Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

YN EISIAU.

Y * NKGESY30D TELERAU AM H…

HEDDWCH.

GLOWYR Y DEHEUDIR.

AMRYWiON.

DINAS MAWDDWY.

ARDDANGOSFA ARDDWllOL ABEEGr…

CYNGOR TREFOL MACHYNLLEl H.

BWRDD YSGOL TALYLLYN.

Y MAIICHNADOEDD.

Family Notices

(D lalithi art li all. I--

News
Cite
Share

(D lalithi art li all. LLIFON AC EISTEDDFOD CORRIS YN Y PRAWF. Syr,—Anhawdd peidio diolch i Llifon am fod mor raslawn a thori dros ben haeddiant fy 'mymryn ysgrif,' ond yr wyf yn fyw ac iach. Hwyrach y bydd rhai yn synu at hyny, a finau wedi bod dan y golchbren, a chael y fath gurfa Prawf fod achos yn ddrwg yn y llys gwladol ydyw fod y daclleuydd yn ymosod ar y dadl- euydd fydd yn ei erbyn, a hawdd gweled fod achos hwn yn un drwg, canys mae yn osgoi ar ei union bron bob pwynt sydd yn fy llythyr, ac yn defnyddio y rhan fwyaf o goloftim a haner yn y NEGESYDD i wneyd ymosodiadau arnaf fi. Yr ail frawddeg yn ei lythyr ydyw nid wyf yn cofio i mi erioed ddarllen dim mwy tila, di-bwynt, ac anfoesgar.' Dichon fod cof Llifon yn ansicr ar adegau fel hyn, a thrwy fod cylch ei ddarllen mor substantial, rhesymegol, a moesgar cynghorwn ef er mwyn amrywiaeth, i ail ddarllen ei druth os am weled ysgrif fwy 'tila, dibwynt, &c.' nag a anfonais i, ie, mwy anfoneddigaidd hefyd. Ofnaf hefyd fod yr yswigenod gwynt,' yn nes at Llifon nag at Aber Farm, a hwyrach mai fy mhechod mawr oedd cyffwrdd a rhai o honynt yn ddamweiniol. Sicrhaf ef mai rhoddi atebiad i fy llythyr a'r cwestiynau ynddo yw y ffordd fwyaf effeithiol i dori yr yswigenod y sonia am danynt, a synaf at hen law fel efe na buasai wedi deall hyny. Ymddengys i mi fed L'ifcn yn cael llawer o chwedlau, ac mae chwedlau yn debyg i gar dotwyr, yn myned yn gyson i'r lie y cAnt groesaw, a dichon mai dyna y rheswrn paham y ca yntau gynifer o honynt—cael croesaw y maent. Yr wyf yn barod i gynyg gwobr syl- weddol am brofiadol i ddcrbynwyr ystoriau gau, a hwyrach mai Llifon gai y wobr Y chwedl ddiweddaf gafodd mai twlyn wyf i arall neu eraill yn y drafodaeth hon. Twlyn neu beidio, mae yn dwlyn effeithiol; mae y llythyr a anfonais wedi selio genau Llifon ar y materion mewn dadl, acnid wyf wedi gweled dim yn y drafodaeth hon sydd yn galw am yr un twlyn anghyffredin iawn, mwy nac ysgrifbin, papyr ac inc. Ni ofynais iddo beth oedd hufen llefrith nac hufen ardal,' nac ymddoctora,' athron- yddu hanfod y naill na'r llall. Nid oeddwn yn synio yr adeg hono ei fod yn specialist mewn athroniaeth, ac yn sicr ar ol darllen ei lythyr, tosturiaf wrth ei athroniaeth. Gwaith dyddorol yw cymharu ei lythyr a'r Byr-nodion. Yn Byr-nodion, saif ar wahan i'r pwyllgor, a diolcha iddynt yn ddefosiynol, ond yn ei lythyr, mae yn rhedeg i gysgod y pwyllgor. ac yn nghysgod hwnw yn troi ei wyneb ataf ac yn gwaeddi sicrhaf chwi na lwyddwch i'm dilorni i heb ddilorni y pwyllgor sydd a'u barn a'u cymeriadau uwchlaw ainlieuaetli.' Wrth gvvrs, mi a wn mai ysgil Llifon i ddenu y darllenwyr oddiar y llwybr yw hwn, fel y dyrysir y cwn ar drywydd y llwynog gan ysgadenyn coch. Ond bydded hysbys, na bydd dim a wnelwyf fi a'r pwyllgor, nac a'r gwr hwnw, Ap Idris,—gwr sydd mor barod fel y gellir tybio, i wasanaethu ar Llifon. Dywed Llifon, Er mwyn pwy neu beth y dylaswn ddweyd tybed ? Pa egwyddor sydd yn oblygedig mewn dweyd neu beidio dweyd ?' Cynygiaf roi ateb i'r cwestiwn cyntaf yn yr adran hon fel liyn:-i Er mwyn Llifon 2 Er mwyn yr Eisteddfod a'i hyrwyddwyr; 3 Er mwyn achos y Bedyddwyr yn Coriis; 4 Er mwyn y gwirionedd. Yn awr, gofynaf os oedd yr ymdrafodaeth uwchlaw bod yn tinder handed pa ddarostyngiad ydyw i urddas natur neb, boed ddyn neu angel, i brofi hyny drwy atebiad syml? Nid trwy gyhoeddi urddas ein natur y credir ni fod yr oil yn gwbl reolaidd a chlir 0 bob hoced. Gwelwn fel y mae y Byr-nodion a'r llythyr wedi eu trydaneiddio a her ond nid yr un yw her y naill a'r llall, her i gyfeirio sydd yn y cyntaf, her i brofi' yn yr ail. Meddyliais fod fy nghwestiynau yn cyfeirio a dweyd y lleiai at arlliw gwaith underhanded, ond wele Llifon yn eu diystyru, ac yn gwaeddi Profer.' O'r goreu yr wyf yn derbyn yr her. Yn awr at y prawfion Dyna un prawf o waith underhanded yn nghychwyniad yr Eisteddfod, honir ei bod yn Eisteddfod Gwyr leuainc Corris. Wrth hyn, golygir fod yr Eisteddfod yn cael ei chychwyn a'i chario yrnlaen gan wyr ieuainc Corris yn gyffredinol. A yw hyn yn wir ? Dim o'r fath beth. Pasiwyd i'r Eisteddfod fod heb i wyr ieuainc yr ardal gael llais ynddi, a heb i'r rhan fwyaf o honynt wybod dim am dani. Prawf arall oedd y ffordd gymerwyd i alw ynghyd y pwyllgor oedd i drefnu cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal. Daeth pwyllgor o ddewisiad un dyn ynghyd yn ddistaw rhyw noson heb i'r ardal wybod dim am dano, i drefnu y cyfarfod cy- hoeddus hwn. Prawf arall oedd y brys ag y pasiwyd yn y pwyllgor cyntaf i ba le yr oedd yr elw i fyned. Wele Llifon cyn gwybod o'r ardal ddim am y pwyllgor na'r Eisteddfod, yn sicrhau y peth prin a blasus hwnw at achos y Bedyddwyr. Prawf arall. Dywedir i rai o'r gweinidogion gael eu cynyg ar y pwyllgor" ond gwrthwyneb- odd Llifon hyn, er fod rhai o honynt yn llawn asbri eisteddfodol. Mae saith o weini- dogion eraill yn yr ardal, a chwech y gellir eu rhestru ymhlith y bobl ieuainc os rhestrir Llifon felly, a thri o honynt yn ieuengach eto: Ond nid ynganodd air wrth un o honynt am yr Eisteddfod hyd o fewn ychydig ddyddiau i ddygiad allan y rhaglen, er iddo fod yn cyd- gynal cyfarfodydd a hwynt. A yw hyn yn argoeli fod ei asgre mor lan ag y myn i ni gredu. Eto, gofynaf paham na buasai yn rhoddi ei her cyn yr Eisteddfod ac yntau yn gwybod fod llawer yn ei herbyn oherwydd y dull y cychwyn- wyd hi ? Sylwer pan y sonia am fargen am fuwch neu geffyl, dengys ei fod un ai yn taflu llwch i lygaid y darllenwyr neu yn twyll ymresymu. Mae gwahaniaethj rhwng gwerthu buwch neu geffyl, a nofio eisteddfod Nid oes ond dau i fod yn enillwyr neu golledwyr gyda'r fargen gyntaf, ond rhaid wrth gydweithrediad canoedd os nad miloedd i nofio, eisteddfod, ac os bydd yr elw at achos arbenig, fod hyrwyddwyr yr Eisteddfod yn foesol rwym i'r ardalwyr Nis gellir cydnabod yr egwyddor hon tra na byddo ond dau yn y parti. Mae y prynwr a'r gvverthwr ar eu own hooks, ond ar hooks pwy yr oedd yr Eisteddfod. Pwy roddes ei nawdd iddi ? Onid yr ardalwyr yn benaf ? Mae ei hyrwyddwyr yn gyfrifol i'r ardal, ac i ardalwr os bydd yn enau drostynt. Rhydd Llifon gynghorion difrifol i mi. Ceisia gasglu y pwyllgor i'w lawes, ond cofied nid ag us y delir hen adar;' hen adar yr ardal, yn ogystal a'r pwyllgor. A yw peth fel hyn heb arlliw hoced arno? Yr wyf yn cymeryd y cynghorion am eu gwerth, ond nid wyf yn strikio o'r ring yn enw neb pwy bynag. Atebion a ofynais, cynghorion mursenaidd a gefais, yn nghanol tryblith aflunaidd, myfiol, honiadol, a gwag. Yr eiddoch yn ddiogel, Aberllefenny Farm. W. WILLIAMS. [Gorfu i ni dalfyru y llythyr o herwydd diffyg gofod.-GOL. ]

HOFF GI MR. GLADSTONE.

Advertising