Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
ein-ïon Jlwen.
ein-ïon Jlwen. Y DIWEDDAR BARCH. T. HUGHES, MACHYNLLETH, YN GOFYN CYHOEDDIAD. Ac efe yn 90 oed, teimlodd awydd am fyned i'r Deheudir i bregethu, ac anfonodd at Mr. Davies, Ton, i ofyn am gyhoeddiad yn y ddau englyn canlynol:— Dygn wyf yn wyth deg a naw-i ddweyd Yn ddwys cyn ymadaw Rho, y doethwr, i deithiaw, 0 dir dy lwydd help dy law.' Oes genych i orwych arwr-weddw, Gyhoeddiad pregethwr, Hyfwyn, addas foneddwr, I'w yru'n ol i'r hen wr ? Cafodd ei ddymuniad, a bu'n pregethu yn Mhontypridd a manau eraill gydag arddeliad.
DEFODAETH A PHABYDDIAETH.
DEFODAETH A PHABYDDIAETH. Mater sydd yn cael sylw arbenig y dyddiau hyn ydyw y Ddefodaeth sydd yn ffynu yn Eglwys Loegr. Yn Llundain y mae Mr. Kensit yn byw ac yn bod. Llyfrwerthwr yw wrth ei alwedigaeth, ac y mae wedi bod yn Brotestant poeth ar hyd ei oes. Er's llawer o flynyddau y mae wedi cyhoeddi pamphledau a darluniau gwrth-Babyddol yn ei fasnachdy. Y p yd hwnw, yr oedd Mr. John Kensit, er yn I._J agos i'w le, eto o flaen ei oes ac ychydig, mewn cymhariaeth, ^0 wrandawiad a roddid iddo. Yn y cyfamser, aeth Defodaeth a Phab- yddiaeth yn mlaen yn ddistaw, ac y mae lIe i ofni yn effeithiol; ac erbyn hyn y mae y Cymro 0 Babydd-y Cardinal Vaughan-sydd yn rheoli talaeth fawr Westminster, yn cyfrif ei ddychweledigion' wrth y canoedd bob mis- o'r hyn lleiaf, felly y dywed y papyrau Pabyddol! Y mae yn amlwg ein bod ar drothwy cyffroad newydd ynglyn a'r mater hwn, ac y mae lie i ofni yr esgora ar ganlyniadau poenus. Brithir papyrau Llundain gan hysbysiadau mewn llythyrenau breiloion, ynghylch rhyw 'Disgrace- ful Scene in a Liverpool Church!' Disgwylir arddangosiadau cyffelyb yn amryw o Uchel Eglwysi y Brifddinas; ac os caria Mr. Kensit allan ei fwriad i gario yn mlaen y gwrth-dystiadau cyhoeddus a ddechreuodd dro yn ol, ac a roddodd heibio i aros beth wnelai yr Esgobion, fe fydd golygfeydd yr un mor gywilyddus mewn llawer lie o addoliad' yn ystod yr wythnosau nesaf. Tra y mae clerigwyr yr Eglwys yn tori y gyfraith wladol yn y ganghell ac wrth yr allor, ni raid iddynt ryfeddu os ceir gwrth-dystwyr yn tori y ddeddf wrth gedi i'w herbyn. Gwasga y cysylltiad gwlad- wriaethol yn drwm, ac nid Anghydffurfwyr yn unig sydd yn awr yn dyheu am Ddadsefydliad.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Llywodraethwyr dydd Gwener. Presenol, Mri. W. M Jones (yn y gadair), Mrs. Davies, Dr. A. O. Davies, Mri. N. B. Owen, E. Rees. John Thomas, a J. Rowlands, clerc. Hysbyswyd diolch y rhai a enillasant ysgol- oriaethau, a'u bwriad i gymeryd mantais arnynt. Cytunwyd rhoddi bursaries i'r rhai a ganlyn :-H. R. Owen, H. Ll. Roberts, D. W. Wood, W. Lewis, John 1. Jones, Corris; R. Hughes, Borth; M. E. A. Williams, Pantglas; J. Davies, Dinas Mawddwy a Jane Breeze, Llanbrynmair. COGINIO.-Darllenwyd llythyr o'r Cyngor Sirol yn hysbysu fod boneddiges wedi ei hapwyntio i roddi darlithiau mewn coginiaeth, cadw ty, &c., tua chanol mis Medi. Penod- wyd Mrs. Jones i ymgymeryd a threfnu gogyfer a'r amcan. CYFLOG Y CLERC -Ar gynygiad Dr. A. O. Davies, a chefnogiad Mr. John Thomas, pasiwyd yn unfrydol i godi cyflog y clerc o iop. i 25p. Diolchodd Mr. Rowlands am deimladau da y Llywodraethwyr ato, a'u cynorthwy iddo bob amser gyda'r Ysgol. YR YSGOLDY.-Hysbysedd y clerc yr agorir yr Ysgoldy newydd yn fuan, cyn yr agoriad ffurfiol ar Hydref 2iain.
CYSTADLEUAETHAU SEINDYRF PRES.
CYSTADLEUAETHAU SEINDYRF PRES. Cynhaliwyd trydedd gystadleuaeth flyn- yddol seindyrf Gogledd Cymru dydd Sadwrn, yn y Pafilion, Rhyl. Y beirniad oedd Mr. J. 0. Hulme. Dyfarnwyd fel y canlyn Adran Gyntaf 1 (a cwpan), Llan Ffestiniog; 2 Nantlle; 3 Treffynon. Ail Adran 1 Rhos; 2 Llanddulas; 3 Connah's Quay. Adran Drydydd; 1 Ffynongroew 2 Penmaenmawr; 3 Llanfairfechan. Un- awdau; Soprano, W. J. Roberts, Nantlle; cornet, 0. A. Jonep, Ffestiniog; E. Davies, Ffynongroew; trombone, J. D. Griffiths, Nantlle; euphonium, E. G. Evans, Ffestin- iog a J. Jones, Ffynongroew.
------------ADRODDIAD IECHYDOL…
ADRODDIAD IECHYDOL MEIRION. A ganlyn sydd grynhodeb o adroddiad Dr. Richard Jones, Blaenau Ffestiniog, swyddog meddygol y Cyngor Sirol, am t) gyflwr iechyd y sir am y flwyddyn ddiweddaf. ABERMAW. Swyddog Meddygol, Dr. Arthur Hughes. Poblogaeth, 2,500; marwolaethau 16-0 y fil; eto, babanod 190-4 y fil. Iechyd y dref a'r dosbarth yn hynod dda. Dim afiechydon heintus o unrhyw fath yn ystod y flwyddyn. Rhai tai diffygiol wedi eu gwellhau gan y perohenogion eraill heb wneyd eto. Mae'r cynilun o gyflenwi y dref a dwfr o Lyn Bodlynwedi ei gwblhau. Trwy yr ymwel- wyr yn yr haf mae'r boblogaeth ar gyfar- taledd yn 3,600. DOLGELLAU. Swyddog Meddygol, Dr. Edward Jones. Poblogaeth, 2,470; marwolaethau, 17*8 y fil; eto, babanod, 217-0 y fil. Adeiladwyd rhai tai yn ystod y flwyddyn, ac adgyweir- iwyd eraill. Mae angen mawr am dai priodol —wedi eu liawyro, a lie tan yn y Ilofftydd- yn yr holl ddosbarth. Gwnaed gwelliantau ar lawer o'r geudai. Anogir llosgi ysgarth- ion llysiau, &e. Mae cyflwr y carthffosydd a'r cyflenwad o ddwfr yn foddhaol. Bu ehwech farw o'r Diphtheria, yr hwn a dorodd allan yn mhlith plant Ysgol y Babanod. Nid oes cymaint ag un lletydy cyffredin wedi ei gofrestru yn y dosbarth, pan y mae angen parhaus am dano. DOLGELLAU GWLEDIG. Swyddog Meddygol, Dr. Edward Jones. Poblogaeth, 3,000; marwolaethau 16'0 y fil; eto, babanod 187-5. Adeiladwyd amryw o dai newyddiop, a chafodd eraill eu had- gyweirio. Gwnaed llawer 0 welliantau gan y Cyngor Dosbarth, ond erys llawer eto i'w wneyd mewn gwell tai, glanweithdra yn y llaethdai, dreniau, a dwfr pur. MALLWYD. Swyddog Meddygol, Dr. D. W. Morris. Poblogaeth, 1,200; rnarwolaethau, 11-6 y fil; eto, babanod, 238-0 y fit Mae'r cyf- lenwad o ddwfr drwy y dosbarth yn hynod beryglus, ac yn agored i'w lygru drwy yr hyn a red ar wyneb y tir. Mae hyn yn ffaith arbenig perthynol i bron bob fferm yn y dosbarth. Ofnir mai y dwfr hwn a ddefnyddir yn gyffredin yn y llaethdai, er mawr berygl i iechyd. Nid oes nemawr o welliant wedi ei wneyd eto gyda chyflenwad o fwy o ddwfr yn y Dinas. Mae llawer o adeiladau y ffermydd yn parhau yn ddiffyg- iol ac afiach-y to yn dafnio a'r lloriau yn llaith, ac heb ddreniau i gario'r dwfr ymaith. Y mae trefniant y llaethdai yn fynych yn y sefyllfa fwyaf peryglus. Cedwir ynghyd llaeth, ymenyn, caws, blawd mochyn, golchion mochyn, a'r cyffelyb. Gwelais 15 cosyn mewn ystafell yn y llafft, yn barod i'w hanfon gyda'r tren, lie yr oedd y trigianydd yn gorwedd yn ei wely dan glefyd. Mae cyflawnder o domenydd wedi eu tyru ar fur y tai, yn 5 troedfedd a mwy o uchder, a gadewir hwy yno am fisoedd. Mae rhai o'r cutiau moch yn rhy agos i dai ac i'r dyfrgistiau sydd yn cyflenwi dwfr i dai preifat. (I barhau.)
PENNAL.
PENNAL. ARWERTHIAKT.— Gwerthwyd ty a siop rhydd-daliadol y diweddar Mr M. Davies, Cwrt, gan Mri. Daniel, & Gyf. Prynwyd hwy gan Mr. Hugh Rees, Cwrt, am 11 Op.
,TOWYN.
TOWYN. YB YSGOL SIROL.—Cyfarfu y pwyllgor i ddewis prifathraw i'r ysgol hon, yn lie Mr. D. H. Davies, a ymadawodd am Ddinbych, yn Abermaw, dydd Gwener, dan lywydd- iaeth Dr. Edward Jones. Allan o 17 o ymgeiswyr dewiewyd Mr. Thomas Jones, a Mr. T. G. Roberts, is-athrawon yn yr ysgol, i'w cyflwyno i ystyriaeth y Llywodraethwyr Sirol dydd Gwener nesaf.
BORTH.
BORTH. CLWB Y GOLFF.-Mae tymor haf y clwb hwn newydd derfynu. Enillodd Proffeswr E. Edwards her-gwpan Cwmni'r Cambrian, yn gystal a her-gwpan y Borth.
ABERANGELL.
ABERANGELL. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd Iau, wythnos i'r diweddaf, cyfarfyddodd Mr. Richard Roberts, creigiwr, a damwain angeuol yn chwarel Hendreddu, drwy i ran o'r graig ddisgyn arno. Buwyd mewn cryn drafferth yn cael y corff allan o'r malurion. Oddeutu 18 mis yn ol, eyfarfyddodd a damwain, drwy yr hon y collodd ei goes. Yr oedd yn ffafrddyn ymhlith ei gyd-weithwyr. Yr oedd yn 56 mlwydd oed. Gadawa ar ei ol wraig a theulu lluosog i alaru eu colled.
Advertising
Un ol r lleoedd goreu am Chains, Brooches, a Modrwyau aur yw mtisnachdy W.Williams,Dolgellau
ABERDYFI,I
ABERDYFI, BoDDiAD.—Prydnawn dydd Iau, cymerodd damwain le yn ymyl y bar trwy yr hon y boddodd Cadben John Price, Copperliill street, o'r lie hwn. Taflodd yr amgylchiad brudd-der drwy yr holl dref. Hyd yr adeg yr ydym yn ysgrifenu, mae pob ymdrech i ddyfod o hyd i'w gorff yn aneffeithiol. Ymddengys i'r ymadawedig (yr hwn oedd oddeutu 70 mlwydd oed), fyned allan yn gynar yn y prydnawn mewn ewch pysgota gydag ymwelwr o'r enw Major Danks, o Wolverhampton. Oddeutu haner awr wedi pedwar, dychwelasant, pryd y gwelent gychod hwyliau fel yn parotoi am redegfa. Yn un o'r cyehod yr oedd Mr. Wace. Amwythig, yn y Hall Mr. S. Gotto, ac yn y trydydd Mr. M. Lewis. Trodd cwch yr olaf a thaflwyd of a mab i Mr. Wace at drugar- edd y don. Yn gweled y ddamwain, angor- odd Cadben Price ei gwch gyda'r amcan o dynu i lawr y mast, a hwylio i'w gwaredu, pryd y tarawodd dwy don y cwch, ac y taflwyd ef a Major Danks i'r dwfr. Llwyddodd y ddau i gydio gafael yn ochr y cwch, hyd nes y daeth ton gref arall i'w gwahanu. Gan fod y Major yn nofiwr da, llwyddodd i gadw ar y wyneb hyd nes daeth rhai i'w waredu, ond suddodd y Cadben.
CYNGOR PLWYF TALYLLYN.
CYNGOR PLWYF TALYLLYN. Dydd LIun diweddaf. Presenol, Mri. H. Davies (cadeirydd), E. Lewis, D. Jones, W. Williams, W. Davies, Hugh Jones, H. R. Williams, Rhys Owen, a D. Owen, clerc. GWAITH DWFR.—Dygwyd gerbron ad- roddiad y pwyllgor a benodwyd i wneyd ymchwiliad i'r cyflenwad o ddwfr i ran uchaf Corris. Argymhellid pistyll Penrhiw fel y mwyaf manteisiol i'r amcan. Mab- wysiadwyd yr adroddiad, a phenderfynwyd ymgymeryd a gwneyd y gwaith heb oedi, i gyfarfod a'r galwadau o amrywiol gyfeir- iadau.—Dygwyd cwyn oherwydd prinder dwfr yn nghymydogaeth capel Bethesda, Aberllefenni. Pasiwyd i'r pwyllgor dwfr edrych i mewn i'r cais, yn ogystal ag i fanau eraill ag y mae ceisiadau wedi eu dwyn i'r Cyngor.-Pasiwyd i anion eto at Gyngor Plwyf Llanwrin, i ofyn iddynt roddi atebiad pendant i'r cais a wnaed iddynt dro yn ol am eu cynorthwy gyda'r coatau ynglyn a gwaith dwfr gwaelod y pentref,, Corris.— Hysbyswyd fod anmhariaeth wedi ei wneyd ar tap dwfr yn ngwaelod y pentref. Pasiwyd rhoddi rhybudd i fyny yn hysbysu y cosbir pwy bynag a'i niweidio rhagllaw. Pasiwyd i dalu bil o 4p. Is. 4c. am slabs at waith dwfr Garneddwen a Corris. Penderfynwyd galw sylw y Cyngor Sirol at gyflwr drwg y ffordd fawr rhwng Corris a Machynlleth, ac yn dymuno arnynt ei rhoddi mewn trefn dda heb oediad pellach.
UNDEB DOLGELLAU.
UNDEB DOLGELLAU. CYNGOR DOSBAKTH GWLEDIG. Cynhal- iwyd dydd Sadwrn, Mr. Meyrick Roberts yn y gadair. Dr. Hugh Jones, yn ei adroddiad misol a alwodd sylw y Cyngor at gyflenwad dwfr Llwyngwril, yr hwn oedd yu afiach, a chymhellai i fesurau cryfiou gael eu cymeryd mewn perthynas iddo heb oedi. Yr oedd pentref Llanegryn mewn sefyllfa afiachus. Penderfynwyd gwahodd y tirfeddianwyr i gynorthwyo mewn cario allan gynllun dwfr i Llwyngwril, a chynllun o garthffosydd yn Llanegryn. Yn niffyg hyny, fod i'r arolygydd ddarpar cynlluniau o'i eiddo i'w cyflwyno i'r cyfarfod nesaf.— Penderfynwyd hefyd i'r arolygydd ddwyn adroddiad i'r cyfarfod nesaf o'r gost o gyflenwi y Dyffryn a dwfr.
MALLWYD.
MALLWYD. ETHOLIAD Y BWRDD YSOOL.-Cyinerodd etholiad cyntaf Bwrdd Unedig Mallwyd a Llanymawddwy le dydd Mercher. Cymer- wyd y pleidleisiau yn Dinas Mawddwy, Llanymawddwy, ac Aberangell. Yr oedd wyth o ymgeiswyr am chwe' eisteddle. Gwnaed y canlyniad yn hysbys gan y Swyddog Dychweliadol, Mr. W. R. Davies, tua deg o'r gloch, fel y canlyn :—E. H. Davies 267; G. Griffiths, ieu., 248; Morris Evans 211; Thomas Davies 209; Lewis Jones 203; Parch. J. Jenkins (E.), Llan- ymawddwy, 141; Syr E. Buckley 112; Parch. T. Thomas (E.), Mallwyd, 71. Eth- olwyd y chwech blaenaf. Yr oedd y ddau ddiweddaf yn hen aelodau.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. SWFER YMADAWOL. Nos Fawrth, yn Ngwesty yr Angel, rhoddwyd swper ymad- awol i Mri. E. A. Jones, a J. S. Fitchard ar eu hymadawiad i Rhodesia. Dychwelyd y mae y cyntaf ar ol bod ar ymweliad a'i hen gartref, tra y mae yr olaf yn myned drosodd am y waith gyntaf. Llywyddwyd gan Mr. D. Owen, Cross Keys. Cynygiwyd amryw lwnc-destynau; a chaed caneuon gan Llew Meirion, E. T. Clarke, &c. Ym- adawa y ddau gyda dymuniadau goreu y dref gyda hwy,
i-N PENOD YR ENWOGION
i- N PENOD YR ENWOGION Y PARCH. T. HUGHES (MACHYNLLETH CYNT). (Par had). Ni fu Mr. Hughes gyda'i ysgrifell yn hollol segur. Yn 1837, cyhoeddodd Buch- draeth y Paich. G. AVhitfield,' ac yn 1860, Y Garnedd Arian,' casgliad chwaethus o ganeuon moesol a chrefyddol, ac yn eu plitli un gan o leiaf o'i waith ei hun. Cyfansoddodd luaws o emynau a darnau barddonol eraill; ac oddeutu saith mlynedd yn ol, dechrouodd ar y gorchwyl o ddysgu rheolau y gyughanedd gaeth— gorchwyl rhyfedd, onid e, i hen wr yn tynu at ei 90ain mlwydd oed a syndod meddwl, daeth yn englynwr campus. Adwaenid ef mewn cylehoedd barddonol wrth yr enw Glan Pherath.' Gallasai gynysgaeddu llawer mwy ar lenyddiaeth Cymru, oblegid yr oedd ganddo ddawn ddi-brin i ysgrifenu yn ddyddorol, fel y dengys ysgrifau ei adgofion yn y Cymru rai blynyddoedd yn ol. Gresyn na fuasai wedi cyhoeddi cyfrol o adgofion, oblegid yr oedd ganddo gyfoeth o houynt, a'r rhai hyny yn nodedig o ddyddorol. Anhawdd fuasai taro ar fwynach ymgomiwr, ac yr oedd ei sylwadaeth craff ar bobl a phethau, a'r cyfnewidiadau a fu yn nghwrs ei oes faith, yn deilwng o gofnodiad parhaol. Bwriedir cyhoeddi cyfrol yn cynwys ei fywyd a'i brif ddywediadau yn fuan, pryd y rhoddir desgrifiad o hono fel pregethwr a bardd. Yn ei deithiau mynych ar hyd a lied Cymru, esgynai'n ami i'r Ilwyfar), ac enillodd gryn boblogrwydd fel darlithydd, a byddai galwad mynyoh am oi wasauaeth. Arhosodd ei feddwl yn iraidd hyd 0 fewii mis i adeg ei farwolaeth," a'i ysbryd yn y gwaith o bregethu hyd y diwedd. Gorphen- odd ei yrfa ddaearol Awst 5ed. wedi cyraedd yr oedran addfed o 95 mlwydd, ac efe oedd pregethwr hynaf Cymru. Treuliodd ei flynyddoedd olaf, yn cael ei amgylchynu gan bob cysur daearol, ac yn wrthddrych y gofal a'r tynerweh mwyaf oddiwrth berthynasau a chyfeillion caredig. Bu ofn marw yn peri llawer o bryder iddo, ond cafodd lwyr ymwared o hono cyn i angau ei alw adref. Yn mlynyddau cynar ei weinidogaeth, yr oedd llawer o fellt a tharanau Sinai yn ei bregethau, ond tra'n agoshau at y bedd, elai ei deimladau yn fwy llariaidd a dringai ei ysbryd yn amlach i dangnefedd mynydd y gwynfydau nag i fryn y ddeddf. Hoff iawn ganddo oedd yr englyn a ganlyn a adroddai'n fynych (mae yr awdwr yn anad- nabyddus):— Digonwyd fi ar deganau-y byd, Aed ei barch ac yntau I rhyw un a gar y ddau- Mynwent a nef i minau. Ar ol bod mewn llawer brwydr galed, y mae efe o'r diwedd wedi cario y dydd ar ei holl elynion; ac yn lie y cleddyf, y mae heddyw yn gwisgo y palmwydd gwyrdd. Cafodd fynediad helaeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd, a'i enaid yn gorphwys ar y testynau y bu yn pregethu arnynt, sef addewidion y Meistr y bu mor liir yn ei wasanaeth. Yn ei ddyddiau olaf, adroddai yn fynych, gyda'r tawelwch a'r hunan- feddiant mwyaf, y geiriau o eiddo Dafydd, a fu yn foddion eysur mawr iddo, I Dychwel, 0! fy enaid, i'th orphwysdra; canys yr Arglwydd fu dda wrthyt.' Cafodd ei ddyiii- uniad, mynwent glyd a phrydferth Penmorfa, Tremadog, mangre beddrod y teulu, yn llety i'w gorph, a mynwes Abraham yn orphwysfa i'w enaid. Henaf, hynotaf yn wir-o weision Yr Iesu, trwy'n brodir, [pant, Ydoedd Hughes,—daeth dydd hir—y cwyd o'r A nwyf ei lwyddiant a nefoleiddlr. Ni chau'r bedd ar ei rinweddau-tyfant Hefyd yn meddyliau Y Cymry oil, ac i'w mawrhau Diengant dan fawd ei Angau. Ei ddywediadau mor ddidaw ydynt, A barddol hindda bereiddiol ynddynt,— Daw hylwydd treiddiol hyawdledd trwyddynt, 0 werth hir,-dynion a nerthir danynt; Abl iawn-diarebol ynt,—a llawn hwyl I bawb yn anwyl. bob un o honynt. Ar g6f gwlad cant eu cadw, A doniau nef ydyn' nhw. Pwy fu 'rioed yn pefrio iaith-A meddwl Mwy addas a pherffaith ? Duw weinydd oedd, di weniaith,— Gwawr wen I6r gorona'i waith. Z.,
ARTHOG.
ARTHOG. Yn mhlith yrhai sydd ar ymweliad a'r lie hwn yr wythnosau hyn, y mae Mr. Horace Cox, perchenog y Field, Ladies Pictorial, &c., ynghyd a rhai o'r teulu. Y mae Mr. Cox wedi prynu palasdy Ty'nycoed (palasdy y diweddar Mr. D. Davies, tad-yn-nghyfraitli Mr. Frank Edwards, diweddar A.S. dros i Faesyfed).
ADRAN Y MERCHED.
ADRAN Y MERCHED. PAN YR YSGRIFENWCH LYTHYR. Mae ymddangosiad yn werth cryn lawer. Yn ngwyneb y ffaith yna, dewiswch, pan yn ysgrifenu eich llythyrau, y papyr a'r inc cyfaddas. Mae un math 0 bapyr bob amser yn chwaethus ac yn briodol i ysgrifenu arno, pa un bynag a'i at y frenhines ynte at y cardotyn y cyfeiiir y llythyr. Y papyr hwnw yw papyr gwyn, hytrach yn drwm, heb ei liuellu, yr hwn a blyga yn rhwydd i ifitio unrhyw amlen (envelope), ar yr hwn y dylid defnyddio inc du, da, a chlir. Tybia rhai boneddigesau ieuainc, mai papyr lliwedig ydyw y mwyaf ffasiynol a derbyniol, ond camgymeriad yw hyn. Mae y cyfryw mor anmhriodol bron a'r papyr a werthir gyad darluniau arno, yr hwn nad yw yn gweddu i neb ond plant. Mae arwydd-eiriau mawrion, yn ddangosiad o ddiffyg chwaeth, tra mae cyfeiriad yr anfonydd, mewn llythyrenau bychain, yn chwaethus dros ben. Na ddef- nyddiwch bapyr wedi ei linellu mwy na phapyr teneu. Gellwch yn hawdd addysgu eich hun i ysgrifenu yn unionsyth ar bapyr heb ei linellu, a phan y cofiwch fod llythyr yn eich cynrychioli chwi eich hunan, mae yn bwysig fod ei olygwedd yn gyfryw ag fydd yn siarad drosto ei hun ei fod wedi ei anfon gan fonedd- iges.
I-FOEL a LLANERFYL.
FOEL a LLANERFYL. CYFARFODYDD URDDIAD.-Awst 23 a 24, cynhaliwyd cyfarfodydd i neillduo Mr. Jenkyn Williams, 0 Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, i waith y weinidogaeth yn yr eglwysi Annibynol uchod. Nos Fawrth, yn y Foel, dechreuwyd y gwasanaeih gan y Parch. J. Llewelyn, Borth, a phregethwyd gan y Parch. J. Hughes, Tany grisiau, a Proff E. Anwyl, M.A., Aberystwyth. 6 Yr un noson, pregethwyd gan y Parchn. E. C. Davies, Ynyshir, a J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl. Boreu Mercher, yn Llanerfyl, cynhaliwyd cyfarfod yr Urddiad, o dan lywyddiaeth y Parch. T. D. Thomas, Llanon. Dechreuwyd y gwasanaeth gan Mr. Hughes. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Proff. Anwyl. Holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. Llewelyn, a chafwyd gan Mr. Wflhams atebion clir a phwrpasol, yn amlygu credo gref ac iach o'r efengyl, fel ag a fwynhaodd yr eglwysi hyn gan y diweddar Hybarch Caleb Evans, sydd a'i enw yn berarogl yn y vlad heddyw. Bu ei olynydd drachefn mewn parch tra yn llafurio yn eu mysg, ond galwyd ef ar ol rhai blynyddoedd i faes arall o'r winllan. Yna cafwyd arwydd o foddlonrwydd yr holl gynulleidfa i'r alwad drwy godi ar eu traed. Wedi hyny, gweddiwyd yn ddwys a gafaelgar gan Pedrog, am fendith yr Arglwydd ar yr undeb a ffurfiwyd yno. Yna rhoed y Cyngor i'r gweinidog gan Mr. Davies, Ynyshir, dan weinidogaeth yr hwn y dechreu- odd bregethu. Am 2 o'r gloch, pregethwyd ar Ddyledswydd yr eglwysi tuag at y gwein- idog,' gan Mr. Hughes yr oedd y naill fel y llall o'r cynghorion yn hynod darawiadoi. Wedi hyny, esgynodd Mr. Davies i'r areithfa, a chafwyd pregeth swynol ganddo ar Udi- ogelwch cartret y credadyn.' Am 6 o'r gloch pregethwyd gan Mr. Hughes a Pedrog. Allan ar y maes yr oeddid yn y prydnawn a'r hwyr, am fod y capel yn rhy fychan i gynwys y dyrfa. Cafwyd cyfarfodydd grymus o'r dechreu i'r diwedd. Mae llinynau ein cyfaill wedi disgyn mewn lie hyfryd yn y parthau hyn. Yr oedd y trefniadau yn bobpeth allesid ei ddymuno, a dangoswyd caredigrwydd mawr gan y frawdol- iaeth tuag at y dieithriaid, am yr hyn y teilyngant y diolchgarwch gwresocaf Eneiniad yr Arglwydd fyddo ar ymdrechion yr eglwysi a Mr. Williams yn yr uniad hwn.
ETHOLIAD SOUTHPORT.
ETHOLIAD SOUTHPORT. BUDDUGOLIAEIH FAWR RYDDFRYDOL. Gwnaed y sedd hon yn wag drwy ddyrch- afiad Mr. (Jurzon (C.), i fod yn Llywydd India. Y ddau ymgeisydd presenol oeddynt Syr H. Naylor-Leyland (R.), ac Arglwydd Skelinersdale (C.) Cymerodd yr etholiad le dvdd Mercher, ac wele y canlyniad :— Syr H. Nay lor-Ley land (R.) 5,100 Arglwydd Skelmersdale (C.) 4,828 0 Mwyafrif 272 Dymair ffigyrau yn yi etholiad blaenorol (1895) Curzon (C.), 5,163; Naylor- Leyland (R.), 4,399-mwyafrif 764.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. BWRDD Y GWARCHBIDWAID.—Yn nghyfar- fod y Bwrdd, dydd Llun, darllenwyd golieb- iaethau oddiwrth foneddigesau perthynol i Bwyllgor Byrddio Allan, yn hysbysu fod v bechgyn a fyrddii allan yn ddedwydd a boddlon ar eu sefyllfa. Cymeradwywyd y symudiad hwn. Gwnaed ceisiadau gan ferched o dan 60 oed am gymorth pi wyf 0]. Penderfynodd y Bwrdd na bydd iddynt roddi cynorthwy i'r cylryw, oni ddygir tystysgrif„ feddygol ya ptofi eu bod" yn anghenuss ac analluog,