Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
etnton t?t' Jlwen. -:0:-
etnton t?t' Jlwen. -:0:- TALHAIARN. GAN ISLWYN. Y maen hwn guddia mewn hedd—brofedig rif awdwr o Wynedd Ow rifo bardd raor ryfedd, Addfwynaf wr, i ddwfn fedd. Ei barodlawn ber hyawdledd— a'i fyth Gyfoethog arabedd, A'i gan gwyd ei ogonedd A'i fawl byth uwch gafael bedd. I Talhaiarn eto oleua—ei wlad A'i len ardderchoca Rhyw ail gof anfarwol ga Gu eilydd, tra bo Gwalia.
AMRYWION.
AMRYWION. Yn Sweden adeg y cynhauaf, os digwydd iddi wlawio, taenir y gwair i'w sychu ar groesgoed, rhywbeth yn debyg fel y gwneir yn y wlad hon gyda dillad. Cyn codi ein hysgolion Canolraddol, nid otdd ond un disgybl yn Nghymru ar gyfer tri ar ddeg' yn Lloegr yn derbyn addysg yn y cyfryw ysgolion. Mae y Parch. Thomas Job, Cynwil, sir Gaerfyrddin. wedi ei anrhydeddu a'r gradd o D.D. Gobeithiwn na cliollir y dyn l'ob o i-aii ei ystum, ei lais na'i arabeddyn y 'doctor.' Y mae geriym ddoctoriaid amryw, eifehr nid oes genym ond uu Job. Anffawd fyddai i ddim anafu na chuddio y cymeriad gwreiddiol. Nid oes sail i'r chwedl fod y cyfraniadau o Loegr yn lleihau ar gyfrif helynt y peirianwyr tuag at gynorthwyo chwarelwyr Bethesda. Deil yr arian i ddo'd i mewn yn barhaus. Cyrhaedda cronfa'r Daily Chronicle tuag ugain mil o bunau, cronfa'r Reynolds News- paper tua saith gant o bunau, heb son am gyfraniadau ddaw offynonellau eraill. Caiff y corau dderbyniad gwresog yn nhrefi Lloegr, ac y mae eu cyngherddau yn dal yn llwydd- ianus iawn yn mhob man. Golygir am etholiad caled aelod seneddol dros Brightside, Sheffield, i'r sedd a wnaed yn wag, drwy farwolaeth Mr. Mundella. Yr yrngeisydd Rhyddfrydol yw Mr. Maddison, golygydd y Railway Review. Fel cynrychiol- ydd llafur y mae yn dyfod allan yn benaf, a gweithwyr yw corph yr etholaeth. Mr. Fitz- alan Hope yw yr ymgeisydd Toriaidd. Yr oedd mwyafrif Mr. Mundella y tro diweddaf dros 1,200. Cymer yr etholiad Ie dydd Gwener. Bwriada Radicaliaid mwyaf bla&nllaw y blaid Ryddfrydig yn y Senedd wthio yn mlaen yn ystod y Senedd-dymor nesaf, bwnc y diwygiad etholiadol. Mewn cyfarfod a gyn- haliwyd ganddynt dydd Mawrth, penderfynas- ant ddwyn yn mlaen, a chynyg yn gynar y flwyddyn nesaf, fesurau ar ddiwygiad ethol- iadol, yn ymwneyd, yn mysg pynciau eraill, ag un dyn un bleidlais, yr holl etholiadau ar un dydd, talu costau yr etholiadau, a thalu i aelodau seneddol. Mae pentref yn Saxony, o'r enw Markneu- Kilchen, yn cynwys 15,000 0 drigolion, oil yn gweithio ar y crwth. Gan y gwneir y crwth i fyny o 62 0 ddarnau, mae yno rywbeth i bob un o'r teulu i'w wneyd. Ceir y plentyn, y llanc, y ferch ieuanc, y gwr canol oed, yr hen ddyn a'r hen wraig, yn brysur gyda rhyw ran o'r gwaith. Gwaith y gwragedd a'r merched yw llathru a chaboli; ac y mae dynes fedr wneyd y gwaith yn dda yn gaffaeliad mewn teulu. Nid het newydd neu wisg sydd yn gwneyd merch ieuanc yn swynol i'r bechgyn yno, ond ei deheurwydd yn y gelfyddyd o lathru a chaboli. Pan ddewisodd Victoria g-ydmar bywyd-a hi cofier, oedd i ddewis a chynyg-cafodd yn ei chefnder, y Tywysog Albert o Saxe-Coburg a Gotha, foneddwr 0 gymeriad dilychwin, a gwr yn ofni Duw. Tra yr oeddid yn gwneyd y parotoadau anghenrheidiol at y briodas, gofynodd yr arch-esgob iddi a wnai efe ddim newid ychydig ar y Gwasanaeth Priodas, lie y gofynir i'r wraig addaw ufuddhau i'w gwr, gan fod brenhines uwchlaw pawb o'i deiliaid, a'i bod felly uwchlaw ei gwr. Ateb y Frenhines eedd na chai yr archesgob newid yr un gair o'r gwasanaeth, a'i bod hi am gael priodi o dan yr un amodau a phawb o'i deiliaid, a'i bod yn myned i'r ystad briodasol fel dynes, ac nid fel brenhines. Yn wir, y mae hyny wedi ei hynodi trwy ei bywyd; ac y mae bob amser wedi profi ei bod yn feddianol ar rinweddau cryfaf a phrydferthaf merch a gwraig, a mam A branhines,
g)'r 3?fcut.
g)'r 3?fcut. GAN LLEW. Yn ol yr arwyddion, y mae yn argoeli bod yn frwydr boeth am Eisteddfod 1899, rhwng Oaerdydd ac Aberystwyth. Y mae paroto- adau mawrion yn cael eu gwneyd eisoes. Mawr hyderwn y llvvyddir i'w cliael i Aber- ystwyth. Parodd gwaith y gwneuthurwyr Americ- anaidd yn gostwng prisiau y deugylchau, I tD fraw ymysg y gwneuthurwyr Seisnig; ac eisoes y mae un o'r cwmniau rnwyaf adna- byddus wedi tynu eu prisiau i la wr, a chredir y bydd raid i'r gweddill ddilyn eu hesiarnpl yn fuan. Wedi hyny, peidier synu na welir y Golygydd a'r Llew yn olwyno drwy y Canolbarth ar deitbiau ysglyfaethol. Ami iawn y clywsom y beirdd yn cwyno uad oedd genym un gair yn yr hen iaith wuai gynghaneddu a'r gair Jones, yr hwn y tybia y byd a'r Bettws ei fod yn air liollol Gymreig. Dyma fel y daeth un rhigyimvr nid anenwog drwy yr anhawsder rai blyn- yddau yu ol: — Pan b'o marw Dafydd Jones, Rhowch ei gorph 0 dan y stones, Yno llonydd gaiff ei bones, Oddiwrth ofal byd a'i boen's.' Pan ofynwyd i dyst bychan oddeutu naw oed, yn hoddlvs Aston yr wythnos o'r blaen Beth, chlywsoch chwi erioed am Dduw?' atebodd yntau Naddo ond mi wn dipyn o ddaearyddiaeth.' Pabydd bach oedd yr hogyn, ac wedi ei addysgu yn yr Ysgol Babaidd. Ni chlywodd erioed air o son am y Beibl ycliwaitli. Dyma reswm arall paham y dylem wrthwynebu hyd eithaf ein gallu, i Babyddiaeth gael gafael yn ein D gwlad. Ymwelwyd a Llanfaches, g-enedigol fan Ymneillduaeth yn Nghymru, gan nifer o Annibynwyr Sir Fynwy, ychydig' amser yn ol. Ymwelwyd ganddynt a'r egiwys lie y bu William Wroth yn gwasanaethu. Yna aethpwyd i'r capel, lie y darllenwyd papyr gan y Parch. W. Griffiths, Cendl, ar Ddechreuad Ymneillduaeth yn Nghymru,' a phapyr gan y Parch. D. M. Davies, Farteg, ar I Adgofion am weinidogion enwog Sir Fynwy.' Ar ol hyn, cyfranogwyd o Swper yr Arglwydd. Coiir y diwrnod yn hir gan y rhai oedd yn bresenol. Mae Bwrdeisdrefi Oaerfyrddin a Llanelli yn parotoi ar gyfer brwydr etholiadol y dyfodol. Darfu i Bwyllgor Gweithiol y Gymdeithas Eyddfrydol yn y ddwy dref ddewis Mr. Gwilym Evans yn hytrach na Mr. A. Davies neu Mr. Terrell, am ei fod o'r lie, ao wedi gwneyd llawer dros addysg, yn y dref a'r wlad. Y mae wedi profi ei hun yn aelod gweithgar a galluog ar y Cyngor Sirol. Gwasanaethodd fel is-gadeirydd y Cyngor, ac wedi hyny yn gadeirydd y Cyngor am dair blynedd, a hyny i foddlon- rwydd cyffredinol. Yr wythnos ddiweddaf, eyfaif a y Gymdeithas Eyddfrydol yn Nghaer- fyrddin, a derbyniasant ddyfarniad y pwyllgor gyda'r unfrydedd mwyaf. Y mae y bwrdeisdrefi hyn yn benderfynol i adenill y sedd y cyfle cyntaf geir. Un o'r Cyinru Fydd ydyw Mr. Evans, ac nid oes amheuaeth na fydd yn ffyddlon i'r blaid Gymreig yn y Senedd, ac hefyd yn nerth ac yn gefn iddi. Dymunwu ei lwyddiant.
PENNAL.
PENNAL. ANKHEGU.—Noa Fawrth, anrhegwyd Miss Williams, athrawes yn Ysgol y Bwrdd, a Silverplated tea service, c., ar ei hymadawiad i Tregeiriog, fel arwydd o barch yr ardal tuag ati. Cymerwyd y gadair gan y Parch. R. M. Jones. Cafwyd anerchiadau gan y cadeirydd, Parch. R. Owen, Mri. Owen Jones, ac E. Rowland, oil yn tystio i gymer- iad rhagorol, a'r lie dwfn oedd i Miss Williams yn perch y plant a'r ardal yn gyffredinol. Hefyd cafwyd caneuon yn ystod y cyfarfod gan Miss Susy Jones, Mr. T. H. Jones, a'r Band of Hope. Diolchodd Miss Williams am yr anrhegion mewn ychydig eiriau toddedig. Bydd y golled ar ei hoi yma yn fawr, yn arbenig yn y Band of Hope.
TALYBONT.
TALYBONT. PLESERDAITH. —Dydd Mercher, bu aelodau Ysgolion Sul, Bethel, Bethania, a Soar (A.), am blesordaith yn Llandrindod. Cludwyd hwy i orsaf Llanfihangel mewn cerbydau, lie yr oedd hen arbenig i'w cludo i Llan- drindod. Manteisiodd amryw ar y cyfle i fyned gyda hwy. Yn ystod y dydd, cawsant dynu eu lluniau gyda'u gilydd gan Mr. Roberts, Llandrindod,
YSGOL SIROL MACHYNLLETH.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH. GOSOD CFIITYA SYLPAEN YR ADEILAD. Yr oedd dydd Gwener diweddaf yn ddiwrnod llythyren goch ys dywed y Saeson yn hanes Machynlleth, y diwrnod mwyaf mewn ystyr gymerodd lo yn y genedlaeth hon, pryd y cyflawnwyd y seremoni o osod i lawr gongl feini yr Ysgol Ganolraddol newydd. Amgylchiad cyffelyb mewn pwys- igrwydd oedd tori tywarclxen y reilffordd i'r dref yn agos i ddeugain mlynedd yn ol. Mae manteision dirfawr wedi dyfod i'r dref a'r wlad oddiamgylch drwy y ffordd liaiarn, ac ni bydd ffordd gwybodaeth a agorwyd ar Gae Garshiwn dydd Gwener yn ol o estyn bri ar y fangre, breintiau a dyrchafiad na ellir mosur eu maint i'r genedlaeth sydd yn codi ae i'r oesoedd dilyuol. Nid oedd y cynulliad ar yr achlysur yn fawr. Yr oedd yn gyfyngedig bron yn hollol i breswylwyr y dref, ac yr oedd ar- weinwyr perthynol i un blaid egl wysig, ag eithrio Canon Trevor, a rhai eraill, yn amlwg yn eu habsenoldeb. Maent drwy hyn yn rhoddi ar ddeall os na chant y pen praifaf i'r ffon yn eu dwylaw eu hunain, aed sefydliadau addysgol i drengu. Mae'r ysbryd eiddigeddus yn uchel ei ben yn Machynlleth, ond aed cyfeillion rhyddid ac addysg dda yn mlaen, ganddynt hwy y mae y dyfodol. Dechreuwyd y gweithrediadau drwy gynal cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y dref dan lywyrddiaeth y Parch. Josiah Jones, cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr. Ar y llwyfan yr oedd Mr. A. C Humphx-eys-Owen, A.S., Major Pryee Jones, A.S., Proff. A. W. Hughes, King's College, Llundain, Dr. Davies, Mri. E. Hoes, W. M. Jones, n. Rees, H. Owen, J. Rowlands, II. H. Meyler, ac amryw 0 foneddigesau. Yroedd llawr yr ystafell wedi ei lenwi gan blant yr Y sgolion ZD Elfenol. Ar ol i'rllywydd agor y cyfarfod, galwodd ar Mr. Meyler y Prifatlxraw i roddi adrodd- iad 0 sefyllfa yr ysgol, yr hwn oedd yn un calonogol iawn. Y flwyddyn ddiweddaf yr oedd pump o'r ysgolorion wedi pasio Arholiad Lleol Caergrawnt, un ferch wedi pasio Matriculation Prifysgol Cymru, a dwy wedi pasio yr un arholiad yn mhrifysgol Llundain, yn y dosbarth blaenaf. Darperid ar gyfer addysg ddeallol a moesol gydag ymarferiadau corphorol yr ysgolorion. Yr oedd ganddynt lyfrgell a gychwynwyd gan Mrs. Humphreys-Owen, a chafvryd 50 o gyfrolau g'an Fwrdd y Llywodraethwyr Sirol. Caninolaiymdclygiadau da y plant a dymunai wasgu ar y rhieni y pwysigrwydd i'w plant aros am gymaint o amser ag sydd yn bosibl yn yr ysgol. Diolchai am y cyn- orthwy ewyllysgar a roddwyd iddo gan ei gynorthwywyr a'r lily wodt-ae thw, yr. Yna rhanwyd gwobrwyon o lyfrau a thystysgrifau i'r ysgolorion llwyddianus gan Mrs. D-r. Davies, Miss Foulkea Jones, Mrs. Alfred Hughes, a Mrs. John Rowlands. Yn nesal, anerchwyd y cyfarfod gan Mr. Humphreys-Owen, A.S., yr hwn a amlygai ei lawenydd ar yr achlysur. Y noson hono bwriadai fod yn bresenol yn Mwrdd Canolog yr arholiadau. Credai y byddai i'w arholiadau hwy g'ymeryd lie y cyfan o'r rhai presenol gyda'r ysgolion hyn. Er nad oedd yn bleidiol iarholi plant yn f eiinyddiol, byddai y safon yn un drwyadl, ac yn cael ei chario allan gan rai o'r prif ysgolheigion yn Nghymru, a thuallan iddi. Ffaith deilvvng 0 sylw am yr ysgol hon oedd i'r oil o'r plant basio yn llwyddianus mewn addysg grefyddol. PfurJiwyd wed'yn yn orymdaith yn cael ei blaenori gan Seindorf Bres Corris. Wedi cyraedd y cae gosodwyd y meini, ar y rhai yr oedd carfiad addas, gan Mr. Ilumphreys- Owen, A.S., Proff. Hughes, Major Pryce Jones, A.S., a Mrs. Foulkes Jones. An- rhegwyd hwy oil a thrywel arian brydferth. Ar ol gorphen, rhoddodd y Parch. Josiah Jones fyr-hanes am addysg yn y dref, gan gyfeirio at ysgol gylehynol Madam Bevan n a gynhaliwyd yn y lie. Ysgol arall fu am dyinor tu ol i'r White Horse Inn. Yr oedd cynydd mawr wedi oymeryd lie fel y gwelid hyd y diwrnod hwnw.—Major Pryce Jones, A.S., a deimlai yn anrhydedd cael cym- eryd rhan yn sylfaeniad yr ysgol. Yr oedd yn cael ei foddhau gan ymddangosiad deallus yr ysgolorion, a'rllwyddiantnodedig a brofwyd gan dair o'r genethod yn pasio Matriculation y Prifysgolion Llundain a Chymru, yr hyn oedd yn wir orchestol. Yr oedd yn dda ganddo gael dyblu ei gyfraniad at yr adeilad.-Proff. Hughes a deimlai yn falch 0 gymeryd rhan yn y gweithrediadau, am ei fod yn enedigol- o'r gymydogaeth gyfagos. Adolygodd yr ymdrechion yn y blynyddau a basiodd gydag Addysg Ganol- raddol ac Uwchraddol yn Nghymru. Barnai rhai fod gormod o'r ysgolion hyn, ond ni byddent felly tra y cedwid hwy mewn effeithiolrwydd. Honai y byddai y Cymry ar flaen rhes cenliedloedd, ond iddynt gael manteision priodol. Bu yn ei ddosbarthiadau ef ysgolorion o bob gwlad yn y byd, acyr oedd yn argyhoeddedig fod yn y Oymry alluoedd cyfu wch ag un o honynt. Wrth derfynu y gweithrediadau, dvvved- odd Mr. Richard Hees fod costau yr ysgoldy yn 1,915p., symiau a dderbyniwyd ac add- ewidion l,454p. 3s. le.; dyled yu aros 460p. 16s. lie. Yna derbyniwyd symiau cliwan- egol gan Mrs. Davies, Penrallt, a Mrs. Davies, Maldwyn House, yn gwneyd i fyny gyfanswm 0 133p. 15s. 10c. Ar ol ychydig sylwadau gan Mr. W. Cooke, Dref newydd, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch cyffred- inol, a diweddwyd trwy i'r Seindorf chwareu Hen wlad fy uhadau.'
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. DYROIIAFIAD.—Deallwn fod Mr. Richards, Gorsaf-feistr y G. W. Railway, wedi ei ddyrchafu yn orsaf-feistr Corwen. Er mai byr in arhosiad Mr. Richards yma, y mae wedi enill lIe mawr yn sercli y dref, a llaweuheir yn ei ddyrehafiad. Pasiodd y Cyngor Dinesig i anfon at Gyfarwyddwyr y Cwmni iddynt benodi Cymro yn ei le. PLKSERDAIXH.—Deallvvn y bydd Ysg-olion Sul y Methodistiaid a'r Wesleyaid, yn myned am bleserdaith i Pwllheli gyda'u gilydd ar y 18fed o'r mis hwn. Diau y bydd yn excursion boblogaidd. TAI I WEITHWYR.—Yn y Cyngor Dinesig, nos Fawrth, cynygiodd Dr. John Jones, Caerffynon, fod y Cyngor yn adeiladu tai cymwys i weithwyr, i'w gosod am rent rhesymol. Caed anerchiad gwresog gan y Doctor. Ar y diwedd, cynygiodd fod pwyllgor yn cael ei nodi i edrych i mewn i'r mater, a nodwyd pwyllgor o 5. Hyderwn 11a erys y mater ar hyn, ond y gwneir rhywbeth, a hyny yn fuan, gan fod g-wh- angen am dai felly yma.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. MARWOLAETH.—Gyda gofid y cofnodwn farwolaeth Mr. Evan Jones, Clerc y Llys Sirol am y 25ain mlynedd diweddaf, yr hyn a gymerodd le y Sabbath cyn y diweddaf. Gadawa ar ei ol wraig a pliedwai 0 blant, a pha rai y cydymdeimlir yn fawr. ARDDANGOSFA FLODFU.-Dydd Gwener, Awst 13eg, cynhelir pedwaredd arddangosfa fiodeu flynyddol Gogledd Ceredigion, yn Aberystwyth. Yn chwanegol at yr atdyn- iadau arferol, bydd Minstrels, a gwahanol gampau yn ystod y dydd. Bydd tren rhad yn rhedeg o wahanol leoedd i Aberystwyth y diwrnod hwnw.
TALYLLYN.
TALYLLYN. Yn arwerthiant eiddo tirol y diweddar Mr. J. Jones, Maesypandy, siorhawyd Llwyndolithel a Dolyddycae, gan Mr. T. H. Williams Idris, Mineral Waters Manufact- urer, Camden Town, Llundain, am 4,400p. Mae Mr. Idris yn aelod blaenllaw o Gyngor Sirol Llundain, ac yn gyn-ymgeisydd Rhyddfrydol dros fwrdeisdreti. Dinbych. Mae y ddwy fferin uchod yn cynwys y rhan fwyaf o Gader Idris a fform Dolyddycae yn cyraedd i gopa y Gader. Clywsom mai swyn at yr enw Idris barodd iddo ef brynu.
BRITHDIR.
BRITHDIR. Bydd yr Eglwys newydd, yr hon a ad- eiledir gan Mrs. Tooth, Caerynweh, yn cael ei hagor yn gynar yn yr Hydref. Mae y fywioliaeth wedi ei chynyg a'i derbyn gan y Parch. T. Llewelyn Williams, curad hynaf Caernarfon.
AIL SOLOMON.
AIL SOLOMON. Yn ol adroddiad gohebydd, rhaid fod M. Cornette, un 0 ynadon Paris, yn astudiwr o ddulliau y brenin Solomon. Yr oedd gwraig weddw yn dweyd iddi golli swm o arian, a drwgdybiai ei morwyn, merch ieuanc o.Lydaw, o'u lladrata, yr hon a ddygwyd ger bron y llys. Ar ol i Mr. Cornette ei chwestiyno i ddim pwrpas, dywedodd I Gellir gweled yn hawdd eich bod yn ddieuog. Aroswch tra yr af i ofyn i'r ddynes ieuanc sydd mewn cymundeb a'r Angel Gabriel, pwy yw y person sydd yn euog.' Dychwelodd yr ynad yn mhen tipyn, a dywed- odd wrth y cyhuddedig nas gallai y voyante enwi yr un euog, ond y byddai i'r person a ladrataodd yr arian farw yn mhen tri diwrnod. Ar unwaith gwelwyd y ferch dan ddirdyniad poenau meddyliol mawr. Am ddau ddiwrnod ni chymerai ddim lluniaeth, ac o'r diwedd cyfaddefodd y lladrad, gan ddweyd fod yn well ganddi fyned i'r carchar nag i'r gladdfa. Yna maddeuodd ei meistress iddi, a therfyn- wyd yr achos.
[No title]
Mae gan W. W., Dolgellau, Stoc Enfawr a Watches, Jewellery, &c., o'r mathau gereu am y prisiau mwyaf rhesymol. Fe dalai yn dda i lawer un ddod i dref Dolgellau 0 Gorris, Aberllefenni, ac Abergynolwyn, &c., er barnu drostynt eu hnain
HANES TAITH SABBOTHOL.
HANES TAITH SABBOTHOL. Mae lleoedd bychain yn gyifredin yn selog a chynes ryfeddol. Dywedir eu bod yn rhai sydd yn cyflawni dyledswyddau yn well na llawer o'u cyffelyb mewn trefi, am fod yn rhaid iddynt ymarfer yn amlach yn y cyfarfodydd gweddi, a'r seiadau. Capel Penegoes, Capel bychan yw un y Methodistiaid yn y lie hwn, am fod yno lawcr o wahanol sectau. Ychydig yw y gynulleidfa, ond y maent yn gref- yn grefyddwyr o'r stamp oreu,—yn fatent y nefoedd. Maent yn gynes gyda'u gilydd, yn wrandawyr siriol, effro, a chraffus. Maent yn ymofyn am bregeth a swm o bethau da ynddi. Deallaf mai yma y codwyd yr enwog E. J., Caernarfon. Yr wyf yn cofio am ei dad, yr hwn oedd yn ddyn duwiol a deallus, ac y mac chwaer E. J. yma eto. Mae hithau yn llawn o'r meddyliau am athrawiaethau crefydd, ac mae am gael pregethau da. Mae golwg siriol ar yr achos yma, ac mae yma rai wedi dyfod i fyw i'r gymydogaeth, ac yn fendith i'r lie. Y mae cael rhai o'r nodwedd yma yn fendith i achos gwan. Pontfaen. Mae yma hefyd bentref bychan ac maent yn lwcus nad oes yma ddim un dafarn, ac nid oes eisiau un ychwaith. Mae'r capel 0 gryn faint ac yn hardd, a chynulleidfa dda ag ystyr- ied y gymydogaeth; y gwrandawiad yn astud, a phobl yn dangoa parch i'w gilydd. Yma y mae'r brawd D. Jones, yr hwn sydd was ffyddlon i'r achos. Mae yn chwith genym weled lie yr hen bobl yn wag, y rhai oedd a'u Amenau mor barod. Mae eisiau cael yr Amenau a'r diolch yn ol eto. Maent yn help mawr i bregethwr. Mae y bobl yma yn wir ofalus a pharchus 0 bregethwyr, yr hyn sydd yn rhoi calondid i fyned atynt drachefn. Pantperthog. Mae pedair milldir o ffordd i'w theithio 0' r diweddaf i'r capel hwn. Mae yn gryn ffordd i'r pregethwr i gerdded. Dylai y tri lie ddeall eu gilydd gyda hyn. Bydd y pregethwr yn sicr o fod yn gryfach i bregethu ond iddo gael ei gario. Mae Pantperthog wedi cael enw cywir iawn, mewn pantiau o goad hardd mae yn sefyll. Gwlad amaethyddol yn fwyaf arbenig yw hon, heb fod ymhell o Corris, ac mae yma chwarel gerllaw. Mae y capel wedi ei godi ar le cyfieus an fin y brif-ffordd, yr hwn sydd wedi ei ad- newyddu, ac yn ol ei faint, yn glod y siroedd. Mae gwaith da arno addiinewn, ac yn gapel rhagorol ymhob ystyr. Mae ty capel yn ei ymyl yn y modd goreu i letya pregethwr. Nid oes yn bosibl iddo fod yn well; gall fod y reilffordd wedi gwneyd peth drwg iddo ond nid llawer. Mae yma eglwys gynes a gweithgar a thal- entau yn y bobl ieuainc a ddeuant i'r golwg- i fod yn lies. Parhaed y tri lie bach hwn yn wrol, gan gynyddu ymhob gras, heb esgeuluso yr un 0 honynt, y mae ar eu llaw i'w wneyd tuag at Dduw a dynion.—FFYDDLON.
ARWERTHIANT AR FFERMYDD.
ARWERTHIANT AR FFERMYDD. Dydd Sadwrn, yn y Golden Lion Hotel, Dolgellau, cynygiwyd ffermydd a thai rhydd- daliadol, eiddo y diweddar Mr. John Jones, Tynycornel, Talyllyn, ar arwerthiant gan Mr. R. Gillart a'i Feibion. Syrthiodd Ffrriddbryn- coch, Llanddwywe, i'r tenant am 3,2oop. Caenycefn, Trawsfynydd, i Mr. T. Jones, Brynmelyn, Corwen, am 1,040P. Orseddlas ac Adwydeg, Trawsfynydd, a dynwyd yn ol am 1,35op. a 45op. Llwyn a Dolyddycae, Taly- llyn, i Mr. T. Williams Idris, Llundain, am 4,400p., Tynymaes, Talyllyn, tynwyd yn ol am i,o8op. Peniarth Arms, Llanfihangel, i Mrs. Kirkby, Llanfendigaid, am 310P Llwyndu Cemiiies, i'r tenant am 686p. Brynmeurig, Cemmes, tynwyd yn ol am i>57°P- Llyngelod, Aberdaron, i Mr. D. Griffith, Pwllheli, am 195P. tai yn Trawsfynydd, tynwyd yn ol am i7op. No i a 2 Glasfor Terrace, Abermaw, tynwyd yn ol am 675P. Bronygader House, Dolgellau, i Mr. R. Guthrie Jones, Dolgellau, e, am 500p. Cyfanswm y cynygi.on 15,436p.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. ODYDDIAETH.—Yn nghyfarfod haner blyn- yddol Odyddion Undeb Manceinion, a gyn- haliwyd yn Aberystwyth, dydd la-u, anrheg- wyd Mr. John Evans, Ironmonger, o'r dref hon a bathodyn arian, gyda cherfiad addas arno, am ei wasanaeth fel Past Grand Master. LLWYIJDIANI.—Pasiodd y rhai canlynol o ysgolheigion yr Ysgol Ganolraddol yn ar- holiad y Science and Art ar Iechyd, Sarah A. Jones, Frances G. Morgan, S. Perkins, Mary L. Jones, Jannott Davies, Susan J. Humphreys, Sallie Owen, a Maggie Breeze.
ANRHEGION.
ANRHEGION. Gan W. W., Dolgellau, mae Stoc Ragorol o Watches Aiir Ardderchog, Clociau a Jewellery (ac eiddo eraill mewn Aur. ac Arian) cyfaddas fel Anrhegion a Testimoniq4