Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Jlmen.
Jlmen. SIARADWCH Y DDWY. GAN CEIRIOG. Llewelyn bach tyr'd yma, Ac ar fy neulin dysga Iaith dy fam yn gyntaf un, Ac wed'yn iaith Victoria, Ac na boed mam yn Nghymru mwy 0 afon Gaer i afon Gwy, Heb siarad y ddwy, siaradwch y ddwy. Ac os bydd neb yn gofyn, P'run well gen' ti fy mhlentyn, Pa un ai'r Saesneg ai'r Gymraeg- D'wed tithau'r ddwy, Llewelyn. Ac na boed mam yn Nghymru mwy, &c. Ac os bydd neb yn holi, Pa un a fwyaf geri, Ai Cymro'r wlad ai Sais y dref, D'wed wrtho ef am dewi. Ac na boed mam yn Nghymru mwy, &c. Os gofyn neb, fy machgen, Pa le mae gwlad yr awen ? Ateba dithau yn ei glyw, Ei bod yn fyw drwy Brydain. Ac na boed mam yn Nghymru mwy, &c. Ac ar y delyn dysga Ar hyd y Nos' yn gynta', Ac yna dysg dy lais a'lh law I daraw Rule Britannia Ac na boed mam yn Nghymru mwy, &c. Wel dos i'r byd a llwydda, I anrhydeddu Gwalia; Dysg iaith dy fam yn gyntaf un, Ac wed'yn iaith Victoria. Ac na boed mam yn Nghymru mwy, 0 afon Gaer i afon Gwy, Heb siarad y ddwy—siaradwch y ddwy.
ADltAN Y MERCHED.
ADltAN Y MERCHED. CYFEILLGARWCH MERCH. Yr wyf yn sicr y dywed llawer dyn mai ei wraig yw y cyfaill goreu a fedd. Nid wyf yn golygu cyfeillgarwch teuluaidd tyner, nat- uriol gwr a gwraig, ond math arall o gyfeill- garwch tebyg i'r hwn sydd yn bodoli rhwng dau ddyn sydd yn gyfeillion pur megis parch i'w gymeriad, ymddiriedaeth yn ei ddoethineb, mwynhad pan gaiff ganmoliaeth. Yr wyf yn mentro dweyd mai dyna y priodasau dedwyddaf sef y rhai y mae yr elfen olaf o gyfeillgarwch yn helaeth ynddynt. Ni byddaf yn fynych yn siarad ar faterion o'r fath yma, eto credaf, mai cyfeillgarwch uwchraddol yw dedwyddwch penaf bywyd, yn nesaf i ras Duw. Mentraf roddi cyngor fel hyn :—Pan yn edrych am un i gyd-fwynhau eich aelwyd, chwiliwch am un fydd, nid yn unig yn wraig i chwi am eich oes, ond hefyd yn gyfaill doeth, ffyddlon, un y gellwch bob amser lwyr ymddiried ynddi. Y gwir yw, ni eUir darllen bywgraffiad i unrhyw ddyn mawr a da yn yr oesau hyn, heb weled fod prif gyfoeth, a dyddanwch ei fywyd wedi ei dderbyn trwy gyfeillgarwch a merched da.Dr Stalker
TORWR LLESTRI.
TORWR LLESTRI. Gofynir i'r wlad dalu cryn swm am lestri a dorir yn Swyddfa y Trefedigaethau, er pan ddaeth Mr. Chamberlain i feddiant o honi. Lie mae llawer o frys fe dorir llawer o lestri pridd, ac yn awr am y waith gyntaf gofynir i'r wlad dalu deg swllt yr wythnos tuag at gyflenwi rhai cyfan yn lie y lhai a dorwyd. Gyda dyn fel Mr. Chamberlain dylasent fod wedi eu gwneyd o india rubber. Mae nifer y swyddogion wedi cynyddu er's pedair blynedd o 75 i 107, a'u cyflogau o 35,000p. i 42,000p.
Undeb Ysgolion Sul Annibynwyr…
Undeb Ysgolion Sul Annibynwyr Corris a'r Cylch. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol yr undeb uchod yn Bethel, Corris Uchaf, Sabbath, Hydref 8. am 2 a 6 o'r gloch. Llywyddwyd y cyfarfod- ydd gan Mr. Walter Davies, Aberllefenni Dechreuwyd cyfarfod 2 o'r gloch, gan Mr. W. O. Davies, Hengae. Wedi cael gair gan y llywydd, holwyd y dosbarth ieuengaf gan Mr. W. O. Davies, o'r Fam a't Plentyn, vi. Yna holwyd y dosbarth dan i6eg oed gan Mr. J. Lloyd (ieu.), yn absenoldeb holwr o'r Taber- nacl, yn Hanes y Tabernacl,' Exodus, xxvi. Dilynwyd hyn gan Mr. Walter Davies yn holi y dosbarth dan 2iain oed, oddiar Luc, xviii. Am 5 o'r gloch, cynhaliwyd pwyllgor, pryd y pasivvyd fod y gwahanol ddosbarthiadau i symud ymlaen gyda'r un maes llafur; a bod y Cyfarfod Ysgol nesaf i'w gynal yn Tabernacl, Esgairgeiliog. Am 6 o'r gloch, dechreuwyd gan Mr. R. W. Jones, A.T.S. Holwyd y dosbarth hynaf gan Mr. Thomas Williams, Salem, oddiar i Pedr, ii. Areithiwyd gan Mri. iohn Lewis, Hengae, a Thomas Davies, iethesda. Cafwyd cyfarfodydd hynod ddym- unol.
LLANERFYL.
LLANERFYL. PRIODAS.—Dydd Sadwrn, yn Eglwys St. Erfyl, unwyd mewn glan briodas Mr. E. O. Jones, Park, Llangadfan, a Mair, merci. iiynaf Mr. J. Jones, Penffriddnewydd. Deibyniodd y pir ieuanc luaws mawr o anrhegion gwerthfawr. TE PARTI.- Vr wythnes ddiweddaf, eafodd y plant ynghyd ag eraill perthynol i gapel y Wesleyaid wledd o d6 a theisenau gan y felafnoriaid,
AMRYWION.
AMRYWION. Daeth rhifyn cyntaf Cofiant Dr. Lewis Edwards, Bala, allan o'r wasg. O'r diwedd, y mae gobaith am i Ramadeg Cymraeg y Proff. J. Morris Jones weled goleuni dydd. Dydd Mercher, bu Cor Merched Cymru yn canu o flaen Castell Penarlag, er mwynhad mawr i Mrs. Gladstone. Ymadawodd yr Isgapten John Vaughan, Nannau, o'r wlad hon am Naples, i brynu pum' mil o fulod at ryfel y Transvaal. Ymhlith y rhai a ymfudasant i'r Transvaal, y mae dro3 ugain o honynt yn filiwnwyr. A oes un miliwnydd yn Nghymru ? Mae Dr. Zimmer, y dysgawdwr German- aidd, yn hoffi Cymru'n fawr. Bu'n tario ysbaid wrth odreuon y Wyddfa, ae y mae'n awr yn Llandyssul. Galwyd eto am 2p. 10s. y gyfran gan gyfranddalwyr anffodus y National Bank of Wales. Y maent yn gyfrifol am 5p. arall os bydd achos yn galw. Hysbysir fod senedd Prifysgol Yale, America, wedi cyflwyno'r radd anrhydeddus o D.D. i'r Parch. Aaron Davies, Pontlotyn, am ei wasanaeth maith yn y weinidogaeth a chydag addysg. Hysbysir y cymer priodas le ar; fyrder rhwng y Parch. J. E. Hughes, M.A., gweinidog eglwys Methodistiaid Siloh, Caer- narfon, a Miss Lily Davies, Cwrtmawr, chwaer Mrs. T. E. Ellis. Cynhaliwyd cyfarfod gan y Cymry, yn Nhref y Penrhyn, Affrica, i'r amcan o anfon corphlu Cymreig yn erbyn y Boriaid. Tra chwithyg yw gweled brodorion gwlad Llew- elyn a Glyndwr. yn pleidio gorthrwm y Sais. Cyrhaeddodd Mr. Lloyd-George, A.S., ynghyd a'r Mri. Llewelyn Williams, a W. J. Reee, iLerpwl dydd Llun, gyda'r 'Bavarian.' Aeth Mr. Lloyd-George rhag ei flaen i Llundain. Bwriada feirniadu polisi'r Llyw. odraeth yn Affrica yn llym yn y Senedd. Dydd Mawrth, cyflwynodd eglwys Tyn- ybont, lestri te arian a phwrs llawn i'r Parch. Talwyn Phillips, Bala, ar achlysur ei briodas. Mr. John Parry, U.H., oedd yn y gadair, a bu'r beirdd a'r cantorion yn llon- gyfareh y par dedwydd gyda hwyl. Mae gwr du y wasg yn dweyd pethau smala weituiau. Dyma baragraph o bapyr lleol:—' Ffordd y Ddol—Fel un o'r treth- dalwyr, dymunwn alw sylw yr arolygydd at gyflwr anfoddhaol y ffordd hon. Bron nas gellir dweyd ei bod wedi myned yn rhy fudr i'w thramgwyddo.' Hoff waith y sawl sydd dda ganddynt ryfel y dyddiau hyn ydyw pardduo y Boriaid, a phriodoli iddynt y gweithredoedd mwyaf ellyllaidd. Nid yw degfed ran yr hyn a ddywedir yn y papyrau melynion, fol y gelwir y newyddiaduron rhyfelgar, yn wir; ac y mae ambell bapyr yn ddigon haner gonest i wadu'r chwedl anwir dranoeth ar ol ei dywedyd. Hyd yn hyn, ni wnaeth y Boriaid ddim ond a wnai unrhyw bobl tan orfod i amddiffyn [eu llywodraeth rhag di- fodiant. Cashau'r luddewon wna'r ethnic oherwydd eu gallu i drin y byd, medd Mark Twain, nid oherwydd eu crefydd na'u tvyll. Cywir ydynt yn eu masnach, sobr a diwyd o fuchedd, a chryfed ydynt o feddwl nas gall ond un genedl eu gwithsefyll, sef yr Ysgotiaid. Pe bernid galluoedd cynhenid cenhedloedd yn ol safon Mark Twain, elai ynyswyr L%l alta a'r maen i'r wal yn eithaf rhwydd. Wele farn rhai hyddysg yn y pwnc :—Rhaid cael dau Roegwr i dwyllo Iuddew, dau Iuddew i dwyllo Armeniad, a dau Armeniad i dwyllo Maltiad. Mae'n anhawdd i undyn gredu y buasai Lloegr yn awr ar fin rhyfel a'r Transvaal, oni bai mai Mr. Chambedain ydyw Ysgrif- enydd y Trefedigaethau, ac mai yn ei law ef y bu y drafodaeth sydd ar gael ei phenderfynu mewn dull mor drychinebus, Fe gydnebydd pawb ei allu ond nid gallu y gwladweinydd doeth a hirben mohono. Mae'n coleddu syniadau rhy uchel am dano ei hun i fod yn ddadleuydd Ilwyddianus mae'n falelt a bygythiol pan y dylai fod yn ostyngedig a mwyn yn Ilusgo yn lie denu yn arglwyddaidd a thrahaus. Dyn anwadal a throfaus yn ei fywyd cyhoeddus a fu ac ydyw.
HYDREF.
HYDREF. Ar ol y gwlaw a'r oerni, mor dda ydyw cael y fraint o roesawu yr Hydref gogon- eddus sydd wedi talu ymweliad a ni. Mae megis ail haf, a gobeithiwn yr erys gyda ni am ysbaid, achos fe ddaw y gogledd-wynt iasol a'r eira man ar ei aden yn ddigon buan wed'yn. Yn awr, y mae y coed a'r gwrychoedd wedi diosg o'u gwyrddleni, a'r dillad euraidd, amryliw, wedi eu dodi yn eu lie. Prydferthach, os yr un, i'r llygaid ydyw amrywiaeth mantell yr hydref na gwerddwisg y gwanwyn, ond yn unig- fod ei hymyl wedi ei addurno a brodwaith y gauaf.
ABERLLEFENNI.
ABERLLEFENNI. DIRWEST.-Nos Fercher, dechreuwyd ar gyfres cyfarfodydd dirvvestol y gauaf, trwy gynal cyfeillach undebol ddirwestol, yn nghapel yr Annibynwyr. Llywyddwyd gan Mr. Lewis Evans. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. J. Hughes, Bluemaris. Y mater i ymddiddan arno ydoedd Ffydd- londeb i'r cyfarfodydd dirwestol, ac i ddir- west.' Agorwyd y mater gan Mr. H. Jones, (Llefenni). Siaradwyd yn mhellach gan y rhai canlynol, Mri. R. Jones, Tycapel, H. Jones, Foelfriog, E. Hughes, Pensarn, a M. Morgans, Ratgoed. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. J. Evans. Caed cyfeillach ddymunol, a chyuulliad lied dda wedi d'od ynghyd ar y cyfan. Cafwyd Pwyllgor ar ol y gyfeillacli, pryd y pasiwyd yn 1, Fod y Parch. H. W. Parry, a'r Parch. J. J. Evans, i gynal y cyfarfod nesaf, nos Luti, Hydref 23. 2, Dewiswyd y personau canlynol yn bwyllgor gweithiol, i drefnu rhaglen ar gyfer y tymor, Mri. L. Evans, J. Griffiths, Walter Davies, J. R. Evans, H. Jones, (Llefenni), Parchn. H. W. Parry, a J. J. Evans.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. ANRHEGIAD. Dydd Iau, yn Ysgol y Bwrdd, cyflwynwyd pwrs yn cynwys swm sylweddol o arian, wedi eu cyfranu gan blant yr ysgol, fel arwydd o'u dymuniadau da, i Miss Harriet Williams, ar ei hymadawiad i'r Coleg. CYFARFODYDD PREGETHU.—Nos Fawrth a dydd Mercher, cynhaliodd yr Annibynwyr eu cyfarfodydd pregethu blynyddol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. R. Thomas, Glandwr, ac E. Rees, Alltwen. Yr oedd y cynulliadau ynlluosog, a'r weinidogaeth dan arddeliad. TAN.—Boreu dydd Mawrth, torodd tan allan yn Swyddfa y Dysgedydd. Yn ffodus gwelwyd ef mewn pryd, a thrwy ymdrech y frigad dan, dan arolygiaeth fedrus Cadben J. Griffith, llwyddwyd i atal yr elfen ddin- ystriol, cyn i lawer o niwaid gael ei wneyd.
ABERMAW.
ABERMAW. Y LLYFRGELL NEWYDD.—Mae y Pwvlleor y symudiad er cael llyfrgell newydd yma wedi anfon allan y dyddiau diweddaf yma gylchlythyrau yn cynwys apel am danys- grifiadau, a hyderwn y rhoddir cefnogaeth gyffredinol a sylweddol i'r cais. CYFARFODYDD PREGETHU.—Nos Fawrth a dydd Mercher, cynhaliwyd cyfarfodydd pre- gethu blynyddol y Bedyddwyr. Y gweision fu yn gweini eleni oeddynt y Parchn. Moses Roberts, ac Owen Davies, D.D., Caernarfon. Yr oedd tyrfaoedd yn gwrando ac I arogl esmwyth ar yr holl wasanaeth. BWRDD YSGOL.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd uchod, dan lywyddiaeth Mr. L. Evans. Apwyntiwyd Miss M. J. Jones, Tyddyndu, yn atrawes i Ysgol Cwmnantcol, am gyflog o 4op. y flwyddyn.-Oedwyd ystyriaeth o gais Mr. R. Griffith, Dyffryn, am godiad yn ei gyflog.- Pasiwyd fod Ysgolion Nos i'w cynal eleni, a bod gofal y cyfryw i fod ar Miss Williams, a Mr. T. G. Jones, Abermaw.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. APWYNTIAD. Mae Mr. R. J. Thomas, diweddar o'r North and South Wales Bank, wedi ymadael oddiyma dydd Mercher di- weddaf, am Trefaldwyn. Yn ystod tair blynedd o arhosiad yn Aberystwyth, ffurfiodd Mr. Thomas gylch eang o gyfeillion. ADELLADU. Adeiledir nifer o dai ar fyrder yn Llanbadarn Road, i Mr. J. E. Evans, Llundain. Y mae y gwaith wedi ei osod i Mr. D. Edwaids, Trefechan, am y swm o 2,000p. Mae cryn lawer ;o adeiladu yn myned ymlaen ar hyn o bryd yn ngwahanol ranau y dref.
ABERDYFI.
ABERDYFI. ST. JOHN'S AMBULANCE.—Dywedir fod hen aelodau y dosbarth uchod yn awyddus am gael dosbarth eleni eto, ac y gwneir trefn- iadau yn fuan bellach tuag at gael un. SEFYDLIAD.—Nos Lun, cynhaliwyd cyfar- fod sefydlu y Parch. J. D. Jones, yn wein- idog ar eglwysi y M.C., yn y dref. Cyn- rychiolid y Cyfarfod Misol gan y Parchn. R. J. Williams, a Mr. R. Jones, Ffestiniog. Croesawyd Mr. Jones i'r lie ar ran yr eglwyti, gan ddau o'r blaenoriaid. Cafwyd cyfarfod buddiol; a hyderwn y bydd yr undeb yn un dedwydd a hir-barhaol.
iTRIDIAU YN LLANDRINDOD.
TRIDIAU YN LLANDRINDOD. GAN GLAN ALUN. (Pay-had) Un arall go amlwg ytna, sydd bladros o wraig weddw, eiriol dros ben; a golwg gomfforddus ac annibynol ami; y mae hi yn o rydd ar ei thafod yr oedd yn hawdd gweled ei bod yn un o sefyllfa dda, a chanddi nyth clyd iawn yn rhywle; yn wir, yr oedd hi yn rhoi mwy na liauer amneidiau o hyn yn awr a phryd arall yn ei hym- ddiddanion. Yr oedd y fenyw hon yn ymddiddan llawer gyda gwr boneddig oed- ranus oedd yma, a golwg lied isel arno. Dyn cyfeillgar, tirion, a hynaws oedd ond Ow yr oedd yn gaethwas i feddwdod. Yr oedd maluriad meddwdod yn amlwg yn ei gorff; gwelid arno, nid y tewder chwydd- edig afiach sydd yn dilyn. hir anghymedrol- deb mewn diodydd brag, ond y teneuder afiach a'r wyneb salw llinorog sydd yn dilyn hir feddwdod ar y diodydd poethion. Au- hapus wr nid allai hwn gyfnewid gair a neb y boreu nes cael ei wydriad o frandi, a gwydiiaid yn awr a phryd arall trwy'r dydd (heb lwyrfeddwi), i gadw y gwres dynwar- edol (artifical) yn ei waed; a bywyd a sirioldeb ffuantus yn ei gyfansoddiad. Ac eto nid oedd yr un callach nag ef yn y cwmpeini, na neb mor dyner a mwyngar. Oeh fi na foddlonai anghymedroldeb ar yr anifeilaidd o ddynolryw, yn lie ymorchestu i ddymchwelyd y galluoedd disgleiriaf, ac i ddifuddio y teimladau mwyaf coethedig yn mhlith dynion Ar ol dinystrio ei gorff a diodydd an-naturiol, y mae yr auffodLi.3 hwn wedi dyfod i dreio beth a wna'r dwfr at feddyginiaethu'r drwg. Ond ysywaeth! mae arnaf ofn ei bod yn too late.' Yr wyf yn ofni dy flino a manylrwydd gormodol. Ni wnaf ond enwi un cararcter arall sydd yma, sef gwr oddeutu deugain oed. Y mae rhywbeth yn llednais iawn yn perthyn i'r dynsawd hwn. Mae yn bur lan a manwl yn ei wisgiad, yn drefnus a rheol- aidd ei weithrediadau, yn troi allan bob tro fel o'r band box; ei het yn llyfn, ei fenyg yn lan, a'i umbrella bob amser yn ei law, wedi ei gau i fyny yn dyn a chryno. Ond nid yw fel y puppy yn ei drefnusrwydd, sef yn ymhongar a hyf ond y mae yn wylaidd ac ofnus; a gormod gorchest iddo edrych yn llygaid neb wrth siarad a hwynt. Y mae y rhai sydd yma er's peth amser wedi myned yn lied hyf ar eu gilydd, a rywfodd y maent wedi cael allan mai hen lane yw y gwr hwn, a mynych yw y digrif eiriau (Joke8) a basir ar ei draul ef. Y mae y wraig weddw yn enwedig yn o galed arno oblegid ei hen lancedigaeth. Yn wir nid oes genyf fawr o bity drosto. Am hen ferch, nid wyf yn ys- tyried yn ddynol cellwair a'i hunigedd ond am hen lane, y mae rhyw radd o euogrwydd gweithredol ynglyn a'i neillduolrwvdd axie-- hysmus ef ac am hyny, y mae yn nod teg i dipyn o wawdiad diniwed. Y mae llawer rhywogaeth o greadigaeth wedi eu creu i ymgyplu heblaw dynolryw, ac y mae y cyfan sydd wedi eu trefnu i gyplysu yn y byd direswm yn gwneuthur hyny. Nid wyf yn deall fod dim hen lanctau yn y greadigaeth ddireswm—Hen lane o aderyn y to hen lane o golomen! hen lane o lew y mae natur yn cyffroi rhag y fath syniad. A chan fod yr hen lane mewn ystad annaturiol wirfoddol, y mae yn naturiol chwerthin tipyn am ei ben. Gyda y rhai hyn, y mae yma amryw o ffermwyr sylweddol yr olwg arnynt, ynghyd a' u gwragedd; ond gan fod y tylwyth hwn oil mor hynod am yr hyn sydd ynddynt yn debyg i'w gilydd, ac am yr hyn sydd ynddynt yn anhebyg i eraill, nis darluniaf hwynt. 9 (I barhau).
DROS Y WERYDD.
DROS Y WERYDD. MARWOLAETHAU.—Medi 25, yn Vaughns- ville, 0.. Mary, priod y brawd John Whittington (loan Cadfarch), gynt o Towyn, Meirionydd Genedigol ydoedd efe o Benegoes, gerllaw Machynlleth. Ganwyd Mary yn Ty'n yr Efel, Abergynolwyn. Bu ei rheini wedi hyny yn byw yn Ty'nyberth, Corris. Ond yn Towyn y bu hi a'i phnod yn trigianu am flynyddau lawer, hyd y flwyddyn 1885, pryd yr ymfudasant i America, ac ymsefydlasant yn Racine, Wis yna yn Venedocia, O., ac wed'yn i'r lie uchod. Ni chafodd y chwaer ond ychydig ddyddiau o gystudd. Yr oedd yn 63 mlwydd oed. Gwein- yddwyd yn yr angladd gan y Parch. E. Roberts, Venedocia, a'r Parch. William M. Davies, Slatington, Pa.—Awst 27, yn ei gartref, yn Bangor, Pa., Thomas Humphreys, yn 31 oed, o'r darfodedigaeth. Mab ydoedd i David ac Elizabeth Humphreys. Ymfudodd y teulu i'r lie hwn o Machynlleth, tua 1871. Gadawodd ar ei ol weddw a merch yn faban bach tad a mam, dwy chwaer a brawd mewn tristwch.- Medi 13, yn Emporia, Kansas, yn 20 mlwydd oed, Mary Jones, merch D. C. Jones, gynt o Garno, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn dair bIwydd a haner oed pan y daeth i'r wlad hon, yn un 0 deulu o bedwar. Ymae y fam wedi blaenu er's blynyddau, ac, un ferch feehan. Teimla Mr. a Mrs. Jones a'r plant fod yna dy gwlg ar ei hol- Y Drych, J
RHWYDO Y DDYFI.
RHWYDO Y DDYFI. YMCTIWILIAD SWYDDOGOL. Dydd Mercher, yn y Neuadd Drefol, Mach- ynlleth, cynhaliwyd ymchwiliad o flaen Mr. Archer, prif arolygydd v pysgodfeydd, i gais Bwrdd Gwarchodwyr Dyn, Mawddach, a Glaslyn, am fwyhau magi rhwyd Clwb Afon Dyfi 0 2 fodfedd i 2 modfedd. Rhwydir yr afon gan y Clwb hwn mewn chwech o lynoedd uwchlaw pont Glandyfi, a He y cyrhaedda y llanw. Rhoddwyd tystiolaethau gan Mr. H. Bonsall, Cadeirydd y Bwrdd Cui. Norton, Mr. J. H. Bullock, Mr E. Buckley, a Mr M. Thomas. Ymddangosodd Mr. W. R. Davies dros y Bwrdd. Dywedwyd fod gleisiaid o ychydig bwysau yn cael eu dal megis mewn trap yn y rhwyd hon, yr hyn oedd yn niweidiol i gadwraeth gleisiaid yn yr afon y dylai mesur o amddiffyniad gael ei roddi i'r pysgod i ddianc y rhwyd fod prinder y pysgod yn atal ymwelwyr i ddyfod i bysgota a gwiail, ac felly yn golled i letywyr ac eraill ar y glanau; fod yn annheg a. physgotwyr rhan isaf yr afon lie y mae yr afon yn llydan, i'r rhwyd hon gael ei thynu yn y llynoedd; nad oedd Machynlleth yn cael pysgod ar werth, ac yn rhad, fel yr honid, gan fod y Clwb yn rhoddi y flaenoriaeth i ddieithriaid a chyfeillion o flaen pobl y dref mai ar ol i dymor y rhwydo fyned drosodd y byddai mwyaf o bysgod yn rhanau uchaf yr afon, ac mai nid herw-bysgota oedd yr achos o brinder presenol y gleisiaid. 0 du Clwb y Dyfi, tystiolaethodd Mr. R. Gillart, Mr. W., R. M. Wynne, Col. Hughes, Mr. S. Phelps, amryw o'r ceidwaid, &c. Ym- ddangosodd Mr. M. Woosnam dros y Clwb. Dywedwyd gan y tystion fod gystal dal y pysgod yn y rhwyd a gadael iddynt fyned i gael eu herw-bysgota ar ol iddynt esgyn yr afonydd; amryw o'r llynoedd nas gellid o herwydd anfanteision eu rhwydo yn dda; fod cyflawnder o'r gleisiaid yr haf hwn yn y Dyfi uwchlaw y llynoedd a rwydir, er yn Ilai nag a welwyd y blynyddau blaenorol; mai Clwb y Dyfi oedd yn gwneyd fwyaf er cadwriaeth yr afon y byddai mwyhau maglau yr holl rwydi i Aberdyfi yn lies fod niwed mawr wedi cael ei wneyd gan y rhwydo islaw pont Glandyfi. Gwnaed ymchwiliad hefyd i gynygiad Bwrdd y Gwarchodwyr dros godi trwydded pysgota gyda gwialen am y tymor 0 10s. i ip. Gad- ewid pris trwyddedau am lai na'r tymor fel y maent. Rhoddwyd tystiolaeth yn erbyn gan Mr. Edmund Gillart, yr hwn a gyflwynodd ddeiseb oddiwrth 16 0 bersonau, yn cynwys meddygon, cyfreithwyr, gwestywyr, a'r cyhoedd —Mr. John Thomas a roddodd adroddiad o nifer y trwyddedau a gymerwyd, a dywedodd nad oedd pobl Machynlleth yn cwyno am y prisiau, Bydd i'r Dirprwywr anfon ei adroddiad a'i argymhelliad i Fwrdd Masnach. Yn ol tystiolaethau pleidwyr Clwb y Dyfi, ihoddwyd y pwys mwyaf ar niwed yr herw- bysgota yn y Dyfi a'i changhenau, honid mai dyna'r prif achos o brinder y pysgod. Dywed. odd y ceidwaid fod hyn yn gyffredinol yn y gauaf. Moent yn arfer dweyd hyny, fel nas gallant bellach ddysgu dim yn amgen. Nid yw hyny yn rhoddi llawer a glod iddynt hwy, gan mai anaml y dygant eu tystiolaethau o flaen y llys ynadol. Dywedwn fod y fath .haeriad yn yslander ar y dosbarth gweithiol. Y poachers mawr yw y gwyr mawr, ac nid yw rhwyd Clwb y Dyfi yn ddim ond ffurf gyfreithio] o boachio gan wyr mawr y dref a'r cylch. Gallesid cryfhau y cais pe buasai tystiol- aethau wedi eu rhoidi o'i blaid gan rai o drigolion Machynlleth. Yr oedd y symudiad hwn wedi cychwyn o benderfyniad y Cyngor Trefol a anfonwyd i Fwrdd y Gwarchodwyr, er budd lletywyr a masnachwyr y dref. Ond, wele, er syndod, nid ymddangosodd yr un tyst, dros y Cyngor na'r dref, er mai iddynt hwy y buasai y fantais 0 fwyhau magi y rhwyd sydd wedi bod yn achos 0 gymaint 0 chwerwder ar hyd y blynyddau. Y mae ar y dref angen am ryw ysgydwad a'i deffry i fywyd cyhoeddus, Darfydded yr eiddigedd at eu gilydd sydd yn mynwesau yr arweinwyr. Gadawer i ni gael mwy o waith a llai 0 siarad ganddynt. Pe gwybuasid yn flaenorol am anffyddIondeb Machynlleth gyda'r ymchwiliad, gallasai y diwygwyr ddarpar llawer gwell achos o flaen y Dirprwywr.
LLWYNGWRIL.
LLWYNGWRIL. CYFARFOD PREGETHU.-N os Lun a dydd Mawrth, cynhaliwyd cyfarfod pregethu blyn- yddol capel Saron, M.C., pryd y pregethwyd gan y Parchn D, Lloyd Jones, Llandinam, Evan Jones, Caernarfon, ac Evan Roberts, Dolgellau. Yr oedd arddeliad amlwg ar y weinidogaeth. DAMWAIN.—Nos Sadwrn, cafodd geneth fechan chwe' mlwydd oed i Mr. Jones, Gorsaf- feistr, Arthog, ei niweidio yn drwm. Ym- ddengys iddi yn absenoldeb ei mam, fyned i chwareu a'r tecell, cynwys pa un oedd yn ferwedig, yr hwn a drodd am ei phen. Llosgwyd hi yn ei gwyneb a'i breichiau. Deallwn ei bod er hyny yn gwella yn dda dan ofal Dr. H Jones, Dolgellau. Anfonwcli at W. Williams, Dolgellau, oa am Watch, dda. Fe dalai yn dda i chwi fyned at Tlil. W. am Watch., unrhyw bris, ric-a Eodrwy Aur, Bangles Aur, &c. Ceir lie da i ddewis. Prisiau nodedig 0 resymoj*