Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
YMREOLAETH.
YMREOLAETH. Un o nodweddion y Senedd-dymor di- weddaf oedd diffrwythdra mewn mesurau a gynygiwyd gan y Llywodraetli uc aelodau preifat Ty'r Cyffredin. Nid yw y diffyg hwn yn perthyn i un blaid wleidyddol yn unig; yr oedd yn ddigon amlwg yn amser y Llywodraeth Ryddfrydol. Cyfyd hyn o herwydd amledd y cwestiynau yr ymdrinir a hwy mae achosion tramor yn hawlio annhraetliol fwy o sylw nag ydoedd ddeng mlynedd yn ol. At hyn mae gwastraff dybryd ar amser drwy siarad yn lie gwneyd gwaith. Po fwyaf y pery y sefyllfa hon, mwyaf difrifol y niwed a achosa. Bydd i'r Senedd fyned yn wrthddrych gwawd a dirmyg oni phenderfynir ar ryw ffordd i drosglwyddo achosion Ileol yn gyfangwbl i bedair rhan y deyrnas, iddynt hwy ddeddfu arnynt a'u gweinyddu. Mae pob cynllun o lywodraeth leol yn anghyflawn heb Ymre- olaeth. Tybia y Ceidwadwyr fod Meeui Llywodraeth Leol y Werddon yn ddigon i'r Gwyddelod; ond gadawa'r Mesur y prif bwynt heb ei gyffwrdd, sof cenedl yn gweithio allan ei thynged drwy *i hanian ei hun. Pan bendeiiynir y cwestiwn Gwydd- elig bydd eiddo Cymru ag Ysgotlaud yn aros wed'yn. Feallai mai yr hyn fu fwyaf dyddorol i Gymru yn ystod y Senedd-dymor oedd ateb- iad Mr. Chaplin i gwestiwn a ofynodd Mr. Lloyd George. Addawodd Mr. Chaplin ystyried cynllun a gyflwynid iddo o blaid trosglwyddo galluoedd gweinyddol chwaneg- ol i Gynghorau Sirol Cymra, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Gweithredir y rhai hyn yn awr gan y Cyfrin-gyngor, yr Ysg- rifenydd Cartrefol, Bwrdd Masnaeh, Bwrdd Llywodraeth Leol, Bwrdd Addysg, a swydd- feydd eraitt. Os bydd Cynghorau Sirol Cymru yn cytuno ar nifer o faterion ag y dylent gydweithredu yn mherthynas iddynt, byddai yn hawdd ffurfio, i bob amcan a bwriad, Senedd Gymreig, i gyfarfod o bryd i bryd at amcanion gweinyddol. Byddai hyn af unwaith yn gyullun rhesymol ac ymar- frrol yn nghyfeiriad Ymreolaeth, manteisiol iwelliant cynrdeithasol, ac yn cymerydllawer o gyfrifoldeb oddiar ysgwyddau y llywodr- aeth ganolog.
YR HELYNT DDEFODOL.
YR HELYNT DDEFODOL. Bwriada Mr. Kensit, y gwr gychwynodd y gadymgyrch yn erbyn Pabyddiaeth yr Eglwysi SefydIedig yn Llundain, dalu ym- t) weliad a Chaerdydd. Bydd iddo anercli cyfarfod yn y Park Hall ar y 31ain cyfisol. Cymerodd golygfa le yn Rhyl dydd Llun, mewn eysylltiad a gwrtbdystiad y Parcli. J. Woods yn erbyn Defodaeth. Ymgynullodd tyrfa o bobl ar lan y mor i wrando ar Mr. Woods, ac ai-osastlut yno am ddory awr. Cyfeiriodd Mr. Woods at y cyngaws a ddygai Cyngor Llandudno yn ei erbyn, a'r hwn a wramlewidyn Llys Maine y Frenhines dydd Merclier; a dywedodd fod ganddo dyst-lwon oddiwrth ddynion o'r safleoedd uchaf i gyfarfod mynejiadau oedd yn gyn- wysedig gan yr ochr arall. Y diwedd fu i Mr. Woods roddi ei hun o dan amddiffyniad heddgeidwad. Cerddai y darlithydd i fyny ac i lawr y tywod, yn cael ei ddilyn gan dyrfa. Dechreuodd rhai o'i gefnogwyr ganu emyn, a dechreuodd yr ochr wrth- wynebol ganu emyn arall. Holwyd y darlithydd gan Mr. Smith, Birmingham.
ETHOLIAD SOUTHPORT.
ETHOLIAD SOUTHPORT. Mae sylw aibenig yn eael oi dalu i ethol- iad Southport, ai gyfrif fod Mr. Holden, Cadeirydd yr Undebwyr Rhyddfrydig, wedi anfon llythyr yn anog ei blaid i gefnogi'r ymgeisydd Rhyddfrydol, Syr H. Naylor- Leyland, aT y tir nad yw cwestiwn Ymreol- aeth i'r Iwerddon yn awr dan sylw'r wlad. Ysgrifena Mr. Chamberlain lythyr i geisio atal i'r ieuad anghymarus rhwng y Rhydd- frydwyr Undebol a'r Toriaid gael ei dori. Cymer yr etholiad le dydd Mercher, yr wythnos hon.
TOWYN.
TOWYN. AWRLAIS.-Mae awrlais ysblenydd wedii ei osod yn nhwr Neuadd y Farchnad. Rhoddwyd goleuni ynddo am y waith gyntaf nos Fawrth, ac edrychai yn dda. .D.&RLITII.-Nos Lun, traddododd y Parch. J. T. Newton, Llundaiu, ddarlith ar 'Elias,' yn nghapel y Wesleyaid. Llywyddwyd gan Mr. E. L. Rowlands, Aberdyfi. Cafwyd darlith eithriadol o dda. CYNGERDD.—Cynlialiwyd cyngerdd blyn- yddol yr Ysgol Sirol nos Wener, yn y Neuadd Gyhoeddus. Cadben Kirkby yn y gadair. Cymerwyd rhan ynddo gan Madame Kate Morgan, Dowlais, Mr. Tom Thomas, R.A.M., W. Evans, Birmingham, ynghyd a Chor Plant Aberdyfi, dan arweiniad Mr. Evan Davies. Cyfeiliwyd gan Miss May Roberts. Hyderwn i elw sylweddol gael ei wneyd oddiwrtho.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. YSGOL DR. WILLIAMS.—Bu Miss Rosa Sellwood, efrydes yn yr ysgol hon, yn llwyddianus yn yr arholiad uchaf agored i ferched, yn Mhrifysgol Caergrawnt mewn llenyddiaeth Saesnig a Hanesyddiaetli. CEIDWAD YR AFON.-Dydd Llun, bu pwyllgor yr afonydd yn yotyried ceisiadau am y swydd o geidwad yr afon. Allan o wyth o ymgeiswyr, dewiswyd Mr. J. 0. Jo les, yr hwn a fu yn geidwad yr afon Dyfi. YSGOL CWM BLODEUGLYN.—Y mae ysgol ddyddiol wedi cael dechreu ei hadeiladu yn nghymydogaeth Abergeirw ardal rhyw ddeng milldir o Dolgellau, yn nghyfeiriad Trawsfynydd. Bu llawtr ymgais o'r blaen i gael ysgol i'r Cwm, ond yn aflwyddiauus. Bellach, y mae perchenog ystad Nannau wedi rhoddi y tir, a'r gwaith wedi ei ddechreu. Bydd ysgol ddyddiol yn fendith fawr i'r ardal.
ARDDANGOSFA ARDDWROL PENIARTH.
ARDDANGOSFA ARDDWROL PENIARTH. Cynhaliwyd yr Arddangosfa flynyddol uchod dydd Mawrth, ar dir y Peniarth. Y llywydd eleni oedd Mr. W. R. M. Wynne, Peniarth trysorydd, Mr. Tudor, Glanmach- las; ysgrifenyddion, Mri. 0. Jones, Bryn- gwyn, a J. Davies, Peniarth. Cafwyd Arddangosfa hynod lwyddiauus y tro hwn. Enillwyd y prif wobrwyon yn y gwahanol ddosbarthiadau fel y canlyn:- CYNYRCHION GERDDI. DOSBARTH A.— (Agored i rai yn talu lOp. o rent yn flynyddol.) Martha Jones, Gwen Thomas, Maggie Bridges, Elias Davies, E. Jones, R. Vaughan, J. Fewtrell, D. Bennett, L. Jones, Enoch Jones, G. Ellis. DOSBARTH B.—(Agored i rai o fewn cylch 10 milldir). R. Roberts, Rhydygarnedd J. Morris, Towyn; W. M. Jones, Gwen Thomas, Rees Evans, Aber Enoch Jones, Mrs. Davies, Shop isaf; Martha Jones, G. Ellis. Parch. W. Davies, D. Thomas, Mrs. Griffith, Bryneglwys; Eliza Thomas. DOSBARTH C. YDAU, &c —Agored i bawb. R Roberts, Mr. Roberts, Dysefin, Mr. Kirkby DOFEDNOD, &c.-D. Roberts, Robert Rees, Laura Davies, J Jones, Aantyreira. PRAWF CWN DEFAID—H. Hughes, Hendre- wallog; L. Vaughan, Tyddynberllan R. Roberts, Pantygwyddwch. CNEIFIO.—H. Hughes, J. Davies, Bredyn- fawr, ac R. Roberts. CEFFYLAU.—D. M. Kirkby, R. Roberts. ATHLETIC SPORTS -Enillwyd gwobrwyon yn yr adran hon mewn Bicycle Race a rhedeg- feydd eraill, gan Edward ae Evan Jones, John Roberts, G. Vaughan. Charlotte Jones, J. A. Lewis, D. Davies, E L. Jones, R. Davies, Abe-maw.
YSTORI ENBYD.
YSTORI ENBYD. Nos Sabbath diweddaf, ymwelwyd a'r wlad gan ystorm ofnadwy o fellt a tharanau, a'r gwlaw yn disgyn yn llifeiriant. Cymru a deimlodd fwyaf oddiwrthi. Yn Porthmadog cafodd ystafell yr offeryn yn y llytliyrdy ei tharaw, a'i gosod ar dan. Codwyd y waedd, a llwyddodd nifer o weithwyr gwirfoddol i gael y tan o dan reolaeth. Gwelwyd fod gryn niwed wedi ei wneyd yn ystafell yr offeryn. Llwyddwyd i osod i fyny y cymundeb pellebrol mewn rhan, boreu Llun. Teimlwyd grym yr ystorm yn Aberystwyth, a thra yr oedd wedi cyrhaedd ei hanterth, tua haner nos clyvvyd y waedd fod tan wedi tori allan. Yr oedd y mellt wedi chwilfriwio y drws yn Balmoral House, a gosod y coed ar y llawr ar dan. Llwyddodd y tan-frigad i ddarostwng yr elfen ddifaol, ei nid cyn i ryw gymaint o uiwed gael ei wneyd. Mewn rhan arall o'r un heol, tarawyd nenfwd ty gan fellten, a chlwyfwyd plentyn yn .• ei fraich. Gwnaed difrod ar y pier. Yn ol yr adroddiadau sydd wedi dyfod i law, ymddengys fod difrod mawr wedi cymeryd lie ar anifeiliaid ac eiddo drwy ranau helaeth o Gymru. Yr oedd y tywydd yn hynod o braf dydd LIun, a'r gwres mor angerddol a'r dyddiau cyn yr ystorm
Family Notices
PRIODAS. LEWIS- JONES.—Awst 2ofed, yn nghapel Rehoboth, Corris, gan y Parch. J. Roberts, gweinidog, Mr John Lewis, Gaewern cottage, I .a Miss Sarah Jones, Ty'r capel, Rehoboth- y ddau 0 Gorris.
nb£hía£tball.
nb£hía£tball. EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS A'R BEIRNIAD CUDD. Syr,—Canfyddir oddiwrth y penawd uchod, fy mod o hyn allan yn bwriadu myned yn nes at wr-eiddyn y genfigen. O'm rhan i, nid oes eisiau i W. W I strzki;g o'r rÙzg- yn ol ei dermau bwli-yddol ef ei hun. Caiff aros oddi- mewn hyd y myn, ac ymdorsythu nes argy- hoeddi'r wlad mai efe yw bwli llenyddol yr oes. Uniawn y dywed nad oes angen iddo fod yn rhyw dwlyn anghyffredin iawn,' a chwedl yntau, beth sydd ar dwlyn eisiau mwy nac ysgrifbin, papyi, ac inc.' Addefiad gonest a phrawf hefyd fod yr yswigod yn myn'd i lawr. Gwyr pawb nad oes angen llawer o dalent i gyHawni ei ran ef, ac fod mwy 0 haerllugrwydd nac 0 wroldeb yn ofynol i fyned allan fel math o Billposter pardduol. 0 hyn allan, bydd i m: weitlnedu yn ol cyfarwyddyd yr awenydd Os am lanwisg, ganwisg, gu, Na chyffyrddwch a pharddu.' Yr wyf am i'r darllenydd ddeall mai nid a \V. \V. y bydd a wnelwyf mwy, ond a pherson arall a adwaen i ac yntau yn dda, yn a'beni^ ynglyn a'r ddadl hon. Gwn hyd sicrwydd moesol fod y gwr a alwaf yn Feirinad Cudd y tucefn i'r terfysg hwn i gyd, a dyna fy rheswm dros adael y twlyn, a chyfarch yr un sydd yn ei ddefnyddio. Sicr genyf fod y person y cyfeir- iwyf ato yn cofio yn dda ddarfod iddo dalm 0 amser yn ol groesi llinell cywirdeb ffeithiau er rhoddi i gyfaill i mi y camliw cryfaf a fedrai osod arnaf. Gofynaf ai anrhydeddus yw i wr o'i safle a'i gyfrifoldeb weithredu fel hyn tuag at un ag y mae cymaint pwys iddo fod a'i hanes yn glir a'i enw yn gymeruxlwy ag ydyw hyny yn ei gysylltiad yntau ? Sonir am duch- angerdd i dderbynwyr ystoriaugau. Gofyniad digon naturiol fyddai, Pa un ai y derbynizvr ynte'r lluniwr yelyw y pechadur penaf ? Wrth fyned ymlaen, gwna'r Beirniad Cudd ymgais ysgilgar i'm cadw yn wahanedig oddi- wrth y Pwyllgor. Hawdd canfod yr amcan. Cyhoedda na fydd a wnelo a'r Pwyllgor nac a'r Ysgrifenydd. Paham y dymuna fod mor rhydd ac y disgwylia fod mor glir, ac yntau wedi bod yn amcanu dilorni y naill a'r Ilall ? Gwn yn dda paham y dymunai fy nghael i yn gwbl unigol, a diau y carai weled y Pwyllgor a'r ardalwyr yn ymuno i'm bwrw bendramwnvvgl dros ael bryn gwaradwydd. Ond nid felly gyfaill. Mae Llifon a'r Pwyllgor yn rhwym o sefyll neu syrthio ynghyd, a chredaf fod gormod 0 ysbryd tegweh yn llywodraethu y Corrisiaid i wneyd cam a gwr yn ei fater. Yr wyf yn berffaith dawel i gymeryd dedfryd y presenol ac eglurhad dadlenol y dyfodol. Doniol ydyw y rhesymau a gynygia'r Beirniad Cudd dros y dylwn ymostwng i ateb ei holiadau busnesgar. Dylaswn wneyd, meddai, er mwyn Llifon, hyrwyddwyr yr Eisteddfod, achos y Bedyddwyr, a'r gwirionedd.' Boed hysbys iddo fod anrhydedd yr oil a noda uwchlaw y cyfryw ymostyngiad gwasaidd. Gyda phob parodrwydd, fe atebwn unrhyw gwestiynau moesgar, y rhai y gwyddwn y byddai cael goleuni yn amcan cywir iddynt. Ond mae'r stamp arall ar y lhai a rodded yn enw W. vV, ac am y rheswm hwnw, mae urddas fy natur yn codi gwrthdystiad yn erbyn yr ymostyngiad. Pe hnasaTr Beirniad Cudd wedi manvlu rhagor ar yr ymresymiad wnaed oddiwrth I fargen y fuwch' canfyddasai nad oedd ynddi lwch.' Ni ddywedais fod prynu buwch a nofio Eisteddfod yr un peth. Amcanwyd i'r sylw ddangos fod ei holiadau ef 0 natur mor anfoes- gar ag a fuasai i minau fynu manylion am y fargen, am bod wrth holi yn ensynio na chredwn fod pethau yn anrhydeddus os na roddid y cyfryw fanylion. Sylwer eto ar y pethau gwagsaw gynygir yn enw 'prawfion' mewn cysylitiad a'r hyn a dybir yn under handed work. Yn ol ei ddat- ganiadau honiadol ar y cychwyn, fe allesid disgwyl cyfres o brawfion di-droi-yn-ol, fuasent yn ysgubo pob her o fodo!aeth Ond er yr holl derfysg, ni chaed ond prawfion gau, ac wele'r her yn sefyll mor ddisigl ag erioed. Eglur fod y Beirniad Cudd wedi camsynied yn ddifrifol gyda golwg ar luaws o ffeithiau pwysig. Er mwyn byrder ac eglurder, cyfeiriaf sylw y darllenydd at bwyntiau ag mae yn deilwng eu cadw mewn cof os ydyw am ffurfio barn annibynol ar bwnc yr Eisteddfod. (i), Yr oedd yn hollol anmhosibl i'r caredigion a roddasant eu gwasanaeth fel Pwyllgor fod dan eu dwylaw parthed yr elw. Gwnaed y cyfan yn glir iddynt pan yn gofyn am eu cydweith- rediad. (2), Cam-ddarluniad dybryd ydyw y cyfeiriad angharedig a wna y Beirniad Cudd at I frys' a 'chuddio.' Gwyr y Pwyllgor oil yn ddigon da na fu dim o'r fath beth yn ein gweithrediadau. (3), Priodol yw cofio hefyd mai y Pwyllgor ei hun benderfynodd ar enw yr Eisteddfod. Yn awr, dyma fy nadl :-os oedd nifer o garedigion yn barod i wirfoddoli i roi help Haw, onid oedd pob hawl i drefnu, ac enwi, a phenderfynu, yn d'od i feddiant y gwirfoddolwyr hyny ? Beth fuasai gan neb i'w ddweyd yn erbyn i unrhyw berson otyn am help dwsin neu ddau i ymffurfio yn Bwyllgor er cael cyngherdd neu eisteddfod. Oni fuasent ar eu own hooks, ac yn gwbl gyfrifol am y golled neu'r enill ? Ynglyn a'r Eisteddfod eleni ni ddrygwyd yr ardal mewn un wedd, a chafodd fiawb a roisant eu presenoldeb yn yr Wyl werth eu pres. (4), Mae y 'cyfarfod cyhoeddus' y cyfeiria ato yn beth anhysbys i mi. Ni chlywais sill am dano hyd ymddangosiad yr ysgrif hon. (5), Anghywir eto yw cyfeiriad y Beirniad Cudd pan ddywed i Llifon wrth- wynebu i'r gweinidogion fod ar y Pwyllgor. Dywedaf yn bendant nad yw yr hysbysiad fel y maetyn unol a'r gwirionedd. a hawdd canlod malais yn llechu o dano. Serch y gwarafuna i mi gael amddiffyniad y Pwyllgor, yr wyf yn anturio apelio atynt. Medd yr ardalwyr bob ymddiried ynddynt fel dynion craff a goleuedig. Diogel genyf y rhoddent dystiolaeth unfryd ddarfod i mi yn y cyfan oil fod yn gwbl glir 0 bobpeth iselwael a amcenir ei gysylltu a mi gyda chymaint o fryntwch. Er mwyn tangnefedd cyrndeithasol, goddetais lawer brathiad yn y misoedd aethant heibio Hyderaf y cenfydd yr annhegwch a'r anghar- edigrwydd a arddangosodd at gydymaith cymharol ddieithr yn yr ardal; ac os na chyd- nebydd ei fai, disgwy'iaf iddo ei adael. Byddai hyny yn ddigon i mifedru anghofio pob camwri dderbyniais. Boed felly, a pharhaed brawd- garwch yn ddilynoh Yr eiddoch, &c, LLIFON,
Advertising
OS YDYCH AM FWYNHAU IECHYD DA Y GWEDDILL O'E FLWYDDYN, DEFNYDDIWCH BITTERS GWILYM EVANS. Cymvysa y Meddyglyn rhagorol hwn rin- weddau iachaol ac adgryfhaol y prif lysiau meddyginiaethol adnabyddus trwy yr holl fyd. Cymeradwyir gan FEDDYGON," DADANSODDWYR, A FFERYLLWYR, A chanmolir gan bawb sydd wedi rbodd; prawf arni fel Meddyginiaeth Orelt yr Oes. A phob math o wendid. Y mae yn gvvella doluriau a chlwyfau yn yr Ymysgaroedd, yr Arenau, a'r Atu, ac yn feddyginiaeth sicr iddynt. BITTERS GWILYM EVANS. 1YSTIOLAETHAU. Mae'r cryd a'r mwyth, a llesgedd, A phob anhwyldeb blin, o flaen y Quinine Bitters, Yn ffoi i'w le ei hun. CYNONFARDD. PYLE, Awst ITeg, 1897. Pyle, Awst ITeg, 1897. Anwyl Syr,—Pan ddycliwelais adref ycliydig LLESGEDD. ddyddiau yn ol, ar ol llarario galea am rai wytliuosau, teimlwn yn lluddedig iawn, ac wedi llwyr ddifl'ygio, ac mewn angen am donic da i'm hadgryfliau. Anogwyd fi i roddi prawf ar eich Quinine Bitters enwog. Gwnaethum hyny, a chefais ef yii. hyiiod effeithiol. Mae yn rhoddi yni newydd Yllof, ac yn bywiocau yr ysbryd; mewn gair, teimlaf ei fod yn gwneyd dYll newydd O honof.—(Parcli.) GI itxos JONES HITTERS GWILYM EVANS. Gochelwch Dwyllwyr. Edrychvvch fod enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a pliotel. Gwerthir hwynt mewn poteli 2s. 9c., a is. 6e. yr un Blycliau yn cynwys tair potel 413. 6c. am 12s. 6c. I'w cael yn mhob man, neu dantbuirluvy yn rhad am y prisiau uchod yn ddyogel drwy y post oddiwrth y perclieiiogioli,- QUININE BITTERS MANUFACTURiNG COMPAQ LLANELLY, SOUTH WALES. GOliUClIWYLIW11 YN AiiEiiLCA— Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Tunn. Dillad f'J ewyddion at yr haf. DYMUNA EVAN 'JONES, CEMMES, Hysbysu pawb sydd yn bwriadu cael dillad newyddion at yr Haf, ei fod wedi cael STOC HELAETH 0 ddefnyddiau dillad i ddynion a merched, A'i fod wedi sicrhau gwas- anaeth GWEITHWVK PROFIADOL, fel y bydd i bob dilledyn gael ei droi allan yn flitio, ae yn I y Style niwyaf diweddar. Pobpeth yn newydd Pobpetli yn dda. CAMBRIAN railways. RAIL & COACH EXCURSIONS Are now run on EVERY WEEK-DAY As under:- By Rail to Llanfyllin, Rhayader, Glandovey, Aberystwyth, Towyn, Corris, Dolgelley, Llanbedr & Pensarn, Portmadoe, Pwllheli. Thence by road conveyance to Lake Vyrnwy, Is antgwillt and Elan Valley (Birmingham Corpor- ation Waterworks), Llyfnant Valley (Glaspwil Cascade and Cwmrhaiadr Waterfall), Detil's Bridge, *Talyllyn Lake and *Cader Idris, Torrent Walk, Precipice walk, Tynygroes, Rkaiadr Du, Rhaiadr Mawddach, and-Pistyll y Cacn; Mochras Island (the Island of Shells), Cwmbychan Lake, Drws Ardudwy, and Rhinog Valley; Tanybwlch and Maentwrog Waterfalls, Beddgelert, Abersocli and Nevin *Passengers may either travel to Towyn, thence by Coach to Talyllyn and back, 9JI by Circular Tour via Towyu to Talyllyn Lake, returning via Corris and Machynlleth, or vice versa. They may' also travel via Machynlleth aud Corris to Talyllyn, and return by same route. A New Tour from Towyn to Gwastadfryn, at the foot of Cader Idris is now in operation. IC S. DENNISS. General Manager.
COLLWYD.
COLLWYD. GAST ieuanc, ddu, ael goch, yn ateb i'r enw 'Queen.' Gwobrwyir y neb a rydd hys- bysrwydd am dani. Ymofyner ag R. L., Swyddfa'r NEGESYDD
YN ELSIAU.
YN ELSIAU. SEIRI 1\1 EII VII yr Era Welsh Slate Quarries, Esgair:eiliog. Hir waith. Ymof- yner a MR. J. WOOD.
yTHSGHTDD
yTHSGHTDD TELERAU AM HYSBYSIADAU. Am hysbysiadau o "Yn Eisieu," &c., yn cynwys 16 o eiriau 6d Tair gwaith i s. 20 gd. is. 6d. 30 „ is „ 2s. 40 P, is. 6d. „ P, 3s. 50 „ 2S 4s Cyfeiriad, "Negesydd" Office, CORRIS, R.S.O.
LLANBEDR, MEIRIONYDD.
LLANBEDR, MEIRIONYDD. YSGOL T BWRDD.-Mae adroddiad blyn- yddol Arolygydd y Llywodraeth newydd ddyfod i law, yr hwn sydd fel y canlyn 1 Mixed school: The school has now reached, in spite of much interruption from epidemic p sickness, a very praiseworthy standard of efficiency. Its condition is very cveditablo to the master's diligence and tact.'—Infant's Class 4 The infants, too, show careful and diligent teaching. They are on the whole well advanced in their work.'—G. Edmunds is continued under Article 68 of the Code. Enillwyd fel grant 20s. 6c. y pen,
Al\fR \ \V 10 l{.
Al\fR \V 10 l{. Mae cynllun ar dioed i'r corau buddugol yn y Werddon a Cliymm i gystadlu a'u gilydd yn y Feis Ceol a gvnhelir yn Dublin mis Mai nesaf. Mae y Parch. W. G. Owen (Llifon), yr hwn sydd wedi bod yn llafurio am y ddwy flynedd ddiweddaf o dan nawdd Symudiad Cenhadol y Bedyddvvyr yn Nghorris, wedi derbyn gwahoddiad unfrydol i ymgymeryd a gofal bugeiliol eglwysi Penrhyn a Tal- sarnau, yn Meiriouydd. With weled ei holl drefedigaethau yn myned oddiarni, llunwyd Spaen a galar mawr. Cyhoeddodd un o'r papyrau y tel- erau heddweh ac ymyl ddu o'u hamgylch, ac mae bron yr oil o'r newyddiaduron yn datgan gofid tost o herwydd fod y fath gytundeb wedi ei arwyddo. Y mae newyn a thlodi trwm yn Itali. Dywedir fod cyflwr cymdeithasol y wlad yn annesgrifiadwy. Mae yn y wlad brydferth hon gynifer a 260,000 o bobl yn rhy dlawd i breswylio mewn tai; tyllau ac ogofeydd tanddaearol yw eu cartrefi. Rhaid pi-iodoli yr ystad arswydus ar bethau mewn rhan, i fyw uwchlaw eu sefyllfa, ar ran y bendefig- aeth a'r Llywodraeth. Mae tollau ucliel a threthi tvymion wedi dwyn y deyrnas i ffiniau chwyldroad. Anhawdd gwybod beth i wneyd, wylo neu chwerthin, yn ngwyneb ymddygiad hunanol Ymherawdwr Germani. Waeth beth fyddo yn mlaen, rhaid yw iddo ef ion am dano ei hun. Y dydd o'r blaen, defnyddiodd hyd yn nod angeu Bismarc yu faulawr iddo ef son am dano ei hun, a myfian o flaen y gwledydd, gan wneyd arddangosiad o'i ffug-alar gerbron yr holl bobloedd Yr hyn a greodd Bismarc o dan Gwilym Fawr (sef ei daid). eb efe mi a'i cynhaliaf ac a'i dadblygaf. Yn hyn cyn- orthwyed Duw fi.' Nid oes eisiau hyny, Gwilym.
ABERGYNOLWYN.I
ABERGYNOLWYN. MA.RWOLAIRTH.Dydd Sadwrn, y 13eg cyfisol, bu farw Mrs. Pugh, Railway Inn, yn 38ain oed. Yr oedd yn wanllyd er's rhai misoedd. Torodd wythien waed tua thri mis yn ol, ac nid oedd fawr obaith am ei gwellhad. Merch ydoedd i'r diweddar Mr. E. Jones, Rhowniar, ger Aberdyfi. Yr oedd o ochr ei mham yn hanu o hen deulu Ty'nllechwedd a Cliwmeiddaw, Corris. Yr oedd yn wraig neillduol am ei challineb, ac yr oedd pawb yn hynod hoff o honi. Gad- i awodd briod a phedwar 0 blant ar ei hoi yn amddifaid. Claddwyd hi yn unol a'i chais yn mynwent newydd Towyn. Yr oedd yr angladd yn un paichus a hynod luosog. Gweiuyddwyd gan y rheithor.
LLYS YR YNADON. DYDD GWENER.
LLYS YR YNADON. DYDD GWENER. 0 flaen Dr. E. Jones, R. W. Williams, Yøw., a J. M. Jones, Ysw., cyhuddwyd Thomas Lewis o ymosod ar William Colley, a'i fygwth gyda dryll llwythog yn Penmaen- pool y dydd blaen orol. Plediodd y cal-cliaroi, ei hun yn euog. Dirwywyd ef i lp. a 15s. o gostau. Dydd Sadwrn, gerbron F. Evans, Ysw., a J. M. Jones, Ysw., cyhuddwyd William Samways gan yr heddgeidwad Owens, o fod yn cysgu mewn beudy ar fferni Nantygwyr- ddail. Cafwyd ef yn euog, a dedfrydwyd ef i fis o garchar gyda llafur caled. Ym- ddengys fod y cyhuddedig wedi myned drwy ran uchaf y dref, gan beri dychryn i lawer o herwydd yr olwg ofnadwy oedd arno. Cafwyd Samways yn cysgu ar lawr beudy yn Nantygwyrddail-tua 5 milldir o Ddolgellau. Yr oil a feddai am dano oedd darnau o ryw fath o grys, ac am ei goesau hen sach wedi ei chylymu, a mwy na haner ei gorff yn noeth, a cliafodd yr heddgeidwad gryn waith i'w orfpdi i ddyfod gydag ef.
|CORRIS.
CORRIS. YR ARDDANGOSFA.— Cynlialiwyd cyfarfod nos Wener yn yr Ysgoldy Ceuedlaethol, dan lywyddiaeth Mr. E. Griffiths, Ffynon- badarn. Rhanwyd y gwobrwyon ynddo, yna dewiswyd y swyddogion a'r pwyllgor am y flwyddyn ddyfodol. 1Jlywydd, Mr. H. Davies, U.H.; trysorydd, Air. E. Lewis, Gaewern cottage. Yr ysgi-ifenydd a'r pwyllgor gweithiol i'w dewis yn y cyfarfod nesaf o'r pwyllgor. 0 herwydd yr hin wlybyrog ar ddydd yr arddangosfa, lleiheir y drysorfa y flwyddyn hon, ond dangosai y cyfarfod benderfyniad i barhau'r sefydliad mor effeitbiol ag erioed. Enillwyd yr Her-Gwpan Aiian am y nifer fwyaf o wobrwyon blaenaf gan Mr. Richard Davies, Penrhos, Corris. Dyma yr ail flwyddyn o'r tair ag y llwydJodd yn y gystadleuaeth lion. nymunwn gywiro'r adroddiad am y gys- tadleuaeth mewn Mel, a ymddangosodd yn ein colofnau. Fel y canlyn y dyfarnwyd 1, Rowland Davies, Aberangell; 2, Thos. Davies, Llanbrynmair. YR YSTAFELL GYHOEDDUS.—Nos Fawrth, yn Ysgoldy y Bwrdd, daeth cynrychiolwyr o holl eglwysi y cylch ynghyd i gyfarfod y boneddwr sydd yn addaw adeiladu yr ystafell uchod. Dewiswyd Mr. Jeremiah Williams, Rhiwawel, yn gadeirydd, a H. R. Williams (Ilwydrudd), yn ysgrifenydd. Hysbyswyd mai Mr. W. Jones, Mount Pleasant, yw y boneddwr a gynygia adeiladu yr uchod, yr hwn a eglurodd ei gynllun, ac a osododd gerbron dri o delerau, sef 1 Fod yr ardalwyr i gefnogi ei anturiaeth drwy gynal pob cyfarfodydd fel cyngherddau, &c. yn yr ystafell, a'i fod yntau i dderbyn pris teg am wasanaeth yr ystafell. 2 Ei fod yn barod i'w hadeiladu a'i gosod ar rent biynyddol rhesymol i'r ardal. 3 Ei rhoddi allan mewn 08 i 10 o gyf- randaliadau o 50p. yr un. Yn dilyn, caed J-hydd-ymddiddan ar y telerau hyn a phasiwyd i ofyn i Mr. Jones roddi manylion arbenig, a'u hanfon drwy yr ysgrifenydd i'r gwahanol eglwysi, ac ar ol hyny fod cyfarfod o'r cynrychiolwyr i gael ei alw eto.—LLWYDRUDD.
CWMLLUNE.
CWMLLUNE. Bu Ysgol Sabbothol Annibynwyr y lie ualiod ar ymweliad ag Aberystwyth dydd Llun diweddaf, a maxvi yw y canmol am y ddarpariaeth i gael dau bryd o fwyd blasus, ac uwchlaw y cwbl, canmolir Rhagluniaeth fawr y nef am hin liyfryd i fwynhau awelon y mor. Tebyg y bydd yn beth anhawdd atal yr ymwelwyr hyn y flwyddyn nesaf os byw ac iach a fyddant. Daeth pawb adref yn ddianaf.