Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

OAFWYD.

----Y NEGESTDD TELERAU AM…

DAU ETHOLIAD.~-

Y RHYFEL.

CYNCOR RHYDOFBYDOL CYMRU.

ARDDANGOSFA AltDDWROL CORRIS.

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS…

News
Cite
Share

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS DAN FEIRNIADAETH. Syr,—Haeddiant y mymryn ysgrif anfonwyd i'r NEGESYDD gan Mr W. Williams, Aber- llefenny Farm, ydyw diystyrwch distawrwydd. Nid wyf yn cofio i mi erioed ddarllen dim mwy tila, di-bwynt, ac anfoesgar. Buasai yn cael dianc yn hollol ddi-sylw' oni bai am y posibil- rwydd i'w hysgrifenydd ac eraill dynu cam- gasgliad. Ac ar wahan i glirio ychydig ar yr awyr, dichon y llwyddir i wneyd peth lies i'r ymyrwr ei hun. Posibl y bydd yr oruchwyliaeth arferir tra yn tori ambell yswigen wynt yn ymddangos yn un led lem. Ond digied a ddigio, yr ydym wedi penderfynu na chaiff gorofal am dynerwch ein hatal rhag rhoddi y driniaeth a ystyriwn yn ofynol. Mewn un ystyr y mae yn dda genyf fod W. W. wedi cymeryd y maes ar bwnc yr Eisteddfod ac yn arbenig wedi ei gymeryd heb hugan ffug- enw. Hysbyswyd fi y buasem wedi ein breintio (?) a'i ysgrif un wythnos yn nghynt oni bai iddo fethu gweled ei ffordd yn glir i roi ei enw dani yn y modd a roddasai i'r darllenydd fantais i'w adnabod. Llongyfarchwn ef ar yr ychwanegiad presenol at ystorfa ei wroldeb. Y peth cyntaf ddaw dan ein sylw ydyw ei gyfeiriad at y chwedleuon y rhoddais awgrym chwareus am danynt. Dynaa fel yr ymddoctora W. W. uwchben yr awgrym hwnw :—' Hyd y gwn i, ni wnaed dim i'r cyfeiriad a nodwyd fel ag i ddrygu dim ar Iwyddiant yr Eisteddfod.' Ie siwr, hyd y gwn i.' Eglur yw fod terfynau eich gwybodaeth, fel pob meidrolyn arall, yn gyfyngedig, a mantais fawr yw tewi pan heb wybod. Soniais am y chwedleuon nid am eu bod wedi drygu yr Eisteddfod, ond er dangos eu bod yn ddi-sail. Ceisia W. W. roddi ar ddeall i mi grybwyll am duchangerddi i ardal- wyr Corris fel y cyfryw. Onid awgrymu am un i Ddyfeiswyr ystoriau gau' a wnaethum ? Nis gallaf lai na thybio fod rhywbeth tebyg a dweyd y lleiaf, i falais wenwynig yn llechu yn bur agos i galon yr un allai lunio ac ysgrifenu y braw- ddegau sydd yn niwedd y paragraff cyntaf. Cyn gadael pwnc y chwedlau yma, nid anfudd- iol fyddai adgoffa fod chwedl arall wedi ei geni yn ardal Corris er ymddangosiad ei ysgrif. Y chwedl yw hon Nad yw W. W. ond twlyn yn llaw arall neu eraill yn y drafodaeth hon. Chwedl ddi-sail yw hon mae'n dra thebyg. Os felly, disgwyliaf y daw yn gefnogol i'm testyn, a phosibl y daw yn barod i chwanegu at y wobr. Sylwer, nid yn unig gwneir cais i greu atgasedd tudg ataf fi yn bersonol, ond amcenir hefyd osod y Pwyllgor a'r Corrisiaid yn ddau barti anghydgordiol. Ond dilys genyf fod craffder y Corrisiaid yn ddigon i'w cadw allan o rwyd fel hon. Gwyr y Pwyllgor yn dda am y rhan ar- benig fu ganddynt yn nghyfodiad yr oil o'r corau. Gwyddant hefyd iddynt gael yr ael- odau yn gwbl barod i ymuno, ac ar ol ymuno, canasant yn deilwng o ardal gerddgar Corris. Gwelir felly fod y methiant' a'r I Ilwyddiant' y sonia W. W. am dano ynglyn a chodi'r corau yn bodoli yn unig yn ei ben ef ei hun. Do, cafodd yr Eisteddfod gefnogaeth ardderchog gan gyfangorph yr ardaloedd, ac o ddyfnder calon diolchir am y cyfryw. Methwn yn lan a deall beth sydd yn tueddu W. W. i wneyd cyfeiriadau mor sarhaus at y Pwyllgor. Os honodd rhywrai 0 honynt eu bod yn hufen yr ardal,' pa niwed sydd yn hyny? Heb fyned i athronyddu beth yw hufen llefrith na hufen ardal,' dywedwn yn ddibetrus ei fod yn Bwyllgor digon hufenaidd i gael ei barchu, a chredwn mai ychydig ddiolch dderbynia y neb a'u bychana heb achos. Yn awr, dilynwn yr awdwr i dir ei siomedig- aeth ar ol darllen fy eglurhad. Dyma fel y llefara Ond er fy siomedigaeth eglurhad annigonol yw, ni cheir ynddo ond swp o haer- iadau heb gymaint ag un prawf.' Hawyr bach, ni wyddwn fod gwr mor orad i,1d yn byw mor agos ataf Cofiecl pdwb a ddymuna gynyg eglurhad rhagllaw am y gorseddedig oracl hwn fel na'i siumer mwy. Yn dilyn ceir dau b tragraph ydynt yn ardd- angosiad o fedc \V \V. fel ymresymwr Wrth fyned drwy y brawddegau hyn, y mae yr arddull mor wasgarog ac i fesur yn wallus, fel y mae dyn weithiau mewn penbleth i wybod yn sicr beth sydd ganddo mewn golwg. uwn ef yn bur debyg i ddyn gyda mwgwd rhagfarn ar ei lygaid, yn mynu curo ei ben yn erbyn parwydydd ei gam-gasgliadau ei hun. Dy- laswn ddweyd, meddai W. W., a phwy yr ymgynghorais Er mwyn pwy neu beth y dylaswn ddweyd, tybed ? Pa egwyddor sydd yn oblygedig mewn dweyd neu beidio dweyd ? I bawb ydynt yn meddu meddwl clir i iawn- farnu myntumiaf fod yr eglurhad a roddwydyn ddigonol. Canfyddir fod ffordd chwithig \V. W. o ymresymu wedi peri iddo gasglu fod yn rhaid fy mod weJi ymgynghori a rhywrai cwbl wahanedig oddiwrth y Gwyr Ieuaiuc a ffurfient y Pwyllgor. Nid wyf yn dymuno bod yn hallt mewn beirniadaeth, ond yn sicr nid yn hawdd y ceir engiaitft o resymeg druenusach na hon. Gwn y cenfydd y darllenydd eudeb ei osodiad a geudeb ei gasgliad. Waeth heb ddyfetha gofod, digon yw dweyd fod yr ymresymiad oil yn un coeg, cibddall, ac anghywir. Yn sicr i chwi, nid peth fel hyn a'm hatalia rhag honi yma eto fod pobpeth wedi ei wneyd yn gwbl reolaidd ac anrhydeddus; a rhoddaf eilwaith her i undyn i brofi drwy resymeg deg, fod yn nglyn a'r Pwyllgor na'r Eisteddfod ddim anghyfansoddiadol na dim ag arlliw gwaith under-handed arno. Gwn yn dda fod y Pwyllgor yn barod i ddwyn tystiolaeth fod y cyfan oil o'r cychwyn hyd y terfyn wedi eu cario yn mlaen 'yn ngwyneb haul llygad goleuni.' Yn awr, gofynaf i Mr. W. Williams dderbyn yr her hon. Dealled mai nid y fi sydd i ymwaseiddio i fyned i ateb ei gwestiynau ef. Gorphwys baich y cyfrifoldeb o angenrheid- rwydd arno ef. Efe ddylai brofi yr hyn y mae mor anfoneddigaidd wedi ei ensynio. Os na wna hyn, bydd gan y darllenydd hawl i dynu ei gasgliad naturiol am dano, ac am y safie wrthun yr arweiniwyd ef iddi, Gorfodir fi i ddweyd gair neu ddau lied finiog parthed y cwestiynau a geir ar derfyn yr ysgrif. Teimlaf en bod yn rhai hynod an- foesgar, ac y mae urddas fy natur yn gwrth- dystio yn erbyn i mi ymostwng i'w hateb er mor hawdd fuasai hyny. Beth fuasai W. W. yn ei feddwl 0 honof fi, tybed, pe cyfeiriasiwn nifer o ofyniadau ato gan awgrymu nad wyf yn derbyn ei air am y pris dalwyd ganddo am fuwch neu geffyl, am bod yn hawlio y manyl- ion yn y ffordd o enw y gwerthwr a chopi o'r receipt, ac heblaw hyny fy mod yn ensynio na chredwn fod y drafodaeth yn un reolaidd ac anrhydeddus heb bob manylion o'r natur a nodwyd. Byddai genyf yr un hawl i wneyd y peth gwrthun ac anfoneddigaidd yna ag sydd ganddo yntau i'm coeg holi fel y gwna. Am wn i nad allaf ystyried y llith hwn yn derfynol cyn belled ag y mae a wnelwyf fi a'r drafodaeth; hyny yw, oni chyfyd rhywbeth cysylltiedig a. mi a'r hyn ysgrifenais. Ond os cir W. W. ysgrifenu rhywbeth yn dal perthynas a'r Pwyllgor a'r Eisteddfod, mae yr Ysgrifen- ydd llengar Ap Idris wedi addaw cymeryd y ddadl mewn llaw. Ganddo ef mae y cofnodion o weithrediadau y Pwyllgor, a thra yr erys y rhai hyn, gellir yn hawdd fforddio teimlo'n ddiogel er herio pob ymyrwr. Unig bwnc y ddadl yw, A sylfaenwyd yr Eisteddfod yn rheolaidd ac anrhyd- eddus ? Do, meddaf ft. Do, meddai'r gwyr craff a goleuedig a gyfansoddeiit y Pwyllgor. Yn awr, dyma'r her, Profer i'r gwrthwyneb. Ni honir perffeithrwydd, ond honir fod y cyfau oil yn gwbl reolaidd a chlir o bob arlliw hoced. Cyn sychu yr ysgrifbin, dymunwn ddweyd gair fel hyn wrth W. W., yr hwn sydd ddieithr ddyn hollol i mi. Gallaf eich sicrhau mai o anfodd y darfu i mi ysgrifenu y feirniadaeth hon ar yr eiddoch. Gwyddoch i chwi amcaiiu gwneyd cam difrifol a mi, a hyny yn hollol annheg a di-achos. Sicrhaf chwi na lwyddwcli i'm dilorni i, heb ddi- lorni Pwyllgor sydd a'u barn a'u cymeriadau uwchlaw amheuaeth. Gwyliwch gyfaill rhag cymeryd eich arwain yn ddyfnach eto i glai tomlyd eich amryfusedd. Yr eiddoch yn ddiogel, gydag asgre I.An.-LLIIION.

IMARWOLAETH PARCH. T. HUGHES,…

DOLGELLAU.

PICO LLOCELIAD YN FFAIR MACHYNLLETH.

BWLCH, ger TOWYN.

Family Notices

Advertising

AMRYWION.