Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
PLESERAU CARTREF.
PLESERAU CARTREF. GAN LLYSTYN. Aelwyd lan, a than, a theulu, Ydyw fy nifyrwch ar fy hynt; Llon'd y ty o blaiit yn canu Hen alawon grymus Cymru gynt; Minau yn fy nrhadair freichiau Gartref gyda'r plant, Yn anghofio fy ngofidiau Dowch blant, canwn blant Dedwydd ydwyf gyda'm plant- Da iawn, blant! O mor ddedwydd ydyw'r oriau Dreulir genyf gartref gyda'r plant 'N,hanol Ilyfrau a theganau, Ar yr aelwyd gartref gyda'm plant Ar ol diwrnod blin o lafur, Gartref gyda'r plant Boddi nudded gafmewn cysur Dowch blant, canwn blant, Dedwydd ydwyf gyda'r plant- Da iawn, blant! Gwir mai syml yw fy mhleserau Ar yr aelwyd gartref gyda'r plant; Ymryson canu, ymryson chwarau, Ar yr aelwyd gartref gyda'r plant Weithiau'n dysgu'r plentyn lleiaf Gerdded gyda'r plant, Minau yma'r plentyn mwyaf Dowch blant, canwn blant, Dedwydd ydwyf gyda'r plant- Da iawn, blant Treulio wnaf fy oriau' n 11awen Ar yr aelwyd gartref gyda'r plant Weithiau'n canu, weithiau'n darllen Ar yr aelwyd gartref gyda'r plant: Weithiau'n gwneuthur dirfawr dwrw Gartref gyda'r plant, Weithiau'n trin y wialen fedw Dowch blant, canwn blant, Dedwydd ydwyf gyda'r plant— Da iawn, blant
PLANT CENFIGEN.
PLANT CENFIGEN. GAN DR. D. REES, BRONANT. Ychydig yn awr atrichia nt cenfigen. Maent yn ddrwg i gyd. Nid yn ami y gwelir twr o blant yn ddrwg i gyd, na bydd yno rai yn dda, ond mae plant cenfigen felly. i Dyna un, Rhagrith. Ymddangosa ei fod yn eich parchu, ond blaidd yn nghroen dafad yw, gwisga orchudd er dangos ei fod yn ffrynd i chwi, ond drwg drwyddo ydyw. Gwyliwch rhagddo. 2 Digofaint eto. Mae hwn yn cario cleddyf blaen-fain ac awch ar bob ochr iddo, i ddisgwyl cyfleusdra i niweidio. Fel dwfr berwedig yw cenfigen ydyw y tanwydd sydd yn ei feiwi yn barod i'w dywallt ar ei wrthddrych. 3 Enllib ac Athrod. Math o wybed yw enllibwyr yn chwilio am friwiau eu cymydogiorf. Cariant fwhdeli o bethau drwg i deiau i ddweyd pethau na ddylent am eu caseion. Mab hynaf y diafol yw yr enllibwr, a dant gwenwynig y diafol sydd ganddo. Mae y rhai sydd yn derbyn enllib cynddrwg a'r rhai sydd yn ei roddi, fel y mae yr hwn sydd yn dal y sach can waethed lleidr a'r hwn sydd yn rhoddi ynddi. 4 Gweniaith eto. Mae'r gwenieithwr yn cadw ffrynt deg iawn, ond amcan drwg sydd ganddo—tynu arall yn mlaen er mwyn ei ddrygu. Cyfaill braf ydyw os bydd genych rywbeth. Peidiwch byth gwneyd cyfaill o hono. Gwyneb agored a'i pia hi. 5 Y Celwyddwr. Peryglus yw hwn, yn llunio ac asio darnau drwg a da wrth eu gilydd, ac yn llawn drwgdybiaetli. Ceir math o ddynion yn dweyd celwydd mor naturiol ag yw y duwch yn nghroen yr Ethiop. Gadewch iddynt, dyna eu harfer, nid oes un gair a ddywedant i'w goelio. Gwnewch a hwynt fel y gwnaeth Paul a'r wiber-eu hysgwyd ymaith, neu fel y mae pobl y gwaith yn gwneyd a'r tai pylor, eu gadael ar eu penau eu hunain. 6 Mae Balchder yn un o blant cenfigen. Cenfigena y balch os gwel rhywun yn cael ei barchu yn fwy nag ef, ond llawer wrth ddringo yn rhy ucbel ar bren balchder, a orphenodd ei yrfa mewn dianrhydedd. Dywed Manton mai pechod gwreiddiol y diafol yw balchder, a chenfigen a phechodau eraill ei bechodau gweithredol. 7 Yn olaf, Dial. Chwilio am waed y mae y dialgar. Cymer drafferth i gofio hen bethau drwg. Nid oes maddeu yn agos ato. Ni chofia ei wendidau ei hun, neu buasai yn fwy parod i faddeu i eraill. Dyna y peth goreu i wneyd i'r dyn fydd am ddial arnoch—gwneyd rhyw ddaioni iddo. Mae hyna yn lladdfa i'r dial. I Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gym- yd°g/ &c. Cadw yn mhell oddiwrth y drygau hyn ell yw y diogelaf.
gtfait.,
gtfait. GAX LLEW, Yn ol yr adroddiad a gyhoeddodd Dr. Abraham Thomas, Swyddog Meddygol Aberystwyth, nid oes umkyw afiechyd lieintus wedi bod yn y dref yn ystod y misoedd diweddaf, a bod y dref, mown gwirioiiodd, wedi bod yn rhydd oddiwrth y Z3 cyfryw afiecliydon er's chwe' mis, a'r un modd y gellir dweyd am y pentrefi hefyd sydd ar y glanau. Y mae Mountain Ash wedi enwogi ei hun mewn mwy nag un ystyr yn ddiweddar, ond yn fwyaf neillduol yn y byd eeiddorol. Ceir mai yn nghapel yr Annibynwyr yma y mae y gerddorfa fwyaf yn Nghymru, yr hon sydd o dan arweiniad Mr. Glyndwr Richards, ae yn rhifo 36ain, heb gyfrif yr organ. wYllol ac effeithiol fe ddywedir ydyw caniadaeth y cysegr yn yr addoldy hwn. Gwelsom yn ddiweddar yr englyn a ganlyn ar gareg fedd. Pwy o feirdd y Canoibarth a ddywed lie y mae ? Carodd eiriau cerddorol—carodd feirdd Carodd fy w'n naturiol, Carodd gerdd yn angerddol, Dyua'i lwch a dim lol. Wele un arall geir ar gareg fedd un oedd aduabyddus gynt ar lanau y Dyfi:- Rhaid marw er hyd n-lawi-edd-ag wedi Gadael pob anrhydedd, U u g'areg' yn ei gorwedd, Yn troi'r fan mae tir ei fedd. Y mae y si allan fod Cwrnrii ff ordd haiarn y Great Western ar hyn o bryd, yn ystyried y doethineb o ostwng' pris teithio ar eu llinellau, drwy fabwysiadu cyullun i rcdeg holl deithwyr dosbarth y trydydd am ddimai y filldir, a gwneyd i ffwrdd a'r rhan fwyaf o'r Excursion trams. Os oes gwirionedd yn y peth, a diameu fod, y mae'r anturiaeth yn un odidog, ac yn anrhydedd i'r hwn a feddyliodd am y fath symudiad canmoladwy. A does dim amheuaeth na wna yr anturiaeth dalu yn dda i'r Cwmni, gan y bydd y toitliwyrynlluosocacho lawer wedi hyny, nag ydynt. Chwith meddwl fod y Parch. Joseph Rowlands, Talysarn, yn ei fedd er dydd Mawrth diweddaf. Bu farw yn Llandudno, lie yr oedd wedi myned am seibiant, o herwydd sefyllfa ei iechyd. Ganwyd ef yn Nghonwy yn 1836, ac yr oedd ei dad-y Parch. R. Rowlands, yn weinidog i'r eglwys Annibynol yn Heuryd. Dechrouodd bre- gethu yn Llandudno. Ordeiniwyd ef yn weinidog ar yr oglwysi y bu ei dad yn eu gwasanaethu. Oddiyno symudodd i Rhos- llanarchrugog, ae yna i Beaumaris, ac wed'yn i eglwys Radnor Sheet, Llundain. Ond am fod ei iechyd yn pallu, bu raid iddo ddycliwelyd i Gymru, ac ymsefydlodd yn Talysarn. Ystyrid ef yn bregethwr coeth a sylweddol, a phawb yn edryoh i fynu ato fel dyn a Christion. Flwyddyn yn ol, gwelsom enw llanc o Abergynolwyn yn bedwerydd trwy y deyrnas mewn arholiad yn y Gymraeg, yn Arholiad Rliydychen. Ac eleni eto dyma yr unllanc, sef Mr. Hugh Robert Hughes, mab i Mr. Robert ac Elizabeth Hughes, Tanybryn, wedi ei restru ymysg y rhai llwyddianus am Matriculation Examination, yn nglioleg Aber- ystwyth. Rhagorol yii wir pan ysty riom y safle y mae wedi etifeddu mewn addysg, cyn bod eto yn ddwy ar bymtheg oed. Mae y camrau breision mae wedi roddi, yn siarad yn uchel am ei alluoedd, yn enwedig pan gofir fod hyn wedi cael ei wneyd ar y cynyg cyntaf. Yr oedd mwyafrif ei gydymgeiswyr wedi dod trosto ar ddwywaith. Aed rhagddo, yn sicr mae dyfodol disglaer o'i flaen, Carem ei weled wedi graddio o'r Gyfatlirofa, a chodi nid Abergynolwyn, ond Cymru, i sylw y deyrnas, a byddai yn galondid i bleidwyr addysg weled ffrwyth mor doreith- iog, mor gynar yn ngyrfa colegau canol, ac uwchraddol Cymru.
PRIFYSGOL CYMRU.
PRIFYSGOL CYMRU. Mae canlyniard yr arholiad cyntaf (matri- culation), am raddau yn Mhrifysgol Cymru, wedi eu gwneyd yn hysbys. Ceir fod y rhestr yn faith, yr hyn sydd yn dangoa fod y Brifysgol newydd hon yn enill ymddiried y cyhoedd. Un peth nodedig a welir yw fod rhan fawr o'r ymgeiswyr llwyddianus yn dyfod o'r Ysgolion Canob-addol, yr hyn sydd yn dangos y gwaith effeithiol sydd eisoes yn cael ei wneyd gan yr ysgolion hyn drwy bob rhan o Gymru. Mae hyn yn addawol am Iwyddiant y Brifysgol, a byddai yn ddymunol i Golegau y Brifvsgol, gael arbed parotoi cymaint ag y maent ar gyfer yr arholiad hwn yn y dyfodol, I
TOWYN.
TOWYN. Yn Y SGOL SIROL.—Yn arlioliad y Matri- culation Prifysgol Cymru, deallwn i Bertram Broom Cotterill, basio yn llwyddianus yn y dosbarth cyntaf. Efo yw y cyntaf yn Ysgolion Sirol Meirionydd i enill y safle hon o fod yn y dosbarth blaenaf. Mae D. Meirion Mason hefyd wedi paaio yn llwydd- ianus at-holiad teifynol y matritidation.
BWRDD YSGOL TOWYN A PEKNAL.
BWRDD YSGOL TOWYN A PEKNAL. Cynhaliwyd dydd M, itwrtli diweddaf, Mr. E. Rowland yn y gadair. PRESENOLDEB.—Cyf artalodd presenoldeb yn yr ysgolion am y mis, fol y canlyn:- Ysgol y Bwrdd Abordyfi, 127*3; Ylióoj Genedlaethol Aberdyfi, 54-7 Yagol y Bwrdd Towyn, 93 Ysgol Geuedlaetliol Towyn, 56 Ysgol y Bwrdd Pennal, 103; Ysgol y Bwrdd Bryncrug, 125.—Darllentvyd adroddiad y Swyddog gorfodol, a, phasiwyd erlyn amryw lieni am esgouluso anfon eu plant i'r ysgol. ADDYSG FEIBLAIDD.—Darllenwyd adiodd- iadau maitli a chalonogol ar y pen hwn, a gwnaed amryw gyfnewidiadau yn y trefu- iadau ynglyn a chyframi y gyfryw addysg. Gadawyd ar yr ysgolfeistri dref tiudosbarth iadau at hyn. ADKODDIADAU YR YSGOLIOST iNos.I)arllon- wyd adroddiadau ar ganlyniad gwaith y tair Ysgol Nos, a phasiwyd ponderfyiiia4 yn llongyfarcii ysgolfeistri aid Aberdyfi a Bryncrug, ar y salle dda oeddynt wedi exiill^ a'ti bod yn falch fod proseuoldeb iiior ragorol yn ysgol Aberdyfi. AAIKYWIOX.—Penderfynwyd fod yr ysgol- ion i'w tori i fyny o Gorphenaf 23ain hyd Medi 6ed.-Gadawyd y mater o estyniad amser prentisiaethj/wj»i7 teachers, ynghyd ag ychwanegiad yn y eyflogau hyd amser eto.- Iihoddwyd caniatad i Miss Jones, athraweg gynorthwyol yn Aberdyfi, i gael ychydig seibiant oherwydd afiechyd.—Darllen wyd ac ystyriwyd amryw ohebiaethau meithiou ar wahauol bethau dibwys.
LLANWRIN.
LLANWRIN. Gwneir cais yn awr i geisio sicrhau blwydd-dal i'r Canghellydd D. Silvan Evans, y rheithior, yr hwn sydd yn parhau yn ddyfal gyda'r geiriadur rnawr Cyrnreig o'i eiddo, ac sydd yn dwyu cryn gostau arno. Mae Mr. T. E. Ellis ac eraill dros Lye y Graddedigion, wedi parotoi deieeb, yr hon a arwyddwyd gan nifer luosog a dylanwadol, a chyflwynir hi i Mr. Balfour yr wythnos hon.
Y GYNADLEDD WESLEYAIDD.
Y GYNADLEDD WESLEYAIDD. Yn y gynhadledd yn Leeds, yr wythnos ddiweddaf, etholwyd y Parch. W. J. Watkinson yn llywydd am y flwyddyn. Derbyniodd 427 o bleidleisiau, a'r Parch. H. Price Hughes yn agoaaf ato 160. Dew- is wyd y Parch. Marshall Hartley yn ysgrifenydd. Mae Mr. Watkinson yn onedigol o Hull, Sir York, yn 59ain mlwydd oed, au wedi bod yn pregethu am 40ain mlynodd. Mae yn awdwr llawer o lyfrau, ac yn olygydd i gyhoeddiadau yr enwad. Pery y gynadledd am tua mis o amser. Dydd Gwener anfonwyd cofeb o gylchdaith Rochester yn gofyn i'r gynadledd diatgan na ddylai personau mewn cysylltiad a'r fasnach feddwol dderbyn awydd yn y cyf- undeb. Penderfynwyd fod y gynadledd oherwydd rhesymau, yn anmharod i ganiat- au y cais, ond yn dymuno cefnogi egwyddor- ion dirwest yn inhob ffordd. Cylchdaith Caernarfon a ofynai am i apwyntiadau y circuit stewards fod yn llaw y cyfarfodydd chAvarterol, ond gwrthodwyd y cais.
Y DIWEDDAR MR. MUNDELLA.
Y DIWEDDAR MR. MUNDELLA. Dydd Morcher, yr 21ain cyfisol, bu farw Mr. A. J. Mundella, A.S., ar ol ychydig ddyddiau o afiechyd. Ganwyd ef yn Leices- ter yn y flwyddyn 1825. Ni afodd fanteision addysg plant y dyddiau hyn, canys pan oedd yn ddim ond naw oed, cymerwyd ef o'r ysgol i enill ychydig at gynal y teulu. Prentisiwyd ef i fasnach gwneyd hosanau. Ar ol hyny bu yn rheolwr ac yn rhan berclienog ar wneuthurfa yn Nottingham. Llanwodd amryw o swyddau yn y dref. Efe oedd un o'r j-hiti bluenuf a ddygodd i sylw y drychfeddwl o sefydlu Bwrdd Cyflafareddiad rhwng meistri a gweithwyr. Yn 1868 etholwyd efyn un o'r Aelodau Seneddol dros Sheffield, a pharha- odd y cysylltiad hyd yn awr. Bu yn weinidog Addysg ac yn Llywydd Bwrdd Masnach yn ngweinyddiaeth Mr. Gladstone. Ei-ys ei brif waith yn lleihad oriau llafur yn y ifactris, gwneyd Addysg Elfenol yn orfodol a rliad, a dwyn mesui-au o blaid amddiffyniad meibion llafur. Ni bu yn y Seuedd erioed well cynrychiolydd i'r dosbarth gweithiol nag ydoedd ef, a pherchid ef gan y ddwyblaid yn y Ty. Bu amryw weithiau yn anerch cyfarfodydd yn Nghymru.
COF-COLOFN I LLYWEIYN EIN…
COF-COLOFN I LLYWEIYN EIN LLYW OLAF Yn mhob gwlad y megir glew,' a gall Cymru fechanyn ddiau ymfalchioyn yr adgot am y cedyrn aberthasent einioesarallor ei rhyddid a'i hannibyniaeth Mae y delfroad cenedtaethol yn v blynyddau diweddaf, yn sylfaenedig i raddau helaeth ar yr ystyriaeth o wrhydri gwroniaid Cymru Fu, ac y mae cenedl y Cymry heddyw yn gallu cymeryd ei satie yn mysg cenedloedd y byd am na phallodd ffyddlondeb a dewrder ei meibion hyd yn nod yn amseroedd tywyllaf ein hanes helbulus. Ond er hyn oil, nis gallwn lai na chael ein taro a syndod gan un diffyg pwysig yn nghanol yr holl amgylchiadau o fywyd Cymreig—yn ofer y chwilir am gofadeiliau cyhoeddus am enwogion Cymru Fu, ac anaml y canfyddir gymaint a maen i nodi man fechan eu bedd.' Gellir ymdaith 0 ben Caergybi i ben Caerdydd heb un arwydd allanol i ddwyn ar gof i ni ein bod yn troi yn mysg disgynyddion Arthur, Hywel Dda, Glyndwr, a Dafydd ab Gwilym. Er's tro bellach, cychwynwyd symudiad, a derbyniwyd addewidion at godi cronfa i sefydlu cofeb genedlaethol i'r tywysog dewr ond anffodus. Llywelyn ab Gruffydd. Gall fod rhya-,up a d,dywedna,,a.cfi; oedd y godidocaf o arwyr rhyddid Cymru; ond nid oes yr un ag y mae eu hanes wedisuddo yn ddyfnach i serchiadau y genedl. Fel milwr, ysgolhaig, ir wiadweinydd,,a me.r,thyr-y mae ei fywyd yn un o'r rhai mwyaf rhamantus, a'i farwolaeth yn un o'r rhai mwyaf prudd-ddyddorol, yn holl gylch ein hanes fel cenedl Saifbeddysblenydd ei orchfygwr Normanaidd yn benuchel yn mysg cof-feini yr anfarwolion yn mynachlog Westminster, ond er's tair canrif nid oes ond anifeiliaid y maes yn gwylio y llecyn anrheith- iedig a guddia weddillion yr olaf o'r Tywysogion Cymreig yn mysg adfeilion mud mynachlog Cwm Hir. Tuag at aymud y gwaradwydd hwn, dylai gwladgarwyr aiI-ymsymud yn ddioedi i godi yn Nghymru gofeb deilwng o wrhydri Cymru Fu. ac o ardderchowgrwydd gobeithien Cymru Fydd, i lefaru drwy yr oesoedd am un ag yr oadd ei fywyd a'i farwolaeth yn arwydd- ecaol o'r ysbryd cenedlgarol sydd heddyw wedi codi Cymru ar ei thraed. Pa ffurf a gymer y gofeb nid yw o gymaint pwys, gellir penderfynu manylion o'r fath pan sicrheir y gronfa, ond yr hyn sydd yn bwysig yw, fod y Cymry yn ymuno i godi arwyddlun parhaol o'r Tywysog olaf a abcrthodd ei fywyd dros annibyniaeth Cymru.
YSTUMIAU PREGETHWROL.
YSTUMIAU PREGETHWROL. Mae'r adeg wedi dod, i geisio gan bregeth- wyr beidio gwaeddi yn y pwlpud. Y pregethwr ydyw y dyn llawnaf o fan ystumiau, ac y mae yn fwy anhebyg iddo'i huH ya y pwlpud nag yn unman. Gallech feddwl wrth wrando ar ambell ton nad oes dim a wnelo a'i gynulleidfa. Yn ystod haner cyntaf ei bregeth y mae yn siarad ag ef ei hun, ac yn ystod yr haner arall yn gwaeddi nerth esgyrn ei ben ar ryw ddyn yn y stryt. Ond o ddau beth anhawdd ei goddef, gwell genyf hwnyna na'r pregethwr sydd yn arfer siarad un frawddeg yn nhglust y set fawr, yna yn crochwaeddi y frawddeg nesaf nes bydd yn fflamgoch yn ei wynib, pryd y bydd rheolau areithyddiaeth a synwyr cyffredin yn gofyn am ir ddwy frawddeg fod yn yr un cywair. Llusgo'r ogau mawr tros deimladau mwyaf Uednais cynulleidfa yw path fel hyn. Yn y pwlpud yn unig y goddefir y fath chwareu plant, ac nid wyf yn tybio y geddefir ef lawer yn hwy yno ychwaith. Pe cymerai le ar y llwyfan yn neillduol yn mhlith y Saeson, fe'i chwarddid i ddifodiant yn ol ei haeddiant. Y gresyn mawr yw fed y genadwri rasol yn gorfod dioddef cymaint oddiwrth ystumiau anaturiol rhai o'i chenadon. Mawr fwynheir clywed pregethwr yn twymno i'w bwnc, ac yn codi ei lais yn ngwres ei frwdfrydedd dros ei genadwri ond, ysywaeth, y mae pellder y ddau begwn rhwng hyny a'r hyn y cyfeiriwyd ato.-O'r Drych.
BARN FEDDYCOL AR EFFEITHIAU…
BARN FEDDYCOL AR EFFEITHIAU ALCOHOL AR YCORPH DYHOL. Dywed y Dr. Edmunds, yr hwn oedd yn ddiweddar y Meddyg Hynaf yn yr Ysbytty Esgoreddol Prydeinig Yr wyi yn tybied y gallaf ddweyd gyda phriodoldeb fod y golygiadau sydd yn mysg y dosbarth canol cysurus o gymdeithas ar y mater hwn mor alarus fel nad yw cyfartaledd mawr o'r plant byth yn sobr o funyd cyntaf eu bodolaeth, hyd nes y diddyfnir hwy. Fy argylioeddiadpwyllogywnad oes dim ond niwed yn dyfod i famau sydd yn magu, ac i'r babanod eydd yn dibyuu arnynt, trwy arferiad cyffredin o ddiodydd alcoholaidd o unrhyw fath,
AMRYYVJON.
AMRYYVJON. Cyduna agos yr oil o newyddiaduron Llundain i ddweyd, ar bwys yr hyn a hysbysir iddynt Can weision y llys, fod y Frenhines yn mwynhau iechyd rhagorol; ac nad ydyw yr holl lafur yr aeth hi drwyddo ar hyd yrwythnosau diweddaf wedi cael unrhyw effaith niweidiol arni, fel yr efnid oddiwrth yr oedran mawr y mae hi yn4do. Ystypir llwytho yr agerlong Campania A a 1,720 o dunelli 0 10 mewn deuddeng awr, fel y gwnaed yn Southampton y dydd o'r blaen, fel y gwrhydri mwyaf a wnaed erioed. Rhoddwyd uii fiiitau ar bymtheg-deuddeg dyn yn nihob mititai-ar waitli; aeer syndud i bawb, gor- phenasaut eu tasg yn yr amser a nodwyd. Sonir am ddyfeisio peirianau i wneyd hyn. Ni bydd eisiau, tra y ceir dynion i'w wneyd yn well ac yn gynt. Nifer cymdeithasau yr Ymdrech Gristion- ogol yn Lloegr yw 3,925; Ysgotland 433; Cymru 311 a'r Iwerddon 169. Mae yn sym- udiad efengylaidd, ac yn allu grymus yn yr Eglwysi Rhyddion drwy wladydd y byd. Dechreuodd yn 1881 gydag un gymdeithas a 57 o aelodau; yn awr y mae 50,780 o gym- deithasau, a'r aelodau dros 3,000,000. Ymadawodd Prif-weinido-ion y Trefedig- aethau am eu cartrefi. Yr oedd y derbyniad a gawsant, a'r areithiau a draddodwyd ganddynt yn bobpeth a ellid ddymuno. Addawodd Mr. Chamberlain yn y Senedd y cyflwynai i'w sylw brif bwyntiau y drafodaeth fu rhyngddo A hwy gyda golwg ar ddwyn y trefedigaethau a'r fam-wlad i undeb agosach a'u gilydd. Yn ddiweddar, penderfynodd Bwrdd Ysgol Caerdydd wahodd rhieni plant i ddweyd a ddewisent i'w plant gael dysgu y Gyraraeg yn yr ysgolion elfenol. Mae y papyrau pleidleisib a ddychelwyd yn dangos fod 8,124 0 blaid dysgu y Gymraeg, a 1,770 yn erbyn mwyafrif o blaid 6,354. Mae Cartref a Swyddfa Gofrestru Gynareig i forwynibn, a sefydlwyd yn Liverpeol yn 1871 wedi eisymud o 127, Falkner Street, i adeilad eangach yn 2, Hope Place, allan o Hope Street. Ar el talu y draul aed iddt yn y symudiad, yr hyn a ddisgwylir a wneir drwy haelioni ei garedigion, disgwylir y bydd y sefydliad yn hunan-gynhaliol. Mewn cyfarfoda gynhaliwy4 yB Liverpool, gwnaeth y Parch. J. Williams, Princes Road, sylwadau ar y ddaeargryn yn India a'r Gen- hadaeth Fethodistaidd ar Fryniau Cassia. Dywedodd mai ymwellad oddiwrth yrArglwydd oedd y ddaeargryn, ac nad oedd dim yn profi dynion yn fwy nag ymweliadau daeargrynfaol a'r natur hyn. Bydd yr ynawetiad yn ddiau yn brawf ar ffydd a haelioni y Cyfundeb Method- istaidd. Cyfaill mynwesol i'r Pab oedd Thos. Aquinas. Un diwrnod aethi ymweled a'i Sancteiddrwydd, ac yr oedd y Pab y pryd hyny yn prysur gytrif pentyrau o ariaii. I All yr eglwys, yn awr,' meddai'r Pab, 'ddim dweyd, Arian tc aur nid o<*s genyf.' Meddai Aquinas fredr yr eglwys yn awr ddim dweyd wrth y cloff, Cyfod a rhodia.' Felly ni all y cyfundeb Methodistaidd ddweyd Arian ac aur nid oes genyf,' ond gall ddweyd wrth yr achos cen- hadol sydd wedi ei glofti gan y ddaeargrya, Cyfod a rhodia.' Gubeithiai ef y byddai i'r cyfundeb wneyd ei oreu i alluogi y genhadaelth hon i gyfodi o'i chleffni a rhodio.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Dydd Llun, y 14eg cynfisol, bu farw Mr. Samuel Williame, Williamsburg, la., yn 89 mlwydd oed er Mai diweddaf. Ganwyd of yn Llanfachreth, Meirionydd, G. C., yn 1808. Bu yn gwasanaethu gydag amaeth- wyr yn y cymydogaethau hyny hyd nes iddo ymbriodi. Yn 1872, ymfudasant i ardal Williamsburg, la. Ni bu iddynt ond un plentyn, sef Laura, yr hon fu farw yn 1881, ac a gladdwyd yma. Y mae gan bawb a'i hadwaenai air da am dano.— Q' Drych.
DINJLS MAW.Dl)wy.,-
DINJLS MAW.Dl)wy. Hysbysir am farwolaeth y Parch. Evan Evana, gweinidog Wesleyaidd yu. Liverpool, yn 62ain mlwydd oed, yr hyn gymerodd le dydd Iau diweddaf. Ganwyd ef yn Dinas Mawddwy. Aeth i'r weinidogaeth yn 1859. Llanwodd lawer o gylchdeithiau, ac amryw o honynt ddwy waith. Pan yn Llanrwst "ba yn foddion i sefydlu achos Wesleyaidd yn Mlaenau Ffestiniog, yr hwn sydd yn avn^ yfi. achos cryf.
[No title]
Mae bellach yn adnabyddus trwy y Sir, mae un o'r lleoedd goreu yn Nghymru, am XVatch dda, Aur neu Arian, yw Masnachdy W. W., Dolgellau. Yno hetyd ceir lie rhagorol i ddewis, Modrwyau Aur Pur, ac Alberts, a Brooches Aur,