Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Advertising

Y * NEGRSYDD.

EU GWAITH DINYSTRIOL.

YR YMCHWILIAD AFFRICANAIDD.

CYNDYNRWYDD Y TWRC.

MACHYNLLETH.

PWYLLGOR HEDDLU CEREDIGION.

LLYS SIROL MACHYNLLETH.

CORRIS.

UNDEB DOLGELLAU.

ABERYSTWYTH.

[No title]

BWRDD PYSGOTA MEIRION.

ABERMAW.

YMBORTH Y PAB.

ABERGYNOLWYN.

All Ylt OLWYN.

News
Cite
Share

All Ylt OLWYN. AI < LOT BWDR ?' Nid wyf yn abl i benderfyuu pa un a ydyw Owarcheidwaid Undeb Machynlleth yn lot bwdr a'i peidio, fel yr honid gan un o honynt, sef Mr. John Watkins, Llanbrynmair. Tueddaf yn gryf fel arall. Yr un pryd, mae yn ffaith na chawsant enw da am eu tynerweh tuag at dledion yr Undeb. Ac yn ddiweddar maent wedi dangos mesur helaeth o anghys- ondeb yn eu gweithrediadau. Yn y cyfarfed cyn y diweddaf dygodd Mr. John Watkins gyhuddiad yn erbyn Mr. Danie Howell, relieving officer, 0 fod wedi gwerthu dodrefn un o'r tlodion a fuasai farw, am lai nag a dalent. Cymeradwyodd y Bwrdd yn unfrydol y dull a gymerodd Mr. Howell, yr hyn a wneir yn gyffelyb mewn Undebau eraill. Anfonwyd y gwyn wed'yn i'r Bwrdd yn Llundain, a daeth Mr. Bircham i lawr i'r cyfarfod diweddaf. Ymdriniwyd a'r achos gyda drws cauedig am amser maith, fel nas gall y cyhoedd ffurfio barn o gwbl ar deil- yngdod eu penderfyniad. Pa fodd bynag, pasiodd y gwarcheidwaid fel yr hysbyswyd wed'yn i roddi math o anghymeradwyaeth ar waith y relieving officer, er ei fod wedi carie allan gyfarwyddiadau y Bwrdd Felly, trodd y gwarcheidwaid gan roddi condemniad arnynt eu hunain yn eu pend-erfyniad yn y cyfarfod blaencrol. Yu mhellach, dygwyd gerbron y ffaith fod Mr. Howell wedi ei ethol yn aelod o Gyngor Sirol Maldwyn, dros Llanbrynmair, fel olynydd y Parch. Stanley Davies, a cheisiwyd ganddo i ymddiswyddo y fan bellaf mis Mawrth nesaf. Mae yn hysbys mai ychydig yw nifer y rhai feddant y cymwysderau gofynol mewn aclod o'r Cyngor, ac y inae dewisiad gweinidog yr efengyl yn un prawf a hyny. Ni ynganodd y gwarcheidwaid air yn erbyn y dewisiad ar y pryd, ac ystyriaf mai tro anheilwng ynddynt yn awr oedd ei alw i ymddiswyddo, pryd na ddygwyd un gwyn yn ei erbyn am esgeulusdra ynglyn a'i ddyledswyddau yn yr Undeb a chredai y gwarcheidwaid fod teimlad personol tu ol i'r lleni, ond gwnaethant felly yn ddiau dan ddylanwad Mr. Bircham.

,Eto dro yn ol,

Y PREGETHWYR CYMRAEG MWYAF…

Family Notices

Advertising