Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
H ilfgesubii. TH$MESSENGIW EXCELLENT MEDIUM 1 FOR ADVERTISING.
Advertising
I §) Aeg£5bb. j Cyfrwng a, ei ol at Hysbysebau IMASNACHOL \RWERTHIAI)AU, EISTEDDFODAU, BYRDDAU CYHOEDDUS j &c.
pinion vt elawen.
pinion vt elawen. "Y Lili Wen." Y lili wen, oleuliw wawr, A dyf yn nghardd y palas mawr; Y lili wen, mewn awyr iach, A dyf yn nghardd y bwthyn bach. Y lili wen, o blith y drain, A wena ar y dduwies gain Y lili wen, Ion eilun ffawd, A wena ar y weddw dlawd. Y lili wen, dan goron wlith, Anwylir gan y blodyn brith- Y rhosyn gwyn, a'r rhosyn coch, j A wylant am gusanu'i boch. Y lili wen, a'i nefawl swyn, A huda angel at y llwyn A rhed angyles hyd yr ardd .Y I'w rhoi ar fron ei cherub haidd, HWFA MON.
CYFFES CYMDEITHASGAR CRISTIONOGOL.
CYFFES CYMDEITHASGAR CRISTIONOGOL. Credaf fod cynydd golud yr ychydig a chyn- ydd t!odi y Huaws sydd yn ei gynyrchu, cchr yn ochr, a gwyneb yn ngwyneb yn antoesol ac yn wrth gristionogol. Credat fed eisiau cyfartalu mwy ar olud y ddaear, fel y bo pawb yn cael digon i fyw yn gysurus a neb yn cael gormod i wastraffu yn bechadurus. Credaf fod gan bob tref a dinas fwy i wneuthur dros fuddianau'r wetin nag y maent wedi ei wneyd hyd yn hyn, megys ataj unigolion a chwmpeini i ymbesgu ar draul y werin, trwy adael iddynt gadw pob peth yn eu dwylaw eu hunain, megys gweithiau dwfr, nwy, trydan, &c. Credaf ei bod yn hen bryd i'r Senedd symud i'r unrhyw gyfeiriad Carwn weled y tir yn holtol rydd o grafangau'r tirfeddianwyr;,hoffwn weled ymgais yn cael ei gwneuthur i fynu rhai o rheilffyrdd y deyrnas yn eiddo'r bobl, y glc- feydd, a llawer o bethau buddiol eraill. Carwn weled pob ty bregus yn y deyrnas wedi ei dynu i lawr, a phawb yn byw mewn amgylchoedd syber. Yn araf y daw gwelliantau, ond yr wyf yn barod i gefnogi pawb fyddo yn gweithio yn unrhyw gylch i wastadhau yr anhegwch pre- senol, ac i osoj pob dyn, dynes a phlentyn yn y deyrnas mewn dedwyddwch perffaith.-G.
ABERDYFI
ABERDYFI Dywedir fod y Trefeddian Hotel, yr hon oedd ar werth yn ddiweddar, wedi cael ei gwerthu ar amod preifat, DIRWEST.—Cynhaliwyd y cyfarfod wythnos- 01 nos Sul, Mr J. Young yn gadeirydd. Tradd- odwyd anerchiadau gan y Parch J, Lewis, Mri J. Lumley, E. L. Rowlands, Y.H., a'r cadeir- ydd, a chafwyd adroddiad rhagorol gan Miss Katie Jones Daeth cynulliad da ynghyd. CYMDEITHAS Y WESLEYAID.-Nos Fercher cynhaliwyd yr uchod yn Nghapel y Wesleyaid, Mr E. L. Rowlands, Y.H., yn y gadair. Tes- tyn y ddadl oedd "A ddylai yr eglsvys gefnogi ymdrechion chwareuol ?" Agorodd Mr J. E. > Jones o blaid, a Mr J. Lewis yn erbyn. Cy- merwyd rhan yn y ddaal gan amryw.
MACHYNLLETH
MACHYNLLETH PRIODAS.—Bore Gwener, y 6ed cyfisol, cy- merodd priodas le rhwng Mr Thos. Jenkins.. Tygwyn, Uwchygareg, a Mrs Catherine Davies, Ceniarth farm, Uwchygareg. Gwas- anaethodd y Parch E. Isaac, yn cael ei gynor- thwyo gan y Parch D H Hughes (B ), yn mhresenoldeb Mr D. Morgan, coflestrydd. LLYS YR YNADON.—Dydd Mawith, Mr Edward Rees yn gadeirydd, cyhuddwyd John Harrison, llafutiwr, o feddwdoj y noson gynt Addefodd y diffynydd ei fod wedi cael Rormod o ddiod tra yn gweithio gyda'r ceuffosydJ. Cafodd, modd bynag, ei tyddhau gyda rhybudd. CYFARFOD MISOL.-Cynhaliodd y M.C., ei Cyfarfod Misol ddydd Mercher, yn nghapel Maengwyn, pryd y daeth nifer dda o ddirprwy- wyr ynghyd. Yn yr hwyr, a thrwy dydd Iau, pregethodd y Parchn Phillip Jones a J. Hughes, M.A., Lerpwl, ac eraill i gynulleidfa luosog.
ABERYSTWYTH *
ABERYSTWYTH SCHOLASTIC.—Mr Clement Edward Davies, ¡ of Trinity Hall, Cambridge, has beeu appoint- ed Lecturer in Constitutioral and Comparative Law at the University College of Wales, Aberystwyth. Mr Davies, who is a native 01 Llanfyllin, was educated at the County School there, and alterwards proceeded to Cambridge He wasfirst in First Class Honours in the First part of the Law Tripos, and obtained a first division in the first class of the Second part. He has also gained some important College prizes and Scholarships He will take up at Aberystwyth the work vacated by Professor Jethro Brown.
-------Jtrnv^nnon.
Jtrnv^nnon. Dywedodd Mr. Osmond Williams fod y Llywodraeth bresenol wedi gwneuthur mwy i amaethwyr yn ystod y ddwy flynedd ddi- weddaf nag a wnaeth y Llywodraeth Dori- aidd mown ugain mlynedd o amser, Anrhydeddwyd Mr. John Thomas, Pen- cordd Gwalia, mewn cinio yn y Clwb Cym- reig yn Jjlundain y noson o'r blaen. Mae'l' Pencerdd, er yn 82 mlwydd oed, yn dirf ac iraid', ac mor ystwyth i "ware dwylo ar y delyn" ag erioed. Dywedir y bydd cwmni yr Ocean Collier- ies, yr hwn y mae Mr. David Davies, Llan- dinam, yn brif berchenog arno, yn ymuno a chwmni arall i wneyd un ewiani cyfyngedig cyhoeddus, ac y bydd y cyfalaf yn daii tuiliwn o bunau. Dywed y "Drych" Ameiieanaidd fod blaid Doriaid 1 yn Mhrydain wedi cyfarfod a dychryn o'r di-Aedd. Yn flaenorol nid oedd arnynt ofn na nuw, dyn, na diafol, ond tystir fod arnynt fraw Cymdoithasiaoth. Daw Cymdeithflsiaeth yn nes i groen y Tori na dim arall er's talwm. Ar dderbyniad dailun rhagorol o'r Parch. T. Gwilym Roberta, gweinidog y Wesleyaid yn Criccieth, ymffUmyohodd un o englynwyr y Canolbarth fel y canlyn:— Hwn yw Roberts ein Itibi,—yn ei lun A'i lawnaf wrhydri Mae'n iawn-mae'n fyw am wn i Yn ei ysbryd a'i asbri. Yr Almaen yw paradwys y bob], yn ol y Diffyn-dollwyr sy'n parhau i breblian ar hyd a lied y >»lad. Dyma un ffaith sy'n weith mil o osodiadau. Y llynedd, meddai I-lyfr Glas y Llywodraeth, yr oedd pris y gwenith yn Mhrydain ar gyfartaledd yn 28s 3c. Yn Berlin, prifddinas yr Almaen, yr oedd yn 39s lc. Mae Mr. Herbert Gladstone, yr Ysgrifen- ydd Caitrefol, yn "amartiach" dyn nag a dybid. Derbyniodd ddirprwyaethau oddi- wrth Ddirwestwyr Ymneillduol, DirwesWyr Eglwysig, gwerthwyr y ddiod, y "barmaids" a chyfranddalwyr y cwmniau brag, ynglyn a'r Mesur Trwyddedol nowydd, yr hyn fydd o dan ei ofal ef, ac fe roddodd lwyr foddlon- rwydd iddynt oil! Barn yr "ysbryd newydd" yn mysg yr Undebau Llafur ydyw mai gwastraff an- effeithiol ydyw'r gwario ar "sefyll allan" fel arf i'w dofnyddio gan y gweithiwr. Yn hytrach, meddant, rhodder yr arian at gael cynrychiolwyr Llafur i'r Senedd a'u cynhal yno, oherwydd trwy ddeddfwriacth y mae codi safon bywyd y dosbarth gweithiol. Oyfrifir fod "Federation" mwnwyr y deyrn- as wedi gwario miliwn a chwaiter o bunnau ar "sefyll allan" yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf, digon i rodeg a ohynhal cant o gynrychiolwyr Seneddol. Brwydr fawr Kansas City yn awr yw Cadwiaeth y Sab both a Diddymiad y fas- nach feddwol. Mae y Barnydd Wallace wedi rhoi ei holl egni allan i gyfodi y Sab- both, yr hwn oedd mor isel yn y ddinas. Gwna ymosodiad ar y chwareudai, y rhai oeddynt yn Ilawnion ar y Sabbothau; ac mae y frwydr yn barod wedi mynod yn boeth, ac nid yw y gwr hwn yn cael pawb o broffeswyr crefydd i gynal ei freichiau. Dywed y gwrth-Sabbothwyr .ein bod wedi tyfu uwchlaw y Deg Gorchymyn fod Paul a Cdlfin yn eu beddau, ac nad oes angen eu eyfodi. Mae anhwylder y Prif-Weinidog Camp- bell Bannerman yn achos cryn bryder yn rhengoedd y Rhyddfrydwyr, ond nid oes eisieu ymddigaloni, oblegid y mae digon o dalt nt yn gyfleus at law y Weinyddiaeth, er y cydnabyddir fod gwasanaeth y Prif-wein- idog yn wir. werthfawr. Mae yr Ysgotyn sydd wrth ben y llywodraeth yn ddyn o ddoniau ac o uniondeb uwchraddol gyda'i fod yn Rhyddfrydwr ag awydd symud yn mlaen ynddo. Mae a'i fryd ar newid y drefn bresenol i leshau cymdeithas yn gyff- redinol; ac felly y mae yr ymollyngiad presenol yn golled i wareiddiad. Y dys- gwyliad yw y dygir y gwaith da yn mlaen yn y tymor ar ddyfod, ac y bydd 0. B. yn ddigon cryf i ail-yraaflyd yn ei wflith.
PENOD Ylt ENWOGION.
PENOD Ylt ENWOGION. MR, RICHARD BELL, A.S. Ganwyd Mr Bell yn mhlwyf Penderyn, Brycheiniog—ar derfynau Morganwg-yn 1859. Yr oedd ei dad yn rhingyll (sergeant) yn heddlu Morganwg. Cafodd y bachgen Richard ei anfon i'r ysgol-y fath ag a geid ar y pryd-yn Merthyr Tydfil-ysgol eglwysig i ddechieu, ac yn ddilynol i ysgol genedlaethol Pan yn 13 oed dechreuodd enill ei dam aid fel office boy yn ngwaith Dur a Haiarn Cyfarthfa. Pan yn 16 oed symudwyd ef o'r swyddfa i'r engine room, gan wneyd taniwr o hono. Tra wrth y gorchwyl hwnw y daeth gyntaf i gyffyrdd- iad ag undeb llafur. Aeth y gofaint ar bt eic, a gofynwyd i "Die" ac eraill oeddynt yn gweithio yno gymeryd lie y rhai oedd wedi streicio, a gwneyd y gore o'r gwaetha megys. Fe wrthododd ynt-tti yn beudant; ac er fod ei dad yn bwrw drwyddi ac yn bygwth, daliodd at ei air. Dywed rhai i'r hen wr ei droi dros y drws, ond nid oes aier- wydd am hyny, ac y mae Richard Bell ei hun yn gwrthod dweyd dim y naill ffordd n t'r Hall ar y pwynt. "MWn anodd con ''r cwbl ddigwyddodd y pryd hwnw," meddai. Sut bynag, anrhogod i y Cwmni ef ag urdd y sach, ond cyn hir fe'i cymerwyd yn ol drachefn, a bu yn gweithio yno gyda'r naill orchwyl neu'r Hall hyd 1876. Y pryd hwnw cafodd waith fel porter ar y Great Western yn Meithyr. Yn mhen dwy flynedd, cafodd ei wneyd yn head guard. Bu yn y swydd hono—yn Mhontypool Road—hyd 1886, pan symudwyd ef i Aber- tawe. Tua'r flwyddyn hono ymunodd a Chymdeithas Unedig Gweithwyr y Rheil- ffyrdd-yr Amalgamated Society of Railway Servants f a'r peth cyntaf bron wnaeth yn Abertawe oedd myn'd ati i ffurfio cangen o'r Gymdeithas, Fe lwyddodd; a gwnaed of yn ysgrifenydd. Ymdaflodd i'r gwaith o gael ei gyd-weithwyr yn Undebwyr, a chor- onwyd ei ymdrechion tuhwnt i'w ddisgwyl- iadau mwyaf hyderus, a chyn hir daeth Richard Bell a'i gyd-aelodau yn "allu yn y tir" yn y gymydogaeth. Daeth ei ymdrechion yn y cyfeiriad yma dan sylw y cwmni, ac fe "gydnabyddwyd ei allu a'i ddiwydrwydd yn ein gwasanaeth" drwy ei symud i ryw ben draw'r byd o le o'r enw Carnbrae yn Nghernyw. Ond nid un i'w ddigaloni gan anhawsderau y tir ydyw ef, ac yn mhen ychydig fisoedd yr oodd canghenau o'r A. S. R. S. yn britho cymydogaeth Carnbrae. Cyn hir, fodd bynag, yr oedd ei gyfeillion yn Abertaw e yn erfyn arno dd'od yn ei ol yno. Cytun- odd i dderbyn eu "galwad." Y trefniad gyda hwy ar y dechreu ei fod i gael 12s yr wythnos fel 'out of work pay' o'r Gymdeith- as, ac fod y gweddill o'r swm angenrheijliol i wneyd i fyny ei gyflog i' w danysgrifio gan aelodau yr Undeb yn y gymydogaeth. Yn 1893 gwnaed ef yn ysgrifenydd trefniadol, ac ar ol pedair blynedd o lafur caled a llwyddianus fe'i hetholwyd yn 1897 yn Ysgrifenydd Cyffredinol y Gymdeithas ac y mae wedi dal y swydd hono hyd yma. Dyna'n fyr ei yrfa. Beth am ei ymddan- gosiad yn y cnawd, ei bersonoliaeth, a'i ddaliadau ? Yn gyntaf, Cymro ydyw. Nid Cymro o waed, feallai, ond Cymro o iaith a thrigiad o leiaf. Sieryd Gymraeg mor ddi- lediaith ag unrhyw Gymro. 0 ran pryd a gwedd, dyn o daldra canolig, rhyw bump a saith, ydyw Richard Bell. Y mae erbyn hyn yn tueddu ychydig at fod yn gorphol. Mao golwg ddigon rhadlon a chysurus arno. Ni fuasai neb wrth edrych arno yn meddwl ei fod yn "labor agitator." Nid oes dim o arddull y 'trilby hat brigade' yn perthyn iddo. Edrycha fel ffarmwr 'lied dda arno,' fel y dywedir. Tra nad oes dim yn ei olwg yn awgrymu ei fod yn wr o gyrhaeddiadau meddyliol uwchlaw y cyffredin, y mae un gipdrem yn ddigon i roi ar ddeall i un ei fod cyn belled ag y mae ei gyrhaeddadau a'i wybodaeth yn myn'd yn gwybod ei fusnes yn drwyadl drwyddo draw. Nid yw teithi ei feddwl na'i ddull o fyn'd o gwmpas pethau, fodd bynag, ddim tebyg i ddull y myn traddodiad y tadau ei alw'n "Gymreig." Nid oes dim tanbeidrwydd a brwdfrydedd—(yn ystyr gyffredin y gair)- yn ei nodweddu ni bydd byth yn gwneyd i gynulloidfa golli arni ei hun yn nghanol gwres eirasboeth areithyddiaeth. Nid yw fawr o areithiwr nid yw yn gwybod dim am y milffyrdd ddefnyddia'r orator i gyffroi teimlttdau ei wrandawyr. Nid gwneyd araeth y bydd, ond siarad a'r gynulleidfa. A dyna ddirgelwch ei allu a'i ddylanwad. Y mae ganddo y rhywbeth aneffiuiadwy hwnw sydd yn gwneyd i bobl deimlo y gall- ant ymddiried ynddo. Ond y mae un nodwedd hollol Gymreig o leiaf ganddo, y rhywbeth aneffiuiadwy hwnw mae mor ystyfnig ag asyn; 'does dim a'i symudo. Dyma'r gwahaniaeth sydd rhyngddo a'i gyd-swyddog James Holmes. Gwelwyd "Jimmy Holmes" yn gwneyd cynulliad yn chwilboeth ulw mewn deng munyd, ond nid oes fawr o ddal atno. Pdn fy(M dyrysb" nc i'w ddadrys yn rliywle, lie y bydd gofll, amyne Id, a diysgogrwyd I yn angenrheid- iol—"Send up for 'Dil'k' Bell" fydd y gorchymyn y pryd hwnw. Fel gwleidyddwr, nid yw wedi tynu fawr o sylw ar wahan i'w waith yn gwrthod yrn- uno a Phlaid Llafur yn y Senedd. Fel y gwyr y darllenwyr, nid yw ef yn gytun a llawer ar y pwac hwnw. Efcholwyd ef yn gyntif dios Derby yn 1900 -blwyddyn y "Khaki Election," pryd yr enillodd ef a'i fyd aelod Radicalaidd ddwy sedd oddiar y oriaid. Ail etholwyd ef y llynedd. Ar wihin i gwestiynau ynglyn ag Undebaeth Ltaf ar, Rhyddfrydwr a Rhyddfrydwr cymedrol iawn hefyd, yw Richard Bell. Ni ehymer fawr o ddyddordeb m&wn cwestiynau cymdeithasol, ac nid yw wedi dangos dim cydymdeimlitd a'r thai ellir alw yn Collect- ivist Radicals. Nid yw cyn belle t yn rnhen o liwer ar y ffordd hon a Chiozza Money, A.S., er engraipht, ac yr ydym yu ofni nad yw yn barod i gyd-deithio a rhai fel Ellis Davies, A.S., a Cletneiit E [waids, A.S. Nid yw yu ciedu yn g»yf-(«s o gwbl) -yu qgenedlaetfiolirtd y rheilffyrdd. Fe ddad- ganodd ei nmheuaeth ar y cwebti wo hwn yn Nghynadledd ei Gymdeithas wythnosau yn ol. Ein cred ydyw y gall Richard Bell—(ac amryw eraill allwn enwi)—wneyd gwell gwaith oddi allan i'r Senedd na thu fewn. Tra nad yw ond gwleidyddwr digon cymed- rol, credwn ei fod gyda'r arweinydd Llafur mwyaf deheuig, pwyllog a gonest yn y deyrnas.
YSBEILIO'R CYFLOG-DDYN.
YSBEILIO'R CYFLOG-DDYN. Bu Mr Arthur Henderson, A.S. (cynrychiol- ydd Llafur dros Barnard Castle) yn chwilio yn ddiweddar i'r gyfran a delir gan gyflog-ddynion y deyrnas o fil diod y wlad hon. Yr oedd y bil y llynedd yn gant a thriugain a chwech o filynau (166,ooo,000p ), a thalodd y gweithwyr allan o'u cyflogau, gant a deg o filiynau (iio,ooo,ooop ), gan adael i'r cyfoethogion dalu 56,ooo,ooop. gweddill. Beth pe y t.euliasai y gweithwyr y miliwnau ar eu bwyd- ydd a'u tai, ar ddillad a llyfrau; y fath wahaniaeth a wnaethai hyny yn eu hamgylch- iadau cymdeithas j1. Hebllw bod y penaf o ladron byd, gan dlo li dynion hyd greulondeb, y mae Llyfr Glas y Llywodraeth a ddarparwyd ar gais Mr Sam Woods (an arall o Aelodau Seneddol Llafur) we li dat,, uddio ffaith arall. Nid oes amheuaeth bellach nad y fasnach feddwol yw y meistr caletaf. Sylwer ar y ffaith a ganlyn o Adroddiad y Llywodraeth. Allan a bob gtteith can' puot o gynyrch mewn cloddfeydd, adeiladu llocgau, gwneyd dociau, ffyrdd haiarn, poithladdoedd, gweu gwlan a chotwm, malu yd yn flawd, gwneyd peirianau, a'r cyffelyb, telir o bum' puot ar hunain i haner can' pu-it mewn cyfloi- au tra na t^ieliro werth can* pu it o gynyrch y fasnach feidwol on 1 stith buot mewn cyflog- au. A pedwar ugaiu a tluir o'r cant punt i logellau y darllawyr, a'r saith bunt arall i'r dynion gynyrchodd y gweit!i can' punt drwy eu llafur. "le," ebe Mr Sam Woods "meistr caled yw y fasnach feldwol. Pe y dodid y cyfalaf sydd yn merweJd-dai'r ddiol mewn ffurfiau eraill o ddivydrwydd, diflanai angen- octyd a dim gwaith allan o'r wlad yn gyfan- gwbl." Gresyn na ddeill.Ai y weiin yn glir mai llafur yw eu cyfalaf hwy. Nis gallant ddefayddio eu cyfalaf i'r fantais oieu heb iechyd. Gild anghuhr beunydd na fedd iechyd elyn ffyrnicach na diota a meddwi.'
CYMRU A'R FYDDIN.
CYMRU A'R FYDDIN. Er pan gymeroJd Mr Haldan: yr awenau fel Ysgrifenydd Rhyfel, bu chwyldroad mawr yn y Fyddin. Ad-drefuwyd y gwahanol gatrodau, penodwyd swyddogion newydd, a chymerwyd y moddion goreu i wneyd y Fyddin yn effeithiol, a hyny rated ag sydd yn ddichonadwy. Rhaa- wyd y Fyddin fawr i adranau o fyddinoedd. Gyda golwg ar y rhanu yma, coJwyd y cwes- tiwn, pa le y s .if Cymru ? A gaiff hi beacad- lys milwrol ? Ni cheir atebiad hyd nes y bydd Cymdeithasau Sirol Cymreig yn abl i ddwyn yn mlaen dystiolaeth yn dangos y gallant ddar- paru lluoedd ar gyfer adran cwfidwn. Dy..ed Mr Haldane, foJ y cwestiwn o safle pencadlys yr Adran Gymreig o dan ystyriaeth.
TOWYN
TOWYN Y GYMDEITHAS DDADLEUOL —Cynhaliwyd y Gymdeithas hon dJydd Mawith, o dan lyw- yddiaeth y Parch R. R Williams, M.A. Y testyn oedd "A ydyw yn ddyledswydd ar Eglwysi Gristionogol drefnu difyrweh i'r bubl ? Yr oedd y mwyafrif o blaid. YSGOLORIAETH.-Cafodd Mr Herbert E. Jones, Abardyfi, yr hwn sydd yn meddiant ysgoloriaeth o 8op o Goleg yr lesu, Rhyd- ychain, ei anrhegu gydag ysgoloriaeth chwan- egol o 12P y flwyddyn am ei waith rhagorol yn ystod y flwyddyn derfynol. Mae Mr Jooes yn frodor o Aberdyfi, ac yn un o hen ysgotheigion Ysgol Sirol Towyn.
CYSUR Y BEIBL.
CYSUR Y BEIBL. Pa faint o ddaillen sydd ar y Beibl bob dydd, yn yr amseroedd hyn, tybed ? Blwch dyddan- wch yw. Dyma rai o gyfarwyddiadau i agor y blwch sanct iidd hwn Os ydych yn iset feddwl, darllenwch y seith- r. I Salm ar liugain. Os ydyw eich pwis yn wag, darlleuwch yr ail ar bymtheg ar hugain o'r Salmau. Os ydych yn colli eich ymddiried yn mhlant dynion, darllenwch y drydedd benod ar ddeg yn cyntaf Corintliiaid. Os yw pobl yn ymdiangos i chwi yn angharuiidd, darllenwch y bymthegfed banol yo Efeogyl loan. Os ydych yn ddigalon oblegid eich gwaith, dar- llenwch y chweched Salm ar hugain wedi y anfed. Os ydych yn gweled y byd yn myned yn llai, a chwithau yn fwy darlleawch y bed- waredd Salm ar bymtheg. Os na ellwch gael eich ffordd eich hua ya mhob peth byddwch ddistaw a darllenwch y drydedd benod o Iago. Os ydych allan o hwyl darllenwch y ddeuddeg- fed benod yn y llythyr at yr Hebreaid. Penod heddwch ac addewid a gewch yn y bedwaredd ar ddeg o loan-y geiriau melusaf a ddefnynoid oddiar wefusau yr lesu gwiw. Penoi yr enedigaeth newydd yw y drydedd o loan. Dyma yr ollo ,i Beibi mewn un benod. Penod y iuddu^oiiaeth a gewch yn yr 8fed o'r Rhufeiniaid. Yn hon y ceir cri rhyfel y Crist. ion. Salm y diogelweh tragwyddol yw y xci. Vn hon y mae addewid, ihagluniaeth ac am* ddiffyni rd. Penod y gorchymyn yw yr 2ofed o ExoJus. Y mae cytraith a ch triad wedi uno yn yr Efengyl, Y benod brydferth yw y burned o Mat hew. Yma ceir gwynfydau, bendithion, gloywder a brawdgarwch, Penod y colli a'r cafwyd yw Luc y J sfed, Dafad, darn arian, y bachgen, yr oil wedi eu colli a'r oil wedi eu Gael. Yr ail o Actau yw penod y Pentecost-y diwygiad nad oes byth ddiwedd iddo. Penod y cad ld yw i Cor. i i cariad na wyr ddim am derfyn mewn gallu na lie. Penol y Nefoedd yw yr 2Bin o'r Datguddiad. Dinas 0 aur, gyda iachawdwr, seintiau a chan. Penod y cymeriad yw y ggain o Job. Crist yn rheoli yrnddygiad, ac ymddygiad yn gwneyd cymeriad. Penod yr adgyfodiad yw I Cor. 13. Y mae y benod hon yn symud i ffwrdd holl 6fn nnrw. "Am fod fy Iesu'n fyw, Byw hefyd Íf<id ei saint." Penod yr lawn yw Esaiah 53, Dyma benod fwyaf (nid hiraf) yr holf Feibi i gyd. Yn Diar- hebion y 3ydd ceir pentl y doethineb—crynod- eb o wirioneddau gwir bwrpasol i ddynion ieuainc, a phenod y ffyid yw Hebreaid yr neg. Yn hon y ceit goleuni ar ifynhonell y galiu i symud mynyddoedd. Penod y farn yw Rhuf- einiaid y q.eg. Dyma reol bywyd mewn materion o gydwybod. Salm yr afrad.'on yw y 51. Dyma weddi p8\) edifeirioi. Penod y gwaith (neu yr haner arali 9 Hebreaid i i) yw lago yr 2il. Penod y dychweledig yw y 12fed o Esaiah. Y mae hon yn gynorifowy i bob un sydd yn dechreu ar y bywyd Cristionagol. Penod yr "aroswch ynof fi" yw y i5fed o loan. Y mae pob adnod ynddi yn ddernyn e aur pur. Dyma benod y deuwch, yw yr hon a geir yn Esaiah y 55ain. Dyma y gwahoddiad breoinol i wledd tawr yr efengyi dragwyddol. Y 12 fed or Rhufeiniaid yw penod yr ymgysegriad neu olwg ar lwybr y pererinion i fynydd Seion. Y benod ddiwaeloi yw Ephesiaid y 3ydd Dyma add- ewidion sydd uwchlaw dirnadaeth ddynol. Penod y croeshoeliad yw loan y 1 geg, a'i chynwys hi yw Yr hen, hen hanes, Am lesu a'i farwol glwy. Dywed am y modd a'r paham y bu farw yn ein 4lle. Actau y gyntaf sydd benod yr esgyn. iad. Ei fynediad a'i ddyfodiad, Cofier mai Gair Duw i ni yw y Beibl. Dar. llener ef fel pe byddai lythyr oddi wrth ein hanwylaf gyfaill. Cofier fod rhai rhanau an- hawdd eu deall yn y Beibl. Pan y deuir ar draws y cyfryw eler heibio iddynt nes d'oi o hyd i rywbeth y gall yr enaid wledda arno (2 Pedr 3: 16). Cofier fod Gair Duw yn effeith- iol i drawsffurfio y sawl a'i cred, pan yr astud- ier ef ac felly astudier ef o oehr ffydd, yn hytrach nag ochr deall (1 Thes. 2 15). Cofier fod ar yr enaid gymaint o eisieu Gair Duw ag sydd ar y corph eisieu eyahali ieth felly trefn- er amseroedd rheolaidd i'w astulio. Pan ddaw yr amser hwnw heibio tafier o'r neilldu bob busnes arall mor gyson ag yr ydys yn myned i gyfranogi o'n prydiau bwyd (Matth. a 4.).- MORIEN MON Huws.
ABERLLEFENNI
ABERLLEFENNI CROESAWIAD.-Creivyd cryn gynwrf yn yr ardal dawel hon prydnawn dydd Mawrth cyn y diweddaf ar ddychweliad par priodasol, sef, Mr Michael Roberts, goruchwyliwr y chwarel, a'i briod, o'u mis mel. Daethant 1 fyny mewn cerbyd cauedig o Machynlleth. Wrth Tre- mafon, dadfachwyd y meirch, cylymwyd rhaff- au wrth y cerbyd, thynwyd ef a hwythau ynddo gan y gweithwyr i Aberllefenni Hall. Blaen- orid yr orymdaith gan chwech o fflamdorchau. Yr oedd ffenestri yr holl dai wedi ei goleuo a chanwyllau, y creig-fagnelau yn taranu, a'r bobl, yn wyr, merched a phlant yn gwresog longyfarch y p&r dedwydd ar eu dyfodiad. Darparwyd swper i nifer 0 gyfeillion a pherth- ynasau Mr a Mrs Roberts yn ei cartrefle yn yr hwyr;