Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Advertising

Y * NEGRSYDD.

EU GWAITH DINYSTRIOL.

YR YMCHWILIAD AFFRICANAIDD.

CYNDYNRWYDD Y TWRC.

MACHYNLLETH.

PWYLLGOR HEDDLU CEREDIGION.

LLYS SIROL MACHYNLLETH.

CORRIS.

UNDEB DOLGELLAU.

ABERYSTWYTH.

[No title]

BWRDD PYSGOTA MEIRION.

ABERMAW.

YMBORTH Y PAB.

ABERGYNOLWYN.

News
Cite
Share

ABERGYNOLWYN. Y SFLINDORF.-Deallwn fod ymdrechion yn cael eu gwneyd i ail gedi Seindorf' Bres yn y lie hwn. A dewiswyd pwyllgor i ystyried y cwestiwn o bwrcasu offerynau newyddion, ac y mae addewidion eisoes wedi dyfod i law. CYNGOR PLWYF.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyngor hwn nos Fawrth, dan lywyddiaeth Mr. Meyrick Roberts, U.H. Cafodd y cofnodion eu pasio, ac wedi hyn aed yn mlaen at gwestiwn y dwfr. Y cynllun ydyw ei dros- glwyddo o gae Tydlian i ganol Water Street, ond gan nad oedd yr arolygydd Mr. Jones, yn bresenol, pasiwyd i ehirio y mater. Ar yr un pryd pasiwyd i'r clerc geisio cael ychwaneg o fanylion ac hefyd tenders. Nid oedd atebiad wedi cyraedd oddiwrth y Cyngor Desbarth ynghylch ffordd Nantyreira, ond dywedodd y cacieirydd ei bod yn bur debyg y clywai y clerc mewn ychydtg ddyddiau. Eglurodd y cad- eirydd fater y telegraph post. Yr oedd Mr. Wynne, Peniarth, yn cydweithredu ag ef, ac yn ceisio cael yr un cyfleusdra i Lanegryn. Tynodd Mr. John Owen yn ol ei gynygiad yaglyn a throsylvvyddo y dwfr o'r Pandy yn is i lawr y pentref. TYSTEB.-Nos Fercher, cynelid cyfarfod yn nghapel y M.C., er cyflwyno tysteb i Mr. Hugh Morgan Jones, Pennant, ar ei ymadaw- iad i Towyn. Bu Mr. Jones am dymor maith yn arweinydd y canu yn y capel hwn, a dygodd welliant mawr yn y canu cynulleidfaol yn y lie. Bu hefyd, o wasanaeth mawr i'r cyngherddau elusenol, ac adloniadol. Llywyddwyd y cyfarfed gan Mr. Ellis Ellis. Cymerwyd rhan ynddo gan y Mri. D. W Jones, Water Street; A. Jones, eto; Thomas Pugh, Gernos; ac H. R. Humphreys, Machynlleth. Cyflwynwyd iddo anerchiad goreuredig gan Mr. D. Humphreys, un .'r blaenoriaid, a hefyd. caed ganddo sylwadau rhagorol ar rai a nodweddion gwerthfawr yn nghymeriad Mr. Jones. Cyf- lwynwyd hefyd gadwen a locket aur gan Mr. R. E. Pugh a chafodd lyfr y tanysgrifwyr gan Mr. Ellis yn absenoldeb yr ysgrifenydd, Mr. R. Watkins. Cafwyd a lroddiadau gan Miss Lewis, Tanybryn, a Mr R. Thomas, anerchiadau barddonol gan Mri Isaac Jones, \V. R. Lewis, ac A. Jones: caneuon, gan Miss L. Evans, C. Morris. D. O. Jones, a'r c6r meibion, o dan arweiniad Mr. H. R. Hnmphreys. Cyfeiliwyd gan Mr. J. Morgans, Tanybryn. Ar y diwedd diolchodd Mr. Jones i'w garedigion mewn ychydig eiriau teimladol a drylliog.

All Ylt OLWYN.

,Eto dro yn ol,

Y PREGETHWYR CYMRAEG MWYAF…

Family Notices

Advertising