Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
einion 12r Amet-t.
einion 12r Amet-t. ENGLYNION I'R CEFFYL. GAN Y DIWEDDAR AP MALDWYN. Mawr anifail mirain hefyd-ydyw, Cryf odiaeth, Hawn bywyd, Ac ufudd, ie, cyfyd Yn rhwydd yn ben ar dda'n byd. I amrywiol swyddi ymr6a,—iawn lwyth 0 anial le dyna Ar serth fan ei draed blana, Yn ei rym i fyny'r â. Wed'yn fe red gerbydau,—a throa, Wrth reol beirianau; Ger amaethol ar ddolau A lusga ef heb lesgau. Af yn awr ar ei gefn o,—i ffwidd el Mae'r ffordd oil yn tanio Er da glod fy rhad gludo Fyn i dref ar fuan dro. Eto'n nwydwyllt tan neidio-yn Ilew try Tua lie trwm brwydro, Ac yn y fan y gwna fo Alanas pan el yno.
CYNHAUAF Y WLADFA.
CYNHAUAF Y WLADFA. Ysgrifena gohebydd fel y canlyn o'r Wladfa Gymreig yu Patagonia: Y mae y tymhorau o lawnder ac o brinder yn ddilynol yn mhob gwlad ar eu tro ac felly prinder yw yma gyda ni eleni. Yehydig yw ffrwyth trin wyr y tir y tymor presenol o'i gydmaru a'r tymor diweddaf, er fod llawer o'r llafuvwyr wedi ymdrechu mwy nag arferol er ychwanegu at faint eu meusydd- gwenith, alfalfa, &c., am fod y pris da a gafwyd am y cynyrch y llynedd wedi rhoddi symbyliad ynom. Tebygol na fydd ein cynyrch eleni ond tua un ran o dair o'i gydmaru a'r tymor diweddaf. Y mae wedi gwneyd tywydd eithriadol o sych er's misoedd yma, ac mae hyny wedi effeithio er drwg ar ein cnydau. Hefyd, ymwelodd ei luoedd mawr Ef a'n bro i brinhau ac i beri blinder i bawb. Pan oeddym yn hau a dyfrhau a medi ein cnwd, yr oedd miloedd o hwyaid gwylltion yn tolli arnom mewn gwahanol ffyrdd, yn gwylied am gyfle i gasglu yr had o'r tir cyn ei ddyfrhau, a gobaith gwael oedd i ni am ffrwyth ein llafur o'r lie hwnw. Tua dechreu Rhagfyr, daeth y locustiaid yma, ac yr oeddynt yn debyg i gawodydd o eira yn yr entrych rhyngom a'r haul, yn dyfod gyda'r awel. Gwnaethant fwy o niwed y tro hwn nag un o'r troion blaenorol.
COFFADWRIAETH AM GLADSTONE.
COFFADWRIAETH AM GLADSTONE. Mae pwyllgor o bob plaid wleidyddol a chrefyddol, dan lywyddiaeth Tywysog Cymru, wedi penderfynu allan o luaws o awgrymiadau, ar y rhai a ganlyn, fel gwyddfa arhosol i anrhydeddu y diweddar Mr. Gladstone: Cof-golofnau yn mhrif drefydd Lloegr, Ysgotland, a'r Werddon, adeilad i gynwys llyfrgell St. Deiniol, Pen- arlag, ac os bydd cyfraniadau y cyhoedd yn fwy nag sydd yn ofynol at yr uchod, dygir cynygion eraill.
AMRYWION.
AMRYWION. Collodd Hwfa ei wlawlen a'i wisg arch- dderwyddol yn Ffestiniog. Nis gwyddom Z5 faint o wobr a gynygir am ei hadfer. Ar derfyn Eibteddfod Ffestiniog, dy- wedodd Major Best, y Prif Gwnstabl, nad oedd un achos o afreoleidd-dra wedi digwydd yn ystod yr wythnos yn y lie. Mae Mr. Doughty, yr aelod seneddol dros Grimsby, o herwydd cyfnewidiad yn ei farn ar Ymreolaeth i'r Werddon, wedi rhoddi i fyny ei sedd, ac yn gofyn am gael ei ail ethol fel Undebwr. Dewisodd y Rhydd- frydwyr yn ymgeisydd drostynt hwy Mr. T. Wintringham. Mae y dref yn awr yn nghanol y berw etholiadol. Dydd Sadwrn diweddaf, rhoddodd Mr. Assheton Smith, 71 y cant yn ol o'r rhenti ar etifeddiaeth y Faenol. Gyda hyn, rhydd yr awdurdodau ar ddeall na roddir dim yn ol eto i'r tenantiaid. Wele brawf chwan- egol fod Deddf Trethiad Amaethyddol wedi ei bwriadu gan y Toriaid i arbed i'r tir- feddianwyr roddi gostyngiad yn y rhenti amaethyddol. Mae'n amlwg mai nid y tenant yn y diwedd fydd ar ei fantais drwyddi, ond y tirfeistr. Cyhooddwyd crynhodeb o gyfrifon yn I nglyn a methiant Mr. Hooley dydd Sadwrn. Y mae y dyledion yn eu crynswth yn l,549,071p.; 401,863p. o honynt heb sie- rwydd, a chyfrifir fod yr eiddo yn werth 369,763p., yr hyn a adawa ddiffyg o 32,100p. Dywed y Derbynydd Swyddogol y talwyd symiau mawrion i bersonau yn nglyn a chychwyn ewmniau, ac y rhaid chwilio'n fanwl i hanes y taliadau hyny. Nos Wener, yn y St. George's Hall, Lerpwl, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i brotestio yn erbyn defodaeth yn Eglwys Loegr. Yr oedd tua chwe' mil o bob! yn bresenol, y rhan fwyaf o honynt yn 4 weithwyr. Cariwyd penderfyniadau cryfion yn erbyn defodaeth. Bu helynt fawr yn Abercromby-square, wrth Eglwys St. Catherine, brydnawn Sul. Aeth tori fawr yno i brotestio. Mobiwyd un curad a bu j raid iddo ffoi am ei hoedl. Bu raid cael yr heddgeidwaid i glirio'r bool. Bu Pwyllgor Ty'r Arglwyddi yn ystyried Mesur Rheilffordd a Phorthladdoedd Aber- gwaun a Rosslare. Rhoddwyd tystiolaeth gan Mr. Harrison, goruchwylivvr Cwmni Rheilffordd y London and North Western. Eglurodd eu bod fel cwmni yn ymyryd yn benaf oherwydd yr amodau osodid i lawr gan Bwyllgor Ty'r Arglwyddi, fod trafnid- iaeth i'r Werddon o fewn cylch neillduol i gael ei anfon ar hyd y daith newydd. Fe fyddai i hyny, yn ei farn ef, effeithio ar drafnidiaeth ei gwmni ef trwy Dublin. Dywedodd y cadeirydd y gellid myned yn mlaen i ystyried y mesur. Yna aed ymlaen gyda'r adranau. Terfynwyd cystadleuaeth flynyddol y National Rifle Association yn Bisley, dydd Sadwrn, pryd y gorphenwyd saethu am wobr y Frenhines, ac yr enillodd Lieuten- ant Yates, 3rd Lanark, y wobr gyda 327 o farciau. Yr oedd y Cymry canlynol yn y 100,' a chawsant wobrwyon:—Ysnoden a 12p., Sergeant W. T. Davies, 1st Welsh, 318; Sergeant J. T. Williams, 3rd Glamor- gan, 308. Ysnoden a 10p., Private F. Jones, 1st R.W.F., 306; Private T. Hopkins, 2nd V.B. Welsh, 304. Ysnoden ac 8p., Private D. T. Morris, 1st Glanmorgan, 303; Private J. R. Jones, 1st R.W.F., 299; Corporal E. Andrews, 1st Welsh, 293. Yn y gystadleuaeth gyd-genedlaethol, dydd Gwener, yr oedd Cymru'n drydydd, a dyma'r marciau Scotland, 1,942 Lloegr, 1,916; Cymru, 1,888; Werddon, 1824.
LLANGYNOG.
LLANGYNOG. GWYL A THE P ARTr.-Cynhali wyd te blyhyddol ysgolion Eglwysi Llangynog a Penant Melangell, yn Ysgoldy y Bwrdd, dydd Sadwrn. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan luaws o foneddigesau. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol mewn darllen, ysgrifenu, dadganu, &c. Rhanwyd y wobr yn nghystadleuaeth parti o wyth rhwng partion a arweinid gan Mri. D. J. Hampson, a J. J. Edwards.
PENNAL.
PENNAL. Cofnodir yn y Drych am farwolaeth Mr. Thomas Williams, Caledonia, Wis., U.D., yn 76 mlwydd oed. Mab ydoedd i Morgan a Jane Williams, Cyllellog, Pennal. Aeth gy.da'i rieni a'i frodyr a'i chwiorydd i'r America yn 1843. Yn 1845, ymbriododd ag Ellen Roberts, a bu iddynt wyth o blant. Gadawodd yr ymadawedig ddau frawd a fchair chwaer yn y Talaethau,
CYNGOR PLWYF TALYLLYN.
CYNGOR PLWYF TALYLLYN. Corris, nos Lun diweddaf. Presenol M H. Davies, cadeirydd, Edward LewiÇ E. Jones, Walter Davies, David Jones, H. P. Humphreys, H. R. Williams, Rhys Owen, a D. Owen, clerc. LLWYBR DOLFFANOG.—Mr. R. Owen a hysbysodd fod adgyweiriad y llwybr o Dolffanog i gyfeiriad y Pentre wedi ei ym- ddiried gan y pwyllgor i ofal un o'r Cyng- horwyr. GWAITiff DWFR.-Mr. H. R. Williams a ddywedodd iddo alw ynghyd bwyllgor y dwfr i gymeryd i ystyriaeth gyflenwad dwfr i'r ardaloedd, ond ni ddaeth ond dau aelod ynghyd, felly ni chaed adroddiad. Pasiwyd i'r pwyllgor gyfarfod heb oedi am fod sylw buan yn wir angenrheidol. Penderfynwyd i anfon eilwaith at Gyngor Plwyf Llanwrin i ofyn am eu hatebiad ynglyn a'r costau ar waith dwfr Gwaelod Pentref, Corris, a bod Mr. H. P. Humphreys, i siarad ar y mater. Pasiwyd fod Mri. Edward Lewis, David Jones, a H. R. Williams, i fyned i edrych lie y tybid y gellid gwneyd cronfa ddwfr er cyflenwi pentref Corris. Talwyd y biliau am etholiad y Cyngor a'r llyfrau, 2p. 10s. lie.
LLANBEDR, MEIRIONYDD.
LLANBEDR, MEIRIONYDD. BWRDD YSGOL.—Ni chaed etholiad, a dyma aelodau y Bwrdd Newydd: Robert Evans, Nantcol; Thomas Lloyd, Llanbedr; Mathew Owen, Cwmyrafon; Lewis Jones, Gwynfryn, a W. Lewis, Tymawr. Gwneir i y Bwrdd i fyny o ddau hen aelod a thri aelod newydd,
---EISTEDDFOD CADEIRIOL CWYR…
EISTEDDFOD CADEIRIOL CWYR IEUAINC CORRIS. GORPHENAF 9FED, 1898. Beirniadaeth Pryddest y Gadair, I A dynctf bawb ataf fy hun (Parhad). Anfonodd Alltud i ni bryddest fach ddillyn. Nid oes llawer o rym na barddoniaeth ynddi, ond y mae rhanau o honi yn gain ei meddyliau a llednais ei hawenyddiaeth. Y mae yn gwella at y diwedd. Sylwasom ar ambell ymadrodd anolygus ynddi, Bugail-Dduw,' Ioan-ddisgybl,' &c. Pryddest rwydd ydyw eiddo Addolwr, ond o nodwedd braidd yn gyffredin. Nid yw yn ddigon testynol. Sonir llawer am I dynu' ynddi, ond nid digon mewn cymhariaeth am dynu'r testyn. Y mae hon hefyd yn gwella at y diwedd. Cynlluniodd Gwilym ap Gwz'lym i raddau yn farddonol, ac y mae yn ei bryddest lawer o feddyliau grymus a tharawiadau barddonol, ond y mae rhanau o honi yn bur ryddiaethol. Mae olion brys a diffyg gofal ar y crefftwaith. Amgylchu gormod yw bai amlycaf TYrtlz y Groes. Teimlwn fod mwy o dduwinyddiaeth nag o farddoniaeth yn ei waith. Mae'n amlwg fod yr awdwr yn feddyliwr galluog, ac yn cymeryd dyddordeb byw yn y cwestiynau sy'n cynhyrfu meddwl yr oes, ond nid yw yn llwyddianus iawn wrth geisio eu barddoni. Mae rhanau o'r bryddest yn ddi-eneiniad iawn, er na cheir odid i benill ynddi yn bradychu gwendid meddwl. Cafodd Simon weledigaeth fwy clir na'r rhan fwyaf ar ddrychfeddwl ei destyn, ac y mae cryn lawer o nwyf ac yni yn ei gerdd ond ar y cyfan llac ydyw ansawdd y gwaith. Amlygir yn ngwaith Kidd gryn lawer o ol darllen a meddwl, ac y mae yn amlwg fod y bryddest yn waith ysgrifenydd Cymraeg cyfar- wydd. Mae y bryddest yn llawn o feddwl ac o nerth, ond y mae er hyny yn rhyddiaethol mewn rhanau. Teimlwn fod yr awdwr yn amgylchu o'r mwyaf wrth fyn'd at ei destyn. Ceir darnau canmoladwy iawn yn y bryddest hon. Ptyddest faith ac amgylchog i raddau sydd gan Pererin. Ymdry yn ormodol cyn d'cuLat y testyn yn iawn. Cyfarfyddir yn barhaus ag ergydion byw a barddonol yn y gwaith, a thraidd ysbrydiaeth awenydd drwy y rhan fwyaf o'r gerdd. Mae y gwaith yn weddol lan ei gelfyddyd, ond nid yn hollol felly fel y dengys y Ilinell ganlynol a'i chyffelyb Yn chwenych cyflawnu ei daeth luddedig.' Nid hapus yw lhnellau fel y rhai hyn •— Ond gwelai eto y rheidrwydd eglur 0 hunan aberth er J>wrcas pechadur. Ei nefoedd yw gorsedd ei deyrnas yma.' Cerdd farddonol ydyw ar y cyfan, er fod ynddi rai darnau moelion iawn. Y mae gan Dymuniad bryddest gref a thestynol-rhai darnau o honi yn ganmoladwy iawn. Deallodd gyfrinach ei destyn yn well na'r mwyafrif o'r ymgeiswyr, a cheidw yn ffyddlon iddo ar hyd y gerdd. Ceir amryw o linellau afrwydd yn y gerdd fel y rhai hyn :— Y byd sydd fyth yn cadw rhyw agored fedd. 5 Yn tynu dyn i fyny. Unig lwybr y nef. # # Na feiddir ei gwrthbrofi: Y mae wrth y gwaith.' Sylwasom ar amryw fan feflau, ond er y rhai hyn, pryddest gref a meddylgar yw. Pryddest feithach nag a fuasai yn ddymunol sydd gan Minydon. Ei phrif fai ydyw amgylchu gormod. Dygir Ilawer o bethau anmherthynasol i'r gerdd, drwy fod ei chynllun braidd yn gwmpasog. Mae yn y gwaith lawer o sylwedd meddwl ac o rym, ond gallesid yn hawdd drefnu ei gynwys yn well. Y mae y bryddest yn waith meddwl addfed a Ilawn, a chan mwyaf yn ganmoladwy iawn. Pe cym- erasid cymaint gofal gyda chynlluniad a threfniad y gerdd, ac a wnaed gyda'i syniadau a'i chelfyddyd, safasai y gerdd yn uchel iawn. Fel y mae, ystyriwn hi yn rhagorol. Ysgrifenodd Eiddil bryddest faith a da, yn cynwys toraeth o feddyliau wedi eu gwisgo, gan mwyaf, yn brydferth a chwaethus. Er yn faith, ceidw ei rym drwy y gerdd, ac er na chyfarfyddir yn ami ag ergydion nodedig o fyw, nid ydys byth yn disgyn yn isel yn nghwmni'r awdwr. Buasai yn uwch ei chlod pe yn Ilai-mwy o grynhoi ynddi, ac ysbryd y testyn wedi cael mwy o amlygrwydd. Gydag Awely Mor teimlwn ar unwaith ein bod yn nghwmni gwir fardd wedi ei feddianu gan ysbrydiaeth wrth hwylio at ei waith. Y mae ol meistr ar yr holl waith. Cana'n hollol ddi-ymdrech, eto'n goeth, naturiol, a grymus iawn. Mae y bryddest yn gyforiog o farddon- iaeth swynol; ond golwg gyfyng iawn gymer yr awdwr ar y testyn. Myfyrdraeth ar Ddy- lanwad y Groes' ydyw y gwaith yn ein golwg ni. Canu ei deimlad ei hun wna'r bardd eneiniedig hwn. Gwna hyny yn rhyfeddol o dda, gan ein cludo gydag ef mewn cyfaredd di-ollwng. Scope cyfyng y bryddest hon yw'r unig rwystr ar ffordd llwyddiant ei hawdwr heddyw. Efe, yn ddiau, yw awenydd mwyaf gwlithog y gystadleuaeth. Mae LIef am y Lan wedi gweled, ac wedi adnabod i fesur mawr enaid a Hawn ystyr y testyn, ac y mae wedi canu y weledigaeth yn fedrus ac effeithiol. Efe yn ddiau yw gweled- ydd mwyaf y gystadleuaeth, ac yma y maeei .agoriaeth. Y mae grymusder meddwl yn Illifo drwy'r gwaith, ac er yn colli'r bardd ambell dro, nid ydym bythyn colli'r meddyliwr. Y mae wedi meddwl ei destyn yn llawer gwell na'i gyd-ymgeiswyr, a chredwn fod yn ei waith fwy o farddoniaeth berthynasol y pwnc nag a .geir yn yr Lin olr, pryddestau eraill. Nid yw mor gelfydd yn ei waith ag amryw o'r cystad- leuwyr eraill. Dymunol fuasai iddo fod yn fwy gofalus am y wisg, er nad yw hono yn fratiog ond fodd bynag llwyddodd i ddangosi ni enaid ei destyn, ac iddo ef yn ddibetrus y dyfarnwn y gadair.—ALAFON A RHYS J. Huws. Fel yr hysbyswyd yn flaenorol, Mr. Vaughan Evans (AthaJ, Llanbrynmair yw I-lef am y Lan.
PENOD YR ENWOGIJN
PENOD YR ENWOGIJN Y PARCH. HUGH PRICE HUGHES. Llawenydd digymysg i bob Cymro o bob enwad a phlaid yw clywed am etholiad ein cyd-wladwr enwog uchod i'r swydd uchaf o anrhydedd sydd gan y Corff Wesleyaidd, ac unrhyw enwad crefyddol arall ei roddi, sef Arlywydd yr enwad am y flwyddyn. Mab ydyw Mr. H. Price Hughes i Dr. John Hughes, meddyg, Caerfyrddin, yn yr hon dref y ganwyd ef yn 1847; ac mae efe yn wyr o du ei dad i weinidog enwog gyda'r Wesleyaid yn Nghymru, sef y diweddar Barch. John Hughes, yr hwn am lawer o flynyddau a fu yn gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol. Cafodd ei addysg ar y cyntaf mewn ysgol breifat gerllaw Abertawe a phan mor ieuanc a 14 oed dechreuodd bregethu. Byddai yn yr oedran cynar hwn yn pregethu mewn nifer o ffermdai oddeutu'r Mumbles, a thalai o'i logell ei hun i hen wreigen am fenthyg ei chegin i bregethu i'w chymyddgion ar noson yn nghanol yr wythnos. Pan yn bymtheg oed, pregethodd yn nghapel Cymraeg Caerfyrddin, lie y bu ei daid yn gweinidogaethu. Cyn cyraedd ugain oed, yr oedd yn ymgeisydd am y weinidogaeth, -ac aeth i Goleg Addysgol Richmond, lie yr oedd Dr. Moulton yn athraw. Wed'yn graddiodd yn uchel yn Mhrifysgol Llundain. Tra yn y Coleg, cyfarfu Mr Hughes y foneddiges a ddaeth wedi hyny yn gymhares mor werthfawr yn ei fywyd. Merch ydyw Mrs. Hughes i'r Parch. Alfred Barret, Ilywodraethwr y coleg. Wedi gadael y coleg, bu Mr. Hughes yn sefydlog gyntaf yn nghylchdaith Dover; ac yno dechreuodd gymeryd dyddordeb ,neulduol yn yr achos dirwestol. Wedi hyny, Hafuriodd yn Brighton, rhanau o Llundain a Rhydychain, a'i glod fel pregethwr yn myn'd ar gynydd yn' mhob cylchdaith. Dychwelodd i Lundain fel arolygydd cylchdaith Brixton; a thra, yno y- codwyd yr hyn a elwir Cenhadaeth dinas Llundain,' gyda'r hon y mae enw Mr. Hughes yn annatedol. 7* ( v!
------;C----BWRDD PYSGOTA…
-C- BWRDD PYSGOTA MEIKION. Yn Abermaw, dydd Ian, c^rthalivfyct' cyfarfod blynyddol y Bwrdd. Etlidlwyd< Mr. Henry Bonsall, Aberystwyth, yn gadt, eirydd, a Dr. John Jones, Dolgellau^^yn is-gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol.—AiV benodwyd Col. Norton yn gynrychipjydii; ar Fwrdd Pysgota Morawl. -Peinodwyd. pwyllgor ar bob afon i ystyried y cwestiwii x o atal rhwydo'r afonydd uwchlaw peilder\ penodol o'r mor.—Ar gynygiad Col. Norton, pasiwyd i'r rhwydi uwchlaw pont Glanxlyii ar afon Dyfi, i fod yn 2t modfedd yn He''2 fodfedd ar draws, tuag at ei -wneyd yn bye-laiv yn y cyfarfod nesaf.—Ar ol ystyried adroddiad y pwyllgor ynghylch llygriad honedig afon Mawddach drwy waith eopr Glasdii, ger Dolgellau, pasiwyd i oecti, cymeryd mesurau er ei atal, am fod y cwmni yn addaw cario allan foddion i symud achos y gwyn drwy wneyd catchpits.—Hysbysodd y clerc iddo dderbyn achwyniad oddiwrth, y', ceidwad Edward Davies, Aberdyfi, oherwydd rhwyd anghyfreithlon a archwiliodd perth- ynol i Mr. Corbett yn afon Dysyni. Pen- derfynwyd galw sylw a rhybuddio Mr. Corbett yn herwydd y gwyn hon.
MR. W. RATHBONE A'R FASNACH…
MR. W. RATHBONE A'R FASNACH FEDDWOL. Yn ei dystiolaeth o flaen y Dirprwywyr Trwyddedol, dywedodd Mr. W. Rathbone y gwaharddai ef roddi diod i blant dan 16 oed. ¥r oedd o blaid cario allan y gyfraith yn erbyn meddwdod yn fwy manwl, rhoddi ei gweinyddiad yn nwylaw ynadon cyfiogedig yn lIe yrhai presenol. Yr oedd gwelliant wedi cymeryd lie y blynyddau diweddaf yn ngweinyddiad y gyfraith yn Lerpwl. Credai lod mwyafrif y tafarnwyr yno o blaid iawn drefn, ond ni chymerent yr holl fesurau at hyny.
DREFNEWYDD.
DREFNEWYDD. Ya YSGOL SIROL.—Dydd Iau, agorwyd yr Ysgol Ganolraddol gan y Prifathraw Yiriamu Jones, Caerdydd. Daeth cynulliaa lluosog ynghyd, o dan lywyddiaeth Mr. Hugh Lewis, cadeirydd y Llywodraethwyr. Anerchwyd hefyd gan Mr. A. C. Humphreys- Owen, A.S., ac eraill. Darparwyd yr Ysgol 1 gynwys 128 o efrydwyr—72 o fechgyn a 56 o ferched. Costiodd yr adeilad 3,000p.
CLYWEDION.
CLYWEDION. Clywed fod ymwelwyr a threfydd glanau mor y Canolbarth yn llawer llai nag arfer y tymor hwn eleni. Clywed fod dymuniad cryf am gynal Eisteddfod Gadeiriol bob blwyddyn yn Nghorris. Clywed ar ol amryw o'r Eisteddfodau diweddar y bydd eisiau gofyn gan aruled A oes Heddw ch' yn y cylch cerddorol, ag yn yr un barddonol. Clywed fod breuddwydion yn rhad, gan y gellir cael gweithiau Bardd Cwsg am dair ceiniog. Clywed mai amcan llawer o Ryddfrydwyr mewn enw wrth fyned ar y Cynghorau, yw er mwyn llesteirio eu defnyddioldeb, am y byddai hyny yn myned ag ychydig o'u llogellau hwy. Clywed nad yw ardaloedd y chwarelau wedi gwneyd yn agos yr hyn a allent tuag at y dioddefwyr yn y Deheudir. Clywed y dylid pasio Deddf i atal meistri a gweithvvyr mympwyol rhag iddynt achosi i weithydd mawrion sefyll, ar y rhai y dilyna llwyddiant y wlad. Clywed mai ychydig o syched sydd ar Gyngor Plwyf Talyllyn am estyn cyflenwad dvvfr i bentref Corris, ac y bydd hyny yn debyg o greu syched yn yr etholwyr am roddi y cyflawn orphwysdra y mae amryw o'r aelodau yn dra chyfaddas iddo bellach. CLUSTFEINIWR.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. MAP.WOLAETH.Gofidus genym yw cofnodi marwolaeth y foneddiges ieuanc Miss M. Edwards, Wylfa House, yr hyn a gymerodd le y Sabbath cyn y diweddaf, a hi eto ond 23 oed. Yn ddiweddar, cafodd anwvd, yr hyn a aeth yn inflamation ar y lungs, ac a brofodd yn angeuol iddi. Claddwyd ei gweddillion marwol dydd Mercher, yn nghanol arwyddion cyffredinol o alar, a chydymdeimlad a'r teulu. YR YSGOL SIROL.-Dydd Mawrth, cyn- haliwyd cyfarfod arbenig o'r Llywodraeth- wyr Lleol, dan lywyddiaeth y Parch. Josiah Jones.—Derbyniwyd tender Mr. Humphrey Jones am osod turret ar yr Ysgol Newydd ar yr amod iddo fod yn barod ymhen mis. Y pris oedd 42p.—Dai lien wyd gohebiaeth oddiVrrth Syr Henry Tate, yn addaw tanys- grifiad o 50p. ar yr amod fod yr adeilad wedi ei gwblhau erbyn Tachwedd laf.— Darllen wyd llythyr oddiwrth Arglwydd Rendel yn addaw y byddai iddo ef a'i briod fod yn bresenol ar yr amgylchiad o agor yr Ysgol Newydd. COR Y GP.AIG.-Fol y mae yn hysbys i bawb erbyn hyn, llwyddodd y cor uchod i enill y 50p. cynygiedig yn yr ail gystadleu- aeth gorawl yn Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog, yr hyn sydd yn glod mawr i'r arweinydd—Mr. Williams-yn ogystal ag i'r cor hefyd. Rhoddwyd y feirniadaeth gan Syr J. Bennett, yr hwn a ddywedai 'fod y cor hwn wedi dadganu y glee mewn dull rhagorol, y lleisiau yn ymdoddi i'w gilydd mewn cyd-gord perffaith, y myneg- iant yn dda; cyd-bwysedd yn lhagorol iawn, yn rhagori yn fawr ar y corau eraill yn hyn lleisiaeth bur a llawn oil. Rhoddodd y cor hwn ddadganiad cywirach o'r glee na'r un o'r corau eraill.' Yr ail ddaIn-Anthem. 'Canwyd hon eto yr un mor feistrolgar; haedda y dadganiad o'r ddeuawd (gan Miss Lumley a Miss Evans) gymeradwyaeth neillduol. Yr oeddynt o'r farn mai cor Machynlleth oedd y goreu, ac felly yn ei ddyfarnu yn deilwng o'r wobr.' Disgwyliwn glywed y bydd hyn yn sym- byliad i'r cor gynyg yn amlach yn y dyfodol. BODDIAD Nos Fercher, cynhaliwyd trengholiad ar gorff William A. Williams, mab Mr. D. Davies Williams, yr hwn a foddodd y prydnawn hwnw wrth ymdrochi yn afon Dyfi. Blaenor y rheithwyr oedd Mr. John Thomas. Yn ol y tystiolaethau ym- ddengys i'r trancedig ynghyd a thri o'i gyf- eillion fyned i ymdrochi i'r afon yn ymyl Nawlyn, ond yn fuan wedi myned i'r dwfr gwelwyd y trancedig yn suddo, ac er i'w gyfeillion wneyd ymdrech i ddo'd o hyd iddo, methasant, gan nad oedd yr un o honynt yn gallu nofio. Daeth Dr. Rees (Ap Gwyddon), i'r lie, ac wedi ymsuddo yr ail waith, daeth ag ef i fyny, a gwnaeth bob peth allai medr meddygol ei wneyd er ceisio adfer ei fywyd, ond yn hollol aneffeithiol. Dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol drwy foddiad a phasiwyd penderfyniad o gyd- ymdeimlad a'r teulu yn eu galar.
ARTHOG.
ARTHOG. ETHOLIAD Y BWRDD YSGOL.—NOS Wener, cynhaliwyd Bwrdd Plwyf i ddewis dau aelod ar Fwrdd Ysgol Llaugelynin, dros Blwyf Arthog. Dewiswyd Mr. Owen Jones, a Mr. J. 0. Jones, y ddau hen aelod.