Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
AM BOBL A PHETHAU.
AM BOBL A PHETHAU. Mae y Parch Hugh Jones, (W.), Bangor, a Dr. Lewis Probert wedi eu hethol i breg- ethu yn y cyfarfod Cymreig sydd i'w gynal yn Llundain Ddydd Gwyl Dewl nesaf. Deallwn mai Wnion, Machynlleth, a enill- odd y wobr am I Ehiau cyfaddas i gyfansoddi Canig arnynt,' yn Eisteddfod Llanllyfni, dydd Gwener diweddaf. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn naw. Ar ei ddyfodiad o Affrica mae y Fren- hinea wedi anrhydeddu Arglwydd Roberts a'r teitl o Iarll, a golynir i'r Senedd ei anrhegu a chodaid da o arian i gynal i fyny yr urddas. Hysbysir fod Castell Oraig-y-nos, D.O., preswylfod Madame Patti, ar yr hwn le y dywedir i 130,000p. gael ei wario ganddi, ar werth, a thebygol yw y prynir ef gan Syr George Newnes, A.S. dros Abeitawe. Mae perchenogaeth y Daily News wedi newid, a bydd ei bolisi ynglyn a'r rhyfel yn newid ddechreu y mis nesaf. Pleidia Rydd- frydiaeth yn gartrefol a thramoi-yr eg- wyddorion ddadleuodd gyda chryn ddylan- wad cyn toriad allan y rhyfel yn Ne Affrica. Cafodd dwy genhedlaeth y plesei- o edrych yn wythnosol ar ddarluniau damhegol a hanesyddol dihafal o brif ddigwyddiadau y dydd gan Syr John Tenniel, yn y papur dif- rifol y Punch. Maent yn awr wedi d'od i'r pen, gan fod yr awdwr ac efe yn 81 mlwydd oed wedi ymneillduo oddiwrth y gorchwyl. Ni fu profiad Dr. Parker yn fwy llwydd- ianus nag eiddo Mr. Sheldon yn ei ymgais i wneyd newyddiadur crefyddol' yn llwydd- iant. Wedi eistedd am wythnosyn nghadair olygyddol y Sun, cwyna oherwydd anmhar- rwydd Cristionogion proffesedig i gefnogi newyddiadur na ddyry le i hapohwareuon, rhedegfeydd ceffylau, &c. Hysbysir fod y Boriaid wedi dinystrio gwerth 50,000p. ar weithydd mwn y Rand. Ni wnaethant un niwed o'r blaen iddynt, er ei fod yn eu gallu i wneyd. Ai ad-daliad ydyw am losgi eu ffermdai ? Dywedir yn awr fod Kitchener wedi cael ei atal rhag gwneyd chwaneg o ddifrod o'r natur hwn. Fel hyn y canodd un o feirdd Dyffryn Dyfi ar ddyfodiad y dwfr hir-ddysgwyliedig i'r Dinas Wele'r dwr heb gamwri,—dewiniaid Annwn gAnt eu siomi; I maes a brftd dewch am spri Yn siriol a'ch piseri. Wele'r Hir a Thoddaid' buddugol, gan Glan Wnion, Dolgellau, ar y diweddar Mr. Francis Evans, U.H., Dolgellau :— Hoff Francis Evans tirion o fonedd, Huliai i'w frodyr a'i wyn haelfrydedd Olud ei galon i dlawd ei goledd Ynad deallus yn Uawn didwylledd A cha hwn barch yn y bedd—tra yn lion Y rhed yr Wnion m rydia'i tinwedd. Y mae'r glowr Cymreig wedi gweled a dioddef oddiwrth lawer tanchwa ysgubol oddiar yr adeg y mae y pyllau mawrion sydd genym wedi eu hagor. Wele restr ddu-wyth o honynt a phob un o honynt yn cynwys colli dros gant o fywydau. Cymer, 1856-114 o fywydau; Risca, 1860-145; Ferndale, 1867—178; Aberearn, 1878- 268; Risca, 1880-119; Llanerch, 1890— 176; Park Slip, 1892-110; Cilfynydd, 1894-276. Gan' mlynedd yn ol nid oedd y fath beth a boes o fatches yn nhy y Brenin. Dyna lie yr oedd twrw a helbul o eisiau matchet i gyneu tin-a phaham ? Dim un wedi ei dyf«i»io. Daeth canrif y luciftr match, a phwy na ddywed nad yw, er mor lloiod, yn un o ddefnydd a gwasanaeth anhraethadwy Y mae yn syndod meddwl fod tan a chyneu tin wedi bod yn y byd am filoedd o flynydd- oedd cyn dyfeisio gwas bach mor symllac mor angenrheidiol a luexfer match, ond felly y bu. Mewn cyfarfod o Gyngor Trefol Birming- ham, cafwyd dadl boeth neillduol mown cysylltiad a'r cynyg i anrhydeddu Iarll Roberts, trwy roddi Rhyddid y ddinas,' i'r Maeslywydd. Pasiodd geiiiau cas rhwng y pleidiau-i-hai yn erbyn hyny, bid sicr. Beth bynag, ar ol,liir ddadleu, nes i bethau arwain bron i bwynt-gwaeth na bod yn deg, basiwyd trwy fwyafrif fod yr anrhyd- edd hwnw i'w roddi ar gopa arwr y dydd.' Y mae Uadd un yn arwain i'r crogbren, ond lladd miloedd—cyfoeth mawr a gwlad i blygu Q'i flaen, a'i addoli.
ANNIBYNIAETH YN DINAS MAWDDWY.
ANNIBYNIAETH YN DINAS MAWDDWY. Gan Teqwyn. YI. Y Capal Cyntaf. Yn y flwyddyn 1794, cawn hwy yn deohreu adeiladu addoldy yn y Dinas, yr hwn a orphenwyd erbyn Gwanwyn 1795, a chyn- haliwyd cyfarfod agoriadol dylanwadol iawn ynddo. Dyma y- capel Ymneillduol cyntaf yn y ddau blwyf. Siriolodd hyn galon yr eglwys fechan yn fawr, a chynyddodd achos Dnw yn raddol yn eu plith fel yr ydym yn niwedd 1796 yn eu cael yn fwy na 36 orifedi, ac yn ddig-on gwrol a chalonog i roddi gnlwad i Mr. William Hughes, Bangor, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Mai, 1797, a bu yma yn weinidog ffyddlon hyd derfyn ei oes. Nid oedd y pryd hwnw ond chwech o gapelau gan yr Annibynwyr yn Meirion, a dim ond tri o weinidogion gan yr enwad, W.Thomas, Bala; G Lewis, Llan- uwchlyn a William Jones, Trawsfynydd. Mawr ydyw y rhwymau sydd arnom i ddiolch am y cyfnewidiad er y pryd hyny. Y Gweinidog Cyntaf, Ganwyd Mr. W. Hughes yn Rhos-cill-bach, plwyf Llanystumdwy, Swydd Gaernarfon, yn mis Mai, 1761. Enwau ai rieni oedd Hugh a Mary Powlands. Yr oedd Mr. Hughes yn gloff o groth ei fam. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mhwllheli pan o gylch ugain oed. With sylwi. ar ei gynydd, cymhallwyd ef i ddechreu pregethu Pregethodd ei brepeth gyntaf yn Nghapel Newydd Lleyn Treu'iodd ychydig amser yn Llanuwchlyn dan addysg y Parch. A. Tibbott, ond yn y flwyddyn 1788 aeth i Fangor i lafurio ar gais gweinidojiion y wlad yn benaf. Urddwyd ef yn Caegwigin yn y flwyddyn 1789. Priododd yn y flwyddyn 1790 a Margaret, merch Ellis Roberts, Tyddynyddol, gerllaw y Bala, o'r hon y bu iddo deg o blant. Mae tair o'i ferched yn ddigon adnabyddus fel gwragedd tra rhinweddol. Daeth un mab iddo i'r weinidogaeth, Parch.Ellis Hughes, Penmain, Mynwy. Bu yntau farw Tachwedd i, 1881, wedi bod 33 o flynyddoedd yn y weinidogaeth. Yr oedd Ellis Hughes yn wr mawr yn ei ddydd. Cyhoeddodd 0 leiaf saith o lyfrau buddiol. Yr oedd yn bregethwr hyawdl, ac yn fardd da fel ei dad. Yn wir, ni welsom neb 0 fywgraffwyr William Hughes yn cyfeirio ato fel bardd. Gallasem roddi erthygl arno fel Emynydd, pe byddai gofod Gwasanaethed yr ychydig hyn fel enghreifftiau o'i emynau Arglwydd, paid a gadael i mi,' &c., Y mae ffrydiau melus iawn,' &c. Gwel Llyfr fanes a 24nymarian, 464. Dyma un eto a ganodd ein tadau lawer arno. Yr oedd prinder emynau yn fawr y pryd hwnw Yr iachawdwriaath fawr, Anfeidrol werthfawryw, Mae'n cynwys ynddi bob peth da I'r gwaela' o ddynolryw; I'r euog gyfiawnhad, I'r caeth ryddhad o'i boen, I'r halogedig santeiddhad, Trwy rinwedd gwaed yr Oen. Dyma emyn ddeil i'w gydmaru ag emynau anfarwol Ann Griffiths.. Dolwar Fechan. Bu Mr. Hnghes yn weinidog llafuius yn y Dinas am yn agos i ddeg mlynedd ar hugain, a gwaith yr Arglwydd yn llwyddo yn raddol a sicr yn ei law. Bu farw y dydd olaf 9 Rhagfyr, 1826. Dywed un am dano—'Mewn llafur dibaid, mewn gostyngeiddrwydd diddichell, mewn duwioldeb diamheuol, mewn gofal bugeil- iol, mewn gweinidogaeth Ysgrythyrol; ac mewn awydd cyson am wneud daioni, nid oedd Mr. Hughes yn ail i neb yn ei oes.' Dywed ei fywgraffydd, yr hen J. R.:—' Mae yn sicr nad oes neb yn fyw yn bresenol ymhlith yr Ym- neillduwyr a deithodd gymaint ar hyd Gymru i bregethu na Mr. Hughes. Arferai bod blwyddyn wneyd taith gohir trwy ranau o'r Gogledd a'r Deheu, ar y teithiau hyny pregethai yn gyffredin dair gwaith yn dydd.' Yn y flwyddyn 1803, torodd adfywiad mawr yn Troedrhiwdalar,Llan- brynmair.a manau eraill drwy weinidogaeth Mr Hughes (gwel Cornicl, Cyf. vi. 7). Bu un arall cyffelyb yn Ffestiniog (gwel Dysgedydd 1876, 5^). Chwanegwyd canoedd lawer at yr eglwysi gyda'r gwahanol enwadau drwyddo. Cawn i adfywiad grymus a neillduol gymeryd lie yn y Dinas yn 1805 drwyddo. 'Chwanegwyd at eglwys y Dinas y flwyddyn hono o gylch deg ar hugain o aelodau (gwel Co,§ant.Mr. Hugher, tudalen 16). Mae ei enw yn perarogli hyd heddyw yn y Dinas ar amgylchoedd. Heddwch i'w lwch Y., n.,hy,'zk:)dlgweinidogaoth Mr. Hughes, bu y tadau yn hynod ymdrechgar gyda'r achos yn ei holl agweddau. Yr oeddynt yn meddu gradd helaeth o wresawgrwydd ac yni ysbryd, ac elent oddiamgylch i gynal cyfarfodydd gwcddio ymhob lie y rhoddid derbyniad iddynt. Elent oddiyma i'r Brithdir, Foel, Cwmllune, a Ty'n- rhos. Dafydd Jones, Glodfagoch, Sion James, a llu eraill. Byddai R. Roberts, Tyddynfelin, yn pregthu llawer yma y pryd hyn. Thomas Rowlands, Bron Gamlao, oedd yn ddyn defn- yddiol iawn gyda'r achos yn y çyfnod hwn. Yr oedd efe yn dad i Mr R. Rowlands, Hemyd, ac yn daid i Mr. J Rowlands, y Rhos. Symud- odd yn y flwyddyn 1807, i le o'r enw Byrdir yn agos i Soar Os bu pregethwr cynorthwyol erioed yn ffyddlon, yr oedd Thomas Rowlands folly; a ya yt uu 1^4 •» i fedd. Bu hefyd yn gynorthwy mawr i weinid- ogaeth Mr. Hughes. Cyrhaeddai cylch gwein- idogaeth Mr Hughes y pryd hwnw o Lany- mawddwy i Gwmllune, ac i lawr i'r Foel, ac yn wir i'r Tygwyn, Llanerfyl; a dywed un, fel y nodasom yn barod, y byddai ymweliadau yrhen dadau o'r Dinas i gynal cyfarfodydd gweddio yn cyraedd llawn mor belled.
PENOD YR ENWOGION
PENOD YR ENWOGION Cyfeiriwn yn awr at rai cowri oedd yn anterth eu neith ar ddechreu y ganrif ddiweddaf.
NAPOLEON.-
NAPOLEON. Dyma ddyn a gododd o ddinodedd i fod yn un o'r milwyr mwyaf athrylithgar a fu yn y byd erioed, ac y teimlodd Ewrob fwyaf oddiwrth ei ddylanwad o un dyna ymddang- osodd. Ganwyd ef yn 1769, ac nid oedd neb yn meddwl fod dim neillduol ynddo. Erbyn 1801, yr oedd y Cyfandir yn crynu with glywed swn ei droed. Pan oedd y ganrif yn bedair mlwydd oed, cyhoeddwyd ef yu Ym- erawdwr Ffrainc, ac yna dilynodd brwydrau Austerlitz (1805), a Jena (1806), ac ysgubwyd yr Awstriaid, y Rwsiaid, a'r Prwsiaid fel na feiddient sefyll yn sengl wedi'n i ymladd ag ef. Yr oedd dychryn wedi dal hoil lyaoedd brenhinol y byd. Ond ataliwyd rhwysg y gormeswr, achubwyd y Cyfandir, a phrofwyd fod milwriaeth noeth a syml yn fethiant, ac na fynai y byd mo'r fath beth. Dinystiiwyd ei allu ar y mor gan Nelson yn Trafalgar (1805), a dileuwyd ei aUu ar y tir gan Wellington yn Waterloo (1815), ac yn St. Helena y gorphanodd ei d dyddi au. Dy sgodd ddwy wera i'r byd. Dysgodd i frenhinoedd y ddaear y geUircadi breniu o'r bobl, a dysgodd i'r bob! na all un brenin na gallu fyw drwy rym y cledd. Oymered Lloegr y worn ddysgodd Napoleon gan' mlynedd yn ol. Un o wleidyddion enwocaf y cyf nod hwn oedd WILLIAM PITT. Ganwyd ef yn Hayes, tua'r flwyddyn 1759, a chyn ei fod yn bump ar hugain "oed yr oedd yn Arglwydd Ganghellydd y Trysorlys, ac yri arweinydd yn y Senedd, a pharhaodd ei Weinyddiaeth am y tymor maith 0 17 o flynyddau. Ofer fuasai disgwyl am ddyn perffaith yu Pitt, ondy. r oodd yn wladwtin- ydd galluog dro* ben. Nid oedd mer ddy- lanwadol a'i dad, ac nid oedd mor ddyagedig a Burke, ond yr oedd gyfuniad 0 alluoedd oedd yn ei wneud yn feistr yn y Ty. Am yru allan raiadrau o ddawn areithyddol a gwneyd arddangosiad digyffelyb ar ddyddiau mawrion yr oesau, nid oedd yn werth ei gymharu a'i dad, Chatham, ond am sefyll wrth y llyw ddydd a nos, gyda chysondtb diflino ac hunanfeddiant meistrolgar yinhob amgylchiad cyffredin ac aughyffradiu,-Pitt, Dros yr haner cyntaf o'i fywyd yr oedd ynddo ryw gymaint 0 duedd at ddiwygiadau gwleidyddol, ond, pan glywodd swn chwyl- droad Ffrainc a phan welodd ei ochr ddu yn unig, meddianwyd ef gan ysbryd Ceidwadol ac Ymerodrol o'r fath waethaf. Pitt oedd cynrychiolydd yr ysbryd hwn yn y Senedd, ond Nelson a Wellington oeddynt y glewion osododd swyn a bri arno i'r werin. Terfynodd Nelson ei oes yn nghanol ihwysg Trafalgar ac ar ganol awr ei fuddugoliaeth (1605). Dyma ddelfryd1 y llyngesydd a'r mor-filwr. Yr hyn oedd Napoleon ar y tir i'r Ffrancod, ydyw Nelson ar y mor i'r Prydeinwyr. Nid oedd heb ei feiau, ond drwy y cyfan ymgododd i fod yn iiafryn y genedl. j Yr ydym yn byw ac yn brolio heddyw ar IIwyn ei orcheetion, ond pe bai yn d'od yn gyfyngder ar y mor, y mae yn bur debyg y caem weled cyn bo hir na allem fyw ar y gorphenol. Nid oes genym heddyw yn Affrica yr un Wellington, a phe. oodai tymhestl at y Werydd, tebyg yw na fuasai genym un Nelson. Ond edrychwn at gynrychiolydd ysbryd arall ac ardderchocach, sef WILBERFORCE, y dyngarwr enwog, yr hwn anwyd yn Hull, yn 1759, ac a fu farw yn union wedi gorphen ei waith, a chario allan ei genadaeth i fuddugoliaeth, sef Rhyddhad y Caethion (1833). Tynwyd ei sylw at y cwestiwn yn y flwyddyn 1786 gan Clarkson, un o'r dynion goreu fagodd Prydain, ac yn y. flwyddyn ddilynol galwodd sylw y Ty at y mater. Methiant wrth gwrs fu tynged ei gynyg cyntaf a'i ail gynyg hefyd, ond jdaliodd ati bob blwyddyn i geisio cael gaii^y Senedd y atal gaeth-fasnach. Llwyddodd yn 1807 i osod terfyn ar drosglwyddo y Negroaid duon i drefedigaethau Prydain, ac yn 1883 pasiwyd mesur i brynu yr holl gaethion yn rhydd. Nid oes angen cof-golofn 0 fatmor ar Wilberforce na Clarkson-y mae yr orchest fendigedig hon yn ddigon. Dyna gynrych- iolwyr yr ysbryd dyngarol oedd y pryd hwnw ta &@okra& hdmafa tjm<leiiku. i
CORitlS. ''
CORitlS. Yn yr ystorm ddiweddar, aeth llong- a glndai lwy-th olechi chwarftl Abercwrnaeiddaw. b Aber- 'dtfi Ilittlebampton, yn ddrylliau ar dueddatt Sir Benfro. Aehubwyd y dwylan', ac yr oedd y llwyth wedi ei yswirio. Cymdkithas Ddiwylliadol Shiloh,— Cynhaliwyd cyfarfod o'r uchod nos Wener, Rhag. 28ain, 1900,jdan lywyddiaeth. ;yParch. E. B. Roberts. Cafwyd papvrau a'r Pril ddigwyddiadao yjlwydd'yn 1900*. i y .kid. yddol,' Mr. Edward Manuel; Yn k Gymdeith« asol,' Mr. Henry Harris; 'Yn Grefyddol,' Mr. J. J. Edwards. Yr oedd cynulliad lluosog wedi d'od ynghyd a'r noswaith mor storaus, a chafodd pawb e.i boddhait-^Cynha 1 iwvd "_c /far- fod o'r Gymdeithas nos NV-ner- IonawT 4vdd, dan lywyddiaeth Mr. E. Manuel. -^0df oa Hynod' oedd dan sylw y iaofwaith yrna. Cafwyd Adgofion gan -Mri. Evan ::E:r-is, John Lewis, Lewis Howells, T. Pierce, H. Harris, James Lewis, David Daviesf ac E. Manuel. Cafwyd adgofion am ("idiwytiid 1859—'60 a llawer o odfaon eraill. Yr oend hwn yn un o'r cyfarfodydd goreu a gafwyd er pan sefydlwyd y GymdeithasA.ELOD. PRIODAS. -IYydd Gwener "'dTwedflaf, yn nghapel yr Annibynwyr, Towyn, unwyd mewn glAn briodas y Parch. Rhys Dayies. (A.), Corris, 1 Miss Mary Hannah. Morgari,merch Mr. R Morgan, Contractor, Towyn. Gwein. yddwyd gan y Parchn. J. M WiHiams. Towyn, a H. W. Parry, Aberllefenni." Yrloedd bte-cv6ast rhagorol wedi ei ddarparu. yn nhy Mr. R. P. Morgan, Architect (brawd y brioda'sfe'rch), a chyfranogwyd o hono gan luaws 0 gyfeillion. Ar y terfyn, darllenwyd anerchiad i Mr. a Mrs. Davies, ar ran gweinidogion Corris a'r Cylch, gan y Parch H. W. Parry. Ymadawodd y pår ieuanc i dreulio eu Mis Mfil 1 Lerpwl, gyda dymuniadau goreu eu lluosog. gyfeillion am eu dedw>ddwch a'u llwyddjant. Cvngerud y SEINDOR]R --Nos Lun,R-hagfyr 31, cynhaliwyd Budd-gyngerdd y Seindorf Bres, yn yr Ysgoldy Genedlaethol. Cifdkirydd, Parch. E. Berwyn Roberts. Cyfe-iliwyd yn fedrus gan Mrs. Trevor Jones. Cymerwyd rhan yn y Cyngerdd gan y Seindorf, Misses J. A. Davies, M. K. Roberts, Kate Hughes, Mary Lumley; Mri, Edward Lewis, J R. J"Mo'rgan, Ellis Jones, Hugh Jones, Trevor Jones, — Dawson, W. Roberts D. Price. Gwnaeth yr oil eu gwaith yn ganmoladwy.. Yr ydym ni sydd a'u henwau isod, ar ran y Seindorf, yn dymuno cydnabod yn 4diotchgat y gefnogaeth sylwaddol a roddwyd i ni er eia .cyrierthwyo i dalu eiu treuliau ynglyn & chystad- leuaeth Eisteddfod Meirion. Er na m eia hymgais y tro hwn mor llwyddianus ac-y dym- unem, credwn ein bod wedi enill mewn rhai cyfeiriadau pwysig; a phan j cymerir i ystyr- iaeth ein bod yn cystadlu A Seindorf sydd wedi enill gwobrau yn Belle Vue, Manchester, aid yw yn syn i ni fod yn ail iddynt. Derbynied pawb ein diolchgarwch a cheisiwn drwy ddyblu diwydrwydd a pnarhad o'ch cynorthwy, woeyd ein goreu i'ch gwasanaethu, ac enill eto safle ymysg Seindyrf Cymru fydd yn deilwng o ardal Corris. M. H. Ellis, J. E. Jones,' E. M. Jones, Svoyddogisn.
ABl&IUWr ". I,It.-
ABl&IUWr It. Cyfarfodydd PLSGXTIEU.-Nos") Liin- a dydd Mawrth, cyuhahQd-I Annibynwyr X'apel Sylfaen, Altermaw 8. cyfarfodydd pregethu. Y gweinidogion fa fa gwasanaeUui aleni oeddynt y Parchn. Rhys J. Huws, Bet&l; R. Roberts, Rhos; a B. Davies, D.D., Trtlech. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog fel arlor; ?ltasd gwdmiynawtff
--$einton 12r Jlroen.
$einton 12r Jlroen. LLEWEllYN AP GRTJFFYDD. Mh« y llinallftu oanlynol yn rliau o farwnad Gruffydd ap yr Ynad Cocli i Llewelyn j Llyw Olaf, a iyfansoddwyd yn 1282. Gwao fi am arglwydd gwalch diwaradwydd Gwm fl o'r aflwydd i dramgwyddaw Gwae fl o'r golled gwae fi o'r dynged Gwae ft o'r clywed fod clwyf arnaw. Llawer deigr bylithr yn hwylaw ar-rudd Llawor ystlys rhudd a rhwyg arnaw Llawer gwaed am droed wedi ymdreiddiaw Llawer gweddw a gwaedd am danaw Llawer mab heb dad wedi ei adaw Llawer hendref faith wedi llwybr goddaith A llawer drffaith drwy anrhaith draw. Poni welwchwi hynt y gwynt a'r glwaw Poni welwchwi'r dari yn ymdaraw. Byohan lleb oedd ym am fy nhwyllaw Oadael pen arnaf heb pen arnaw. Pen Llewelyn deg dygn o fraw i'r byd Bood pawb haeam danaw Pen a fu berchen ar barch naw oanwlad A naw oanwledd iddaw Gwir freiniol fri Aberffraw Gwtnwlad nef boed addef iddaw.
EGLWYSI RHYDDION CYMRU.
EGLWYSI RHYDDION CYMRU. Y mat adroddiadau y Badyddwyr, yr Anni- bynwyr, a'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru gan gynwys Sir Fynwy, am y.flwyddyn diweddaf yn dangos cynydd yn rhif yr aelodau Y mae gan y Bedyddwyr yo awr 922 0 leoedd 1 addoli, gyda lie ar gyfer 340,304 ° borsonau. Rhifa y cymunwyr 106,s66-enill clir, o 5,509 Y mae athrawon ) r Ysgol Sabbotholyn rhifo 11,116 (cynydd o 220), a'r ysgolheigion 119,373 r-cynydd o 7;680. Hysbysir fod 42 0 fyfyrwyr yn y colegau yn Mangor a Chaerdydd. Dengys adroddiad yr Annibynwyr fod ganddynt 1,282 olsoedd i addoli, gydag eistedd- leaedd i 419,079 o bersonau. Rhifa y cymun- wyr 145,772-cynydd 05,340. Ceir yn yr Ys. golion Sabbothol 14,516 o athrawon a iwydd. ogion, gyda 154,35-8 o ysgolheigion-cynydd 0 752 0 athrawon, a 3,145 0 ysgolheigion. Y mae 92 o fyfyrwyr yn N gholegau Cymru. Casglwyd, i bob amcan y swm o i57,823p., a defnyddiwyd o'r swm hwnw 29,9389. i dalu dyledion capelydd, gan adael dyled 0 208,113P, ar eiddo a fernir sydd yn werth agos i 1,37o,ooop. Y mae adroddiadau y Methodistiaid Calfin. aidd, yn cynwys eu heglwysi Saesnig yn Lloegr, yn eu cyfanrif o 1,557 0 leoedd i addoli. Rhifa y cymunwyr 156,058—cynydd o 2,346, er yr adroddir IleihAd 0 871 yn y presenoldeb cyff- redinol. I bod amcan casghvyd 384.I30p.- cynydd o 37,8i5p. Allan 0 hyn deiuyddiwyd y swm 0 86,3iip. i leihau dyieuion capelydd, pa rai sydd yn 337,522p. Yu nghenhadaeth dramor y cyfundeb yn India y mae 160 o eglwys- Jdd, ac agos i 200 0 orsafoedJ i bregethu. Ki chyho«ddwyd ystadegau y WMtayaid eto.
AI)RAN Y MEROHED.
AI)RAN Y MEROHED. YMHERODRES JAPAN. Ychydig a feddyliai Japan yn yr amser a aeth heibio o'i hymherodresau ar hyd yr oesau, a bum' can'mlynedd cyn Crist hyd yr ym- herodres bresenol, yr hon sydd yn ymherodres, nid mewn enw yn unig, ond felly mewn gwir- ionedd. Mutshuito yw y cyntaf o'r 120 ym- herodron fu ar y wlad o'i flaen, a roddes s6dd i'w wraig Wrth ei fwrdd, ac a ganiataodd lais iddi yn nghynghorau y wlad. Priododd yr ymherawdwr pan oedd ef yn 17 mlwydd eed, y flwyddyn ar ol ei goroniad ac mae y ddau wedi bod yn offerynau i ddyrchafu safon llys ymherodrol japan-megis ag y dyrchafasent safon y bywyd cenedlaethot-i uchder mwy nag y buont erioed o'r blaen. Y mae deng mlynedd ar hugain wedi myned heibio er pan eu priodwyd, ac mae yr Ymherodres Haruko yn fam i un mab a phedair 0 ferched, y rhai a ddygir i fyny yn ol defod ac arfer Ewropeaid. Mae yr ymherodres yn gallu marchogaeth yn dda, a gwna y defnydd goreu o ymarferiadau gymnasaidd yn yr ymdrechle a adeiladwyd iddi yn y palas yn Tokio; ac y mae hi wedi profi ei hun yn housekeeper mor dda, fel y mae Sfutshuito wedi cyflwyno iddi, nifer dirif 0 ganeuen, ond ni ddyweulir pa un ai ei waith ef ydynt ynte gwaith rhywun arall—ei fardd Uaw. ryfol, os oes ganddo un. BRENHINES AWSTRALIA.' Detbyniayr Arglwyddes Hopetoun ei rhan o'r croesaw poblpgaidd, pa un y mae Awstralia yn ei barotoi i'w llywodraethwr cyffredinol. Mae hi eisoes wedi sicrhau iddi ei hun gym- eriad rhagorol ymysg ein gwrthdroedwyr. Dywedir y byddai Queensferry yn 11c dwl iawn Oni bae am bresenoldeb yr arglwyddes, yr hon sydd wedi cartrefu yno er's pedair blynedd ar ddeg, hy., er pan y priododd I gyfaill ei phlentyndod,' yr hwn oedd y pryd hwnw yn ddyn ieuanc hynod o ran ei alluoedd amrywiol, ond hynod o wrthwynebus i bob rhodres ffas- iynol, fel ag sydd ymysg y dosbarth y perthyna efe iddo: Mewn gwirionedd, fe edrycha ef gyda'r dirmyg mwyat ar yr addoliad a delir i gyfoeth. Ond y mae y frenhines yn wahanol # hyny o beth ac am ei bod hi felly, feddywed y SAjiere ei bod hi yn iarlles bob Diodfeda o honi.
,ABEKYSTWYTH..
ABEKYSTWYTH.. LLWYDDIANT 'EiSTEDD:FODOL. -Yn-. Eis* teddfod Meirion, y Calan, enillocid Miss Warrington, Terrace Road, y wobr a ip sin y Contralto Solo. Miss Edwards, Great ei Darkgate Street, enillodd am jsgyfieithu o'r Gymraeg Ir Saeineg i a-. Mr. W. 'tR., Hall, Plynlymon House, am ddarluniau o chwech a leoedd yn y Sir. MARWOLAETH YN NE Affrica.-—Rhagfyr 2ofed, yn Mooi Riyer, bu farw Mr. Isaac Clayton Jones, a weinyddai gyda'r Imp^ii^l Hospital Corps. Cafodd ei daraw a'r enteric fever ac ni wellhaodd o hono. Nid oedd oni 27ain oed. Cydymdeiifolir yn fawr a'r perthyn- asau yn eu galar. < ABBRGYNOLWYN. BWRDD Ysgol.—Cynhaliwyd yn yr ySgoldy, OOs Wener diweddaf. Presenot; Mri G. Evans, Cadeirydd, W., Jones, Is.adeiry,1d, J., Owen, O. Edwards, a G Griffiths.. Hysbys. wyd derbyniad y fee grant Am y chwarter blaenorol, sef iap. 15s.—Pasiwyd i anfon>cais at y Bwrdd Addysg am ygrant,ych wane .ol o ISP. 3s. dyledus o dan adran„37. o'r Ddeddf Addysg .-Archwiliwyd amryw fiiliau a phasiwyd i'w talu.—Penderfynwyd hefyd i geisio ..gwella y chwareule (playgroundsJ. • PENRHYNDEUDRAETH. DARLITH.T,)s -Wener, traddododd Mr. Jones-Morcis, M. Tyceryg, ddarlith yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, yr.hon a eglurid dfwy gyfrwng y Magic Lantern. Ei destyn oedd Y Liyfr Gweddi a'i hanes.' Aicrhkq.—os Lun, yragVnuliodd nlfiffawr o'r ardalwyr, yn Ysgoldy y Bwrdd, ar wahddd- iad Mr. Osmond Williams, A-8.. Hysbysbdd Mr. Williams ei wedi peadfrfynu jft>ddi ystafell eang sydd for)oya a tr GriMti Hotel yn feddiaat dl-ain»edol i'r ardalwyr, i'w defa- yddie fif as* Paaiwy# 4iolahjafwch cyino i Mr. wulianit an ai r40 haelieaas,