Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
28 articles on this Page
[No title]
CANOLBWYNT y dyddordeb yu awr yw rhyddliad Ladysmith. Ar ol Y Rhyfel. i Syr Eedvera Buller orplivvys er's amser i ddisgwyl adgyf- nerthion a eh wbIliau ei gynlluniau, mae adeg prysurdeb wedi d'od i ben. Profodd yn gamgymeriad ynddo i yuiosod yn wyneb byddin y Boriaid ar lanau y Tugela, aenid auturiodd wneyd liyny drjchefu. Ei amcan bellach yw amgylchu'r Boriaid. Ilysbysir yn swyddogol fod byddiu gref o dun y Cadfridog Warren wedi croesi'r Tugela, a chyraedd i Potgieter'a Drift ar yr oeiir orllewiuol i Ladysmith ac yn gyfagos i Dewdrop, yr hwn a feddienir gan y Boriaid. Mae Syi Iledvers Buller yn cydweithredu a'r synuudiad uchod er gwneyd un ymosodiad mawr yr hyderir a wareda Ladysmith. Ceir fod y Boriaid yn gwneyd parotoadau i'w cyfarfod. Cafvvyd fod eu gwarchgloddiau yn Grobler's Kloof, ar y tu dwyreiniol, yn Weigion, yn gystal a manau eraill ar lan yr afon. Ni auturiodd Arglwydd Methuen ymlaen i ryddhau Kimberley er adeg brwydr Mag- ersfontein, pan y ciliodd i Modder River. Ac ni cliaed dim esboniad clir paham yr erys yno mor llonydd. Yr un pryd, gwnaeth waith arall. Darfu iddo aufon y Milwriad Pilcher i wneyd ymosodiad llwyddiauus ar Douglas, aeth eorphlu arall dros y terfynau i'r Dalaeth Rydd, cadwodd y cymuudeb yn ago red rhyngddo a'r Prydeiniaid yn ngog- ledd-dir Cape Colony, lie mae y gwrthwyn- ebwyr yn ami ac yn bliuo, a sefydlodd wersyll gryn bellder ar yr Orange River. Ni cliaed un newydd o bwys oddiwrth y Cad- fri iog Gatacre yn Molteno. Parha y Bor- iaid mewn grym yn Stormberg, lie y bu Gatacre mewn brwydr o'r blaen. Mae pethau yn dawel yn Kimberley a Mafeking.
[No title]
YN fuan bydd Rhyddfrydwyr y sir yn trefnu mesurau at ddewis ymgeisydd Cynrychiol- y blaid yn yr etholiad Sen- aeth eddol nesaf, gan mae'n debyg Meirion. y ceidw Mr. 0. M. Edwards, A.S., y sedd hyd hyny. Mae'r rhagolwg yn dywyll yn awr am y person a ddewisir. Pwy gymer yr etholwyr, ac nid pwy a gaiff hi fydd y cwestiwn, canys ni bydd priuder ar gynygion am law Meirion. Ofer diegwyl yr un foallai a gymer Ie y diweddar Mr. T. E. Ellis ymhob ystyr. Dylai'r ymgeisydd beth bynag fod yn areithiwr Cymraeg da, yn Ymneillduwr, Rhyddfrydwr, a Chenedlaotholwr o'r iawn ryw, brwdfrydig i gario ymlaen yr ymgyrch ddechreuwyd gan Mr. Ellis, ac yn rhydd i roddi ei amser i wasanaethu yr etholwyr. Pe gellid cael y cyfryw yn y sir, goreu oil. Yn hytrach na dewis un diffygiol yn y pethau a nodwyd, gwell yw myned oddiallan os coir un yn meddu y cymwysderau gofynol. Disgwylir y bydd i Feirion gadw yn ddiogel yr enw da a enillodd yn yr ymirechfa o blaid cynydd, rhyddid a diwygiad. Os na ddymchwelir y Llywodraeth ar bwnc y rhyfel yn ystod y Senedd-dynior dyfodol, bydd digonodd o amser i wneyd y dewisiad. Nis gall gamgymeryd ond a'i llygaid yn agored. Mae cyfansoddiad y blaid yn y sir rnor wer- inol fel y mae y pleidleiswyr yn y gwahauol etholfanau yn hollol anuibynol with enwi yr ymgeisydd.
IKHYFEL Y TRANSVAAL.
IKHYFEL Y TRANSVAAL.
INATAL.
NATAL. MIN BRWYDR FAWR. Dydd Gwener, danfonodd gohebydd y Central News y genadwri ganlynol 0 Durban Ymadawodd Syr Charles Warren 0 wersyll Frere ddoe, gyda cholofn gref, i gydweithredu a symudiad y Cadfridog Buller. Dywedir fod brwydr fawr wedi dechreu, a bod ymladd yn myn'd ymlaen mewn tri lie. Caed, hefyd, newyddion o wersyll y B6riaid yn Colenso, yn dweyd fod pobpeth yn arwyddo y ceid brwydr fawr ar y Tugela yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf. Dywed neges o wersyll Frere fod gan warch- odlu Ladysmith ddigon 0 brawf fod colledion y B6riaid yn yr ymladdfa ger Ladysmith, y Sadwrn cyn y diweddaf, yn llawer mwy na cholledion y Prydeiniaid. Derbyniwyd ne- wyddion 0 Ladysmith i fyny hyd dydd Gwener. Bu'r B6riaid yn ddistaw am ddeuddydd, ond gwelid hwy o gwmpas hyd y mynyddoedd draw. Dydd Gwener.—Mae gweithrediadau pwysig yn myn'd ymlaen yn y ffrynt, ac ymosodiadau ystlysol yn ymddadblygu o Springfield a Weenen Mae amddiftynfeydd y B6riaid ar Groblers Kloof wedi eu gadael. Os na ddigwydd rhyw wrthwynebiad difrilol, gobeithir gallu rhyddhau Ladysmith ar fyrder.
CVFARFCD CYSTADLEUOL DIRWfSTOL…
CVFARFCD CYSTADLEUOL DIRWfSTOL CORRIS. AT YR YMGEISWYR.—Oherwydd lluosog- rwydd yr ymgeiswyr, cynhelir Rhagbrawf yn Ysgoldy y Bwrdd, Corris, nawn Sadwrn nesaf, ),n y drefii a gaiilyn Unawd Alto, am 2 o'r gloch. Baritone, I fyny bo'r Nod,' 2-30 Tenor, 3-15. Baritone, 'Gwys i'r Gad,' 5. Yr Arholiad LZafaredig yn Festri Shiloh, nawn Sadwrn, am 3 p. m Adroddiad, Y Rhew,' yn y Babell, am 5 p.m. na wn Llun nesaf. Nifer y cystadleuwyr ar y gerddoriaeth, 50; amrywiaeth, 60-R. JONES, Ysg.
ABERGYNOLWYN.
ABERGYNOLWYN. Yr wythnos ddiweddaf, bu gan y Wesleyaid gyfres o gyfarfodydd diwygiadol. Pre^ethwyd nos Lun a nos Fawrth, gan y Parch. Davies, Aberdyfi nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, gan y Parch. W. Roberts, Maentwrog. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, ac arddeiiad ar y genadwri. YMADAWIAD.—Yr wythnos hon, symuda'r Parch. W. Davies, gweinidog yr Annibynwyr, i'w faes newydd, Llaniestyn a Thydweiliog, Lleyn. Bu Mr. Davies yma am saitil mlynedd yn gweinidogaethu eglwysi Abergyn- olwyn a Llanfihangel. Y TAN YN NGHAE'RBERLLAN.—Er pob ymdrech i geisio cael allan pa fodd y cymerodd y tan le, nid oes dim goleuni, hyd yma, wedi ei gael. Y mae yr amaethwyr trwy yr holl gyIchoedd yn dangos y cydymdeimlad mwyaf a Mr. Vaughan yn ngwyneb y goiled, trwy roddi iddo lwytlii o wair a gwellt, er ei alluogi i borthi yr anifeiliaid am y misoedd dyfodol.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. TAN.—Nos Fercher, oddeutu haner nos, am y waith gyntaf yn ei hanes, cafodd y gloch dan ei chanu. Erbyn myn'd at fan y gloch, nid oedd neb yno i hysbysu pa le yr oedd y tan. Cyn hir, cafvvyd allan mai yn nhy Mr. John Willi ims, Postman i'r GaHllwyd, yr oedd, a'i fod wedi ei roddi allan cyn i'r peiriant gyraedd. Y CYNGOR DINESIG.-Nos Fawrth, dan lywyddiaeth Mr. J. M. Jones.—Penderfynwyd fod y pwyllgor a benodwyd i edrych Cae Marian i gyfarfod dydd Iau.—Cynygiwyd gwobr am wybod pwy dorodd y clo ar ddrws ffynon Fair, a chosbir y sawl wnelo hyny eto.- Rhoed planiau tai newydd yn Nghae Tanws dan sylw pwyllgor yr heolydd.—Gohiriwyd pwnc y goleuni trydanol am bythefnos. YNADLYS.—Dydd Mawrth, o flaen C. E. Munro Edwards, Ysw., ac ynadon eraill — Cydymdeimlwyd a theulu y diweddar Mr Francis Evans.—Rhoed swllt o ddirwy a'r costau ar W Jones am arfer iaith anweddus. —Dygwyd W. Fairbairn, crwydryn, gerbron. 'Roedd William yn y tlotdy, ac archwyd iddo weithio. Yn ei ond pan glywodd y gorchymyn hwn, rhwygodd ei ddillad, fel y patrieirch gynt, ond yn wahanol iddynt hwy, gyrwyd ef i garchar am seithnydd.—Cyhuddwyd David T. Owen, Tynant, Brithdir, o herwhela ar dir Caerynwch. Dirwywyd y diffynydd i 2p. a'r costau.
TOWYN.
TOWYN. CRONFA'R EHYFEL.—Nos Lun, cyfarfydd- odd pwyllgor lleol y gronfa uchod, dan lywyddiaeth Mr. D. Edwards. Derbyniwyd adroddiad y boneddigesau a fu 0 amgylch yn casglu at y gronfa, a cliyflwynwyd i'r gronfa sirol y swm anrhydeddus o 61p, 19s. DOLAUQWYN.—Y inae y palasdy henafol a phrydferth hwn wedi ei brynu gan Mr. J. Evans, Gwastadfryn. Y TEMLWYR DA. Y n nghyfarfod diweddaf y Temlwyr Da, cafwyd dadl ar pa un ai dyn moesol neu anfoesol sydd gymhwysaf i gadw ty tafarn ?' Cymervvyd yr ocbr foesol gan Mibs Parry, Rock View, a'r ochr wrth- wynebol gan Miss M. Owen, Brynmair. Wedi agor o'r boneddigesau uchod y ddadl, dilynwyd gan Mri. D. 0. Jones, nor Davies, David Davies, J. M. James, Parch. J. H Symond, a Mrs. Evans. Pan ymranwyd cafwyd 17 0 du yr anfoesol, a 9 yr ochr arall.
j{ a'r CY'LCH.
j{ a'r CY'LCH. CYFAKFODYDD GV/EDDIO. —Yr wythuosddj- wedrlaf, cynhaliwyd y cyfarfodydd h yu yn y rhan fwyaf o gapelau vr ardal, a dywedir fod y cynulliadau yu noriedig o dda a'r gwedcz-aij yn ataeigar. AYIEciv o neb Y¡J" eovo cvru.irit yn cv/yno yr ui e sv ic dycup/et- enol. Mae yma a 1 u it f.*in ar iawr, a bron ymhob ty ceir un tieu yciiwaneg yn dioddef. Yr Anwydwst syvid yn cael y bai yn awr, a buasai yn dda genym pe gellid ei dros- glwyddo o'r wlad, Y DIWEDDAR MR. PRYSE.-Marwolaeth sydyn ac annisgwyliadwy y boneddwr caredig uchod sydd yn bwnc y dydd ar liyn 0 bryd. Mae wedi tanu rhyw brudd-der cyffredinol dros bob dosbarfh, a phawb yn cwyno eu colled ar ei ol. Rywfodd yr oedd ei aduli dengar a'i ysbryd addfwyn yn peri iddo gael ei garu gan dlawd a chyfoethog, ac y mae ei farwolaeth wed i achosi bwlch mawr ar ei ol. LLWYDDJ YR ACHOS GOREU.—Ychwaoeg- wyd dau-ar-bymtheg 0 aelodau at eglwys Annibynol Bethel. Talybont, y Sui diweddaf derbyniwyd deuddeg o'r newydd, tri trwy lytSiyrau, a dau trwy adferiad. Yr oedd yr olygfa nos Sul yn 11:1 i'w chofio am hir amser, ac riid rhyfedd fod yr eglwys a'r gweinidog yn teinvio mor liawen. Dywedir fod swn eraill eto yn dilyn, ac y mae hyn yn arwydd er daionL YR ACHOS NEWYDD.—Mae wedi cael ei siarad bellach am flynyddoedd 0 berthynas i sefydlu eglwys Annibynol yn Eglwysfach, ond bellach mae yn ymyl bod yn ffaith, a'r rhagol- ygon yn addawol. Mae Cyfarfod ChwarLerol Silo Drefiddwyn wedi penodi pwyllgor i ymweled a'r lie, a ehyferfydd yr wythnos hon, ynghyd a Mr. Jones, Talybont, i wneyd trefniadau angenrheidiol er cychwyn yn ddiymdroi.
^MARWOLAETH GAOBEN PRYSE PRYSE.…
MARWOLAETH GAOBEN PRYSE PRYSE. r Dydd Mawrth, yn Lodge Park, bu farw Cadben Pryse Pryse, mab iiynaf Syr Pryse Pryse, Barwnig, Gogerddan, Sir Aberteifi. Ychydig gydag wythnos yu flaenorol, tra allan yn hela gyda'i gwn, ymddengys i lwynog ei frathu. Ni feddyliwyd ar y dechreu fod dim perygl; ond dydd lau galwodd gyda Dr. James, y Fagwyr, yr hwn a orchymynodd iddo iyned gartref yn ddioed, gan ei fod yn dioddef oddiwrth wenwyniad y gwaed. Y Sabbath, gaiwyd am wasanaeth Dr. Harries, Aberyst- wyth, yngiiyd a Nurse. Ond er pob gofal a medr, bu farw dydd Mawrth, acefe yn 39 mlwydd oed. Yr oedd yn foneddwr caredig a dirodres, ac yn fawr ei barch ymhiith ei denantiaid a'i holl gydnabod. Daiiai swyddi yn y Fyddin yr oedd yn Ustus Heddvvch, yn gadeirydd Arddangosfa Amaethyddol Talybont, yn gyf- ranwr haet at y Llyfrgell a'r Ddarllenfa Rydd ac yr oedd pob achos teilwng yn cael ynddo gefnogydd ymarferol. Dydd Gwener, cludwyd ei weddillion i'w claddu i Fynwent EgIwys Penrhyncoch. Yr oedd canoedd 0 bobl 0 bell ac agos wedi d'od ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo a hawdd oedd gweled ar y dorf enfawr, fod anwyl-ddyn y bob! yn cael ei gladdu y diwrnod hwnw. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch G. Blackvvell. Yr oedd y gwasanaeth yn yr Eglwys yn Gymraeg i gyd, a chyn ymwahanu oddiwith y bedd, unodd y dorf i ganu '0 frymau Caersalem,' &c.
OJ) n b £ hi net b a 11.
OJ) n b £ hi net b a 11. DERWENLAS. Svr,—Wrth weled yn y rhifyn cyn y diweddaf gyfeiriad at y Bwrdd Ysgol yma, daeth i fy meculwl inau gymeryd yr un cwrs i alw sylw at fater arall ynglyn a'r ysgol hon. Yn rhan olaf o'r ilwyddyn cyn y ddiweddaf, bu'r plant yn casglu arian er galluogi'r Bwrdd i roddiggwledd o t-e a theisenau iddynt. yr hyn a gafwyd ar yr ail 0 Ragf) r, a rhoddwyd ar ddeall fod digon o arian yn weddill i roddi gwledd arall. Yn y cyfarfod gynhaliwyd yn yr hwyr, hysbysodd Mr. Lewis, Morben, y rhoddid gwiedd gyffelyb yn yr haf i'r plant a'r gwragedd Ni ddywedodd pa haf, ac yn na,LLirlol ddigon mawr edrycliai'r plant; ac a dweyd y gwir, a ninau hefyd, y gwragedd yma, yn dawn cymaint a'r plant at yr haf dilynol. Und fe aeth yr haf heibio heb i Mr. Lewis gyfiawni ei addewid, a gobeithio nad aiff y gauaf hefyd. Gwell genym hwyr na hwyrach ac yr wyf yn sicr na bydd yntau yri llai na'i addewid, ond yn unig gydag adeg y wledd.
UN YN PLSGWYL AM DE A THEISEN.
UN YN PLSGWYL AM DE A THEISEN. Y MAROHNADGEm MAKCHNADOEDD YD. Llundain, dydd Llun. Gwenith—Yr oedd nifer cymedrol 0 brynwyr yn bresenol, a'r galw braidd yii well, tra y rheolai y prisiau yn sefydlog. Y cyilenwad o wenith cartrefol yu fychan, a gofynid y"llawn brisiau. Blatvtl.—Yr oedd y farchuad yn sefydlog i bob math 0 flawd. Haidd.—liaidd at falu yr un brisiau a'r wythnos ddiweddaf. Liverpool, dydd Mawrth.—lrr oedd gwenith yn hawddacli i'w brynu lioddyw gan fod y prisiau yn is; y galw yn gymedrol; gwenith Caliifomiaidd, 6s. 3c. y can'pwys. Blawd gwenith, eeirch, a blawd ceirch yn dawel.
TESTYNA U A G 011EI) PR B…
TESTYNA U A G 011EI) PR B YD. 1 Dadganu y don 'Wesley,' Emyn 1)05 (525), 1—5 (Llyfr Emynau M.C.), i bedwar. Gwobr Ss. 2 Deuawd Tenor a Bass, Mae'r lan gerllaw' (T. Williams). Gwobr 4s. 3 Unrhyw unawd. Gwobr 4s. 4 Unawd Soprano. Llytliyr fy mam' (W. Evans). Gwobr 2s. 6c. 5 Unawd Tenor, Teyrn y Coed' (II. Davies). Gwobr 2s. 6c. 6 Unawd Baritone, Rhyddid Cymru' (R. S. HugJws). Gwobr 2s. Gc. 7 Englyn Y Ddeugylch Gwobr Is. 8 Ugain o Bellillion Coffadwriaethol am y di- weddar Mr. David Evans, blacnor, Aberangell. Gwobr XI. Y rhai buddugol yn eiddo y pwyllgor. (Am ei hanes a'i nodweddion, ymofyner a Mr. Rd. Jones, Bookseller, Aberangell, R.S.O.) 9 Pencil Drawing o ffrynt capel M.C. Aberangell. Gwobr Is. 10 Rhestr Testynau at Gyfarfod Llenyddol dyf- odol. Gwobr Is. 11 Araeth, 5 munyd, 'Buddioldeb Cymdeithas Lenyddol.1 Gwobr Is. Beirniaid: Rhif 1-6, Mr. T. C. Davies, Dinas Mawddwy; 7, 8, Mr. W. Roberts (Ap Met rig), Aberangell; 9 Mr. E. H. Davies; 10 Parch. R. W. Jones, Aberangell. Y cyfansoddiadau i fod yn llaw eu priodol feirniaid erbyn Ohwefror 21. Enwau yr ymgeiswyr ar yr. areiiliio a'r canu i'r ysgrifenydd erbyn Chwefror 26. Rhestr Testynau, &c., d' am Ie. gan II, HOWELLS, Ysg,, iut^^umian, Abeiungell,
Advertising
IVll N A Fd N-. CORRIS. Ail WEETH— EIDDO KBYDD-DDALIADOL. TRI THY A WAREHOUSE yn y He mwyaf manteisiol —Ymoiyner k II. S. ROBERTb, Ys^ol y B.vr Id, Corns. TALYLLYIN SCHOOL BOAKD. WANTED, Tenders for erecting a Cloak- room, a Porch, Privies, etc., at Tyny- berth Board School. Plans and Specifications may be seen at the Post Office, Corris. The Board do not bind themselves to accept the lowest or any teialer. The tenders to be in my han is, sealed and endorsed, on or before February 12, 1900. 1). IFOR TONES, Clei-k. 1). IFOR JONES, Clerk. 1lJ 'gege$bb.
BYGWTH SEFYLL ALLAN.
BYGWTH SEFYLL ALLAN. Dydd Sadwrn, mewn cyfarfud perthynol i weithwyr Cwmniau Rheilnotdd y Taf, Rhymney,'Barry, a Ohaerdydd, penderfyn- wyd, yn unfrydol bron, i roddi rhybudd i'r cwmniau os na clianiatant >yfarfod mewn cysvlltiad a chynryclxiolwyr y gweithwyr y byddai iddynt sefyll allan. Yr oedd tri o'r cwmniau yn flaenorol wedi gwrthod gwneyd ymdriniaeth a'r materion ag yagruenydd Cymdeithas Unedig Gweithwyr y Iviieil- ffyrddf ac nichafwyd atebiad gan uu arall.
MAES Y RHYFEL.
MAES Y RHYFEL. EGLUKHAD AR Y MAP UCHOD. Islaw mae enwau'r gwledydd y cerir y Rhyfel ymlaen, gyda'rrhifnodauar y Map gyferbyn ahwy: 1 Natal (Prydeinig); 2 Basuto Land (Prydeinig); 3 Orange Free State (Gweriniaeth Boraidd) De- heuol; 4 Eto, eto, Gorllewin; 5 Y Transvaal Orllewinol; 6 Y Transvaal Ogleddol; 7 Y Trans- vaal Ddwyreiniol.
Y COLLEDION YN LADYSMITH.
Y COLLEDION YN LADYSMITH. Dydd Gwener, cyhoeddodd y Swyddfa Ryfel hysbysrwydd yn dangos fod y colledion Pryd- einig yn ymladdfa Ladysmith, dydd Sadwrn, yn 14 o swyddegion a 135 o filwyr wedi eu lladd, 27 o swyddogion a 244 o filwyr wedi eu clwyfo.
CAPE COLONY.
CAPE COLONY. ZONTPANSDRIFT. DYDD GWENER.—Meddianwyd y lie hwn ar y 6ed o'r mis, gan y Cadfridog Wood a nifer 0 filwyr. Mae'r lie yn y Dalaeth Rydd, ac yn gorwedd i'r Gogledd 0 Afon Orange. Mae gorsaf wedi ei sefyllfu felly yn nhiriogaeth y B6riaid am y tro cyntaf yn ystod y rhyfel. Gwnaed rhuthr llwyddianus drosodd i'r Dalaeth Rydd gan adran o dan o dan arwein- iad y Cadfridog Babington. gydag adranau llai dan arweiniad y Cyrnol Pilcher a'r Uch- gadben Byrne. Aed o fewn pedair milldir i jacobsdaal, a chaed hysbysrwydd gwerthfawr. Dywed telegram o Pretoria, yr hysbysir yn swyddogol fod cwmniau bychain o filwyr Pryd- einig yn croesi yn barhaus o Belmont dros derfynau y Dalaeth Rydd.
MANION.
MANION. Brysneges Laffan 0 Efrog Newydd, dydd lao, a ddywed:-Y mae cwmni o fasnachwyr yn Indiana yn gweithio ddydd a nos er mwyn dyfod i fyny ag archeb oddiwrth Lywodraeth y Transvaal am 125,000 o ddrylliau. Mewn llythyr a anfonodd milwr perthynol i'r 2nd Northumberland Fusiliers, yn desgrifio dinystr brwydr Stormberg, dywedodd ddarfod i'r Cadfridog Gatacre, pan ganfu ei hun wedi ei ddwyn i fagl, dori allan i wylo, ac i lefain, O fy mechgyn druain, pa peth ydwyf wedi ei wneyd ?' Nid pawb sydd yn gwybod mai ei wyr yw etifedd y diweddar Dduc Westminster, yr hwn nad yw eto yn 21ain oed, a'r hwn sydd yn gwasanaethu fel ysgrifenydd cyfrinachol i Syr A. Milner yn Neheubarth Aftrica. Bwriada aros yn y Drefedigaetth hyd nes y terfynir y rhyfel. Wedi y delo i feddiant o'r ystad, bydd yn un o ddynion cyfoethocaf y byd. Dywedir mai cuddiad crytder y B6riaid ar lan afon Tugela yw eu bod yn gallu trin y rhaw gyda medr. Y maent gyda'r rhaw wedi gallu gwneyd glan yr afon fel math 0 Gibraltar. Y rhaw, ac nid magnel, na dryll, na bidog yw yr arf i'w trechu. Y mae llinellau amdiffynol y B6riaid yn bymtheng milldir o hyd. Gall Buller, gyda'r adnoddau sydd ganddo, ymestyn ei linellau am ugain milldir.
AGORIAD Y SENEDD.
AGORIAD Y SENEDD. Y I IDADL AR Y RHYFEL. Ar gyfarfyddiad y Senedd 'i ymdrin ag amrywiol faterion o bwys a brys,' bydd i Syr Charles Dilke gynyg gwelliant i'r An- erchiad yn gofidio fod y Llywodraeth wedi Ifaelu a rhagweled y rhyfel ymha un y gwrthwynebid y byddinoedd Prydeinig gan fyddinoedd cyfunedig y ddwy Weriniaeth yu Neheudir Affrica, ac er gwaethaf bodol- aeth moddion digonol o hysbysrwydd, wedi mesur yn anghywir natur y parotoadau mil- wrol angenrheidiol i lwyddiant y fyddin Brydeinig.
CARNO.
CARNO. DR. GRIFFITH PARRY.-Parhau yn wael y mae Dr. Parry, ond da genym ddeall nad ydyw yn gwaethygu. jjEi nad yw yn gallu myned i'w gyhoeddiadau fel arfer, y mae yn hynod sirioi ei feddwl, ac mewn gobaith pan y del y gwauwyn y daw yn gryfach ac y gall am ychydig amser eto gael ei adferu fel ag i allu pregethu yr efengyl, yr hwn waith bydd mor agos at ei galon,
ABEEMAW. |
ABEEMAW. | Yn YsaoJj SI it OL.— (Jyuhuliwyd cyi'arf>d i o'r UywodraeUi^yr llo-.il dydd Llun, o dan j lywyddiueth Mr. W. J. Morris.—Adroddodd yr arcl>aueiladydd l'od adeilad ne wydd vr j ysgol yn myn'd ymlaen yn rhagoro!, ac y bydd to ar yr adeilad cyn pen y pythe[uos. —Cydymdeimlwyd a tlieulu y diweddar Syr Henry Tate.—Archwyd y oleic wneyd cais at y Llywodraethwyr Sirol am rodd ychwan- egol o'r drysorfa sirol tuag at yr adeilad, a gofynwyd i Mr. John Davies, aelod o'r corph hwnw gefnogi y cyfryw.
SOAR ger MACHYNLLETH.,
SOAR ger MACHYNLLETH. CYFARFOD ADLONIADOL.—Nos Wener, yn nghapel Soar, dan nawdd Cymdeithas Ddi- wylliadol y He, cynhaliwyd cyfarfod adloniadol. Llywyddwyd gan Mr. E. Evans, Byrdir, yr hwn a wnaeth ei waith yn ganmoladwy. Enillwyd gwobrau am adroddiadau gan Susan Smith, Annie Evans, Jennie Jones, Mrs. Davies, Ceniarth Miss Jenkins, Talbontdraiii; a Miss J. Elias. Darlleniadau, Mri. Thomas Jenkins a R. Edwards. Areithio, Miss M. Morgan, Rhiwlwyfen. Dadganu, Miss Jenkins. Barddoniaeth, Mr. E. R. Jenkins, ac efe hetyd enillodd am gyfansoddi,y rhaglen oreu gogyfer a'r cyfarfod nesaf. Yn ystod y cyfarfod, canwyd yn swynol gan Miss Davies, Ceniarth. Caed cynulliad da, a chyfarfod dityrus. Gwas- anaethwyd fel beirniaid gan y Parch. Wnion Evans, gweinidog, Mri W. Williams, Machyn- lleth, a T. Jenkins. Dangosodd y cystadleu- wyr ol llafur mawr.
CYNGOR GWLEDIG DOLGELLAU.
CYNGOR GWLEDIG DOLGELLAU. Dydd Sadwrn, Mr. J. Evans yn y gadair. —Hysbysai Dr. H. Jones yn ei adroddiad, fod llawer dan yr anwydwst yn y dosbarth, a llawer yu marw.—Addawai Mr. D. Gillart drefuu gyda pherchenogion tiroedd, &c., i gario allan gynllun dwfr Llwyngwril, os telid iddo. lihoed y peth dan ystyriaeth y pwyllgor. Derbyniwyd anogaeth y Mri. Bowen a Jones, Caernarfon, i dderbyn telerau'r Cadben J. W. Jones, Cae'rffynon, i osod pibellau diwy ei dir i gludo dwfr i'r Dyffryn, a cheiswyd gan Fwrdd Llywodraeth Leol gynal ymchwil yn fuan.—Gohiriwyd ystyried awgrymiadau Bwrdd Llywodraeth Leol parth y deddfau lleol.
MAHCHNADOEDD ANIFEILIAII).
MAHCHNADOEDD ANIFEILIAII). Llnndain, Ionawr 15. Gwartheg.—Cyfienwad llai 0 wartlieg, ond y fasnach yn bur farwaidd ac er fod y prisiau 2e. yr wyth pwys is, ni chliriwyd y farclmad; Gwartheg Ysgotaidd goreu, 4s. 10c. yr 8 pwys. Defaid.- Y cyfienwad o dctefaid, yn llawer llai, a'i' fasnach yn araf, gydt'L'l' prisiau yn gostwng. Leicester, Ionawr 13eg.-Yr oedd cynulliad da o brynwyr yn bresenol, ond bychan iawn oedd y cyfienwad 0 ystoc. Cyrhaeddai ychydig o fuchod llaeth o 17p. i 21p. y peu bustyeh dwy flwydd a blv;- haner, o lip. i 13p. 10s.; a blwyddiaid, o 4p. 10s. i 6p, y pen.
Family Notices
GENEDIGAETH. EVANs.-Ar y 14eg cyfisol, pnod Mr. J. H. Evans, Morben isaf, Derwenlas, ar forch. MARWOLAETH A U. JONEs.-Ionawr 16, mercli fechan Mr. ohn Jones, Tai isaf, Esgairgeiliog, 0 glefyd yr ymenydd, yn 7 mlwydd oed. Cleddir dydd tiadwn nesaf yn Ngliorris. Ro\ \nps.—Yrn Paddington, Llundain, Miss Mary owliuds, merch y diweddar Mr. R. a M. m a Is, Dolybont, a chwaer Mrs. Davies, New iop, Dolgellau, yn 75 mlwydd oed. Cludwyd ei gweddillion i'w claddu yn meddrod y teulu yu Ngliladdfa Rehoboth, Corris, dydd Llun di- weddaf. Gweinyddwyd gan y Parch. O. E. Williams, Pennal.
[No title]
AT FFBRMWYB.—Ceir g-an E. SUES, Druggist, jjrlacliyniletli, Bowdwr rhagorol i Geifylau at y Dwfr, ac i wella blewyn a graon cefiylau, ar gyier gwaith a marchnad. Mewn tins swUt yr un.
Advertising
MEDLY-Y,I OY a; pITTSIiS ..OiTTsr-' Fedcivgon, a r-vyr'. A chanmolir gan bawb ••;ydd wjdi rhoddrpraw and fel Meddyginiaeth Bur, C, ys;euol, Meddyginiaeth .'d-d { r'i 11 i_Virry.Jdîanus, Meddyginiaeth oreu ■, 1 ■ •. < tfc ,-Ui V Qliiille ;yn Fcdd c 1 ui 11 iis- kiadwy, a ba .J ^i.wrrn trof iad Doctoriaid, Terh 'yr, Iiei <llwyr, Gweinidogion, a c id lawer o gleihon wedi gwella. L'me yu Eeddygmiaeth anflaeledig. r am y dioddèiwch mwyach ou 1 11 y doluriau uchod, pan y mae Meddyg- iniaeth naturiol, synol ac eifeitliiol i'w chael. Y MAE YN ilHODDI NEUTH I'R:G \V AN, IECHYD I'R OLAF, MW YN li AD*BYW YD IjBAWB BITTERS GWILYM EVANS. ITTEES GWILYM EVANS. Tystiolaeth Bwysig. Pyle, Awst 17, 1895. Anwyl Syr,-Pan ddychwelais adref ychydig ddyddiau yn ol, ar ol llafurio yn galed am rai wythuosau, teimlwu yn lluddedig iawn ac wedi llwyr ddiffygio, ac mewn angen am donie da i'm hadgryfhau. Anogwyd fi i roddi prawf ar eich Quinine Bitters enwog. Ownaethum hyny, a chefais ef yn hynod efieithiol. Mae yn rhoddi yni newydd ynof, ac yn bywiocau yr ysbryd mewn gair, teimlaf ei fod yn gwneyd dyn newydd ohonof. (ParchJ GURNOS JONES. BITTERS "GWILYM EVANS. "PJiir RHYBUDD Gochelwch Dwyllwyr. Edrychwch fod enw Gwilym Evans ar bob Label, Stamp a Photel. Gwerthir hwynt mewn poteli 2s. gc. a 4s. 6c. yr un; Blychau yn cynwys tair potel 4s. 6c. am 12S. 6c. I'w cael ymhob man, neu danfonir hwy yn rhad am y prisiau uchod yn ddiogel drwy y p-ost oddiwrth y perchenogion,— QUININE BITTERS MANUFACTURING COMPANY. LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. Goruchwyliwr yn America- Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. DAVI HORSE POWDER "ft Al Y DWFR. A 2 Y BLEWYN. AT Y GWAED. AT YSTWY1 HO 1 CYMALA U. Davies's Horse Powder ydyw y moddion uiogelaf at gadw Ceffyiau mewn cyfiwr da, ac at godi Ceffyiau fyddo wedi eu gweithio yn ormodol, a thrwy hyny wedi myned i edrych yn salw eu gwedd. Argymhellir ef yn neillduol at wella y blewyn, at y dwfr, ystwytho y cymalau, yn ogystal a chodi ysbryd yr anifail.. f Nid oes dim Antinio-iy ynddo, nac unrhyw gyffyr peryglus arall, ac y mae yn ddiogel i anifail ymhob cyfiwr. Mewn Tins, is. yr un; xos. y dwsin. (Telir cludiad Dwsin i unrhyw gyfeiriad ar dderbyniad Postal Order am 10s). HUGH r>AVlES, Chemist, Machynlleth.