Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
^ciuiou \? r Jlwen.
^ciuiou \? r Jlwen. ENGLYNION A adroddwyd ar gadeiriad y Parch. R. W. Jones, Towyn. am y bryddest oreu ar 'A them] ni welais ynddi,' yn Eisteddfod Conwy, Nadolig 1899. Ei enw'n nheml' barddonedd—gerfia aidd Gyrfa hwn drwy i geinedd; A chain swyn gylchyna sedd Awenwr byw arddunedd. Dedwydd yw'r bardd clodadwy,—ei deg gerdd Geidw'i gamp mawladwy; 0 Ar led urddant, moliant mwy Ceinion cadeirfardd Conwy MACHRETH MON.
DYFERION DIRWESTOL.
DYFERION DIRWESTOL. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Heddlu Arfon, a gynhaliwyd yr wythnos ddiweddaf, derbyniwyd a mabwysiadwyd adroddiad is-bwyllgor a ben- odwyd yn ddistaw i ystyried yn benaf arolyg- aeth tafarnau y sir gan yr heddgeidwaid, o herwydd fod Rawer o gwynion drwy y sir am ei aneffeithiolrwydd. Bydd y penderfyniadau y rhai sydd fel y canlyn yn rhywbeth i siroedd eraill gyrchu ato i Mae yr heddgeidwaid i hysbysu pob taf- arndy sy'n gwerthu diod ar goel. Felly, o hyn allan, diogelir y meddwyn, druain, rhag rhedeg yn nyled y tafarnwr. 2 Mae yr heddgeidwaid i hysbysu pob taf- arndy lie y dygir busnes ymlaen drwy ddrws cefn, neu unrhyw ddrws ond drws y ffrynt. Felly, nid a neb yn llechwraidd i'r dafarn. 3 Mae yr heddgeidwaid i rybuddio tafarnwyr i beidio gwerthu diod i blant-ac i hysbysu pwy bynag a droseddo'r rheol. 4 Mae yr heddgeidwaid i hysbysu pob taf- arnwr a ganiatao i lymeitwyr aros yn hir yn y dafarn. Nid oes eisiau awr neu ddwy i dori syched. 5 Mae'r heddgeidwaid i wysio pob dyn a welir yn feddw ar yr heol. Gwneir meddwdod felly ynddo ei hun yn drosedd yn erbyn y gyfraith. 6 Er cynorthwyo'r heddgeidwad cyftredin mae swyddog arbenig 0 safle arolygwr (in- spector), yn cael ioop. y fiwyddyn a'i dreuliau i roi ei holl amser i ofalu fod y rheolau uchod, a phob rheol arall ynglyn a threfn y fasnach feddwol, yn cael eu cadw a'u cario allan. Ni bydd hwn wedi ei wisgo fel plismon, ond fel dyn cyffredin, a disgwylir iddo ymweled a phob rhan o'r sir yn ddirybudd.
YMBORTH LLYSIEUOL.
YMBORTH LLYSIEUOL. Mae yn perthyn i gredinwyr mewn grawn, llaeth, a llysiau fel unig ymborth briodol dynion ddeg ar hugain o gymdeithasau a'r benaf yn Oxford St., Manchester. Dywed y Llywydd, Mr. Hills, yn ei adolygiad o'r gwaith, Cerir y symudiadymlaen mewn rhai o'r trefydd Cymreig-Croesoswallt, Caerdydd, a Chas- newydd. Disgwylir y bydd cyrndeithas lew- yrchus yn fuan yn Nghaerdydd, yr hon a gefnogir gan y diweddar Faer, Mr. Beavan. Mae yno restaurant deilwng a llwyddianus. Credai y llywydd fod y Cymry yn dra chyfaddas oherwydd eu natur fywiog a chymdeithasgar i'w lienill i'r athrawiaeth 0 fwydydd a diodydd iach a meithrinol.'
LLANBRYNMAIR.
LLANBRYNMAIR. CYNGERDD PLANT YR YSGOL.—Cynhaliwyd hwn eleni nos Wener. Cadeirydd, J. Edwards. Ysw.; arweinydd, Demetrius; cyfeiles, Miss Morgans, Llwynaire. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y plant, Eos Cyfeiliog, Mr. P. O. Burton, Miss Lewis, Machynlleth, yr hon a wnaeth ei gwaith yn ganmoladwy, er nad yw eto ond ieuanc, ond barn pawb a'i clywodd oedd, mai nid ar lwyfan eisteddfod na chyng- herddau Ileol ybydd Miss Lewis i'w gweled cyn hir, ond ar y llwyfau cenedlaethol. Gwnaeth y plant eu gwaith yn rhagorol; eglur yw fod llafur mawr wedi ei gymeryd i'w dysgu. Yn ystod y cyfarfod, rhanwyd bathodynau i bob plentyn a fu yn yr ysgol yn ddi-goll am y flwyddyn, 18 mswn nifer. Nid gorchest fechan yw i blentyn mewn ardal fel Llaubrynmair fod mor ffyddlon drwy y gwynt a'r gwlaw am fiwyddyn. Yn ychwanegol at hyny, rhoddwyd gwobrau mewn llyfrau i bob plentyn yn ol eu ffydiilondeb. Da genym ddwyn tystiolaeth i weithgarwch a llwyddiant yr ysgolfeistr, Mr. Rees. Nid yw rhif yr ysgol ar gyfartaledd wedi bod yn debyg i'r flwyddyn hon er's deuadengl mlyuedd, ac yn ot ei garedigrwydd arferol, rhoddwyd teisenau i'r plant gan y llywydd. Mae y wledd hon wedi creu dis- gwyliadau yn yr ardal am un eto yn fuan Terfynwyd'drwy i Miss Lewis ganu Hen wlad fy nhadau.'
PALAS ESGOB BANGOR.
PALAS ESGOB BANGOR. Hysbysir fod y Dirprwywyr Eglwysig, er gwaethaf gwrthwynebiad Deon a Glwysgoi- Bangor, wedi gwerthu Palas yr Esgob-ty Ilaith ac afiach mewn pant, ac wedi prynu yr anedd hardd Olyngarth, ar lan y Fenai (ochr Sir Fon), i fod yn breswylfa newydd i'i esgob. G L gu hyn, ond odid, y gwneir heol lydaa gylious o orsaf y rheilffordd Bangor i lanfa'r liongau yn y Garth drwy y gerddi sy'n amgylchynu'r hon balas.
AM RYWION.
AM RYWION. Nid oes seindyrJ: yn perthyn i'r fyddin Boraidd. Dydd Gwener, dewiswyd Mr. Clement Edwards, Llundain, fel ymgeisydd Rhydd- frydol dros Fwrdeisdrefi Dinbych. Nid yw'r milwyr gymerir yn garcharorion rhyfel yn parhau i dderbyn eu tal. Nid oes yr un o'r 2,000 sydd yn awr yn Pretoria yn onill ceiniog. Thomas Ellis ydyw enw mab bychan a anwyd i briod y diweddar aeiod seneddol dros Sir Feirionydd, ac y mae y fam a'r baban yn parhau i ddyfod ymlaen yn dda. MaePrydain yn danfon ICO,000 o fijwyr i'r Transvaal. I'r Aipht anfonwyd 39,000; i'r Crimea, 26,000; i Waterloo, 24,000; i Blenheim, 10,000; ac i Afghanistan 13,000. Mae 400 o weinidogion Is-Ellmynig wedi arwyddo deiseb at eglwysi Cristionogol Lloegr yn erfyn iddynt wneyd yr hyn a allant yn gyfreithlon at ddwyn y rhyfel i derfyniad. Y mae symiau mawrion wedi eu casglu erbyn hyn at y Rhyfel. Dydd Iau, yr oedd casgliad Aiglwydd Faer Llundain yn 595,000p. Or swm hwn casglwyd 46,000p. yn yr eglwysi mewn canlyniad i apel ei Mawrhydi y Frenhines. Mae'r Daily Tele- graph wedi casglu 105,368p. Wrth gwrs, mae lluaws o gasgliadau eraill yn cael eu gwneyd ond dyma'r rhai mwyaf. Cynhaliwyd cynhadledd o wahanol ad- ranau o'r aelodau Conediaethol Gwyddelig Seneddol, yu Dublin, dydd Mercher. Nid oedd dilynwyr Mr. Dillon yn bresenol. Pasiwyd penderfyniadau yn datgan fod y safle boliticaidd bresenol yn gyfryw ag a'i gwna yn angenrheidiol i g'yfyngu y gwa- hanol adranau o'r blaid W yddelig yn un blaid. Dydd Llun, cynhaliwyd cyfarfod o Lys Llywiawdwyr Coleg Bangor, Mr. William Rathbone yn y gadair. Darllenwyd llythyr oddiwrth Dr. Isambard Owen yn ymdrin a'r cwestiwn o godi colegdy newydd mewn lie mwy cyfleus, ac yn awgrymu gwneyd ych- wanegiadau dros amser yn unig new pender- fynir y ewestiwn. Penderfynwyd na. ddylid eadw'r coleg yn yr adeiladau presenol yn liwy nag y byddai raid, ac hefyd eu bod yn gofyn i Gyngor y ddinas ystyried y mater fel y gellid gosod y coleg mewn cartref parhaol. lpywedir fod Syr Chihchen Lofengluh, y Llysgenhadydd Chineaidd i Llundain, yn ddyn hynod o arabus. Bu yn Manceinion ddechreu yr wythnos, ac ymwelodd a gweithfeydd peinanau cysodi llythyrenau argraphu. Talodd sylw manwl i'r peirianau, a chymerodd nodiadau manwl o honynt. Yn ol y Llysgenhadydd, tra nad oes yn y wyddor Seisnig ond 26 o lythyrenau, y mae yn y wyddor Chineaidd ddau gant a haner! Barna na fydd yn anhawdd i China fabwys- iadu peiriant cysodi llythyrenau a elwir linotype, ond y bydd raid ei alw yn columntype, oblegid fod y llythyrenau Chineaidd yn cael eu hysgrifenu yn golofn, ac a ddarllenir o'r top i'r gwaelod. Mao yr le1 Independance Beige newydd gyhoeddi llythyrau o'r fath bwysicaf yn dwyn cysylltiad a'r Jameson Raida thebygol- rwydd fod Haw Chamberlain, a Phrydaiu o ganlyniad, yn ddyfnach yn y camwedd hwnw nag y mae neb yn ei feddwl. Mae y wasg ar y cyfandir yn gyffredinol yn gwneyd ystwr mawr ynglyn a'r llythyrau hyn, ac yn ein dylorni fel gwlad anonest, ac eto y mae y Times a'r papyrau yn Llundain' a'u goheb- wyr tramor yn ddistaw. Nid ydynt wedi cyhoeddi y llythyrau,na'r sylwadau arnynt. Rhaid cuddio y gwir oddiwrth y wlad! Y neb y mae y duwiau am eu dinystrio y maent yn gyntaf yn eu gwallgofi,' medd un hen ddiareb onide. A ydyw y wlad i gael ei harwain gan y wasg i gredu celwydd a myned yn wallgof? Credom gynt fod ein gwasg yn rhydd. Ydyw o un cyfeiriad, ond y mae Mauion wedi ei llyffetheirio.
ARTHOG.
ARTHOG. DAL DYFRQW^.—Boreu dydd Llun, fel yr oedd Mr. Owen Jones yn myned i'r orsaf, canfu ddau ddyfrgi ieuanc, heb fod nepell o'r orsaf, yn gwneyd ysgrechiadau wylofus. Yr oedd y fam yn agos, ond ffodd ymaith. Ar ol peth ymdrech, llwyddwyd i ddal y ddau bryf, ac aeth Mr. Jones a hwy yn rhwym gydag ef yn y tren i'r Abermaw. Mae y ddau yn awr yn masnachdy Mr. John i Lloyd. 1
GWEINIDOGION YR EFENGYL A'R…
GWEINIDOGION YR EFENGYL A'R RHYFEL. Mae'n ofidus meddwl fod llawer o wyr y pulpud wedi myned yn Jingoaid perlfaith, ac o ganlyniad yn rhoddi golwg un ochrog ar gwestiwn y rhyfel, ac yn pregethu yr ochi sydd yn'cymeryd' gyda'r fath wres nes peri i'r gynulleidfa guro traed. Yr esiamplau mwyaf nodedig o hyn ymhlith yr Ymneilldu- wyr yw ein cydwladwyr talentog y Parchn. Hugh Price Hughes, Llundain, a John Thomas, Lerpwl. Gwawdiant ac enllibia-nt y Boriaid a'u Harlywydd yn ddigyffelyb. Onid dyma fel yr OQdd hi yn 1854—5? Agorir llygaid y bobl cyn hir gobeithio. Mae y Parch. John Smith, cyn-gadeirydd y Methodistiaid Cyntefig, yr hwn fu yn byw ddeng mlynedd yn Aliwal North, yn Cape Colony, ar gyffiniau tiriogaethau y Boriaid yn rhoddi atebion i resymau y Parch. H. P. Hughes dros'gyfiawnhau y rhyfel. Maeut fel y eanlyn Hughes: Ni ehaiff neb o'r dynion duon brynu na dal tir yn eu henwau eu hunain yn y Transvaal. Rhaid iddynt fod yn gaethion byth. Nid oes y fath ddeddf orthrymus mewn tiriogaeth Brydeinig. Smith Mae yr un ddeddf yn hollol lie y y chwifia y faner Brydeinig. Cymerir Basutoland er engraiff. Mae'r boblogaeth yno yn cynwys uwehlaw dau can' mil o'r brodorion duon, a haner can' mil o bobl wynion. Tiriogaeth Brydeinig yw, ac eto ni ehaiff yr un o honynt-na du na gwyn- brynu na dal tir yn y wlad hono. Hughes: Mae y Boriaid yn gorfodi y brodorion yn nghymydogaeth y trail i fyw yn un haid gyda'u gilydd mewn Loc (Location). Smith: Yr wyf wedi ymweled a'r holl brif drefi yn Cape Colony, ac yn y tirogaethau Prydeinig hyn gorfodid y brodorion yn ymyl y trefi i heidio at eu gilydd fel yn y Transvaal. Hughes: Mae gan y Boriaid ddeddf a elwir y Curfew Bell i orfodi yr holl frodorion i fod o fewn eu Loc bob nos am naw o'r gloch. Smith: Mae yr un ddeddf mewn grym mewn tiriogaeth Brydeinig. Cymerwyd i fyny aelodau o'n heglwys yn ddiweddar yn Aliwal North am droseddu y ddeddf hon, ac yr oedd y faner Brydeinig yn chwifio yno. Oni chofir am I gloch naw yr hwyr yn Kimberley.' Os yw Llywodraeth y Transvaal yn haeddu ei chondemnio Joherwydd y pethau a gryb- wyllwyd, tmae Llywodraeth Prydain yn haeddu^hyny lawn cymaint. Ychwanega Mr. Smith iddo fod 0 fewn ae allan ymysg y Boriaid, iddo ddysgu eu iaith, deall eu meddyliau, a mwynhau eu cyfeill- garwch a'u lletygarwch; a thystia eu bod yn ddynion mor anrhydeddus, mor gyfiawn yn mhob trafodaeth, ac mor garedig a'u gwladfawyrs Seisnig, ac mewn rhai am- gylchiadau yn rhagori arnynt yn eu hym- ddygiadau tuag at y brodorion. Mae y Boriaid fel cenedl, meddai, yn darllen a charu eu Beibl, yn Brotestainaid egwyddorol, ac yn cashau offeiriadaeth ymhob fIurf. Maent yn llafurus gyda'r genhadaeth ymhlith y brodorion, ac yn anfon allan genhadon i Dde a Dwyrain Affrica, tuallan i'w gwlad eu hunain. Dyna dystiolaeth llygaid dyst cyfrifol. Wele farn un o weinidogion mwyaf dy- lanwadol Llundain, y Parch. Dr. Clifford, a ysgrifenodd y dydd o'r blaen: n wir y mae agwedd pethau yn llawn o berygl. Mae gorchfygiad yn dilyn gorchfygiad gyda chyflymder alaethus. Mae gwyr ieuainc ein gwlad yn cael eu lladd yn ddi-achos. Ond y peth gwaethaf o'r cwbl yw fod y bai arnom ni. Buasai yn dda genyf yn fy nghalon pe gallwn gredu ein bod yn iawn, ond yr wyf yn hollol analluog i wneyd hyny. Arnom ni y mae y bai, ac nid oes dim llwyddiant neu aflwyddiant a all unioni y cam hwnw. Yr oedd ultmiatum y Bor yn seiliedig ar gaingymeriad a achoswyd gan ein Llywodraeth ni ein hunain. Pe byddai genym un wreichionen o'r gwroldeb hwnw sydd gan y dynion ar faes y gwaed, dylem gyffesu ein bai, a gofyn am hedd weh ac am gyflafareddiad.'
I IRHYDYMAIN.
RHYDYMAIN. CYFARFOD CYSTADLHUOL.—Cynhaliwyd yr uchod nos Lun. Ehillwyd y prif wobrwyon fel^y canlyn Prif gystadleuaeth gorawl, Cor Rhydymain, dan arweiniad Mr. D. Thomas, Wenallt; unawd Tenor, Mr. L. Owen, Ffrainc; deuawd, Mr. D. Williams, Tynysimdda a'i barti; unawd Bass, Mr. H. 0. Williams, Dolgellau Cor Meibion, parti o Rhydymain, dan arweiniad Mr. D. Thomas; unawd Soprano, Miss Sydney Griffith, Caecrwth; traethawd, Mrs. Evaus, Ystum- gwadnaeth; dadl, Mr. Lewis Owen, a John Evans, Ystumgwadnaeth. Beirniad y gerdd- oriaeth ydoedd Mr. J. J. Thomas, Ysgol y Jiwrdd, Talsaruan.
CEMMES.
CEMMES. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.-N os Fercher, Ionawr 17eg, pryd y llywyddai Mr. John Edwards, Rhydygwiail, is-gadeirydd y Gym- deithas. Cafwyd papyr rhagorol iawn ar Demtiad Crist' gan Mr. Edwards, Dol- dwymyn credaffod y gwrandawiad astud a gafodd y siaradwr yn dweyd yn eglur fod y papyr yn cael ei brisio yn uchel gan yr oil oedd yn bresenol. Siaradwyd ymhellach g'an Mr. Richard Owen, Asiedydd, ac eraill, pa rai a fawr ganmolent y papyr, ac a ddi- olchasent yn gynes i Mr.Edwards am barotoi mor helaeth ar ein cyfer. Daeth pedwar ymlaen i gystadlu am wobr gynygiedig am y dadganiad goreu o unrhyw unawd a dy- wedai y beirniaid sef Mri. John Humphreys, Cemmes Road, a John Edwards, Rhyd- ygwiail fod y gystadleuaeth yn un dda iawn; dyfarnasent y wobr i Mr. R. Owen, Penrallt, Melinbyrhedyn. Cafwyd dadganiad da gan barti o dan arweiniad Mr. T. 0. Davies, Cemmes, Miss Foulkes, Cwmllune, yn canu y unawd. Cyfeiliwyd gan Mr. D. B. Evans. Yn y cyfarfod nesaf a gynhelir Ionawr 31, fe goir dadl ddyddorol, a chynygir gwobr o haner coron am y dadganiad goreu o unrhyw unawd cyfyngiedig i ferched, ni ofynir tal am fyn'd i mown.-R. W. JONES.
CORRIS.
CORRIS. Oynhelir arholiad dirwestol Gwynedd nos Wener nesaf, i dri o ddosbarthiadau. Dymunwn alw sylw at Oyngerdd Gystadl- euol Salem a gynhelir Chwefror 16. Mynega y murleni am gystadleuaeth leisiol agored i'r byd, yr hon fydd yn dra dyddorol. Y beirniad cerddorol iydd Mr. D. M. Lewis, Brynaman. IEcHYDoL.-Mae'r anwydwst ac afiechydon eraill, yn graddol gilio o'r gymydogaeth, heb wneuthur llawer o ddifrod ar fywydau y gauaf hwn. Gydag eithraid o ddau neu dri mae'r cleifion yn g'wellhau. DIRWESTOL.—Cynhaliwyd cyfarfod cystad- leuol dirwestol nos Lun, yn Ysgoldy y Bwrdd. Yr oedd yr ystafell wedi ei gor- Iftnwi ymhell cyn amser dechreu. Yr ar- weinydd oedd Mr. D. Ifor Jones (Llywydd y Gymdeithas), a chyflawnodd ei waith yn ddeheuig a medrus er maint yr anhawsder i hyny oherwydd tyndra yr ystafell. Drwg genym oedd deall fod yr ysgrifenydd yn absenol oherwydd afiechyd. Clorianwyd y cerddorion gan Mri. E. M. Jones a H. S. Roberts y beirdd, Mr. D. Ifor Jones; Traethodau, Parch. J. Roberts a Mr. Owen Roberts arholiadau, adroddiadau, &c., Parch. H. W. Parry, Aberllefenni, Mri. J. R. Evans, H. S. Roberts, E. T. Williams, a H. R. Williams (Ilwydruddj. Enillwyd gwobrwyon fel y canlyn Arholiad, dosbarth hynaf, Mr. Hugh Williams (Ap ldris). Dosbarth ieuangaf, Annie R. Jones, Penrhos; Meredith J. Lloyd, Galltyrhiw R. G. Davies, Tanrallt; a Mary A. Jones, B. G. Terrace; dau englyn. Mr. E. M. Jones; Myfyrdraeth, Mr. H. R. Williams (Llivydrudd) unawd Soprano, Jane A. Davies, Pantycelyn unawd Alto, Tommy Jones, Park Terrace unawd Tenor, Mr. Morris H. Ellis; unawd Baritone, Mr. David Price; eto i rai heb enill o'r blaeu, Mr. R. Lloyd, Tanrallt; deuawd, Tenor a Bass, cydradd, Mri. D. Price a J. Lewis, a H. Jones ac Ellis Jones traethawd, Mr. R. Davies, Pantycelyn, a Mrs. Gwen Williams, Brynteg adrodd, Cyffes y Meddwyn,' cydradd, Mri. Willie Roberts ac Edward O. Hughes araeth, Cadw dy afraid erbyn dy raid,' un gynygiodd, sef Mr. Robert Davies, Pantycelyn, a chafodd y wobr adroddiad, I Y Rhew,' Richard Williams, Rugog; Prudence Jones, Dolybont, R. Ll. Jones, eto, a D. Lewis, Tanyfron. Safodd 17 yr Arholiad Llafaredig; a chan mor dda yr atebwyd ganddynt, pen- derfynwyd rhoddi gwobr i bob un. Wedi y diolchiadau arferol, terfynwyd cyfarfod rhagorol ymhob ystyr.
TOWYN.
TOWYN. BWRDD YSGOL. Cynhaliwyd dydd Mawrth, y Parch. R. Jones yny gadair. PRESENOLDEB.-Pasi wyd i gymeryd mes- urau cyfreithiol yn erbyn rhai rhieni oher- wydd absenoldeb eu plant o'r ysgol. YSGOL BABANOD.—Penderfynwyd i brynu tir i adeiladu arno ysgoldy i'r babanod yn Nhowyn, ac i gynyg gwobr o 3p. 3s. am y cynllun goreu,—yr ysgoldy i gynwys chwech ugain, a'r draul o adeiladu i fod yn ddim uwch na 500p. YSGOL ABERDYFI.—O'r Swyddfa Addysg, dychwelwyd cynlluniau helaethu Ysgoldy y Bwrdd yn Aberdyfi, gydag awgrym i wneyd rhai cyfnewidiadau, yr hyn a gymerwyd i ystyriaeth. Y SGOL BRYNCRUG.—Pasiwyd fod i'r ael- odau dros Dowyn fyned i olwg y tir a gynygir fel play ground ynglyn ag ysgoldy Bryncrug, a'i brynu os yn gymwys i'r amcan, am 5p. YN GYNRYCHIOLWYR.—Penodwyd y Parch. R. Jones, Towyn, a Mr. David Evans, Pennal, yn gynrychiolwyr y Bwrdd Ysgol ar Bwyllgor Llywodraeth wyr Ysgol Sirol Towyn,
RHYFEL Y TRANSVAAL NATAL.
RHYFEL Y TRANSVAAL NATAL. Y CADGYRCH YN LADYSMITH. Anfonodd Syr R. Buller y wifreb a ganlyn o wersyll Spearman's, boreu Sul diweddaf: — Ymosododd y Cadfridog Clery gyda rhan 0 fyddin Warren ar y B6riaid ar du gorllewinol Ladysmith o 6 o'r gloch y boreu hyd 7 yr hwyr dydd Sadwrn. Defnyddiwyd y magnelau yn dra deheuig ganddo, ac ymladdodd ei ffordd gan enill y naill drum ar ol y Hall am tua thair milldir. Mae'r milwyr yn awr yn sefyll i wylio ar y tir a enillasant, ond y mae'r brif safle eto o'u blaen. Nid yw y colledion yn drwm. Dygwyd 100 yn archolledig i'r gwersyll erbyn 6.30. Nifer y rhai a laddwyd yn anhysbys eto.
CROESI'R TUGELA.
CROESI'R TUGELA. Cyhoeddwyd y genadwri ganlynol gan y Swyddfa Ryfel, oddiwrth Arglwydd Roberts at Ysgrifenydd Rhyfel, o Cape Town, Ionawr 18 Derbyniais frysneges oddiwrth Buller yn mynegu fod un frigiad a chyflegrfa Howitzer wedi croesi yr afon Tugelayn Potgieter's Drift. Y mae Warren wedi tafiu pont dros yr afon rhyw bum' milldir ymhellach i'r gorllewin, mewn lie a enwir Prichardt's Drift. Drwy hyn fe alluogwyd i ran o'i lu i groesi ddoe, a disgwylir i'r gweddill fod ar y lan ogleddol boreu heddyw. Y mae Warren yn hyderu y gall droi safle'r gelyn, sydd yn y pellder 0 bum' milldir. Mae ei ffrynt dde wedi ei warchffosi yn gryf.
CAPE COLONY.
CAPE COLONY. PRYSURDEB AR Y MODDER RIVER. Modder River, dydd Iau. Cymerodd ardd. angosiad pellach le neithiwr. Yr oedd rhan o'r Artillery Brigade ac ychydig wyr traed yn ymladd. Symudodd y diweddaf ymhellach ymlaen nag a wnaethant er dydd y frwydr. Gwelsant rai B6riaid ar lechwedd bryncyn, a dechreuasant danio arnynt. Gwnaeth ein gynau waith da ar hyd llinell y gelyn. Ffrwydrodd amryw 0 dan-belenau y Lydite yn ymyl un o ynau mawr y B6riaid, ond nid yw maint y golled yn wybyddus. Yr un adeg gwnaeth y Cadfridog Methuen gyda'r meirchfilwyr a rhai o'r gynau oedd yn aros, archwiliad i'r dwyrain gyda'r amcan o danio ar wersyll oeddynt newydd ddarganfod. Canfyddwyd fod y gwersyll wedi ei symud drachefn, ond cafwyd allan ei sefyllfa, a than- belenwyd ef yn drwm. Aeth y gwyr meirch i archwilio y tir, a chasglwyd gwybodaeth ddefnyddiol. Ni ddychwelodd y milwyr i'r gwersyll hyd yr hwyr; ni chafodd neb ei ladd ar ein tu ni.
ANFFAWD I WYR AWSTRALIA.
ANFFAWD I WYR AWSTRALIA. Hysbysir am anffawd i filwyr Awstralaidd perthynol i adran y Cadfridog trench :— Rensburg, dydd Mercher. Ddoe, darfu cylch- wylwyr yn cynwys nifer o'r New South Wales Lancers a nifer o'r South Australian Horse, yn rhifo un ar bymtheg, syrthio i fagl. Aeth yn ymladdfa boeth, ac o'r diwedd gorchfygwyd gwyr Awstralia, ac nl lwyddodd ond dau i ddychwelyd i'r gwersyll yn yr hwyr. Aeth niter arall o gylchwylwyr i'r fan boreu heddyw, a chanfyddasaut un o honynt yn farw ac un arall wedi ei glwyfo Yr oedd pedwar 0 geff- ylau Awstralaidd a saith o geffylau B6raidd yn gorwedd ar y ddaear, ac yr oedd hyny yn dangos fod yr Awstraliaid wedi gwneyd amddi- yniad dewr. Dywedir ymhellach fod chwech^yn ychwaneg o'r Awstraliaid wedi dychwelyd i'r gwersyll. Yr oedd ceffyl i un o honynt wedi ei saethu, a darfu iddo yntau ymguddio nes y darfu i'r gelyn encilio, ac yna diangodd. Mae y gweddill yn garcharorion. Z,
BYDDINOEDD Y BORIAID.
BYDDINOEDD Y BORIAID. Yn ol y Daily News, a ganlyn yw nifer y B6riaid ar faes y rhyfel Ar yTugela 10,000 Yn Ladysmith 5,000 Yn Magersfontein 8,000 Yn Kimberley 3,000 Yn Mafeking 2,000 Yn Colesburg 3,000 Yn Stormberg 5,000 Gwahanol fanau 4,000 Y Cyfanswm 40,000
Y COLLEDION PRYDEINIG.
Y COLLEDION PRYDEINIG. A ganlyn yw rhif y colledion i fyny hyd ddydd Sadwrn:- Lladdwyd 1280 Clwyfwyd 3896 Carcharorion a Cholledigion 25*17 0 glefydon, &c. 248 Y Cyfanswm 7941
DAL OSMAN DIGMA.
DAL OSMAN DIGMA. Darfu i Majoi Godder anfon allan Cadben Burges ac eraill i ddal Osman Digma, cad- lywydd byddin y Madhi, a llwyddwyd yn yr amcan dydd Gwener. Yr oedd yn ymguddio yn y mynyddoedd yn agos i Tokar. Ar ol ei ddal dygwyd ef i Suakim, ar lan y Mor Coch, lie yr erys yn y carchar.
MARWOLAETH MR. JOHN RUSKIN.
MARWOLAETH MR. JOHN RUSKIN. Bu farw Mr. John Ruskin yn Brantwood, Coniston, ddydd Sadwrn, o ganlyniad i ergyd o'r anwydwst, yn 81 mlwydd oed. Ysgrif- enodd lawer 0 lyfrau ar Gelf, a gwnaeth waith mawr fel diwygiwr cymdeithasol. Yr oedd, yn ddiau, yn un 0 ddynion njwyaf. a goreu y gamif.