Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
Advertising
YSGOL GENEDLAETHOL CORRIS. CYNHELIR CYNGERDD Er budd yr ysgol uchod, nos Lun, Tachwedd 20, 1899. TT M BR. ELLAS RECOVERED U in DESIDERATUM SILK.— WEAR GUARANTEED — COMPENSATION IN CASE OF FAILURE And in all other kinds of Silk, by our London Maker, in 48 hours. E. JONES, London House, Machynlleth.
[No title]
MAE rhyfel y Transvaal yn myned ymlaen Y Rhyfel a'r Ddadl Seneddol. gyda'i alanastra, a'r Jingoaid ar eu huchelfanau wrth weled y Juggernaut Prydeinig yn maeddu a distry wio y Boriaid. Cawsant y dyddiau diweddaf wledd wrth fodd eu calonau yn muddugol- iaethau arfau Prydain yn Natal ar wladwyr distadi-yn ymladd dros gartref ac annibyn- iaeth. Mae rhyfeloedd, ysywaeth, yn boblogaidd bob amser gan ryw ddosbarth- iadau, oherwydd y cynhyrfiad a rydd gwrhydri a gogoniant milwrol. Ni ofalant ddim am yr achos o honynt, eu cyfiawnder, na'u canlyniadau. Da genym feddwl mai nid y werin yw y rhai a hysiant gwn rhyfel, oanys eu hunig ran hwyyw dioddefynddynt ac o'u herwydd. Crewyd y rhyfel hwn yn benaf gan gyfalwyr Johannesburg a Llundaiu, a newyddiaduron gwaedwyllt Lloegr. Mae eraill liefycl yn gyfrifol am dano, set y dosharth milwrol sydJ mor awyddus am gyfleusdra i brofi gwerth y dyfeisiau new- yddion mewn arfau tan, ynghyd a'r Llyw- odraoth Doriaidd sydd yn gweled mantais mewn rhyfel i osgoi calil) allan ddivvygiadau 0 tD cartrefol, megis Dadgysylltiad, diwygiad tirol a Dewisiad Lleol, ac yn disgwyl i glod I zn rhyfel enill iddynt bohlognvydd sydd yn awr yn dra gwywedjg, erbyn yr etholiad gyffredinol nesaf. Nid yw yr amcan diweddaf yn debyg o gael ei sylweddoli ar ol y dadleniadau a wnaed yn y ddadl Seneddol yr wythnos ddiweddaf. Ar ol areithiau nerthol gan ar- weinwyr yr Wrthblaid, atebwyd hwy gan aeiodau y Llywodraeth. Rhan bwysicaf araeth Arglwydd Salisbury oedd ei sylwadau ar 'y wladlywiaeth newydd' y mae Mr. Chamberlain yn awdwr iddi. Cynwysai hon ffyruigo gwlad gyfeillgar trwy areithiau chwerwou a bygythiol, a chyhoeddi brys- lythyrau anmhwyllog ac unochrog Syr A. Milner. Unig effaith hyn yw creu ymrys- onau rhwng pleidiau. Perffaith wahanpl yw i ddull yr 'hen ysgo],' i ba un y perth- yna Arglwydd Salisbury, sef ceisio enill y blaid wrthwynebol drosodd trwy ysbryd eymodol. Nis geHid gwybod oddiwrth eiriau Arglwydd Salisbury, pa un a'i canmol ynte condemnio Mr. Chamberlain yr oedd. Gan y diweddaf y cafwyd y prif amddi- ffyniad mewn araeth o ddwy awr a haner. Aeth drwy y gwaith yn ei ddull rhyfeddaf. Mae ei addefiadau yn condemnio ei hun, ac yn eglur brofi fod y rhyfel yn hollol ddi- achos fel y datganai gwelliant Mr. Stanhope. Haerai Mr. Chamberlain fod cyngrair yn mhlith yr holl Is-Ellmyn i ddymchwelyd awdurdod Prydain. Fod y gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad mor fanir fel nad oedd yn bosibl dyfod i gytundeb. Ac ar yr un anadl, dadleuai fod yr anghydwelediad wedi ei leihau gymaint nes yr oedd wedi derbyn tri o delerau y Boriaid a gysylltiwyd ag e&tyniad pleidlais pum' mlynedd. Yr oedd wedi derbyn cyflafareddiad a chwestiwn susareniaeth, ac am y trydydd, sef i Brydain ymatal rhag ymyriad pellach yn achosion mewnol y Transvaal, nid oedd arno eisiau dim ond cyfnewid ei fiud. Pfurf yr Ar- lywydd Kruger oedd na byddai i Brydain wneyd ymyriad pellach.' Ffurf Mr. Cham- berlain oedd na byddai i Brydain ymyryd eto ar yr un cynllun ag y gwnaed ef y tro hwn.' Ar y gwahanaeth bychan hwn y clogai rhyfel a heddwch! Ni wnaeth Mr. Chamberlain ei welliant yn ddealladwy i'r Boriaid. Deallasant hwy yr atebiad fel -gwi-thodiad i'w cynyg, a gadawyd y Boriaid yn eu tywyllwch, ac ni eglurwyd wed'yn yr hyn a geisiai Prydain. Yn y brys-lythyr nesaf, mae Mr. Chamberlain yn ail godi y susareniaeth, ac yn cau y drws ar bob cyn- ygiad ar y bleidlais. Cafwyd y dadleuiad hwn gan Mr. Chamberlain drwy groes-lioliad Syr Edward Clarke, yr hwn a ddatganai ar ddiwedd ei araeth gref mai rhyfel hollol ddi-achos ydoedd, a bod y gwelliant yn cael ei brofi. at y earn. Beth yw araeth Mr. Chamberlain ond cyffesiad i'r gweddwon ac ftniddifaid o'r ddwy blaid—' Pe buaswn i wedi gwneyd fy meddwl yn eglur, ni buasai raid i'ch gwyr a'ch tadau feirw ?' Gydag un ystyiiaetli gallwn gymeryd cysur. Dangosodd y blaid Ryddfrydol yn yr ymraniad ei bod yn ei hiawn bwyll. Er i rai o honynt bleidleisio ar yr ochr arall, yr oeddynt yn eu calonau yn condemnio Mr. Chamberlain i'r eithaf. Bu y blaid, ac yn neillduol yr adran Gymreig, yn ffyddlon i'w thraddodiadau goreu, ac i'r gwyr enwog a'i harweiniodd yn y gorphenol. Diau y dychwel yr afradloniaid Rhyddfrydol ar hyd a lied y wlad, sydd wedi gwyro a myned yn Doriaidd, eto i bleidio eu hen gredo 0 4 heddwch, cynildeb, a diwygiad,' yn enwedig pan yr adolygir yn llawnach, a chyda beirniadaeth lawer llymach y wladlywiaeth a arweiniodd i drosedd cenedlaethol m wyar Prydain yn yr oes hon,
RHYFEL Y TRANSVAAL
RHYFEL Y TRANSVAAL MAES Y RHYFEL. EGLURHAD AR Y MAP UCHOD. Islaw mae enwau'r gwledydd y cerir y Rhyfel ymlaen, gyda'r rhifnodau ar y Map gyferbyn a hwy: 1 Natal (Prydeinig); 2 Basuto Land (Prydeinig); 3 Orange Free State (Gweriniaeth Boraidd) De- heuol; 4 Eto, eto, Gorllewin; 5 Y Transvaal Orllewinol; 6 Y Transvaal Ogleddol; 7 Y Trans- vaal Ddwyreiniol. Mae y B6riaid a'r Prydeiniaid yn awr wyneb yn wyneb mewn brwydrau mwyaf angeuol. Prif faes yr ymdrechfa yw Gogledd Natal. Saif y Prydeiniaid ar yr amddiffynol, a'u prif wersyllfa yn Ladysmith, Gleneoe, ac Elandslangte, y rhai sydd o fewn tua phymtheg milldir i'w gilydd. Yn y ddau le diweddaf, bu brwydrau celyd. Gwnaed yr ymosodiadau gan y Boriaid, ond gwthiwyd hwy yn ol, ac ymlidiwyd hwy gan y Prydeiniaid, yn benaf trwy nifer a rhagoriaeth eu magnelau. Y Boriaid dder- byniodd y collodion trymaf. Mae amryw o'u prif swyddogion wedi eu lladd neu eu cymeryd yn garcharorion. Costiodd budd- ugoliaethau y Prydeiniaid yn ddrud iddynt, yn enwedig mewn swyddogion. Credir y cymer brwydrau mwy pwysig eto le y dyddiau nesaf. Mae'r Arlywydd Kruger wedi cyraedd i faes y gwaed. Ni wnaed symudiad o bwys yn y parthau gorllewinol. Parotoa y Boriaid i amgylchu ac ymosod ar Mafeking a Kimberley. Yn y lie diweddaf y mae Mr. Cecil Rhodes, Dr. Jameson, BRWYDR GYNTAF GLENCOE. Dydd Gwener, yn Natal, mewn lie a elwir Glencoe, ar du gogleddol Ladysmith, bu brwydro tost a gwaedlyd rhwng y milwyr Pryd- einig a'r Boriaid. Brysneges ragarweiniol oddiwrth Syr George White, a ddywed fod y B6riaid yn dylifo i lawr y rhigolau Gorllewinol ddydd Mawrth a dydd Mercher, daethant i gyffyrddiad a blaenion ei fyddin ef. Yr oedd 400 wedi gwersyllu yn Gleneoe, mewn lie ydoedd wedi ei ddethol fel ag i gysgodi Ladysmith. Ar doriad y wawr dydd Gwener, meddianodd y B6riaid, y rhai a gyfrifid gan y Cadfridog Yule yn rhifo 4,000, bwynt annringadwy ar ben mynydd, ac yr oedd ganddynt bedwar neu bump 0 gyflegrau mawr wedi eu gosod mewn safle. Dechreuasant ymosod ar unwaith, a saethasant dan-belenau i'r gwersyll Prydeinig, yr hwn oedd 5,000 neu 6,000 0 latheni oddiwrthynt. Yr oedd y tanio yn neillduol o effeithiol, ac yn fuan iawn yr oedd anelu rhagorach, y cyflegrwyr Prydeinig yn distewi gynau y B6riaid. Yna aeth y milwyr traed ymlaen i ymosod, ac am un o'r gloch cymerasant feddiant o safle y B6riaid, ar ben ybryn Yr oeddynt wedi cymeryd meddiant o'r oil o'r gynau, ac yna yn ben ar y llwyddiant dilynwyd y gelyn enciliedig gan y gwyr meirch. Yn gynar yn y frwydr, cafodd y Cadfridog Prydeinig Symons ei glwyfo yn drwm, a thybiwyd ar y cyntaf na byddai byw ychydig oriau. Nifer y Prydeiniaid a laddwyd oedd 43, 0 ba rai yr oedd 10 yn swyddogion. Clwyfwyd 181, ac o honynt 22 yn swyddogion. Rhaid fod colledion y Bdriaid yn drymion. BRWYDR ELANDSLAAGTE. Dydd Sadwrn, ymladdwyd brwydr arall yn Elandslaagte, lie tua haner y ffordd rhwng Ladysmith a Gleneoe, a'r lie y llwyddasai y B6riaid ychydig ddyddiau cynt i ddal tren teithwyr. Yr oedd y corphluoedd Prydeinig o dan arweiniad y Cadfridog French, yr hwn a anfonodd y frys-neges a ganlyn :—Am dri o'r gloch y prydnawn y dechreuwyd ymladd. Daliai y B6riaid safle eithriadol o gadarn, yn cynwys bryniau creigiog. Am 3-30 cymerodd ein gynau eu safle ar gribynoedd, rhyw 4,100 o latheni oddiwrth y gelyn, pa rai a ddechreuas- ant danio yn ddioed. Yr oedd y tanio hwn yn cael ei gyfeirio yn lied dda, ac yr oedd ei losg- beleni yn ffrwydro yn dda. Cyfeiriodd gwyr y ceffylau yn nghyfeiriad safle aswy y gelyn, a dwy sgwadran yn nghyf- eiriad y deheu. Yn ystod y tanio magnelau o bob ochr, gwthiodd y Boriaid oddiar yr ochr aswy, a buont mewn ymgyrch a Gwyr y Ceff- ylau. Ar ol ymladd caled, cariodd y gwyr traed y sefyllfa am 6-30, ar ol gwneyd cryn alanas. Cymerasom feddiant o wersyll y B6riaid, ynghyd a'u pebyll, gwageni, ceffylau, a dau o ynau. Cafodd y Bdriaid gryn golledion, yn cynwys nifer o garcharorion. Ymysg y blaenaf y mae y Cadfridog Jan Jack a Piet Joubert, nai i'r Cadfridog Joubert. Llwyddwyd i ad- feddianu tren nwyddau, gyda chyflenwadau i wersyll Glencoe. Y mae ein colled ni, yn drwm a gwneir am- cangyfrif brysiog o 160 wedi eu lladd a'u clwyfo. Y mae y gwaith o gasglu y clwyfedigion dros arwynebedd eang yn y tywyllwch, a'u hanfon yma wedi cymeryd ein hamser a'n sylw. Hysbysiad diweddarach a ddywed fod nifer a laddwyd yn 42, a chlwyfwyd 205. AIL FRWYDR GLENCOE. Ni wyddisddim eto am y drydedd frwydr, sef yr ymosodiad y mae Joubert yn ei wneyd ar Glencoe. T) bli- niai ymladd a'r gynau mawr y mae'r ddwy ochr. Y CYFLENWADAU. Nos Lun, yn Nhy'r Cyffredin, pleidleisiwyd io,ooo,ooop at gostau'r rhyfel. Codir y trethoedd tuag atynt eto.
GALLUOEDD EWROB A'R HELYNT.
GALLUOEDD EWROB A'R HELYNT. Sibrydir fod tri o Anuocud y Cyfandir yn myned i alw ar Brydain i derlynu y rhyfel, a phenderfynu'r ymrafael drwy gyflafareddiad, yn unol a Chynadledd Hague.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. LLYS SIROL. Dydd Sadwrn, o flaen y Barnwi Evans. Lladd Dsfaidyn Llanfachreth.- Y n yr achos fu o flaen y llys diweddaf ynglyn a lladd defaid yn Llanfachreth, yr oedd Mr. George, ar ran y diffynyddion, yn gofyn am y costau. —Mr. Guthrie Jones, dros yr erlynydd, a gredai na ddylid caniatau costau ond mewn un achos gan fod y ddau achos wedi eu gwrandaw fel un achos. Caniatawyd y costau fel mewn un achos. Yr Oriadurwr.—Yr oedd Mr. W. Fisher, oriadurwr, yn erlyn dau berson am dal am bethau werthwyd iddynt. Eglurwyd fod rhyw gamddealltwriaeth ynglyn a'r enwau ar y gwysiau, a thaflwyd yr achos allan.
PWYLLGGR HEDDlU MEIRION.
PWYLLGGR HEDDlU MEIRION. Dydd Mawrth, cynhaliwyd cyfarfod chwar- terol y pwyllgor hwn yn y Bala, dan lyw- yddiaeth IT. E. Jones. Cyflwynodd y Pi-if-gwnstabl ei adroddiad, yr hwn a ystyrid yn un ffafriol.—Derbyniwyd cais oddiwith glerc Cyngor Sir Drefaldwyn, mewn cysylltiad a blwydd-dal oedd wedi ei chaniatau i Mr. Hughes, cyn-brif-gwnstabl Sir Drefaldwyn, yn gofyn i Bwyllgor Heddlu Meirion dalu rhan gyfartal o'r cyfryw flwydd-dal mewn cysylltiad ag 8 mlynedd o wasanaeth yn Sir Feirionydd.-Penderfyn- wyd talu 16p. 8s. yn flynyddol.-Gwnaed y Rhingyll-gweithredol Breeze, Dolgellau, yn rhingyll. Penderfynwyd argymhell i'r Cyngor Sirol y priodoldeb i'r Sir ymuno a Siroedd Dinbych, Trefaldwyn, Fflint, Maes- yfed, Amwythig, a Henffordd, gyda golwg ar y trefniant i symud defaid.-Ar gynygiad y cadeirydd, cafodd yr is-bwyllgor a benodr wyd eisoes ei awdurdodi i brynu y dodrefn angenrheidiol i'r adeiladau sirol yn Mlaenau Ffestiniog.
BWRDD PRIF-FFYRDD DOLGELLAU
BWRDD PRIF-FFYRDD DOLGELLAU FFORDD Y PRYSGLWYD.—Yr oedd Cyngor Plwyf Brithdir ac Islaw'rdref wedi anfon i gwyno oherwydd sefyllfa hen ffordd oedd yn arwain o Rhydymain at Goedrhoslwyd. Pasiwyd i'w gwella. LLWYBR BONTDDU .-Galwyd sylw at sefyllfa llwybr oedd yn agos i'r Bontddu. Yr oedd coeden yn tyfu ar draws y llwybr Pasiwyd fod yr arolygydd i fyned i weled y lie. LLWYBRAU YN LLWYNGWRIL.—Yr oedd Mr. W. Lloyd wedi anfon tystiolaethau gyda golwg ar y Ilwybr a arwain heibio y Felin Isaf i'r orsaf, ac hefyd gyda golwg ar y bont oedd ar y llwybr newydd ei chodi. Pasiwyd fod yr arolygydd i fyned yno i dori y gwifrau, fel y byddo y llwybr yn agored. LLWYBR ARTHOG.—Yr oedd llythyr wedi ei anfon oddiwrth gyfreithiwr Mr. Edwards yn dweyd na chymerent weithrediadau, gan eu bod yn deall fod dieithriaid yn talu am fyned ar hyd y llwybr. Dywedid fod rhybudd wedi ei roddi i fyny yn dweyd nad oedd y llwybr yn un cyhoeddus. Pasiwyd i roddi dyn yno i wella y llwybr. PONT YN RHYDYMAIN.—Pasiwyd i anfon at Gwmni y G.W.R. i ofyn iddynt godi pont yn Rhydymain.
.TOWYN.
TOWYN. BWRDD YSGOL.—Mewn cyfarfod o'r Bwrdd dydd Mawrth, etholwyd y Parch. R. Jones yn gadeirydd am y gweddill o'r amser y y bydd y Bwrdd mewn swydd.—Pender- fynwyd hysbysebu am athraw cynorthwyol i Ysgol Bryncrug, ar gyflog o 50p.—Dewis- wyd y Parch. J. D. Jones, y Paich. J. W. Davies, Mr. William Eves, a Mr. W. D. Evans, yn Ilywodraethwyr YHgol Bryncrug.
"ABERLLEFENNI.
ABERLLEFENNI. Cofnodir yn y Drych am gyngerdd a swper a gynhaliwyd yn Slatington, Pa, U.D., Medi 22, er anrhegu gweinidog yr eglwys Annibynol yn y He, sef y Parch. William M. Davies (gynt o Aberllefenni), ar ei ymadawiad i'r gorllewin am ddau fis o seibiant. Amlygwyd y teim- ladau goreu tuag ato, a gwerthfawrogiad o'i lafur fel gweinidog.
YMOSODIAD AELOD GWYDDELIG…
YMOSODIAD AELOD GWYDDELIG AR MR. CHAMBERLAIN. Nos Lun, yn y ddadl Seneddol ar y cyflen- wadau at y rhyfel, gwnaeth Mr. P. O'Brien, aelod Gwyddelig, araeth hynod, a'r Ty ar y pryd yn gynhyrfus. Dywedodd fod y Gwydd- elod yn cydymdeimlo a'r Bdriaid yn eu hymdrech dros ryddid. Yr oedd rhai Gwydd- elod yn y fyddin Brydeinig. Yr oeddynt yno yn cynrychioli dewrder Gwyddelig ond nid opiniwn Gwyddelig. Yr oedd Lloegr wedi tori eu hymrwymiadau A'r Bdriaidfel y gwnaethant i'r Gwyddelod yn Limerick. 'Yn bersonol,' meddai, I gobeitliie.f y llwyddant i'ch trechu allan o'r wlad' (O!) Yn bendant, nisgallaffel cyfaill rhyddid feddwl yn amgen. Pe buasai unrhyw Allu arall yn ymddwyn at y B6riaid fel yr ydych chwi yn eu trin, buasai y Ty hwn yn crechwaeddi eu gwrthdystiad. Yr oedd y rhyfel hwn yn drosedd yn erbyn dynoliaeth, ac mae yr aelod a weithredodd y trosedd hwn, yn fy marn i, wedi ei staenio mor ddyfn mewn gwaed ag unrhyw droseddwr aeth i'r dienyddle. Yr wyf yn cyfeirio at Mr Chamberlain. Y Llefarydd Trefn, trefn Rhaid i mi alw ar yr aelod anrhydeddus i'dynu y sylw yna yno! Mr. P. O'Brien Na, ni thynaf ddim o'r fath beth yn ol. Y Llefarydd Yna, rbaid i mi enwi Mr. P. O'Brien i'r Ty am wrthod ufuddhau i awdur- dod y Gadair. Galwodd am bleidlais y Ty i atal gwasanaeth Mr O'Brien am y diwrnod. Cafwyd ymran- iad, 0 blaid, 316 yn erbyn, 26-mwyafrif 29Q. Yna, aeth Mr. O'Brien allan o'r Ty,
YSGOL Y BWRDD, CORRIS.
YSGOL Y BWRDD, CORRIS. Dymunir hysbysu y bydd Dosbarth Ambulance yn cael ei gynal eto eleni yn yr ysgol uchod (ar wahan i'r ysgol nos), gan Dr. Rees, Mach- I ynlleth. Gwahod iir pawb sydd yn bwriadu ymuno i wnevd hvny nos lau nesaf, y 26am, am 8-30 o'r gioch.
BRONANT, CEREDIG-ION.I 7I
BRONANT, CEREDIG-ION. 7 HAELIONI.—Hydref 19 a 20, cadwyd cyfar- fod pregethu a jiwbili clirio y ddyled yn nghapel Bronant. Er's blwyddyn a haner yn ol, rhoddodd Dr. Rees, y gweinidog, a'i briod, 5op. yr un at ddileu dyled yr addoldy Casglodd yr eglwys a'r gymydogaeth yn haelionus ar eu cyfer, Yn yr amser yna, paentiwyd y capel, a rhoddodd y Dr. yn haelionus ato heblaw y rhoddion blaenorol, yr hyn sydd yn dangos fod ei galon yn y gwaith. Ar achlysur rhyddhad y capel o'r ddyled fawr oedd arno, pregethwyd nos lau gan y Parch., Dr. Rees, ac am 10 dydd Gwener gan y Parch. T. E. Roberts, Aberystwyth am 2 cynhaliwyd cyfarfod y jiwbili, ac yn yr hwyr pregethodd y Parch. T. E. Roberts. Siomwyd ni yn y Parch. Rees Morgan 0 herwydd afiechyc Cafwyd odfaon ilewyrchus a nerthol gan weision yr Arglwydd. Yr oedd lluniaeth i bawb o'r dieithriaid wedi ei ddarpar. Ein dymuniad fel eglwys a chymydogaeth yw i'r Dr. a'i briod hir oes yn ein plith.
BRAWDLYS CHWARTEROL MEIRION.
BRAWDLYS CHWARTEROL MEIRION. Cynhaliwyd yr uchod yn y Bala, ddydd Mawrth, gerbion Mr. W. R. M. Wynne. Ffug-Es,gusodion. -Cyh ud did Peter Davies (39), cyfrifydd, Blaenau Ffestiniog, 0 gael, ar y 14eg o Gorphenaf, y swm o ip 7s. 9c. gan un James Maitland, Home Farm, Maentwrog, sef arian oedd ddyledus fel cyflog i Kate Richards, Penygroes, Bethania, Ffestiniog. Taflwyd yr achos allan. Afieliadau.—Talbot Hotel, Dolgellau: Apel ydoedd hwn yn erbyn gwaith yr ynadoh yn gwrthod adnewyddu trwydded y gwesty uchod. Cadarnhawyd dyfarniad yr ynadon, a gwrthod- wyd y cais.—Gwernan Villa Hotel, Dolgellau: Gwrthodwyd y cais.-Henblas Inn, Abermaw Profwyd afreoleidd-dra yn yrbybudd a roddwyd i'r achwynydd, a chaniatawyd yr apel.-Crown Inn, Abermaw: Oblegid cyffelyb afreoleidd- dra, adnewyddwyd y drwydded. YPwyllgor Cadamhaol.—Presenol: Mr. W. R. M. Wynne (cadeirydd), Dr. E. Jones, Milwriad Evans Lloyd, Anrhyd. C. H. Wynn, Dr. Charles Willams, Mri.. W. J. Morris, Abermaw, J Jones, Ynysfor, W. Ffoulkes Jones, Corwen, E. Gillart Jones, Bala, T. Chidlaw Roberts, Towyn. Un cais yn unig oedd o flaen y pwyllgor, sef am gadarnhau gwaith mainc ynadol dosbarth Estimanar (Towyn), yn caniatau trwydded i Mr. Edward Morgan, Machynlleth, i werthu diodydd meddwol mewn gwesty a fwriada ei adeiladu yn nghymydogaeth Aberdyfi. Tystiwyd o blaid y drwydded gan Mr. E. Morgan, Mr. J. M. Howell, Cadben Enoch Lewis, Cadben Hill yn erbyn Mr. Edward Davies, Meredith Jones, W G. Evans, a J. Maethlon James, yr hwn a gyflwynodd benderfyniadau yn gwrth- wynebu, a chan y Parchn. Samuel Owen, Tanygrisiau; Thomas Lloyd, Ffestiniog; a John Williams, B.A., Dolgellau. Yr oedd saith 0 'blaid a thri yn erbyn cadarnhau y drwydded.
BWRDD PYSGOTA MEIRION.
BWRDD PYSGOTA MEIRION. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd uchod yn yr Abermaw, ddydd lau. Cadeirydd, Dr. John Jones, Cae'rffynon, Dolgellau.—JJai llenwyd adroddiadau ceidwaid yr afonydd Mr. R. Davies, Aberdyfi; Mr. D. Pritchard, Pwllheli; Mr. E. Evans.—Rhoddodd Mr. W. R. M. Wynne adroddiad am y Dysyni.- Deddf Newydd: Ar gynygiad Mr. Munro Edwards, yn cael ei gefnogi gan Mr. W. R. M. Wynne, pasiwyd y hys-law a ganlyn,— 'Fod i bob person a bysgota frithylliaid ;i gwialen mewn unrhyw afon neu ddyfroedd y ceir eogiaid ynddynt o fewn i ddosbarth y Bwrdd hwn i godi trwydded, os na bydd gan y person hwnw drwydded eisoes i bys- gota eogiaid, a bod y tal am y drwydded i fod yn Is. am y tymor neu ynte ran o hono.' Pasiwyd hi, wedi cael pob sicrwydd nad oedd a fyno a dyfroedd preifat nag a llynoedd nad oes ynddynt ond brithylliaid yn unig.
BRAWDLYS CEREDIGION.
BRAWDLYS CEREDIGION. Cynhaliwyd y llys ddydd lau, yn Llanbedr, gerbron Willis Bund, Ysw., ac ynadon eraill. Yn ei anerchiad i'r uchel-reithwyr, cyfeiriodd y Cadeirydd at y deddfau newydd basiwyd yn yr Senedd. Pan ar ganol ei anerchiad ataliwyd efgan Mr Henry Bonsall, Aberystwyth, blaenor yr uchel-reithwyr, yr hwn ddywedodd, Mae'r amser yn myned ymlaen, ac mae genym lawer o waith i'w wneyd. Ar ol aros tipyn, dywedodd y Cadeirydd, Byddai yn dda genyf pe byddech mor garedig a dal eich tafod.' Yna, ymhen ychydig, dywedodd drachefn, Nis gwn a ddylaswn eich dirwyo ai peidio am y sylw yna.' Cyhuddwyd E. Evans tafarnwr o Lanfihangel, o saethu un lo'r enw Wright. Bwriwyd rheithfarn o ddi-euog. Anfonwyd John E. Davies i garchar am chwe' mis, am ladrata dillad a thlysau gwerth 4op. o boxes Mr. Waterhouse, Tregaron, a Mrs. Holcroft, Birmingham, tra yr oedd y boxes yn cael eu cludo ar reilffyrdd y Cambrian.
Y MARCHNADOEDD.
Y MARCHNADOEDD. MARCHNAD YD LLUNDAIN, DYDP LLUN. Gwonith.-Dim ond cynulliad bychan, a thawel oedd y farchnad. Cyflenwad helaethach 6 wenith cartrefol, yr hwn oedd o Is. i ls. 6c. y chwarter is nag wythnos yn ol, ac yn bur araf. Gwenith tramor yn ddi alw, ac o 9c. i Is. rhatach; Blawd. —Blawd wedi gostwng o 6c. i Is. y sach. ffaidd. —Haidd at falu yn cadw ei brisiau i fyny yn dda. MASCHNADOSSD ANIFEILIAID. Llundain, Hydref 23. Gwartheg.—Yr oedd cryn lawer llai o wartheg yn y farchnad, ac anifeiliaid da yn brinion iawn, a'u prisiau yn gadarn. Defaid. Dim cymaint o ddefaid Down yn y farchnad. a chadwasant eu prisiau. Leicester, Hydref 21ain.—Cynulliad b, chan 0 brynwyr yn bresenol; ond yr oedd y cyflenwad o stoc yn helaeth. Gwartheg Cymreig yn cyraedd o 9p. i 12p. lOs. y pen bystych GwyddeJig, 13p. 10s., buchod llaeth 0 13p. 20p.
Advertising
MEDUYGTNiAETH OREU YR (YES. BITTERS uw EYANS. ITTSES (F • EVAN'S. gan Feddygon. Dadansoddwyr, a r v»yp; A chanmo: b" rvV wedi rlioddi prawf T'*ii Meddyginiaetii Bur, Lysieuol, Meddyginiastii Effeithiol, M^dd}'l'i?aeth'Lwyddianus, Meddyginiaeth oren yr oes: 1 yn 1 +xly • ••■ ■- G.aioi i> ttis li -11 yii Fed aumliris- r iadwyr, d. oddiwrth brof- iad Di > < c'd. t*-11 ,Ti, Fferylhvyr, Gweinicto^i m 1 1 (VL- o gleifion wedi <- \ef a. }> » x v 1 gini'aeth i1 1 L 1 dioddefWch mwyach oddiwrth y -do] uriau uchod, pan y ma.c Bleddyg- naturiol, syml ac effeithiol i'w chael. Y MAE YN RIIODDI NERTH PH, GWAN, IECHYD I'R CLAF, lilWYN HAD BYWYD I BAWB: a BITTKRS GWIT.YM EVANS. 1TTERS GWILYM EVANS. Tystiolaeth Bwysig. P,Ûe, Awst 17, 1895. Anwyl Syr,—Pan ddychwelais adref ychydig ddyddiau yn ol, ar ol Jlafurio vn galed fini rai wythuosau, t'eindwn yn Uuddedig dawn ac wedi llwyr ddiffygio, ac mewn aiigell zijii donic da; i'm hadgryfhau. Anogwyd ii i i-oddi prawf ar 'eich Quinine Bitters enwog. Gwnaethum liyny, a chefais ef yn hynod effeithiol. 'Mae yn rhoddi yni newydd ynof, ac yn bywiocau yr, ysbryd;, mewn gair, teimlaf ei fod yn gwneyd dyn new-ydd ohoafef. (Parch) Guanos-JoKE«i nrrrfE H S "OWILYM EVA Iffir BHYBUDD -^SL Gochelwch Dwyllwyr. Edrychwch fodfieijiw Gwilym Evans ar bob Label, Stamp a Phofel. Gwerthir'hwynt mewn poteli 2s. 9c. a-4s. 6c. yr titi Blychau yn cynwys tair potel 4s. 6c. am 12s. 6c. I'w cael ymhob man, neu- danfohir hwy yn rhad am y prisiau uchod yn ddiogel drwy y p-ost oddiwrth y perchenogion,— QUININE BITTERS MANUFACTURING COMPANY, LIMITED, F; ..1,. LLANELL Y, SOUTII WALES Goruchwyliwr yn America—g' Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth,-Penni 'r i FS'S • I, Ii,. J R. POWDER A t, w .1 )1. AT Y DWFR. ■ AT ALi^vrr. ■ t.' AY Y I, ED. J VuWYTHQ., Davies's florae Powder ydyw y pio^dion uioge'laf at -gadw 'Ceffylau mewn cyilwr'c £ &, ac. at godi Ceffylau fyddo wedi eu gweithio yn, ormodol, a thrwy hyny wedi myned i edrychyn salw eu gwedd. Argymhellir ef yn neillduol'-at wella y blewyn, at y ciwfr,, y cymalau, r anifail. yn ogystal a chodi ysbryd yr anifail. Nid oes dim Antimony ynddo, nac unrhyw gyfi'yr peryglus arall, ac y mae. yn ddiogel i anifail ymhob cyfiwr. Mewn Tins, is. yr un 10s. y dwsin. f (Telir cludiad Dwsin i unrhyw g-yfeiriad :ar dderbyniad Postal Order am 10s). i HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. CA,lBl{IlN FltAILW1\X!S. '1 o, BREWERS EXHIBITION, AlRiCULTURAL HAU, October 28th to November 3rd, 'o'i) POULTRY SHOW, CRYSTAL PALACE,, October 31st to November 3rd. Cn Monday, October 30th, 1899, cheap excursion tickets will be it-sued to LONDON, From Aberystwyth, Bow Street, .Llå'ri'fi.hàJigl, Bortli, *Ynyslas, 2 days tickets, n8.. 4 days tickets 16s. 6d. Glandovey, Machynlleth, 2 days tickets 10s. 6d., 4 days tickets 10s. 6d. ■ CArris, 2 days 10s. 6d., 4 days 17s. Carriages.;>ill run through to Loudon (Euston). Two Days 'Passengers return from. London fEustony at 9-45 p.m. on Tuetday,. October 31st. Four Days Passengers return froin. Xondon fEustony at 8-45 a.m. on Friday, NoVetdber 3rd. *Passengers for Ynyelas and Llanlihapgel, re- turning by the 9-45 p.m. ex EustOlli. must alight at Borth. All information regarding Excursion Trains and Tourist arrangements on the Cambrian "Railways can be obtained on application to it." W. H. Gough, Superintendent of the Line, Oswestry. C. S. DENNISS, General Manager. Y' c ("OD OD TEMPERANCE HOUSE#: gydag •wytlj.^o ystafelloevdi mev.n ..man .canolog a.^r- i.munol, yn Abeidyii. 'Y-mofyner ng lC.jfC,; Negesydd pifice^ Corns;.