mlynedd ar ol hyny, er na byddai vn ("weinyddu y swydd gysegredig bono. Genedigol ydoedd o Llantrisant. "Williams, Garth Graban Fawr" gelwid ei dad. Hen frawd hynod ydoedd hwnw. Ond yr oedd y mab yn lil ln notach Yn y Rhondda, ac yn noH-Ti a'r Cwm, y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes! Yn Twyn yr Eryr, ac yn y Pandy wedi hynv, cyn swmud i Fairfield. Yr oedd iby I odrwydd (oddity) yn perthyn iddo, ac yn mhob neth 'a wnai yn wahanol l bobl ereill. E^ y vw yn ddigon dichlynaidd eto vr oedd ayn dipyn o'r n/" ferthr Erl,vnv ei oes Ifor Cwmgwys (John Thomas). Nid Yllvm am lioni fod Ifor yn frodor o'r Rhondda" erioed, erioed," ys dywed pobl Aberdar. A phrin y gellir ei hawlioi fel yn perthyn i hiliogaeth y "gloren 0 gwl> (jnd oan fod gyrfa ei fywyd wedi bod i raddau yn ansefydlog, trwy grwydro o fan i fan ar hyd ardaloedd y gweithfeydd, a'i fod wedi treulio y rhan olaf o'i oes, a gorphen ei yrfa Vn y Rhondda, a chan ei fod hefvd wedi ei osod i huno ei hun olaf yn mhriddellau r dytt- rvn yn mynwent Capel Rhondda, hyd y dydd Pan bydd dorau beddau'r byd, Ar un waith yn agoryd," creihvn fod i ni sail deg i'w hawlio fel un o hen gymeriadau hynod Cwm Rhondda." A dweyd y lleiaf, cymeriad hynod ydoedd Ilor. Meddai ar gryn lawer o dalent, yn ar- benig felly y dalent farddol a'r elfen ddigrifol yn hono ydoedd yr hynotaf a'r amlycaf o hobpeth. Canai yn dda yn y lleddf, ond yn y Hon yr oedd yn fwyaf cartlrefoJ. Yr oedd yn dda yn y pruddghvyfus, ond yn well yn y digrifol a'r cellweirus. Medrai lunio g'alar- gan," ond yr oedd yn ei eifen wrth blethu Gogaugenld." Ar ei gylch-deithiau byddai yn arfcrol o alw yn y Stag, Trecynon, preswylfod ei hen gyfaill Carw Coch. Trodd i mewn rhyw dro wcdi marwolaeth Mrs Williams, y 11 i Wil o'r Stag," fel y gelwid ef. Pan welodd gwi y ty ef, dywedodd, Ifor,fachgen, b'le yr wyt ti wedi bod er ys lawer dydd ? Yr oedd arna'i eisien dy wel'd, er gwneyd englyn beddargraffi Magws." O o'r goren," ebe Ifor, "ond i fi gael tipyn bach o amser." Cei, cei, cynier di dy amser. Llanw'r pcint yma i Ifor, ferch," ebe Carw. Erbyn hyn yr oedd Ifor yn dechreu mwynhltu ei hun yno. Gall wel'd," i.ieddai, "pwy ffordd wyt ti yn byw yn awr ? AVyc ti ddim yn gweithio, debyg gen i ? "Wel na, byw ar y t, a gwerthn rhyw dipyn o fan bethan, tatws yn fwyaf ueillduol. Yroedd yr hen dy yma yn fyglyd iawll cyn ei altro, gwnaeth ddrwg i Magws." 0 ie wirryr wy'n gwel'd, druan o Magws, gwraig anwyl oedd hi wedi'r cwbl," ebe Ifor. "LIanw beint Ifor, cadw'r pcint yn llawn, wnei di," ebe'r Carw wrth y fereli. Wedi i Ifor i yfecl yn gymedrol, hyd at ddigonedd, gwaeddodd ar y Carw, Dere yma yn awr i ti gael clywed yr englyn," a dynia fe O'i thy m\vg yr aeth Magws—o ystwr Wil o'r Stag a'i datws Ac yn y nef hi lefws, Am Wil draw'11 ymyl y drws." Gallesid yn hawdd nodi ugeiniau o engh- reifftiau cyffelyb, er dangos direidi diniwe<T ei anian gellweiruf. Yr oedd yn orlawn o ddon- iohveh, ac ysmaldod o'r fath. Rhyw ddyn crygwrus'" y galwai pobl bro Morganwg gymeriad o fath Ifor. Cystadleuodd lawer iawn mewn gwahanol Eisteddfodau, ac enillodd luaws mawr o wob- ran ar hyd ei oes. I n o'i gineuon rnwyaf poblogaidd, o bosibl, ydoedd ei gan fuddugol yn Eisteddfod Y stalyfera, "Shon Sirgaer a Dan y Cardi yn myn'd i Lundain i wel'd yr ArddangoRfa." Nid ydym am awgrymu mai hono ydyw y goreu o'i eiddo, ond hono sydd yn myn'd gyda'r werin. Teg yw dweyd ddarfod i Ifor wneyd beddargraff teilwng o Mrs. Willi,.titis o'r Stag. Diau pe buasai wedi cael manteision addysg, ac wedi ymroi yn fwy i goethi ei feddwl, a diwyllio ei hun, buasai wedi gadael ei ol ar lenyddiaeth Cymru. (I'w lmrhau.)
CYMRODORION.
CYMRODORION. Nos Lun diweddaf, cynaliodd Com- deithas Cymrodorion Caerdydd eu cyfarfod cyntaf am y tymhor yn y Cory Hall. Llywyddwyd gan Alfred Thomas, A.S. yn absenoldeb anoeheladwy W. Jones, Ysw., A.S. dros Arfon: Traddodwyd darlith ar Ddelieudir Africa" gan y Parch. E. Rees (Dyfed) i gynnlliad lluosog, a chymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan amrhyw o foneddigion ac ereill o'r dref a'r cylchoedd. Nos Fawrth bu Cymrodorion y Rhondda yn cynal eu cyfarfod yn Festri Jerusalem, Ton. Llywydd, E. H. Davies, Ysw. Y.H, Darllenwyd papur rhagorol gan Mr W. T. Rees (Alaw Ddu) ar y "Bardd-Gerddor." .AvUm gan y Parch E' W. Davies, 'Ton, Mri M. John, B. Devonald a John Jones. Nos Fercher ydoedd adeg cynahad cyfarfod Cymrodorion yr Ystrad yn^ festr Bethel. Cymerwyd y gadair gan v n> Nathan Wyn, a thraddodwyd^darhth fuddiol a gwir adeiladol i pnuHeidfa lusoog a pharehus gall.Y ddare I. B h "Robert Hebron, ar y diweddar Barch Robeit Jones, Llanllyfni." „Cymerwydrhanyn v yfarfod gan Mr D. Thomas, D. o. 7 Jones a D. Loughor. Canwyd yn swynol Lros ben gan Miss M. E. Jones, a chwareu- pyd yn fedrus gan Miss S. J. Williams, nerch Alaw Machno.
[No title]
Y mae Sir Redvers Buller wedi cyrhaetld 61 nlwydd oed, oddiar y 7fed cyKsol. Y mae Arglwydd Wolsely bedair mlynedd pn ieuengach nag ef. Blwyddyn ydyw Arglwydd Roberts yn henach na Arglwydd Wolsley. Gwerthwyd eglwys St. Michael, ^assisha^ Llundain, y dydd o'r blaen am £200.. Y rlieswm am yr arwerthiad oedd fod yr adeilad yn dadfeilio. „ Cyfranwyd f,2,291 tuag at Trysorfa. Can- mlwypdol 'y Bedyddwyr mewn cyfarfod a ^ynaliwyd yn Norwich yr wythnos diweddaf. Y mae Francwr, o'r enw M. Yves Guyot, yn proffwydo y gorchfygir y Boeriaid erbyn canol Ionawr.
Advertising
Teeth. Teeth. Artificial Teeth. -=- A REVOLUTION 1 Hitherto the wage-earning public have been debarred by the high prices asked for Arti ficial Teeth, but the WELSH NATIONAL ARTIFICIAL TEETH CO. 32, TAFF ST., PONTYPRIDD, Have revolutionized this, and FIRST-CLASS WORK can be obtained from them at the Br LOWEST POSSIBLE FEES. artial Sets of Teeth from 2/6 per Tooth. Complete Sets of Teeth from 21 5 years' written Guarantee with each set. ( Fhese Teeth have gained over 30 Prize Medals 1nd are unsurpassed for masticating, speak- ing, and natural appearance. Write for Pamphlet and Scale of Fees. CONSULTATIONS FREE, and no charge for Extractions when Artificial Teeth are ordered. Jt2F Only Establishment of this kind in South Wales using Steam and Electric Power. We do not bargain with you; tell us what you want and we will do it. NOTE THE ADDRESS- The Welsh National Artifiolal Teeth Co., 32, TAFF STREET, PONTYPRIDD (Opposite the Tredegar Arms). 49 Printed for the Proprietors, "The Rhondda Leader," Limited, by Evans and Short, at their Printing Works, De Win- ton Street, Tonypandy, and published by William David Jones, at 15, De Wmton Street, Tonypandy, in the County of Glam.