Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

FRIOG.

CYNGOR TREFOL MACHYNLLETH.

News
Cite
Share

CYNGOR TREFOL MACHYNLLETH. Cynhaliwyd dydd Mawrth diweddaf, yn y Neuadd Drefolo Presenol, Mri. R. Owen, cadeirydd, J. Thomas, E. Pees, H. Pees, W. M. Jones, E. Gillart, J. M. Breeze, D. D. Williams, ac P. Gillart, Dr. Davies, swyddog' meddygol, Mri. J. Jones, arolygydd, J. llowlauds, clerc, a D. Phillip Jones, is-glerc. Ar ol darllen y cofnodion, darllenwyd llythyr oddiwrth Arglwydd H. V. Tempest o Lundain, yn hysbysu ei fod yn analluog i fod yn bresenol.—Hysbyswvd y byddai y y I I swin o 3p. 3s. y flwyddyn i'w dalu am ddef- uyddiad o'r N euadd Drefol at gynlialiad y Cyngor.—Ar gynygiad Mr. P. Pees, a chefuogiad Mr. E. Gillart, cymeradwywyd penderfyniad Cyngor Sirol Caerdvdd o gael arf-bais Cymru ar y llumanau Brenhinol ac ar yr ariau bathol.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Mrs. Foulkes Jones, Bodhyfryd, yn cwyno fod ce lly la u yn cael eu gadael gyfer- byn a'i thy ar y ffeiriau, hyd amser afresymol ac yn atal y fynedfa i'r ty. Dywedodd Mr. D. D. Williams fod y llythyr yn rhoddi cyfleusdra i agor y cwestiwn 0 Smithfield i'r dref. Pasiwyd ar gynygiad Mr. R. Gillart, a chefnogiad Mr. H. HOGs, i'r arolygydd gymeryd mewn llaw gael gwell trefn ar hyu t5 yn y dyfodol. PYSGOTA YN Y Dyioi.-Darllouivycl llythyr oddiwrth Mr. H. C. Anwyl, Llugwy, yn cwyno o herwydd ymddygiad Clwb Afon Dyfi yn rhwydo yr afon yn uwch nag arferol y flwyddyn lion. Ni arferid rhwydo y llyuoedd uchaf ond uuwaith neu ddwy yn y tymor, ond ar yr haf hwn delid tua 80 o bysgod ar y tro yn fynych, yr hyn oedd yn drygu y pysgota yn ddirfawr. Atebiad y Clwb oedd fod raid i Machynlleth gael pysgod, ond yr oedd yr afon yn cael ei handwyo. Pasiwyd i anfon y gwyn at Syr Watkin, yr Arglwydd Faenor, Clwb y Dyli, ac i Fwrdd y Gwarchodwyr. Dywedodd Mr. R. Pees os na cheir atebiad boddhaol oddiwrth y ddau flaenaf, y dylid cymeryd y mater i fyny 0 ddifrif. Yr oedd cwyn er's llawer o amser am ymddygiadau hunan- geisiol y Clwb, ac yr oedd eisiau rhoddi terfyn arno er budd trigolion Glanau Dyfi. AKIANOL.—O'r Pwyllgor Arianol, gofynid am dalu bill o 3p. 2s. tic. am ddefnyddiad Ystafell y Gwarcheidttaid, yuol 2s. 6c. y tro; lOp. 15s. 2c. dyledus ar y Cyngor fel dilynydd Bwrdd Ffyrdd y Dosbarth; 6p. 10s. 9c. i Mr. J. J. Humphreys, ar gyfrif gwasanaeth ei dad, y eyn-arolygydd 3p. 15s. i Mr. B. Pierce, am ofalu am awrlais y dref, [ynghyd a man filiau. Pasiwyd i'w talu, gyda galw sylw yr oriadurwr at y ffaith fod awrlais y dref yn anil yn sefyll. IECHYDOL.—Dr. Davies a adroddai fod iechyd y dref yn foddhaol, dim afiechyd heintus ar hyn o bryd. Argymhellai arolyg- iaeth fanwl ar y gipsies a arhosai ar y Common. Yroedd ef a'r arolygydd wedi ymweled ag ugain ó dai yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd angen gwelliantau ar amryw o honynt. Mab- wysiadwyd yr adroddiad. YR HEOLYDD.—Penderfynwyd gwario ip. ios. ar y ffordd o Maesglas i Sguborwen, a ISS. o'r Foundry i Penrallt. Pasiwyd fod i'r arolygydd wneyd ymholiad pellach ynghylch y llwybr o Felingerig i'r Garth a honid oedd yn lwybr cyhoeddus, fel y gellid ei gael yn agored. Yr oedd ffordd Caergybi wedi ei hadgyweirio. Penderfynwyd ar ol ymraniad a chryn ddadleu, ar gynygiad Mr. R. Gillart, fod curb stones o geryg caledion yn cael eu rhoddi i lawr gyferbyn a thai newyddion y Doll, er y costiai tua dwbl pris ceryg llechi Aberllefenni. Cytunwyd i roddi pibellau carthffos o'r heol yn y Doll hyd dir Mr. John Jones i'r brif garthffos, ar y telerau fod Mr. I Jones yn eu rhoddi i lawr, a bod cytundeb i'r perwyl yn cael ei wneyd ag ef.—Gofynai Syr Watkin am is. y flwyddyn, ei hawl fel Arglwydd Faener am y tap dwfr a godwyd yn Maesglas ar dir cyflredin Penrallt. Dadleuai Mr. D. D. Williams na ddylid caniatau y fath hawl. Gohiriwyd ystyriaeth o'r mater tuag at wneyd ymchwiliad iddo. Ö Y GWAITH DWFR.-Y peirianwyr a adrodd- cnt fod y gwaith yn myned yn mlaen yn dda. Cymhellent i dalu 6oop i'r cymerwr. Costiai tir y carthffosydd lSOp.; byddai yn ddymunol i bvvyllgor y Dwfr a'r Carthlfosydd fod yn un. Mabwysiadwyd yr adroddiad.

LLAIsTBRYN M AIR.

PENNAL.

ABERDYFI.

EISTEDDFOD PENEGOES.

EISTEDDFOD Y BORTH.

DYFOD I'W OED.

LLANEGRYN.

CAPEL MADOG, CEREDIGION.

Family Notices

Advertising

Advertising

Y * NEG-3SSYDD,

GROEG A TWRCI.

LLANWRIN.~~

CYFARFOD YSGOLION M. C., DOSBARTH…

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL FFESTINIOG.

CORRIS.