Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

PLESERAU CARTREF.

PLANT CENFIGEN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PLANT CENFIGEN. GAN DR. D. REES, BRONANT. Ychydig yn awr atrichia nt cenfigen. Maent yn ddrwg i gyd. Nid yn ami y gwelir twr o blant yn ddrwg i gyd, na bydd yno rai yn dda, ond mae plant cenfigen felly. i Dyna un, Rhagrith. Ymddangosa ei fod yn eich parchu, ond blaidd yn nghroen dafad yw, gwisga orchudd er dangos ei fod yn ffrynd i chwi, ond drwg drwyddo ydyw. Gwyliwch rhagddo. 2 Digofaint eto. Mae hwn yn cario cleddyf blaen-fain ac awch ar bob ochr iddo, i ddisgwyl cyfleusdra i niweidio. Fel dwfr berwedig yw cenfigen ydyw y tanwydd sydd yn ei feiwi yn barod i'w dywallt ar ei wrthddrych. 3 Enllib ac Athrod. Math o wybed yw enllibwyr yn chwilio am friwiau eu cymydogiorf. Cariant fwhdeli o bethau drwg i deiau i ddweyd pethau na ddylent am eu caseion. Mab hynaf y diafol yw yr enllibwr, a dant gwenwynig y diafol sydd ganddo. Mae y rhai sydd yn derbyn enllib cynddrwg a'r rhai sydd yn ei roddi, fel y mae yr hwn sydd yn dal y sach can waethed lleidr a'r hwn sydd yn rhoddi ynddi. 4 Gweniaith eto. Mae'r gwenieithwr yn cadw ffrynt deg iawn, ond amcan drwg sydd ganddo—tynu arall yn mlaen er mwyn ei ddrygu. Cyfaill braf ydyw os bydd genych rywbeth. Peidiwch byth gwneyd cyfaill o hono. Gwyneb agored a'i pia hi. 5 Y Celwyddwr. Peryglus yw hwn, yn llunio ac asio darnau drwg a da wrth eu gilydd, ac yn llawn drwgdybiaetli. Ceir math o ddynion yn dweyd celwydd mor naturiol ag yw y duwch yn nghroen yr Ethiop. Gadewch iddynt, dyna eu harfer, nid oes un gair a ddywedant i'w goelio. Gwnewch a hwynt fel y gwnaeth Paul a'r wiber-eu hysgwyd ymaith, neu fel y mae pobl y gwaith yn gwneyd a'r tai pylor, eu gadael ar eu penau eu hunain. 6 Mae Balchder yn un o blant cenfigen. Cenfigena y balch os gwel rhywun yn cael ei barchu yn fwy nag ef, ond llawer wrth ddringo yn rhy ucbel ar bren balchder, a orphenodd ei yrfa mewn dianrhydedd. Dywed Manton mai pechod gwreiddiol y diafol yw balchder, a chenfigen a phechodau eraill ei bechodau gweithredol. 7 Yn olaf, Dial. Chwilio am waed y mae y dialgar. Cymer drafferth i gofio hen bethau drwg. Nid oes maddeu yn agos ato. Ni chofia ei wendidau ei hun, neu buasai yn fwy parod i faddeu i eraill. Dyna y peth goreu i wneyd i'r dyn fydd am ddial arnoch—gwneyd rhyw ddaioni iddo. Mae hyna yn lladdfa i'r dial. I Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gym- yd°g/ &c. Cadw yn mhell oddiwrth y drygau hyn ell yw y diogelaf.

gtfait.,

PRIFYSGOL CYMRU.

TOWYN.

BWRDD YSGOL TOWYN A PEKNAL.

LLANWRIN.

Y GYNADLEDD WESLEYAIDD.

Y DIWEDDAR MR. MUNDELLA.

COF-COLOFN I LLYWEIYN EIN…

YSTUMIAU PREGETHWROL.

BARN FEDDYCOL AR EFFEITHIAU…

AMRYYVJON.

DOLGELLAU.

DINJLS MAW.Dl)wy.,-

[No title]