Y GANRIF NEWYDD. rAN ar drutliwy cam if newydd mae pryder a gobeithion am ei dyfudol yn llenwi'r fron, a gofyuir pa fath a fydd, a beth gymer le ynddi? Goraiod goiehwyl yw rhagfynegu gyda sicrwydd lawet, am ei digwyddiadau hynod, er y ceir engveifCtiau weithiau o ddy- faliadau cywir am gwrs symudiadau neill- duol yn y byd. Darfu i De Toquoville, wrth astudio yr elfenau a ymweithiai drwy gyrudeithaaragddvveyd am sefydliad Gwerin- iaeth fawr yr Unol Dalaetlutu. Wrth olrhain lianes canfyddir y pwerau sydd yn codi ac yn darostwng hyd nes y canfyddir yr hyn fydd tynged cenedloedd. Mae llawer o ddarogan ar beryglon y ganrif gan lai sydd wedi cael mantais i farnu dynoliaeth ar raddfa eang. Er hyny nid ydynt yn cytuno a'u gilydd pa un yw y perygl mwyaf. Dywed rhai mai ariangarwch neu Mamon mewn rliyw ffurfiau neu gilydd, ac y cryfha y chwant anniwall am gyfoeth yn y dyfodol. Barna eraill mai milwriaeth ao ysbryd rhyfelgar fydd gelyn penaf y byd. Dechreuodd y ganrif tra yr oedd yr ysbryd hwn yn hofran yn yr awyrgyloh fel cymylau duon a bygythiol. Boddir llais cyfiawnder yn nghrechwen y Ilifeiiiaijt Ymherodol. Arwyddion blin a thymhestlog am y ganrif newydd. Awgrymir fod perygl yn y Wasg. Mae gaUu a dylanwad mawr er daioni yn y r Wasg. Ond y perygl a ddarogenir sydd oddiwrth Wasg benrydd a gwaedwyllt fel y papyrau cyffious yu Lloegr, Ffraino, ac America, y rhai gamliwiant ffeithiau ac a daenant newyddion anwireddus yn bwrpasol er mwyn eangu eu cylclirediad. Enwir peryglon eraill; ond mae ochr oleu yn gystal ag un dywyll i'rgolofn, achredwn y bydd yr oclir oleu yu gwneyd y ganrif yn ddisgleiriach na'r un fu o'i blaen. Er mai araf yw cynydd gwareiddiad, mae pob argoolion y bydd i'r da orbwyso y diwg. Rhoddir mwy o fri ar heddwch, ac ar gyf- lttf.treddiad i atal rhyfel, a theifl goleuni uddysg a rhyddid i dywyll-Ieoedd y byd. Bydd mwy o le yn cael ei roddi ynddi i'r dyu unigol mewn cymdeithas. Yn y gorph- enol llywodraeth wyd y byd gan frenhinoedd, gwladweinwyr, a chadfridogion, y rhai a arweinient y bobl i dda neu i ddrwg fel yr ewyllysieut. 0 hyn allan oymer y dyn unigol anrhaetliol fwy o rail ar chwareufwrdd amser. A'r canlyniad fydd gwelliant ar amgylchiadau bywyd y gweithiwr. Caiff well cyflog, gwell bwyd, gwell ty, a gwell addysg. Daw Ilywodraeth leol yn fwy cyffredinol, bydd ewyllys y bobl yn oael eu chorphori mewn deddfau cyfiawnach. Es- tynir Ymreolaeth i'r cenedloedd gwareidd- iodig, a bydd tiefedigaothau Prydain yn Canada, Awstralia, &c., yn myned yn hollol annibynol ar y Fam Wlad. Gweriniaeth yr Unol Dalaethau fydd y Gallu grymusaf yn y byd. Nis gall teyrnasoedd Ewrob benderfynu dim yn awr ar faterion cyd- genedlaethol hebddi, abydd iddi ar gyfrif nifer el thrigolion goleuedig a'i hadnoddau enIll y Uawryf oddiar deyrnasoedd gorth- rymus Ewrob. Canrif fawr mewn dyfeisiau oedd y ddi- weddaf, ond 1 r ugeinfed ganrif yr ymddir- iedwyd y gwaith o'u dadblygu i'w llawn allu Ynddi bydd i'r heolydd gael eu gwneyd yn oleuach a siriolach. Mae trydaniaeth yn disgwyl am yr athrylith i'w gymhwyso at y gwaith a wneir yn awr gan ager. Aatudir yr afonydd i'r diben o'u troi i gynyrchu north trydanol. Ffrwynir chwaneg o'r elfenau at wasanaeth dyn, a cheir gweled yr annisgwyliadwy yn d'od gyda chyflymder. Yn gyfielyb yn y byd crefyddol, mae y rhagolygon yn obeithiol. Eangir terfynau cred, a bydd yr eneiniad yn disgyn hyd at odrau y byd barbaraidd. Os sefydlwyd Cymdeithasau Beiblaidd a Chenadol yn y ganrif a basiodd, rhesymol yw disgwyl y cynhyrfir meddyliau Cristionogion fel ag i ddarpar ffurfiau eraill atynt i hyrwyddo crefydd, cymwys i'w hoes hwy. Megis nad yw y dosbarthiadau mwyaf meddylgar o'r Pabyddion yn cymeryd yn awr o'u crefydd ddim ond yr hyn y teimlant fudd oddiwrtho, felly bydd.i ofergoeledd Defodaeth a Phabyddiaeth golli ei gryin ar feddwl y werin. Bydd llai o ragfarn a chulni sectol a mwy o undeb a chydweitlirediad l'hwng yr holl eglwysi Efengylaidd. Oyrohir yn ddy- falach at nod a chatup uwchai bywyd. Bydd mwy o ddynion da yn y byd, ac o gymwys- ] derau uwch, purach, mwy yuirotidedig i'r | gwaith, a'r arddeliad yn fWl amlwg aruyxit.
Y RHYFEij. Ymlaen yr a. y rhyfel gan gryfhau mewn nerth. Adnewyddwyd ef y wythnosau diweddaf gan y Boriaid gyda chryn fywiog- rwydd. Tybiodd Aiglwydd Roberts pau yn ymadael o Dde Africa fod y cyfan drosodd, oddieithr yr ymgyrchoedd gymerai le gan yehydig finteioedd ar gyrau y wlad yn y ddwy dalaeth oedd heb eu darostwng. Ond yn lIe hyny cyneuodd digllonedd y brodor- ion oherwydd llosgi eu ffermdai ac anvheith- io eu meddianau, ac amharodrwydd Prydain ganiatau Ilywodi-aetlilad eu gwlad i'w dwylaw. Annibyniaeth n'tu farw yw eu harwyddair yn awr. Maent with y miloedd wedi goreagyn Cape Colony, alu blaenfyddin o fewn 120 milldir i Cape Town. Dyma'r waith gyntaf o bwys iddynt gymeryd yr ymosodol er pan wthiwyd hwy o fewn eu terfynau. Mae hanes am ymosodiadau parhaus o'u heiddo ar ranaa o'r fyddin Brydeinig, ac y mae y diwedd mor anelwig ag y bu erioed.
Y DDWY DALAETH. Hyshysa Arglwydd Kitchener i 1,400 o'r Boriaid groesi y llinell rhwng Elandsfontein Junction a Pretoria, ac ymosodasant ar orsaf- oedd Zuuvfoutein a Kaalfontein. Gwthiwyd hwy i'r dwyrain, ac ymlidiwyd hwy gan Frigad o dan y Cadfiidog Knox. Ymosod- wyd ar Zeeiust, yn Ngorllewin y Transvaal, ar y 7fed, ond fgyrwyd y Boriaid i ffwrdd. Cafodd y Cadfridog Boyes ymgyrch lwydd- ianus gyda rhai o'r Boriaid yn Senekal, yn Nhalaeth Afon Orange, ymha un y lladdwyd un commandant, ac wyth o'r Boriaid. Cymerodd y Boriaid dri o gynrychiolwyr y Pwyllgor Hedd wch yn gacrcharorion ger Lindley, ar y lOfed. Fflangellwyd un Prydeiniwr, a saethwyd ef, a ffiangellwyd dau arall, drwy orchymyn De Wet. Dywed Arglwydd Kitchenor fod y Boriaid wedi ymosod ddechreu yr wythnos ar bum' gorsaf i'r dwyrain o Pretoria a reilffordd Delagoa Bay-ac yr oedd eu symudiadau yn cael eu cuddio gan niwl trwchus. Ym- ddengys i'r Boriaid ruthro i'r safle yn Belfast, ond o'r diwedd ourwyd hwy yn ol. Rhwyatrwyd yr ymosodiadau yn y pedwar He arall. Y r oed d coIled ion y Saeson yn y brwydrau hyn yn 21 o laddedigion, a 62 o glwyfedigiou. Llwyddodd y Boriaid i feddianu Belfast, ac ymostyngodd y gwarchodlu. Yr oedd mab y Commandant Viljoen ymhlith y lladd- edigion.
OArE COLONY. Y mae Commando Hertzog yn nghymyc1- ogaeth Sutherland, oddiwrth 80 milldir i'r gogledd o Matjesfontein. Mae y Cadfridog Settle yn casglu byddin i geisiocael y blaen arnynt. Yr oedd colofn Brydeinig wedi cyraedd Carnarvon dydd Sul, a thybir eu bod yn ceisio d'od ar draws y Boriaid aeth i'r de- orllewin. Mae colofn hefyd yn gweithredu yn nosbaith Middelburg yn erbyn y Boriaid groesodd i Cape Colony o'r dwyrain.
HELYNT Y PENRHYN. Dydd Sadwrn, ataliwyd nifer o lwythwyr a weithiant yn y borthfa yn Mangor oher- wydd diffyg gwaith. Tybir y bydd eraill yn myned i ffwrdd yr wythnos nesaf. Di- oddefa y dosbarth yn drwm oherwydd atal gweithio yn y chwarel. I Bu Mr. Young ar ymweliad a'r chwarel yr wythnos ddiweddaf a dywedir fod De- tective Ellis a Mr. Pennant Roberts wedi dychwel, ond nid yw Mr Mears yn yr ardal hyd y gwyddis. Y mae'r holl swyddogion eraill gydag eithriad neu ddau adref. Ni wnaeth neb gais am waith ddydd Iau-y dydd olaf i'r chwarel fod yn agoTed. Mae'r dynion sydd yn gweithio yn y De yn d'od ymlaen yn dda, ao mae lie i ragor yn Rhayader. Mae pwyllgor y gronfa yn trefnu i wneyd apel am gymorth, a threfnir hynt y corau gan Mr. J. J. Griffith yn y Gogledd, a Mr. E. W. Lloyd yn y De.
MR, JOHN BURNS A'R RHYFEL- Mr. John Burns oedd y prif siaradwr mewn cyfarfod mawr a gynhaliwyd nos Sul, yn Battersea, Llundain, i dystio yn erbyn llosgi ffermydd a'r rhyfel drygionus yn erbyn gwragedd a phlant, a ddygir ymlaen yn Neheudir Affrioa, Dywedodd Mr. Burns fed yn bresenolj nid yn unig yn Neheudir Affrica ond hefyd yn r winbarth Affrioa a China, y creulondeb mwyaf yn myn'd ymlaen, yr hyn a barai iddo gywil- yddio dros y wlad a'r fyddin. Os parhai y rhyfel yn Ne Affrig, fe gostia 40,000 o fywydau, a 300,000,000p., ac yn sicr buasai yn pen i Brydain golli Deheudir Affrioa yn y diwedd. Cariwyd gyda brwdfrydedd ben- derfymad yn protesio yn erbyn y rhyfel, ac yn galw ar i'r Llywodraeth gynyg amodau heddwch y gallai y Boriaid yn anrhydeddus eu derbyn yn cynwys annibyniaeth y, ddwy weriniaeth.
MARWOLAETH ESGOB LLUNDAIN. Dydd Llun, bu farw Dr, Creighton, Esgob Llundain. Ganwyd ef ynOarlisle yn 1843. Bu yn Esgob Peterborough cyn ei ddyrch- afiad i Lundain. Yr oedd yn enwog fel awdwr llyfrau ar Hanesiaeth Eglwysig. Ucheleglwyswr ydoedd, ond gwrthwynebai bob arferion a amcanai ddirymu egwyddor- ion y Diwygiad Protestanaidd.
LLANFYLLIN. ANRHEGU.—Nos Sul cyny diweddaf, yn nghapel yr Annibynwyr, Pendref, cyflwynwyd anrheg o oriawr aur ysblenydd i Miss Clara H. Williams, merch Mr. J. P. Williams, Maer y dref. Cyflwynwyd yr anrheg ar achlysur ei hymadawiad i'r Coleg, fel arwydd o werthfawr- ogiad yr eglwys o'i gwdsanaeth gyda chwareu yr organ am gyfnod maith.
MARWOLAETH KIR. J. JONES, U.H., YNYSFOR. Dydd Mercher, Ionawr 9fed, bu Mr. John Jones, U.H., Ynysfor, Penrhyndeudraeth, farw yn 72 mlwydd oed. Yr oedd Mr. Jones yn perthyn i'r dosbarth hwnw o wladwyr ag sydd yn myned yn brinach yn ein gwlad yn barhaus, -yr ysweiniaid yn byw ar eu ffermyfld eu hunain yn magu anifeiliaid d 1. :IC vn cymeryd rhan flaenllaw yn holl syniii !iad.lu a sydd er lleshad y bobl; yn aelodau O'Lwahanol gorphoraethau cyhoeddus, &c. Yr ynad heddwch yn Sir Gaernarfon a Sir Feirion- ydd; yn gadeirydd ynadon' y Penrhyn; yn aelod o Fwrdd Gwaicheidwaid Undeb Fiostiii- iog er's pan yn leuanc, ac yn gadeirydd am dros chwarter camiC. Yr oedd yn ddyn 0 farn ragoiol, yn tneddu ar lygadrwydd mawr. yn hollol ddiymhongar, ac yn Gymro iawn. Byddai yn rhadlawn bob amser, ac yr oedd yn gefn i lawer iawn o sefydliad iu cyhoeddus. Eglwyswr a Cheidwadwr ydoedd, ond o'r dosbarth mwyaf eangfryd. Y mae yn aros tua naw o blant i alaru ar ei ol, a dangosir tuag atynt hwy a Mrs. Jones, y weddw, y cydymdeimlad dyfnaf. Cymerodd ei gladdedigaeth, yr hwn oedd yn un preifat le dydd Sadwrn, yn mynwent blwyfol Llanfrothen.
TALYWERN. CYMDEITHAS- LENYDDOL.—Cynhaliwyd ail gyfarfod y gymdeithaa uchod, nos Sadwrn di- weddaf, pryd y cafwyd dadl ar—' Pa un sydd yn dylanwadu fwyaf, llyfrau ynte eyfeillion ?' Agorwyr y ddadl oeddynt Mri. J Tibbot, a R. Pugh, Pwlliwrch. Cymerwyd rhan yn y ddadl gan Mri R. Hughes, J. Williams, ac E. Hughes. Yna rhanwyd y cyfarfod, a phleid- leisiodd y mwyafrif ° blaid dylanwad cyfeill- ion.- W. H. J.
ESGAIRGEIUOG. MARW GOFFA -Dydd Iau, Ionawr iofed, bu farw Thomas John, mab Mr. a Mrs. William Jones, Cae'rbont, Esgairgeiliog, yn 21 mlwydd oed, ar ol byr gystudd. Yr oedd yn ddyn ieuanc hoffus ac addawol, ac yn aelod ffyddlawo gyda'r M.C., yn Esgairgeiliog. Tristwch mawr i'w berthyhasau a'i gyfeillion oedd ei dori i lawr mor gynar. Claddwyd ef dydd Mawrth, yn mynwent Rehoboth, Corris, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. John Roberts, &c. Ar yr arch yr oedd blodeudorch a roddwyd fel arddangosiad o barch i'r ymadawedig gan ei gyfoedion ieuainc yn y pentref, a dwy ei-aill oddiwrth hen gyfeillion iddo a adawsantyr ardal. Mae'nJ deilwng galw sylw at drefnusrwydd y cynhebrwng, yr hyn sydd yn beth tra dieithr yn yr ardaloedd hyn. Yr oedd y cynulliad Ituosog ddaeth ynghyd yn cerdded bob yn bedwar hyd o fewn ychydig at y gl .ddfa Dymunol fyddai i drefnwyr angladdau ofalu eu cario allu mewn modd gweddaidd a dibrofed. igaeth i deimladau ar yr amgylchiadau pruddaidd hyn.
CYNGOR TREFOL TOWYN- CYTIR ABERDYFI Dydd Gwener, fm- ddangojsodd Mr. Guthrie Jones, cyfreithiwr, dros Mr. Solomon Andrews, o flaen y Cyngor j't amcah o dd'od i ddealltwriaeth parth y cytir. Gofynodd Mr. Jones a oedd gan y Cyngor ryw gyuygion ilw rhoddi o flaen Mr, Andrews, ac a oedd ganddynt hawl i siarad dros y Commoners. Atebwyd nad oedd. Ar ol siarad pellach addawodd y Cyngor roddi y mater 0 flaen y Commoners er cael gwybod a oedd ganddynt delerau i'w cynyg a'i peidio.
PENRHYNDEUDRAETH. DAM WAIN I. MRS OSMOND WILLIAMS.— Tra allan mewn cerbyd gyda'i phant, prydnawn dydd Mercher, cyfarfyddodd Mrs Williams A damwain, drwy yr hon y derbyniodd gryn ni- weidiau i'w phen. Ymddengys i'r ceffyl ddychryn, a thaflwyd Mrs. Williams allan o'r cerbyd. Cadwodd y plant eu lie, ac felly di- angasant heb niwedd Da genym ei bod yn gwella yn raddol. TRENGHOLIAD —Dydd Mercher, cynhaliodd Mr. W. Thomas, 30 mlwydd oed, gwas i Mr. Osmond Williams, A.S., yr hwn yn ol y tyst- iolaethau-, a gyfarfyddedd a'i ddiwedd drwy gael ei luchio allan o'r cerbyd, gan waith y ceffyl yn dychrynu, a yn myned yn atreolus. Rhoddwyd tystiolaethau i'r perwyl gan amryw; ac wedi cael tystiolaethau y meddygon, dych- welwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiuiol.
ABERMA W. CYFARFOD DIWYLLIADOL CHRIST CHURCH. —Cynhaliwyd nos Fawrth Mr. J. Thomas, C.M Darllenwyd papyrau gan Mr. T. Jones, Mr. H. B Evans, a Miss IN Thomas. Y mae i'r gymdeithas hon hefyd 'Werslyfr' am y tymor, sef' Life and Conduct.' gan Dr. Cameron Lees. Caiff cyfran o hwn sylw yn agos ymhob cyfarfod. CYNGOR YR EGL WYSIRHYDDION. Cyn- haliwyd cyfarfod misol yCyngor hwn dydd Mercher yn ysgol capel y Wesleyaid, dan lywyddiaetl1 y Parch. R. Thomas. Pasiwyd i gael cyfarfod gweddi undebol yr wythnos olaf o Ionawr. Disgwylir gwasanaeth y Parch. H. Hughes (W.) am ran o leiaf a'r wythnos hono. Cynhelir y cyfarfodydd gweddiau o flaen yr odfaon.
DOLGELLAU. YNADLYS —Dydd Mercher, gerbrony Parch. E. T. Watts (cadeirydd), Mr. J. Laiiiii Taylor, a Mr. R. E. L. Richards, gwnaeth Mr. J. E. Fox gais am drwydded dros dymor i'r Gwernau Lake: Hotel, yr hoii oadd eiddo. ef. Dywedai Mr. Fox ei fod wedi gwneyd cais cyffelyb yn Gorphenaf diweddaf; ond yn gymaint a bod y ty yn myned o dan adgyweiriadau, ni ddarfu iddo wasgu ei achos. Yn awr, yr oedd y ty wedi cael ei osod mewn cyflwr da am g6st dda, ac yr oedd mewn cyflwr da i gael ei ddefnyddio feljjwesty Gan nad oedd yna un gwrthwyn- ebiad, darfu, i'r faine yn unfrydol ganiatau y cais.-w-Cyhuddwyd J. M. Jones, Rhydymain, a drespasu i chwilio am lielwriaeth ar Fferm y Wenallt, dros yr hon yr oedd Mr. C. E. J. Owen, Hengwrt Uchaf, yn meddu hawl i saethu. Cydnabyddodd y diffynydd. ei euog- rwydd a dirwywyd ef i 10s. a'r costau.
LLANFAIRCAEREINION. Nos Fercher, cynhaliodd Cor Meibion yr Einion eu swper blynyddol yn ngwesty Wynn- stay. Yn dilyn y swper, aed drwy raglen o areithio, canu, &c. Llywyddid gan Mr. R. Rowlands. Cafwyd noson ddifyrus iawn.
PRIODAS. DAVIES- MORGAN. -Ion awr 4, 1901, yn Beth- esda, Towyn, gan y Parchn. H. W. Parry, Aberllefen,iii, a J. M, Williams, y Parch. Rhys Davies, Carris, a Mary Anua Morgan, Bryncrug, Towyn. I
FFRWYDRIAD MAWR YN DENTON. DEUDDEG' 0 DDYNION WEDI EU LLADD. Dydd Llun, cymerodd ffrwydriad le yn nweithiau hetiau y Mri. J. Wilson ali Feibion, Denton, trwy ba Ull y darfu i ddeuddeg o ddynion golli eu bywydau, ac y cafodd tua'r un nifer eu niweidie mor drwm fel mai ychydig obaith goleddir am eu hadferiad Mae y y gweithiau yn cael eu cario ymlaen ar raddfa eang, ac y mae rhyw 500 0 ddynion a merched yn gweithio yno. Pan gymerodd y ffrwydriad le, am un ar ddeg o'r gloch y boreu, yr oedd pob rhan o'r gwaith wrthi yn fywiog, a chafodd y corph mawr o bobl ddiangfa wyrthiol Yn ffodus, yr oedd y ty prawf,' y llanerch y cym- erodd y ddamwaiii Ie arno, rhyw gymaint o bellaer oddiwrth y prif ran o'r ffactri. O'r braidd yr oedd un ffenestr yn gyfan o fewn i'r gweithiau. Ond cafodd effeitliiau y ffrwydriad ei gyfyngu ymron yn hollol i ystafell y prawf,' ac ystafell y I plancio Yr oedd tuag ugain o ddynion yn y lleoadd hyn ar yr adeg, a chafodd y rhan fwyaf o'r rhai hyn eu niweidio i raddau mwy neu lai. Ni wyddis beth oedd yr achos o'r ffrwydrad. Rhyw ddetig munyd cyn hyny yr oedd un o weision y cwmni wedi talu ymweliad Alr lie, a chael fod pobpeth yn foddhaol yno. Y farn gyffredinol, modd bynag, ydyw, i hyn gael ei achosi gan yr ystof. Diau y gwneir ymchwil- iad llawn gan awdurdodau y gwaith cyo i'r Llywodraeth gynal ymchwiliad ar y mater.
DERWENLAS. MARWOLAETH A CHLADDKDIGAETH MISS MARY THOMAS.—Bu y chwaer ieuanc rin- weddol hon farw boreu dydd Mercher, Ionawr 9fed, yn 23 mlwydd oed. Merch ydoedd i Mis. Jane Thomas a'r diweddar Mr. D. Thomas, Rock Villa, o'r lie hwn. Yr oedd. yr ymadaw- edig yn un o'r merched ieuaiirc mwyaf gwasan- aethgar yn yr eglwys Annibynol. Nid yn unig chwareuai yr offeryn cerdd, ond hi ydoedd ysgrifenyddes yr eglwys, a gwnai ei gwaith yn nodedig o fedrus. Mewn gwasanaeth cref- yddol, yr oedd yn un i'w hefelychua gwyn fyd na byddai mwy o ferched ieuainc yr eglwysi yn dangos cymaint o ufudd-dod a pharodrwydd i wneyd yr hyn a allont er mwyn yr achos goreu Ymhyfrydai yn ngwaith y cysegr, fel y bydd bwlch mawr ar ei hol. Bu yn dihoeni yn hir. Cydiodd afiechyd ynddi rai misoedd yn ol, yr hwn a lynodd wrthi hyd ei marwolaeth, pr pob gofal a medrusrwydd mam a meddygon. Bu yn Ysbytai Eversley, Winchfield", a Broinpton, Llundain ac ar y dechreu yr oedd yn addawol am wellhad. Ond ewyllys Daw oedd ei chym- eryd ato'i Hun, a chredwn ei bod wedi addfedu megis tywysen lawn i'r gogoniant. Daeth adref ychydig amser yn ol, a gwelwyd arwydd- ion amlwg fod y babell yu prysur ddadfeilio; a'r boreu a nodwyd, ehedodd ei hysbryd at Dduw, yr Hwn a wasanaethodd mor fifyddlon. Dydd Sadwrn diweddaf, daeth torf anarferol o fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddi, a hawdd oedd gwel'd ar y gwynebau a wlychid gan gymaint o ddagrau, fod uh an.wyl yii-cael ei rhoddi yn y bedd. Wrth y ty, gwasanaeth- wyd gan y Parchn. Wnion Evans, ei gweinidog R. E. Jones, Talybont; a J Llewelyn, Borth. Ar lan y bedd, yn Cemetery Machynlleth, gwasanaethwyd gan y Pascit. G. Parry, Llan- badarn; Proff. Anwyl, Aberystwyth ynghyd a'r Parchn. J. Jones, Machynlleth; G. Griffiths, Drefnewydd,; H. W. Parry, AberUefenni; a'r gweinidog. Caffed y teulu trallodus nerth i ddal y brofedigaeth chwerw a'u goddiwedd. odd, ac ymgysurent yn addewidion Duw, a'r geiriau toddedig a'r tystiolaethau ardder-chog a reddwyd i'r ymadawedig ar lan ei jbedd. Heblaw a enwyd, gAelsom yn bresenol y gweinidogion canlynolRhys Davies, Corris; W. Thomas, Aberhosan; h. R. Evans, Pennal; D. G. Richards, Sammah; ynghyd a T. J. Evans (M.C.), AberUefenni,— Humphreys (M.C.), Rochdale; ynghyd a'r pregethwyr Mri. C. Wood, Machynlleth; E. Rees, etc; H Jones, Corris; aT. Pierce, Corris. ;Derbyniwyd llythyrau hefyd oddiwrth eraill yn amtygu eu hanallu i fod yn bresenol. Cafedd gladdedig- aeth barchus, ac un mwyaf trefnus a welwyd erioed. Priodol iawn yw Iliaellau Wnioik,, ar ei cherdyn-goffa 0 Mary hoff '—mae'r ddaear hon Yn rhau rhy fach i fyw Mae bywyd pur mor eang a'r nef, A'r Iesu wnaeth dy ffydd yn gref, Ac yn ei gwmni hyfryd ef Y moli fyth dy Ddiiw. Yr Eglwys wyla ar dy ol, Dy lafur ddaeth i ben A galwfd di i Wlad y Dydd I chwa 'reu'r Delyn Aur yn rhydd, Tra'th goron wynfydedig sydd Yn harddu'r nefoedd wen.
doljtbiaetljau. ABERGYNOLWYN. Syr,-Mae llawer o bethau yn fy argymell i ysgtifenu ilr NBGRSYDD y tro hwn. Un peth yw dechreu y ganrif a blwyddyn newydd wedi gwawrio arnom a dymunaf i bawb flwyddyn hapus a llawnder o fendithion yn ei dilyn. Ond at hyn yr wyf yn cyfeirio yn fwyaf neill- duol-gwroldeb Seindbrf Bres Corris yn myned i gystadlu i Eisteddfod Meirion. Well done, boys. Heb fentro peth, enillir dim, medd yr hen air. Felly chwithau yn Nolgellau. Ond er colli y fuddugoliaeth y tro yma, mae y Pasg yn agoshau, pryd y caf eich gweled gyda phob hyder yn dyfod i mewn i hafan ddymunol yr Abermaw, dan chwareu eich offerynau. Er dim na lwfrhewch, fel yr ydym ni, yr Aberiaid, yroa ynader gwneyd Igyda phob gorchwyl yr ymgymerwn ag ef. Fel y gwyr y lluaws, bu yma le enwog gyda'r offerynau pres, a'r band linyddol, parti meibion, a lluaws o bethau cyffelyb, ond y maent oil wedi meirw. Ond er cymaint yw ein ffaeleddau, credaf ein bod ar y blaen i, chwi yna mewn un peth. Mae'n debyg fod yr Eglwys yo cadw at yr hen ddull cyntefig o ganu carolau ar Wyl y Nad. olig, ac y parha am gyfnod. Ond nid felly yma yr ydym ni wedi mabwysiadu y trefniant diweddaraf, yn bytrachl na chodi Plygain, fe welodd yr Eglwys Wladol yma yn ddoetbach cadw Nos Wyl (Watchnight), ar ddiwedd yr hen ganrif, ac i wylio dyfodiad yr un bresenol. Clywais fod y cynulliad yn bur lluosog. Da genyf weled yr hen fam yn symud ymlaen ac yn cyfnewid ychydig ar ei chynlluniau. Oherwydd ei bod yn oer arnaf yn fy study rbald i mi adael ar hyn yn awr. Dfil CfiWARSVTfiG.
EGEWYSFACH. Mae Miss Bevan, Pfesteign, wedi dechreu yr wythaos ddiweddaf ar ei dyledswyddau fe athrawes Ysgol y Bwrdd yn y lie hwn. CAPEL NEWYDD—Mae capel newydd yr Annibynwyr yn y lie uchod bron a'j orphen, ac edrychir ymlaen at ei agoriad yn y dyfodol agos. Maeyn adeilad prydferth a da.
CORRIS UCHAF. Cynhelir Budd Gyngerdd at gynorthwyo rhai mewn afiechyd, yn ysgoldy Ty'nyberth, nos Wener, Chwefror ISfed pryd y cymerir rhan yoddo gan nifer o gantorion adnabyddus. DAMWAiN.-Dydd Llun, cyfarfu Mr. John Evans, Tanyfaen (Maesybwlch gynt), Corris Uchaf, a damvtfain yn Chwarel Braichgoch, trwy doriad ysgol. Da genym ddeall nad yw y neweidiau yn drymion, a bod hyder am ad- feriad buan.
BALA. GWLEDD. Nos Iau, gwahoddwyd holl swyddogion y G. W. Railway yn nosbarth y Bala, i wledd a barotowyd iddynt yn Ngwesty y Plas Coch, drwy garedigrwydd Col. a Mrs* Burton, Eryl Aran. Llywyddwyd gan Dr. Williams, fel meddyg y staff, a chynrychiolid y rhoddwyr caredig gan y Cynghorwr Edward Jones, goruchwyliwr yr ystad.
V MARCHNADOEDD. MAHCHNAD YD LsBrwL, Ioriawr |15fed.J Yr oedd gwenith yn gadarn ar ddechreu y farchnad a galw gweddol am dano. yn ol prisiau dydd Gwensr. Gwenith Califfomiaidd, o 6s. 5c. i 68. 5Jo. y can-pwyii. Masnach dawel a wnaed mewn blawd, yn ol llawn britian. Yr oedd galw cymedrol am Indrawn.
MjLaCHNADOBDD Axu=LIAID. Llundain, Ionawr 14.—Gwarthtf. Cyflenwad da o biffiau, oad araf y gwerthent. Gwartheg Here- ford a Devon, o 4a. 6c. i 4s. 7c. yr wytb pwys.— Defaid.-Y defaid yn weddol lawu. Galw pur araf oedd am fyllt a mamogau. Leicester, lonawr 12fed.—Cynulliad bychan o brynwyr oedd yn y farchnad. Cymharol fychan oedd y cyflenwad 0 wartheg, hefyd, yr hwn oedd yn gynwyaedig yn benaf 0 fuchod a heffrod cyf- loion. Cyrhaeddai y rhai goreu o honynt o 18p. i 23p., a rhai eilraddol o 14p. i 16p 10s.
AT FFERM WYR.-Ceir gan E. BEE., Druggist, Maehynlletk, Bowdwr rhaprol i Geffylau, at y Dwfr ac i wella blewyn a Sraen ceffylau, ar gyfer gwaith^a marchnad. [ewn Tina Swllt yr un. TO BUILDERS & CONTRACTORS TENDERS are invited for building a new C.M, Minister's House, near CemmaeB Road. Plans and Speoifications are to be seen at Mr. Morgan's. Cite lago, Llanwrin, to whom also Tenders are to be sent on or before February 1st, 1901. The lowest or any Tender will not necessarily be accepted. I E. P. MORGAN, 8urveyor, Towyn. rhag-bysbysiad. TRADDODIR DARLITH YN NGHAPEL REHOBOTH; CORRIS, NOS LUN, MAWRTH 18fed, 1901. GAN Y PARCH. HUGH PUGH, AR 4 DIWYGIAD CREFYDDOL 1859.1 V GQRRIS. Cynhelir i Cyngertiil vy gan y Bedyddwyr yn y He uchod, NOS LUN, CHWEFROR 11, 1901 CYSTADLEUAXTHAV 1. Unrhyw Unawd at ddewisiad yr Ymgeisydd [agored i ferched, na enillasant wobr fwy na log. yn flaenorol]. Gwobr, 12s; 6c. < 2. Unrhyw Unawd i feibion eto [agored i iai na enillasant wobr fwy na 10s. yn flaenorol]. Gwobr, 12s. 6o. 3. HER UNAWD.—Unrhyw Unawd o ddewis- iad yr Ymgeisydd [agored i'r byd]. Gwobr, tl It. Oc. AMODAU. 1. Pob Ymgeisydd i ofalu am gopi i'r Bsirniad ac i'r Chwareuwr4 2. Pob Ymgeisydd i anfon ei enw ao enw yf Unawd. ynghyd a 6c. o -Entrant Fee, yt hwn a roddir yn ol ar ei ymddangosiad ar y Rwyfan. Yr enwau i fod mewn llaw erbyn Chwefror Tfed* JOHN LEWIS, Pantycelyn. THE NEW YEAR Has now Commenced, and YOU CANNOT DO BETTER Than buy your GROCERIES & PROVISIONS at the STAR STORES, PENRALLT STREET. MACHYNLLETH. Everything at the Lowest, possible Prices. Arthur's Pure Teas at is. 4d., is. 6d., is. 8d., & lS per lb., caftnot be beaten. Have you tried Shreded Wheat Biscuits, 7d. per box. Hartley's Jams & Magn&l&dg Always in Stock. Smoked Hams & Bacon of the, Finest Quality. v Pure Welsh Butter, rs; per lb. Pure Fresh Butter ttijin- the, District, at Market Prices. 3 HOME REFINED L^RD, 5D. PER LB. Orange, Lemons,, Nuts, Figs, Dates, Prunes. Alls order's repectfully solicited. "G M. ASTHtJE,