Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

HEN GOFNODION AM MACHYNLLETH.

News
Cite
Share

HEN GOFNODION AM MACHYNLLETH. Flwyddyn neu ddwy cyn ei farwolaeth, yr oedd y diweddar Mr. Nicholas Bennett, Glan- yrafon, i lywyddu, neu gymeryd rhan mewn Eisteddfod yn Machynlleth. Parotodd anerch- lad; at yr achlysur, ond a allodd fod yn bresenol ni hysbysir ni. Caed y dyfyniad a ganlyn o honi yn ei Lyfrgell. Mown llaw-ysgrif yn meddiant y diwoddar Mr Lloyd, cyfreithiwr, Bala, rhoddir ychydig hanes Eisteddfod a gynhaliwyd yn Machynlleth ar Wyl Ifan, 1701, pryd y cystadleuai y beirdd a ganlyn ar englyn -Wmffra Owen, Sion Rhydderch, Dafydd Manuel, a Sion Pritchard. Crybwyllir am Delynor medrus o'r enw David Wood, yr hwn oedd ,yn ddall, ac a gadwai Westy y Bull. Enillodd wobr yn Eisteddfod Aberystwyth, yn 1824, a chafodd ei ddwbl "wobrwyo drwy garedigrwydd Mrs. Pryse, Gogerddan. Beirniad y gerddoriaeth oedd Gruffydd Owen, Ynysmaengwyn. Yn 1823, ffurfiwyd Cymdeithas Cymreigydd. ion Machynlleth ya y Blue Bell. Arwyddair hon oedd Brawdgarvoch, ac ymhlith ei hael- odau cofrostrwyd yr enwau canlynol:- Thomas Jones, Ysw., 0 Bias Lledfor, Ladeirydd; Thomas Lewis, Ysw., Rhaglaw John Jones, Trysorydd; John Williams, Cofiadur; Richard Edwards, Bardd; David Wood Telynor; Cyngor: Parch. John Hughes, Mri. Huw Llwyd, Jphn Foulkes, John Stephens, Themas Jones, Richard Jones, a Micah Jones.'

--.-_-----YMARFER SAETHU DROS…

TRIDIAU YN LLANDRINDOD ETO.

COFRESTRIAD YR ETHOLWYR.

CORRIS. '; :".,

...........-".. ®emtott v*…

RHYFEL.

.Y CYNHAUAF.

EISTEDDFOD LERPWL 1900.

,TEITH10 HEB DOCYN A.U.,'

_,--------------_,. AM BOBL…

IABERYSTWYTH.

MACHYNLLETH.