gtemion t' ,Amen. -:0:- 0 HAPUS LUDDEDIG. GAN 1SLWYN. 0 hapus Luddedig, flinedig dy fron! Melusaf yr hafan po uchaf y don Pa fo angladd y dydd mewn distawrwydd yn oymud I fedd y gorllewin, mae'r ser yn dychwelyd; Ar feddrod yr haul mae y lloer yn disgleirio, A'i gosgordd o fro tragwyddoldeb yn gwawrio Rhaid oylcliu ein bywyd a nen o gymylau Cyn delo y ncfoedd a'i thegwch i'r golau Croesawaf y gaddug tiy'n Ileiiii y byd I ddangos y nefoedd tu cefn i gyd Mae'r nos yn llawn ser, mae hedd mewn trallodau, Mae dydd yn y cwmwl sydd amgylch y beddau, Cofleidiaf fy medd gan ymlaweuiiaii, Ar aden ddu angeu mae'r net yii neshau. Kliaid llosgi'r gre'digaeth i'w hadfer i Dduw, liliaid gruddfan i gauu, rhaid marw i fyw A bedd yw ystafell oleuaf ein bywyd, A'r nesaf i mewn i balasau nefolfyd 0 hapus Luddedig mae'r nefoedd yn agog Pan no fo yn naear un swyn yn ymddangos Mor isel yw'r ddor sydd yn arwain i'r bywyd Rhaid plygu hyd y bedd i gael grieiau nefolfyd.
ABERANGELL, Dydd Sul, llanwyd pwlpud yr addoldy Methodistaidd yn y 11& uchod gan Miss Rees (Cranogwen.) Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, ac eneiniad ar y weinidogaeth. PLESERDAITH.-Dydd Mawrth, bu aeJodau y Gobeithlu am bleserdaith yn Towyn. Ymunwyd a hwy gan nifer luosog o rieni ac eraill. Parotowyd bwyd iddynt yn ysgoldy capel yr Annibynwyr. Anffawd fawr oedd fod y tywydd mor anffafriol. Er hyn mwynhaodd pawb eu huuain yn lied dda.
AMRYYVION. Mae Dr. Eden, Esgob Dover, wedi i apwyntio i Esgobaeth Wakefield, a wnaed yn wag drwy farwolaeth Dr. Walsham How. Canmolir y penodiad. Mae yr Esgob newydd yn ddirwestwr selog, ac yn biegethwr poblogaidd. Dydd Sadwrn, cyfarfyddodd Pwyllgor Undeb y Chwarelwyr yn Caernarfon, i ystyried cynygiad ddaetli o Ffestiniog yn galw am osod Mr. D. R. Daniel, y trefnydd, i gymeryd lie Mr. W. J. Williams, yr ysgrifenydd, a thrwy hyny arbed tua 200p. y flwyddyn. Cafodd y cwestiwn ei oedi h) d nes bydd Bethesda yn anfon cynrychiolwyr. Cafodd uchelwr arall ei frad-lofruddio, sef Senor Borda, Llywydd Gweriniaeth Uruguay, yr wjthnos ddiweddaf, drwy gael ei saethu gyda llawddryll, pan yr oedd y Llywydd yn gadael yr Eglwys Gadeiriol, ar achlysur gwyl genedlaethol. Mae y llofrudd yn y ddalfa. Yn ol yr arwyddion presenol, bydd cryn f jKviogrwydd areithyddol yn y byd politic- aidd yn yatod y tri mis diweddaf o'r flwyddyn hon. Y Rhyddfrydwyr, y mae yn dda genym ddweyd, sydd yn debyg o gymeryd y rhan flaenaf yn y cyfeiriad hwn. Ni bu erioed adeg a mwy o angen am fywiocau a chyfnerthu y farn gyhoeddus nag sydd yn yr adeg bresenol. Nid ydyw y peirianwyr a'u meistriaid eto wedi dyfod i gymod, ao nid oes yr arwyddion lleiaf am gyd-ddealltwriaeth yn y golwg, ar hyn o bryd. Odid yr A diwrnod heibio heb fod y meistriaid mewn rhyw dref newydd neu gilydd yn rhoddi rhybuddion i'w crefftwyr i beidio gweithio. Eisoes y mae cryn gyni yn cael ei deimlo yn mhlith teuluoedd y gweithwyr, ond y mae ganddy-ut gymdeithas gref. Yn y rhifyn diweddaf o'i fisolyn, gwna Mr. W. T. Stead ymosodiad cethin ar Mr. Chamberlain a Phwyllgor Deheudir Affrica. Dywed nad oedd yr ymchwiliad ond ffug hollol, a bod ysgrifenydd y Trefedigaethau wedi rhoddi ei enw wrth yr adroddiad gan wybod mai twyll oedd y cyfan. Ymosodiad gwaeth na hwn ar aelod o'r weinyddiaeth ni welwyd bron un amser. Mae y greadigaeth y pryd hwn o'r flwyddyn yn gyfoethog o swynion, ac nid oes dim yn fwy o wrthddrych edmygiant na choedydd urddasol, yn neillduol y derw cauadfrig a fawrygid gymaint gan y Der- wy4.don. Dyma ddy wedai Iarll Beaconsfitld am danynt:—Gyda golwg ar goedydd, treuliais ran o fy mebyd dan fysgod Burnham Beeches, ao y mae genyf yn awr yr hyfrydwch o fyw yn neillduedd gwyrddlas fy nghartref. Nid wyf yn synu fod yr henafiaid yn addoli coedydd. Mae llynoedd a mynyddoedd, er yn ogoneddus am amser, yn myned yn flinderus, ond am olygfeydd y goedwig ni ddiflasir ainynt byth. Cynwysa Alaska, sef gwlad yr aur, 500,000 o filldiroeddysgwar. Mae ddt-uddeg gwaith yn fwy na Phensylvania. Y mae yr aurgloddiau 2,000 o filldiroedd dros fynydd- oedd o Seattle, a 5,000 o filldiroedd dros ddwfr. Mae yr Yukon yn fordwyol am 2,500 pan nad yw yn gauedig gan row. Y mae Old Foit Yukon yn ystod Mehefin a Gorphenaf yn mwynhau goleu dydd am bedair awr ar hugain, gan ei bod o fewn y Cylch Gogleddol. Er hyny, nid ar gyfrif ei hyd a'i lied na'i hirddydd yn yr haf y cyfrifir y wlad yn fawr y dyddiau hyn, eithr oherwydd cyflawnder yr aur sydd yno. Yn ngwledydd cred, aur sydd yn gwneyd pethau yn fawr. Yr aur, nid yr haul sydd yn disgleirio yn Alaska.
BORTH. BODDIAD.-Pi-ydnawn dydd Mawrth, cyn- haliodd Mr. J. Evans, crwner, Aberystwyth, drengholiad ar gorph dyn a ganfyddwyd ar y traeth y noson flaenorol. David Davies, morwr o Aberporth, a ddywedai fod cychod wedi myned allan i bysgota boreu. Awst 13eg. Yr oedd y trancedig a dyn arall mewn cwch. Oddeutu haner awr wedi saith gwelodd hwy yn eyfeirio tuag adref. Daeth scol fawr, ac ni welodd y cwch mwyach. Pan oedd y tyst yn dychwelyd adref, gwelodd ran o'r drylliau, a llaw dyn yn ymaflyd mewn plane, yrhon a suddodd o'r golwg yn fuan. Ni chafwyd hyd i'r dyn arall eto. Dychwelwyd rheithfarn o fur- wolaeth ddam weiniol. Mae bellach yn adnabyddus trwy y Sir, mae
HANES RHANIAD AMSER. GAN DR. D. REES, BRONANT. Yn nechreuad poblogiad y byd, mae yn amlwg nad oedd un math o raniad byrach ar amser na goleuni a thywyllvvch. Y Caldeaid ymhen llawer o oesoedd ar ol y diluw ddechreuodd ddosbarthu y dydd i oriau. Hwy oedd y rhai cyutaf a ymroisant gydag un gradd o lwyddiant, i astudio seryddiaeth. Deialau haul a arfenvyd yn foreu iawn. Ond gan nad oeddynt o un defnydd ar amser cymylog, ac yn y nos yn enwedig, cafwyd allan ddyfais arall i fesur a chyfrif rhanau amser a dwfr, ond gan nad oedd hwnw yn gywir, arferwyd tywod yn ei le Arferwyd deialau gan y Groegiaid o flaen y Rhufeiniad. Ynghylch tua thri clian' mlynedd ar ol ad- eiladu Rhufain, y dechreuasant hwy eu harferyd Er hyny hwy a arferent ranu dydd a nos yn 24 o oriau cyn hyny ond ni chyfrifent eu horiau yn ol eu rhif, ond eu rhanu a haner nos i haner nos, gan eu gwahaniaethu trwy alvv enwau neillduol arnynt. Galwent un rhan yn Ganiad y Ceiliog, y llall Cyf-ddydd, a'r Hall Canol- ddydd. Y ddeial gyntaf y cawn hanes am dani yw gan Pliny, yr hon oedd wedi ei gosod ar deml Quirinus Seipio Nasica. Ymhen rhai blynyddau wedi hyny, efe a fesurodd y dydd a'r nos yn oriau oddiwrth ddefnynau dwfr yn disgyn trwy le cul Ond erbyn heddyw, mae pethau wedi newid er gwell, fel y mae awrlais yn mhob ty, ac oriawr yn mhocedau bechgyn a merched ieuainc-dyna holl waddol ambell i forwyn wrth ddechreu ei byd.
AWRLAIS STRASBURG. Dechreuwyd gwaith yr awrlais rhyfedd hwn gan y celfyddydwr cywrain M. Schineque, 0 Strasburg, ar y 24ain o Mehefin, 1828, a chwblhawyd ef ar yr ail 0 Hydref, 1842. Y mae gwahanol symudiadau yr awrlais yn gywrain a rhyfedd. Dengys ar ddeial y tuallan i'r eglwys yr oriau, eu rhaniadau, a dyddiau yr wythnos. Dengys y planedau, yr haul, Mercher, Gwener, y Ddaear, Mawrth, Tau, a Sadwrn hefyd y deuddeg arwydd, y dydd o'r mis, a'r Suliau Ar yr un pryd y mae yr oil o'r symudiadau uchod idd eu gweled tufewn i'r eglwys. Y mae dau f6d adeiniog yn eistedd, un ar y dde a'r llall ar yr aswy, i'r deial. Ar bob chwarter awr y mae yr un sydd ar y dde yn taro cloch, ac y mae yr ergyd yn cael ei dilyn ar y deialon eraill. Y mae iddo bedwar b6d arall yn cynrychioli mebyd, ieuenctyd, canol oed, a'r^ henoed. Saif marwolaeth ar golofn wrth ochr henoed a thery yr awr; a phob tro y cyflawna ei orchwyl angeuol y mae'r bód adeiniog sydd ar yr aswy i'r deial yn troi'r awr fynegydd. Eto, bob chwarter awr, y mae. y deuddeg apostol yn myned heibio i'r Gwaredwr, ac yntau yn eu bendithio drwy osod dwylaw arnynt. Pedr yw y pumed ac y mae yn troi ei gefn ar yr Iesu ac yn ei wadu, a Satan yn ymddangos mewn ffenestr, ac yn llongyfarch Pedr am ei weithred. Yr un pryd gwelir ceiliog ar y twr yn ysgwyd ei adenydd a chanu deirgwaith. Judas yw yr olaf yn myned heibio, ac y mae Satan yn ei gydnabod yntau fel Pedr. Gellir cael golwg ar y lleuad hefyd yn ei gwahanol agweddau drwy y mis.
SYRTHIO I GWRW BERWEDIG. Yn narllawdy Ind, Coope, a'u Cyf., Burton, ddydd Iau, syrthiodd dyn i gerwyn o gwrw berwedig. Tynwyd ef allan yn ddi- ymdroi, ond yr oedd golwg ofnadwy arno, a syrthiai ei gnawd yn dalpiau oddiwrtho. Bu farw mewn poenau mawrion yn mhen ychydig oriau.
0'v gifau. GAN LLEW. Sibrydir gan rai mai I Pan Celtic ydyw enw Eisteddfod Caerdydd, yn 1899 i fod. Y mae Brenhines ieuanc y Netherlands wedi gwrthod y dyn a ddewisodd ei mam iddi yn wr. Dywed ei bod yn alluog i ddewis drosti ei hun. Eithaf peth, oud gobeithio y bydd yu ddoeth yn ei dewisiad. Deallir yn awr fod y Llywodraeth wedi pendeifynu rlioddi help sylweddol i Canon Silvan Evans i ddwyn allan ei Eiriadur Cymraeg newydd, fel y gellir, ni a hyderwn, ei ddwyn o fewn cyraedd y werin. Wele gyfarchiad Elfyn i'w orehfygwr yn Eisteddfod Genedlaethol 1897, pan ddeallodd fod y brawd Job o Aberdar wedi cael yr oru wehafiaoth Job hudo], cas neu beidio-hon yw 'nghan Yn nghwyl ei gadeirio Iraidd fardd, rhoir iddo fo Fy nghariad am fy ngliuro. 1:1 Y mae y pabydd Cardinal Vaughan, yn parhau i gynal ei wasanaoth yn Llandrindod. Y nos o'r blaen tiaddododd y Parch. Eynon Davies, Llundain, bregeth nerthol iawn yn yr un dref, a cheir ddarfod iddo yn nghwrs ei biegeth ddisgyn yn drwm ar yr Aug'hyd- ffurfwyr fu 11101 llipa a rhoddi help i waith y Cardinal, trwy bresenoli eu hunain yn ei gyfarfodydd. Yr oeddynt yn sicr yn llawn haeddu y ddyrnod drom. Y mae llawer yn rliy wasaidd yn y cyfeiriad hwn. Parhau y mae yr ysfa am fyned i feusydd aur Klondyke, a'r ofn sydd yn mynwesau rhai yn awr yw, y bydd llawer olionynt farw oyn cyraedd y lie. Dywed un o awdurdod mai ynfydrwydd yw meddwl am fyned yno cyn bod y gauaf drosodd. Y mae lluaws o ferched ieuainc yn inys- y rhai sydd wedi cychwyn, ac yn trefnu am fyned allan. Y mae hanesion rhyfedd yn cael eu hadrodd am y cyfoeth mawr y mae rhai o'r mvvnwyr eisoes wedi ddarganfod. Dywedir fod seiri yn gadael eu. meinciau, teilwriaid yn gadael y nodwydd, marsiandwyr eu masnach, a chlercod eu desciau, ac yn myned allan i wlad yr aur. Ond modd bynag bydd llawer ohonynt yn sicr o gael teimlo mai gwir yr hen ddywediad Mai nid aur yw pob peth melyn.' Un o'r newyddion mwyaf dyddorol sydd yn myned gydag edyn y gwynt y dyddiau hyn yw yr un am briodas yr aelod dros Feirionydd, ag Annie, trydedd fetch y diweddar Mr. J. Davies, Cwrtmawr. Y mae y ferch ieuanc yn ddisgynydcl o hen stoc Fethodistaidd enwog. Ar ochr ei mam, perthyna i'r enwog Barch. Peter Williams, ac ar ochr ei thad perthyna i Charles o'r Bala. Deallwn mai yn nhy taid Miss Davies, yn Aberystwyth, y cwblhawyd Qyffes Ffydd y Cyfundeb Methodistaidd, a hyny dros ddeng mlynedd a thriugain yn ol, a'r hwn meddir nad yw wedi cyfuewid yn y gradd Ueiaf hyd heddyw. Y mae dymun- iadau da Cymru yn myned gyda hwy am ddyfodol disglaer a llwyddianus, ynghyd a bendith y lief ar yr uniad. Ychydig amser yn ol, bu gwr goludog iawn farw yn yr America, ac yn ei ewyllys diweddaf, gadawodd filiwn o bunau i'w fab, fel ad-daliad am ei wasanaethu ar hyd y deing mlynedd diweddaf. Mynai awdurdod- au y trethi mai rhodd ydoedd y swm a gymun-roddwyd, ac am hyny y dylid codi toll arno, ond y mae y llys apeliad uchaf yn y weriniaeth, wedi pendeifynu mai dyled yw, ac felly, nas gellir, dan gyfreithiau y wlad godi toll ar y cyfryw. Yn yr adroddiad blynyddol sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Bwyllgor Coleg Coffadwriaethol Aberhonddu, sylwir fod y gwag-leoedd ymhlith Athrawon y Coleg hwnw ac eiddo Bala-Bangor, yn rhoddi eyfleusdra teg i ystyried a ellid uno y Colegau Annibynol Cymreig, a sefydlu un Coleg Canolog, mwy unol gofynion y Gyf-athrofa. Hefyd, dywedir mai Aber- honddu o bob man a enwyd eisoes, yw y lie mwyaf canolog i'r Coleg unedig ond fod y pwyllgor yn barod i ystyried hawliau unrhyw le arall a gynygir. Gobeithio y gellir taro ar fan y byddo pawb yn cytuno arno, ac yn cyd-weled yn ei gylch. Byddai cael undeb rhwng y naill goleg a'r Hall yn sicr o fod er daioni i'r eglwys Annibynol yn Nghymru.
ANRHEGION. Gan W. W., Dolgellau, mae Stoc Ragorol o Watches Aur Ardderchog, Clociau a Jewellery (ac eiddo eraill mewn Aur ac Arian) cyfaddas fel Anrhegion a Testimonials
ABERMAW. MARWOLAETH.— Dydd Llun, cyrhaeddodd y newydd yma. amfarwolaeth Griffith, anwyl ac unig fab Mr. a Mrs. J. Evans, Porkington. Yr oedd yr ymadawedig yu glere yn y Whitehall, Llundain, er y llynedd, ymha le yr oedd yu dyfod ymlaen yn rhagorol, ac mewn parch mawr gyd a'r awdurdodau ac eraill. Yu ystod yr wythnos, ymddengys ei fod yn cael ei boeni yn fawr gan y ddauodd, ac aeth i dynu ei ddant, dydd Sadwrn, i'r Hampstead Temperance Hospital. Def- nyddiwyd anaesthetic, ac o dan y prawf, bu farw, yn yr oedran tyner o i9eg mlwydd y In oed. Claddwyd ef dydd Mercher yn mynwent Llanaber. Yr oedd y cynhebrwng yn un lluosog a pharchus. Cydymdeimlir yn fawr a'r rhieni galarus yn y dydd blin.' BODDIAD.-Pry(Inawn dydd Mawrth, yn yr afon Mawddach, ger Caerdeon—rhyw 4 milldir oddiyma, boddodd un Miss Ellen Tucker, 24ain oed, o Sonning, Reading, yr hon oedd yn gwasanaethu gyda dieithriaid sydd yn aros am y tymor yn Caerdeon. Yn ol y tystiolaethau, ymddengys ei bod hi a chyfeillesau iddi yn ymdrochi yn y lie, pryd yr aeth y drancedig i drobwll, gyda'r canlyniad iddi foddi, er pob ymdrech i'w hachub.
BOW STREET. LLWYDDIANT.—Y mae yn dda genym hysbysu ein darllenwyr fod Mr. W. Owen Hughes, B.A., Bow Street, gynt ysgolor 0 Goleg Selwyn, Caergrawnt, wedi ei apwyntio yn feistr yn Ysgol Stanley Bridge of Allan. Graddiodd Mr. Hughes eleni yn Senior Optime yn Caergrawnt. Mab ydyw i Mr. Hughes, heddgeidwad Bow Street. Dringed tD t5 yn uwch etc.
YMLADDFA ANGEUOL YN Y RHONODA. Cynhaliwyd trengholiad ar gorph Sam Mandry, 26ain oed, yr hwn a fu farw mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd mown ymladdfa (prize-fight), nos Lun diweddaf, mewn pabell i'r amcan. Cymerwyd wytli o ddynion, yn cynwys perclienog y babell i'r ddalfa. Tystiwyd fod Mandry wedi bod yn yfed ddiwrnod yr ymladdfa, a'i fod wedi bod yn licyclo er ceisio sobri. Dychwelwyd rheithfarn o ddyn-laddiad yn erbyn saith o'r dynion.
BWRDD YSGOL TALYLLYN. Yn canlyn ceir Adroddiadau Arholwyr y Llywodraeth YSGOL Y BWRDD ABERLLEFENNI.—' This school is well disciplined and conducted, appears to have improved in attainments since the last inspection, and is now in a satisfactory condition on the whole. Spelling and Mental Arithmetic fall below the level of the remainder of the work. Improvement will be expected in Grammar to obtain the higher grant for English next year. Welsh taken as a specific subject may be called pretty good the translation exercises were the least satis- factory parts of the subject. The infants have made fair progress in most respects. Increased attention should be paid to the phrasing in their Reading, and to their Counting and Object Lessons. The seats on the gallery should be provided with backs. Low desks are also needed in the class room.' Average attendance 43 Grant 43p. i is. 6c.; Drawing Good.' ABERLLEFENI (YSGOL NOS).—'This evening school is intelligently conducted, and creditable progress has been made by the pupils who attended satisfactorily. It is to be hoped that the pupils will attend more regularly next session.' Average attendance 6; Grant ip. 13s. YSGOL Y BWRDD TYNYBERTH (Mixed School).—'This school is under very good discipline, is instructed with cate and stead- iness and is in a creditable state of efficiency. Mental Arithmetic has improved; but will be expected to show further improvement in the lower standards. The Singing (both by ear and note) deserves much praise. The children presented in Algebra did pretty well, and those presented in Welsh did very fairly.' INFANTS CLASS.—' The infants have consi- derably improved in attainments since the last inspection and did very satisfactorily in all respects. The Mistress is working well and intelligently, and even better results will be looked for next year.' M. A. Roberts is recognised under Article 68 of the Code. Average attendance 46; Grant sop.; Infants average attendance 27 Grant 22p. 19s Drawing Good.' TYNYBERTH (YSGOL Nos). This evening school is conducted with care and intelligence, and very creditable progress appears to have been made during the past session, particularly in Ambulance. It is to be hoped that more of the young people of the neighbourhood will take advantage of the school next year.' Average attendance 10; Grant iop. ios. [Adroddiad Ysgol Corris yr wythnos nesaf ]
att i'r ogrebb. GAN Y PARCH. T. LEVI, ABERYSTWYTH. O'r T'raethodydd' am 1852. IV. Yn mhen awr, yr oeddym wedi cyraedd Dolgellau, yr ochr arall i Gader Idris. Hir gofiwn garedigrwydd Mr. W. a'i briod tyner, a Ffaui eu morwyn ffyddlawn; beudith a'u dilyno. Pe buasai genym amser, ddarllen- ydd buasai yn hyfryd i ni eistedd haner awi yn eu cyfeillach a chael awr arall i ddes- grifio y golygfeydd hynod, y twmpathau anwastad, y creigiau hyll, y moelydd prydferth, y mynyddoedd uchel, yr afonydd trystiog, a'r nentydd grisialaidd, a welsom wrth groesi dros Drawsfynydd, Maentwrog, ac yn enwedig drwy y Beddgelert Pass. pan oeddym yn gadael Meirionydd, ac yn myned i Sir Gaernarfon. Pan oeddym yn nesu at y Pass yma, tybiem ni ein bod yn myned yn erbyn y pared yn lan ac awgrymem wrth ein cyfaill fod yn well troi i geisio rhyw ffordd arall. Arweiniodd y ffordd ni i'r coed oedd yn ngwaelod y creigiau uchel— clywem drwstdyfroedd—a gwelern dollborth wrth droed y graig ae yn wir, yr oeddym yn foddlawn iawn i dalu, ond cael ffordd. Yr oedd yno ar y pryd amryw ymwelwyr dieithr. Safasom i edrych o'n cwmpas; nis gallem weled fawr o ffordd yil ol nac ymlaen. Nid oedd y Pass ond cul iawn; yr oedd y ddwy graig uchel, sythiou a phrydferth, yn ymgodi ar bob llaw—y geifr amryliw i'w gweled rhwng eu danedd rhyngom a'r wybi eu-ai-nbell i ffynidwyddeii brydferth yn ymsaethu yn falch oddi rhwng y eeryg—a'r afon drystiog yn murmur wrth ein traed, yn ddigon i beri enaid anghofio ei hunan. Tybiem ni, pe gallesid gwthio y ddwy graig ychydig latheni at eu gilydd, y buasent yn myned i mewn, y naill i'r llall, fel nad allai neb ddeall fod yno raniad yn bod. Gelwir y lie hwn yn dra phriodol, Cy mwy nas.' Cawsom dreulio y Sabbath yn ymyl Beddgelert a gwelsom fedd yr hen gi druan, a laddwyd mewn amryfusedd am ei ffyddlondeb, yr I hen amser gynt.' Y mae cauad o'i amgylch a miloedd yn ymweled ag ef bob blwyddyn. Yn y lie hwn, cawsom gyfeillach ddifyr a'r hen batriarch a aeth at Arglwydd John Russell, ychydig o ddyddiau wed'yn, i ofyn ei ewyllys da at yr Ysgoldy Brytanaidd yn y gymydogaeth; ac wedi derbyn puw.' punt, a roddodd iddo bar o hosanau du y ddafad i'w gwisgo JU y 'palment,' gan ddweyd yn ei Seisnig Crymroaidd a gwladaidd, 'It will le very warm in the winter, my Lord.1
ABERDYFI. AGORIAD ADDOLDY.—Dydd Sul, ail agor- wyd addoldy y Wesley aid yn y lie uchod, ar ol bod dan adgyweiriad. Pregethwyd aryr achlysur gan y Parch. Richard Roberts, Llundain, cyn-lywydd y Conference. Yr oedd y cynulliadau yn Iluosog, a'r pregethu yn afaelgar. CYNGERDD.-Nos Fawrth, yn yr Ysgol Genedlaethol, cyhaliwyd cyngerdd, er budd y Literary Institute yn y lie. Cadeiriwyd gan y Parch. John Rowlands. Cafwyd y cyngerdd yn fwyaf arbenig drwy ymdrechion Mri. Gwilym Williams, Llyfrwerthydd, ac E. Davies, Coal Merchant. Cymerwyd rhan ynddo gan Mrs. Cuthbert, Dovey Dee Singers, Mr. S. Gotto, Miss Rowlands, Aberdovey Juvenile Choir, Mri. Lewis ac Edwards, Mr. E. Richards, Miss Evans, Machynlleth, Mr,W. Edwards. Canwydyr anthem Genedlaethol, ac wedi talu y diolch- iadau arferol, ymwahanwyd. Y LITERARY INSTITUTE. Derbyniodd Cadben Griffith, y trysorydd, rodd o 3p. at yr uchod, oddiwrth Mr. Arnold Evans, Bryste a op. gan foneddwr nad yw yn dymuno gwneyd ei enw yn hysbys.
un o'r lleoedd goreu yn Nghymru, am Watch dda, Aur neu Arian, yw Masnachdy W. W., Dolgellau. Yno hefyd ceir lie rhagorol i ddewis, Modrwyau Aur Pur, ac Alberts, a Brooches Aur;