EISTEDDFOD IfAWDDWY, 1898 AT Y BEIRDD. Dymunir hysbysu y bydd y testyn canlynol ar Restr Testynau Kisteddfod 1898 :—" Can ddesgrifiadol o Ddiwrnod yjiwbili yn Dinas Mawddvvy, Gorph. 3, Gwobr 10s. 6c. T. JONES, ABERHOSAS BitlTKH SCHOOL. WANTED, after Holidays, Transfer Pupil V, Teacher, 1St or 2nd year. Apply by August gth, stating age, salary, &c., to J PUGH, Secretary, ABKRHOSAN, MACHYNLLETH. MODItWY AUll. CAFWYD yr uchod ar lawr. Gall ei pherchenog gael y cyfryw ond ymofyn a ROBERT HUGHES, PENSARN, ABERLLEFENI.
Y NEGESYDD. TELERAU AM HYSBYSIADAU. Am hysbysiadau o "Yn Eisieu," &c., yn cynwys 16 o eiriau 6d Tair gwaith i s. 20 gd I I is. 6d. 30 IS. 1, 2S. 40 is. 6d. 3s. so :;>< 111, j Cyfeiriad, "Negesydd" Office, CORRIS, R.S.O.
^GOliSEDD YR EISTEDDFOD. Bu yr hen Orsedd urddasol uchod yn nod i saethau a difriaeth gan amryw y flwyddyn ddiweddaf. Ac o dan y dyrnodiair a dder- byniodd gan las-lanciau ac eraill, gallesid meddwl 11a fuasai genym erbyn hyn ond syllu yn alarus ar ei hadfeilion, a thosturio wrth ei llwch hi,' ond yn lie hyny, y mae yr Orsedd yn ymddangos yn fwy urddasol, a'i g'ogoniant yn cael ei ycliwanegu yn barhaus. Y darn sydd yn tyna mvvyaf oddiwrth ei hurddas o bosibl ydyw fod ei cliyntedd wedi cael ei led a, fel ag y gollyngir i mewn drwyddo rai na fodrant wrth ei uefion, ac nad oes ganddynt gydymdeimhul a'i ham- canion, y rkai a dderbyniant ei luirddau a'i breintiau, nid am en bod 1 o'r uu waed a'r awen wir,' ond am eu bod o'r un wned a l'hyw bendefig neu arall. Tra yu dywedyd hyn, da genym weled fod yr Orsedd yu brysur ymgyfoethogi a diameu fel y bydd yn myned yn mlaen yn y cyfeiiiad hwn-mewll eyfoeth-y bydd llai o ddywedyd yn ei herbyn. Erbyn hyn, mae y diwygiadau diweddaf yn creu dydd- ordeb yn mhlith Eisteddfodwyr. Fel y mae yn wybyddus, mae y Pi-offeswr Her- komer wedi anrhegu yr Arcliddervvydd a g'wisg deilwng, ynghyd a phenwisg o aur a dwyfroneg brydferth. At hyn, feohwanegir gwisgoedil eyff elyb i'r frawdoliaeth farddol. Y mae Syr Arthur Stepney wedi aiirhegu yr Orsedd a baner hardd, ynghyd a saf-ddal (standJ brydferth, o bres, yr hyn fel y deallwn a gostia dros 150p. Deallwn hefyd fod Arg'lwydd Tredegar yn en hanrhegu a chorn hirlas arian pur, addurnedig a gemau, gwerth oddeutu 250p. Wedi cael hwn, bydd y corn prydferthaf yn y byd yn eiddo Duwies Awen. Dylasem fod wedi nodi hefyd fod y Proffeswr Herkomer a'i fryd ar anrhegu yr Orsedd a chleddyf addurnedig a g'emau; fel rhwng pobpeth a'i gilydd, disgwylir y bydd celfi yr Orsedd erbyn Eisteddfod Ffestiniog yn werth dros l,000p., a'r rhai hyn wedi eu derbyn yn rhad roddion gan fawrion y tir. Ond ni ddylid gaclael yn ddi-sylw fod hyn wedi ei gael, i fesur helaetli iawn, drwy tUlvlanwad Mr. T. H. Thomas (Arlunydd, Penygarn). Ffaith gwerth ei chrybwyll yw mai Cymry -iuewnflordd o gynllunio a clielfyddydwaith -sydd wedi gwneyd y pethau hyn oil Dengys hyn fod yn ein cenedl allu arbenig- yn y cyfeiriad hwn, ond iddo gael ei feithriu yn briodol; ond gwneyd hyn, gall y Cymry droi allan gynyrchion ddeil eu cydmaru ag eiddo unrhyw genedl dan haul; ac mae yr Orsedd fel pe am gyfiawnhau ei bodolaeth a'i pharhad, drwy gynyrchu ysbrydiaeth ac uchelgais at y celfau cain yn yr Hen Wlad. Ac os liwydda i wneyd hyn, diau y bydd pob Cymro, nid yn unig yn dymuno oes y byd i'r iaith Gyiiir *aeg,' ond hefyd, oes yr iaith i'r Orsedd hen. Bwriada yr Orsedd hefyd, drwy gynllun sydd i'w ddatguddio yn Casnewydd, sicrhau cyllid blynyddol, er cario allan mewn modd effeithiol y gwaith yr ymgymera ag of. Trachefn y mae yr Orsedd yn bwriadu tori tir newydd gallem feddwl. Yr hyn y cyfeiriwn ato yw yr awgrymiad a wnaed i gael Beddrod a Ohofgolofn Ganedlaethel i Archdderwyddon Cymru. Daeth y syniacl hwn. i mewn drwy i Gadfan amlygu dymuniad am gael Colofn Goffa i Clwydfardd yn unig. Ond aeth. Watcyn Wyn tuhwnt' iddo drwy gynyg gwneyd y golofn yn goffadwriaethol i holl olyniaeth arehdder- wyddol. Ac i ni, y mae mwy o 'farddoniaeth' ac urddas gorsedd' yn syniad Watcyn. Bydd colofn goffa i arclidderwyddon Oymru, yn rhywbeth gwerth ymestyn ati, ac yn taflu ysbrydiaeth i'r oesau a ddel
Y TRYCHLNEB YN KHASIA. COLLED FAWE PR METHODISTIAID CALFLNALDD. Bernir fod y Methodistiaid Calfinaidd wedi cael colled o iO,OOOp., drwy i'r ddaeargryn ddiweddar yn India, ddinyetrio eiddo y genhadaeth ar Fryniau Cftdsia^ Yn ngwyneb hyn cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel Crosshall Street, Lerpwl er ygtyl-ied beth i'w wneyd. Llywyddai Mr. David Ilaghes, U.H. Eglurodd y Parch. Josiah Thoma.s fod y 10,000p. yn golled i'r gen- hadaeth yn uniougyrchol, hfeb gyfrH colledion personol y cenliadon. Darllenwyd llythyrau vn adda W cymorth oddiwrtli y Prifathraw Prys, Trefecca; Mri. E. Griffith, U.H., Dolgellau, ac Herbert Roberts, A.S. Anfollodd Mrs. Owen, Oxton 50p. ar ei rlian ei hun, a 5p. ar ran pob un o'i dwy ferch. Yr oedd Mr. E. Davies, U.H., Llandinam, am roddi mil o bunau os y cesglid y naw mil arall erbyn diwedd y flwyddyn; a chyn terfyn y cyfarfod dywedodd y cadeirydd y rhoddai ef 500p.
DESGRIFLAD O'R DINYSTR. Mae Ilythyr newydd ddod oddiwrth y Parch. E. H. Williams, un o'r eelihadou yn Shella, wedi ei anfon at y Parch. Josiah Thomas. Dywed i'r trychineb ddigwydd brydnawn a nos Sadwrn, Meliefin 12fed. Parhaodd yrysgydwadcyntal am gryn bum' mynyd. Ysgydwai y ddaear gymaiut fel y cwympodd pob adeilad ceryg', ymagorai y ddaear yn agenau mawrion, cvrympai llethrau mynyddoedd gan g'laddu pobl yn fyw, ac yr I ZD I oedd yr awyr yn llawn llwch. Parhaodd yr ysgytiadau yn awr ac eilwaith am ddyddiau. Dymcliwelwyd pob ty a chapel perthynol i'r genhadaeth, ond yn ffodus y mae yr holl genhadon a'u teuluoedd yn ddiogel. Buont yn treulio y nOR yn yr awyr agored dan wlaw hWlll, gan fod perygl myned yn agos i uurhyw adeilad. Y mae yn anhawdd dweyd faint yw nifer y bywydau gollwyd, ond rhaid ei fod yn fawr.
GROEG A THWRCI. Mae y llywodraefch Dyrcaidd wedi anfon cylcli-lythyr i'w chynrycliiolwyr mewn gwledydd tramor, yn yr hwn y dywedir fod barn y cyhoedd yn yr ymerodrð Otto- manaidd yn gryf yn mhlaid cad w Tliessaly a sylwir y cwyd perygl o beidio talu sylw i'r teimlad hwn. Dywed papyr hanei-swyddogol o Vienna fod amcan Twrci yn sicr o fethu os yw hi yn cyfrif yr anghytuna y Galluoedd ar y mater hwn. Y mae cenadwri ddiweddaf y Galluoedd at lywodraeth y Sultan yn hawlio gan Dwrc dderbyn y llinell a roddodd swyddogion milwrol y Galluoedd fel terfyn rhwng y deyrnas, ac yn dweyd fod y Galluoedd oil yn unfryd i beri gwneyd heddweh. Ni nodir, fodd bynag, unrhyw amser yn ystod yr hwn y rhaid i Dwrci gydsynio. Cyflwyuwyd 3 genadwri dydd lau diweddaf; a dywed newyddiaduron o St. Petersburg fod y Sultan dydd Gwener, wedi telegraphu at. y Galluoedd i ofyn yn ddifrifol iddynt ystyr- ied yn ffafriol ei gynygion ef ynglyn a'r ffiniau. Dywedir mai ateb o 'natur nacaol' oedd ateb y Galluoedd. Y mae Twrci yn bwriadu anfon adgyf- nerthion i Ynys Creta, ond y mae y Galluoedd wedi cyhoeddi eu bod yn erbyn hyny. Y mae Llyngesyddion y Galluoedd wedi rhoddi rliybudd i'r gwrthryfelwyr y 'telir y pwyth yn chwerw os ymosyd y gwrthryfelwyr etc megys yr ymosodasant n ychydig ddyddiau yn ol ar nifer gymysg o Awstriaid ac Eidaliaid.
STREIC Y PEIRIANWYR. Mae Streic gyffredinol wedi tori allan ymhlith y Peirianwyr yn y deyrnas. Maent yn sefyll allan am eu bod yn hawlio gweithio wyth awr y dydd. Mae llawer o'r meistriaid wedi caniatau llyn. Ehoddodd y meistriaid rybuddion i 25 y cant o'r dynion i ymadael mewn canlyniad i'w cais ac yn ganlynol, y mae y 75 y cant eraill yn sefyll allan. Y mae hyn yn ymledu i raddau difrif-ol yn ystod yr wythnos. Dydd Gwener, mewn cylchlythyr, dywedodd Mr. Barnes, ysgrif- enydd Cymdeithas y Peirianwyr, pe y buasid wedi gadael i feistri Llundain setlo eu busnes eu liunain, y gallesid bod wedi osgoi i'r helynt ymledu. Geilw ar aelodau y Gymdeithas i dalu yn hael yn ystod y frwydr, yr hon, meddai, fydd yn un fer ond pur galed. Mae y nifer sydd allan o waith oherwydd yr anghydfod, yn 70,000.
BWRDD YSGOL TALYLLYN. Nos Lun, presenol, Mri. Rhys Owen, R. Owen, John Lewis, J. Williams, a D. Ifor Jones, clerc. Darllenwyd rhestrau y pres- enoldeb. Hysbysodd y clorc a'r isgadeii-ydd y wedd ddifrifol gymerai Arliolydd Ysgolion y Llywodraoth ar y presenoldeb yn yr ysgol- ion hyn- Yr oedd yn gresynu na chymerai y Bwrdd fesurau llawer llymach, er gorfodi rhieni i anfon eu plant i'r ysgol yn gyson. Yn unol a hyn penderfynodd y Bwrdd ar gynllun i gadw cyfrif manwl o bresenolde b y plant, ac o erlyn yn ddiarbed y rhai fyddant yn esgeuluso yr ysgol.-Galwodd yr Arholydd sylw at ryw fan welliantau anghenrheidiol yn ysgol Corris, a threfnwyd ymweliad a'r lie. Anogwyd hefyd i bwyllgor Aberlleienni ymweled yn ddioedi a'r ysgol hono.—Yr oedd rhai o adroddiadau y Llywodraeth o berthynas i'r Ysgolion wedi dod i law, ond oedwyd sylw arnynt hyd oni ddel y lleill.—Yn unol ag awgrym y Fren- hines, penderfynwyd rhoddi wythnos yn rhagor o holidays i'r plant eleni, a bod yr ysgolion i dori i fyny nos Wene-r nesaf.— Etholwyd Mr. William Edwards, Cwrt, i gynrychioli y plwyf hwn ar Fwrdd Ysgol Llanfihangel am y tair blynedd nesaf.
CYMRY I CANADA. Daeth brys-neges i Betbesda, yu anfon gwahoddiad oddiwrtli Lywodraeth Canada i'r chwarelwyr i ymfudo i'r drefedigaeth hono. Mae manyIion pellach wedi eynwdJ, ac ymddeng, s nad yw y cynyg a wnaed yu r,Y I gyfyngedig i chwarelwyr Pjethesda, ond ei fod yn agored i \voitln\yr a ffermwyr Cymnt yn g'yffrcdinol. Mae'r cynyg yn cynwya rhodd o dir gyda gwaith a cliyflog da a cliyson i'r rhai a ddyinunant hyny. Ymddengys na wnaed cynyg' o'r fath erioed o'r blaen gan Lywodraeth Canada i unrhyw ddosbarth o ymfudwyr nac i unrhyw genedl a rail, Adlewyrcha nid ychydig-o glod ar m Z5 g'ymeriad y Cymro, ac ar ddoethineb Llyw- odraeth Canada, fod y cynyg hwn yn cael ei wneyd yn y modd ac ar yr adeg breseuol. Mae gweithfeydd aur a glo yn cael eu hag-or yn rhanbarth y Mynyddoedd Creigiog, a gobeithir y bydd y flin yn ganolbartli masnach a gweithfeydd eang. Am y tir ei hun, lie y ovnygir y ffermydd, tir agored yw, heb ei g'au, ond na fydd. angen ei arloesi. Yn lu'n gwahaniaetha oddiwrtli diroedd cylioeddus yr Unol Dal- eithau, y rhai ydynt naill a'i yn anialdir gwyllt neu yn gorsleoedd gwlybion, yn gofyn llawer o waith i'w cymhwyso at amcanion amaethyddol. Dywedir fod yn y rhanbarth yma hefyd ddigonedd o goed at adeiladu tal ac at ft'ensio. Mae yr liinsawdd yn dyner, ac ar lechwedd y Tawelfor i'r mynyddoedd ceir blodau gwylltion yn tyfu yn nyfnder y gauat. Hysbysirui ar awdurdod dda fod llawer o ddynion iouainc, cyn-weithwyr y Penrhyn, eisoes wedi datgan eu parodrwydd i fyneel allan ar y telerau hyn. Yn wir, credir y bydd i rai canoedd o chwarelwyr y Penrhyn fod yn mhlith y rhai cyntaf i fanteisio ar y eyflousdra.
DOLGELLAU. PRIFWEINIDOGIOK Y T ITKI-EDIGAEXI [AU. — Mown cysylltia.d a'r ymweliad uchod, darfu i'r masnacliwyr anturiaethus Mri. W. S. Williams a Griffith, Llanrwst, a Commerce House, Dolg'ellau, gyflwyno i'r Prifweinid- og-ioil at wtsaiiaotit eii gwragedd, shawls wedi eu gwneyd o bwrpas gan y Mri. Jones Evans a'u Cwinni, Drefnewydd, o wlau wedi ei dyfu yn Nyfiryn Conwy. AfA]RWOLAETIf. Yr lleg cyfisol, wedi dioddef yn dawel gystudd maith, bu farw Mrs. M. Evans, Confectioner, Finsbury Square, yn 67ain miwydd oed. Yr oedd yr ymadawedig yn g-ymeriad a fawr berchid gan bawb a'i hadwaenai. MARWOLAETH SYIDYN.— Boreu Sabbath diweddaf, tarawyd Mr. D. Jones, Ysgubor- newydd, yn ddifrifol sal yn nghapel Siloh. Cyrehvvyd meddyg', yr hwn a ddywedai mai methiant y galou oedd yr achos o'r llesmair. Daoth yn well am aiiiser, ond bu farw prydnawn LInn. Bydd yn golled fawr i'r achos yn Siloh ar ei ol.
ANRHEG 0 LONG RYFEL. Mewn gwledd a roddwyd i rai o Brif- weinidogion y Trefedigaethau nos Sadwrn, yn. Llundain, dywedodd Mr. Goschen, Prif Arglwydd y Morlys, fod Cape Colony wedi penderfynu anrhegu y fam-wlad a llong ryfel o'r dosbartli fwyaf a'r cynllun di- weddaraf. Mae bellach yn adnabyddus trwy y Sir, mae un o'r lleoedd goreu yn Nghymru, am Watch dda, Aur neu Arian, yw Masnachdy W. W., Dolgellau. Yno hefyd ceir lie rhagorol i ddewis, Modrwyau Aur Pur, ac Alberts, a Brooches Aur.
DINAS MAWDDWY. BWRDD YSGOL.—Cynhaliwyd dydd Llun, o dan lywyddiaeth Mr. M. Evans, Post Office. Pasiwyd y cofnodion. Derbyniwyd adroddiad arolygwyr ei Mawrhydi, gyda boddhad mawr am ysgol Minllyn. Pasiwyd i anfon llythyr at Mr. Lloyd a'i gynorthwywyr, i'w llongyfarch ar yr adroddiad. Cyfanswm y grant enillodd hon eleni ydyw II3p. 19s. Ac er mwyn y trethdalwyr a rhieni plant, dodwn yr adroddiad i mewn heb eij gyfieithu, rhag i ni wneyd cam ag ef. This School is in exceedingly good order, and is generally in a good state of efficiency, both as regards elementary and class Subjects. Handwriting, Map drawing, and Needlework, continue to be particularly well taught, and the exercise books are very neat and well kept. The Reading of the third Standard, the Object Lessons of the lower classes, and Mental Arithmetic generally will require more systematic teaching next year. The Infants are under satisfactory instruction. Objects are needed to illustrate the teaching of the Object Lessons.' i Ni ddaeth adroddiad Aberangell i law eto. Talwyd cyflogau am y chwarter, ynghyd ag amryw filiau. Gofynai y ddau brifathraw am estyniad amser seibiant yn yr ysgolion. Pasiwyd i gau yr ysgolion o dydd Gwener nesaf hyd Awst 16. Pasiwyd diolch i Mr. Bullock a Cabden George, Cwmllecoediog, am ei caredigrwydd i blant yr ysgolion ar ddydd dathliad y Jiwbili. Gwnaed trefniadau ar gyfer cymeryd ysgol Llanymawddwy dan ofal y Bwrdd. Dymunwn alw sylw holl rieni plant y ddau blwyf at y pwysigrwydd o anfon eu plant yn gyson i'r ysgolion. ZI.
TROI Y 'PRIF-FARDD PENDANT' ALLAN 0'1 DY. Yr oedd golygfa fywiog yn Watling Street, Llanrwst, ddydd Mercher. Tua haner awr wedi naw, daeth yr Arolygydd Jarvis, a dau gwnstabl arall gydag ef, i dy Gwilym Cowlyd, i droi y Prif-fardd Pendant' allan yn unol a gwarant a ganiataodd yr ynadon a'r y I4eg o Fehefin. Yr oedd yr heol yn llawn o edrych- wyr; a thra yr oedd y bardd yn darllen y warant, fe ddaeth arlunydd yno, a thynodd lun Cowlyd a'r plismyn. Yna aed yn mlaen i ddigartrefu Cowlyd, a buwyd gryn ysbaid yn clirio y lie. Yr oedd Cowlyd yn cynorthwyo y swyddogion i symud y llyfrau; ac wedi gorphen efe a ddiolchodd i'r swyddogion am y cymorth a roddasant iddo i symud o'r ty. Dyma y tro cyntaf y trowyd neb o dy trwy orfod yn Llanrwst; ac am hyny, yr oedd pawb yn teimlo cryn ddyddordeb yn y gorchwyl, eithr aeth pobpeth heibio yn dawel a didramgwydd.
EISTEDDFOD PENEGOES. MEHEFIN 22A1N, 1897. Beirniadaeth Englyn 'Y ffynon.' Derbyniwyd 23 0 ffynhonau englynol, ac y maent, fel y gellid disgwyl, yn amrywio mewn gloewder a swyn barddonol. Gellid eu (losranu i dri dosbarth mewn safle lenyddol. Yn y dosbarth iaf saif 'Egryn,' Bardd yr Awen,' 'Twm o'r Nant,' Awel yr Haf,' 'Un agos i Benegoes,' Sychedig,' a 'Teithiwr Sychedig.' Nid oes gymaint a llinell g-ynghaneddol gywir yn englyn Egryn yr agosaf at gywirdeb ydyw ei linell gyntaf. Hefyd, drwg genym ddweyd nas gallwn roi unrhyw ganmoliaeth i'w eiddo o ran syniadau meddyliol. I ni, nid yw ond caddug a nos. Bardd yt Awen.—Gwybydded yntau nad yw ei gyfatebiad i'r gair cyrch' yn gywir— —' O ddwfr, Ddyferynau gloewon.' Hefyd, nid ydym yn deall paham y mae yn dweyd Rhad a had i'w rhydiau hon.' Pe dywedai Rhad a hael i'w ffrydiau hon,' buasai yn cyfleu gwirionedd clir, a naturiol. Sonir am rhyd neu rhydiau mewn afon, ond ffrydiau'r ffynon. Twm o'r Nant.-Dyma englyn cywir, ond y ii-iae ei linell olaf sill yn rhy hir i ateb i'r un sydd yn blaenori, yr hyn sydd yn dramgwyddus ac yn anaf ar englyn. Awelyt Haf.—Mae ei linell gyntaf yntau yn wallus parth cynghauedd. Ag eithrio hyn, mae yn englyn digon pert. Un agos i -Beiiegt)es.-Dylai yntau wybod pethau yn well, mai nid arianedd sydd briodol mewn iaith ond arianaidd, a thrwy hyny gwel na wna y llinell gyntaf gynghanedd lusg gywir. Sychedig.—Englyn perffaith mewncynghan- edd, ystwyth, a naturiol, ond sut fu i'r awdwr ysgrifenu odl wallus, pan y gallai wneyd un ddianaf. Dyma fel y daeth i law- Swynol fron rnynwes anian—cawn o'i mewn Sugn a maeth cysurlawn 0 law'r Crewr, gloewddwr glan, A deillia o'i chraidd allan.' Pe bai wedi ysgrifenu cysurlan, buasai yr oil mewn trefn, ac y mae yn debYb" mai felly y bwriadai yr awdwr wneyd, ond iddo yn an- tlodus gam-ysgrifenu ei feddwl. Teithiwr Sychedig.—Mae ganddo yntau englyn ddiwall, ond heb fod yn ddigon nodweddiadol o'r testyn, gwnai y tro i'r afon neu y nant. Yn nosbarth 2il erys Llywarch Dyfi,' Min y don,' Plentyn,' Alaelgwyn Gwynedd,' Bardd o'rGlyn,' 'Un hoff o ddwfi-, 'Profiadol,' Naturiol,' Die,' a Dirwestwr.' Mae yr oil o'r englynion hyn yn ddiwall mewn cynghanedd ac yn meddu safle uwch mewn teilyngdod a gwerth, yn y gystadleuaeth na'u brodyr sydd wedi bod gerbron, ond cofied Llywarch Dyfi, Min y don, a Plentyn, mai goddefiad ydyw defnyddio wyth sillau yn yr esgyll,' ac anaml t,Y y gwobrwyir y cyfryw hefyd. Mae trydedd linell Maelgwyn Gwynedd yn wyth sill, tra nad yw ei nesaf ond saith. Englyn da oni bai any y pechod gormodol hwn i fod yn eng- lynioiX derbyniol. Nid yw yr eiddo Bardd o'r Glyn, Un hoff o ddwfr, Profiadol, Naturiol, Die, a Dirwestwr, yn ddigon testynol. Dosbarth 3ydd. Lleiv o'r Ffan.—Englyn i Ffynon Penegoes sydd gan y Llew, ond nid yw rhaglen yr eisteddfod wedi rhoi arbenig- rwydd i Ffynon Penegoes mwy na rhyw ffynon arall. I'egid.—Fnglyn nodweddiadol e'r fcfynon. Mae yntau wedi arfer wyth sill yn ei esgyll. Einion.—Ffynon risialog ac yn llawn o ddwfr. Glan Rheidiol.—Da eto. JTeetotal.—Englyn prydferth, ac mor loew a llygad ei destyn. Hogyn.—Englyn rhagorel, wedi ei gyng- hanaddu yn fedrus ac ystwyth. i Mae englynion yr ymgeiswyr hyn yn hynod o destyngar, a theilynga pob un o honynt y wobr, ond ni raid craffu llawer na welir fod un o honynt yn rhagori, sef englyn Hogyn. Mae hwn yn sefyll wrtho ei hun mewn clirdeb nodweddiadol o'r Ffynon, ac yn ddibetrus cyhoeddir Hogyn yn oreu gyda chanmoliaeth, ar air a chydwybod GWILYM DYFI.
MARWOLAETH. LEWIS.—Gorphenaf I3eg, Mr. John Lewis, Fronfraith, Aberllefenni, ar ol cystudd o rai misoedd, yn 6oain mlwydd oed. Brodor ydoedd o Pennal. Daeth i fyw i fferm Fronfraith tua 30am mlynedd yn ol. Yr oedd yn wr tawel. yn gymydog caredig, ac a fawr berchid. Yr oedd yn aelod ffyddlawn yn eglwys Annibynol Bethesda. Gadawodd weddw, mab a merch, i alaru ar ei ol.
Y MARCHNADOEDD. Y FASNACH YD AM YR WYTHNOS. Er i ni gael rhai dyddiau poethion iawn, eto, mewn ystyr gyffredinol, nid yw yr hin wedi bod yn llawn mor wresog ag yr arfera fod yr adeg yma o'r flwyddyn. Yn ffodus, nid ydys wedi cael gwyntoedd cryfion yn rhuthro i atal ym- ddadblygiad y gwenith, a chyda'r eithriad a ogledd-orllewin Lloegr, ychydig mewn cym- ariaeth o wlaw sydd wedi disgyn. Enillodd pris gwenith tramor 6c. y chwarter yn ystod yr wythnos, ond nid oedd ygwerthiant yn brysur. Priodolir y codiad i brinder yr hyn sydd ar y ffordd yn cael ei ddwyn drosodd. MARBMNADOEDD ANIFEILIAID BIRMINGHAM.-Cyflenwill.d da o ddefaid ac wyn yn y farchuad, ond cyflenwad bychan o wartheg, a'r fasnach yn ddifywyd. Biff, sc. i 7|c. defaid, o 6c. i 8 £ c.; wyn, o 8c. i 9c. y 4 pwys. SALFORD.Nid oedd y fasnach yn ryw fywiog iawn heddyw; y mae'n ymddangos fod y cynydd yn y cyflenwad wedi tueddu braidd yn ffafr y prynwyr. Safai y prisiau fel y canlyn :-Biff 5c. i 6|c. defaid, 6c i 8ic.; 4 4 wyn, 7^c. i 8fc.; Hoi, 5c. i 6fc. Yn y farchnad gwartheg, 1,695 defaid, 20,456; lloi, 113. gwartheg, 1,695 defaid, 20,456; lloi, 113.
-_7"- DARLLEN WGH, YiSTYUIWCH. BITTERS GWILYM EVAiNS. Meddyginiaeth oreu yr oes. AT DDIFFYG TREULIAD, DOLURIAU YR AFU, GWENDIDAU GIEUOL. A phob math o WEN DID. Defnyddir Quinine Bitters Gwilym Evanis gan gleifiou yn mhob gwlad syddyn dioddef oddiwrth Nychdod, Gwendid, a Llesgedd. Y mae yu rhoddi Nerth i'r gwan, Iechyd i'r claf, Mwynhad bywyd 1 bawb. Tystiolaeth Bwysig. a A H A P w A E-4 Ó fH N M fi Llysawen, RhyI, Ebrill 17eg, 1895. Anwyl Syr,—Blinid fi yn dost gan y Bile a Diffyg Treuliad, ac anogwyd fi i roddi prawf ar eich cyflei-i cliwi-Quiuine Bitters a Digestive Pearls, ac y mae yn dda genyf allu tystio i'r Iles mawi- a gefais o'u defnyddio. Cymerais amryw botoli 48. 6c. o'r Bitters, ac yr wyf yn penderfynu cadw potelaid e hono wrth law bob amser, a chyineryd dogn dyddiol awr cyn borcu- f wyd. Aeth y cur o fy mhan, a'r neuralgia a'r g-ymalwst, a gelynion eraill ar flo; a gobeithio na wnant byth ddychwelyd. Cefais lwyr ymwared o'r Bile a'r Diffyg Treuliad, ac y mae y Quinine Bitters wedi ciyfhau fy ystumog, puro fy ngwaed, a 0 el sirioli fy ysbryd. Yr wyf wedi ei argymoll i liaws sydd yn awr yn rhoddi caumoliaoth uchel iddo fel meddyginiaeth effeithiol at wahanol anliwylderau. AVyf, Syr, yr eiddoch yn ddiolchgar, JAMES DAVIES (Iago Tegeingl). BITTERS GWILYM EVANS, tw- GWYLIWCH Gochelwch Dvvyllwyr. Edrychwch fod enw Grwilym Evans ar bob label, stamp, a photel. Gvvertliir hWYllt mewn poteli 2b. c., a 4s. 6c. yr un JJiycliau Y11 cynwys tair potel 41i, 6c. am 12s. 6c. llw cael yu mliob man, neu danfouirhwy yu rlnid am y prisiau uchod yu dtlyoóel drwy y post oddiwrth y perclienogion,— QUININE BITTERS MANUFACTURING COMPANY LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. GOliUCHWY LIVVR YN AMERICA— Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. ARDDANGOSrA FAWR AT YR HAF. :o: Mae RICHARD REES, Paris House, MACHYNLLETH, Wedi prynu Stock ysblenydd o bob math o Nwyddau Drapery at yr HAF, y rhai a ddangosir yr WYTHNOS HON. CHEAP PRINTING AT "NEGESYDD" OFFICE! QQRRIS&R,S.O,