Qeiuioti 12r Awclx. ATTE FRYNIAU SIR FEIRIONYDD. GAN BBYPDIR. Braicb anturiaetli gvvelir hon Yn creithio bron y mvnydd, Nes bydd calon masnach gref haul y nef yn llonydd, Efo'r oes y myn fawrhau Aur Fryman Sir Feirionydd. Chwery gwawr amserau gwell Ar fanau pell Gwynfynydd, Cana'r Fnwddach ar ei rhawd v Eu molawd yn y nentvrld Caiff ddifyr hoen, caiff ddyfrhau Aur Fryniau Sir Feirionydd. Pyncia Pistyll Cain gerllaw Yr alaw i'r chwarelydd, D'wed fod ganddi aur ar log Yn nghlust Caegwernog beunydd Gyda'r nef myn gadnrnhau Aur Fryniau Sir Feirionydd, Ar riniog aur Arenig gu Llaw dyfais fu yn ufudd, Blino celf wna Blaenycwm At lechwedd llwm y mynydd; Bu bronau heirdd svdd am brinhau Aur Fryniau Sir Feirionydd, Bywiol fsen sydd yn Belle Yue, Medd tafod rhyw hanesydd, Paw -Tafottv vii ei tbro I geisio cludo'u clodydd; Goleu roint i eglurhau Aur Frvnia-Li Sir Feirioiiydd, U).}o, gyda'r Clogau glan A wna Oarndochan beunydd, I ariadlu salmau clod Dros Fanod i Drawsfynydd, Tlii D,wyfol for fu'ii dyfal ha-a Aur Fryniau Sir Feirionydd.
CRYBWYLLION MASNACHOL. Hyd yn hyn, nid yw rhagolygon y gauaf yn or-addawot. Disgwyliwyd y svmbylasid masnach pan gvhoeddwyd rhyfel yn Ne Affrigv Ar y pryd, yr oedd cryn anturio mewn archeb- ion. Y mae dylanwad ar fasnach llafur gan y milwyr a,ddychwelasant o'r frwydr ond ym- ddengys nad oes digon o waith i'w haner. Tuedd y cyflogau yw myned i lawr. Nid oes arwyddion gwella i'w canfod vn y fasnach ledr. Ni fu mis cyn waethed a'r di- weddaf er's llawer o amser yn Northampton. Mae y fasnach mewn drvUiau yn Mirmlngham yn dioddef cymaint oddiwrth v gystadleuaeth rhwne- Belgium a'r wlad hon. fel yr anfonwyd tivnion i Brussels i chwilio i fewn i'r mater. Edrvehir ymlaen at adroddiad y dynion hyn. Y mae v Belgiaid vn derbyn gwell addysg gelfvddydol, a chanddynt amgenach peirianau na ni, Teimlir effeithiau y gystadleuaeth rhwng yr Almaen a'r Eidal yn y fasnach ddur. Daw lluaws o archebion o'r Unol Dalaethau, a dichon y bydd i hyn gynorthwyo ein masnach mewn haiarn drwv'r gauaf Y mae sefyllfa masnach glo, yn Nghymru, ac yn Ngoeledd Lloegr, y fath fel mai peth bychan a achosai helbul. Cyfyd anghydfod o hyd rhwng y meistri a'r gweithwyr, a eherirymlaen rhyw gwerylon bychain mewn dull heb fod yn fodd- haol. Ond y mae y rhai sydd yn adnabod y fasnach oreu yn argvhoeddedig V bydd i bethau wella Diau y bydd i'r gofyn da sydd am y glo yn awr fod yn llesol.
CATHOD BRENHINOL. Fe all cath edrych ar y Brenin,' sydd hen ddywediad a phan oedd y brenin a'r frenhines yn ystod eu ta ith drwy Ynys Manaw vn gyru drwy un o'r mftn. bentrefi ar eu ffordd i Bishop- court, yr oerld cath ddi-gynffon ar ben gwal gerllaw rhyw futhyn, ac yn ymddangos fel yn cymeryd dyddordeb vn yr hyn oedd yn myned ymlaen. Yr oedd y Frenhines wedi clywed am rinweddau cathod Ynys Manaw, a darfu i'r gath oedd ar y mur dynu sylw neillduol a pheri peth difyrwch i'w Mawrhydi a'i phriod yn gymaint felly fel y darfu i'r parti Brenbinol cyn eu hymadawiad o'r Ynys, roddi cyfarwyddiadau i'r Meistri Alldritt a'i Frodyr, o Ramsey, i anfon dwy o'i rhvwocaeth i Gastell Balmoral, a a dwy arall i Balas Buchingham.
DAMWAIN I ARLYWYOD AMERICA. Gohebydd Reuter a ysgrifenai o Pittsfield, Mass., ddydd Mercher, i hysbysu fod Mt. Roosevelt, Arlywydd America, wedi cyfarfod A damwain. Fel yr oedd yr Arlywydd a nifer o gyfeillion yn teithio mewn cerbyd (drag), o Pittsfield i I.enox, tarawvd y cerbyd gan gerbyd trydanol Lladdwyd ceffylau y drag, a niweid- iwyd amryw o'r cwmni Cafodd yr Arlywydd ycnydig friwiau ar ei wyneb. Dywedir fod cudd.swyddog o'r enw Craig, yr hwn a ddHynai yr Arlywydd, wedi ei ladd ac i ben Pratt, y pyriedydd, gael ei anafu yn ddirfawr. Niweidiwyd hefyd Mr. Cortelyn, ys- grifenydd yr Arlywydd. Cymerwyd i'r ddalfa gyriedydd y cerbyd trydan, a'r cotidtictor hefyd. Cafodd y cyntaf ei anafu yn dost.
CANEUON TALHAIARN. Yr wvthnos yma, cyhoeddir 'Caneuon Tal- haiarn,' set detholiad o farddoniaeth gwr fu unwaith yn dra adnabyddus yn y byd eistedd- fodol. Y detholydd ydyw y Parch. R. D Rowland (Anthropos), lienor a bardd ag y mae ei enw yn dra adnabyddus yn Nghymru Yn ystod y blynycidau diweddaf, dygo id An- thropos amryw lyfrau allan o'r Was- v rhai a gawsant air canmoliaethus y beimiaid, ac a lawenychasant galon ac a oleuasant ben y darllenydd. Diau y bydd Caneuon Tathaiarn' yr un mor ddarllenadwy gan y cyhoedd. Gan ychydig y mae gweithiau Talhaiarn, ac nis gellir eu cael ar werth yn unman ond dyma i'r cyhoedd gyfle i bwrcasu detholion o'i waith.
NODION A NEWYDDION. Y gwladweinydd disgleiriaf yn Senedd Am- erica yw Mr. Spooner, o Wisconsin. Efe yw arweinydd y Gwerinwyr. ELo nid yw ei enw yn adnabyddus o'i tu allan i America. Daliwyd pysgodyn a elwr' royal sturgeon' ar lanau yr Iwerddon. Yr oedd yn ddeg tioedfodd o hyd, a phwysai chwe' chan' pwys. Bu farw saith a deugain o bersonau yn nhref Leicester yr wythnos ddiweddaf; ac o'r nifer hwn dioddefui chwech oddiwrth y cancer-afiechyd, meddir, sydd yn myned ar gynydd yn y deyrnas. Gohebydd o Efrog Newydd a fynega yr amcangyfrifir fod streic y glo yn Pennsyl- vania wedi costio yn barod 18,400,000p., a dros 42,000,000p. yn oym-ychioli y cyflogau a gollwyd gan y dynion. Y mae Mr. George H. Allen, Leicester, ar fedr gwneyd prawf ar nertli llysieufwyd. Ar y 13eg o Fedi, efe a geisia gerdded o Leices- ter i Mansion House, Lluudain, pellder o 97; o filldiroedd mown 20t o oriau. Y mae yn Sydney a Melbourne, Awstralia, gyfraith sydd yu gwahardd i gerbydau gael eu gyru yn gyflym ar y Sul heibio addoldai pan fyddo gwasanaeth crefyddol yn cael eu cynal ynddynt. Cosbir pwy bynag a dros- eddo y gyfraith yma, Cyhoeddwyd adroddiad y Trysorlys am Ebrill laf hyd Awst 30ain, ac mae'r fflgyrau fel y canlyn:-Derbyniadau 52,291,631p.; treuliau 82,029,835p; gweddillion 3,744,598p Am y cyfnod eyferbyniol :-Derbyniadau 45,638,399p.; treuliau 93,64. 7, 774p.; gwedd- illion 4,316,3l7p. Gofynwyd i gadeirydd Cyngor Dinesig I Rhyl i alw cyfarfod o'r trethdalwyr i ystyried y mater o anfon dirp; wyaeth i Eisteddfod Genedlaethol Bangor i ofyn am gael cynal Eisteddfod Genedlaethol 1904 yn Rhyl. Yr oedd yr Eisteddfod a gynhaliwyd yno rai blynyddau yn ol yn llwyddiant arianol. Wedi ymddiswyddo o ofalon gwleidyddol, mae Arglwydd Salisbury yn bwriadu treulio gweddill ei ddyddiau i wneyd ymchwiliadau gwyddonol, ei hoff efrydiaeth. Y mae ei fferyllfa yn ei breswylfod yn Nice wedi ei chyflenwi a'r peirianau a'r dyfeisiau di- weddaraf. A ei arglwyddiaeth i Nice yn nghorph y mis nesaf. Deng mlyneld a thriugain namyn un i dydd Iau diweddaf, y llawnododd y Brenin William IV. Ddeddf Rhyddhad y Caethion trwy yr oil o'r tiriogaethau Prydeinig, ond ni ddaeth i rym am agos i flwyddyn wedi hyny. Talwyd ugain biliwn o bunau gan y Llywodraeth i berchenogion y caethion fel ad-daliad. Am y waith gyntaf yn hanes dinas Dublin, bydd i gynrychiolydd llafur gael ei ddewis yn Arglwydd Faer Dublin am y flwyddyn 1903. Ei enw yw yr Henadur Dowd, ac y mae yn aelod o Gyngor Undebau Llafur Dublin. Oaniateir i'r Arglwydd Faer y swm o dair mil o bunau yn y flwyddyn a thy. Y mae Mrs. Mac Queeney, enw morwynol yr hon oedd Kate Livingstone, wedi cyraedd yr oedran teg o 107 mlwydd oed. Yr oedd yr enwog Dr. Livingstone, y Cenhadwr Aff- ricanaidd, yn gefnder iddi. Y mae yr hen wraig yn byw yn weddol gomfforddus yn Ynys Mull, ond y mae ei golwg a'i chlyw wedi methu yn llwyr. Yn Glasgow y mae iddi ferch, hithau bellach wedi cyraedd ei thriugain mlwydd. Slatington, Pa., Awst 12.—Yr wythnos ddiweddaf, talodd Cyrus ymweliad a'n bro ar ran chwarelwyr Bethesda. Y Sabbath y bu yma fe wnaeth ei hun yn bob peth i bawb er mwyn yr achos y mae wedi do'd o'r herwydd. Yn y boreu, aeth i wrando y Parch. Abel J. Parry, D.D., Rhyl, yn pre- gethu yn addoldy liardd y Bedyddwyr. Yn y prydnawn aeth i'r ysgol at y Methodistiaid lie y traddododd anerchiad ar sefyllfa yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Yn yr hwyr, aeth i addoldy yr Annibynwyr. Gohebydd o Brussels a ddywed fod y Cadfridog De Wet, i fyny i adeg ei ymad- awiad am Loegr, yn brysur gyda'i lyfr ar ryfel Deheu Affrig, a bod yr awdwr yn gobeithio y bydd yn barod i'r wasg ymhen oddeutu mis o amser. Bydd i'r gwaith ym wneyd a phrofiadau personol yr ysgrif- enydd yn ystod y rhyfel, a bydd i'r elw oddiwrtho gael ei gyflwyno i'r drysorfa i gynorthwyo y Boriaid sydd yn cael ei sefydlu gan y Cadfridogion. Bydd i'r adioddiad swyddogol Boraidd o'r ymgyroh gael ei ysgrifenu ymhellach ymlaen gan y Cadfrid- ogion Botha, De Wet, a Delavey.
YR 1HOMILETICAL REVIEW.' Y mae yr Homtletical Review yn gyhoedd- iad sydd yn fwyd a diod i ganoedd o bregeth- wyr yr Unol Dalaethau, ac y mae a ganlyn yn friwsionyn o hono:— Yn gyntaf, y mae gan Proff. Sayce erthygl ar Goleuni Newyddaf o'r Aifft,' ac y mae efe yn ddigon o ddyn i gael gwrandawiad pawb. Wrth draethu am y darganfyddiad diweddaraf, dywed :-( The veil that so long covered the beginnings of the Egyptian monarchy has at length been lifted, and we have learned that the traditional account of it, which the (higher criticism had demonstrated to be 'fabulous' and mythical,' is after all absolutely correct. And what is more, the tacit assumption of the late introduction of the art of writing, which underlies the arguments of the higher criti- cism is once more shown to be false. The fact, however, has its moral, the method and principles which have failed so disastrously when applied to early Egyptian history are not likely to be more successful when applied to Hebrew history.' Yn nesaf, ceir erthygl gan Dr. Burrell, New York, ar y diweddar Dr. Talmage, ac y mae yn werth i bawb i'w darllen a'i meddwl drosodd yn Ilwyr, yn enwedig os yn tueddu i feddwl yn ysgafn ac yn arwynebol am ei gwrthddrych. Dywed yr ysgrifenydd ei fod yn bresenol y dydd o'r blaen mewn cwmniaeth o weinidogion oeddynt yn ymdrin a'i safle a'i nodweddion, ac yn cael ei alw yn buffoon, sensationalist,' a mountebank,' pryd y llefarodd Dr. Cuyler- Gentlemen, we are not large enough to make free with Talmage this way. I know his faults, having been his neighbour for many years and he is head and shoulders above us all.' Yn yr un syniad ag ysbryd yr ysgrifena Dr. Burrell, ac wrth ddiweddu, dywed He had his faults, but-1 am not good enough to dwell upon them.' Yn dilyn, y mae John Wesley yn cael ei ys- tyried fel Pregethwr i'r Amser Presenol,' gan Dr. Meredith, Cynulleidfaolwr o fri; ac y mae yn dyfod i'r penderfyniad yn rhwydd a di- floesgni y byddai ei weinidogaeth yn llawn mor briodol yn awr ag yn y dyddiau hyny Rhydd engreifftiau o hono ar bynciau dirwest ac arian- garwch, sydd yn awgrymu yn gryf iawn y byddai ei bresenoldeb heddyw mewn llawer pwlpud yn ddigon i beri i ami gryf-arfog i ar- swydo, a gwaeddi allan. Ymhellach, ceir erthygl gan Proff. Wilkin. son, athraw mewn basddoniaeth a beirniadaeth i yn Mhrifysgol Chicago, ar Ein Hangen Par- haol am Paul,' yn syml, end yn wir feddylgai ac efengylaidd. Pwnc yn ddiau ag y mae eisiau y bardd a'rbeirniad Cristionogol i wneyd tegwch ag ef. Dengys sefyllfa ddiymadferth crediniaeth Gristionogol heb Paul, a'r annheg- wch mawr a'r perygl sydd yn y cri, Yn ol at Grist,' fel y deallir hyny gan y mwyafrif. Y mae ein hangen o Paul yn anghyfrifadwy tawr. But God has graciously made Paul equal to our need.' Yna, y mae ail lith ragorol Dr Bernard Pick ar Lenyddiaeth Bywyd Iesu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.' Ond nis gallwn awgrymu yr haner. Dyma bregeth anwyl gan Dr. McLaren. Un arall dda iawn gan un Dr. Henson, Brooklyn. Un eto o arddull nodweddiadol ar y Porth Cyfyng,' gan Campbell Morgan. Ond noderyn neillduol eto ar Pregethwyr Poblogaidd, eto yn Fethiant—Paham ? 'gan Dr. Gregory, ur. o'r golygyddion ac mae yn dweyd ynddifiifol ac i bwrpas. Fel arfer hefyd, y mae Dr. Hoyt a Dr Stuckenbury yn wir ddyddorol. Yr hawyr, y fath gyfoeth.—A. J.
TYWYSQCES A DIWYOIQN MON. Dydd Mawrth, yn Baron Hill, Beaumaris, palas Syr R. Williams-Bulkeley, Arglwydd Raglaw Sir Fon, agorwyd trydydd arddangos- iad cangen Mon o Gymdeithas y Diwydion Cymreig. Ychwanegid at ddyddordeb yr am- gylchiad gan bresenoldeb y Dywysoges Louise o Schleswig-Holstein, yr hon sydd yn aros yn Baron Hill. Wrth agor yr arddangosfa, dy- wedodd y Dywysoges fod yn dda ganddi gael bod yn bresenol Dymunai bob llwyddiant i'r arddangosfa, nid yn unig y diwrnod hwnw, ond yn y dyfodol hefyd ac yr oedd hi yn barod bob amser i wneyd pob peth a allai er eu cynorth- wyo. Yr oedd yn cael eu gwerthu yn yr arddang- osfa wlaneni, gwaith gweuedig, basgedi gwellt, gwaith haiarn a phres, &c., yr oil wedi eu gwneyd yn yr Ynys.
CWEITHFEYDO OUR KRUPP. Gweithfeydd dur Essen (medd Engineering) sydd yn ffurfio cnewyllyn yr wyth o'r sefydliadau ag sydd yn cyfansoddi ffirm Freidrick Krupp, yr hon sydd yn rhoddi gwaith i dair mil a deugain o ddynion—pedair mil ar hugain yn Essen—ar y rhai y mae poblogaeth o 147,645 yn dibynu. Y prif weithdai eraill ydynt y gweithfeydd dur yn St Anuen, yn Westphalia Gweithfeydd Gruson, ger Madgeburg; a'r Ger- mania-Werf, yn Keil;, ynghyd a ffwrneisiau, glofeydd, a mwnfeydd. Y mae gweithfeydd Essen yn unig yn feddianol ar 513 o agerbeir- ianau, 5,300 o gelfi peirianau, 141 o forthwylion ager, 363 o motors trydan, 44 o agetbeirianau, &c. Mae gweithfeydd dur Martin yn dyddio o'r flwyddyn 1900 mae adran y gwaith arfog- aethol yn feddianol ar wasgau dyfrol o chwe' mil 0 dunelli, a'r ddau weithfeydd Bessemer.
DOLGELLAU. Tra ar ei ymdaith drwy Ogledd Cymru, ar- hosodd Due Norfolk am noson yn Ngwesty y Llew, Dolgellau. BLYNYDDOL.—Dydd Sabbath, cynhaliodd y Presbyteriaid Seisnig eu cyfarfod pregethu blyn- yddol, pryd y pregethwyd yn effeithiol gan y Parch. R. Hughes, M.A., Bournemouth. BAZAAR.—Dyddiau Mawrth, Mercher, aIau diweddaf, cynhaliodd y Wesleyaid y lie hwn Bazaar, er di-ddyledu y capel. Adeiladwyd y capel presenol ar gost o ,3,5oop., rhoddwyd yn ddiweddar 2oop. o gost chwanegol arno, ac erys oddeutu 4oop. o ddyled yn bresenol. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog bob dydd, a diau i elw da gael ei wneyd.
FFESTINIOG. YMADAWIAD.-Nos Sul, yn nghapel y Wes leyaid, Ebenezer, traddododd y Parch. Robert Lewis ei bregeth ymadawol i'r eglwys yn y lie. Bydd Mr. Lewis yn dechreu ar ei waith yn Bangor yr wythnos hon, a chymerir ei le gan y Parch. R. Mon Hughes. PRIODAS.-Dydd Llun, yn y Rhyl, priodwyd y Parch. Samuel Owen. Tanygrisiau, A Mrs. Williams, Dinbych, chwaer Mr. Edwards, Coedcymer, Dolgellau. Gweinyddwyd gan y Parch. Evan Jones, Dinbych. Y FEIBL GYMDEITHAS.—Yr wythnos ddi- weddat, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cym- deithas y Beiblau, Mr. J Parry Jones yn lly- wyddu. Cynrychiolid y Fam Gymdeithas gan y Parch. D. C Edwards a chafwyd anerch- iad rhagorol ganddo.
LLANFAIRCAEREINION. YMADA WIAD.-N os Sul, traddododd y Parch. T. N. Roberts, gweinidog y Wesleyaid, ei bregeth ymadawol a'r He hwn. Yr oedd cyn- ulliad lluosog ac astud yn bresenol. Yn ystod y tair blynedd y bu yn gwasanaethu yn y lie hwn, enillodd le dwfn yn serch pobl Llanfair, ac aiff dymuniadau goreu yr ardalwyr gydag et i'w faes newydd yn Llanfyllin.
EGLWYSFACH. DYCHWELYD ADREF.—Dydd Sadwrn, dych* welodd Mr Tom Owen, Rose Cottage, Glan- dyfi, adref, wedi bod yn gwasanaethu fel milwr yn Ne Affrica am oddeutu blwyddyn a haner. Cyfarfyddwyd ef yn yr orsaf gan dyrfa fawr. Rhoed ef mewn cerbyd, a llusgwyd ef i Eglwys- fach ac yn ol i'w gartref. Blaenorid yr orym- daith gan nifer o ddynion yn cariofflamdorchau.
PENRHYNDEUDRAETH. SEFYDLU.—Prydnawn a nos Fawrth, cynhal- iwyd cyfarfod yn Eglwys y Plwyf i sefydlu y Patch. G. Salt, B.A., yn rheithor Llanfrothen. Aed drwy y seremoni gan Archddiacon Meir- ionydd. Yn yr hwyr, pregethwyd i gynulliad lluosog gan y Parch. D. Jones, Abererch. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Miss Jones, Ynysfor, a'r Parch. R. R. Hughes, Llanys- tumdwy. Rhoddodd y c6r ddadganiad gwych o'r anthem Mor weddaidd ar y mynyddoedd,' c.
YMOSODIAD NOXEDIG AR CEIOWAD YR Aftlt. Yn llys yr ynadon, Machvnlleth, cvbuddicJ Ellis jones, Llanwrin, W. D T.ewis. Swyddoj; Gorfod ol. a H R. Humphreys, Machvnlleth, o ymosod ar, ac ysbeilio un Peter Kearney, ceidwad afonydd, ar Awst 15fed. Ymddan?- osai Mr. E. J Griffith, A.S ar ran yr erlyniad. ac amddiffynid gan Mr Arthur Hughes, Ab- erystwyth. Honai Mr. Griffith ar ran yr erlyn- iad, fod Kearney yn myned adref i Oerwenlas o Machynlleth ar y noson grybwylledie, gan gerdded ar y rheilffordd. Pan yn ymvi Nawlyn iddo ganfod dyn yn sefyll ar v reilffordd o'i flaen, ac yn fuan i un arall vmddangos. ac j'r diweddaf, afael yn ei draed a'idaflu Weti'yn i'r criw i kryd (oddeutu 12 o bersonau, meddai), dd'od ymlaen, a hawlio pobpeth oedd ganddo yn ei feddiant, i un ymafael yn ei wddf ig- un Haw, a chymeryd pwrs yn cynwy. arian o'i logell 4'r llaw arall; fod gan un o'r dynion lawddryll gyda'r hwn y tarawodd Kearney yn ei enau, nes vr aeth vn anymwvbodo1. Wedi adfeddianu ei hun, iddo gyfeino tua Nawlyn, pryd y clywodd ergydio o lawddryll. Yr oedd Mr. Owen. Nawlyn, wedi clywed yr ergyd. Rhoddodd Peter Kearney dystiolaeth faith i gadarnhau yr uchod. Dywedodd Dr. Mathews iddo wasanaethu af Kearney am ddyddiau; a rhoddodd ddarluniad o'r niweidiau oedd wedi ei gael. Yr oedd y niweidiau yn gyfryw ag oedd yn galw am i Kearney fod yn ei welv am amryw ddyddiau, ond gallasai godi yn llawer cynt na V gwnaeth heb beryglu ei iechyd. Cyd-olygai Dr. Davies A thystiolaeth Dr; Mathews. J. McDonald, ceidwald afonydd, a roddes dystiolaeth iddo weled Kearney noson yr ym* osodiad. Fod y diweddaf yn gwaedu pait ddaeth i'r t'. Dranoeth, aeth ar hyd y reilffordd, lie y gwelodd olion ysgarmes, ynghyd a pheth gwaed. R. Owen, Nawlyn, a dystiodd iddo glywed yr erizyd i Kearney dd'od at y t £ a gofyn am ddwfr; iddo ei wrthod, am na wyddai pwy oedd na ddywedodd Kearney air am yr ym. osodiad wrtho Dros yr amddiffvniad, tystiodd Lewis R, Jones, Insurance Agent, iddo ef a'i frawd-vn. nghyfraith, fyned i dt H. R. Humphreys oddentu haner awr wedi naw i swper (ar wa* hoddiad); ar ol y swper, buont yn canu hyd wedi haner nos. Ni adawodd Humphreys y t o 9-30 hyd haner nos. Rhoddodd Griffith S. Owen, Insurance Agent, dystiolaeth i'r un perwyl ynglyn ag Humphreys, David Vaughan, J. Lewis, a W. D. Lewia. dystiolaethent i bron lod y diffynydd Lews TO y tt am 10-30 y noson dan sylw, ac pad aeth allan wed'yn; ac nas gallasai fellyfod yn p fan y gwnaed yr ymosodiad ar yr adeg a nodwyd. Ellis Jones a dystiodd ei fod yntau yn el wely am haner awr wedi deg y nosen dan sylw* Taflwyd aUan yr oil o'r achosion.
COlEC YB IESU A CHYMIU. Fel y gwyr llenorion ac addysgwyr ya U$d gyffredinol, sefydliad Cymreig yw Coleg yr lesu, Rhydychain; ond. yn gymaint ag i'w lywodraethiad am ganoedd o Mynyddoedd fod yn nwylaw estroniaid o Saeson, nid oedd mewn cydymdeimlad ymarferot a gweithredol Ag ef- rydwyr ac anghenion Cymru; yn wir, yr oedd amryw o'i reolau wedi eu ffurfio yn y fath fod tel ag i gau allan rai o dalentau dysgleiriaf y Dywysogaeth. Ond er pan y mae Dr. John Rhys yn brifathraw arno, y mae cylnewidiad mawr wedi cymeryd ne, ac nid yw y Cymro cenedlgarol a dysgedig hwnw yn myn'd i orphwys hyd nes yr adferir ef i'w gymeriad cyntefig, ac y bydd yn. d'od i fyny ag angto addysgol presenol efrydwyr Cymru, fel y bydd yn Goleg Cymreig yn ystyr helaethafygair, Y mae eisoes wedi llwyddo i gael gan Senedd y Coleg basio amryw ddeddfau newyddion i'r amcan hwnw 0 hyn allan. gall efrydwyr addawol o bob oedran fyned i'r coleg dan addysgiant; ac y mae y rheol fod yn rhaid i'r efrydydd fod wedi ei em yn Nghymru wedi ei diddymu; a bellach os bydd yn Gymro-dim o bwys pa le y ganwyd ai yn Nghymru, Lloegr, America, neu rhyw wlad arall, y mae ganddo hawl gyfreithlon i holl ragorfreintiau Coleg yr lesu. Hefyd bydd gan yr awdurdedau hawl i ychwanegu at swm yr ysgoloriaethau os barnant fod yr efrydwyr mewn angen am hyny Gallant wneyd un bedwar ugain punt yn gant, neu un haner cant yn driugain punt, a'r un modd gyda'r ysgolor- iaethau eraill. 'Does neb yn gwybod yn well na'r Prifathraw mai tlodi, diffyg arian, sydd ar ffordd plant Cymru i gyraedd y radd uchaf mewn addysg, ac y mae'n gwneyd ei oreu i'w cynorthwyo yn y cyfeiriad hwnw. Bydd gan y Coleg hwn hefyd yn y dyfodol amryw o ysgol- otiaethau i'w cynyg i efrydwyr a graddedigion o Gymru i'w galluogi i fyn'd trwy gwrs neill- duol yn un o ganghenau gwybodaeth o dan rai 0 brif ysgolheigion y byd. Y mae. yn amlwg fod y Prifathraw Rhys yn benderfynol o wneyd Coleg yr Iesu, Rhydychain, yn ganolbwynt addysg uchaf Cymru gwyr am anhawsderau ei phlant; penderfyna wneyd a allo i'w Ueihau; ac nid yw un amser yn ei afiaeth ond pan yo estyn cymorth i athrylith a thalent Gymreig.
GARTHBEIBIO. GWLEDD.-Dydd Gwener, rhoes y Rheithor a Mrs. Davies, wledd o d £ a theisenau ynghyd ag anrhegion i blant yr ysgol ddyddiol a'r Ysgol Sul, yn y lIe hwn Yr oedd yn ddiwrnod hafaidd dros ben; a'r wledd yn bobpeth allai plant ei ddymuno, fel y mwynhawyd yr oil ganddynt.
ARTHOG. PRIODAS.—Ar y 27am cynfisol, yn nghapel y Bedyddwyr, Ealing, priodwyd Mr. Thomas Lewis, Glanywern, Arthog, a Miss Alice Curtis, merch y diweddar Barch. James Curtis, Ash. burton Villa, Llanwell. Gweinyddwyd gan y Parch. Gibbs-Porter. Treuliant eu gwyfiau pdoclalol raBath.
ADDYSG A'CHYMERIAD. GAN DYFED. Mewn araeth a draddododd yn Jewin Newydd Llundain, dywedodd y bardd Dyfed y credai nad oedd yr un cyfnod wedi bod ar Gymru yn fwy gobeithiol na'r presenol. Mae yr adfywiad cenedlaethol wedi ail eni y genedl, a gwladgar- wch a diwylliant y werin yn dyfod yn fwy angenrheidiol bob dydd. Bu adeg pan na chaffai cwynion Cymru y sylw lleiaf yn y Senedd a phan y credai ei chynrychiolwyr ei bod yn anrhydedd cael hyd yn nod eistedd yn llonydd wrth draed y gorthrymwyr, ond erbyn heddyw y mae y rhod wedi troi, a chan Gymru ei chen- hadon-sef blaenffrwyth cynhauaf Cymru Fydd. Buom yn disgwyl yn hir am addysg. Bu adeg pan mai'r unig sefydliadau addysg Cymreig oedd yr Eisteddfod a'r Ysgol Sul, ond trwy y cwbl yr ydym wedi dal yn genedl gref ac yn fwy byw heddyw nag erioed. Rhaid fod gan genedl fel hon, sydd wedi dal o dan y fath lu o anfanteision, genadaeth arbenig wrth fyw. Mae cyfnod yr addysg newydd wedi d'od bellach ond y mae i hon elfen arbenig a ddylai gyd- redeg a hi, sef cymeriad. Nid yw addysg yn golygu cymeriad, er y gall ambell ddyn fel Byron fod yn ddysgedig heb feddu y cymeriad ai gwna yn fawr. Y mae cymeriad heb addysg yn well nag addysg heb gymeriad, ond lie ceir y ddau fe geir unoliaeth iach a hawlia sylw yr holl fyd. Mae yn bosibl i ddyn fod yn dalentog neu yn ddysgedig ddrwg, am hyn y mae addysg yn ychwanegu yn fawr at gyfrifoldeb personol y dyn. Y mae'r werin Gymrelg yn gymharol dlawd, ac yn gorfod cymeryd dysg fel help i gael bywoliaeth. Rhaid yw ymladd am fodol- aeth a cheisio am safleoedd y gallom fyw ynddynt. Felly y mae ychwanegu cymeriad at addysg yn beth pwysig iawn. Dyma brif elfen gwir Iwyddiant-allwedd do pob swydd- ogaeth yn y byd. 'Rwyn'n edrych ymlaen at hanes Cymru gyda llawer o ddyddordeb a chyda llawer o hyder. Credaf fod yna gytnod eto i dd'od sydd i ddylanwadu ar y byd. Y mae gwledydd bychain fel Cymru wedi bod yn fagwrfa i lawer athrylith, a chredaf fod gan Gymru hefyd ad- noddau i gyflawni gorchestion mewn gwybodau a ddwg wledydd eraill o dan deyrnged iddi dros byth. Mae'n hen bryd i ni gael gwared o'r enw 'Cymru dlawd. 'Does dim sydd yn erbvn i ni g-redu nad oes yn meddwl y Cymro ddefnyddiau mor werthfawr i'r byd ag sydd o fwnau yn y mynyddoedd, ac arwydd dda yw gweled y werin yn meithrin y fath ysbryd gwladgarol a chenedlgarol.