Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
MARWOLAETH BISMARC.'
MARWOLAETH BISMARC. Am un ar ddeg nos Sadwrn, bu farw y Tywysog Bismarc, y gwr a ddygodd Germani i'r safle y mae ynddi ar hyn o bryd. Ganwyd sf ar y dydd cyntaf o Ebrill, 1815. Efe, mewn cysylltiad a'r Ymherawdwr William I., a'r Cadfridog Moltke, a fu yn foddion i asio man dalaethau Germani gyda Phrwsia, a gwneyd un ymherodraeth fawr. I gyraedd yr amcan hwn, dygodd oddiamgylch ryfel- oedd yn erbyn Denmarc, Awstria, a Ffrainc, a bu yn llwyddianus yn ei holl gynlluniau. Yn 1871, penodwyd ef yn Ganghellydd yr Ymherodraeth, a daliodd y swydd hono hyd nes y daeth yr ymherawdwr presenol i'r orsedd. Gan nad allai'r ddau hyn gyd- dynu, ymddiswyddodd Bismarc, a threuliodd ei flynyddau diweddaf mewn neillduaeth.
PWYLLGOR HEDDLU MEIRION.
PWYLLGOR HEDDLU MEIRION. Abermaw, dydd Mawrth diweddaf. Pres- enol :—Dr. Edward Jones, cadeirydd, Mri. R. G. Pritchard, John Davies, Morris Thomas, E. H. Jonathan, a W. P. Evans. Yr oedd yn absenol dri aelod apwyntiedig gan y Cyngor Sirol, a'l oil a apwyntir gan y Frawdlys Chwaiterol. Gan fod y nifer oedd yn bresenol yn annigonol o un aelod i ffurfio quorum, sef saith, ni wnaed ddim gwaith yn y pwyllgor. Oyfarfod arbenig ydoedd, a'i amcan i ystyried cofeb a gyf- lwynwyd gan ddirprwyaeth yn y eyfarfod diweddaf, dros Gymdeithas Ddirwestol Meirion, yn mhlaid arolygiaeth fanylach ar y tafarnau, cau mynedfeydd gormodol sydd iddynt, atal gwerthu diodydd i blant dan 13 oed, gwrtlisefyll y tied houses, &c. Ym- driniwyd yn anffurfiol a'r materion hyn am beth amser, ond ni phasiwyd un pender- fyniad oherwydd y rheswm uchod. Nid oedd un cynrychio]ydd dros Gymdeithas Ddirwestol Meirion yn bresenol.
ABERGYNOLWYN.
ABERGYNOLWYN. DAMWEINIAU.—Cymerodd dwy ddamwain le yn y chwarel hon yr wythnos ddiweddaf. Cymerodd y gyntaf le dydd Iau, trwy i gareg syrthio ar law dyn ieuanc o'r enw leuan Roberts, a dadgymalu dau o'i fysedd.—Dydd Gwener, drachefn, tuag wyth o'r gloch yn y boreu, cymerodd damwain arall le. Fel yr oedd dau o'r gweithwyr, o'r enwau E. Lewis, Tanybryn, ac Evan W. Jones (Llangynog), yn myned i lawr at eu gwaith, rywfodd torodd y rhaff, a syrthiodd y ddau i'r dyfnder, yr hwn oedd tua deg neu ddeuddeg Hath. Yr oedd un o'r ddau yn hollol anymwyb. odol pan aed atynt, ond yr oedd y llall yn lied dda wrth feddwl am fawredd y codwm. Wedi i'r meddygon gyraedd, gwelsant fod Jones wedi ei anafu yn ddifrifol. Yr oedd wedi tori ei ddwj fraich (a'r aswy mewn dau fan), ac wedi tori trybedd ei ysgwydd, heblaw archolli ei ben, ei wyneb, a'i fraich yn ddrwg iawn. Yr oedd y meddygon yn dweyd fod un o'i asenau wedi ei thori, a bod ei ysgyfaint (lung) wedi ei harcholli, fel mai gobaith gwan oedd ganddynt am ei adferiad. Ond y mae yn dal yn fyw hyd yn hyn. Y mae yn frawd i'r Parch. Robert W. Jones (M.C.), Towyn.
JIWBILI YSGOL LLANYMDDYFRI.
JIWBILI YSGOL LLANYMDDYFRI. Dydd Iau diweddaf, datlilwyd jiwbili sefydliad y Ooleg Eglwysig yn Llanymddyfri, ac yr oedd y gweithrediadau yn ddj-ddorol a llwyddianus. Cynhali\v3rd gwasanaethau yn gyntaf yn Eglwys Llandingat, a chapel y Coleg, lie y pregethodd Esgob Caerlleon. Yn y prydnawn, cynhaliwyd cyfarfod mewn pabell yn cynwys tua 400 0 wahoddedigion. Llywyddwyd gan Arglwydd Tredegar, a'r prif siaradwyr oeddynt Arglwydd Cranborne, mab y I'rifweinidog, Esgobion Llanelwy a Tyddewi, Dr. James, Prifathraw Rugby, a Syr J. Hills-Johns. Yn ol yr adroddiad a ddarllenwyd, sef- ydlwyd y coleg yn 1848, gan Mr. Thomas Phillips, moddyg a ddychwelodd o India. Gadawodd waddoliad o 700p. y flwyddyn at gyflogau yr ysgolfeistriaid, a derbyniwyd gwaddoliadau eraill. Yr oedd yu yr ysgol le i 52 o ysgolheigion fyrddio, a darperid lie i'r 67 gweddill mewn tai yn y dref. Yr oedd angen mawr am chwanegiad yn yr adeiladau. Byddai y gost tua 10,000p., a bwriedid apelio at haelfrydedd y cyhoedd am eu cynorthwy. Darllenodd y Warden (y Parch. 0. Evans), restr o'r enillwyr yn yr arholiadau.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH. Cynhaliwyd cyfarfod y Llywodraethwyr dydd Gwener diweddaf. Presenol: Parch. Josiah Jones, cadeirydd, Mr. R. Rees, is- gadeirydd, Mrs. Davies, Mrs. Jones, Dr. A. 0. Davies, a Mr. W. M. Jones. Y NODACHFA.—Cyflwynodd Mrs. Davies adroddiad o gyfrifon y Nodachfa. Yr oedd y derbyniadau yn 453p. 9s. 2c., taliadau 51p, 4s. 2c., yn gadael gweddill o 402p. 5s. i'r gronfa adeiladu. Yr oedd rhan o'r nwyddau heb eu gwerthu, a gwneir trefniadau pellach gyda golwg arnynt. Pasiwyd dioleh i'r swyddogion am eu gwasanaeth. CYDYMDEIMLAD.Pasiwyd penderfyniadau o gydymdeimlad a Mr. D. D. Williams a'r teulu am golli eu mab drwy foddiad, yr hwn oedd yn un o'r ysgolorion ac hefyd a theulu y diweddar Mr. T. Owen, A.S. YSGOLOMAETHAU.—Ar gynygiad Mr. W. M. Jones, pasiwyd i adnewyddu tair ysgol- oriaeth fel y canlyn :—T. W. Phillips, Cemmes, Percy Lewis, ac R. W. Morgan, y ddau o Machynlleth.—Oyflwynwyd adrodd- iad Mr. Tetley ar arholiadau yr ysgolor- iaethau. Saif y marciau fel y canlyn :— Safon 575 (Total Exemption for one year). David Lewis, Ysgol y Bwrdd, Machynlleth, 429; Goronwy Davies, eto, 400 Albert Evans, eto, 391; J. E. Evans, Ysgol Gened- laethol eto, 381; Elwy ap Ifor, Corris, 378. (Half Scholarship), M. A. Williams, Ysgol y Bwrdd, Machynlleth, 369; J. Davies, Dinas Mawddwy, 363 J. Evans, Ysgol y Bwrdd, Machynlleth, 354 E. M. Evans, eto, 347 A. H. Hamer, eto, 324 J. A. Breeze, Wern, 322. Yr ymgeiswyr eraill, Hannah Morgan, Wern, J. E. Jones, Ysgol Genedlaethol, Machynlleth, 320 yr un; C. E. Owen, Ysgol y Bwrdd, Machynlleth, 299; M. Howell, Pennant, 293 E. Jones, Llanbrynmair, 284; R. Jones, Aberllefeni, 268 David W. Wood, Corris, 258; J. T. Rees, Ysgol y Bwrdd, Machynlleth, 251; W. Lewis, Corris, 250; J. Jones, Corris, 234; Evan E. Lloyd, Pennant, 234; Thos. Robson, Derwenlas, 222; H. Ll. Roberts, Corris, 217 I. E. Roberts, eto 211 Annie D. Jones, Ysgol y Bwrdd, Machynlleth, 196; J. Williams, Aberllefeni, 195; M. Jones, eto 188. Ymgeiswyr yn yr ysgol (Safon 575), R. J. Humphreys, 436; R. W. Morgan, 412; E. A. Humphreys, 393; Charles Bowen, 362; J. Hughes, 333. Y rhestr arall oedd fel y caalyn:-R. H. Thomas, 326 Laura A. Williams, 326; Mgt. Williams, 322; E. Jones, 316 W. E. Jones, 313; John Owen, 259; D. Jenkins, 251 Gwladys Jones, 242; D. T. Edwards, 225.
YSGOL SIROL TOWYN.
YSGOL SIROL TOWYN. Mae yn amI wg fod yr Ysgol Ganoliaddol yn y lie hwn yn parhau yn ei heffeithiol- rwydd, a bod Mr. D. H. Davies yn parhau yn brifathraw medrus a llwyddianus. Yr ydys newydd gael prawf adnewyddol 0 hyn. Bu tri o'r ysgolorion yn sefyll arholiad diweddaf Prifysgol Llundain am Matricul- ation, ac wyth yn sefyll arholiad Prifysgol Cymru. t, A dyma y canlyniad :—y tri bachgen, J. Hughes, W. Roberts, a Ll. B. Willams, a safasant yr arholiad Llundeinig, wedi pasio yn y dosbarth blaenaf; a chwech allan o'r wyth a safasant arholiad y Brif- ysgol Gymreig, sef Annie C. Pughe, Lizzie W. Richards, David J. Roberts, Arthur E. Rowlands, Hugh W. Evans, a Taliesin Edwards, wedi pasio yn yr oil o'r pump mater yr arholid hwynt ynddynt, tra y pasiodd y ddau arall, set Ellen J. Roberts, ac Edward Jones, mewn pedwar. Yr ydym yn llongyfarch Mr. Davies a'i ysgol ar eu llwyddiant mawr.
TOWYN.
TOWYN. YNADLYS ARBENIG.-Dydd Gwener, ger bron Mri. J. H. Jones, a H. Haydn Jones, ymddangosodd David Pugh, Bryncrug, dan feichniafon, a chyhuddwyd ef gan yr Uwch- Aiolygydd Jones, Dolgellau, o ymosod ar yr 16eg cynfisol, yn Bryncrug, ar Edwin Awstin, Ysguboriau, gan beri iddo niweid- iau corphorol trymion. Erlynid gan Mr. R. Guthrie Jones, Dolgellau, yr hwu a alwodd Dr. Gladstone Jones i brofi nad oedd Awstiu mewn cyflwr galluog i fod yn bresenol. Dywedodd y meddyg ei fod yn parhau mewn seiyllfa haner-ymwybodol, ond nis gallai sicrhau y faine ei fod mewn cyflwr peryglus. Gohiriwyd yr achos eto am wytlmos, a gollyngwyd Pugh allan ar gyffelyb feichniaeth ag o'r blaen.
Y + NEGESYDD
Y + NEGESYDD TELERAU AM HYSBYSIADAU. Am hysbysiadau o "Yn Eisieu," &c., yn Cynwvs 16 o eiriau 6d.Tair gwaith is. 20 9d is. 6d. 30 11 I ..1 „ 2S. I 40 ib. 6d. „ „ 3s. 11 >> 11 45 Cyfeiriad, N egesydd Office, CORRIS, R.S.0,
"----CAMRAU AT YMREOLAETH.
CAMRAU AT YMREOLAETH. Y dyddiau hyn dirwynir i fyny waith y Senedd-dymor. Y brif Ddeddf eleni yw Cyfraith Llywodraeth Leol y Werddon, yr hon sydd yn ffurfio rhan bwysig a dyddorol yn yr ymdaith am Ymreolaeth. Mae ynddi ua blotyn pvvysig, sef yr adranau y prynir ewyllys da tirfeddianwyr y Werddon, trwy dalu iddynt 350,000p. y flwyddyn o'r trethi cyffredinol tuag at aierhau eu cydsyniad i'r Mesur democrataidd hwn. Cafodd yr undeb rhwng y Werddon a Phrydain ei sylfaenu ar lwgr-wobrwyaeth, ac mae yn anffortunus fod y symudiad cyntaf ar ffordd Ymreolaeth yn cael ei gario ymlaen ar yr un llinellau. Gyda'r eithriad hwn, gall pob Radical gymeradwyo y gyfundrefn yma o lywodraeth leol, yr hon sydd ar rai ystyriaethau yn fwy Rhyddfrydig nag a geir yn y wlad hon. Mae y ffaith i'r cyfryw fesur gael ei basio gan Lywodraeth Doriaidd yn dangos y symudiad sydd wedi cymeryd lie yn ystod y tair blynedd ar ddeg diweddaf. Dywedodd Arglwydd Salisbury yn 1885 fod Ymreolaeth o fewn terfynau lleol yn fwy peryglus nag Ymreolaeth mewn cylch eang. Y mae'r gwrthwynebiad i hyn yn awr wedi diflanu. Derbyniodd Mr. Gerald Balfour luaws o longyfarchiadau ar y cwrs doeth a rhydd- frydig a amlygodd gyda'r Mesur presenol. Hhodder iddo bob credyd am dano, ond nac anghofier talu teyrnged hefyd i goffadwr- 9 iaeth dau wr enwog a barotodd y ffordd. Mae'r deyrnged hon yn ddyledus i raddau i Arglwydd Randolph Churchill, yr hwn ddygodd gynygion 0 blaid triniaeth gyfartal mewn llywodraeth leol, ond a daflwyd heibio ar y pryd gan ei gyd-weinidogion, ag sydd yn awr ar ol llawer blwyddyn wedi eu raabwysiadu Ond i Mr. Gladstone y perthyn y gydna- byddiaeth benaf. Clywir yn fynych fod Ymreolaeth wedi troi yn fethiant. Mor bell ag y mae yn gwestiwn ymarferol yn awr mae hyny yn wir. Ond a gred rhywun y cawsid y mesur hwn gan y Llywodraeth Doriaidd, oni bai i Mr. Gladstone wthio'r cynygiad eangach i sylw ? Mae y cynygiad eangach hwnw wedi ei ohirio, ac i'w ben- derfyuu eto.
ABERMAW.
ABERMAW. GWASANAETH. Dydd Sul, cynhaliodd aelodau yr Home Reading Union, sydd ar hyn o bryd yn aros yma, gyfarfod yn yr awyr agored. Yr oedd lluaws mawr yn eu gwrando. Z3 YR YSGOL SIROL.-Dydd lau, torwyd yr ysgol hon i fyny hyd y drydedd wythnos yn mis Medi.-Mewn cyfarfod o'r llywodraeth- wyr a gynhaliwyd dydd Llun, penodwyd Mr. J. M. Edwards, Llanuwchlyn, yn awr 0 Rydychen, yn athraw cynorthwyol, yn ol y cyflog o 90p. y flwyddyn. Bydd Mr. Edwards yn ymafael yn ei waith yma ddechreu'r flwyddyn.-Da genym ddealli'r Prifathraw, Mr. E. D. Jones, M.A., enill deg gini am Draethawd ar Addysg, &c., yn Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog.
UNDEB DOLGELLAU.
UNDEB DOLGELLAU. BWRDD Y GWAROHEIDWAID Dydd Sadwrn, cynhaliwyd cyfarfod gohir- iedig y gwarchoidwaid, dan lywyddiaeth Mr. J. Evans, Abermaw. Derbyniwyd pump o geisiadau am y swydd o dreth- gasglydd plwyf yr Abenuaw a Llanaber. Hysbysodd y clerc ei fod ef wedi anfon at Fwrdd Llywodraeth Leol i hysbysu fod yr hen drethgaslydd wedi ymadawl a'r plwyf, ac yn dymuno ymddiswyddo er mwyn penodi un yn ei le. Daeth gohebiaeth o'r Bwrdd uchod yn dweyd, yn unol a'u harferiad, eu bod yn hawlio egluvhad oddi- wrth yr hen drethgas^lydd yn gyntaf, ac yna y cai y gwarcheidwaid glywed oddi- wrthynt. Yr oedd ef erbyn hyn mae yn ymddangos yn Capetown, a bwriada Bwrdd Llywodraeth Leol ymohebu ag ef ar unwaith. Rhaid hefyd oedd iddynt ymohebu a Ohyngor Dosbarth Abermaw o berthynas i'r Assistant Overseership. 0 dan yr am- gylchiadau, ni agorwyd y ceisiadau. OYNGOR DOSBARTH GWLEDIG. Adroddiad y Swyddog Meddygol. Cynhaliwyd dydd Sadwrn, yn Dolgellau, Mr. M. Roberts yn y gadair. Rhoddodd Dr. Hugh Jones, y Swyddog Meddygol, adroddiad o'i ymweliad ag amryw o leoedd yn ystod y mis. Ymhlith manau eraill, rhoes adroddiad o sefyllfa dreiniau, &c., yn Corris ac Aberllefenni. Dywedai:- Gorphenaf 3ydd, hysbyswyd fi am ddau achos o glefyd coch yn mhlwyf Llanfachreth, a dau achos cyffelyb wed'yn yn Bucliesau, ar y i2fed, Hefyd dau achos cyffelyb eto o Aber- llefeni. Ymwelais a'r gwahanol fanau, gan vroddi cyfarwyddiadau er atal ei ymledaeniad. Gorphenaf 5ed, ymwelais i gyda'r Arolygydd ag Aberllefeni a Chorris Pensarn Terrace, Aberllefeni. Canfuasom drein gyferbyn a ffrynt y tai hyn, a rhai o'r gratings wedi cau i fyny gan ysgarthion. Gwnaethom archwiliad ar gyflenwad dwfr y tai hyn-yr hwn a geir 0 ffynon mewn craig, ac mae yn rhydd oddiwrth lygriad. Yn Bluemaris ceir tomenau tail a chutiau moch o fewn 8 neu 10 Hath oddiwrth y tai, yrhai y dylid eu symud. Cyfienwir y rhai hyn a dwfr o ffynon mewn cae cyfagos, amgylchedd pa un sydd heb fod yn hollol lan. Caiff preswylwyr Blue Cottages eu dwfr 0 ffynon ychydig islaw ffrwd sydd yn rhedeg yn gyfochrog, i ba un yr ymarllwysa drein cutiau moch. Gwelsom ffynon dda uwchlaw y tai. Addawa rheolwyr y chwarelau ei chyfaddasu er budd y preswylwyr. Yn Glan- rafon, lie y bu achosion 0 glefyd coch, canfu- asom drein ddiffyglol tu ol i'r ty. Mae cyflen- wad dwfr ysgol Aberllefeni, a'r pedwar ty cysylltiol, Bryndulas, Islwyn, a dau dy capal yr Annibynwyr, yn y sefyllfa fwyaf anfoddhaol, a dylid cymeryd sylw uniongyrchol 0 hono. Yn Corris, talasom sylw i'r cyfienwad dwfr. Cyflenwir canol y pentref a dwfr 0 bistyll bychan Abercorris, rhyw 300 llath oddiallan. Mae ffynon arall a elwir Pistyll Penrallt. Ymddengys fod y ddau hyn o ansawdd dda. Ond mae eisiau gwell trefniadau i gyfienwi y pentref a dwfr. Yn Ysgoldy y Bwrdd ceir fod yr urinals, er yn newydd, yn ddrygsawr, a'r amgylchedd yn fudr. Y tai bach hefyd yr un modd, heb ddarpariadau priodol at eu cadw yn wahanol. Sylwasom ar nifer 0 dai yn Bridge Street, lie nad oes tai bach ar eu cyfer. Mae amgylchedd y lladd-dy a ddelir gan Mi. H. P. Humphreys, lie y gwelsom domen dail a chut mochyn, yn anfoddhaol. Ar y brif-ffordd 0 Braichgoch i gyfeiriad canol y pentref, ceir ffos fudr iawn Argymhe 11 wn-drain yma. Cynwysai dyfrffos yn nghefn ty Mr. John P. Jones lawer o ysgarthion Nid oes gan Corris ar hyn o bryd, gyfundrefn briodol o drainage, ac mae yr afon sydd yn rhedeg drwy y pentref yn gwasanaethu i raddau helaeth fel carthffos. Caiff hyn ein sylw mewn amser cyfaddas.
LLANGELY.NIN.
LLANGELY.NIN. ETlIOLIAD y BWRDD YSGOL.-Yiaddenc, s z3y erbyn hyn fod saith o bersonau wedi eu henwi fel ymgeiswyi am bump o seddau ar y Bwrdd hwn:—Dros Arthog, Mri. Owen Jones, J. O. Jones, ac Ellis Williams dros Llwyugwril, Mri. Thomas Griffith, Ellis Parry, a J. P. Richards; dros Rhoslefen, Mr. Griffith Davies. Oymerer y pôlle ar y 10fed o Awst, ac y mae arwyddion cryfion o frwydr galed.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. HUMPHREYS.—Gorphenaf 28ain, priod Mr. H. P. Humphreys, Gwindy, Corris, arfab. JONES.—Gorphenaf 28ain, priod Cadben W. O. Jones, Conroy House, Borth, ar fab. PRIODAS WILLIAMS—ALLEN.—Gorphenaf 26ain, yn St. Paul's, Aberystwyth, yn mhresenoldeb y cof- restrydd, trwy weinyddiad y Paich. J. Humphreys, Aberystwyth, Mr. H. Williams, Borth, a Miss Beatrice A. Allen, Caerdydd. MARWOLAETHAU. ARTER.—Gorphenaf 28ain, Mr. Enoc Arter, Manchester (gynt o'r Borth). Claddwyd ei weddillion yn mynwent henafol Llanfihangel, Gorphenaf 3oain, 0 dan y Ddeddf newydd, trwy weinyddiad y Parch. J. Rowlands, Cilfynydd JONES.—Awst 2il, Miss Naomi Jones, merch Mr. David Jones, Borth. Cleddir ei gwedd- illion yn mynwent Llanfihangel, dydd Gwener nesaf,
-------------DADLENIADAU HOOLEY.…
DADLENIADAU HOOLEY. [ Y mae y benod gyntaf yn nadloniadan brawychus Mr. Heoley, ffurfiwr y cwmniau masnachol, wedi ei chyhoeddi. Dydd Mercher cynhaliwyd y rhan ilaenaf o'i arholiad fel methdalwr; cymer y rhan arall le eto. Os yw yr adroddiad 0 ffeithiau yn agos yn gywir, dengys fod ystad masnach anturiaethus y deyrnas hon yn bwdr drwyddi. Dywedai y methdalwr fod ffurfio cwmniau Dunlop yn unig wedi costio iddo ef so,ooop. I Tolais 25,ooop. i larll De La Warr, a 12,OOOp. i larll Aber- marle.' Cafodd y ddau gyfreithiwr 20,000p. bob un. Costiodd enwau gwyneb-ddalen rhaglen y Cwmni rhwng go,ooop. a ioo,ooop. A dealled y darllenydd mai dodi benthyg eu henwau' yn unig fel cyfarwyddwyr i Gwmni Mr. Hooley a wnaeth y gwyr hyn. N, ododcl y methdalwr newyddiaduron hefyd y talasai filoedd iddynt er eu cadw yn ddistaw neu eniil eu ffafr. Parodd y dadleniadau gyffro dirfawr yn y Senedd, a thrwy y byd masnachol boreu lau.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. NODACHFA YR YSGOL SIROL.-Amean y nodachfa oedd dileu dyled adeiladau newydd- ion yr ysgol. Costiodd yr adeiladau, &c., 2,400P., a chasglwyd i gyfarfod a'r swm i,8oop. Arosai felly 6oop. Tuag at y 6oop., addawai Syr Henry Tate ioop. yn ychwanegol at y 2oop. a gyfranasai yn barod, ond i'r gweddill gael eu casglu yn mhen chwe' mio. Agorwyd y nodachfa, yr hon a gynhelid yn yr Assembly Rooms, dydd Mawrth, gan Mr. T. Edwards, U.H., Blaenau. Yr oedd yn bres- enol gynulleidfa fawr a pharchus, a'r olwg ar yr ystafell addurnedig, a'r marchnad-feinciau gorlwythog, tuhwnt i bob desgrifiad. Yn ychwanegol at y marchnad-feinciau sicrhawyd gwasanaeth Mr. Llew Wynne, Lerpwl,. gyda tableax vivauts Mr. Fred E. Young, gyda'r cincamotografih, a chaed gan Mr. Hutnber- stone, arddangosiadau gwyddonol a chelfydd- ydol. Dydd Mercher, agorwyd gan Mr. C. R. Williams, Dolmelynllyn. Dydd lau, ag- orwyd gan Mr. Watson Agorwyd dydd Gwener, gan yr Anrhyd. C. H. Wynne, Rug. Cyfanswm y derbyniadau oedd 520p. Dyledus cydnabod gwasanaeth arbenig a gwerthfawr Dr. Edward Jones tuag at wneyd y nodachfa mor lwyddianus.
Q¡)nbthíattbau.
Q¡)nbthíattbau. BYR-NODION AM EISTEDDFOD CORRIS. Syr,—Mewn rhifyn o'r NEGESYDD am Gorph 15, ymddangosodd ysgrif dan y penawd uchod, a thybiais na ddylai ddianc yn hollol ddi-sylw, canys gwelaf ynddi rai nodiadau ag sydd yn ymylu ar fod yn sarhaus. Cyfeirir at rai y dywedir eu bod wedi siarad llawer, ac wedi llunio llawer 0 chwedleuon di-sail 0 barthed i'r Eisteddfod. Hyd y gwn i, ni wnaed dim i'r cyfeiriad a nodwyd fel ag i ddrygu dim ar lwyddiant yr Eisteddfod. Rhaid addef fod y Corrisiaid wedi gweithio yn ganmoladwy iawn o'i phlaid, ac oni bae am eu hymdrech lnvy, yn ol pob tebyg mai troi aUan yn fethiant y buasai; canys methodd y Pwyllgor (er ei fod fel yr honir gan rai o honynt, yn hufen yr ardal) godi cymaint ag un cor i'r ymgyrch, tra yr oedd gan Corris gymaint a 4 0 gorau. Da iawn Corris, Chwi lafuriasoch yn helaethach na hwynt oil,' cewch eich gwobrwyo yn y man mewn caniadau o duchangerddi. Yn yr ail nodiad, dywed yr awdwr y dichon fod rhai o ddarllenwyr y NEGESYDD mewn angen eglurhad mewn perthynas i'w chychwyn- iad; ond er fy siomedigaeth, eglurhad an- nigonol yw, ni cheir ynddo ond swp o haer- iadau heb gymaint ag un prawf. Gelwir yr Eisteddfod hon fel y gwyddis, yn Eisteddfod y Gwyr leuainc, ac yr oedd yr enw hwn ar unwaith yn creu argraff ar feddwl pawb mai Eisteddfod berthynol iddynt liwy ydoedd, ond wrth ddarllen y 'Nodion' uchod, cawn arnynt rhyw wedd un-benaethol i'w ryfeddu, a thueddir ni i gredu mai nid felly yr ydcedd. Mor awgrymiadol onide y frawddeg ganlynol Meddyliais ac ymgynghorais inau.' Er eglur- had, dylasai ddweyd a phwy yr ymgynghorodd Mae yn amlwg mai nid a'r gwyr ieuainc, canys dywedir er cael rhestr o'r rhai tebycaf o gydweithredu,' ac mae yn debyg mai y gwyr ieuainc oedd y rhai hyny; felly cawn i bwyllgor gael ei ffurfio yn hollol annibynol ar bawb ond y cynghorwyr hyny, na wyr neb yn y byd pwy ydynt ond hwy ac ef ei hun. Ac er pobpeth, honir fod y cyfan wedi ei wneyd yn gwbl reolaidd ac anrhydeddus a herir undyn i gyfeirio at gysgod dim hyd yn nod ag arlliw gwaith under-handed' arno o'r cam cyntaf hyd y diweddaf. Os felly, ymfoddlonaf ar gael atebion i'r cwestiynau canlynol 'I Pwy oedd y rhai yr ymgynghorwyd a hwy? 2 Pa faint oedd nifer y pwyllgor cyntaf, a phwy oeddynt, a beth oedd y gwaith a wnaed yn hwnw ? 3 Trwy ba foddion yr etholwyd y rhai y caed eu henwau ar restr y testynau ? 4 Pa faint o'r gwyr ieuainc a gafodd lais yn y trefniant ac i benderfynu at ba beth yr oedd yr elw i fyned ? 5 Gan fod wyth o weinidogion yn yr ardal, pa resymau a roddir dros nad oedd dim ond un mewn cysylltiad a'r Eisteddfod. Ai gwrthod a wnaethant, ynte eu hanwybyddu a gawsant ? Gan fod yr Eisteddfod a gwyr ieuainc yr ardal mewn perthynas a'u gilydd, buaswn yn disgwyl gweled y gweinidogion yn mlaenai gwyr yn y symudiad; a chan fy mod wedi cael fy nhemtio gan y nodiadau a nodwyd, nis bodd- lonir fi hyd nes cael atebion cyflawn iddynt. Aberllefenny Farm. W. WILLIAMS.
DIWEDDARAF.
DIWEDDARAF. Dal yn dywyll iawn mae rhagolygon pethau yn y Deheudir, a'r pleidiau mor bell ag erioed o ddyfod i gytundeb, ond teimla'r ddwy ochr yn awr yn drymach oddiwrth galedi yr anghydfod. Nid yw yr ymdrafodaeth am hecldweh wedi gwneyd un cynydd yr wythnos a basiodd- Disgwylir yn ddyddiol am atebiad Spaen i ofynion America, yrhai ydynt-Spaen i golli perchenogaeth ar Cuba, cysylltu Porto Rico ac ynysoedd eraill a'r Unol Dalaethau, a thynged Ynysoedd Phillip i'w benderfynu- etQ. J
Advertising
U: VDYCH AM FWYNIIAU IECHYD DA Y UWEDDILL FLWYDDYN, DEFNYDDIWGH BITTElib ) 1- D 1 ;0 GWILYM EVANS. Cynwysa y Meddyglyn rhagorol hwn rin- weddau iachaoi ac a-igryfliaoi y prif lysiau meddyginiaethol adnabyddus trwy yr holl fyd. Cymeradwyir gan FEDDYGON, DADANSODDWYR, A FFERYLLWYR, A chanmolir gan bawb sydd wedi i-iiudd, prawf arni fcl Meddyginiaeth Oreit yr Oes. A phob math 0 wendid. Y mae yn gwella doluriau a chlwyiau yn yr Ymysgaroedd, yr Arenau, a'r lUll, ac yn feddyginiaeth sicr iddynt. BITTERS GWILYM EVANS. 1 YSTIOLAETHAU. Mae'r cryd a'r mwyth, a llesgedd, A phob anhwyldeb blin, O flaen y Quinine Bitters, Yn ffoi i'w le ei hun. CVNONFARDD. PYLE, AWST 17eg, 1897. JLIESGEDD. Anwyl Syr,—Pan ddycliwelaisidref ychydig ddyddiau yu ol, tir ol llafurio galed am rai wythuosau, teimlwn yn lluddedig iawu, ac wedi llwyr ddiffygio, ae mewn angen am donic da i'm hadgryiliau. Anogwyd ii i roddi prawf ar eicli Uuimiie Bitters euwog. Gwnaethum liyny, a ehefais ef yn hynod eifeithiol. Mae yn rhoddi yni newydd Yllof, ac yn bywiocau yr. ysbryd; mewn gair, teimlaf ei fod yu gwneyd dyn newydd o I-Loii-of.- (Parch.) GrRNos JONKS BITTERS GWILYM EVANS. 4- RHYBUDD Gochelwch Dwyllwyr. Edrychweh fod enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a photel. Gwerthir hwynt mewn poteii 2s. 9c., a 4s. 6c. yr un Blychau yn cynwys tail' potel 4s. (5c. am 12s. 6c. I'w cael yn mliob man, neu claufollirhwy yn rhad am y prisiau ueliod yn ddyogel drwy y post oddiwrth y perchenogion,- QUININE BITTERS IMHU FACTO RING COMPANY LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. GrORUOHWYLl WE YN AMEHlOA- Mr. li. D. WILLIAMS, Plymouth, reiiu. Dillad Newyddion at yr haf. DYMUNA EVAN JONES, CEMMES, Hysbysu pawb sydd yn bwriadu cael dillad newyddion at yr Haf, ei fod wedi cael STOC HELAETH o ddefhyddiau, dillad i ddynion a merched, A'i fod wedi sicriiau gwas- anaeth GWEITHWYR PKOFIADOL, fel y bydd i bob dilledyn gael ei droi allan yn fiitio, ac yn y Style mwyaf diweddar. Pobpeth yii i-tewydd Pobpeth yn dda. (AMUR!AN RAILWAYS. RAIL & COACH EXCURSIONS Are now run on EVERY WEEK-DAY As under :— By Rail to Llanfyllin, Rhayader, Glandovey, Aberystwyth, Towyn, Corriis, Dolgelley, Llanbedr 6c Pensarn, Portmadoe, Pwllheli. Thence by road conveyance to Lake Vyrnwy, Isantgwilit and Elan Valley (Birmingham Corpor- ation Waterworks), Llyfnant Valley (Glaspwll Cascade and Cwmrhaiadr Waterfall), Devil's Bridge, *Taiyllyn Lake and *Cader Idris, Torrent Walk, Precipice walk, Tynygroes, likaiadr Du, Rhaiadr Mawddach, and Pistyll y Caen Mochras Island (the Island of (Shells), Cwinbyehan Lake, Drws Ardudwy, and Rhinog Valley Tanybwlch and Maentwrog Waterfalls, Beddgelert, Abersoch and Nevin *Passengers may either travel to Towyn, thence by Coach to Talyliyn and back, or by Circular Tour via Towyn to Talyllyn Lake, returning via Corris and Machynlleth, or vice versa. They may also travel via Machynlleth and Corris to Talyllyn, and return by same route. A New Tour from Towyn to Gwantadfryn, at the foot of Cader Idris is now in operation. 0. S. DENNISS, General Manager,