Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

EISTEDDFOD Y BORTH.

ANRHEGION.

I^TOWYN.

GLANDYFI.

MACHYNLLETH.

LLWYNGWRIL.

,ABERDYFI.

ITAL-YLLYN.

News
Cite
Share

TAL-YLLYN. Y mae mwy nag un Talyllyn yn Nghymru. Yr un y cyfeiriwn ato a saif ar du deheuol Cader Idris, yn nghantref Ystumauer, Meirion. Ystyr y gair Talyllyn yw pen, terfyn, neu ffrynt y llyn, fel y mae talcen i ddyn. Y mae yn enw ar ychydig o dai, yn cynwys dau westy yn inhen isaf llyn pi-ydferth— Llyn y Myngil, sydd tua milldir o hyd, a orwedd rhwng godrau y mynyddoedd islaw gwastadedd Ystradgwyn. Cafodd y plwyf hefyd ei enw oddivrth y fan yma. Yno y mae yr eglwys blwyfol lienafol. Uwchben porth ei myn- edfa y mae yr englyn canlynol yn gerfiedig ar gareg:- Aneddfawr sanctaidd noddfa,—gorbreiniol Gerbron Duw a'r dyrfa, Er dim na thyred yma Y dyn ond 4 meddwl da.' Pleswyliai y clerigwr unwaith gerllaw, mewu ty oedd ar y lie y mae gwesty Ty'ny- cornol wedi ei adeiladu arno. Perthynai yr eiddo y pryd hyny i Syr Robert Vaughan, Nannau. Yr oedd yr ysmotyn yma yn ganolog o ran ei safle i'r plwyf, a'r boblogaeth gynt yn benaf yn y cylch hwn. Hyd yn ddi- weddar, yma y cei'id yr holl weithrediadau plwyfol, ond y mae cynydd y boblogaoth yn Corris ac Aberllefenni drwy agoriad y chwarelau wedi peri eu symud i'w plith hwy a gwneyd Talyllyn yn gymharol ddi-sylw yn yr ystyr hyny, a thebygol fod llawrr o'r trigolion yno yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu o'r herwydd. Ond y mae swyn a thlysni y dyffryn yn beth na chymerwyd oddiarnynt. Pres- wylir yr ardal gan amryw o ffermwyr lied gefnog yn y byd, y rhai a ddiwylliant eu tir yn dda. Mae prydferthwcli y gwastad- edd yn edmygol i'r llygaid, ac yn cyd-daro yn dda ag arddunedd ysgythrog a rhamantus y myrnyddoedd a ymddyrchant o bob tu. Drwy gyfleusderau teithio o Gorris a Towyn, daeth y blynyddoedd diweddaf yn gyrchfan miloedd o ddieithriaid o bob parth, a cliwyddid y nifor yn fawr pe gwnai rliywrai anturiaethus reilffordd i'r lie. Dewisa rhai o'r ymwelwyr rodio yn ham- ddenol ar hyd lanau y llyn disglaer; ac yn ddiau y mae yn fan arbenig i orphwysdra a myfyrdod. Eraill a welir yn bysgotwyr awchus, a'r lleill a ymgymerant a'r orchest o ddringo ochrau Berth a chreigiog Cader Idris. Mae ami i gymeriad hynod mewn byd ac eglwys wedi trigianu yn y cwm hwn rhai yn meddu eu neillduolion eu huneiin, cyn i gymdeithas yr oes hon gael eu bwrw o (,- fielyb fold i'w gilydd. t,Y Mr. Evans, Maesypandy, oedd yn ddyn o gryn hynodrwydd. 0 heiwydd cyfnewidiad yn ei syniadau, ymadawodd a'r enwad Annibynol, a sefydlodd achos i'r Plymouth Brethren yn yr ardal. Yr oedd ganddo gapel yn Pantydwr, a phregothai yno ac yn Llaufihangel-y-Penaut. Yr oedd yn bur flaenllaw yn y diwygiad dirwestol, a bu yn gadeiiydd ar gynadledd yn Machynlleth. Ond cymylodd ei amg'ylchiadau, gwerthwyd ei holl eiddo, yn cynwys llyfrgell werthfawr, yna ymfudodd i Awstralia er's haner canrif bellach, i fugeilio defaid ar geffyl. Mae Oweniaid Dolffanog yn deilwng o sylw. Yr oeddynt yn ddis- gynyddion o'r Barwn Lewis Owen o'r Llwyn, Dolgellau, a laddwyd gan WyUiaid Mawddwy, yr hwn oedd yntau yn disgyn o Ednywain ab Bradwen, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd. Bu y teulu am gened- laethau yn dra nodedig yn y gelfyrddyd o drin briwiau, gosod esgyrn a meddyginiaethu anifeiliaid. Mae Fychan y Gwyndyll wedi gwneyd cAn o glod i ddau o honynt, set Humphrey Owen, Penygareg, a fu farw yn 1807, a'i fab William Owen, Braichgoch, a fu farw yn 1840. Ar gareg fedd y diweddaf y mae yr englyn dilynol:— Daioni i gyrph dynion-a ranodd Wrth drin yr efryddion Meddyg rhad ei wlad-bu lon- I wella pob archollion. Mae amryw o'u holynwyr eto yn meithrin y ddawn hon, gyda chymeradwyaeth droa gylch eang. Mae yn meddiant y teulu enaint rhagorol a neillduol, a elwir JEli Glas, gwybodaeth am yr hwn a gafwyd, fe ddywedir, oddiwrth feddygon Myddfai. Wrth droed Cader Idris, ar ymyl y llwybr sydd yn arwain i'r mynydd, y mae y Cottage, Dolyddcae, y ty y preswyliai ar amserau, ac y bu farw Dr. W. 0. Pughe, y geiriadurwr a'r lienor enwog, yn y flwyduyn 1835, yn 75 mlwydd oed. Cludwyd ei weddillion oddiyno i fynwent Nantglyn. Yr oedd yn perchen amryw fformydd yn Ystradgwyn, ond a werthwyd er's tro gan ei olynydd. Un 0 honynt oedd Dolyddycae. CyrhaedJa y fferm i goryn y Gader, ac y mae Llyn Cae a'i physgod anhawdd eudal yn perthyn iddi. Yr oedd gan y doethawr gwch a thy i' w ddiddosi ar fin y Ilyn. Suddodd y eweh, ond y mae adfeilion y ty yn aros hyd yn awr.

AMRYWION.~

GWEDDI YN°AMSER PLA.

PELLEBRU HEB WIFRAU.

g)'r gffiut.