Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
igeinioii pr Rwen. -:0:-
igeinioii pr Rwen. -:0:- MI WELAIS ENETH FECHAN DLOS GAN Y DIWEDDAR DEWI HAVESP. Mi welais eneth fechan dlos, Yn d'od ar fin nos hafaidd, A braidd nad oedd y gwenith gwyn, Yn cuddio'i choryn euraidd 'Roedd yn ei llaw tiodeuyn gwyn, A chochwyn oedd ei gruddiau Un bcydferth oedd y blod'yn gwyn, A hardd fel hyn oedd hithau. Ar hyd feilli(,nog ddeiliog dd61 Yn siriol y prysurai Ac ar ei myiiwes gwasgai'n dyti Y blod'yn gwyn, a gwenai; Un swynol oedd y blod'yn gwyn, Fel hyn ei mynwes hithau— Rhy swynol oedd i'r blod'yn gwyn, A gwywodd cyn y boreu. Y blod'yn gwyn ar frig y berth Oedd oreu'i werth a'r harddaf Ac yn mhlith blodau daear oil Y feclian dlos oedd dlysaf; I fod Is haul mewn byd o sen, Rhy nefol oedd ei gwenau Ac fel y tlfrs flodeuyn gwyn Fel hyn y gwywodd hithau.
COLOFN Y MERCHED.
COLOFN Y MERCHED. Y fur mwyaf gwerthfawr yw eiddo ci'r mor [sea otter). Talwyd dau can* punt am un croen yr anifail hwn, heb fod yn fwy na dwy lath o hyd wrth dri chwarter llatli o led. Yn Massachusetts, America, maent wedi pasio deddf yn gwahardd gwisgo plu adar cerdd, ac y mae y neb a wertha'r adar hyn yn agoredji gael ei ddirwyo i'r swm o ddeg dolar. Mae yn arferol yn y deyrnas hon i'r gwragedd fabwysiadu enw eu gwyr, ond nid felly y mae yn mhob gwlad. Yn Spaen a Portugal gelwir hwy wrth eu henwau eu hunain. Mewn rhanau o Ffrainc, Belgium, a'r Unol Daleithiau, defnyddir enwau y gwr a'r wraig ynghyd. Bydd y papyr newydd cyntaf a gyhoeddir yn Klondyke yn cael ei g) hoeddi gan Mrs. C. W Rowney, Chicago. Cychwynodd tuag yno gyda gwasg a phethau perthynol iddi. Un o daldra cyffredin yw. Cafodd lawer o brofiad mewn golygu newyddiaduron eraill mewn gorsafau mwnawl. Teithiodd lawer, ac nid ots arni ofn caledi. Gobeithia ymorol am y mwn aur, yn gystal ag argraphu. Clywaf ami un yn anghymoradwyo arfer yr olwyn-farch gan ferched, am ei fod yn tynu oddiwrth eu lledneisrwydd. Dywedant mai ffasiwn ydyw bery mewn bri am ychydig, fel y bu y merched yn dilyn y dynion mewn tori eu gwallt, ac mai tegan yw a deflir i ffwrdd yn y man. Mae'n fuan prophwydo eto. Mae iselder ysbryd yn mron a bod yn afiechyd, ac yn gadael ei ol ar y wyneb. Dylai pob dynes sydd yn gofalu am ei phryd- ferthwch, ymladd yn ei erbyn nes ei orchfygu.4 Dylid dewis gwaith fydd yn ddeniadol a hyfryd i'w gyfiawni, a pheidio byth bod yn eegur. Mae eisiau meithrin arfer o edrych ar yr ochr oleu i bethau, coleddu meddyliau da, a chofio fod ein gwynebau yn ddrych on bywydau, pa un bynag a ewyllysiwn hyny a'i peidio. ETHEL.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. YR ARI)DANIGOsFt.-Fol yr oedd y tarw (Hereford), eiddo Mr. D. Pryce, Great Weston, Trefaldwyn, a bwysai dros dunell, ac a gafodd y wobr gyntaf yn Arddangosfa Machynlleth, ddydd Iau, yn cael ei arwain adref ddydd Gwener o Orsaf Trefaldwyn, syrthiodd i lawr yn farw ar y ffordd. YR YSGOL SI-HOL.-Dydd Gwener, cynlial- iwyd cyfarfod rheolaidd y Llywodraethwyr Lleol, 1 larch. Josiah Jones yn y gadair. Mewn llythyr ar ran ei frawd, i'r hwn y caniatawyd bursary, dymunai y Parch. D. T. Hughes ddwyn tystiolaeth i effeithiolro-ydd y owrs o addysg a dderbyniodd ei frawd gan Mr. Meyler y prifathraw. Darllenwyd llythyrau oddiwrth rieni ymgeiswyr llwydd- ianui, yn derbyn yr ysgoloriaetliau ar ran eu plant.—Mr. James Jones, Eglwysfach, a Miss Sarah Owen, Corris, a apeliant am bursaries i'w cynorthwyo i fynyehu yi ygol. —Penderfynwyd rhoddi 3p. yr un iddynt. Paiiwydbiliau am y awm o 142p. 8s. 6c.— Ymdriniwyd a'r priodoldeb o gynal Bazaar, er codi y gronia; a phasiwyd galw cyfarfod arbenig o'r Llywodraethwyr i ystyried hyn. —Darllenwyd llythyr oddiwrth Mrs. Mer- edith yn amgau lOp. at gronfa yr Ysgol.— Penderfynwyd rhoddi bursary i fab Mr. D. Ifor J'ones, Corria.-Pouderfynwyd hysbys- 9b u mewn jiedway o aewyddiftduron.
0, r âtfau.
0, r âtfau. GAN LLEW. Mown rliai gorsafoedd cedwir parrots i ddweyd enw neu gyfeiriad y trens ddelont i mewn, ac elont allan, fel na byddo eisiau i'r teithwyr holi gweision yr orsaf yn eu cylch. Y mae eisiau rhywbeth cyffelyb yn ngorsaf- oedd y Canolbarth, yu on wedig ar y reilffordd ysgafn sydd yma, lie y ceir yr officials yn hynod brin yu eu hatebion pan ofynir rhywbeth iddynt. Digwyddai un o'n haelodau Seneddol fod yn lly wydd Eisteddfod yn ddiweddar, ac fel y canlyu yr englynodd Dyfed iddo, yr hwn oedd yno yn feirniad, os nad yn uu o'r llywyddion. Aelod y Sir, clod i'w sedd-yw y gwr 0 wladgarol duedd Dyn o fil-a dawn a fedd I roi synwyr i'r Senedd. Cyinered ein darllenwyr of am ei werth, rhyw gleeian braidd ydoodd pan o dau balfau y cenawon. Ychydig Suliau yn ol, aeth gweinidog peithyuol i'r euwad Auuibynol i'w gyhoedd- iad, ac wedi cyrhaedd o hono i'w lety cysurus, a declireu scwrsio a'i letywr, yn mysg pethau eraill, digwyddodd iddo ofyn pwy oedd yuo yn pregethu yn ddiweddar ? Fe fu hwn a hwn yma,'oedd atebiad y lletywr, 'ac yn pregethu ar Abiahamyu plu uu coed; fe fu hwn a hwn yma' yn pregethu ar v rhai a blauwyd yn Nhy yr Arghvydd,' &e.; fe fu hwn a hwn yma yn pregethu ar y Cristion fel Cedrwydden yn Libanus.' Wei, wel,' meddai y gwein- idog a ydyw ein gweinidog'ion am fyn'd yn timber mf/,(ihants?' Syrthiodd gwyneb y lletywr, canys masnachydd coed ydoedd efe, ac ni hoffai gael opposition in trade gan y rhai hyn. Ymddengys mai gwaith Seneddol di- weddaf Syr George Osborne Morgan, oedd llywyddu yn y pwyllgor i ddiwygio y Ddeddf Gladdu. Bu yn llwyddianus iawn i ddwyn amryw fesurau eraill trwy y Senedd; ond y Ddeddf Gladdu a ystyrir yn ddiau y bwysieaf o honynt, ac a hon y bydd ei enw yn anwahanol gysylltiedig. Synid at eangder ei wybodaeth, ac addfedrwydd ei farn ar y mesur hwnw. Cydnabyddir yn bur gytfredinol mai efe oedd y cryfaf o ddigon ar y mater hwn. Yr oedd yn Rhyddfrydwr trwyadl, a phob amser up to date, fel y mae ein gwlad wedi cael colled fawr yn ei symudiad, ac anhawdd fydd cael un i lanw ei le a chadw y sedd. Ond ni a hyderwn y llwyddir gan y blaid RyddfrydoJ i gael yingeisydd a ddiogela y sedd, gan nad pwy a ddewisir gan y blaid arall. Daeth yr Young IVates am y mis hwn i'r Ffau, ac ystyrir ef gan y cenawon yn llyfr godidog iawn. Bwriedir iddo fod yn un Ooffadwriaethol o deyrnasiad Victoria, ac ond ei ddarllen yn fanwl gwelir ei fod i fyny a'r bwriad. Gwna iawn am ei ddi- weddarwch gan ei gynwysiad rhagorol. ,.Mae'r golygydd medrus wedi bod yn ffodus yn 118wisiad ei ysgrifenwyr at y gwaith. Mae'r materioh yr ymdriuir a hwy ynddo yn ddyddorol, ac nid oes dim o bwys wedi ei adael allan. Dangosir ynddo fel y mae addysg, deddfwriaeth, llenyddiaeth, dirwest, pwlpud, masnach, newyddiaduraeth, &o., wedi cael sylw yn ystod teyrnasiad ein grasusaf Frenhines. Darllenir gyda dydd- ordeb pruddaidd ysgrif Syr G. Osborne Morgan fel ei gynyrch diweddaf. Dylai y rhifyn hwn werthu yn dda, pe ddim ond er mwyn parch i'r Barwnig enwog a gwlad- garol aberthodd bobpeth er mwyn dyrchafiad ei wlad, am ei fod yn caru ein Cenedl ni. Os cydsynia y golygydd a'r alwad a dderbyn- iodd oddiwrth eglwys Gynulleidfaol Seisuig yn y Drefnewydd, yr ydym o galon yn dymuno ei lwyddiant yn y maos pwysig hwnw. Y mae yn bregethwr da, yn olygydd craSus, ac yn Rhyddfrydwr trwyadl a goleuedig. Dilyned bendith ef yn ei ym- drechion i ddyrchafu yr hen wlad anwyl.
LLANEGRYN.
LLANEGRYN. M-usiaRoox.-Dycld Ma with, ynOae Gwyn, cafwyd mushroom eithriadel fawr, yr hon a fesurai ddwy droedfedd a phum' modfodd o amgylchedd.
TALYBONT.
TALYBONT. Y TiRtmwAy-TvIaer tramway newydd bron a'i chwblhau, a bydd yn cael ei hagor yn rfurliol mewn ychydig ddyddiau. Mae y cerbydau a'r peiriant o'r cynlluniau diwedd- araf, ac yn edrych yn dda.
ANRHEGION.
ANRHEGION. Gan W. W., Dolgellau, mae Stoc Ragorol o Watches Aur Ardderchog, Clociau a Jewellery (ac eiddo eraill mown Aur ac Arian) eyfaddas fel 44rhegiou a Testimoniala
Waiffj i'r OogCebb.
Waiffj i'r OogCebb. GAN Y PARCH. T. LEVI, ABERYSTWYTH. O'r 7'raethodydd' am 1852. V. Ond dere, ddaillenydd anwyl, rhaid i ni ei adael. Y mae yn awr yn foreu dydd Llun; ac on wyt am oin Jilyn, rhuid i ti daflu dy got, a chymeryd dy troll yn dy law, waith yr ydym yn myned i ben y Wyddfa. Pallodd ein cyfaill a dyfod; yr oedd oi ifydd yn rhy wan ond cawsom ni arweinydd cyfr y arwydd a ffyddlon, a bu yn dda i ni fod yuddo of dipyn o nerth. Aethomifyny o' I tu gorllewin iddi; a buom agos dair awr yn ymgripio ar hyd lwybr cul, serth, a cliei-ygog iawn, cyn cyraodd y pen. Pan yn agoshati at ei phen uchaf-yu myned dioa ei hysgwydd at ei gwddf megis, yr oedd genym drum cul i fyned ar hyd-ddo am ychydig o gauoedd o latlioni. Yn y llooedd culaf, nid oedd fawr gyda llathen o led ac yr oedd y dyfuder ar bob Haw yn arswydus,. Safai l'y arweinydd ar y canol, a chareg ynihob llaw; gollyngai hwynt, a dywedai eu bod yn myned ddwy filldir oddiwrth eu gilydd cyn sefyll. Dyina fy mhroliad wi-th fyned drosto :— Cut yw'r llwybr i Mil gerdded, Is fy llaw mae dyfnder mawr Arnaf ofon yn fy nghalon Rhag i'm troed i lithro i lawr.' On-d o'r diwedd, cyrhaeddasom ei phen. Yr I oedd yuo ychydig o le gwastad a dau gaban eryno a dyu yn gofalu am danynt, a pliob cytleusdra ganddo i ynigeleddu teithwyr. Yr oedd yno oddeutu dwsin o ddieitla-iaid ar y pryd. Wedi i ni eiatedd i lawr a ohwythu ychydig, ac yfed cwpanaid o gofli, safasom ar beu y pinacl uchaf, ac edrychasom o'n cwmpas—ac 0 olygfeydd i'w cotio byth. Nis gallwn lai ua meddwl am Moses ar ben Pisgah, a'r lioll wlad eaug yn ymagor o'i fiaen. Yr oedd y fath am- rywiaetli aneirif yn y golygfeydd! Gwelem dalpiau mawrion o fynyddoedd moelion, creigiau a phob twmpathau, fel pe buasent wedi eu tanii yno o bwrpas i fod yn anniben. Uwch y gwaelodion iach a goludawg, Wele'r bryniau a'r creigiau cerygawg, Echrys ac uthrol ochrau ysgythrawg, A manau crebach a meini cribawg, Gar parahoedd ardaloedd deilia wg--cy.moedd, Mawrion fynyddoedd galltoedd gwelltawg.' 9 Gwelem ddyifrynoedd bychain, breision, a theg, ac arnynt y Gweithwyr, pladurwyrdewrion—'n y mousydd, Yn ymosod weithion Bagad ynt mewn bywiog d6n Acw'n tori cnwd tirion. O'u hoi rhes o laticesau-tra heinif Yn trin y gwanafau, a Gwyneb y wlad gan y blodau--yn gwenu Mewn gogonawl liwiau.' Yr oedd y llynau ami a 11a wn, o bob jinaintioli—rhai yn uwch a rhai yn is na'u gilydd— yn disgleirio dan belydr yr haul, ac yn ymddangos fel pe buasent balmant o wydr gloew. Oaufyddem afonydd bychaia yn main-ymddolenu yny dyfndor odditanom; a'r mor mawr llydan- getilaw yn dygyfor, a'r Cwmwl 'amgylch iddo'n bais; A'r tew niwlyn rhwymyn tyner Am ei wasg, heb unrhyw drais.' Buan yr anghofiasom ein Iludded, ac y meddiuuwyd ni gan syndod a llawenydd. Saltm a'n hwynebau tua'r gogledd, ac yr ooud mynyddoedd yr Alban yn ymddangos yn dir pell' on blaea. Ychydig ar ein haswy, yn ytmotyn mawr du, yn nghanol y mor, gwelem yr Iworddon-i-liyugom a hi yr oedd air Fou yn gorwedd; a rhyngoin a sir Fpn yr oedd Caernarfon, a'i chastell mawr yn aroa. Ychydig yn uwch i fyny yr oedd Bangor. Ar ein deheulaw, yr oedd Llan- llechid, Bethesda, Dinorwig, a Llanberis, a'u chwarelau clodiawr. I A welwch chwi y ty acw,' meddai fy arweinydd, ar gyfer eich aswy law, droll y fan y mae eicli cyfaill yn eich i*rofj ? Dacw dy y Parol*. John Jones, Talsarn ac ychydig yn is, y mae y Bardd Ebon yn by v.' Yr oedd Tre a Phorth Madog y tu oefn i ni. Y fath foddhad i feddwl yw oael un drem oddiat ben y Wyddfa! Wrth edrych o amglch, yr oedd yn taro i'n cof, pan yn blentyn, y byddai ein tad yn ein codi ar ei ysgwydd, i ddangos i ni ryfeddodau. Yr oeddeui ni mor fychain, a phenau pawb ar y ffordd i ni weled; ond ar ysgwydd ein tad, yr oeddem yn uwch na'r uwchaf ei- ben. Ond yn wir, y mae yr Wyddfa yn uwch nag yntau, pan gododd hi ni ar ei hysgwydd, aeth gwadn ein troed yn uwch na phenau y mynyddoedd oil. Ddarllenydd! y mae yn worth i ti fyned o'r man yi wyt ti, tuag yno bob cam, yn llythyreaol, er mwyn cael yr uja gymwyaas ganddi. Cyn disgyn, cydunodd ein arwein- ydd a ni, i ganu y 4 Cyfamod Disigl,' a chawsom hwyl arno-gorfu i ni ddyblu y penill hwnw :— Ti'r Aran a'r Wyddfa gyrhaeddfawr, Chwi neidiwch yn awr hyd y ne,' &c. Yr oeddem wedi syllu ar ei rhyfeddodau, nes oedd llinellau Coleridge yn deimladbyw yn ein calon :— O dread and silent mount' I gazed upon thee Till thou, still present to the bodily sense, Didst vanish from my thought: entranced in [worshipped the Invisible alone.' [prayer—
¡liWIIDD YSGOL TALYLLYN.
liWIIDD YSGOL TALYLLYN. Yn canlyn ceir Adroddiadau Arholwyr y Llywodraeth YSGOL Y BWRDD CoRRis.-Mixed School. The work of the school has been somewhat disturbed by the building operations which necessitated the Teaching of the Infants Class in the main room for a month. The prevalence of epidemics compelled the closure of the school for a fortnight. The children under the circumstances. have not done as well as they probably would under more favourable con- ditions. The sums were w orked with creditable accuracy in the four lowest standards, but in the fifth and higher standards, the Arithmetic ,was deficient in correctness of solution and in 'neatness of arrangement. The copy-books generally should be more carefully supervised during the coming year, otherwise it may become necessary to call into operation the provisions of Article 86 of the Code. The Needlework is well done. The lower grant for Welsh is recommended with hesitation. The Singing from Notes was very satisfactory. Firmer discipline, should be maintained. Guards are wanted before the fire-places. Glass panels in the classroom door would be an advantage.' Average attendance 83 Grant 78p. xos. 6c. Drawing Good.' INFANTS CLASS.—' Considering the circum- stances of the year and the inconvenient arrangement of the room, the children are on the whole well advanced in the elementary subjects. Better methods oi conducting the Kindergarten Occupations and Object Lessons are pessible. The latter should be more fully illustrated. The gallery should be furnished with desks. The attendance is very irregular. Of the ten children in the first division, nine were over seven years of age, and of 52 children on the books 28 have passed their seventh ,birthday. This is a serious reflection on the way the Board carries out this portion of its duties.' Infants average attendance 30, Grant 22p. 10s. The School Board should more effectively enforce their Bye Laws. The necessary desks should be provided for the infants, and all fire places should have proper guards. L. Thomas is recognised, and E. P. Thomas is continued under Article 68 of the Code. CORRIS (YSGOL Nos). This school has been satisfactorily conducted, and creditable progress has been made during the session.' Average attendance 33; Grant 24p. ies. H.M.Inspector reports that in the Registers a few absent marks had been converted into present ones and vice-versa. Greater care should be taken in marking the class registers in order to secure accuracy of marking in the first instance. He adds the following remarks .—' There was no fire in the main room when the first visit was paid. The thermometer stood at 50 degress.' More powerful lamps should be obtained next session.' The reom should be kept well warmed and lighted, and the Registration Regulations must be strictly observed. No Variable Grant can be paid for the scholar numbered 36 on the first schedule (Article 13 (c).
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. LLWYDDU.NT.- Da genym gael llongyfarch swyddogion y Great Western Railway yn Dolgellau, ar eu gwaith yn llwyddo i enill y brif wobr o 5p., am y decoration goreu mewn ffurf o erddi, &c. Deallwn fod y gystadleu- aetb yn un galed cydrhyngddynt a rhai gorsafau Seisnig. Er hyny, ein cyfeillion Cymreig a orf u. Yr oedd y gystadleuaeth yn agored t'r holl linell. A phawb sydd wedi aylwi ar yr Orsai yn Dolgellau yn awr, a allant dyatio fod yn ymylu ar aumhosibil- rwydd ei churo. Well done ac ewch ymlaen eto ddywedwn ni. A mynych gadw eich anrhydedd yn y dyfodol eto. YMADAWIAD.—Drwg genym ddeall fod Mr. Richards, goreaf-feistr y G.W.R., yn yinadael oddiyma dydd Iau, y 9fed cyliaol. Mae iddo le dwfn yn serch y dref, yn ogystal a swyddogion y Llinell, fel y prawf y ffaith eu bod hwy (y swyddogiou) wadi casglu swm da, er rhoddi anrheg hardd iddo ar ei ymadawiad. Ymadawa i gymeryd gofal gorsaf Cor wen,
PENOD YR ENWOGIOJS.
PENOD YR ENWOGIOJS. SYR ISAAC HOLDEN, BARWNIG. Yn marwolaeth y gwr rhagorol tichod,ary 13eg cynfisol, yn giaiii mlwydd eed, collwyd dyfeisydd, llaw-weithydd, dyngarwr, crefyddwr a gwleidyddwr, roddodd fri oesol ar ei enw. Mae y camrau breision a wnaeth o'r sefyllfa fwyaf cyftredin, i ddefnyddioldeb ac anrhydedd mawr, yn esiampl i'w hefelychu gan. ieuenctyd yr oes. Ganwyd ef yn Hurlet, ger Glasgow, yn 1807. Mwnwr oedd ei dad Er yn dlawd, trwy ddiwydrwydd ac ymroddiad, yr oedd yr hen Holden wedi casglu mwy o wybedaeth na nemawr o'i ddosbarth, a rhoddodd yr addysg oreu allai i'w unig fab Isaac. Yr oedd ei dad a'i fam yn mysg dilynwyr boruaf John Wesley, a mynodd yr hen wr sefydlu Ysgol Sul ac ysgol 110s yn y peutref yr oedd yn preswylio ynddo. Pan yn bum' mlwydd oed yr oedd Isaac yn yicd dysg yn ysgoI y dreflan a pban yn ddeg oed aeth i ysgol ramadegol mewn tief gyfagos. Ond oherwydd caledi yr amaeroedd, gorfu arno ya fuan fyned i weithio. Bu yn was bach i ddau wehydd, ac elai y cyflog bychan i chwyddo ychydig ar y drysorta. deuluaidd. Arosodd yma am ddwy fiynedd, yna symudodd i fuliii gotwm, ac yn nihen amser byr gwawriodd ychydig ar yr amgylch. iadau teuluaidd, a chalodd fyned i'r yegol drachefn. Ond yn bymtheg mlwydd oed eawn et eilwaith yn gynorthwy-ydd i wthydd-am ddim ond blwyddyn. Yn un nalwydd ar, bymtheg cawn et unwaith yn rhagor ya ymatiyd yn ei efrydiau. Parotoai ei hun i fyned yn athraw a phan yn ugain oed, cyrhaeddodd ei amcan, gau gael lie yn Leeds, ac wed'ya yn Slaithwaite. Rhoddodd y ddau le i iyny, am fod ei syniadau duwinyddol fel Ymneillduwr yn groes i eiddo awdurdodau yr eclwys a'i cyflogai. Yr oedd y pryd hwnw wedi gesod ei fryd ar y weinidogaeth. Wedi hyn, pan yn ysgolfeistr yn Reading, tarawodd ar ddarganfyddiad y math o fflach- iadau a elwir wrth yr enw Lucifer Matches, yr hyn gymerodd le hen oruchwyliaeth y gareg lAn a'r dur,' drwy gyfuno sulphur i rhyw nwydd ffrwydrol, a'u dodi ar tiaea dernyn bychan o bren. Hysbyswyd yn ddi- weddar mai uii olr eiiw Walker, yn Ngogledd Lloegr, oedd y difeisydd cyntaf orai blyjnyddau. Ond nid oes lie i gredu y gwyddai Holden ddim am y darganfyddiad hwnw. Daeth ei allu dyfeisiol ar waith yn nesaf mewn cribo gwlan,' Pan yn dair ar hugain oed, de,rbyniedd gynygiad ar, le mewn ftactri wlin yn Cullingworth. Gwnaed ef yn arelygwr ami, ac ar ol hyny yn bartner. Yma arhesodd am un mlynedd ar bymtheg. Dyieujedd beiriant cribo gwloa- un o'r peirianau sydd wedi arbed mwyaf ar waith dwylaw o fewn y ganrif hon. Mae gan y cwmni hwn yn awr 'y fasnach cribu gwlan fwyaf yn y byd. Eugraifft o hyn yw fod y lluriau gweithio pe byddent wedi eu huno a'u gilydd, yn ddigon i erchuddio deugain erw e dir. Rhoddir gwaith ynddynt i bedair mil o bersonau, a'r cnu gwlan a weithir ganddynt yn rhifo un filiwn ar ddeg ar hugain bob blwyddyn. Yn 1864, pan yn 57aill oed, torwyd ar ei If o weithgarweh gan aficchyd, am hyny pema fynodd drtulio llai o'i amser gyda masuach a mwynhau chwaneg ar iechyd, a chysegru mwy o'i fywyd at wasanaeth cyhoeddus. Bu yn aelod Rhyddfrydol dros Knaresborough, ac ar el hyny dres ran e Sir York. Efe ddarparodd arian i gychwyn y Star, newyddiadur dyddtol y Rhyddfrydwyr. Cododd sefydliad gwych i grefttwyr. Cafedd ei hen weithwyr am weddill eu liotat ac eraill dderbyn yn helaeth o'i liaelioni digyniar. Yr un modu achosion crelyddol. In y cyfan cododd gof-gelofn iddo ei hun a bery yn anrhydeell mawr lddo. Yr oedd ei oes faith ar y ddaear yn ganlyuia4 i raddau pell y rheolau manwl a ddilynai gyda bwydydd a diodydd. Cerddai am ddwy awr bob dydd yn yr awyr agored. Flfwythydd oedd iton ei gynhaliaeth. Ni byddai byth yn bwyta mwy na thair was o gig ya y dydd, a mynych byddai am wythnosau heb gyflwrdd ag ei. Gofalai am awynad a thymheredd gwastad yn ei breswylfod, a thrwy iddo gadw at ddeddiau iechyd, tieuliodd fywyd hir e wasanaeth di-esgeulus mewn by4 4c ,tJYif, Cafodd angladd teilwng o dywysog a gwr mawr. Ymgasglodd niiloedd i ddilyn gwedd- illion yr hynafgwr urddasol, yr hwn a gladdwyd yn Undercliffe, ger Bradford.
[No title]
Mae gan W. W., Dolgellau, Stoc Enfa.wr < Watches, Jewellery, &c., o 'I. r tlliili. 1.t;8.U am y prisiau mwyaf rhesymol. Fe dalat yn dda i lawer un ddod i dref Dolgellau e Gorris, Aberllefeuni, ac Abergynolwyn, &c., ar barou drostynt eu hunain*