Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
[No title]
Dydd Iati diweddaf, cynhnli wyd cyfarfod pregethu y Wesleyaid, yn Ninas Mawddwy. Y pregetliwyr oeddynt Parchn. W. 0. Jones, Aber, a Hugh Hughes, Caernarfon. Cafwyd cyfarfodydd hynod dda a phoblogaidd,
TRUGAREDD.
TRUGAREDD. Cyfieithiad o araeth Portia (.Merchant of Venice- Shakespeare). 'The quality of mercy is not strained,' &c. Nid yw trugaredd o orfodol rin, Hi ddisgyn fel y tyner wlaw o'r nef Ar ddaear isod bendith ddeublyg fed! Bendithia'r hwn a rydd a'r hwn a ga Mae'n gryfaf yn y cryfaf; gweddu mae Yn fwy na'i goron i'r g-orseddo- deyrn Ei wialen ddengys rym tymhorol nertli, Priodoleddau y mawrhydi a'r ofn, Eisteddle braw ac arswyd mawrion byd Ond uwch trugaredd na'r argiwyddiaeth hon, Yn nghalon brenin ei gorseddfainc saif, A phriodoledd yw o Dduw ei hun Tebycaf gallu bycl i allu Duw, Pan drwytho hi gyfiawnder. Cofia hyn, Er mai cyfiawnder. Iuddew, yw dy gais, Nas calfai neb, yn nghwrs cyfiawnder, fytli Wel'd iachawdwriaeth gweddiwn am drugar- A'r unrhyw weddi hono a'n dysg ni oil [edd, T weithio gwaith trugaredd. Dywedais hyn I dori min cyfiawnder llym dy hawl, 'Rhwn os dilyni, rhaid i lys caeth Fenis j Ddyfarnu'n erbyn y marsiandwr draw.
! AM liYWIOx!
AM liYWIOx! Nid oes yr un glustog ar eisteddle Mr. Gladstone yn Eglwys Penarlag. I Derbyniodd ei Mawrhydi un diwrnod dros 500 o frys-negesau llongyfarchiadol ar ei theyrnasiad. I Gorchymynodd y Frenhines i fathodyn aur I arbenig gael ei ddarpar yn anrheg i'r Arglwydd Faerod, ac un arian i Faerod y deyrnas er coffa am y Jiwbili. Mr. Edward Green, The Moors, Trallwra, enillodd y wobr fiaenaf ynghyd a bathodyn aur yn yr Arddangosfa Amaethyddol Freiniol, yn Manchester yr wythnos ddiweddaf am y march goreu. í Allan o 6oain mlynedd, chwe' diwrnod yn nig dreuliodd y Frenhines yn yr Iwerddon. preswyliodd fwy o amser yn Ysgotland nag a deyrnasodd y rhan fwyaf o benaduriaid yn eu hoes. Dewiswyd Mr. C. R. Jones, U H., Llanfyllin, yn llywydd yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig am y flwyddyn nesaf. Dyma esiampl i'r enwadau crefyddol eraill i'w dilyn, mewn penodi lleygwr i brif gadair yr enwad. Cynhaliodd Mr. Frank Edwards, yr ymgeis- ydd Rhyddfrydol dros Sir Faesyfed, gyfres o gyfarfodydd llwyddianus yn ngwahanol drefydd y gynrychiolaeth yn cael ei gynorthwyo gan Mr. H. Broadhurst, A.S., a Mr. E. J. Griffith, A.S. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, a rhagolygon yn bur obeithiol am ei ddychweliad yn yr etholiad nesaf. Y dyddiau diweddaf, cynygiodd y Frenhines Dduciaeth i Ardalydd Salisbury, yr hwn a'i gwrthododd. Yr unig Gymro dderbyniodd deitl ar y dathliad diweddar oedd Mr. Ellis Nanney, e'r Gwynfryn, yr hwn a wnaed yn Farwnig, am iddo ymladd a cholli ddwywaith yn etholiad Bwrdeisdrefi Caernarfon, pan yn gwrthwynebu Mr Lloyd George, ac unwaith yn etholiad Deheu Sir Gaernarfon pan yn gwrthwynebu Mr. Bryn Roberts. Byddai yn fantais fawr pe byddai i rywun foddi cyfleustra i'r barnwyr i osod i lawr y gyfraith gyda golwg ar hawl yr heddgeidwaid Z-1 ir cyhoedd i atal yr olwynwyr y rhai a geir yn tori y g-yfraith, drwy farchogaeth yn rhy gyflym, neu heb oleuni, neu ar y llwybrau traed, Mae atal olwynwr yn sydyn yn ei osod jiiewn perygl, ac y mae perygl hefyd i'r gwyr traed. Da fyddai cael gwybod yr hawliau ar bob tu
GANLLWYD.
GANLLWYD. Y ^WBILI.—Ni fu y lie tawel a rhamantus jiVA'U—gwlud yr aur—yn ol mewn dangos ei c ilcyrngarwch ddydd y Jiwbili. Ehoddwyd P°kg'Waith o'r neilldu. Ehoddodd Mr. C. fi. Williams ei bare yn agored am y dydd, i g'yiial chwareuon, &c., ac nid yn unig liyny, I 0^ Y^oddodd e-f yr holl wobrwyon ynghyd 1 ragorol i bawb.
[No title]
bellach yn adnabyddus trwy y Sir, mae rA e°edd goreu yn Nghymru, am Watch 1 11 neu Arian, yw Masnachdy W. W., ^no ce'1' rhagorol i ^fodrwyau Aur Pur, ac Alberts, a I ^fodrwyau Aur Pur, ac Alberts, a 1i e$Aur..
TOWYN.
TOWYN. YMWELIAD OENIIADON. Yn ystod y dyddiau diweddaf, ymwelwyd a 111 yma gan y Parchn. T. Evans a Jones a'i wraig 0 India (perthynol i'r Bedyddwyr.) Cafwyd auerchiadau yn Gymraeg a Saesneg, nes yr oedd y rhai a wrandawent yn cael eu cynhesu a'u symbylu gan sel at y genhad aetli. Mae Mr. Evans wedi treulio 42 o flynyddoedd ar y rnaes cenliadol a Mr. Jones oddeutu 20 mlynedd. Ae y iiittc-nt yii dychwelyd yn ol—Mr. Evans mewn rhyw 2 fis, --i India bell i farw yna ei gladdu, ac adgyfodi yn y maes, lie y treuliodd ei fjTwyd mewn gwasauaeth i'w Dduw, trwy oleuo y paganiaid am dano, Pau yma nos Lun diweddaf, cyfarfu Mr. a Mrs. Jones, a Mrs. Roberts, gwraig y Parch. Mr. Huborts, cenliadwr ar Fryniau Cassia gyda'r M.C. Yr oedd Mr. a Mrs. Jones wedi bod yu aros yn eu ty yu Cassia flynyddau yn ol, a'r person cyntaf welsant yu y capel yn Towyn oedd Mrs, Roberts. Teimlwn yn llawen iawn ein bod wedi cael cyfleustra i glywed y tri. Cyfnfwji hi yn wledd ragorol. Y JIWBILI.—AVel, mae hyny drosodd bellacli; a gellir gofyu, yn n'gwyneb llawer o betliau gariwvd ymlaen ynglyn a hyn, 'I ba both y bu'r golled hon,' &c. BODDIA.D.-Dydd Sadwrn, yn yr ynadlys, cynhaiiwyd trengholiad ar gorpli William Williams, yr hwn a foddodd. yn yr afon Dysyni y noson flaenoiol. Tystiodd bachgen o'r enw Owen Owens, ei fod yn adnabod y trancedig, yr hwn oedd yn was fierlll yn Pthydygarnedd. Aeth y trancedig allan o'r ty gan ddwcyd ei fod yn myned i ymclrochi. Wedi gorpheu ei swper aetli y tyst i gyfeir- iad yr afon, pryd y gwelodd W illiams yn y dwir a'i wyneb odditano.—Dywedodd NViii. Vaughan a Thomas Davies, bacligen bychan o Bryncrug, eu bod ltwy yn pysgota ar y pryd, ac iddynt weled Williams yn boddi. Gwelsant Williams yn dyfod i'w cyfeiriad mewn cwch ar ben ei linn. Pan tua chan' llatli oddivvrtbynt, neidiodd y trancedig i'r dwfr. Gwnaetli ymdrech fel pe i acliub ei hun, ond diflanodd o'r golwg- mor gyflym fel nad oedd y cyfle lleiaf i'w acliub Dywedodd y trengliolydd fod y trancedig wedi bod yn gweithio'n galed ar hyd y dydd, ac newydd swpera. Rhaid ei fod yn boeth iawn. Dychwelwyd rlieithfarn o Foddiad damweiniol.'
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. YR YSGOL GAXOLILADDOL.—Dydd Gwenor, cynhaliwyd cyfarfod o'r Llywodraetliwyr Lleol, pryd y cymorwyd y gadair gan Mr. R. Kees. Y clerc a eglurodd er nad oedd ond digon i ffurlio quorum yn bresenol; eto y gallent fyned ymlaen a gorphen gyda contract adeiladu yr ysgol, gan eu bod wedi derbyn caniatad y Dirprwywyr Elusenol Yna daillenwyd y llythyr oddi wrth y Dir- prwywyr Elusenol yn amlygu eu cydsyniad a gosod y gwaith o adeiladu yr ysgol i Mr. Humphrey Jones, am y swm o 1,315p. Ehoddodd Mr. Humphrey Jones enwau Mri. Itieliard a John Jones fel sureties, y rhai a dderbyniwyd. Pasiwyd fod y gwaitli i'w gwblhau erbyu y 25ain o Mawrth; ac ar gynygiad Mr. W. M. Jones, pasiwyd fod yr adeilad i fod wedi ei ddi-ddosi proofed), erbyn y laf o Daehwedd. Pasiwyd fod y cytundeb i'w arwyddo, a'r gwaith i gael dechreu arno ar unwaith.
LLWYNGWRIL.
LLWYNGWRIL. Y JIWBILI.—Datlilwyd yr amgylchiad dyddorol uchod yn y lie hwn. Yr oedd trefniadau y dydd dan ofal pwyllgor, cad- eirydd pa un oedd Mr. Foulkes Jones, a Mr. W. Lloyd yn ysgrifenydd. Yn ystod y dydd, eisteddodd dros 300 o'r preswylwyr i wledd ragorol, parotoedig a rhoddedig gan Mr. a Mrs. Smitn, Manchester, y rhai sydd yn ymweled a'r lie hwn yn flynyddol er's 20 mlynedd. Anfonwyd gwledd i'r tai i'r hen a'r afiach. Yr oedd plant yr ysgolion yn flaenorol wedi cael en anrhegu (i Hanes tn Bywyd y Frenhines, ynghyd a Medals gan C, Mr. a Mrs. Cud worth, Hafod Arfor. Di- olchwyd i'r boneddigion a'r boneddigesau am eu haelfrydedd, pa rai a lusgwyd drwy y peatref gan nifer fawr o bobl ieuainc. Oafwyd diwrnod difyrus, yr hwn a ddiben- wyd gyda Bonfire, &c.
MEIFOD.
MEIFOD. GWYL YR OD YDDION.-Cyiihali odd Od- yddion Cyfrinfa Coedymaen, eu gwyl a'u gwledd flynyddol dydd Gwener. Gorym- deithiwyd drwy yr heolydd yua aed i'r Eglwys, lie y cafwyd gwasanaeth a phregeth gan y Parch. J. Wilym Jones. Ar ol hyn gorymdeithiwyd i King's Head Inn, i iwynhau ciniaw rhagorol oedd wedi ei barotoi gan Mr. a Mrs. Pierce. Mae y gyfrinfa hon mewn sefyllfa dda—gwerth y gymdeithas wedi cynyddu 65p. 18s. 5Ac. yn ystod y flwyddyn. Nifer yr aelodau yw 92.
ABERANGELL.
ABERANGELL. Y J IWBILI.-Dewiswycl Gorphenaf 3ydd fel y diwrnod mwyaf cy ileus i chwarelwyr yr "ardal i ddathlu yr amgylchiad hwn. Rhoddodd Mrs. St. George de i blant Aber- angell a Mallwyd dydd Mevcher, yn Cwm- llecoediog.
CEMMES.
CEMMES. Ofnid unwaith na fuasai dim yn cael ei wneyd yma er dathlu y Jiwbili, ond wythnos cyn yr amgylchiad, darfu i Miss Richards, y Eheithordy, alw pwyllgor o foneddigion ynghyd, a'r canlyniad fit i de rhagorol gael ei ddarparu ar gyfer yr holl drigolion—hen ac ieuane. Ehoddodd Mrs. Norton, Dolcorsllwyn, hefyd medal i bob un o'r plant. Ymneillduwyd ar ol y to i gae cyfagos, He y cynhaliwyd eliwareuou, &c. Ar ol hyn dychwelwyd tua'r ysgoldy dan ganu. Cafwyd anerchiad gan y Eheithior, a chafodd y plant eurafalau a theiseuau. Mwynhaodd pawb ei hun yn, dda iawn.
-LLANIDLOES.
LLANIDLOES. Y EFAIR.—Cynliali^A'd ffttir Mehefln, dydd 8adwrn. Ychydig oedd nifer yr anifeiliaid, a'r gwerthiaut yn araf, er am brisiau ycliydig yn uwch nag arfer. DIRWEST.—Cynlialiwyd cyfarfod dirwestol yn nghapel Old Hal], dydd Mercher diwedd- af, Parch. W. G. Jones yu y gadair. Oafwyd areitliiau gwresog a hyawdl gan Mri. Charles Benbow, David Hoes, y Parch. John Griffiths, a'r cadeirydd.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Y IJLYFHGELL.—Mae yn ymddangos y gwneir defnydd da o'r llyfrgell gyhoeddus yma, fel y prawf y ffaitii fod nifer. y llyfrau roddwyd allan yu ystod y pum' diwrnod diweddaf. yu 387. GWYL I'R GWEITHWYR.—Mae yn aifeiiad gan Mr. D. liloyd, adeiladydd, roddi gwyl i'w holl weithwyr. Cawsant Ityn eloni eto. Dydd Sadwrn aeth parti o honynt yn rliifo 60 mewn cerbydau i Hafod, lie yr oedd ciniaw a the l'hagorol wedi ei barotoi ar eu cyfer. DAMWEIXIAU.—Boreu dydd y Jiwbili, fel yr oedd dyn ieuane o'r enw Bevan, yn dyfod i lawr heibio y Terrace ar olwynfareh, aetli i wrtlidarawiad a cherbyd, niweidiwyd yr olwynfareh a'r cerbyd, ond ni dderbyniodd Bevan uiii-li-vw niwed.—Yr un diwrnod tiwv ddamwain gyda'r olwynfarch, derbyniodd merch ieuane sydd yn efrydu yma, niweidiau difrifol i'w braich.
ABERMAW.
ABERMAW. Dathlwyd dydd y Jiwbili yn y lie hwn trwy roddi ciniaw i'r oedranus a the i holl blant y dref. hoddwyd y blaenaf gan y boneddwr caredig Mr. J. A. Dorsett. Yu yr hwyr anfonwyd tanbeleni i fyny i'r ltwyr, nes gwneyd y dref yn fyw trwyddi draw. t) CYMAXFA. Pasiwyd yn nghynadledd flynyddol Cyfundeb Annibvnol Meirionydd, yr hon a gynluiliwyd yn Nhowyn, i gynal y gymanfa. bregetliu y flwyddyn nesaf yn yr Abermaw. CYNGOR DINESIG.- Y mae Mr. J. Adams, aelod o'r Cyngor hwn, wedi ei beuodi yn Surveyor am y cyflog o 70p, y flwyddyn. BAND OF HOPE.—Dydd LIun, ymwelodd holl aelodau y Band of Hope perthynol i'r eglwys Annibynol a T'ynygroes mewn cerbydau.
FRIOG.
FRIOG. GWASANAETH SAESNEG.—Pregetliodd y Pareh. D. Mauuel, B.A. (Eglwys Seisnig, Abermaw), y Sabbath diweddaf. Mae yma amryw Saeson, ac yn eu plith ddynion o gyfootli a dylallwad, a rhai o'r rhai hyny yu Ynmeillduwyr. Mae Cyfarfod Misol y Methodistiaid wedi cymeryd i fyny y mater o g'adw yma wasanaeth Saesneg rheolaidd.
CAERSWS.
CAERSWS. Y JIWBILI.—Nid oedd y pentref hwn yn 01 mewn dangos ei deyrngarwch a'i lawen- ychiad ar y dyddiad iicliocl. Addurnid y lie a baneri, &c., a pliarotowyd gwledd i bawb gan Mr. Davies, I'las Dinam. Ymunodd pobi Llanwnog gyda ni yma, a chynhaliwyd chwareuon, &-c., mewn cao- lianer y ffordd rhwng y ddau le. Treuliwyd diwrnod hap us.
DAROWEN.
DAROWEN. Y JIWBILI. — Cafodd plant yngliyd a rheolwyr yr ysgol, a hen bobl y phvyf, Z) fwynliau eu hunaiu ddydd y Jiwbili, drwy gael gwledd o do a tlieisoiiati yi-i yr Ysgoldy. Yr oedd y lie wedi ei addurno yn biydferth, yn cynwys arwydd-ciriau ptriodol i'r am- gylchiad, megis Duw gad wo'r Frenhines,' &c. Ar ol y te, canodd y plant amryw ganeuon, a'r Anthem Genedlaethol. Cafwyd ar ol hyn, chwareuon a chystadleuaetliau mewn cae cyfagos. Treuliwyd diwrnod a hir gofir gan y plant yn ddiameu.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. LLYS YR YNADON.—Dydd Mawrth, o flaen Dr. E. Jones (cadeirydd), Dr. J, E. Jones, Francis Evans, R. Wynne Williams, H. Edwards, a J. M. Jones, yr Heddgeidwad Davies, Dinas, a brofodd ddarfod i David Jones, Felingraig, Dinas, fod \Tu feddw yn zn zn y Dinas, tra mewn gofal o geffyl. Dirwy- wyd ef i 10s. a'r costau.—Yrr un swyddog hefyd a erlynai Rees Eoberts, gwas Clifie Farm, am yr 1111 trosedd. Cadarnhaw3rd ei dystiolaeth gan yr Heddgeidwad Evans, a dirwywyd Roberts i 10s. a'r costau.—Yr Heddgeidwad Evans a dystiai ddarfod iddo weled Jane Williams, English Terrace, yn feddw ar yr lieol. Dirwywyd hi i 5s. a'r costau.—Lewis Evans, Upperfield Street, hefyd a erlynid gan yr Heddgeidwad Owens o fod yn feddw y Sabbath cynt. Dywedai Owens Illai yn camp y Militia yr oedd wedi cael diod. Dirwywyd ef i 5s. a'r costau, a gofynodd y cadeiiydd dros yr ynadon i'r prif heddgeidwad lysbysu awdurdodau 37 gwersyll fod yn ofidus am yr hyn gymerasai le. Dywedodd Major Best iddo fod yn siarad it hwy, ac yr oedd wedi cael sicrwydd na ddigwyddai hyn eto. John Rowlands hefyd a ddirwywyd i'r un swm am yr un trosedd.—Y Ehingyll Breeze a gyliuddai Griffith Roberts, paeutiwr, o ddefnyddio iaith anweddus mewn adeilad perthynol i'r Angel Hotel. Yr oedd y Rhingyll wedi cael ei godi rhwng un a dau yn y boreu, a chafodd y cyhuddedig a'i fercli a'i wyres yno. Dirwywyd ef i Is. am bob gair.- Dygwyd cyhuddiad eyffelyb yn erbyn J. Gallagher gan yr Arolyg'ydd Jones, a dirwywyd yntau i'r un faint am bob 11 w.— Griffith Williams, Caetanws, a er]ynid gan yr Arolygydd Jones o ollwng amryw ergydion o lawddryll ar y Marian, yn nghanol pobl a phlant dclydd y Jiwbili. Dirwywyd ef i 5s. a'r costau.—Arthur Bryan a ddirwywyd i'r un swm am saethu ar y ffordd o dan Garthangliarad. Profwyd yr achos gan Mri. Daniel Jones, Cefncoed, ac E. Jones, Cratlwyn.—Dirwywyd David Roberts, Lawnt, i 5s., am esgeuluso anfon ei blentyn i'r ysgol.
z5 ABERGYNOLWYN.
z5 ABERGYNOLWYN. Tipyn yn fflat a digalon mewn mwy nag un ystyr fu dydd y Jiwbili yn y lie uchod. Yn un peth, nid oedd yma ddim mewn ffordd o wledd na chwareu. Hynod gartrefol fu pawb, ond yr oedd yma reswm dros yr olaf, trwy i amgylch- iad pruddaidd gymeryd lie nos Sadwrn. Cyf- eirio yr ydym at farwolaeth un o blant yr Aber, sef Mr. David J. Williams, Pandy Square. Tarawyd ef i lawr gan hen elyn dynoliaeth, pan oedd efe eto ond deugain rnlwydd oed, a phriodol iawn yw cyruhwyso ato, Ei haul a fachludodd a hi eto yn ddydd,' ei nerth yn ddiau a fyrhawyd ar y ffordd. Dyn ieuanc, i bob ymddangosiad, a or-oesai ei gyfoedion ydoedd. Meddai gorph cryf ac iach, ond ciliodd fel cysgod o dan yr enynfa. Yn ei farwolaeth, collwyd cyfaill ffyddlon a chy- mydog caredig. Yr oedd yn hawdd darllen ar bob grudd fod yr ergyd yn un drom. Dangos- wyd liyny yn ddigamsyniot prydnawn dydd Mercher, pan yr ymg-asgladd y lluaws at ei breswylfod, i dalu iddo y gymwynas olaf. Pan yn dwyn yr arch 0'1 ty, gellid gweled llawer grudd wedi ei gwlychu gan ddwysder teimlad am ei golli yn yr angau. Gadawodd wraig a phedwar o blant mewn trallod a galar arbenig, a pha rai y mae cydymdeimlad cyffredinol yr ardal, ynghyd a'i dad a'i fam, sydd erbyn hyn yn tynu i oriwaered bywyd, sef John a Sarah Williams, Tanybryn, a lluaws o gysylltiadau pellach. Tad yr amddifaid a barnwr y gweddwon fyddo'n llon'd ei gymeriad i'r naill a'r llall. Gwasanaethwyd wrth y ty, yn y capel, a glan y bedd, gan y Parchn. R. W. Jones (M.C.), Towyn, a W. Davies (A.), Abergyn- olwyn.
LLANGADFAN.
LLANGADFAN. Datlilwyd y Jiwbili yn y lie hwn yn y dull cyffredin, dydd Mawrth, drwy roddi to i,r plant, a chynal chwareuon ar gae cyfagos. Mwynhaodd y plant ou- liunain yn fawr, yn enwedig gyda'r te.
HEN LONG NELSON.
HEN LONG NELSON. Ymddengys fod hen long ryfel Arglwydd z7 Nelson, y ':Fondl'oyallt;' wedi myned yn ddrylliau man yn Blackpool. Prynwyd hi v yn ddiweddar, a gwariwyd 20,000p. ami er gwneyd aiddangosiad o honi. Yr oedd yn llawn can' mlwydd oed.
ANRHEGION.
ANRHEGION. Gan W. W., Dolgellau, mae Stoc Eagorol 0 Watches Aur Arddercliog, Clociau a Jewellery (ac eiddo eraill mewn Aur ac Arian) cyfaddas tel, Anrhegion a Testimonials
PLESERDAITH 0 BENNAL I GIANDYFI…
PLESERDAITH 0 BENNAL I GIANDYFI JUNCTION AR FOREU 0 HAF. Croesaw Croesaw foreu heulog". Y mae swyn anghydmarol yn dy drem, oll-ddwyfol. Mae dy wybren yn glir, a cheinder dihafal yn ymdoni at dy eangder glasliw Perorir dy awyrgylch a chin y mil myrdd adar, pob un yn ymgystadlu mewn talu gwarogaeth i'r Crewr doeth, a'u Cynhalydd gofalus. Ymhyfrydaf finau mewn rhodio hyd lwybr maboed, llwybr ac yr eneiniais ei flodeu a'i laswellt, A gwlith edmygedd, wedi ymgolli mewn perlewyg, wrth foddhau fy hun mewn cywreinrwydd plentynaidd, wrth ganfod 61 bysedd yr Hwn a'u lluniodd, ac a'u prydferth- odd, fel nas gall neb arall wneyd yn gyffelyb Wrth basio heibio yr lien Gil),n Calch,' ni welir ond prin olion y man lie bu, ond os ydyw ei ogoniant wedi methu byw, ac aros yn nhrwst angladd canrif a mwy, ar ei hymdaith i anghofrwydd, er hyny sieryd ei wedd henafol eto dan draed dadfeiliad maluriedig oesau Cymru Fu. Os distawrwydd mudanol i eistedd ar ei orsedd yma lieddyw, y mae cyfnod wedi bod, pan yr oedd twrw morthwyl a rhaw y calchwyr yn wefr ar glust y fro. Gwelid yr amaethwyr gyda'u meirch a'u troliau yn dwyn eu nwyddau gwerthfawr i gyfoethogi meusydd y wlad ar lawer ystyr gellir dweyd ei fod wedi bod yn cynyrchu bri ac enw i Bennal am ami i oes. Gyferbyn a ni ar yr aswy cyfyd Cefncaer ei furiau trwchus i ddynodi man yr hen gastell, yn yr hwn y bu Owain Glyndwr a'i wyr gynt yn rhaiadru cawedydd o dan a difrod ar y gelyn, ac y mae hanes yn rhoddi goleuni i ni i edrych yn ol dros ysgwyddau canrifoedd ar frwydr Pennal,' yn yr hon y collwyd gwaed uid ychydig, ac y cwympodd dewrion o bob ochr. Ond och i ba beth yr aflonyddaf ar dawelwch yr hen oesau, a minau ar fy mhleserdaith hyd y fangre ddyddorol. Hunwch wroniaid glewion yn ninodedd eich beddau anhysbys af finau o gam i gam yn mraich mwynhad hyd y rhedfa ag y bum' yn ei dramwy dro ar ol tro. Cerddwn yn nilaen yn araf trwy Bont-y-brwyn ac hyd Frwyn-y-Gelli islaw. Ar y dde, gwelir Talgarth Hall yn codi ei ben trwy ddellt y coedwigoedd cysgodfawr. Medd y palasdy hwn hefyd ei hanes-yma y bu yr hen foneddwr Cadben Thruston a'i fab wedi hyny (yntau yn Gadben), yn teyrnasu mewn rhwysg; end diwedd eu hanes hwy fel eraill, ydyw, hwy a fuont feirw. Bu marwolaeth y naill a'r llall yn ergyd ac yn golled i Pennal a'r gymydogaeth. Trigianir y palas yn awr gan foneddwr a boneddiges ag sydd yn mhob ystyr yn llon'd yr enw. Er mai estroniaid o genedl ydynt, meddant gydymdeimlad a'rtlawd, adangosant eu cymwynasgarwch mewn gair a gweithred. Cyn i aden coedwig y Wern gau rhyngom a phentref Pennal, a phan y mae ein traed ar wyneb gwyrddlas Brwyn-y-gelli, cymerwn hamdden i droi i edrych ar yr olygfa sydd yn gyfuniad perffaith o arddunedd. Dacw Daran y Rhosfarch yn ymgodi yn rhamantus i oror las y ffurfafen sydd fel mor o wydr uwchben, a'r deadelloedd defaid yn wynion yn pori mewn difyrwch ar ei llethrau tawel. Llama y bugail fel yr hydd hyd ei mynwes lydan, a chlywir ei lais ar yr awel yn gorchymyn ei gwn gwisgi ac ufudd i waith. Teimlwn fod yr olygfa yn herio desgrifiad. Awn yn mlaen bellach wedi tremio ya fyfyrgar ar y mynydd-dir, i gyfeiriad Glandyfi Junction. Yina eto egyr natur ei llyfr mawr ger ein bron, gan ein cymell i ddarllen ei phenodau amrywiol a dyddorus yn ngwawl y dydd. O y cyfaredd llesmeiriol sydd yn taflu ton gref ei dylanwad drosom. Hefyd daw awelon mwynion y mor i sirioli iechyd, ac i rosynu y gruddiau, ac y mae pob creadur—yn ddyn ac anifail yn ymloni mewn boddineb. Ac i ychwanegu at y ddrama, dacw y gerbydres yn brys-deithio ar ei llwybr arferol. Brysiwn ninau yn mlaen a thres y bont, ac wele ni ar lwyian gorsaf Glandyfi Junction, yn nghanol prysurdeb teithwyr yn newid o'r naill garbydres i'r llall—rhai am Aberystwyth, eraill am Aberdyfi, Towyn, Abermaw. Wedi y blesardaith hyfryd hon, teimlwn awydd i ofyn i ni ein hunain beth a welsom ? Gwsom lawer yn wrthddrychol ac yn faterol, ond beth a welsom ? Yn ddibetrus gallwn ateb gyda sicrwydd diamheuol i ni weled Duw natur. Teimlwn fod Awdwr y fan yn edrych arnom trwy lygad pob blodeuyn. Am hyny plygwn ac addolwn Ef. Efe hefyd yw Duw ac Awdwr pob gras.—CASWALLON.