Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
-'" Çjeit1 iOtt JUt>en.
Çjeit1 iOtt JUt>en. CYFARCHIAD "GUTYN EBRILL. Yn Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog. Dros y mor hyd Idris Meirion-y daethum At y doethwych feirddion At enwog Ffestinogion— A gwyr mawr o gyrau Mon. Hen gyfeillion tirionwedd-a gefais Mewn adgofion rhyfedd Llawn o boen wna llu'r bedd T mi'n hen mewn anhunedd. Gwalia anwyl! egwyl ini-roddaist Dan arwyddion heini' O'n cedyrn feib yn codi, Yn iach eu bron, i uwch bri.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. ANRHEGIAD.-Dydd Mercher, cyflwynwyd anrheg o dressing-lag hardd ag anerchiad, i Mr. Furlong, ysgrifenydd y Cricket Club, ar achlysur o'i briodas. ADEILADU.—Deallwn fod Mr. J. Chidlaw Roberts yn gwneyd ymgais i gyfarfod ag un o anghenion y dref hon, drwy ei waith yn adeiladu 32 o dai gweithwyr yn y lie. Mae y Cyngor Dinesig wedi bod yn siarad llawer am hyn, ond, fel arfer, y cwbl yn diweddu mewn siarad. Ond wele foneddwr yn anturio gwneyd y gwaith y dylasai y Cyngor Dinesig fod wedi ei wneyd er's amser.
LLANFAIRCAEREINION.
LLANFAIRCAEREINION. YR AF.DDANGOsFA.-Mae Llanfair am lawer blwyddyn wedi llwyddo i gario allan yr arddangosfa amaethyddol a garddwiol yn dra llwyddianus. Yr ydys wedi eangu yr un gynhelir yr wythnos nesaf gryn fosur yn yr amrywiol ganghenau y cynygir gwobrwyon.
LLANGADFAN.
LLANGADFAN. Mae Mrs. Mills, y llythyrdy, oherwydd gwaeledd iechyd, wedi ymneillduo o'r swydd o ofalu am y llythyrdy hwn, sydd wedi bod yn meddiant y teulu er's amryw oesau.
ARTHOG.
ARTHOG. ADGYWEIBIAD.—Da genym ddeall fod cyfeillion eglwys Seion, Arthog, yn parotoi gogyfer ag adgyweirio eu capel, yr hwn sydd wedi niyned i sefyllfa lied ddadfeil- iedig.
EISTEDDFOD GADEIRIOL GWYR…
EISTEDDFOD GADEIRIOL GWYR IEUAINC CORRIS. GORPHENAF 9FED, 1898. Beirniadaeth ar y Prif Draethawd, Neilldu- olion Luther fel Diwygiwr.' Da genym allu llongyfarch aelodau pwyllgor yr Eisteddfod ar gyfrif eu dewisiad o'r testyn dyddorol ac amserol hwn, ac hefyd ar gyfrif y gystadleuaeth ragorol a gynyrchodd. Daeth i law gynifel a thri ar ddeg o gyfansoddiadau, a'r oil wedi ei hysgrifenu yn dda, ac ar y cyfan mewn Cymraeg lied bur. Nid oes yn eu plith yr un cyfansoddiad gwael, ond eto perthyna iddynt amrywiaeth mawr mewn dawn a medr i drafod y testyn, a rhagora rhai yn arbenig mewn dysg a chyfaddasder i ddangos ac egluro N eillduolion Luther fel Diwygiwr.' Esait.-Byr ydyw traethawd yr ymgeisydd hwn, ac y mae yr ymdriniaeth ynddo yn anghyfartal a phwysigrwydd ac eangder y testyn. lolo.-Traethawd bychan pur dda Ar hanes Luther fel Diwygiwr, a'r rhan a gymerodd i ddwyn oddiamgylch y Diwygiad Protestanaidd, ond ni rydd amlygrwydd digonol i'r neillduolion a berthynent iddo fel Diwygiwr Zwingle —Ceir yn nghyfansoddiad yr ym- geisydd hwn brofion ddigon o wybodaeth foddhaol o'r testyn. ond nid yw y defnyddiau wedi eu gosod mewn trefn a dosbarth i wasan- aethu yr amcan o nodi allaii 'Neillduolioii Luther fel Diwygiwr,' i'r fantais oreu. Esther. -Traetli aA,d bychan ag iddo amcan da, wedi ei ysgrifenu mewn iaith brydferth ae ysbryd rhagorol, ond rhy gyfyng ac anrnhen- odol yw yr ymdriniaeth ar y testyn. Brythonfab.—Canfyddir yn y traethawd hwn ol ymchwiliad llafurus i hanes Martin Luther a'r Diwygiad Protestanaidd, ond cynwysa fwy o hanes y Diwygiad, na'r neillduolion a nod- weddent y dyn mawr a ddefnyddiodd Duw i'w ddwyn oddiamgylcn. Ar yr un pryd y mae yn bleser genyf gydnabod i Brythonfab wneyd ei waith yn dra rhagorol. :Fa.rel.-Nid lienor cyffredin mewn un modd ydyw awdwr y traethawd a ddug y ffug-enw Farel. Medda ar ddawn i ysgrifenu, a gwisg ei feddyliau mewn iaith bur, ac yn mhriod-ddull naturiol y Gymraeg ond nid yw i fyny yn y manylrwydd a'r eangder a nodwedda rai o'i gyd-ymgeiswyr. Caswallon Llaw Fer.Traetliawd, wedi ei ysgrifenu yn rhagorol ydyw eiddo yr ymgeisydd hwn. Cawsom foddhad neillduol wrth ei ddarllen, oblegid symuda yn mlaen o frawddeg i frawddeg, ac o baragraph i baragraph yn esmwyth a diflonc. 0 fewn y cylch a gymer- odd, gwnaeth yn dda, ond rhy gyfyng ydyw yr ymdriniaeth i wneyd chwareu teg a'r testyn. Amra7n.— Ar y cyfan llwyddodd yr ymgeis- ydd hwn i dynu allan gynllun o draethawd rhagorol, ond nid yw y gweithio allan i fyny a'r cynllun. Pe buasai felly, ni buasai yn mhell o sicrhau iddo ei hun y wobr. Diffyg ymroddiad a threiddgarwch ydynt ei brif ffaeleddau. Gomer. O'r holl gystadleuwyr yn yr ymgyrch anghyffredin hon, Gomer ydyw y mwyaf llaw-drwm ar y Diwygiwr mawr Protest- anaidd. Dynoetha ei ffaeleddau yn ddiarbed, a beirniada ef yn llym ond er hyny dywed- With all thy faults, I love thee still.' Nid oes dim yn natur y gystadleuaeth yn galw am y dynoethiad hwn. Ni ofyn y testyn am y diffygion, ond yn hytrach yr ochr arall a hawlia, sef y pethau neillduol a berthynent iddo, y rhai a'i cymhwysent i fod yn un o'r Diwygwyr mwyaf a welodd y byd. Ond er y ffaeledd hwn, cyfansoddodd Gomer draethawd rhagorol—ie, traethawd ag y buasai yn foddhad genym roddi y wobr iddo, oni bai fod eraill yn rhagori arno. ,-fdris.-Mae yr ymgeisydd hwn yn lienor o radd uchel, ac yn sicr wedi gosod anrhydedd ar y gystadleuaeth trwy gymeiyd rhan ynddi. Mor bell ag y mae llenyddiaeth y traethawd yn y cwestiwn, nid oes yr un o'r ymgeiswyr yn dyfod i fyny ag ef. Cefais foddhad mawr ynddo. Rhagora hefyd ar ei holl gyd-ymgeis- geiswyr mewn un peth arall, sef yn hanes y Diwygiad Protestanaidd; ond er ei holl rag- oriaethau nid yw i fyny a'r safon yn hanfodolion traethawd a ddisgwylid oddiwrth lenor mor fedrus ag ef ar y testyn hwn. Cymer dair rhan o bedair o ofod y traethawd i adrodd hanes Luther a'r Diwygiad, &c, a'r gweddill i nodi I Neillduolion Luther fel Diwygiwr.' Pe buasai rhan olaf y traethawd yn gyfartal a'r rhan gyntaf, eiddo ef yn ddiau fuasai y wobr. Justus Jonas.-Eiddo yr ymgeisydd hwn ydyw y cyfansoddiad meithaf yn y gystadleu- aeth hon, ac at hyny y mae yn draethawd llafurfawr a theilwng iawn. Tuedda weithiau at fod yn wasgarog, a dug i mewn i'w ysgrif yn awr ac eilwaith rai pethau anmherthynasol. Ond buasai yn glod i unrhyw un fod yn awdwr y traethawd rhagorol hwn. Melancthon (yr ail).—Mae hwn yn draeth- awd maith a chyflawn iawn, yn dra chyfartal ei esgeiriau, ac yn gosod allan mewn modd hynod o ddeheuig a phriodol y neillduolion a nodweddent Luther fel Diwygiwr. 0 ran cynllun a saerniaeth, mae o deilyngdod uwchlaw y cyffredin. Arddengys wybodaeth eang o'r testyn, a medr i'w drafod i'r fantais oreu. Nid yw ei wisg lenyddol mor brydferth ag eiddo Idris, ond y mae) n ffyddlon i'r testyn ac yn gyfansoddiad rhagorwych. Ceir ynddo rai gwallau gramadegol, a hyny yn un peth, sydd yn tynu oddiwrth ei werth yn y gystad- leuaeth hon Ond priodolwn y cyfryw i ddiffyg g-ofal ac ystyriaeth, ac nid i anwybodaeth. Nis gallwn amgen na llongyfarch awdwr traethawd mor ragorol, ac ar y cyfan wedi ei gyfansoddi mor dda. Melancthon iaf. Dyma draethawd o gynllun a saerniaeth awdwr galluog, ie, un sydd yn feistr ar ei waith Nis gall dim fod yn fwy naturiol na'r arweiniad i mewn i'r testyn ac anhawdd fuasai dymuno dim yn fwy bodd- haol na'r drafodaeth a geir arno. Hawdd canfod fod hwn yn adnabod ei arwr, ac yn edmygwr aiddgair o hono. Trychwalodd ei hanes, ei fywyd, a'i gymeriad, ac fel fifrwyth ei ymdrech, llwyddodd i ddarganfod y neillduoiion hyny a berthynent i Luther fel Diwygiwr, yn rhinwedd y rhai y bu yn offeryn i wneyd gwaith mor fawr. Nid oes genym ddim ond canmol- iaeth ddigymysg i'w rhoddi i draethawd yr ymgeisydd hwn. Er fod y mwyafrif o'r traeth- odau yn rhagorol, eto teimlwn fod yn eiddo hwn fwy o eneiniad ac ysbrydoliaeth y testyn. Dengys bron ar bob tudalen gydymdeimlad goleuedig ag- amean y Diwygiad Protestanaidd, a thrwy hyn aeth yn ddyfnach i gyfrinach y Diwygiwr na'r un o'i gyd-ymgeiswyr. Gosyd fater ei draethawd allan mewn iaith semi, ond prydferth, ac mewn geiriau detholedig a phri- odol. Perthyna holl hanfodolion traethawd da i gyfansoddiad yr ymgeisydd hwn Ac felly, heb betruso, yr ydym yn cyhoeddi mai traeth- awd Melancthon (y iaf) yn ddiameu yw y goreu yn y gystadleuaeth gynyrchiol hon, ac y mae yn llawer mwy na theilyngu y wobr. Yr ail yw eiddo Melancthon (yr zil), a'r trydydd, Justus Jonas. Ar air a chydwybod, T. JONES-HUMPHREYS. Y buddugol oedd Mr. J. C. Griffith, Rhyd- lydan, Mon. Deallwn mai Melancthon (yr 2i)) yw ein cymydog llengar Mr. Robert Davies, Pantycelyn, ac o galon llongyfarchwn ef ar y safle anrhydeddus enillodd yn y gystadleuaeth ragorol hon.
TALYBONT.
TALYBONT. EISTEDDFODOL — Da genym gofnodi llwydd- iant Mr. William Davies, Penlone, Talybont, yr hwn a enillodd wobr o lOp. 10s. yn yn Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog am draethawd ar 'Len Gweiin )ileirion.? Y REILEFORDD.—Mae reilffordd newydd y Plynlimon a'r Hafan yn cael ei gwerth- fawrogi gan drigolion y lie hwn a'r cylch. Rhedir tren yn feunyddiol yn awr i gyfarfod treniau y Cambrian yn Llanfihangel. Nis gall hyn lai na phrofi yn fanteisiol iawn i'r cylch hwn. PLESERDAITH.—Dydd Mercher, aeth ysgol Sul capel y Bedyddwyr am bleserdaith i Towyn, Moirionydd. Mwynhaodd pawb eu hunain yn dda, yn arbenig felly y plant. Mae yr eglwys hon yn llawn gwaith a ffyniant dan ofal y gweinidog llafurus, y Parch. E. R. Williams.
GWLEIDYDDIAETH SERCH.
GWLEIDYDDIAETH SERCH. Mae politics dyddorol iawn yn Nebraska. Yn Tekama, rhedai Miss Alice Thomason a Proff. C. S. Laughlin am Arolygydd yr Ysgolion yn y sir. Gosodwyd y Proff. i fyny gan y Gwerinwyr, ac Alice gan y Poblwyr. Yn ddiweddar, yr oedd ef yn brif athraw yn yr Uchel Ysgol, a hithau yn gynorthwyes. Dangosid brwdfrydedd ac aiddgarwch mawr yn ystod yr etliolgyrcli. Y dydd cyn yr etholiad ymneillduodd Alice yn ddiarwybod ac yn ddi-rybudd o'i hym- ddygiad, yr hyn barodd gryn syndod a diflasdod yn mhlith y Poblwyr. Tranoeth i'r etholiad daeth y newydd allan fod y ddau a.r briodi! Yr oeddynt yn gwybod o hyd, bent hwy, sut yr oedd i droi allan. Ymddengys i'r ddwy blaid boliticaidd gael eu boddloni hefyd, oblegid fe gollodd ac fe enillodd y ddwy ochr. Dyma yr unig dro mewn hanes pan y ffywsiodd' y Gwerinwyr a'r Poblwyr yn ddiarwybod iddynt eu hunain, a dengys hyn yn amlwg nad yw cariad yn gwneyd dim yn anweddaidd.
YR IEITHOEDD CELTAIDD.!
YR IEITHOEDD CELTAIDD.! Yn nghyfarfod unedig Cymdeithas y Cymrodorion a Chymdeithas yr iaith Gym- raeg, a gynhaliwyd ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ffestiniog, darllenwyd papyr Cymraeg gan Mr. E. E. Fournier, Dublin (negesydd o'r Ynys Werdd), ar 'Safle bresenol. y pum' Iaith Geltaidd Byw.' Llywyddwyd gan y Prifathraw J. Rhys. Wele grynhodeb o honi:— Mae ysgrifenwyr diweddar yn cydnabod chwech o ieithoedd gwahanol fel yn perthyn i'r gangen hono o'r teulu Aryaidd o ieithoedd a adnabyddir fel y gangen Geltaidd. Y mae'r chwe' iaith hyn yn cael eu dosbarthu yn ddwy adran. Un ran yn cynwys ieithoedd brodorol yr Iwerddon, Ucheldir- oedd yr Alban, ac Ynys Manaw, a'r adran arall yn cynwys ieithoedd Cymru, Cernyw, a Llydaw. Y mae-y Gernywaeg-wedi inarw er's dros'gan' mlynedd, a'r Manawaeg yn agos a diflanu. Ond y mae y pedair arall yn cael eu siarad gan yn agos i bedair miliwn o bobl, ac nid oes l'eswm dros dybied y bydd y rhif wedi ei lsihau yn fyl. weddol am arnryw ganrifoedd i ddo'd. Y mae cadarnfeydd yr ieithoedd Celtiaidd yn siroedd gogleddol a gorllewinol Cymru, siroedd Galway a Mayo yn yr Iwerddon, a siroedd Sutherland, Ross, a Chromarty, In- verness, ac Argyll yn yr Alban. Yn 1871, nifer y bobl a siaradent Wyddelaeg ydoedd 817,000. Yn 1881, yr oedd wedi cynyddu i 950,000. Yn 1891, yr oedd wedi lleihau i 680,000, ond yr oedd y boblogaeth, wrth gwrs, wedi lleihau er y ffwyddyn 1871, ac felly y mae genym y canlyniad rhyfedd— fod y nifer yn ol y cant o siarad wyr yr Wyddelaeg, heddyw yn ymarferol yr un ag ydoedd ugain mlynedd yn ol. Yr unig leihad y sydd, y mae yn nifer y siaradwyr Gwyddelaeg un-ieithog. Ond y mae yn rhaid i ni addef ar unwaith fod y lIe cyntaf yn mhlith cenhedlaeth Celtaidd gyda golwg ar gadwraeth eu hiaith yn perthyn i Gymru. Yr ydym ni yn yr Iwerddon yn dueddol i ymffrostio yn ein hen lenyddiaeth helaeth, ein cyfundrefn seinebol berffaith, a dyddordeb ieithegol uwchraddol ein hiaith Geltaidd ein hunain, ond Cymru sydd yn meddu y teilyngdod ucliaf o fod wedi cadw eu hiaith f81 offeryn o wareiddiad diweddar. Y mae'r gramad- egau a'r geiriaduron sydd wrth law yr efrydydd Cymreig, y Iluaws o newyddiad- zn uron Cymreig sydd yn gwasanaethu angen darllenwyr yr oes, ac uwchlaw y cwbl sefydliadau cenedlaethol yr Orsedd a'r Eis- teddfod sydd yn dwyn allan gynyrch goreu ac uchaf dalent frodorol, wedi gosod yr iaith Gymraeg ar y blaen i'r ieithoedd Celtaidd. Y foment hon, y Gymraeg yn unig all hawlio bod yn iaith genedlaethol wii-ioneddol wedi gwreiddio yn y ddaear, yn cael ei mynwesu gyda brwdfrydedd anger- ddol gan luaws o bobl, ac yn cael ei chynal gan draddodiad gogoneddus ag sydd yn prophwydo i iaith Cymru dragwyddol fod- olaath. Gadewch i ni yn awr droi i gael cip-olwg ar yr Iwerddon. Yma cawn y brif iaith Gaelaeg yn cael ei siaiad gan 680,000 o bobl, 38,000 o ba rai yn siarad y Wyddelaeg yn unig. Mae ysgolheigion yn siarad am dani gyda'r geiriau uchaf o ganmoliaeth, ac y mae un Ellmynwr wedi dweyd pe buasai wedi parhau i gael ei meithrin y buasai-gan mor ystwyth ydyw-wedi profi yn gydradd a'r Ellmynaeg ei hun gyda golwg ar angen- ion a galwadau bywyd diwedddar. Fel y mae, nid yw yr iaith wedi derbyn hyd y nod gysgod o chwareu teg, gan nad yw wedi cael ei siarad mewn llysoedd gwladol, cad- lysoedd, na cholegau. Yn ystod y deunaw- fed ganrif, peidiodd a chael ei siarad gan wyddonwyr a dynion o ddysg. Am fod hyn felly, nid yw y Wyddelaeg wedi cadw i fyny a'r ganrif a haner ddi- weddaf, ac nid yw fel ieithoedd eraill, wedi cynyrchu enwau brodorol am dermau gwyddonol, gwleidyddol, arianol, peirianol, na mesuronol. Nid yw yn rhyfedd fod y gwaith o adfywio yr iaith hon a'i chymwyso at fywyd diweddar yn un o anhawsder mawr. Ac eto y mae hyn yn cael ei amcanu o ddifrif ac mae'r profiad a enillwj d hyd yma yn dangos nad yw y gwaith o gwbl yn ddi- obaith. Y mae oddeutu ugain o newyddiaduron a chofnodolion yn cymeryd i mewn ryddiaeth a barddon- iaeth. Dyma'r Dydd-lyfr Gaelic' misol, a'r flwyddyn hon y mae newyddiadur Gwyddelaeg wythnosol wedi cael ei gychwyn o dan yr enw 'Fainne an Lae '—Toriad y dydd. Dysgir y Wyddelaeg mewn oddeutu pymtheg a thriugain o Ysgolion Cenedl- aethol, ond y mae y nifer yn llawer rhy fychan. Y mae oddeutu pump neu chwech o eiriaduron mewn bod, ond mae angen mawr geiradur newydd Saesneg-Gwyddelig. Y mae gramadegau da wedi eu hysgrifenu, ac yn ddiweddar y mae Irish Texts Society wedi ei chychwyn i gyhoeddi rhai o drys- orau ein llenyddiaeth henafol. Y mae yr adfywiad Celtaidd yn yr Iwerddon yn symudiad pur rymus, ac yn dal gobeithion uchel gyda golwg ar y dyfodol. Y mae'r Gaelaeg yn cael ei siarad gan chwarter miliwn o bobl, a 43,000 yn siarad Gaelaeg yn unig. Y mae yn llafurio o dan yr anfantais o fod yn amddifad o lenyddiaeth eang i'w ehefnogi. Y mae ganddi ramadegion a geiriaduron da. Mewn rhif hon yw y leiaf bwyeig o'r pedair prif iaith Geltaidd, ac felly y mae yn y perygl o farw. Yna ymdriniodd a'r Fanawaeg, yr hon a siaredid gan ddwy neu dair mil o bobl. Yr oedd yn cael ei hymlid o'r tir gan yr ym- welwyr Seisnig, ac nid oedd iddi lenydd- iaeth oddigerth y Beibl, y Llyfr Gweddi, ychydig ganeuon a charolau, a nifer o weithiau gwerthfawr ar gerddoiiaeth frod- orol. Cyfeiriodd y nosaf at iaith Llydaw, yr hon oedd wedi llygru trwy gymdeithasiad a thafodiaith Lladinaidd. Yr oedd miliwn a haner yn siarad yr iaith, i'r hon y perthyna llawer o lenyddiaeth diweddar. Yr oedd y Lly wodraeth Ffrengig yn gwneyd yr hyn oedd yn ei gallu i ddadwreiddio yr iaith, a gwaherddid ei defnyddio yn yr ysgolion. Wrth derfynu dywedodd Mr. Fournier —Felly y mae genym y pum' iaith hyn- pedair o honynt gyda dyfodol mawr o'u blaen, a'r oil yn amddiffynol rhag tafodaith nerthol, ond eto wedi eu harfaethu, i sefydlu eu hunain yn gadarn, ac i roddi mynegiad i feddyliau nad ellir eu mynegu mewn unrhyw iaith heb ei donio a'r gwres Celtaidd a'r cyfoeth o ddychymyg. Gymaint a ellid wneyd trwy gydweithrediad a chefnogaeth Y mae yr Iwerddon yn gwahodd cynrych- iolwvr y cenhedloedd Celtaidd i gyfarfod, i ddadleu y ffordd i wneyd y ganrif nesaf yn ganrif Geltaidd, wedi ei thynghedu i weled cynydd a goruehafiaeth hil orllewin Ewrob, yr hil sydd wedi ei donio fwyaf a thysorrau ysbrydol, yr hil ar y ddaear sydd agosaf i'r nef.
I r âtfatt.
I r âtfatt. GAN LLEW. Mae Mr. T. E. Ellis, A.S., wedi gadael Aberystwyth am Cynlas, ac wedi gwellhau yn fawr yn ei iechyd. Mae Lleufer Thomas wedi cael ei benodi i edrych dros yr enwau Cymreig yn mapiau swyddogol Llywodraeth Prydain. Hysbysir fod Dr. Charles Edwards yn parhau i fyned yn mlaen gyda chofiant ei hybarch dad, Dr. Lewis Edwards, a gellir disgwyl i'r gwaith gael ei orphen yn fuan. Z3 Llwyddodd Miss Menai Rowlands, ail ferch y Parch. Daniel Rowlands, M.A., Bangor, i enill y radd o B.A., gydag an- rhydedd, yn arholiadau Prifysgol Cymru. Enillodd ei brawd a'i clxwaer y radd hon o'r blaen. Miss Anna Rowlands, Coleg Aber- ystwyth, yw y Gymraes gyntaf gymerodd y radd Gymreig. Yn ol y trefniant, ymwelodd Cyfarfod Daufisol Annibynwyr Gogledd Ceredigion, a Bethania, Talybont, maos llafur y gwein* idog llafurus y Parch. R. E. Jones, pryd y pregethwyd yn nerthol gan y Parchn. T. A. Penry, Aberystwyth, G. Jones, D.D., Llan- badarn, G. Parry, eto, a Job Miles, Aber- ystwyth. Dechreuwyd yr odfaon gan y Parchn. J. Davies, Bethesda, a J. Llewelyn, Borth. Mawr oedd ein llawenydd wrth weled fod Mr. William Davies, Penlone, Talybont, a'r Parch. D. Lloyd, Cwmrhos, Brycheiniog, un arall o wyr Talybont, yn mysg y traeth- odwyr buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog. Hefyd, Cor y Graig, Machyn- lleth, y rhai drwy eu gwaith gorchestol sydd wedi eu dyrchafu i syJw llawer uwch drwy Gymru oil. Gwnaeth araeth Syr William Harcourt, pan ddynoethodd ai-ferion Pabyddol Defod- wyr Eglwys Loegr yn y Ty yn ddiweddar, gynhyrfu y tylwyth hyny yn enbyd. Mawn cylarfod Eglwysig yn swydd Gloucester yr Vythnos o'r blaen, bygythiodd y Parch. T. W. Belcher, D.D., arweinydd y blaid Rydd- frydol yn arw. Dywedodd y cariadus frawd hwn, Pe byddai i Syr W. V. Harcourt ddyfod i'r ystafell hon, ac adrodd yr hyn ddywedodd yn y Ty yma, mi a'i tarawn ef i'r llawr yn y fan.' Derbyniwyd cyhoeddiad y rhyfel gan y gwyddfodolion gyda chymer- adwyaeth. Priodol y gellid dweyd wrth y gwrparchedig yma, megis y dywedodd Crist wrth ei ddisgyblion, 'Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych.' Pan fo rhyw Brotestant selog fel Harcourt yn penderfynu rhoddi atalfa ar braneiau clerigwyr Jesuitaidd, cyfyd esgobion, clerigwyr a chiwradiaid, eu dwylaw mown braw a cherydd, a galwantar y gyfraith i ymyryd er amddiffyn yr hyn a honant yn Wasanaeth Dwyfol.' Mae'n bryd dwyn yr Eglwys i sefyll ar ei thraed ei hun, cwbl annibynol ar arian a nawdd y Llywodraeth.
PYSGOTA ANCHYFREITHLON YN…
PYSGOTA ANCHYFREITHLON YN MAU CEREDIGION. Er's amser, cwynai pysgotwyr glanau y mor rhwng Ceinewydd a Pwllheli, oherwydd fod steam travellers yn pysgota yn y bau o fewn tair milldir i'r tir, ond nis gallai swyddogion y Bwrdd Morawl dd'od o hyd iddynt, am nad oedd ganddynt gychod cyflym. Trwy gynorthwy Bwrdd Morawl Sir Lancaster, anfonwyd agerlong allan dan Cadbeu Wignall. Y canlyniad fll i erlyniad cyutaf o'r fath gymeryd lie yn y dosbarth gerbron yuadon Aberaeron, dydd Mercher, pan y cyhuddwyd William Peters, Milford Haven, o bysgota o fewn milldir a haner i'r traeth. Dirwywyd ef i lOp. a'r costau.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Aim. MURPHY A ROWLEY.—Fel y gwelir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol, bydd Mr. Rowley yn bresenol yii Machynlleth bob prydnawn dydd Mercher, yn lie y Mercher cyntaf a'r trydydd fel o'r blaen. ADD YSGOL.—Llwyddodd Miss L. W. Pugh, Heol Maengwyn, i basio'r matriculation Cymreig. Yr oedd Miss Pugh yn efrydydd Coleg y Brifysgol Aberystwyth. BUDD-GYNGERDD.—Nos Wener diweddaf, cynhaiiwyd cyngerdd yn y Neuadd Drefol, er budd Mri. Hugh Thomas a Rd. Jones, y rhai a gyfarfyddasant a damweiniau yn chwarel Llwyngwern. Cymerwyd rhan gan Mri. W. E. Williams, Corris; F. Lumley, Maldwyn Humphreys, H. R. Humphreys, G. F. Roberts, D. Price, J. Lumley, Joseph Jones Misses M. Lumley, J. Jones, ynghyd a Chor y Graig. Cadeiriwyd gan Mr. John Rowlands, cyfreithiwr. YSGOL Y BWRDD.—Mae adroddiad yr ar- holwyr ar yr uchod newydd dd'od i law, yr hwn sydd fel y canlyn: — 'Mixed school: Considering the difficulties of the year, the work of this school has been presented with creditable success, for with the exception of the handwriting- of the fifth standard, and the formation of the figures in this and in some of the other classes, the written and oral exercises of the scholars in the elemen- tary subjects won a good mark. In recom- mending the higher grants for English and Geography, allowance is made for th 'o lengthened closure of the school. The children presented in Algebra acquitted themselves well on the whole. Infant's class: This is an excellent class. Its condition is most creditable to the mistress.' Cyfanswm y grant eleni yw 278p. 12s. 9c., set 27p. 13s. 9c. yn fwy na'r llynedd.
ABERDYFI.
ABERDYFI. PYSGOTA.-Mae'r pysgotwyr yn cwyno fod y gleisiaid yn brinach nag y buont er's llawer blwyddyn. Ychydig o honynt ddaliwyd eto yn y Dyfi, ond delir nifer dda o mecryll.