Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
einiort i?r$lu?en.
einiort i?r$lu?en. COED YR HYDREF. Goed yr Hydref! Goed yr Hydref! 0 mor brydferth, 0 mor brudd Ydych heddyw ar ol dioddef Llwydrew'r nos a gwres y dydd; Ddoe yn wyrddlas yn ymledu, Mewn llawenydd at yr haul, Cyd-heiieiddio-eyd-addfedu- Cyd-ddiflanu mae eich dail; Ond gweddi yw, Gan ddynolryw, Goed yr Hydref, byddwch byw! Goed yr Hydref! dyna gwestiwn I fy Awen fud fy hun, Nid oes ganddi gau na byrdwn Anthem newydd—nac oes, un Penau'n britho, brigau'n gwywo, Gwaiau crwm a gwelw wedd, Sydd o'm liamgylch yn prysuro Tua gauaf oer y bedd. Ond diogel yw Daw dydd gwna Duw Goed yr Hydref eto'n fyw Mae Gwanwyn mawr yn d'od cyn hir, Ynawr y gauaf gaf, I buro awyr byd yn glir, I'r Gwanwyn ac i'r Haf; Cyn hir e' gwyd, Yn fil a myrdd, Y brigyn llwyd Yn ir a gwyrdd Awelon ddawnsiavit hyd y ddol, Ac ogledd Eden ddaw yn ol; Am hyn ffarwel, gyfeillion gwyw, Tudraw ymhell i'r gauaf gell Cawn eto fyw, cawn eto fyw, Mewn Gwaiiwyn gwell.
HANES DIFYRUS.
HANES DIFYRUS. GAN DR. D. REES, BRONANT. Yr oedd dau o weinidogion Eglwys Loegr yn byw yn y ddau blwyf nesaf at eu gilydd, yn Swydd Caerefro Yr oedd un yn dra chyf- oethog, a'r Hall yn riled dlawd. Byddai y tlawd yn cael benthyg arian gan y cyfoethog yn ami. Digwyddodd, oherwydd rhyw achos, i'r tlawd fyned oddicartref, ac anfonodd at ei frawd cyfoethog a wnai ef lanw ei le yn yr Eglwys am y Sabbath. Atebodd y gwnai, ac fe aeth. Gofynodd i'r clochydd ar ol dyfod yn ol, a oedd llawer yn y Llan y Sabbath yr oedd ef yn abser.ol ? Atebodd yntau fod amryw. Beth oedd testyn yr offeiriad ? Yn Mathew, xviii, 28, 'Tal i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.' Yna deallodd y tlawd gyfeiriad y bregeth, ond ni ddywedodd un gair. Ond ymhen pythefnos, digwyddodd i'r cyfoethog fyned oddicartref, a cheisiodd gan yr offeiriad tlawd lanw Sabbath yn yr Eglwys yn ei le ef. Fe aeth yntau. Wedi i'r gwr cyfoethog ddyfod adref, fe ofynodd i'r clochydd, Pa fodd y pregethodd fy ng-hymydog y Sul diweddaf?' 'Pur dda, Syr,' meddai y clochydd. Ymha le yr oedd ei destyn ? Yn Mathew, xviii, 29, Syr, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oil.' Pan glywodd y cyfoethog hyn, llanwyd ei galon o dosturi at ei frawd, ac fe ysgrifenodd lythyr tosturiol ato ei fod yn maddeu y cwbl iddo. Uyna y naill bregeth wedi dylanwadu ar y Hall i un gael maddeuant o'i ddyled, ond mae yn gwestiwn a fu neb arall yn well o'r ddwy.
AMERICA A'R PHILIPPINOS.
AMERICA A'R PHILIPPINOS. Flwyddyn yn ol, yr oedd yr holl fyd gwar- iddiedig a'i lygad ar y Weriniaeth American- aidd, pan oedd mewn rhyfel a Spaen; ac ni fu gwlad erioed yn cael ei hedmygu a'i chanmol gymaint a hi. Nid rhyw gywreinrwydd dall oedd yr achos o hyn ond yr amcan uchel oedd ganddi mewn golwg, sef rhyddhau mil- iynau o fodau dynol yn Cuba oddi tan orthrwm a chreulondeb Spaen waedlyd; a phan ddin- ystriodd allu Spaen a'i rhoddi i lawr yr oedd yr- holl fyd fel yn teimlo yn esmwyth am ychydig. Ond o ganol llawenydd hwn dyma wylofain eto. Pan oedd y Werin Americanaidd fel yn gorphwys ac yn cysgu ar ol eu buddugoliaeth, aeth penaethiaid y tu cefn iddynt i ymgyng- reino a hen elyn dynolryw, sef Spaen, am brynu ei rhyfel a'i gorthrwm yn y Philippinos! Pe buasai pobl y Philippine yn curo wrth eu drws am ganrif eisiau cael eu huno a'r Unol Dalaethau, mae debyg y buasent yn dweyd wrthynt nad oedd arnynt eu heisiau ond yn awr dyma'r penaethiaid heb eu cydsyniad wedi prynu yr holl ynysoedd hyn, ac yn groes i ewyllys eu trigolion. Nid oes ryfedd fod y bobl Americanaidd, a'r holl fyd gwareiddiedig, wedi colli eu dyddor- deb yn eu llywodraeth. Wedi codi baner rhyddid yn Cuba, dyma hwy yn codi baner waedlyd a gorthrwm yn y Philippines. Ceisir Tlioddi esgusawd dros hyn y bydd y Philippinos yn well allan dan faner Uncle Sam na than ei faner ei hun ond nid ydyw eu hanes gyda'r Indiaid a'r Negroaid yn cyfiawnhau y Philipp- mos i gredu hyn. Ond yr hyn sydd yn taflu ,g warth ar y cwbl ydyw eu bod wedi prynu eu gorthrwm yn gystal a'u gwlad, a rhaid iddynt ei roddi ar warau y Phillippinos tlawd Ar ol i'r Philippinos ymladd am eu rhyddid am ganrifoedd, a phan mewn effaith wedi ei enill, dyma y Weriniaeth fwyaf godidog yn y byd erioed yn neidio i fewn ac yn ei ladrata oddiarnynt Y fath gyfle gafodd y Weriniaeth Americanaidd i wneyd yr un peth a'r Philipp- inos ai? a wnaeth a'r Cubans A buas li holl oesoedd dyfodol y byd yn ei chanmol; baas .i brawdgarwch yn teyrnasu rhwng y ddwy wlad am byth, a gwareiddiad yu ei-iii llawer; ond yn Itejhytiy, nid ydyw y Philippines wedi eÍJill dim, ond yn hytrach wedi cael meistr mwy creulon, sef y bond holders, a gyfranodd y taliad am yr ynysoedd hyn.
AMRYWION.
AMRYWION. Yn ystod y ganrif bresenol, y mae dros 30,000,000 o ddynion wedi cael eu Iladd mewn rhyfeloedd yn unig. Yr ydym eisoes wedi gwario 5,000,000p. ar yr ymgyrch yn erbyn y Boriaid. Bydd yn rhyfel ddrudfawr, a dweyd y lleiaf. Mae y Parch. Abraham Roberts, Llundain, wedi cael gorchymyn i gymeryd blwyddyn o seibiant llwyr oherwydd sefyllfa ei iechyd. Telir ei gyflog gan ei eglwys. 0 Cynyrchwyd yn y Deyssas Gyfunol, yn ystod y flwyddyn 1898, 395 owns o aur. 0 bump mwnglawdd yn Sir Feirionydd y caed yr oil. Y flwyddyn flaenorol codwyd 2,032 owns. Bydd y ganrif bresenol yn terfynu Rhagfyr 31, 1900, fel nad oes yn aros o honi ond ychydig gyda blwyddyn eto, ac y mae yn myned allan o fodolaeth gyda rhyfeloedd a son am ryfeloedd. Mae symudiad ar droed i roi tysteb i Cranogwen. Gwnaed cais at Mr. Balfour am gyfran iddi o'r dsysorfa i lenorion. Awgrymodd yntau iddynt hwy wneyd rhywbeth yn gyntaf, a chai yntau weled wedi hyny. Eisoes yr ydym yn gorfod teimlo oddiwrtli effeithiau y rhyfel yn Neheubarth Affrica, yn y codiad sydd wedi cymeryd lie ar rai o angenrheidiau bywyd. A oes gwir reswm dios y codiad—yn enwedig ynglyna rhai nwyddau-sydd yn dra amheus. Ychydig o'r Aelodau Oymreig sy'n debyg o ddilyn Jingoyddiaeth Mri. Ellis Griffith a Brynmor Jones, tra y gall Mr. Bryn Roberts ddibynu ar gydolygiad Mri. Lloyd George, Herbert Roberts, Herbert Lewis, S. Smith, Humphreyb-Owen, S. Evans, W. Jones, ac un neu ddau eraill. Yn Nhy y Cyffredin ddydd Mercher, dar- llenodd y Llefarydd ddatganiad oddiwrth y Frenhines fod yn mwriad y Llywodraeth alw allan y Cartreflu ac ol-lilwyr y Cartreflu, gan fod amgylchiadau presenol yn Nehou- dir Affrica yn galw am wasanaeth milwrol ychwanegol. Bu y ddau fardd Seisnig, Swinburne a Kipling, yn melldigo y Boriaid ar gan trwy golofnau y Times yr w ythnos ddiweddaf; ond nid oes neb darned gwaeth. Mae gan Ragluniaeth rywbeth rheitiach i'w wneyd na gwrando ar regfeydd Swinburne a Kipling a'u dynwaredwyr llai. Y Parch. J. D. Jones, M.A. (mab y di- weddar Barch. J. D. Jones, Rhutbyn), gweinidog hen eglwys y Parch Oesian Davies, yn Bournemouth, oedd yr unig Gymro gymerodd ran yn nghyfarfodydd y Cyngor Annibynol Rhyngwladwriaethol gyn- haliwyd yn Boston, America, ychydig yn ol. Mawr y twrw a wnaeth y Llywodraeth hon pan ddaeth i awdurdod am yr Old Age Pension' yn enwedig gan Chamberlain; ond fel pob achos arall a gymerodd y dyn mawr mewn Haw, efe a fradychodd yr achos teilwng hwn hefyd. Ac y mae yn awr wedi taflu y wlad i ryfel a gyst fwy o filiwnau na thrysorfa i gynal hyn- o hen bobl deilwng y sydd o'i mewn. Yn yr ymraniad ar welliant Mr. Stanhope ar yr ateb i araeth y Frenhines, ni roes yr un aelod Cymreig ei lais dros y Llywodraeth. Rhoes Mr. Brynmor Jones ei lais yn erbyn cloi'r ddadl, ond nid aeth gyda'r Llywodraeth yn erbyn y gwelliant. Nid oedd Mr. Ellis Jones Griffith yn y Ty. Aeth Mr. 0. M. Edwards i fyny'n un swydd i gefnogi'r gwelliant. Dywedir fod Mri. Ellis, gwneuthurwyr soda water enwog Rhuthin, wedi derbyn archeb drum gan y Llywodraeth i yru canoedd os nad miloedd o gostrelau o'u dyfrodd i'r byddinoedd yn N eheudir Afhica. Mae cynydd sobrwydd yn mysg milwyr Prydaiu yn ystod y blynyddau diweddaf yn rhyfeddol. Oreadur sychedig a meddw erchyll oedd Tommy Atkins' er's talm. Mae y Parch. J. Owen, Wyddgrug, wedi addaw ysgrifenu cofiant i Daniel Gwen, awdwr Rhy» Lewis.' Cafodd Mr. Owen gyfleusdi-a eithi-iadol i adnabod Mr. Owen yn drwyadl yn ei flynyddoedd addfetaf, ac ar y cyfrif hwu w bydd i'r cofiant o ddydd- ordeb. Dywedir, hefyd, fod Isaac Foulkes, Liverpool, yn ysgrifenu cofiant. Mae y ddau awdwr mor wahanol fel nad oesberygl iddyftt ddyfod ar draws eu gilydd,
TRIDIAU YN LLANDRINDOD.
TRIDIAU YN LLANDRINDOD. GAN GLAN ALUN. ( Parhad.) Yn awr, nid wyf fi yn teimlo dim euog- rwydd am fy hyfder yn desgrifio fy nghwm- peini fel hyn; oblegid tra yr ydwyf fi yn dychmygu am danynt hwy, yr wyf yn sicr eu bod hwy oil wedi bod yn fy mesur ac yn ffurfio barn am danaf finau. Y mae un amgylchiad lied ffafriol i mi wedi digwydd gyda golwg ar hyn. Ti a wyddost mai rhyw olwg digon gwael a gwirion sydd arnaf fi mewn cymdeithas; ac felly nid wyf yn meddwl i mi wneyd argraff dda yn y byd ar y cwmni yma yn fy nyfodiad cyntaf atynt. Ond ar ol te, fe aeth amryw o'r dynion i roi tro, ac ymhlitli pethnu eraill, aethant i'r ystabl. Digwyddodd fod y ceffyl mawr genyf ar y daith hon, ac y mae golwg Iled fawreddog ar yr hen geffyl, yn enwedig yn yr ystabl. Beth bynag, ar ol deall mai myfi oedd perchenog y ceffyl mawr, yr oedd gwalianiaeth diamheuol yn y parch a delid i mi yn yr ystafell hou. 0 ran hyny, yr oedd y fath beth yn eithaf naturiol, oblegid, Dyn bychan, ceffyl bychan :-eeffyl mawr, dyn mawr. Y mae yr ymresyiniad yn eithaf amlwg, fel na raid i mi ymboeni i'w osod mewn eystrawen resymegyddawl,o dy flaen di, yr hwn wyt yn deall Euclid. Mae yn ffaith i mi esgyn amryw raddau mewn cymdeithas trwy offerynoliaeth yr hen geffyl trwy ftawd dda, ni ddarfu iddynt edrych ei ddanedd of. Mi welais mai wrth ymddangosiadau allanpl y bernid dynion yn myd bach Llan- drindod, yn gystal ag yn y byd mawr yn gyffredinol. Am wn i, nad oes rhyw deimlad heblaw parch yn eu meddianu tuag ataf erbyn hyn, wrth fy ngweled yn ysgrifenu cryn lawer. Nid oes yma neb yn ysgrifenu ond myfi. (Rhyfedd cyn lleied o lenyddion sydd yn y byd, ac yn enwedig yn Nghymru. Rhodder fod yma ddeg can' mil o drigolion — Cwest. Pa faint o I fodau deallawl' sydd yn hyny ? Pa un a wnawn, fy anwyl gar, ai dymuno colli eu hiaith i'r Cymry, ai colli gwybodaeth yn ei manteision mwyaf ? Y mae yn gyfyng arnaf benderfynu.) Bron na thebygaf fod tipyn o arswyd yn meddianu y bobl hyn wrth fy ngweled yn ysgrifenu cymaint, yn debyg i'r hyn a feddianai yr Ysgotiaid yn mliresenoldeb eu hysgrifenydd enwog pan ddywedodd y bardd wrthynt- There's ane amang ye takin' notes, An' faith, he ']I print 'em.' Y mae yn myd bach Llandriudod, fel yn yr holl fyd, ddwy neu dair o raddau o bobl. Y mae yr aristocracy yn y t' hwn, mewn ystafell briodol iddynt eu hunain. Nid ydym ni, y canolradd, yn gweled fawr o honynt hwy. Ond gwelais un o honynt yn cael myned drosto wrth brynu ceffyl. Tebygaf ei fod yn wr boneddig lied fawr wrth ei ym- ddangosiad a'i weision. Yr oedd wedi hoffi ceffyl yn perthyn i ryw wr ieuanc o ymwelydd yma, oedd yn yr ystabl; ac fe berswadiwyd y gwr ieuanc i werthu y march, gan ei fod yn cael cymaint mwy am dano nag a dalai. Rhyfedd gymaint o wahaniaeth oedd rhwng sylwadau rhyw rai a'r gwr ieuanc tu cefn, a'u sylwadau hwy ac yntau yn wyneb y gwr boneddig, mewn perthynas i'r ceffyl. Gellid meddwl bron, fod rhyw ystryw yn nghnawd ac esgryn ceffylau; prin erioed y gwelir un yn newid dwylaw, na bydd tipyn o dwyll, ryvr ochr neu gilydd. Y mae hi yr un fath yn Llandrindod. Da bod steam, neu rywbeth, yn dyfod i atal tipyn ar y fasnach demtas- iynaidd hon. Clywsom un arall o'r aristo- cracy yn y cwrt yn hwyr neithiwr, yn gwaeddi ac yn terfysgu fel un wedi haner gwallgofi. Erbyn ymofyn, both oedd (gyda galar y dyweder) ond gwr offeiriadol wedi meddwi! Mae yn deg dweyd, hefyd, i mi glywed fod yma offeiriad yn ddi weddar oedd yn mynu cadw addoliad bob dydd gyda'r holl deulu yma. Rhyfedd fel y mae eithafion yn cyd- gyfarfod, ie, yn myd bychan Llandrindod. (1 bat-hau).
DINAS MAWDDWY.
DINAS MAWDDWY. Y FEIBL GYMDFITIELAS.-Nos Wener di- weddaf, bu y Parch. William Williams, Rhostryfan, yn gosod hawliau y Gymdeithas uchod o flaen cynulleidfa weddol luosog yn y lie hwn a gwnaeth hyny mewn modd clir a chryf. Dangosodd y gwaith mawr a ben- dithiol a wnaed gan y Gymdeithas eisoes, a'r angen sydd arni am ein cymorth i gyflawni ei gwaith yn y dyfodol. Dyddorol a newydd oedd y dyfyniadau barddonol a gaed gan yr areithiwr yn ei anerchiad. Ar y diwedd, adioddodd nifer o benillion rhagorol o'i waith ei hun wedi eu hawgrymu gan y llinell I Beibl i bawb o bobl y byd.' Cymerwyd y gadair gan y Parch. Meirig Jones (W.), a chaed gair gan y Parchn. R. E. Davies (A.), a R. W. Jones (M.O.) Hefyd darllenwyd yr adroddiad blynyddol gan yr ysgrifenydd, Mr. H. P. Jones. Da genym ddeall fod y Dinas yn gwneyd ei lhan mor dda gyda'r Gymdeithes hon,
.-PENOD YR ENWOGIQN
PENOD YR ENWOGIQN YR ARLYWYDD KRUGER. Ei N EILLDUOLION. I lawer o bobl, nid oes ond un bersonoliaeth gref yn y Transvaal, un ewyllys oll-nerthol. Arwr neu filain, mae Paul Kruger yn gorphoriad o'r natur Boraidd, yr hwn y mae ei rym, ei brofiad, a'i fedrusrwydd yn rheoli gwladlywiaeth y Boriaid. Mae yn anmhosibl i ymwelwr am dro ddeall dirgelwch ei nerth, tra fu eistedda i bwffio mwg allan o'i bibell fawr, ac y tafla ei frawddegau anghysylltiol rhwng ei boeriad. Gofyna'r ymwelwr iddo ei hun, fel y disgwylia am ei Is-Ellmynaeg (nid yw Kruger yn siarad Saesneg). Pa fath ddyu ydyw hwn ? Pa un a'i gwladgarwr duwiol, milwr, heliwr, ffermwr, wedi cael ei yru gan amgylchiadau i swydd uchel yn y wladwr- iaeth, gan fabwysiadu cyfrwysder naturiol a bugeilaidd i'r amcan o amddiffyn ei wlad, yntQ hen ragrithiwr dicheligar sydd wedi gwneyd ei nyth yn glyd drwy bob dyfais mewn llwgrwobrwyaeth, ac sydd yn defn- yddio pob ystryw a thwyll i amddiffyn ei awdurdod, ac i'r amcan hwn yn defnyddio unig wir nwyd ei fywyd-casineb at y Saeson ? Mae y rhai hyny sydd wedi cymdeithasu llawer a'r hen ddyn am lawer o flynyddau yn gwahaniaethu yn ddirfawr yn eu syniadau am ei natur a'i allu gwleid- yddol; yn wir, mae y dirgelwch a berthyn iddo yn allu cryf yn ei ddylanwad. Yeh- ydig ddywed wrth ddieithriaid; ond ar adegau ymollynga yn rhydd i adrodd ei helyntion boreuol. Mae ynddo eto rym corphorol mawr; gyda'i lais a'i ymddang- osiad, lletha yr Wrthblaid yn y Senedd. Mewn siarad cyffredin os cyfyd ryw ddadl- euaeth, daw y dwrn mawr i lawr gan daro'r bwrdd yn ddychrynllyd. Ceir golygfa* eithriadol yn y Transvaal. Gwelir Kruger, gwladwr yr ail ganrif ar bymtheg, yn arwaidd o ddull, dan arweiniad llymder yr Hen Destament, yn gwynebu gwareiddiad diweddar cyfalwyr moethus ac anturiaethus Johannesburg. Nid ydyw yn rhyfedd fod Kruger yn edrych arnynt fel tramorwyr dichellgar a fynant trwy eu cais o estyniad yn yr etholfraint ddistrywio ei lywodraeth. Gellir dweyd fod hyny yn awgrymu fod Kruger yn wladwr syml a gonest, ond nis gellir osgoi y eyhuddiadau o lwgrwobrwyaeth a ddygir yn ei erbyn gan lawer nad ydynt yn wrthwynebol i'w wlad- lywiaeth gyffredinol. Mae rhai yn myned mor bell a dweyd ei fod yn barod i aberthu ei wlad, ar hyder derbyn manteision per- sonol gan Brydain, ar ol terfyn y rhyfel. Wedi gwrando ar dystiolaethau personau mwyaf cyfrifol a chredadwy, nis gellir dwyn barn condemniad yn erbyn ei anrhydedd personol. Mae'r cyhuddiadau yn gorphwys yn benaf ar y ffaith ei fod ef yn gyfoethog. Gellir yn hawdd esbonio ei gyfoeth, gan ei fod yn gyffredin yn mhlith llawer o'r dinasyddion blaenaf. Er engraifft, gwerthodd dro yn ol etifeddiaeth Geulid am 120,000p., yr hon ar unwaith a werthwyd wed'yn i gwmni am haner miliwn, ac y mae ei gwerth presenol rhwng dwy a thair miliwn o bunau. Mae Joubert, yr Is- lywydd, am yr hwn ni awgrymwyd gair yn erbyn ei anrhydedd yn llawer cyfoethocach na'r Arlywydd, ac wedi gwneyd ei arian mewn dull cyffelyb. Diau fod tuedd Kruger i roddi clog dros gyfeillion a dder- byniant lwgrwobrwy, a'r swyddi a rydd i'w berthynasau, yn naturiol wedi creu drwg- dybiaeth am gywirdeb personol. Ond ar ol i bersonau di-duedd wneyd yr ymchwil Ilwyraf, cant fod y cyfan yn gorphwys ar dybiaeth nad oes seiliau i'w brofi. (I barhau).
BORTH.
BORTH. Y GRAMAPHONE.-Nos Fercher, treuliodd aelodau Eglwys St. Matthew, ychydig oriau difyr mewn gwrando ar ganeuon, &c., drwy gyfrwng y gramaphone, a mwynhau golyg- feydd amrywiol drwy gyfrwng y Magic Lantern. Eglurid y darluniau gan y Parch. Tudor Evans. MARWOLAETH.—Dydd Llun, ar ol cystudd o ychydig ddyddiau, bu farw Mrs. Mary Roberts, Abergeldie House. Cymerodd y gladdedigaeth le dydd Gwener, yn mynwent Llanfihangel. Gadawa i alaru ar ei hoi un ferch.
PENNAL.
PENNAL. GWYL Y CYNHAUAF.—Cynhaliwyd gwyl y cynhauaf yn Eglwys y Plwyf, dydd Gwener. Pregethwyd gan y Parchn. R. J. Edwards, B.A., Corris, ac R. H. Hughes, Llanwrin. Yr oedd yn bresenol hefyd, Esgob Bangor, a'i gaplan, ynghyda Mr. A. 0. Evans, curad, Pennal. Oafwyd pregethu da, a chynull- iadau Iluosog.
-----------LLANYMAWDDWY.
LLANYMAWDDWY. LLAWENYDD PRIODASOL.-Dydd Mawrtb, y 17eg cyfisol, cadwyd dydd gwyl gan yr holl drigolion, ar yr achlysur o briodas Dr. Bradford, Llundain, a Miss May Roberts, Bryn Hall, Llanymawddwy. Rhoddodd Miss Roberts wledd ardderchog i holl blant yr ysgol, ag wed'yn i'r holl bobl drwy y gymydogaeth. Wedi i bawb gael ei digoni, treuliwyd y prydnawn yn llawen. Cafodd amryw baloons eu gollwng i'r awyr. Treuliwyd un o'r dyddiau mwyaf dedwydd, pawb yn mwynhau yr am- rywiol chwareuon ar y cae. Cafwyd anerch- iadau gan Mr. Williams, y goruchwyliwr, Parch. J. Jenkins, Mrs. Williams, a Miss Davies. Canwyd caneuon oedd wedi eu cyfansoddi at yr amgylchiad, gan Mr. Edmunds, yr ysgolfeistr. Rhanodd Mrs. Williams, Croesoswallt, a Miss Davies, Cilwern y wedding cake. Yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod gyda'r magic lantern, yr oedd y darluniau, dros gant mewn nifer, yn hynod o dda, a'r String Band yn chwareu. Cafwyd caneuon gan blant yr ysgol dan arweiniad Mr. Edmunds, a chan John P. Jones, a David Roberts. Nifer y rhai fu'n gwledda wrth y byrddau oedd 246. Gwasanaethwyd gan y boneddigesau canlynol: l Mrs. Williams, Croesoswallt; Miss Davies, Cilwern: Mrs. Davies, Palasau; Mrs. Pugh, r Cwm, Miss Pugh, eto; Miss Jones, Tynllech- wedd; Miss Jones, Coedcae Mrs. Jones, 1 Sun Inn, Mrs. Evans, Ty ucha', Miss Evans, eto; Miss Jones, Rectory; Mrs. Jones, Werngaer; Mrs. Davies, Troedyfoel; Miss Jones, Tynddol Mrs. Jones, Bryngeulan; Miss Evans, Ty canol Mrs. Rowlands, Bryn- dyfi; a Mrs. Jones, Minffordd. Teimlai pawb eu bod wedi cael un o'r dyddiau mwyaf dymunol yn eu hoes. Wedi rhoi I lwc dda i'r par ieuanc aeth pawb adref yn llawen.
ARTHOG.
ARTHOG. CYMRU FYDD.—Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf tymor y Gymdeithas uchod nos Sadwrn, pryd y cafwyd dadl ar Pa un ai cyfiawn ai anghyf- iawn y rhyfel presenol?' Agorwyd ar yr ochr gadarnhaol gan Mr. H. P. Roberts; a'r nacaol gan Mr. W. Lewis. Wedi dadl frwd, pasiwyd drwy fwyafrif benderfyniad yn con- demnio y rhyfel presenol fel un anghyfiawn. Y DDYNES NEWYDD.'—Dyna oedd testyn darlith y Parch. W. O. Jones, Aber, i gynull- iad lluosog, yn nghapel y Wesleyaid, nos Fercher. Fel y gallesid disgwyl, caed darlith lawn o ddyddordeb. Cadeiriwyd gan Mr. O. Williams, Abermaw.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Mr. MALDWYN HUMPRREysuMaeDr. Parry a'i gwmni, fel y gwyddis, yn awr yn cynal cyngherddau yn America ac un o'r owmni hwnw yw y dadganwr adnabyddus uchod. Mae newyddiaduron Utica yn gwneyd cyfeir- iadaucymeradwyol arbenig at ddadganiadau Mr. Maldwyn Humphreys, a'i fod yn hynod o boblogaidd yno. CYMDEITHAS LENYDDOL MAENOWYN.— Cyn- haliwyd cyfarfod y Gymdeithas uchod nos Lun, dan lywyddiaeth y Parch. W. S. Jones. Yn ystod y cyfarfod, darllenwyd papyr llafur- fawr a dyddorol ar Y Crynwyr,' gan Mr. H. H. Williams. AMBULANCE. Nos Lun, yn ngorsaf y Reilffordd, dan lywyddiaeth Mr. Morgan, gorsaf-feisti, cynhaliwyd cyfarfod ynglyn a'r uchod. Pasiwyd fod dosbarthiadau i'w cynal eleni eto; ac ail apwyntiwyd Dr. Williams yn ddarlithydd. Cynhelir y dos- barthiadau bob nos Fawrth. YR YSTRYDOEDD. Mae gweithwyr y Cyugor yn brysur y dyddiau hyn yn gosod kerb stones yn Heol Maengwyn. Bydd hyn yn welliant mawr, yn enwedig pe ceid rhyw gynllun eto i orfodi y masnachwyr i beidio gadael boxes allan, yn atalfa i bobl gerdded y pavement. Beth pe byddai y masnachwyr hyny sydd yn aelodau ar y Cyngor yn rhoddi esiampl i eraill yn y cyfeiriad hwn ? CYFARFOD PREGETHU.—Nos Fercher a dydd Iau, cynhaliodd y Bedyddwyr eu cyf- arfod pregethu blynyddol. Y gweinidogion fu yn gwasanaethu eleni oeddynt y Parchn. B. Humphreys, Felinfoel, ac Aaron Morgan, Blaenffos. Methodd y Parch. J. Griffiths, Rhymni, a bod yn bresenol oherwydd af- iechyd. Cafwyd cyfarfodydd llewyrchus, ae arddeliad ar y weinidogaeth. OLWYNO I'R AFoN.Dydd Iau, fel yr oedd Mr. J. T. Richards, teiliwr, Aberhosan, yn marchogaeth olwynfarch, eyfarfyddodd a damwain allasai fod yn un ddifrifol. Y mae troad sydyn yn y ffordd ger Pont-ar- Ddyfi; ac ymddengys nad oedd Richard* wedi cymeryd hyn i ystyriaeth, gan ei Idii yn gyru gyda chryn gyflymder, gyda'r can- lyniad i'r olwynfarch daro yn erbyn y bont, a'i daflu yntau bendramwnwgl i'r afon. Y syndod yw na dderbyniodd unrhyw niwed, gyda'r eithriad iddo gael ei wlychu. YNADON NicWYDDIOlf. Dydd Iau, yn Mrawdlys Chwarterol Maldwyn, a gynhftl- iwyd yn y Trallwm, I tyn-wyd i mewn' fel ynadon, y boneddigion a ganlyn: Mr.Richard Rees, C.S., Dr. A. 0. Davies. a Mr, Richar4 | GiUart,