Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
§emion t' Jlwert.
§emion t' Jlwert. RHYFEL. GAN HIRAERHOa. Dyma ddiwedd ar Heddweh,-a dechreu Oes dychryn a th'w'llwch Flineiddiaf aflonyddwch, Gorthrymder, pob trawsder trwch. Tn lie Heddwch a llwyddiant,—Ow! malldod A drain melldith dyfant; A chwyn cenfigen a chwant Hyd wYlleb y byd daenent. Dyna Heddwch wedi ei enhuddo, Ow y dyn anwyl wedi'i wenwyno— Ael y nef uehel dawel yn duo, A'r awelon yn tori i wylo Am lain o dir, miliwn daerant,—dau lyw A dwy wlad gvnhyrfant; Dwy genedl a gyd-gwnant—yn awchus Mor ryfygus i'r gad ymarfogant!
* DYFERION DIRWESTOL.
DYFERION DIRWESTOL. Un o aneiryf chwedlau ysmala Syr Wilfrid Lawson ydyw hono am rhyw lymeitiwr yn canmol y nerth a ga dyn wrth yfed cwrw. Dyna'r haner baril yma,' meddai, pan ddaeth 0 yma, fedrwn i mo'i swigiad o, ond yrwan 'rol i mi yfed y cwbl oedd ynddo, yn fedra'i rolio fo fel tegan Mae y fasnach feddwol wedi ymgynghreirio, a chyfuno ei hadnoddau, nes d'od yn allu arswydol yn y Senedd ac ar fyrddau cyhoeddus. Son am i'r Senedd reoleiddio'r fasnach, nid oes dim amlycach er 1895, na bod y fasnach yn rheoleiddio'r Senedd. Yr oedd rhywbeth i'w ddweyd tros dafarn y dyddiau gynt, pan y diwallai anghenion cyfFredin gwlad a thref; ond er pan y syrthiodd i ddwylaw cyfalafwyr barus, a'r rhai hyny wedi ymuno yn gwmniau anferth, y mae tafarniaeth wedi dadblygu yn ormes a pherygl cenedlaethol. Broliant, am bob sofren a waria dirwestwyr a dyngarwyr i gwtogi y fasnach feddwol, y gwariant hwythau dair i'w hamddiffyn a'i helaethu a thrwy rym eu harian, a myrdd 0 gastiau annheilwng, llwyddant i ysgoi'r gyfraith, ilygru ei gweision, ac i drechu pob gwrthwynebiad yn y llys trwyddedu.
CEMMES.
CEMMES. CYMDEITHAS LENYDDOL.—Da genyf weled yr hen sefydliad yma wedi cael ei gychwyn yn y cylch hwn eto, ar ol blynyddau 0 orphwysdra. Y mae y Gymdeithas hon wedi codi bechgyn i safteoedd pwysig yn y byd, ie, mae genym hanes am un sydd a'i enw yn perarogli yn hanes Cymru, sef y gwladgarwr enwog Mr. T. E. Ellis, A.S. A chredaf fod digon 0 allu mewn llawer 0 ddynion ieuainc, ond iddynt gymeryd mantais ar y cyfle yma i ddiwyllio ei meddyliau. Da iawn hefyd fod y Gymdeithas yn cael ei chychwyn yn glir oddiwrth enwad- aeth. Dyma sydd yn lladd llawer o bethau y dyddiau hyn, ond arwyddair hon ydyw Croesaw i bawb a ddel,' a phrofiad y deiliaid fydd, mi obeithiaf, Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trige o frodyr ynghyd.' Cyn- helir y cyfarfod cyhoeddus cyntaf dan arwein- iad Mr. Edwards, Doldwymyn, nos Fercher, Tachwedd iaf, yn Ysgoldy y Plwyf. Disgwylir anerchiadau agoriadol gan y Parchn. T. Evans, Tyceryg J O. Jones, Cemmes W. Richards, Rheithordy; a D G. Richards, Sammah. Ac yna ymhen pythefnos, disgwylir dadl ar 'A ydyw Rhyfel yn fuddiol ?' gan Mr. E. R. Jones, Auctioneer, a Mr. R. W. Jones, Bryn- hyfryd, Mewn cyfarfodydd dilynol, disgwylir papyrau gan amryw ddynion ieuainc yr ardal, ac ond i bawb wneyd ei oreu, mae llwyddiant yn sicr o ddilyn, fel y byddo i'r gweithwyr dderbyn eu gwobr.-Gohebydd,
YSGOL SIROL MACHYNLLETH.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Llywodraethwyr dydd Gwener diweddaf.—Dewiswyd Mr. David Evans, cyfreithiwr, yn Llywodraethwr yn lie Mr. N. B. Owen.—Galwyd sylw at y gwaith o lefelu y tir 0 gwmpas yr Ysgol. Dywedodd Dr. Edwards fod y gost yn eithafol 0 uchel am hyn. Y cadeirydd a ddywedodd fod 114P. wedi eu talu, a bod 25p. i'w talu y diwrnod dilynol.—Addawodd y personau canlynol gyn- orthwyo ynglyn a dosbarthiadau y Science and Art:—Mri. E. Williams, T. Parsons, T. R. Morgan, Mr. Clayton, Dr. Rees, a'r Parch. D. H. Hughes.—Hysbyswyd fod y gwaith o wneyd laboratory newydd yn myned ymlaen yn hwylus.—Derbyniwyd 187p. 10s. oddiwrth y Llywodraethwyr Sirol tuag at gostau blaenorol —Pasiwyd cynal arwerthiant ar weddill stoc y Nodachfa, yn niwedd Tachwedd.—Hysbysodd y clerc nad goedd yr Y sgolion Sirol yn cael eu hesgusodi i beidio talu treth y tlodion fel y caniateid i'r Ysgolion Elfenol. Yr oedd amryw o'r aelodau o'r farn y dylid gwneyd rhywbetb tuag at iddynt fod felly.
LLANGADFAN.
LLANGADFAN. Cofnodir yn y Drych am farwolaeth Sarah, gweddw y diweddar Edward Watkins, Radnor, 0., yn 72 oed. Gaiiwyd yr ymad- avvedig yn Nant y Defaid, Llangadfan, ond ymfudodd y teulu i'r America pan yr oedd hi yn bur ieuanc. Gadawodd deuiu Uuosog o blant i alaru ar ei hoi.
'l""""""'" AM UY Vv ION.
'l" AM UY Vv ION. Bwriada Esgob Llandaf. yr hwn sydd dros t, 80ain oed, ymneiiiduo yn luan. Ymbriododd yr Arlywydd Kruger ddwy- waith. Ganwyd iddo un plentyn o'r wraig gyntaf, yr hwn a fu farw. Mae iddo 14 o blant o'r ail wraig, a 104 0 wyrion. Mae Syr Stafford Nortlicote, A.S., wedi ei benodi i olynu Arglwydd Sandhurst, fel Llywodraethwr Bombay. Felly y mae ei sedd yn wag yn Nhy'r Cyffredin. Tra allan yn hela gyda chwn Syr Watcyn, ddydd Sadwrn, taflwyd Miss H. Greenshields oddiar ei cheffyl, a disgynodd ar ei phen gan dderbyn niweidiau difrifol. Agorwyd Ysgolion Sirol newydd Aber- ystwyth, ddydd lau, gan Arglwydd Reudel. Codwyd hwy ar draul 0 yn agos i 7000p. Trwy rodd Arglwydd Rendel o 300p. tynir y ddyled i lunvr i 1,000p. Mae mab i'r Parch. John Morgan, rheithor Llandudno (Corris gynt), yn un o'r swydd- ogion milwrol yn Mafeking, Delieudir Africa, yr hwn le sydd yn awr yn warchae- edig gan y Boriaid. Cymerodd etholiad adran Bow a Bromley le dydd Gwener. Mr. Guthrie, y Tori, a etholwyd, trwy 4,238 yn erbyn 2,123 i'w wrthwynebydd Rhyddfrydol, Mr. Spender, Tori oedd yn dal y sedd o'r blaen. Hysbysir am farwolaeth y Parch. T. James, M.A., Llanelli, un o weinidogion liynaf y Methodistiaid. Yr eedd yn 72ain rulwydd oed. Bu yn ysgrifenydd y Gymanfa Gyffredinol, yn arholydd cyfundebol, ac yn gadeirydd Sasiwn Chwarterol y De. Cwyna rhai o glerigwyr esgob aethLlanel- wy fod eu cyflogau yn fychain. Ni cha rhai o honynt ond 80p. y flwyddyn. Mewn cyf- arfod yn Nhreffynon, dydd Sadwrn, pender- fynwyd gwneyd casgliad drwy'r esgobaeth unwaith y flwyddyn, er eu cynorthwyo. Gadawodd Mr. Charles Ashton ddwy ewyllys. Gwnaethy gyntafrai blynyddoedd yn ol, yn gadael yr oil o'i eiddo i'w briod. Mae yr olaf wedi ei gwneyd 0 fewn y ddwy flynedd ddiweddaf, yn ffafr ysgolfeistres sydd yn byw yn Ninas Mawddwy. Mae Rwsia yn awr wedi cytuno i gyflaf- areddu a'r Unol Dalaethau ar yr hawliau sydd yn codi allan o gwestiwn Mor Behring. Mae y cwestiwn ar droed er's 8 mlynedd. Dr. Asser, y barnwr Isellmynig, fydd y canolwr. Ofnir y bydd tua 20,000 0 lowyr Delieudir Cymru allan o waith dydd Mercher nesaf, o herwydd anghydfod rhwng y peirianwyr a'r meistri ynghylch cyflogau. Gwrthyd y dynion, meddir, dderbyn ateb y meistri i'w cais am godiad. Gadewch i'r rhai sydd yn gwneyd y cweryl wneyd yr ymladd hefyd,' ebai y Parch. Canon Lewis, y nos o'r blaen; ac awgrymai mai y ffordd oreu i orphen yr helynt presenol yn y Transvaal fuasai gosod llawddryll yn nwylaw Chamberlain a Kruger, ac iddynt benderfynu'r pwnc felly. Dydd Gwener diweddaf, ymneillduodd Mr. Michael Davitt, o fod yn aelod Seneddol dros East Mays, Iwerddon. Gwnaeth hyn fel protest yn erbyn y Llywodraeth am eu gwaith yn myned i orchfygu Gweriniaeth y Transvaal. Dywedodd yn ei araeth ymadaw- 01 nad oedd dim ymwared i un genedl o dan Brydain ond a geir drwy foddion gorfodol. Aeth dau ymsuddwr profedig o Douglas i Port Erin, boreu dydd Llun, i wneyd ym- chwiliad am gyrph T. E. Hassall, broker o Lerpwl, yr hwn oedd yn byw yn Saughell, ger Caer,—a'r hwn hefyd, oedd yn fab-yn- nghyfraith i, Mr. P. H. Chambers, gynt o Lysmeirchion, ger Dinbych—ei fab Lionel, a dau o bysgotwyr, y rhai a gollwyd yn Mau Port Erin, prydnawn dydd Sadwrn cynt. Ni chyfarfu'r ymsuddwyr ag nnrhywlwydd- iant. Bu agos i un o honynt golli ei fywyd. Yn nghyfarfodydd yr Undeb Oynulleid- faol yn Bristol, wrth gynyg penderfyniad yn condemnio Mesur Trethi y Personiaid, traddododd Mr. Herbert Lewis, A.S., an- erchiad grymus, yn nghwrs yr hwn y sylw- odd fod y ddeddf yn un anghyfiawn tuag at yr Ymneillduwyr a'r trethdalwyr yn gyff- redinol. Nid oedd yn ddim amgen na mesur i adwaddoli Eglwys Loegr a'r swm o 87,000p. bob blwyddyn. Caiiwyd y pen- deryniad yn unirydol.
TRIDIAU YN LLANDRINDOD.
TRIDIAU YN LLANDRINDOD. GAN GLAN,:ALUN. (Parhad.) Yn awr, fe ddymunit gael ychydig o ddaearyddiaeth a hanes lleol Llandrindod. Y mae rhyw un yn sylwi fod pob gwlad yn cynyrchu digon o feddygidiael-hau ar gyfer y clefydau sydd yn briodol iddi. Felly am Gymru. Rhwng ei llysiau, a'i mwnau, a'i dyfroedd, tebygaf y gallai, ond iawn astudio eu rhinweddau, fod yn annibynol ar bob meddyginiaethau tramor. Ac y mae yn ddigon tebyg y gwnai ei meddyginiaethau ei hun ddygymod yn well a'r trigolion, na'r pethau dieithr a arferir. Y mae sylw arall yn ymgynyg i fy meddwl yma; sef am y cyfartaledd gyda pha un y mae y Creawdwr wedi doebarthu angenrheidiau y bywyd hwn. Nid yw pob angenrhaid yn yr un man, ond y maent yn wasgaredig a lie y mae difiyg o un peth, y mae cyflawnder o'r Hall, a daioni ymhob man. Y mae rhyw gydbwysedd hynod i'w ganfod yn nhrefn- iadau natur. Os na bydd ffrwytblonrwydd ar wyneb y ddaear, fe geir trysorau yn ei chrombil; ac i'r gwrthwyneb, os na bydd brasder mawr ar ei gwyneb, na thrysorau o fwn a glo o'i mewn, fel yn Llandrindod, eto fe geir dyfroedd meddyginiaethol yn ff i-ydio o honi er gwellhau anhwylderau y trigolion. Y mae Llandrindod wedi ei gosod yn gyfleus iawn, megis yn y canol rhwng Gogledd a Dehau Cymru, ac ar gyffiniau y Saeson hefyd; fel y gall y cleifion o bob parth yn hwylus gyfttrfod ynddi. Nis gallaf ond gresynu wrth weled fel y mae diffyg ysbryd yn y Cyiary yn rhwystr iddynt fan- teisio ar y trysorau sydd ganddynt. Pe buasai y ffynhonau hyn yn rhywle yn ughanol Lloegr, buasai cyn hyn olwg tra gwahanol ar y fro hon ragor a welir. Yn lie yr anial annhrigianol, buasai yma dref deg wedi ei hadeiladu, terraces a chrescents ar bob Ilaw a'r dwfr iachusol yn llifo o enau Hew o farmor, yn lie cael ei godi o'r hen livmp fel y mae yn awr; ac fe fuasai yma Bapyr Newydd yn cael ei gyhoeddi, i adrodd pwy yw yr ymweledyddion, a phwy yr ym- adaelyddion, bob dydd; a band o fiwsig yn seinio ar hyd y rhodfeydd gyda'r hwyr, &c., &c. Ond och fi! nid felly y mae Cymru ddiysbryd i gyd drosti sydd yma. Nid oes yma ond un Inn o bwys. Ac y mae y rhan fwyaf o'r ymweledyddion yn cysgu yn y tai ffevmydd eydd yma ac acw yn dia anghys- bell. Y maent yn dwyn eu bwyd gyda hwynt oddicartref, ae yn clwbio a'u gilydd yn gartrefol a chyntefig iawn. Y mae y ddwy brif Ifynon o flaen drws y ty hwn, a thelir rhyw ychydig gan bawb i wr y ty bob dydd am hawl i yfed faint a fyner o ddwfr. 0 chwech i saith y boreu, fe welir yr ymweledyddion yn ymdywallt o bob ochr tua'r Hynhonau, a'u gwydrau a'u haner peintiau yn eu dwylaw. Y mae y ddwy ffynon, un y saline (halenawg), a'r Hall yn halenawg ond gyda mwy 0 sulpher, yn tarddu oddeutu ugain llath i'w gilydd. Y maent felly yn bur gyfleus, yn debyg i de a choffi ar yr un bwrdd. Eu hehaith, yn enwedig yn gymysgedig, yw i oeri a phuro y gwaed a rhyddhau y corph. Y maent yn yfed o chwecb. i ddeuddeg o haner peintiau, ie, ac weithiau dros ugain, y naill ar ol y Hall. Y mae tair o rodfeydd oddeutu tri chan' llath o hyd o flaen y ffynhonau, a rhwng yr yfed y mae yr holl gwmni yn rhodio yn ol ac ymlaen i gynorthwyo gweithrediad y dwfr, a rhwng pob rhodfa yn galw wrth y pwmp am haner peint eto.' Fe chwarddet pe gwelit mor awyddus a di- ildio y mae rhai yn yfed; yn debyg i'r Gwyddel; yr hwn, wedi cael blychaid o bills gan y doctor, a lyncodd y blychaid i gyd ar unwaith, gan ddweyd, os oedd un lilsen yn gwneyd ychydig 0 log, fod yn rhaid i'r cyfan wneyd llawer. (I barhau).
Y DIWEDDAR MR. CHARLES ASHTON-
Y DIWEDDAR MR. CHARLES ASHTON- Dywedir fod y diweddar hanesydd wedi marw yn werth 0 bymtheg cant i ddwy fil o bunau Nis gallwn gofio am yr un Ilenor Cymreig a ad- awodd gymaint 0 arian ar ei ol. Gwyddai ei gyfeillion ei fod yn gynil iawn, ac mai ychydig a wariau hyd yn nod am lyfrau. Byddai yn ymwelydd mynych a llyfrgelloedd y Canon Silvan Evans a'r diweddar Mr. Nicholas Bennett. Y gyfrol werthfawrocaf o'i waith a gyhoedd- wyd ydyw Hanes Llenyadiaeth,' yr hon, fel y gwyddis, oedd yn barhad o hanes Thomas Stephen a Gweitydd ap Rhys ond ni feddai Mr. Ashton mo farn a gwybodaeth ei ddau ragflaenydd. Gwaith oedd llenydda iddo ef ac nid hyfrydwch a hyny, feallai, sy'n cyfrif am sychder ei ysgrifeniadau. Cynullai ei ffeithiau a rhwymai hwy ynghyd mewn llyfr neu draethawd fel batingod o goed tan. Gresyn na fus sai yn byw i orphen ei Hanes Llyfrau Cymraeg y ganrit hon. Y mae'r bwlch hwnw eisiau ei lanw, ac nid yw wedi gadael undyn ar ei ol allai ei gyflawni cystal ag ef. Buasai yn sicr 0 ragori arno ei hun fel olynydd i Gwilym Lleyn.
PENOD YR ENWOGION
PENOD YR ENWOGION YR ARLYWYDD KRUGER. Ei NEILLDUOLION. (Parhad). Mae cymreiad crefyddol cryf Kruger yn rhagrith i'r rhai hyny sydd heb ystyried teithi ei gymeriad. Sicr yw nas gall neb ond gelynion maloisus amheu dyfnder a gwresogrwydd ei grediniaeth yn y Beibl, ac yn y goleuni mewnol a geir drwy yr efrydiaeth o hono. Dichon fod Kruger yn benboethyn cul, ond nid yw beth bynag yn rhagrithiwr. Mae ei ymddiriedaeth gref yn yn y gwirionedd dwyfol fel y deallir ef ganddo yn cael ei ddangos drwy yr ystori a ganlyn:—Er's peth amser yn ol, perswadiwyd ef i fyned i Johannesburg i agor synagog Iuddewig, a gwnaed parotoadau mawr ar ei gyfer. Ar ei fynediad i'r synagog, cymerodd ei le gan dynu ei het, heb dalu sylw o gwbl i awgrymiad ei ysgrifenydd, yr hwn a eglurodd iddo y ddefod Iuddewig gyda gorchuddio y pen. Pan gododd i^siarad, dywedodd mewn ychydig eiriau y boddhad a roddid iddo i agor y synagog, eto y byddai ei foddhad yn fwy os byddai i'r gynulleidfa roddi i fyny eu ffydd Iuddewig a derbyn Cristionogaeth, gan chwanegu ei fod ef yn parotoi traethawd bychan yr hwn a obeithiai a gyrhaeddai yr effaith ddymunol o'u hargyhoeddi o'r gwir- ionedd yn Iesu Grist. Mewn gwleidyddiaeth, yn gystal ag mewn crefydd llywodraethir Paul Kruger gan ychydig o syniadau syml a chryflon. Mae'r syniad ei fod yn wleidyddwr treiddgar, llwynogaidd, yn ymgais am ei hunanles, yn un heb sail iddo, ac yn codi o'r sefyllfa, yr hon sydd yn ami yn ei orfodi i roddi rhesymau am weithredoedd, seiliedig ar deimlad, goch- elgarwch, neu ragfarnau. Mae Kruger mewn gwirionedd yn ymladd dros annibyn- iaeth ei wlad, fel y dealla ef hyny felly'n gwarchod rhag llif dylanwadau tramorwyr. Pan y gelwir arno yn sydyn i amddiffyn ei safle, ni etyb yn rhesymegol, ond yn ami teifl allan resymau nad ydynt y gwir egnion a'i llywodraetha. Nid yw ei ddull 0 osgoi ac oedi bargeinio yn codi yn gymaint o ddyfais y gwleidyddwr, ag ydyw o reddf werinaidd y gornestwr sydd yn llwyddianus gyda dyn fel Mr. Chamberlain, yr hwn a wnaeth y camgymeriad o dybio fod ei wrth- wynebydd yn gyffelyb ddyn iddo ei hun. Yr un pryd, dywed llawer ei fod yn fedd- yliwr cryf, yr hwn a dreiddia i waelodion trafodiaeth, y gall arogli yn gyflym dwyll resymau, ac sydd hyd y nod yn barod i addef camgym- eriad pan y dangosir ef yn amlwg iddo. Mae yna beth bynag un gwendid yn ei safle sydd yn haeddu sylw. Nid yw yn darllen dim ond y Beibl, dim llyfrau na newyddiaduron, er fod dyfyniadau o'r di- weddaf yn cael eu darllen iddo. Y canlyn- iad yw ei fod yn dibynu ar gyfeillion o'i gwmpas am yr oil o'i wybodaeth am y byd oddiallan, ac hyd y nod am y ffeithiau pwysicaf. Mae felly mewn perygl parhaus o gael cam-hysbysu pethau iddo. Nid dyn hunan-ddigonol ydyw Kruger fel y darlunir ef weithiau. Llywodraethir ef gan y nwydau a'r amgylchiadau y mae ynddynt, ond ni ildia i fygythion, ac y mae yn hynod blyg- iedig i ddylanwad ei gyfeillion. Anwyb- yddir y teithi hwn gan ei genedl, a chan Jingoaid Seisnig. Mae yr hyn a ganiataodd yn y drafodaeth ddiweddar wedi dyfod drwy ddirwasgiad ei gyfeillion ac nid drwy ofn rhyfel. Am wir allu Kruger mae yn anhawdd rhoddi barn. Mae y Boriad yn wr rhydd i amlygu ei feddwl, ac mae arwyddion nad yw yn barod i roddi perffaith ymddiried hyd y nod i'r Arlywydd. Dioddefodd yr Arlywydd storm o ddigllonedd ar bwnc toll y dynameit a'r bleidlais pum' mlynedd. Er hyny nid oes un dyn digon nerthol 0 fewn na thuallan i'r Senedd all sefyll i fyny yn erbyn yr Arlywydd, na chodi plaid gref yn ei erbyn ar adeg o gyfwng cenedlaethol. Nid yw y Boriaid yn hoffi'r syniad o unbenaeth, a safant yn dyn dros y Weriniaeth yn ei ffurf eangaf. Gellir dweyd mai Gwludwriaeth y dyn un- igol i raddau pell fu yn y Transvaal, nid oherwydd ewyllys ac awdurdod Kruger ei hun, ond oblegid ymdeimlad y bobl ei fod ef yn corphori gwir ysbryd y Boriaid, a'i fod yn barod i ymladd gyda holl alluoedd ei feddwl dros annibyniaeth ei wlad.
[No title]
Yr Oceanic yw y llong fwyaf a fu erioed ar gefn yr eigion, ac yn perthyn i'r White Star Line. Gollyngwyd hi i'r dwfr Ionawr 14, 0 weithfa Harland & Wolf, Belfast. Mae yn 704 troedfedd 0 hyd, a nerth ei pheirianau yn gyfartal i 45,000 o feirch ieuainc pan yn eu cyflawn nerth. Mae ei dwylaw yn 450 o nifer, a chariodd dros y Werydd 2,044 o fodau dynol ar ei mordaith gyntaf,
ABERLLEFENNI.
ABERLLEFENNI. DIRWEST.-Nos Lun, Hydref23, cynhaliwyd eyfarfod dirwestol yn nghapel y' M C pryd y llywyddwyd gan Mr. L. Evans. Dechreuwyd gan Mr. H. Evans. Cafwyd gair gan y llywydd; ton gynulleiofaol gan Mr. Robert Williams, Bryntfynon, a'i barti; anerchiad gan y Parch. J. J. Evans ar Berthynas y fasnach feddwol a gwleidyddiaeth ddiweddai/ Ton gynulleidfaol eto gan Mr R. Williams a'i barti anerchiad gan y Patch. H. W. ParryJ Ar derfyn y cyfarfod cafwyd dadg-aniad o anthem gan y cor, dan arweiniad Mr. R. Lewis. Cafwyd cyfarfod da drwyddo; teimlem fod y canu yn rhoddi rhyw ysbrydiaeth yn y siarad- wyr. Teimla y pwyllgor dirwestol yn ddiolch- gar i bob uirwestwr yn yr ardal am ei help i achos dirwest, mewn dadganu, neu adrodd. Boed i bawb sydd yn barod i helpu yn y cyfeiriad hwn hysbysu hyny i'r ysgrifenydd Bydd amrywiaeth yn sicr o fod yn atdyniad i'r cyfarfodydd. Cynhaliwyd pwyllgor dirwestol ar ol y cyfaifod, pryd y penderfynwyd yn 1, I dderbyn y rhaglen a barotowyd gan y pwyllgor gweithiol ar gyfer cyfarfodydd y gauaf; 2, Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal nos Lun, Tachwedd 13, Mr. }. Disley i areithio ar 'Ychydig 0 hanes a dylanwad deddfau dirwestol yn Norway a Sweeden 3, Fod casgliad i gael ei wneyd yn y cyfarfod nesaf at dreuliau yr achos dirwestol, a Mr. H. Pughe, y trysorydd, i I ddweyd gair arnoj
LLANBRYNMAIR.
LLANBRYNMAIR. TYSTEB.-Boreu Sabbath, anrhegwyd Mr. R. W. Davies, Glanrhyd, a nifer 0 lyfrau fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth yn chwareu yr harmonium yn yr Hen Gapel. Mae Mr. Davies wedi dechreu pregethu er's oddeutu blwyddyn yn ol, ac yn awr yn Ysgol Sirol Machynlleth yn parotoi i fyned i un o'r Colegau. Bu yn hynod o ftyddlon gyda'r canu yn y lie, a bydd colled fawr ar ei ol, ac yn neillduol yn yr Ysgol Sul a'r cyfarfodydd wythnosol yn Tafolwern. Y mae yn ymadael o'r ardal gyda ein dymuniadau goreu am ei gysur a'i lwydd- iant. Efe oedd yn pregethu yn yr Hen Gapel a'r cylch y Sabbath diweddaf, a chyflwynwyd yr anrheg iddo ar derfyn y gwasanaeth yn yr Hen Gapel y boreu, gan Mr. R. Williams, ysgrifenydd yr eglwys. Dywedodd Mr. Wil- liams fod yn bleser ganddo, dros yr eglwys, gyflwyno y cyfrolau gwerthfawr hyn i Mr. Davies, ac wrth wneyd hyny dymunai gyflwyno hefyd ddymuniadau goreu yr eglwys am ei gysur a'i lwyddiant yn y dyfodol. Yr oedd yr holl ysgolion perthynol i'r Hen Gapel wedi cyfranu at y dysteb yn barod ac ewyllysgar; a gobeithient y caffai lawer 0 fendith wrth ddarllen y llyfrau, Cydnabyddwyd derbyniad yr anrheg gan Mr. Davies mewn ychydig eiriau teimladwy, yn diolch o'i galon i bawb o honynt am yr anrheg, ac am eu dymuniadau da. Yr oedd yr hyn a ganlyn yn ysgrifenedig ymhob un o'r llyfrau:— Cydnabyddiaeth fechan gan eglwys Annibynol Llanbrynmair i Mr. Richard William Davies, Glanrhyd, am ei wasanaeth i ganiadaeth y cysegr drwy chwareu yr offeryn yn y capel 0 Mawrth, 1896, hyd Mawrth, 1899. Mae bryniau llwydd yn llithrig iawn, A phur anhawdd eu dringo hwy Ond tra bydd ynoch nerth a dawn, Na throwch yn ol er undyn mwy. Hydref 29, 1899.'
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Dywedir mai yn y lladd-dy y mae y Cyngor Dinesig yn mynu byw er's rhai blynyddau. Y gwaethaf yw, fod hyny wedi costio i'r trethdalwyr 900p. Ymddengys eu bod yn hoffi eu lie yn dda, a'u bod yn siarad am fwynhau eu hunain yno hyd nes treulio 50p. neu 60p. eto. 0 bosibl y caiff fyned, yn anghyfanedd wed'yn. YR EGLWYSI RHYDDION.—Nos Lun, cyn- haliwyd cyfaifod gweddi undebol o'r holl enwadttu, dan nawdd yr uchod, yn nghapel yr Annibynwyr. Yr oedd cynulliad lluosog ynghyd a chafwyd cylarfod bendithiol. OYMDEITHAS LENYDDOL Y M.C.-Nos lau diweddaf, cynhaliodd yr uchod ei chyfarfcd wythnosol, pryd y darllenwyd papyr dydd- orol ar y Diweddar Mr. T. E. Ellis, A.S. gan Mr. E. W. Evans, Frondirion. Cafwyd crynhodeb o ddigwyddiadau yr wythnos gan Miss A. May Roberts, Union Workhouse. CYMDEITHAS Y BFIBL-k-U. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr uchod nos Fawrth, dan lywyddiaeth y Parch. R. G. Roberts. Cynrychiolid y Fam Gymdeithas gan y Parch. D. Charles Edwaids, gan yr hwn y cafwyd anerchiad pwrpasol. Hefyd cymer- wyd rhan gan amryw o weinidogion y dref.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. GAL WAD.—Rhoddodd eglwys yr Annibyn- wyr yn Northwich, yn ddiweddar, alwad unfrydol i Mr. J. T. Miles, B.A., mab y Parch. Job Miles; a deallwn ei fod yntau wedi derbyn yr alwad, ac yn bwriadu dechreu yno yn fuan. TE P ARTI.-Dydd Gwener, rhoddodd Mr. D. C. Roberts, y Maer, wledd o de, &c., i holl blant yr ysgolion dyddiol—y rhai a rifent oil dros 1,000. Yn flaenerol i'r te, gorymdeithiodd y plant drwy yr heolydd. LLWYDDIANT ADDYSGOL.—Llongyfarchwn Mr. John H. Protheroe, mab hynaf yr Archddiacon Protheroe, ar ei waith yr wythnos ddiweddaf, yn enill y radd 0 B.A., yn Rhydychain,