EISTEDDFOD MAWDDVVY, 1898 AT Y BEIRDD. Dymunir hysbysu y bydd y testyn canlynol ar Restr Testynau Eisteddfod 1898 :—" Can ddesgrifiadol o Ddiwrnod y Jiwbili yn Dinas, Mawddwy, Gorph. 3, I 97. Gwobr toe. 6c. T. JON ES, YSG. ABERHOSAN BIt ITISlI SCHOOL. WANTED, after Holidays, Transfer Pupil VT Teacher, 1st or 2nd year. Apply by August 9th, stating age, salary, &c., to J. PUGH, Secretary, ABERHOSAN, MACHYNLLETH.
Y NEGRSYDD. TELERAU AM HYSBYSIADAU. Am hysbysiadau 0 "Yn Eisieu," &c., yn cynwys 16 o eiriau 6d. Tair gwaith is. 20 gd. i s. 6d 30 is > 1 2s. 40 is. 6d. 3s. 50 28 „ 4s Cyfeinad, "Negesydd" Office, CORRIS, R.S.O
EU GWAITH DINYSTRIOL. Mae Ty'r Arglwyddi gyda'u gwaith eto o ddistrywio Mesurau daiouus, a'r esgobion ar y blaoIl ynddo. Dydd Gweoer, yn Nhy'r Arglwyddi, cynygiodd Archesgob Canter- bury eu boil yn g'ofyn i'r Frenhines beidio rhoddi eu chydsyniad i'r cynllun (o dan Ddeddf Addysg Ganolraddol Cvmnl) yu dwyn perthynas ag Ysgol Howell, yn Dinbych, i ferched. Ei reswm ef dros hyn oedd fod y cynlluu newydd yaia yn darpar ar i'r Llywodraeth wyi* benderfynu pa eg- wyddorion crefyddol ddysgid yn yr ysgol, tra mai y ffaith oedd mai crefydd Eglwys Loegr erchymynwyd i gael ei dysgu pan ffurfiwyd yr elusen hon. Grwrthwynebwyd y cynygind gan Due Devonshire ac Arglwydd Herschell, ond cefnogwyd ef gan y Prifweiuidog, ac wrth gwra Esgob Llanelwy, a chariodd yr Uchel Eglwyswyr y dydd. Mae gwaddolyr ysgol, yrhwn a roddwyd gan foneddwr o Porganwg I ID tua 290 mlynedd yn ol, yn werth 2,000p. y flwyddyn. Cymeradwywyd y cynlluu gan y Dirprwy wyr Elusenol a'r Swyddfa Addysg, ond ar yr awr ddiweddaf mynodd yr Arglwyddi ysbrydol a thymorol roddi eu cyllell ynddo, er mwyn defuyddio'r gwaddol i amcaniou Eglwys Loegr, pan mai nid gwaddol Eglwysig mo hono. Pa hyd y goddefir y fath gamwri yn barhaus ?
YR YMCHWILIAD AFFRICANAIDD. Cyfiwynodd y Pwyllgor Seneddol a ben- odwyd i ymchwilio i ymgyrch dreisgar Jameson i'r Transvaal, ei adroddiad yr wythnos ddiweddaf. Cynwysa gerydd llym ar amryw o'r prif swyddogion, yn enwedig ar Cecil Rhodes. Condemnir ef am dwyllo Cwmui'r Siarter, Gweinyddiaeth y Cape, y Llywodraeth Gartrefol, ac am arwain yr iii- swyddogion i gredu fod ei blaniau yn cael eu cymeradwyo gan Mr. Chamberlain. Ond nid ydynt yn dweyd y dylai gael ei erlyn am. y twyll a'r gwaed dywalltwyd o'r herwydd. Ni wnaethant ymchwiliad i'r ysbeiliadau a'r creulonderau a gyflawnwyd gan swyddogion Cwmni'r Siarter, y rhai a brofwyd gan y dirprwywr, Syr R. Martin, a anfonwyd i diriogaethau y Cwmni. Ni chymerasant foddion i orfodi Hawksloy, cyfreithiwr Rhodes i roddi i fyny dtlegramau pwysig ynglyn a'r achos. Felly mae y misoedd a dreuliwyd yn yr ymchwiliad wedi ei ddwyn i derfyniad swta ac anorphenol. Ond ni ddylai eu Seneddwyr orphwys heb alw ar y Cwmni i roddi i fyny y breintiau a gam- ddefnyddiwyd gauddynt mor drahaus ac echrys.
CYNDYNRWYDD Y TWRC. Parhaodd cyfarfod y llysgenhadon am yn agos i dair awr ddydd Mawrth. Er nad oes dim o'r hanes yn hysbys, eto, credir, medd telegram o Gaercystenyn, fod materion tra phwysig o dan ystyriaeth. Nid oes hyd yn hyn unrhyw arwydd fod y llywodraeth Dyrcaidd yn barod i ildio, er nad ydyw yn derbyn cefuogaeth gan yr un o'r Galluoedd. Ar yr ochr arall, yr oedd ateb y Czar i delegram y Sultan yn ateb tra phenderfynol a cliadai-n, ac yn nodi y peryglon yr elai Twrci iddynt drwy sefyll yn erbyn y Gallu- oedd. Dywedir fod y Sultan wedi danfon telegram i ymerawdwr Rwsia ar ol hyny. Y mae pob peth yn arwyddo mai cyndynu a wna y Sultan ac y bydd yn rhaid rhoddi gorfodaeth arno yn y diwedd.
MACHYNLLETH. PWYLLGOR YR ARDDANGOSFA. Dydd Sadwrn, Mr. N. B. Owen yn y gadair, pryd yr ystyriwyd ymddiswyddiad yr ysgrifenydd (Mr. T. Lloyd). Yr oedd mwyafrif y pwyllgor dros i Mr. Lloyd barhau yn ei swydd, a'r hyn y cydsyniodd. Ar ol hyn, pasiwyd fod cyflag yr ysgrifenydd i fod o hyn allan y lOp. yn He 6p.-Dydd Mercher cynhaliwyd ail gyfarfod o'r pwyllgor, pryd y daeth y cwestiwn o gyflog yr ysgrifenydd dan sylw drachefn, a chynygiodd Mr. E. Hughu eu bod yn dirymu y penderfyniad basiwyd ar hyn dydd Sadwrn. Mr. Lloyd a Tvrthwynebai y cwrs yma a chododd ar ei draed gan ddweyd na fyddai dim a wnelai ef a'r Arddangosfa, ac aeth allan. Go- hiriwyd y pwyllgor. Mae gan W. W., Dolgellau, Stoc Enfawr o Watches, Jewellery, &c., e'r mathau gereu am y prisiau mwyaf rhesymol. Fe dalai yn dda i lawer un ddod i dref Dolg-ellau e Gorris, Aberllefenni, ac Aberg-ynolwyn" &c., er barnu 4rostynt eu bunain.
PWYLLGOR HEDDLU CEREDIGION. Cynhaliwyd y cyfarfod cliwai-tot-ol (lydd Iau, yn Aberaeron. Gofynai y Pwyllgor Arianol am y swm o 1, 1 74p., traulyr heddlu am y chwarter presenol, a pbasiwyd of. Yn ol adroddiad y Prif Gwnstabl, yn ystod mis Ebrill, ymwelwyd a 32 o ffermydd yn mhlwyii Penbryn, Troodyraur a Llangranog, lie y cariwyd allan archebion y Llys Sirol o herwydd diffyg talu y degymau. Yr oedd tri swyddog gyda'r bailiff, a phasiodd y gweithrediadau yn heddychol. Yn ystod y chwarter, erlynwyd 266 o hersonau o flaen yr ustusiaid, o'r rhai y rhyddhawyd 45, cytunwyd ag 11, dyfarnwyd ar y pryd 207, a thraddodwyd tri i sefyll eu prawf. 0 dan Ddeddf Trwyddedau erlynwyd 61, a dyfarn- wyd 57, gydag unporson dan yr Adulter- ation Aot. Caniatawyd 31 o drwyddedau achlysurol, ac 16 am estyuiad oriau.
LLYS SIROL MACHYNLLETH. CXNLYNIAD YMLADD.—Cynhaliwyd y llys uchod dydd Sadwrn, o flaen y barnwr Gascodine a rhoithwyr, pryd y gwrandawyd achos yn mha un yr hawliai Daniel Evans lOp. o iawn am ymosodiad arno gan Howell Daviee, gorsaf-feietr Llwyngwern, yr hyn, fel yrhonid, oedd wedi cymeryd lie y 4ydd cyufisol. Dywedai Mr. A. J. Hughes, dios yr erlynydd, ei fod (sof D. Evans) yn gweithio yn chwarel Llwyngwern, ar siding cyfagos ac i'r cyhuddedig' ddyfod ato a'i daraw yn ddi-rybudd yn ei wyneb; ac mewn canlyniad i'r dyrnodiau i dri o'i ddauodd gael eu tori. Honai Mr. Woosnam dios y diffynydd fod yr erlynydd yn gwneyd yr hyn nad oedd gyfreithlon, drwy redeg wageni dros 'points perthynol i Reilffordd Corris, gan eu gyru allan o drefn. Gofyn- odd y diffynydd iddo beidio, ond yn lie hyny arferodd iaith ddrwg iawn ato. Tarawodd yntau ef a'i law a go ml ac yna aeth yn ymladdfa rhyngddynt. Ar ol cael tystion o'r ddwy ochr, dygodd y rheithwyr ddyfarniad o blaid yr achwynydd am y swm o 5p., i'w talu yn ol 6s. y mis.
CORRIS. PRIODAS.—Dydd Sadwrn, y lOfed cyfisol, cymerodd priodas Mr. Arthur E. Hughes, bar-gyf reithiwr, Hare Court Temple, iny trydydd fab y diweddar Mr. Robt. Hughes, rlieolwr chwareli Aberllefenni, a Miss Mary V. Thomas, merch Mr. a Mrs. T. E. Wilkins Thomas, Canonbury Park, Llundain, le yn Eglwys St. Andrew, Llundain. Priodwyd hwy gan y Parch. LI. R. Hughes, Porth- madog, brawd y priodfab. Ar ol y seremoni, ymgyfarfyddodd y par iouane a nifer mawr o berthynasau a chyfeillion yn Gordon Square, lIe yr arddangosid yr anrhegion priodasol. Ymadawsant i dreulio eu mili mel i Orllewin Lloegr.
UNDEB DOLGELLAU. BWRDD Y GWAROHEIDWAID. Cynhaliwyd dydd Sadwrn, Mr. John Evans, Abermaw, yn y gadair. Yr unig swin yn ddyledus i'r Undeb oedd 165p. o'r Abermaw, a 52p. o Llangelynin. Gosodwyd y gwaith o wyngalchu y tloty i Mr. John Williams. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Gillart yn dweyd naii gallai gwblhau prisiad plwyfi Brithdir ac Islawrdref erbyn y 17eg o Gorphenaf, ond y byddai iddo ei gwblhau mor fuan ag y gallai. Caniatawyd pythefnos yn rhagor iddo. Gofynodd Mr. John Roberts, Henblas, pa un ai yr Undeb ai y plwyf oedd i dalu i Mr. Gillart; atebodd y cadeirydd mai yr Undeb oedd i dalu, ac mai yr Undeb oedd wedi talu am brisio yr Abermaw. Darllenwyd adroddiad Mr. Bircham o'i ymweliad a'r tloty, yn mha un yr oedd yn gwrthwynebu chwalu gwlan yn y nursery yn y ty. Yr oedd adroddiad y meistr yn dangos fod treats rhagorol wedi eu rhoddi i'r tlodion er dathlu y Jiwbili. Pasiwyd diolch i'r oil. Dywedodd y meistr fod yr awdurdodau wedi d'od i ymofyn un Thomas Jonea o'r tloty, a myned ag ef i'r carchar. Yr oedd warrant yn ei erbyn er's 16eg o flynyddau.
ABERYSTWYTH. RHODD l'U COLEG.-Doallwn fod y di- weddar Mr. Richard James, Dyffryn Aur, Llanrwst, wedi gadael yn ei ewyllys i'r Coleg, gasgliad gwerthfawr o ddarluniau yugliyd a modtl o Hen Gastelldy Abeiys- twyth, yr hwn hyd yn ddiweddar, a ffurtiai ran oadaila,dau y Coleg. COLEG Y BRIFYSOOL.-YU yr arholiad am raddau yn Nghaergrawnt yn ddiweddar, enillodd y rhai canlynol, o hen fyfyrwyr y Coleg uchod, salle anrhydeddus :-Duw- inyddiaeth, Mr. A. J. Greive, yn y dosbarth blaenaf gydag anrhydedd; a Mr. T. C. Williams yn yr ail ddoebarth. Mewn Rheithofyddiaeth, Mr. T. A. Levi. DARLITH.- Nos Fercher, yn nghapel Trefechan, traddododd y Parch. R Ceredig Jenkins, cenhadwr o China, ddarlitli ar Grefyddau ac arferion China.' Llywydd- wyd gan Mr. Evane, Laura Place. Dangos- wyd amrywiol bethau Chineaidd yn ystod y cyfarfod. Cafwyd amser difyr iawn. Y BYWYD-FAD.—Cynhaliwyd pwyllgor lleol yr uchod, boreu ddydd Mawrth. Penderfynwyd ad-drefnu y ddisgynfa, gan ei helaethu bymtheg llath, a'i lledu dair tro«dfedd, &c., fel y gellir yn rhwyddach lansio cyehod. Penderfynwyd hefyd cael rhwyniadur (capstan) newydd. Archwiliodd yr arolygwyr y eweh, a'r celfi » chymer- adwyent yr oil. Costia ad-drofnu y ddisgynfa, &c., o 200p. i 300p.
Mae bellach yn adnabyddus trwy y Sir, mae un o'r lleoedd goreu yn Nghymru, am Watch dda, Aur neu Arian, yw Masnachdy W. W., Dolgellau. Yno hefyd ceir He rhagorol i ddewis, Modrwyau Aur Pur, ac Alberts, a Brooches Aur,
BWRDD PYSGOTA MEIRION. Cynhaliwyd y cyfarfod chwai teiol dydd Iau, yn Abermaw. Preseuol, Dr. R. Roberts, eadeirydd, Col. Norton, Mri. Slauey Wynne, R. Prys Oweu, H. Bousall, Mutiro Edwards, Leigh Taylor, R. Rees, J. Rowlands, M. Roberts, D, D. AViiiiams, W. Hughes, L. Lewis, M. Thomas, a W. R. Davies, clerc. Dewiswyd Mr. J. Rowlands, Machynlleth, yn gadeiiydd am y flwyddyn, a Mr. H. Bonsall, Aberystwyth, yn is-gadeirydd.— Apwyntiwyd Col. Norton i gynrychioli y Bwrdd ar Bwyligot- y Pyegota Morawl.- Hysbyswyd fod 244p. as. 6c. mewn Haw oddiwrth drwyddedau. Nifer trwyddedau rhwydi am eleni yw 15, ar gyfer 22 y flwyddyn ddiweddaf.—Darllenodd y clerc gwynion am herw-bysgota yn y dosbarth. Penderfynwyd fod ceidwaid yn cael eu penodi ar yr afonydd ar unwaith hyd ddiwedd Ionawr. PYSOOTA BRIXIIYLLIAID.—Dygwyd cyn- ygiad gan Mr. Munro Edwards o blaid gwahardd pysgota brithylliaid heb drwydded y Bwrdd. Gwrtliwyuebwyd y cynygiad, ac ar bleidlais collwyd ef drwy fwyafrif o ddau, yn mhlaid gadael pethau fel y niaeut.- Trosglwyddwyd cynygiad o blaid declireu pysgota brithylliaid ar Mawrth laf yn He Chwefror laf, i'r gwarchodwyr ar y gwa- hanol afonydd i anfon eu hadroddiad nrno. RHWYDO Y DYFI.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Gyngor Trefol Machynlleth, yn mherthynas i'r cwynion yn erbyn Clwb y Dyfi, am rwydo llynoedd uchaf yr afon, lie y deuai y llanw i fyny, er niwed i'r pysgota gyda gwialen.—Ar gynygiad Mr. D. 0 D. Williams, pasiwyd i ofyn i Syr Watkin, perchenog y byegotfa i siorhau fod y Clwb yn cario allan y rheolau a fabwysiadwyd iddynt, fel na byddo yr afon yn cael ei gor-rwydo. AMUYWION.—Cyfarwyddwyd y clerc i alw ar berchenogion gweithydd Glasdir a Gwyn- fynydd i atal llygriad afon Mawddach.— Pasiwyd i wahodd Mr. Berrington, arolyg- ydd dros Fwrdd Masnach, i ymweled a'r gymydoiraoth.-Ar awgrymiad Mr. L. Lewis, pasiwyd i ofyn i Bwyllgor Pysgota Morawl i ganiatau gwasanaeth eu gwylwyr i archwilio rhwydi gleisiaid o fewn y dosbarth.
ABERMAW. NODACKFA YR YSGOL SIROL.—Cyfarfu y pwyllgor eyflredinol prydnawn Mercher. Addawodd cyfeilliou dieithr eu gwasanaoth, er cynal amrywiol gyfarfodydd adloniadol mewn cysylltiad a'r nodachfa, ac yn ngwyneb fod aniryw amaethwyr yn barod i roddi, rai wyn, eraill wyddau, ac eraill ieir, &c., pen- derfynwyd cael marchnad-fainc i'r ffermwyr. Y BYWYD-FAD. Cynhaliwyd cyfarfod ehwarterol Bwrdd y Bywyd-fad, ddydd Mereher, Major Best yn y gadair. Derbyn- iwyd eynllun o biler i ddal yr hinfesuiydd newydd, a mabwysiadwyd ef gyda'r gost o'i godi os yn gymeradwy gan y Swyddfa yn Llundain. Mae ymddiriedolwyr y porthladd wedi caniatau iddo gael ei osod ar y cei am ardreth fechan. Gobeithir y goddefir i'r liinfesurydd presenol aros yn St. Ann's- square. Ffurfiwyd pwyllgor i drefnu Sadwrn Bywydfad,' y flwyddyn hon, er cynyddu y drysorfa. T,Nos Fercher, yn rhif 12, Marine- terrace, torodd tan allan a allasai fod a'i ganlyniadau yn ddifrifol. Oddeutu deg o'r gloch, aeth un o'r morwynion i ystafell wely am ryw declyn n&u gilydd, ac yn methu ei gael yn y tywyllwell, goleuodd ffagdan, a thaflodd hi i lawr, mae'n debyg, heb ei diffodd. Gan nad oedd neb yn cysgu yn yr ystafell, ni chanfyddwyd y tan hyd yn foreu dranoeth, pan y gwelodd Mr. John Parry, rhif 2, yr hwn sydd mor foreu ei godiad a'r ehedydd, fwg yn dyfod allan drwyy ffenestr ac y rhuthrodd i'r ty, ac i fyny y grisiau, pan y cafodd y gynfas a dodrefn eraill ar dan. Gyda chynorthwy esgud, gorchfygwyd y tan, ond nid cyn iddo wneyd tipyn o'i ol.
YMBORTH Y PAB. Wedi darllen sylwadau y newyddiaduron ar bryddest y Pab ar 'Gymedroldeb,' dyddorol iawn fydd i'n darlleuwyr wybaQ beth yw bwyd ei Sancteiddrwydd. Fel rheol gyffredin mae pobl yn awyddus iawn am wybod sut y mae dynion mawr nodedig y* byw ac ymarweddu. Pan yn meddwl am y Pab, nid ydym yn cofie nac yn anffaeledigf fel y desgrifia efe ei hun—ei fod yn bwyta fel pechaduriaid eraill. Mae y ffaith fod yn rhaid iddo wrth brydau bwyd fel eraill yn adlewyrchu ar ei anffaeledigrwydd. Hoff bethau ei Sancteidd- rwydd i foreubryd yw I-laeth, wyau, a bara wedi ei grasu. Fel tha;brydcyn ciniaw, hoffa damaid 0 gig wedi ei bobi, tatws wadi eu crasu caws, &c., a llymaid a win. Mae yn bwyta bara hefyd. Fel hwyrbryd, cymer gawl (soup) llysiau, cig eidion, dafad neu bysgodyn, cig cyw giar, tatws a ffrwythau. Mae yn hoff e win, llaeth, a cheffi, ond nid yw yn cyffwrdd a the. Yn hyn y mae yn wahanol iawn i ni y Cymry. Wedi darllen ei bryddest yn fanwl dywed Mr. Gladstone mai dyma gyfansoddiad goreu ei Sancteiddrwydd.
ABERGYNOLWYN. Y SFLINDORF.-Deallwn fod ymdrechion yn cael eu gwneyd i ail gedi Seindorf' Bres yn y lie hwn. A dewiswyd pwyllgor i ystyried y cwestiwn o bwrcasu offerynau newyddion, ac y mae addewidion eisoes wedi dyfod i law. CYNGOR PLWYF.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyngor hwn nos Fawrth, dan lywyddiaeth Mr. Meyrick Roberts, U.H. Cafodd y cofnodion eu pasio, ac wedi hyn aed yn mlaen at gwestiwn y dwfr. Y cynllun ydyw ei dros- glwyddo o gae Tydlian i ganol Water Street, ond gan nad oedd yr arolygydd Mr. Jones, yn bresenol, pasiwyd i ehirio y mater. Ar yr un pryd pasiwyd i'r clerc geisio cael ychwaneg o fanylion ac hefyd tenders. Nid oedd atebiad wedi cyraedd oddiwrth y Cyngor Desbarth ynghylch ffordd Nantyreira, ond dywedodd y cacieirydd ei bod yn bur debyg y clywai y clerc mewn ychydtg ddyddiau. Eglurodd y cad- eirydd fater y telegraph post. Yr oedd Mr. Wynne, Peniarth, yn cydweithredu ag ef, ac yn ceisio cael yr un cyfleusdra i Lanegryn. Tynodd Mr. John Owen yn ol ei gynygiad yaglyn a throsylvvyddo y dwfr o'r Pandy yn is i lawr y pentref. TYSTEB.-Nos Fercher, cynelid cyfarfod yn nghapel y M.C., er cyflwyno tysteb i Mr. Hugh Morgan Jones, Pennant, ar ei ymadaw- iad i Towyn. Bu Mr. Jones am dymor maith yn arweinydd y canu yn y capel hwn, a dygodd welliant mawr yn y canu cynulleidfaol yn y lie. Bu hefyd, o wasanaeth mawr i'r cyngherddau elusenol, ac adloniadol. Llywyddwyd y cyfarfed gan Mr. Ellis Ellis. Cymerwyd rhan ynddo gan y Mri. D. W Jones, Water Street; A. Jones, eto; Thomas Pugh, Gernos; ac H. R. Humphreys, Machynlleth. Cyflwynwyd iddo anerchiad goreuredig gan Mr. D. Humphreys, un .'r blaenoriaid, a hefyd. caed ganddo sylwadau rhagorol ar rai a nodweddion gwerthfawr yn nghymeriad Mr. Jones. Cyf- lwynwyd hefyd gadwen a locket aur gan Mr. R. E. Pugh a chafodd lyfr y tanysgrifwyr gan Mr. Ellis yn absenoldeb yr ysgrifenydd, Mr. R. Watkins. Cafwyd a lroddiadau gan Miss Lewis, Tanybryn, a Mr R. Thomas, anerchiadau barddonol gan Mri Isaac Jones, \V. R. Lewis, ac A. Jones: caneuon, gan Miss L. Evans, C. Morris. D. O. Jones, a'r c6r meibion, o dan arweiniad Mr. H. R. Hnmphreys. Cyfeiliwyd gan Mr. J. Morgans, Tanybryn. Ar y diwedd diolchodd Mr. Jones i'w garedigion mewn ychydig eiriau teimladol a drylliog.
All Ylt OLWYN. AI < LOT BWDR ?' Nid wyf yn abl i benderfyuu pa un a ydyw Owarcheidwaid Undeb Machynlleth yn lot bwdr a'i peidio, fel yr honid gan un o honynt, sef Mr. John Watkins, Llanbrynmair. Tueddaf yn gryf fel arall. Yr un pryd, mae yn ffaith na chawsant enw da am eu tynerweh tuag at dledion yr Undeb. Ac yn ddiweddar maent wedi dangos mesur helaeth o anghys- ondeb yn eu gweithrediadau. Yn y cyfarfed cyn y diweddaf dygodd Mr. John Watkins gyhuddiad yn erbyn Mr. Danie Howell, relieving officer, 0 fod wedi gwerthu dodrefn un o'r tlodion a fuasai farw, am lai nag a dalent. Cymeradwyodd y Bwrdd yn unfrydol y dull a gymerodd Mr. Howell, yr hyn a wneir yn gyffelyb mewn Undebau eraill. Anfonwyd y gwyn wed'yn i'r Bwrdd yn Llundain, a daeth Mr. Bircham i lawr i'r cyfarfod diweddaf. Ymdriniwyd a'r achos gyda drws cauedig am amser maith, fel nas gall y cyhoedd ffurfio barn o gwbl ar deil- yngdod eu penderfyniad. Pa fodd bynag, pasiodd y gwarcheidwaid fel yr hysbyswyd wed'yn i roddi math o anghymeradwyaeth ar waith y relieving officer, er ei fod wedi carie allan gyfarwyddiadau y Bwrdd Felly, trodd y gwarcheidwaid gan roddi condemniad arnynt eu hunain yn eu pend-erfyniad yn y cyfarfod blaencrol. Yu mhellach, dygwyd gerbron y ffaith fod Mr. Howell wedi ei ethol yn aelod o Gyngor Sirol Maldwyn, dros Llanbrynmair, fel olynydd y Parch. Stanley Davies, a cheisiwyd ganddo i ymddiswyddo y fan bellaf mis Mawrth nesaf. Mae yn hysbys mai ychydig yw nifer y rhai feddant y cymwysderau gofynol mewn aclod o'r Cyngor, ac y inae dewisiad gweinidog yr efengyl yn un prawf a hyny. Ni ynganodd y gwarcheidwaid air yn erbyn y dewisiad ar y pryd, ac ystyriaf mai tro anheilwng ynddynt yn awr oedd ei alw i ymddiswyddo, pryd na ddygwyd un gwyn yn ei erbyn am esgeulusdra ynglyn a'i ddyledswyddau yn yr Undeb a chredai y gwarcheidwaid fod teimlad personol tu ol i'r lleni, ond gwnaethant felly yn ddiau dan ddylanwad Mr. Bircham.
Eto dro yn ol, cyfarwyddodd Bwrdd y Llywodraeth Leol i'r gwarcheidwaid wneyd gwelliantau mawr yn y tloty ar gyfer crwydriaid. Cauedd y gwarch- eidwaid y drws ar y cais fat UI1 afresymol a diangenrhaid, end daeth y gwr mawr o Lundain atynt, ac yn dringar perswdiodd hwynt i gostau y maent yn awr yn ddiau yn eu hangymendwyo. Yr oedd y Sais mawr yn ormod iddynt. I orphen hyn o lith, y casgliad a dynaf, yw y dylai y gwarcheidwaid hyn ddangos mwy a gysondeb, sefydlogrwydd, ac annibyniaeth i gynal i fyny urddas llywodraeth leol yn eu plith, neu fe aiff eu gweithrediadau yn chwer- thinllyd yn ngolwg y wlad.-CARADOG.
Y PREGETHWYR CYMRAEG MWYAF POBLOGAIDD. Cynygiwyd gwobr yu y Cymro am enwau y tri phregethwr mwyaf poblogaidd perth- ynol i'r gwahanol enwadau Ymneillduol yn Nghymru, yn gystal a'r Eglwys Sefydledig. Fel y canlyn y saif y dyfarniad, yn ol y pleidleisiau a roddwyd dros y naill a'r llall gan yr ymgeiswyr. Y Methodistiaid Calfin- aidd.-Prifutliraw 1.. Charles Edwards, Bala Parch. W. Prytherch, Abertawe Parch. John Williams, Princes Road, Liverpool. Yr Annibynwyr.—Parch. Elfed Lewis, Llanelli; Parch. W. John Nicholson, Porthmadog; Parch. Owen R. Owen, Glandwr. Y Weslovaid.-Parch. John Evans (Eglwysbach), Pontypridd; Parch. Hugh Hughes, Caernarfon; Parch. Hugh Jones, Birkenhead. YBedyddwyr.—Parch. Charles Davies, Caeidydd; Parch. E. T. Jones, Llwynpia; Parch. Abel J. Parry, Cefnmawr. Eglwys Loegr.—Canon E. T. Davies (Dyfrig), Pwllheli; Deon Ty Ddewi (y Parch. D. Howell, (Llawddtln) Esgob Ty Ddewi (y Parch. John Owen.)
PRIODAS. PEATE THOMAS. Gerphenaf 14eg, yn nghapel Annibynwyr, Llanidloes, «an y Owen Evans, D.D., Llundain, Mr. George H. Peate, Glanllyn, Llanbrynmair. A Miss L. Thomas, Short Bridge Street, Llanidloes. MARWOLAETH. WILSON. Gorphenaf I7øg, yn Aleppo Merchant Hotel, Came, Mr, John Wilson, yn 6oain mlwydd oed.
MRLLENWCH, COFIWCH, YST Y IIIWCH. BITTERS GW1LYM EVANS. Meddyginiaeth oreu yr oes. AT DDIFFYG TREULIAD, DOLURIAU YR AFU, GWENDIDAU GIEUOL. A phob math 0 WEN DID. Defnyddir Quinine Bitters Gwilym Evan. gan gleifiou yn mhob gwlad syddyn dioddef oddiwrth Nychdod, Gwendid, a Llesgedd. Y mae yn rhoddi 0 Nerth i'r gwan, Iechyd i'r claf, Mwynhad bywyd 1 bawb. Tystiolaeth Bwysig. Llysawen, Rhyl, Ebrill 17eg, 1895. Auwyl Syr,-Bliiiid ii yn dost gan y Bit a Diffyg Treuliad, ac anogwyd fi i roddi prawf ar eich cyileri clnvi-Quilline Bitters a Digestive Pearls, ac y mae yn DIFF-YG TRETJLIAD. dda genyt aim tystio 1 r lies mawr a geiais o'u defnyddio. Cymerais amryw boteli 4s. 6c. o'r Bitters, ae yr wyf yn penderfynu cadw potelaid e hono with law bob amsor, a chymeryd dogn dyddiol awr cyn boreu- f wyd. Aeth y cur o fy mhen, a'r neuralgia a'r gymalwst, a gelynion eraill ar tfo; a gobeithio na wnant byth ddychwelyd. Cefais Iwyr yiuwared o'r Kile a'r Dilfyg Treuliad, ac y mae y Quinine Bitters wedi cryfhau fy ystumog, puio fy ngwaed, a sirioli fy ysbryd. Yr wyf wedi ei argymell i liaws sydd yn awr yn rhoddi canmoliaeth uchel iddo fel meddyginiaeth eiieitliiol at wahanol amhwylderau. Wyf, Syr, yr eiddoch yn ddiolchgar, JAMES DAVIES (Iago Tegeingl). BITTERS GWILYM EVANS, GWYLIWCH -^1 Goclielwch Dwyllwyr. Edrychwch fod enw Grwilym Evaus ar bob label, stamp, a photel. Gwerthir hwynt mewn poteli 28. Uc., a 4s. 6c. yr uu JJiychau yn cynwys tair potel 4s. 6c. am 12s. 6c. I'w cael yn inliob man, ueu danfouirhwy yn rliad am y prisiau ucliod yu ddyogel drwy y post oddiwrth y perchenogioll,- QUININE BITTERS MANUFACTURING COMPANY LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. GORUCHWYLIYVPt YN AMERICA— Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. ARDDANGOSFA FAWR AT YR HAF. :o: Mae RICHARD REES, Paris House, MACHYNLLETH, Wedi prynu Stock ysblenydd o bob math o Nwyddau Drapery at yr HAF, y rhai a ddangosir yr WYTHNOS HON. CHEAP PRINTING AT "NEGESYDD" OFFICE! CORRIS,^ R.S.O,