Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
EISTEDDFOD Y BORTH.
EISTEDDFOD Y BORTH. BEIRNIADAETH AR Y SEINDYRF PRES I (SEINDORF CORRIS).—Cychwyniad da o ran amser, tonyddiaeth a chydbwysiad. Solo fer yr Euphonium ar ddiwedd y symudiad iaf yn dda iawn. Y chorale gan y tenors a'r basses yn rhagorol—tonyddiaeth hyfryd iawn; yr lZOlllstua'r diwedd yn effeithiol a chyfoethog -yn wir yr oedd y rhai'n yn dda trwyddynt. Disgwyliem ragor oddiwrth y Trombones, a gallai y bass fod yn fwy llyfn ar brydiau. Y recti gan yr Euphonium eto yn wir dda, gyda chyfeiliant hyfryd. Y Cornet Solo I will sing,' yn weddol. Yr Andantino But the Lord is mindful,' (E Sop.), ddim cystal 0 ran amser, broddegiad, na chyd-darawiad a chyd-doddiad y rhanau cyfeiliol. Dyma'r rhan leiaf bodd- haol o'r perfforn-.iad. Y terfyniad yn effeithiol, ac ar y cyfan, yr oedd chwareuad y Seindorf hon yn dra chanmoladwy yn y prif bwyntiau sydd yn gwneyd i fyny chwareuaeth dda-yn neillduol, nid oedd yma ddim tuedd i wylltu, fforsio, na chracio. 2 (SEINDORF ABERLLEFENI).—Y d6n yn fwy trystfawr, tuedd i fforsio er cychwyn yn bur dda; ond buan gwaethygodd—t6n y Cornet yn dew ac aneglur: ddim yn arianaidd a chlir. Yr Euphonium ar ddiwedd y symudiad cental ddim yn dda. Y chorale ddim cystal o ran cydbwysedd na chyd-symudiad. Recit yr Euphonium ar ol o'i chymharu a'r gyntaf. Y con moto, arweiniad i'r Cornet Solo I will sing,' yn rhy wy11t. Y Solo Cornet yn gwaeth- ygu yma. Y broddegiad, y teimlad tyner, a'r cyd-ymdoddiad priodol i'r Andantino But the Lord is mindful,' yn colli. Y chorale der- fynol Sleepers wake,' yn rhy farwaidd ac araf. 69 ydyw amseriad y metronome yn nghopi yr Oratorio, ond 92 ydyw yn y trcfniad yiiili, a'r copi hwn sydd i fod yn safon y gystadleuaeth bresenol. Chwareuodd y Seindorf hon yn 11 awn rhy araf i 69. reilynga y Band hwn ganmoliaeth, ond yn ddiau- y goreu yw y cvntaf, ac y mae yn dra {heilwn^ o'r wobr.—D. EMLYN EVANS.
ANRHEGION.
ANRHEGION. Gan W. W., Dolgellau, mae Stoc Ragorol o Watches Aur Ardderchog, Clociau a Jewellery (ac eiddo eraill mewn Aur ac Arian) cyfaddaa fel Aurhegion a Testimonials
I^TOWYN.
TOWYN. Y FFORDD AT LAN Y MOR,-Da genym weled fod y rhai hyn, y rhai fuont mewn cyflwr digon anymunol, yu brysur gael eu hadgyweirio. Yr oedd mawr angen am hyn. DRYLLIAU.—Yn ystod y deng niwrnod diweddaf, y mae cryn lawer o wreckage wedi ei olchi i'r traeth yn eu plith, defaid, &c., ac y mae Swyddog y lludrltddi, Mr. J. Ff. Jones, wedi bod yn brysur edrych i mewn i'r mater. YR YSGOL SIROL.—Deallwn fod Mr. John Cotterill, Bran House, wedi anfon y swm o 5p. i drysorfa yr ysgol uchod, fel rhodd y Jiwbili. TEMLWYR Di.Cynlialiivyd cyfarfod ar- ferol y Gyfrinfa nos Wener, dan lywyddiaeth y prif Demlydd. Penderfynwyd cael pleserdaith ddiwedd y mis hwn. Treuliwyd y cyfarfod i areithio, canu, adrodd, &c., a chafwyd noson ddifyrus iawn. NEWJD PWLPUDAU.—Dydd Sul, pregeth- wyd yn nghapel y Methodistiaid Callinaidd gan y Parch. J. M. Williams (A.), y boreu a'r nos; tra y gwasanaethai y Parch. Mr. Symond (M.C.), yn nghapel yr Annibynwyr; a mwynhawyd yr odfaon yn rhagorol yn y C3 ddau gapel. MARWOLAETH YN AMERICA.—Derbyniwyd y newydd yma am farwolaeth drwy ddamwain yn Dunlap, Iowa, Mr. Jonas Francis, mab Mrs. Francis, Athelstan Road, Towyn. Cydymdeimlir yn fawr a'i fain yu ei thrallod ar ei ol.
GLANDYFI.
GLANDYFI. DYRCHAFIAD.—Deallwn fod Mr. Roberts, diweddar orsaf-feistr y lie uchod, wedi ei ddyrchafu i gymeryd gofal goi-saf B uttiii gton Perchid Mr. Roberts yn fawr tra bu yma, fel un hynod gymwynasgar. Dilynir ef gan Mr. Evans, diweddar orsaf-feistr Builth Road.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. YR YSGOL NEWYDD. Gosodir ceryg sylfaen yr Ysgol Sirol Newydd gan M, r. A. C. Humglireys-Owen, A.S., Major Pryce Jones, A.S., Mrs. Ffoulkes Jones, ac eraill. Y GWIRFODDOLWVR_—Mae y rhai hyn yn brysur barotoi eu hunain at fyned am wythnos o yinarferiadau oddioartref. Y maent wedi cael eu gwisgoedd a'u gynau; ac y maent yn edrych yn rhagorol. Y JIWBILI.—Yn nghyfarfod diweddar y Pwyllgor uchod, hysbyswyd fod y derbyn- iadau at y dathliad yn 25p., sef 4p. yn llai na'r treuliau. Cymarir mesurau i gasglu y swm hwn. YR YIiGOL GANOLRADDOL.—Yn arholiad diweddar y Science and Art, pasiodd y rhai canlynol yn llwyddianus mewn Mathematics —Miss Medora Lloyd, Miss Claudia Morgan, Master Percy Lewis, Master Richard Hughes Miss Frances A. Rees, Miss Jannett Davies, Miss Alice Morgan, Miss S. J. Humphreys, Master W. A. Williams, Master J. W. Lloyd, Master C. R, Reginald Jones, Master J. Edward Reese, Master L. Oswald Jones, Master H. R. Owen, Master Llewelyn i y Hughes, a Hugh Jones. GWOBRWYO TEILYNGDOD.—Yn Ulis Ebrill diweddaf, ohorwydd gorlifiad yr afon, fel y coiir, yr oedd y ffordd sydd yn arwain at Bont Dyfi, wedi ei gorchuddio a dwfr; ond ymddengys i Mri. J. Hughes, Postal Clerk, a H. Hughes, Letter Carrier, weithio eu ffordd drwy ganol y dwfr a dyfod a'r llythyrau yn ddiogel i'r dref. Hysbyswyd hyn gan y Postfeistr i awdurdodau y Llyw- odraeth, ac fel canlyniad, y mae Mr. J. Hughes, wedi derbyn ychwanegiad yn, ei gyfiog o 4s. yr wythnos; a Mr. H. Hughes 2s. yr wythnos, ynghyd a dau good conduct strifes.
LLWYNGWRIL.
LLWYNGWRIL. OYNGOR PLWYF.—Dydd Sadwrn, dan lywyddiaeth Mr. R. Froulkes Jones.— Penderfynwyd rhoddi sicrwydd am haner swm y treuliau blynyddol, er mwyn cael Money Order Office ynglyn a llythyrdy Llwyngwril, ac hefyd, i wlleyd yr un peth yn Arthog, pan wneir cais oddiyno am yr un cyfleusdra. Cwynid fod gornchwyliwr Fairborne yn rhwstr rhydd-ddefnyddiad ffordd y Penrhyn sydd yn arwain at hen Ferry yr Abermaw. Pasiwyd i alw sylw Mr. MoDougall, y perchenog, ac hefyd y Cyngor Dosbarth at hyn.
,ABERDYFI.
ABERDYFI. CYFARFOD DIRWKSTOL.—Nos Sul, cyn- aliwyd cyfarfod dirwestol yn yr awyr agored gyferbyn a Royal House. Daeth nifer fawr ynghyd, a chafwyd areithiau gwresog a buddiol gan y Parchn. R. H. Williams, Bangor R. Jones, Llanymynech; a Morris, Dolgellau. YR EGLWYS.—Dechreuodd y Parch. H. Williams, Corris, ar ei ddyledswyddau fel curad yma y Sabbath, pryd y pngethoddyn Gymraeg a Saesneg. Yr oadd y cynulliadau yu Uuosog ar hyd y dydd.
ITAL-YLLYN.
TAL-YLLYN. Y mae mwy nag un Talyllyn yn Nghymru. Yr un y cyfeiriwn ato a saif ar du deheuol Cader Idris, yn nghantref Ystumauer, Meirion. Ystyr y gair Talyllyn yw pen, terfyn, neu ffrynt y llyn, fel y mae talcen i ddyn. Y mae yn enw ar ychydig o dai, yn cynwys dau westy yn inhen isaf llyn pi-ydferth— Llyn y Myngil, sydd tua milldir o hyd, a orwedd rhwng godrau y mynyddoedd islaw gwastadedd Ystradgwyn. Cafodd y plwyf hefyd ei enw oddivrth y fan yma. Yno y mae yr eglwys blwyfol lienafol. Uwchben porth ei myn- edfa y mae yr englyn canlynol yn gerfiedig ar gareg:- Aneddfawr sanctaidd noddfa,—gorbreiniol Gerbron Duw a'r dyrfa, Er dim na thyred yma Y dyn ond 4 meddwl da.' Pleswyliai y clerigwr unwaith gerllaw, mewu ty oedd ar y lie y mae gwesty Ty'ny- cornol wedi ei adeiladu arno. Perthynai yr eiddo y pryd hyny i Syr Robert Vaughan, Nannau. Yr oedd yr ysmotyn yma yn ganolog o ran ei safle i'r plwyf, a'r boblogaeth gynt yn benaf yn y cylch hwn. Hyd yn ddi- weddar, yma y cei'id yr holl weithrediadau plwyfol, ond y mae cynydd y boblogaoth yn Corris ac Aberllefenni drwy agoriad y chwarelau wedi peri eu symud i'w plith hwy a gwneyd Talyllyn yn gymharol ddi-sylw yn yr ystyr hyny, a thebygol fod llawrr o'r trigolion yno yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu o'r herwydd. Ond y mae swyn a thlysni y dyffryn yn beth na chymerwyd oddiarnynt. Pres- wylir yr ardal gan amryw o ffermwyr lied gefnog yn y byd, y rhai a ddiwylliant eu tir yn dda. Mae prydferthwcli y gwastad- edd yn edmygol i'r llygaid, ac yn cyd-daro yn dda ag arddunedd ysgythrog a rhamantus y myrnyddoedd a ymddyrchant o bob tu. Drwy gyfleusderau teithio o Gorris a Towyn, daeth y blynyddoedd diweddaf yn gyrchfan miloedd o ddieithriaid o bob parth, a cliwyddid y nifor yn fawr pe gwnai rliywrai anturiaethus reilffordd i'r lie. Dewisa rhai o'r ymwelwyr rodio yn ham- ddenol ar hyd lanau y llyn disglaer; ac yn ddiau y mae yn fan arbenig i orphwysdra a myfyrdod. Eraill a welir yn bysgotwyr awchus, a'r lleill a ymgymerant a'r orchest o ddringo ochrau Berth a chreigiog Cader Idris. Mae ami i gymeriad hynod mewn byd ac eglwys wedi trigianu yn y cwm hwn rhai yn meddu eu neillduolion eu huneiin, cyn i gymdeithas yr oes hon gael eu bwrw o (,- fielyb fold i'w gilydd. t,Y Mr. Evans, Maesypandy, oedd yn ddyn o gryn hynodrwydd. 0 heiwydd cyfnewidiad yn ei syniadau, ymadawodd a'r enwad Annibynol, a sefydlodd achos i'r Plymouth Brethren yn yr ardal. Yr oedd ganddo gapel yn Pantydwr, a phregothai yno ac yn Llaufihangel-y-Penaut. Yr oedd yn bur flaenllaw yn y diwygiad dirwestol, a bu yn gadeiiydd ar gynadledd yn Machynlleth. Ond cymylodd ei amg'ylchiadau, gwerthwyd ei holl eiddo, yn cynwys llyfrgell werthfawr, yna ymfudodd i Awstralia er's haner canrif bellach, i fugeilio defaid ar geffyl. Mae Oweniaid Dolffanog yn deilwng o sylw. Yr oeddynt yn ddis- gynyddion o'r Barwn Lewis Owen o'r Llwyn, Dolgellau, a laddwyd gan WyUiaid Mawddwy, yr hwn oedd yntau yn disgyn o Ednywain ab Bradwen, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd. Bu y teulu am gened- laethau yn dra nodedig yn y gelfyrddyd o drin briwiau, gosod esgyrn a meddyginiaethu anifeiliaid. Mae Fychan y Gwyndyll wedi gwneyd cAn o glod i ddau o honynt, set Humphrey Owen, Penygareg, a fu farw yn 1807, a'i fab William Owen, Braichgoch, a fu farw yn 1840. Ar gareg fedd y diweddaf y mae yr englyn dilynol:— Daioni i gyrph dynion-a ranodd Wrth drin yr efryddion Meddyg rhad ei wlad-bu lon- I wella pob archollion. Mae amryw o'u holynwyr eto yn meithrin y ddawn hon, gyda chymeradwyaeth droa gylch eang. Mae yn meddiant y teulu enaint rhagorol a neillduol, a elwir JEli Glas, gwybodaeth am yr hwn a gafwyd, fe ddywedir, oddiwrth feddygon Myddfai. Wrth droed Cader Idris, ar ymyl y llwybr sydd yn arwain i'r mynydd, y mae y Cottage, Dolyddcae, y ty y preswyliai ar amserau, ac y bu farw Dr. W. 0. Pughe, y geiriadurwr a'r lienor enwog, yn y flwyduyn 1835, yn 75 mlwydd oed. Cludwyd ei weddillion oddiyno i fynwent Nantglyn. Yr oedd yn perchen amryw fformydd yn Ystradgwyn, ond a werthwyd er's tro gan ei olynydd. Un 0 honynt oedd Dolyddycae. CyrhaedJa y fferm i goryn y Gader, ac y mae Llyn Cae a'i physgod anhawdd eudal yn perthyn iddi. Yr oedd gan y doethawr gwch a thy i' w ddiddosi ar fin y Ilyn. Suddodd y eweh, ond y mae adfeilion y ty yn aros hyd yn awr.
AMRYWION.~
AMRYWION. Mae Esboniad y Piifathraw T. C. Edwards ar yr Epistol Cyntaf at y Cerintluaid wedi cyraedd y trydydd argraphiad. A. Dygwyd cynghaws gan foneddiges yn Clapham, Llundain, yn erbyn deintydd, am iddo gymeryd haiarn poetli at ddifetha y giau. Rhoddwyd iop. o iawn a'r cestau Sefydlwyd chwech o pymdeithasau gan y Wesleyaid o dan Ddeddf Addysg Wirfoddol. Bydd yr Ysgolion Wesleyaidd yn derbyn dan y Ddeddf 30,ooop. y flwyddyn. Agorwyd Cynhadledd Flynyddel y Wesleyaid yn Leeds, dydd Mawrth diweddaf. Yr oedd amryw bersonau o'r trefedigaethau sydd ar ymweliad a'r wlad hon mewn cysylltiad a Jiwbili y Frenhines, yn cael eu cyflwyne i'r Gynhadledd, ac yn eu plith Mr. S. J. Way, Prif Farnwr Awstralia. Y saith teyrnasiad hwyaf niewn hanesydd- iaeth Seisnig ydynt: Y Brenhines Victoria, 600 flynyddoedd; Sior III, 59; Harri ITI, 56; y Frenhins Elizabeth, 44; Harri VIII, 38 Harri II, 35 Y teyrnasiad byraf oedd un Risiart III, yr hwn ni pharhaodd ond yn unig ddwy flynedd a mis. Bwriada Ardalydd Londonderry drosglwydde ei lofeydd yn Durham, a rheilffyrdd a'r porth- laddoedd perthynol iddynt i gwmni cyhoeddus, gan na ddewisa ychwanegu at y cyfrifoldeb o eangu y dociau a'r gweithfeydd fel y gelwir am danynt. Bydd yn dal rhan fawr o'r cyfalaf, yr hwn fydd tua dwy filiwn o bunau. Penaeth y byd Mahometanaidd ywy Sheik- ul-Tslam, ac yn Nghaercystenyn y trifiana efe. Hyd o fewn ychydig yn ol, nid yw wedi dweyd dim ar yr amedau hcddwch rhwng Groeg 4 Thwrci. Yn awr modd bynag, efe a ddyrchafa ei lef yn erbyn i Thassalygael ei rhoddi yiuol i Groeg. Dywed fod y Coran- (I Beibl' y Ma- hometaniaid) yn gwahardd i unrhyw diriogaeth a enillir gan y I ffyddloniaid gael ei rhoddi yn ol. Dathliad hynod 0 ddyddorol o'r Jiwbili oedd hwnw a gymerodd le ar y graig yn y mor yn agos i ynys Socotra, Mehefin 22. Ar ol bod dri diwrnod ar ddeg ar y llong ddrylliedig Aden: yn mhlith creigiau, yn cael eu gelchi gan y tonau, cynhaliodd y dwylaw a'r teithwyr eu Jiwbili trwy ganu 'Duw gadwo'r Frenhines.' Trueni na fuasent yn Gymry er eael tro ar Yn y dyfroedd mawr a'r tonau' hefyd. Cymwys iawn hefyd i'r amgylchiad fuasai ♦ Dyrna gariad fel y moroedd, tosturiaethau fel y Ili.' Fodd bynag, yr oedd yn ddigwyddiad anar- ferol iawn, ac fel arfer ni anghofioddti Mawrhydi anfon pellebr o gydymdeimlad a hwy Mae arferion y seals, crwyn y rhai a werth- fawrogir gymaint gan y boneddigesau tuag at wneyd jacedi, yn rhai rheolaidd iawn. Am Q chwech i wyth mis maent yn byw ar y tir. Hoffant niwl gymaint ag y maent yn cashau rhew a haul. Ar y traeth y mae y rhai ieuainc yn cael eu geni, eu mamaethu, a'u dysgu i nofio. Y tymhor hwn ant gryn bellder i'r mor -weitliiau gan' milldir, i chwilio am fwyd, yn ami am ddiwrnod neu ddau. Yn ystod y gauaf ymadawant i'r cefnfor, na wyddis pa can' belled hyd y gwanwyn dilynol. Mae cweryl terfynau pysgota y seals wedi ail godi rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Gan yr Americaniaid mae yr ynyseedd yr arhosant arnynt, a honant fod pysgodwyr Canada yn torilr rheolau a wnaed ynglyn a'u dal. Tebygol y cyflwynir y cwestiwn i gynhadieldd o'r pleidiau. Diffyg ystyriaeth, maoln d*Uyg, sy'n gesod dynion yn agered i gael eu dal yn akrapiau llafar. Ar ei ffordd i'r farchnad, pan oedd Twm o'r Nant yn croesi cae tatws unwaith, fe ofynodd i hen labrwr eedd wrthi yn ddygn yn codi ei blaniad blwyddyn, Sut ma-i!'r tatws yn codi, f'Ewyrtli Jelin ?' pryd yratebodd yrhen ewythr heb godi ei olwg o'r pridd, Yn llon'd ei crwyn Tomos Edwards.' Yr eedd yr ateb pert wedi blino Twm yn ofnadseii rddo gael ei frathu gan hen labrwr, a plien-derfyuodd dalua 01 gynted y ca Ii fyfie. Cafodd hyny yn ftghynt nag y meddyliodd, canys wrth groesiV eae pan yn dychwelyd o'r farchnad, gwaeddodd y codwr tatws arno o'r cwr aral! i'rcae—* Fuoch chi yn y farchnad, Tomos EdwtNls?"i<:Oo,' ebai yntau 'Beth oedde nhwn'n roi am y tatws heddyw ?' ychwanegai yr hen wr, pryd y cafodd yr ateb pigog, Sache, IlEwYrth John,'
GWEDDI YN°AMSER PLA.
GWEDDI YN°AMSER PLA. Trwy y pla mawr yn y deyrnas, gwnaed difrod ar drigelion yn Nghymru yn y flwyddyn 1637. Ni chedwid na ffair na marchnad yn y Dref Newydd, Llanidloes, na Machynlleth. Yn canlyn y mae gweddi o blaid y trefi hyn y bu y pla ynddynt mewn pedwar o englyn- ion:- '1'1' Dref Newydd brudcl briw actli,-Ilin wacdlyd A Llanidloes helaeth, Machynlleth eilwnith alaeth, Y sydd yn dwyn cystudd caeth.' Dyma'r tair un air niae'n irad-eu ffwyl Heb na ffair ua marchnad; Lie mae cwyn ac achwyniad, Liu oer a glocs llawer gwlad. Arglwydd Dad, yn rhad er anrhydedd-y groes, Ac er grym dy fawredd Er dy Fab a rowd i'w fedd, Datro gur dod drugaredd.' Madden i'r rhain druain draw waith--eu camwedd, Cymod a hwy eilwaith; A bydd Feddvg, diddig, daith, A chanllaw i Fachynlleth.'
PELLEBRU HEB WIFRAU.
PELLEBRU HEB WIFRAU. Mae yn ffaith fod yn bosibl trosglwyddo neges 0 le i le ar draws peljder o ddeng milldir heb ddim materol (yn ystyr gyffredin y gair) yn cysylltu y naill le wrth y llall. Rhwng y ddau le nid oes dim i'w weled, i'w glywed, nac i'w deimlo, oblegid y eyfrwng gweithredol ydyw yr ether ei hun—yr ether hwnw a'n cysyllta ni a'n gilydd, ac it natur o'ii hanigylcii. Yr un ether eto a gysyllta y gwahanol aelodau o'r oysawd heulog o Fercher i Neptune, gan drefnu i bob un ei lwybr yn y gofod diderfyn, a chyfranu i bob un ei wres, ei oleu, a'i fywyd. Yr ether bydysol, holl-bresenol, ac anweledig hwn a ddefnyddir yn awr gan wyddonwyr i drosglwyddo negesau 0 dref i dref, ac o fynydd i fynydd, heb gymorth unrhyw gysylltiad gwbl. Fe wnaed arbrofion ar raddfa eang ar draul y Llywodraeth yn agos i Benarth, Caerdydd, gan Mr. Preece, or Prif-lythyrdy, ac Italiad o'r enw Marconi, a buont yn bur llwyddianus. Argoelir yn dda ddiddymiad y gwifrau costus a'r pyst hagr a'n hamgylchyn- i ant yn yr oes Mae yr offer a ddefnyddir yn hynod o syml pan ystyrier anhawsder y gwaith. Y mae yr afonydd' yn un orsaf yn gynwysedig o beitianau er cynyrchu tonau etheiawl o hyd neillduol, a'r ddtbynydd yn yr orsaf arall yn cynwys peirianau i gasglu y tonau hyny. Fe gludir y neges o orsaf i orsaf gan y tonau etherawl, cyflymdra y rhai sydd tua 185,000 o filldiroedd bob eiliad. Yn ol hyn, fe all neges deithio o amgylch y ddaear bedwar cant a phedwar ugain o weithiau mewn un fynyd. Dyna gyflymdra digon i foddloni y mwyaf brysiog o honom.
g)'r gffiut.
g)'r gffiut. GAN LLEW. Bu diffyg unfrydedd barn yn mysg ei m gynghoriad yn aelios i'r Arlywydd Mc'Kiuley ohirio ei genadwri i'r Gyngres. Mynai hogyn yn Merthyr wisg'o blouse yn aiaced gyffredin i fyn'd i dê'r Jiwbili. Pan ofynwyd i'r hogyn am ei reswm dros hyny, dywedodd fod mwy o le i guddio bara brith mewn blouse nac mewn siaced gyffredin. Nid drwg dyfais y crwt. Dyfarnwyd yr englyn canlynol o eiddo Gwilym Dyfi ar y Don,' yn oreu o 22 yn Eisteddfod y Boith yr wythnos o'r blaen :— Ewyn a braw greilona bryd-y Don Sy'n borth dinystr dyfrllyd, Bwaog ymchwydd bywyd, Adeil faich trafnidol fyd. Mae Mr. D. Miall Edwards, Llandderfel, newydd ddeibyn hysbysrwydd ei fod wedi enill ysgoloriaetlx o 60p., a hyny am dair blynedd, yn Ngholeg Mansfield, Rhyd- ychain. Bwriada Mr. Edwards g'ymeryd ewrs duwinyddol yn Mansfield cyn myned i'r weinidog'aeth. Daeth Mr. Labouchere a Mr. Blake i'r penderfyniad i dori eu cysylltiad a phwyllgor ymchwiliadol Deheudir Affrica, am y rheswm nad ydynt yn credu fod g-waith digon trwyadl yn cael ei wneyd ganddynt. Nid yw yr yrnwelwyr sydd yn aros ychwaith yn hollol unfryd eu meddyliau pa fath adrodd- iad a ddylasid gyflwyno ganddynt i sylw y Senedd. Amcenir yn fuan ail adeiladu y twr a godwyd ar ben Moel Famau, pan ddathlodd Sior y Trydydd ei Jiwbili, er dathlu Jiwbili Victoria. Trefnir at gynal cyfarfod cylioedd- us er gwneyd parotoadau ar gyfer derbyn tanysgrifiadau. Bwriedir gosod ar ben y twr ystafelr eang, wedi ei gorchuddio a gwydr, yr hwn a ddisglaeriai gymaint yn llewyreh yr haul, fel y gellid ei weled o Liverpool, Caer, a'r cyffiniau, a Sir Fon bid siwr. Y mae eglwys Annibynol Perth Rhondda ar hyn o bryd heb weinidog sefydlog, a bydd ambell ymgeisydd am alwad, fe allai, yn llenwi'r pwlpud yn awr ac eilvraith. Nid oes weledigaeth eglur. A yw y Parch. J— T- o'r nifer, a'i peidio; ond lied awgrymiadol yw'r fiaith, ddarfod iddo, pan yno yn pregethu beth amser yn ol, ddechreu'r oedfa drwy roi allan hen benill adnabyddus. "Ond i'm gael dod i'r porth i fyw, Dof finau megys angel Duw.' Sut bynag y cymarodd y gynulleidfa hyn, gogleisiwyd Mr. Hopkins, y dechreuwr canu gan y geiriau, ae meddai wrth y pregethwr, O'r goreu, fe rown i alwad i ohwi Mr. T- Os ca, hyderwn y bydd yn unfryd ol. Priodolir lliw dyfroedd y Rhondda, nid yn hollol i'r llwch glo, ond i ryw bersonau aflan eu cymeriadau moesol a fedyddiwyd yn un o'r afonydd yno tua dechreu y ganrif hon, a cheir yn ol y penill canlynol mai o herwydd pechodau Moc a Shoni Fingam y mae dwfr yr afon yn ddu. Pa un bynag am hyny, gadawn i'r llinellau lefaru drostynt eu liunain:- Fe fedyddiwyd tri ar ddeg 0 ddynion teg yr olwg, Rhai yn fawr a rhai yn fach, Yn ystrad lan Dyfodwg; Shoni Fingam a Moc fy mrawd Doedd ganddynt hwy ond crefydd dlawd, Fe drodd lliw'r afon wedi'r dydd O'r Ynysfach i Bontypridd. Cyfarfod Daufisol a hir gofir oedd yr un a gafwyd yn ddiweddar yn Pensarn ger Talybont, pryd y cymerwyd rhan ynddo gan y Parchn. J. Davies, J. Llewelyn, T. Jenkins, G. Parry, a T. A. Penry. Pregeth alluog oedd eiddo Mr. Penry ar y pwnc, Rhyfyg gyda phethau cysegredig.' I)y- wedwyd pethau miniog, ond dim gair yn ormod. Mae lie i ofni fod y cyfarfodydd cystadleuol sydd mewn cysylltiad a chym- deithasau llenyddol a'r Ysgol Sul, yn tueddu i fagu hyfdra yn yr ieuenctyd gyda phethau sanctaidd. Pa faint bynag o dda gynyrchir drwyddynt, eto mae y drwg a gynyrchir drwyddynt, mae lie i ofni, yn gorbwyso yr holl ddaioni. Nid oes cymaint o bareli yn eael ei ddangos i leoedd addoliud ag a welwyd. Y cyfarfod nesaf i fod yn nhaith Derwenlas os gelwir am dano.