Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
^eintcm px Jlwert.' .0: -:0:-
^eintcm px Jlwert. .0: -:0:- RHAN 0 FOLAWD NATUR. GAN DEWI WYN. O'r creigiau, mewn parthau pur, Ymdreiglaw mae dwr eglur,— Elfen deneu, ysplenydd, Lyfndeg, yn rhedeg yn rhydd, Rinweddol, olesol, lan, Loeyw, oeraidd, o liw arian. Uchelgadr, raiadr, dwr ewyn,—hydrwyllt,— Edrych arno'n disgyn Crochwaedd y rhedlif crychwyn, Synu, pensyfrdanu dyn O'i ffynonau goleu, gant, Y ffrydiau hoff a redant,— Dylifedd yn dolefain, Lie chwery pysg yn mysg- main Yr afonydd drwy faenor Yn dwys ymarllwys i'r mor Grisial ar y gro iesin,— ]-)rych y ser--dwr laclius in'
CENFIGEN A'l FFRWYTHAU.
CENFIGEN A'l FFRWYTHAU. GAN DR. D. REES, BRONANT. Mae y mater yma braidd yn anghys- urus i ddweyd arno, am ei fod yn un drwg, ac yn dwyn perthynas a ni ddynion. Nid yn am] y mae dynion yn hoffi clywed am eu drwg, eithr hoffant gael eu canmol. Cam a dyn yw ei ganmol ac yntau yn byvv yn ei ddrwg. Ei ar- gyheeddi o'i ddrwg sydd oreu, ac fe fyddai hyny yn fendith iddo. Daeth cenfigen i'r byd yn foreu iawn, pan oedd dim and pedwar o ddynion ynddo, sef tad a mam a dau frawd. Yr oedd hi yn y pechod cyntaf, ac y mae hi yn fyw o hyd. Yn Cain y daeth i'r golwg gyntaf, yr hwn o genfigen a laddodd Abel ei frawd. Yn awr, mae yn naturiol gofyn beth yw cenfigen? Mewn gair dyna yw, dyn yn digio ac yn cashau dyn avail wrth weled ei lwyddiant, mewn rhyw gyfeiriad fydd yn ei ddyrchafu. Mae Uygaid cenfigen mor ddolurus fel na allant edrych ar bethau da a disglaer mewn eraill. Yn ddirgel y dechreua yn y meddwl,—meddwl yn ddrwg am arall, nes tyfa yn genfigen atgas. Mae dynion balch, uchel eu meddw], yn barod i genfigenu wrth rai- sydd yn llwyddo mewn daioni, a dyma fel y siaradant A wyddoch chwi pwy yw ei dad a'i fam ? Mab Twm a Beti fach Tyrhos yw ef; a beth mae hwna yn siarad?' Gwyliwn rhag iselu ein gilydd fel yna er dim. Gellir dweyd mai y ffrwyth chwerwaf sydd yn tyfu, ar bechod yw cenfigen. Hylif dinystriol sydd yn ei genau, gwaed drwg sydd yn ei chalon, a gwythienau cenfigen sydd ddu fel y gloyn. Ceiif-igen iiieibion Jacob barodd iddynt werthu eu brawd Joseph a meddwl am ei ladd; cenfigen Herod barodd iddo ladd plant Beth- lehem cenfigen Haman barodd iddo godi crogbren, a cholli ei fywyd ei hunan arni; cenfigen gynlluniodd dafiu Daniel i ffau y llewod, a'r Iri Llanc i'r ffwrn dan. Mae cen- figen yn llosgi yn ei dan ei hun. Cenfigen a bydra yr esgyrn. Mae yn rhaid ei bod yn gryf, oherwydd esgyrn dyn yw ei nerth Pan mae dyn yn cenfigenu wrth weled llwyddiant dyn arall, mae afiechyd fel cancr yn ei esgyrn yn difa y meddwl, yn poeni ei hunan nes colli ei nerth at yr hyn sydd dda, fel pydrni yn ei esgyrn. (I larhm.)
DINAS MAWDDWY.
DINAS MAWDDWY. WKSLEYASTII.—Yn y Cyfaifod Dosbarth yn Porthmadog, pasiwyd i wahanu Diuas Mawddwy oddiwrth gylchdaith Towyn. Felly fe fydd gweinidog yn cael ei nodi ar y Ile o hyn allau. GWYL A GWLEDD. —. Dydd Sadwrn, rhoddodd y Mri. Bullock Bros., wyl, a thai am y diwrnod, ynghyd a cliiniaw rhagorol i'w holl weithwyr yn chwarel Minllyn. Cynygiodd Mr. J. H. Bullock lwnc-destyn 'lechyd ei Mawrhydi.' (Pasiwyd i anfon brysneges longyfarehiadol i'r Freniiines, a derbyniwyd cydnabyddiaeth o'i derbyniad o Buckingham Palace dydd Llun.) Cafodd y plant hefyd wledd, yn ogystal a medals, a ehawsant dynu eu llun yn y diwedd. Yn yr hvryr cafwyd cyngerdd, a Majic Lantern o dan ofal Mr. Pierce, Machynlleth.
LLANBADARN FAWR.
LLANBADARN FAWR. BWRDD YSGOL.—Cynhaliwyd yr uchod I dydd Mercher. Parch. Eben Jones yn y gadair.—Darllenwyd rliestr o'r plant oedd yn feius mewn esgeuluso yr Ysgol a cliyfarwyddwyd y Swyddog Gorfodol i aIw, g'ydag amryw o'r rhieni. Darllenwyd llythyr o'r Public Loans Board yn amgau gweithred y mortgage, ynghyd a hawl i fenthyeiad 797p tuag at adeiladu ysgoldy newydd. Arwyddwyd y papyrau.
UNDEB MACHYNLLETH.
UNDEB MACHYNLLETH. BWRDD Y GWARCIIEIDWAID. Dydd Marcher, Mr. Ellis Hughes yn y gadair. ADRODDIAD MEISTR Y TLOTY.—Cynwysai hwn fod 43 o dlodion yn y Ty ar gyfer 37 yr un cyfnod flwyddyn flaenorol. Cynorth- wywyd 44 ognvydriaid, a bod dyn ieuanc o'r enw William J. Evans wedi cael ei dderbyn i mown, oherwydd iddo gyfarfod a damwain yn y gwaith dwfr. GWELLIAXTATT YN Y TY.—Darllenwyd gohebiaeth o Fwrdd Llywodraeth Leol, yn gofyn am gael gwybod pa faint oedd swm y gost o wnoyd yr uchod; ac yn hysbysu y gollid styn amser ad-dalu am 25 mlynedd. Penderfynwyd anfon y mauylion, a gofyn i'r cymerwr roddi securities. GWASTRAEE AR FWYD.—Darllenwyd go- hebiaeth o Undeb Colchester, yn gofyn i'r Bwrdd hwn gofnogi cynygiad o'u heiddo h wy, yn ffafr cael cynllun newydd i roddi bwyd allan—fod yr un presenol ya peri fod llawer o Ni-astraff ar fwyd. Y clerc a ddy- wedai en bod hwy fel Bwrdd wedi aufon at y Bwrdd ucliaf ar y mater, ond heb gael atebiad o gwbl. GALWADAU.—Y clero a ddywedai fod plwyfi Isygareg, Uwcliygareg, a Caereiuion- 1 by fechan, mewn dyled, heb dalu y galwadau i mewn. Pasiwyd i gymeryd cwrs cyfroithiol oni thelir yr arian yn ddi-oedi. GWERTHU EIDDO.—Mr. John Watkiu a goclodd i sylw y cwestiwn o werthu eiddo un a dderbyniai gy north wy plwyfol yn Bout, LIan brynmair, yr hwn a alwai ef yn ar- werthiant afreolaidd. Yr oedd y dodrefn wedi eu gwerthu am 4p. 10s., tra yr oedd ef ei huu yn barod i roddi lOp. am danynt. Yr oedd arno ef eisiau cael y dodrefn yu ol a'u hail werthu eto. Yr oedd y Bwrdd yn credu yn wahanol iddo, ac awgrymwyd fsymud at faterion eraill.—Mr Watkiu Dywedwyd wrthyf lawer g-waith mai lot ddiog oedd y Bwrdd, yn gWIleyd dim byd; yn awr, yr wyf yn cael fy argyhoeddi mai swp pydredig (rotten lot) ydyw. Y Cad- eirydd Gadawor i ni fyned at fater arall. Yr is-gadeirydd a ddywedodd pan oedd Mr. Watkin yn dyfod yn aelod gyntaf o'r Bwrdd, y tybient ei fod yn myned i wneyd pethau mawr, ond nid oedd ef yn gallu gweled ei fod wedi gwueyd dim mwy na'i ragflaenydd os eymaint. Gadawyd i'r mater syrthio.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. DAMWAIN.—Cyfarfyddodd Win. Edwards, mab Mr. E. Edwards, plastrwr, a damwain boreu ddydd Gwener. Yr oedd yn gweithio ar ben y rhan newydd o'r Waterloo Hotel, pryd y cwympodd bride gan ei daraw yn ei ben. Oafwyd of mewn sefyllfa anymwy- bodol. Deallwn ei fod yn gwella yn dda dan ofal Dr. A. Thomas. YSGOLOHIAETII Llwyddodd Mr. W. Jenkyn Jones (yn awr yn Ngholeg Caius, Z2 ID Oaorgrawnt), Dole, Penygarn, gynt efrydydd yn Ngholeg Aberystwyth, i enill ysgolor- iaeth gydag anrhydedd yn yr arholiad di- weddar mewn philosophi. OAHDoTA-Dydd Sadwrn, yn Ilys yr hedd- geidwaid, cyhuddwyd Humphrey Ellis, Dol- gellau, 0 gardota. Ilhwymwyd of yn y swm o 2p. i ddyfod i fyny am ddedfryd pan y y gelwir arno.
CYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION.-
CYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION. Cynhaliwyd y Gymanfa flynyddol dyddiau lau a Gwener, yn Towyn. Darllenwyd yr ystadegau am y Sir. Aelodau 5,212; gwrandawyr 10,206; deiliaid yn yr Ysgol Sul 6,423; eisteddleoedd 16,393; casgliadau 5,621p. os. 8c.; dyledion capelau 9,797p. 3s. 6c.; talwyd o'r ddyled 1,751 p. lis. 3e. Dangosai yr adroddiad ychwanegiad yn holl ranau y gwaith. Y cwrdd cliwarterol ciesaf i'w g'ynal yn Corris, a'r Gymanfa flynyddol yn Abermaw. Derbyniwyd dau ddyn ieuanc i'r weinidogaeth—Mr. R. Evans, Diuas, a Mr. G. Jones, Brynbowydd. Peuderfynwyd i'r Undeb gasglu 900p. tuag at yr 20,000p. a fwriedir i sefydlu y Symudiad Ymdrech- ol.' Ynglyn a hyn, pasiwyd i anog pwyllgor y gronfa i oedi ffuriio rheolau penodol nes yr addfedir barn y cylioodd ar y mater. Casglwyd at y lleoedd gweiniaid 76p 28. 8e. Pasiwyd penderfyniad yn llongyfarcli y Freniiines ar ei theyrnasiad nodedig yn ei hyd, a'r manteision a dderbyniwyd dani. Pregethwyd gan y Parclin. Elvet Lewis, Thomas, Glandwr;* Davies, Treleoh; a Towyn Jones, Cwmaman. Daeth eyilull- iadau mawr ynghyd, y rhai a gynhaliwyd yn y Neuadd Gyhoeddus, o herwydd i'r hin ai-iffafi-iol atal eu cynal ar y maes.
[No title]
Mae bellach yn adnabyddus trwy y Sir, mae un o'r lleoedd goreu yn Nghymru, am Watch dda, Aur neu Arian, yw Masnachdy W. W., Dolgellau. Yno hefyd ceir lie rhagorol i ddewis, Modrwyau Aur Pur, ac Alberts, a Brooches Aur,
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. A,IoilwltlAF.Tlf.-I)a genym ddeall fod Mr. n. Pritchard, mab y diwoddar Mr LI. Pritchard, gorsaf feistr, wedi pasio yu llwyddianus arholiad o dan y Bwrdd Masnach, yn rhoddi hawl iddo weithredu fel second mate. ANRHEG i FRODOR.-Yn Llauarthney, y dydd o'r blaeu, cyflwynwyd pwrs o aur, ynghyd ag anercliiad liardd i Dr. Eobort Jones o'r drefrhon, ar ei ymadawiad iFlliut. Mab ydyw Dr. Jones i'r diweddar Eowland Jones, clerc y pi wyf. DAHWAIN. Dydd Mercher, cymerodd damwain le yn yr Hurst Mine, Gaullwyd, drwy i bylor Ifrwydro, ac achosi cryn niwed i un Ellis Jones. Mae y dyn anffodusmewn sefyllfa lied beryglus. Mae dan ofallllolld- ygol y Dr. H. Jones, Caerffynou. Y iVILITIA.-M, ae y 3rd Battalion, R.W.F., wedi dyfod yma i fyned Ilrwy eu liymarfer- iadau blynyddol. Ehifant oddeutu pedwar cant.
ABERDYFI.
ABERDYFI. Y GWAITH DWFR.—Mae Mri. Harrison a'i Gwmni, Abertawe, wedi dechreu ar y gwaith o wneyd cronfa newydd o ddwfr gor Bwlchgwyn, yn ymyl fferm Tynewydd. 0 Y CYRUNDEB WESLEYAIDD.—Yr yr arhol- ittd Cyfundebol ar y Galatiaid (arholwr Parch. O. Evans, Lerpwl), daeth y rhai canlynol o'r Dosbarth hwn allan yii Ilwydd- anus (marciau posibl 250),—G. R. Edwards. Abergynolwyn, 192 E. L. Rowlauds, Aberdyli, 192 Owen Pug'h, Llwyngwril, 180. Bu Mr. E. L. Eowlands a M- iss M. J. Owen, Aberdyfi, yn llwyddianus hefyd yn arholiad y Dosbarth. CYFAREOD DIRWESTOL.—Cynhaliwyd nos Sul, Mr. W. D. Evans yn y gadair. Siarad- wyd ynddo gan y Parch. M. RoboIts, Bontddu, a Mr. E. L. Eowlands a chafwyd can gan Mrs. Wheldou, aelod o'r Cor Merched Cymreig sydd ar ymweliad a'n trof. Y LITERARY INSTITUTE.—Drwy offerynol. iaeth Mr. Gwilym Williams, Llyfrwerthydd, adeiledir math o Veranda o flaen y sefydliad uchod. Tolir costau ei adeiladu oil gan Mr. Corbett, Ynysmaengwyn. Mae y gwaith o'i wneyd wedi ei osod i Mr. W. Jonas Hughes.
iCYNGOR SIROL MALDWYN.
CYNGOR SIROL MALDWYN. Cynhaliwyd yn Trail win, dydd Gwener, Mr. Humphreys-Owen, A.S., yn yLgadair. Y JIWBILI.—Pasiwyd pleidlais o gyd- lawrenychiad ar Jiwbili, o 60ain uilynedd 0 deyrnasiad y Frenhiues, a bod anercliiad yn cael ei gyflwyno oddiwrth y Cyngor i'w Mawrhydi. MESrJR TIR CYMREIG.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Gyngor Sirol Mynwy, yn anog y Cyngor i basio pleidlais o gymeradwyaeth o adroddiad y Ddirprwyaeth Dirol G-ymreig. Cynygiwyd hyn gan Mr. R. Lloyd, a clief- nogwyd gan Mr. Theodore. Gwrtliwyneb- wyd y cynygiad, a rhoddwyd y mater i bleidlais. Dros ei adael ar y Bwrdd 16, dros y cynygiad gwreiddiol 10. ARE-BAIS GYMREIG.— Ar auogasth Cyngor Trefol Caerdydd, pasiwyd penderfyniad o blaid rhoddi ari-bais Gymreig ar yr un BrenhinQl, fel sydd gan y tair rhan arall o'r deyrnas. Yr un tebygol i'w rhoddi os caniateir ydyw eiddo Llywelyn ab Gruffydd. RHEILFFORDD DYEFRYN TANAT.—Cynyg- iwyd fod y Cyngor i gynorthwyo gwneuthur- ZD y iad reilffordd o gyfeiriad Llynolys i Langynog i'r swm 0 5,000p. Ar ol maith drafodaeth pasiwyd rhoddi 2,500p. os gwrthoda y Dirprwywyr gymeradwyo llinell rhwng Llanfyllin a Llangynog.
AMRYWION.
AMRYWION. Mr. W. H. Austin-Vmneillduwr ac Anni- bynwr—yw y Senior Wrangler am y flwyddyn hon. Er 1860 enillwyd yr anrhyde Id hwn gan 20 o Ymneillduwyr allan o 38. Meddai Gwyddel arabus 'Cyhyd a6" y byddo llais yr Iwerddon orthrymedig yn fud, bydd dust dosturiol Lloegr yn fyddar iddo.' Nid yw agoriad yr anhawsder Gwycldelig yw gael yn mhoced wag y tirfeddianwr.' Daeth cais oddiwrth Gyngor Sirol Mynwy, yn galw am gydsyniad Cyngor Sirol Maldwyn, i gymeradwyaeth o adroddiad y Ddirprwyaeth Dirol Gymreig, ar yr hwn y seiliwyd y Mesur Tir a ddygwyd yn ddiweddar i'r Senedd. Ond gwrthodwyd y cydsyniad! Pa le yr oedd y Rhyddfrydwyr ? Hynodrwydd a berthyn i Gymdeithasfa y M.C. yn Mhont Menai, a gynhaliwyd yr wythnos ddiweddaf, oedd fod tri o'r gweinid- ogion a gymerai ran yn ngwasanaeth yr Ordeiniad wedi eu magu, ac un wedi byw ac aros am dymor yn ardal Corris, y rhai ydynt— y Llywydd, y Parchn. Evan Jones, Caernarfen, Griffith Ellis, Bootle, John Roberts, Cenhadwr, a John Owen, Wyddgrug. Am y waith gyntaf, perfformiwyd drama o'r ffugchwedl Rhys Lewis,' yn y Brifddinas. Yr oedd St. George's Hall wedi ei orlenwi gan gynulleidfa a ddilynodd yr hanes gyda dyddordeb. Yr oedd y gwaith wedi ei gyfaddasu gan Mr. R. Lloyd Jones. Bala, yr hwn gydag eraill o'r un dref a actiodd y gwahanol gymeriadau. Yr oedd yr elw tuag at roddi gwyl i dlodion Cymreig Llundain i'r wlad yn ystod yr haf, ac er coffa am y Jiwbili. Hysbysir mai y trychineb diweddar cedd y ddamwain angeuol gyntaf gymeredd Ie ar unrhyw deithwyr ar Linell y Cambrian er pan ei hagorwyd, dros 35ain mlynedd yn ol. Cymerodd maiwolaethau le droion i'r gweithwyr gyda'u goruchwylion, ac i rai a drespasent ar y llinell. Mae swyddogion y Cwmni yn priodoli y ddamwain i gerbyd Cwmni Lancashire a Yorkshire, yr hwn oedd yn llawer ysgafnach nag eiddo y Cambrian, ac t) hen wneuthuriad. Yr oedd wedi ei osod yn nesaf i'r ddau beiriant trwm a yrai y tren, yn lie yn y pen ol, a theimlwyd ei fod yn rhedeg yn fwy garw a chrynedig na'r lleill o'r cerbydau. Bu farw Benjamin F. Lewis, uno olygyddion y Drych, ar y 3ydd cyfisol, o ergyd o'r parlys mud, drwy yr hyn y graddol suddodd ar ol rhai wythnosau o gystudd, yn 65ain mlwydd oed, gan adael gweddw a naw o blant i alaru ar ei ol. Brodor o Lanidloes ydoedd, He y bu yn gweithio yn y melinau gwlan. Ymfudodd i America yn 1848 Dysgodd yr alwedigaeth o argraphu. Ysgrifenodd lawer i newyddiad- uron a chylchgronau Cymreig a Seisnig yn y America. Gwasanaethodd 27aiii mlynedd ar yr Utica Herald, ac yr oedd yn gyd-olygydd ar y Drych er 1892. Bu o wasanaeth mawr i fywyd Cymreig'yn Utica, a thrwy y Taleithiau. Y mae ei farwolaeth yn golled genedlaethol. Yn Ngliyngor Sirol Maldwyn, ar gynygiad i gyfranu swm tuag at wneuthuriad reilffordd ysgafn i Langynog, rhoddwyd cyfrif o'r drafnidiaeth ar reilffordd gyffelyb, sef Reilffordd Corris, am y flwyddyn 1895. Y treuliadau ydoedd 2,96/p., n«u 269p. y filldir, a'r derbyn- iadau yn 4,045p., neu 36/p. y filldir. Nifer y teithwyr a gariwyd 79,000, llechi, &c., 16,000 tunell, ac eiddo 2,(11 tunell. Talwyd llog o bum' punt y cant yn 1895. Anogid gwneyd reilffordd gyffeiyb 0 Lanfyllin i ardal chwarel- yddol Llangynog. Hyd llinell Corris yw deg milldir, a'r pellder 0 Llanfyllin i Langynog rhwng naw a deng milldir.
UNDEB YSGOLION ANNIBYNWYR…
UNDEB YSGOLION ANNIBYNWYR GOGLEDD CEREDIGION. (Pei r h a ti). Dosbarth dan 14 oed, Hanes Daniel. Bethel, Talybont—Denis Hughes, Stanley Morgan, Gwilym O. Davies, Arthur R. Nelson, D. A. Williams, Albert O. Nelson, Emma Beaumont, Austin Hughes, Howard Hughes, Ernest M. Williams, John M. Evans, Ethel Jones, Emrys Morgan, Idwal Morgan, Samuel Morgan, Maggie Thomas, John T. Edwards, David T. Morgan. Bethania David Ll. Lloyd, Isaac E. Lloyd, Kate A. Lloyd, Mgt. Jenkins, W. M. Humphreys, Sophia J. Owen, Sarah E. Owen, David H. Owen. Bethesda- Emma Evans. Baker Street-Cledwyn Mer- edith, D. M. Williams, Richard Jones, Mary M. Evans, Annie C. Meredith, Dora Hughes, Blodwen Davies, Margaretta Lloyd. Pen- maesglas—David Lewis, Rhys Pugh, D. J. Pugh, Edwin G. Jones, Emrys Evans, John O. Roberts, Harry Davies, Thomas H. Pugh, Polly Jones, Eleanor Simon, Esther M. Davies. Clarach—John M. Edwards, Thomas Rees Davies, Evan M. Jones, Annie M. Edwards, Lilian M. Edwards. Bortli-jane H Jones, John L. Morgan. Beulah—William H. Lloyd, James Lloyd, Annie Griffiths, Mary Griffiths, Susanah M. Williams, Margaret A. Davies. Comminscech—Lizzie Jones, Morgan Griffiths, William Griffiths, Jane E Jenkins, Mary D. Jones, Jane Griffiths Llanbadarn-David Jones, Humphrey Thomas, Ernest R. Davies, David E. Davies, Hugh M Pugh, William R. Thomas, Johnny Davies, Margaret A. Price, Elizabeth Hughes, Polly Pugh, Annie Jones, Helena Thomas, Margaret Jones, John M. Lloyd, David J. Pugh. Arholwyr-Mri. D. Williams, Talybont, H. Meredith, Aberystwyth, a'rParchn. J. Llewelyn, Borth, a D. C. Davies, Salem. Dosbarth dan 18 oed, Hanes Elias. Dos. blaenaf, Kate Davies, Bethel, Talybont (y wobr flaenaf), Rosamond Hughes, eto (yr ail wobr), Edward J. Owen, Bethania (y drydedd wobr), Gwesyn T. Williams, Talybont, Hannah M. Evans, Baker Street, Lydia Jones, eto, Ethel Jones, Talybont, Martha Jane Evans, Baker Street, Elizabeth M. James, Talybont, Mary E. Davies, Llanbadarn, Mgt A. Evans, Comminscoch, Mary Rees, Salem. Dosbarth II, John J. Nelson, Talybont, Blodwen Jones, Baker Street, Mary J. Morgan, Salem, John D. Morgan, eto, Letitia Jones, eto, Gwenny M. Lewis, eto, Mary A. Jenkins, Comminscoch. Miriam Davies, Penmaesglas, Eliz. Williann, Salem. Dosbarth III, John James, Talybont, James Davies, Penmaesglas, Mary E. Simon, eto. Arholwr Mr. Richard Morgan, C.M., Llanarmon. Dosbarth dros 18 oed, Mathew i-vii. Cyf- anrif y marciau 100 Elizabeth Jenkins, Bethesda (y wobr flaenaf), 85 Mgt. Jones, Baker Street (yr ail wobr), 82 Enoch Jones, Comminscoch, (y drydedd wobr), 78 John Davies, Baker Street. 68 Catherine Ann Evans, Bethesda, 67 Elizabeth Jones, Salem, 63 Llewelyn Samuel, Comminscoch 62 M. Jane Thomas, Salem, 55 Margaret A. Jones, eto, 46 Sophia Edwards, eto, 46 Sarah Davies, Baker Street, 43; Hugh Jenkins, Comminscoch, 31; Thomas Jenkins, eto, 30. Arholwr, y Parch. Lewis, Evans, B.A., Capel- y-wig. Cyflwynwyd y gwobrwyon i'r rhai blaenaf yn y Meusydd Llafur hyn, gan y Mri. Jones, Talybont, a Penry, Aberystwyth. Yn ych- wanegol at y Meusydd Llafur uchod, cyflwyn- wyd tysty&grifau i'r rhai llwyddianus yn nghyf- undrefn y Tonic Solffa. junior :-Salem- Ann Richards, M. J. Parry Thomas Williams, Benjamin A. Morris, Richard Williams, Myfanwy Rees, Richard Davies, Margaret E. Jones, josuah Jones, Margaret A. Morgan., Talybont—Hugh J. Davies. Elementary Salen-i-john D. Morgan, Claudia Morris, Elizabeth Williams. Comipseoch.- Jane E. Jenkin. ist Grade (Heii NodiaDt):SaleM- Mary J. Morgan, Jacob M. Jones, Jacob Meurig Jones, Jacob Davies, Mary E. Jones, Mary Rees, Elizabeth Williams, Morgan L. Morris. 2nd Grade (Hen Nodiant) :Salem- Azariah Jones, Sarah E. Jones, Letitia Jones, David Evans. Intermediate :—Talybont— Ernest M. Williams. Elementary Theery Comminscoch—Enoch Jones. Intermediate Theory: -Coiiiminscocli--Eiioch Jones. Arhol- wr, Afaon Alaw, A.C., Talybont. Dygai y Gymanfa eleni ol llafur mawr, oblegid yr oedd yn amlwg fod ffyddlondeb ac ymdrech diflind wedi cael ei ddanges gan yr athrawon aY athrawesau, mewn egwyddori y plant yn y Safonau mabwysiedig, am yr hyu y teimlai y pwyllgor trefniadol yn llawen, fel y bydd ynddynt oherwydd hyny, galon i ddarparu yn helaethach, ac addaw gwobrwyon lluosocach a mwy sylweddol atyr wyl nesaf. Cyfeiliwyd yn fedrus a deheuig wrth yr Organ, gan Aliss Nelson, Talybont, Miss Miles, Aberystwyth, a Mr. John D. Evans, Coleg y Brif Ysgol. Lluddiwyd Miss Ashton i fod yn bresenol oherwydd afiechyd ei thad, a theimlem ei lie yn wag iawn, gan mai un o'r ffyddloniaid ydyw hi gyda'r wyl hon. Croes- awid y Gymanfa gan gyfeillion Taiybont gyda breichiau agored, a gwnaed trefniadau helaeth ganddynt ar gyfer y dieithriaid mewn lluniaeth a chysur. Cytlawnodd yr arweinydd a'r arhol- wyr eu gwaith er boddlonrwydd cyffrediuel, a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch cynes i bawb fu a Haw amlwg ynglyn a'r Gymanta— yn neillduol felly i Mr. D. Jones, C.M., Taly- bont, am y drafterth a gymerwyd ganddo i fyned oddiamgylch i eglwysi y cylch i gynal rehearsals yn ystod tymor y gauaf, a'r Mri. Morgan, Llanarmon, a Evans y Wig, am arholi yn y gwahanol Safonau. Ymadawodd pawb gallem feddwl wedi ei lwyr foddhnu, a dymuniad yn ei galon ara gael cyffelyb Gymanfa yn Aberystwyth y flwyddyn nesaf. GOHEBYDD.
TOWYN.
TOWYN. BWRDD YSGOL TOWYN A PENNAL. Cynhaliwyd dydd Ma wrth diweddaf, Mr. E. Kowland yu y gadair. PRESENOLDEB YR Y SGOLION.-Cyfal'taledd y presenoldeb yn y gwahanol ysgolion oedd fel y canlyn :—Ysgol y Bwrdd Towyn, 102 Ysgol y Bwrdd Bryncrug, 119 3; Ysgol y Bwrdd Aberdyli, 123 Ysgol GsnedlaethoL Towyn, GO. Hysbysodd y Swyddog Gor- fodol i amryw gaol eu cosbi o herwydd esgeuluso anfon eu plant i'r ysgol. CANLYNIAD YR ARHOLIADAL\—Peuderfyn- wyd llongyfarcli y gwahanol brif atlirawou ar y modd llwyddianus yr oedd yr Ysgolion wedi pasio, yn arbenig felly Ysgolion Bryncrug a Pennal. YMDDISWYDDIAD.—Peuderfynwyd derbyn ymddiswyddiad Miss Williams, athrawes gynortliwyol yn Ysgol Pennal, ac i hysbys- ebu am un i gymeryd ei lie. AMUYWION. Goliiriwyd ystyriaetli o adroddiadau yr athrawon ynglyn ag addysg Feiblaidd hyd y cyfarfod lIesaf.-Pasi wyd i gymeradwyo rhestrau y cyllonwadau angen- rheidiol at wasauaeth y gwahanol ysgolion. —Cyfaiwyddwyd y Swyddog Gorfodol. i barotoi rhestr o'r plaut deillion yn y dosbarth.